YR HERIWR
Genedlaethol Cymru 2012
Papur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth
Dydd Mercher 8fed Awst 2012
Pennaeth Newydd
Y Coleg ger y Lli?
Yr Athro Aled Gruffydd Jones yw Pennaeth Newydd Adran y Gymraeg.
Henffych i’n Prifardd
Ailstrwythuro mawr Prifysgol Aberystwyth yn bygwth yr Hen Goleg?
tudalen 4
tudalen 3
Myfyriwr o Aber yn cipio Cadair Eisteddfod yr Urdd 2012.
tudalen 6
DAETH EIN HAMSER I HERIO
Myfyrwyr Aberystwyth yn lansio Papur Newydd Cymraeg!
Gair gan y Golygydd
Croeso i rifyn cyntaf Yr Heriwr, papur Cymraeg newydd sbon myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Yn y rhifyn hwn, cewch gipolwg ar yr hyn y byddwn yn ei gynhyrchu yn y rhifynnau i ddod; o newyddion diweddar a materion addysgol i chwaraeon a chymdeithasau’r Brifysgol. Ond cofiwch mai blas yn unig ar gyfer yr Eisteddfod yw hwn; bydd rhifynnau’r dyfodol yn llawer mwy swmpus a chynhwysfawr. Bu galw ers tro am gyhoeddiad sy’n darparu newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hyderwn y bydd sefydlu’r Heriwr yn gam pwysig tuag at lenwi’r bwlch hwn ac y bydd yn cyfrannu at sicrhau amlygrwydd i’r iaith o fewn cymuned y Brifysgol.
Menter newydd a chyffrous i fyfyrwyr y Brifysgol yw sefydlu’r papur newydd Cymraeg hwn, a bydd yn llwyfan i ddarparu newyddion ac erthyglau ar ystod eang o faterion i’r Brifysgol a thu hwnt. Ond nid cyfieithiad nac efelychiad o unrhyw gyhoeddiad Saesneg mohono. Yn hytrach, mae’n gyfle i fyfyrwyr eiddgar lunio erthyglau Cymraeg a Chymreig cyfoes sydd o ddiddordeb iddynt hwy ac i’n cynulleidfa. Trwy gyhoeddi’r Heriwr yn rheolaidd, ein gobaith yw darparu gwasanaeth hollbwysig i Gymry Cymraeg y Brifysgol, a thrwy hyn gyfleu ein hyder a’n brwdfrydedd dros yr iaith i gynulleidfa ehangach. Hoffwn ddiolch o galon i’r holl swyddogion, gohebwyr a’r golygyddion sydd wedi cyfrannu at y cyhoeddiad cyntaf hwn, ac edrychaf ymlaen at flwyddyn gyffrous o gydweithio gyda nhw. Gobeithiaf y bydd Yr Heriwr yn difyrru, yn hysbysu, yn ysbrydoli ac, yn bennaf oll, yn herio.
Elin Haf Gruffydd
CYFRANNWCH I’R HERIWR Er mwyn i’r fenter hon fod yn llwyddiant, rydym yn ddibynnol ar noddwyr a chyfraniadau gan ein darllenwyr. I gyfrannu at ddyfodol Yr Heriwr, E-bostiwch yrheriwr@gmail.com. Gwerthfawrogir pob cyfraniad, boed fawr neu fach.
Englyn o groeso i’r Heriwr
Daeth ein hamser i herio’r - dirywiad, a rhoi unwaith eto wreiddyn â dyfnder iddo i fywhau’r iaith yn y fro. Gruffudd Antur
YR HERIWR
Wrth groesawu rhifyn cyntaf papur newydd Cymraeg myfyrwyr y Brifysgol, mae’n bwysig cofio fod yma yn Aberystwyth draddodiad hir o gyhoeddi newyddiadurol radicalaidd a heriol. Roedd Llais y Lli, sef papur newydd y Cymry Cymraeg, yn offeryn beiddgar yn ystod blynyddoedd cythryblus y chwedegau a’r saithdegau a’r wythdegau pan oedd yn y coleg hwn fyfyrwyr a oedd yn flaenllaw ym mrwydr yr iaith. Roedd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith i sicrhau defnyddio enwau Cymraeg ar arwyddion ffyrdd, a sianel deledu Gymraeg, a Deddf Iaith newydd, yn cael eu harwain yn bennaf gan bobl naill ai a oedd, neu a fu, yn fyfyrwyr yma yn Aberystwyth. Does ryfedd, felly, i’r Coleg hwn, a Neuadd Pantycelyn yn benodol, sef y neuadd Gymraeg y bu’n rhaid brwydro’n galed i’w sefydlu, ddod yn feithrinfa i genedlaetholwyr ifainc, pobl a ddaeth wedyn yn arweinwyr diwylliannol a gwleidyddol y genedl.
Ond mae’r traddodiad o herio gormes Seisnigrwydd a’r meddylfryd Prydeinllyd yn llawer hŷn na chwedegau’r ugeinfed ganrif. Gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd gan y myfyrwyr Cymraeg eu cylchgrawn llenyddol eu hunain o’r enw Y Wawr. Sefydlwyd hwnnw yn 1913 gan y myfyrwyr gyda chefnogaeth aelodau staff yr Adran Gymraeg, sef T. H. Parry-Williams, Timothy Lewis a T. Gwynn Jones. Oes fyrhoedlog a gafodd, serch hynny, oherwydd i awdurdodau’r Coleg fynnu sensro ysgrif gan D. J. Williams y bwriedid ei chyhoeddi yn y cylchgrawn yn 1917.
Croeso
Rhifyn Cyntaf - Eisteddfod
Can mil croeso i’r Heriwr Bodolai yn Aberystwyth ar y pryd ysbryd eithafol wrth-Almaenig pan roddai pobl eu cas ar unrhyw un a gâi ei amau o fod yn annheyrngar i Brydain Fawr. Rhaid cofio mai’n ystod y cyfnod hwnnw y digwyddodd un o’r penodau mwyaf gwaradwyddus yn hanes Aberystwyth pan erlidiwyd yr Athro Hermann Ethé oddi yma gan rai o barchusion y dref. Almaenwr ac Athro ieithoedd disglair yn y Coleg oedd yr Athro Ethé, a ddioddefodd dan law rhagfarn o’r math gwaethaf. Cofier hefyd i’r ysbryd imperialaidd a rhyfelgarol godi’i ben drachefn yn 1919 pan geisiodd rhai pobl rwystro T. H. Parry-Williams rhag cael ei benodi’n Athro yn yr Adran Gymraeg oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel.
golygyddol y cylchgrawn ymddiswyddo. Arweiniodd hynny at dranc Y Wawr. Ataliwyd D. J. Williams, felly, rhag cyhoeddi erthygl a oedd yn feirniadol o’r Aelodau Seneddol Cymreig am fod yn gynffonwyr i’r Saeson Llundeinig. Roedd yn lladd ar natur wasaidd y Cymry a’u diffyg asgwrn cefn i fynnu sefyll dros egwyddorion cenedlaethol, Cristnogol a dyngarol. Nac oedd, doedd dim rhwydd hynt i ryddid barn yn nyddiau’r Rhyfel Mawr. Swyddogaeth bwysig unrhyw bapur myfyrwyr yw herio a phrocio a thynnu blewyn o drwyn yr awdurdodau, cyn belled â bod hynny’n cael ei wneud yn yr ysbryd cywir ac yn adeiladol. A waeth inni gydnabod hynny rŵan ddim, mae angen ein hysgwyd o’n cysgadrwydd y dyddiau hyn er mwyn bod yn effro i’r bygythiadau a all fod i’r gwareiddiad Cymraeg.
Yn erthygl olygyddol rhifyn cyntaf Y Wawr yng ngaeaf 1913 cyhoeddwyd gyda balchder mai ‘cynnyrch cenedlaetholdeb yn deffro yng nghalonnau myfyrwyr Coleg y Brifysgol’ oedd y cylchgrawn. Pan luniodd y cenedlaetholwr D. J. Williams ysgrif ddychanol a deifiol o dan y teitl ‘Ich Dien’, sef arwyddair Tywysog Cymru, sylwodd rhywun yn swyddfa’r argraffwyr arni a thynnu sylw awdurdodau’r Coleg at ei chynnwys. Ystyrid bod ynddi ddeunydd bradwrus a gwrth-imperialaidd. Tynnodd un Aelod Seneddol sylw at gynnwys yr erthygl yn Nhŷ’r Cyffredin, a gofynnodd i’r Ysgrifennydd Cartref ymyrryd drwy gosbi Coleg Aberystwyth yn ariannol am fethu â chadw trefn ar ei fyfyrwyr eithafol eu barn. Gan na chyhoeddwyd yr erthygl, doedd dim byd y gallai’r Ysgrifennydd Cartref ei wneud. Mynnodd Senedd y Coleg wedyn fod Ambrose Bebb, golygydd y cylchgrawn ar y pryd, yn ymddiswyddo. Gwrthododd wneud, ac er mwyn dangos eu bod i gyd yn unfryd y tu ôl iddo, fe benderfynodd holl aelodau pwyllgor
Ein dyletswydd ni yw diogelu dysg ac ysgolheictod y Gymraeg ei hun, yn ogystal â phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna gonglfeini’r gwareiddiad Cymraeg.
2
Fe glywn yn aml fod y prifysgolion erbyn hyn yn ‘fusnesau’, ond mae hynny’n groes i’r graen am ein bod ni yn ymwneud â phethau nad oes modd rhoi pris arnynt. Nid ydym mor naïf â chredu nad oes rhai gweddau byd busnes i’r gyfundrefn addysg uwch: rhaid cael incwm i dalu cyflogau darlithwyr a gweinyddwyr a staff cefnogol, a rhaid cynnal a chadw adeiladau a thalu am adnoddau. Ond mae addysgu a goleuo ac ysbrydoli myfyrwyr yn gyfrifoldeb pwysig sy’n cyfrannu at gynnal cymdeithas a dinasyddiaeth wâr. A phan ddywedir gan rai nad yw’r adrannau hynny sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud elw ariannol am eu bod mor fach ac aneconomaidd, y maent yn methu â deall natur unigryw
y math o farchnad y gweithiant ynddi. Wedi’r cyfan, iaith leiafrifol yw’r Gymraeg yn ei gwlad ei hun, ac mae’r Cymry Cymraeg yn ‘lleiafrif sydd eto’n lleihau’, a dyfynnu Saunders Lewis. Ein dyletswydd ni yw diogelu dysg ac ysgolheictod y Gymraeg ei hun, yn ogystal â phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna gonglfeini’r gwareiddiad Cymraeg. Da o beth, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i greu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ond ni ddylai bodolaeth y Coleg leihau’r cyfrifoldeb sydd ar sefydliadau unigol ychwaith i gynnal dysg ac ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig felly yn yr adrannau Cymraeg lle dysgir cyrsiau iaith a llên i do ar ôl to o Gymry iaith gyntaf ac ail iaith yn ogystal â dysgwyr.
Nid trwy edrych yn llygad y geiniog yn unig y mae cynnal y pethau a ystyriwn yn bwysig ac yn hanfodol i’n diwylliant a’n bywyd cenedlaethol, oherwydd mae dyletswydd foesol ar brifysgolion Cymru i warchod a chynnal dysg ac ysgolheictod y Gymraeg. Oni wna prifysgolion Cymru hynny, pwy a’i gwna? Mae o leiaf ddau fath o newyddiaduraeth yn bod. Yn gyntaf, y mae’r newyddiaduraeth ddiogel honno sy’n bodloni’n unig ar adrodd ffeithiau a chynnig sylwebaeth ddigon arwynebol. Yn ail, y mae’r math o newyddiaduraeth ddadansoddol, ddeallus sy’n seiliedig ar ymchwil o sylwedd. Byddai’n braf meddwl fod cyhoeddi rhifyn cyntaf Yr Heriwr yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes newyddiaduraeth Gymraeg o’r ail fath, a bod gweithio ar bapur fel hwn yn mynd i feithrin egin newyddiadurwyr a fydd, maes o law, yn gwneud eu marc yma yng Nghymru ac yn cyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.
Bleddyn Owen Huws
Genedlaethol Cymru 2012
Newyddion o’r Brifysgol
Penodi Hanesydd yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg
Ddiwedd mis Mehefin eleni, mewn penderfyniad sydd wedi ennyn ymateb cymysg, penodwyd yr hanesydd a Dirprwy Is-ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Aled Gruffydd Jones, yn bennaeth newydd Adran Gymraeg y Brifysgol. Bydd yr Athro Jones, a fu’n bennaeth ar yr Adran Hanes a Hanes Cymru rhwng 1994 a 2002, yn olynu’r Athro Patrick SimsWilliams fel pennaeth yr adran. Ynghyd â’i swydd bresennol fel Dirprwy Is-ganghellor Hŷn, bydd hefyd yn parhau i fod yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg.
Fodd bynnag, mae’r Brifysgol wedi cadarnhau y bydd yn rhoi’r gorau i rai cyfrifoldebau o fewn ei bortffolio. Bydd y Dirprwy Is-lywydd, Martin Jones, yn cymryd cyfrifoldeb dros faterion ymchMae’n gweithio’n barhaus er mwyn sicrhau diogelwch materion Cymreig ac addysg Gymraeg yn Aberystwyth.
ogystal gan y Llywydd UMCA presennol, Tammy Hawkins, ynghyd â’i holynydd, Carys Ann Thomas, a ddywedodd mewn cyfweliad gyda’r Heriwr:
wil a menter, tra bydd y Dirprwy Is-lywydd, John Grattan, yn cymryd cyfrifoldeb dros y portffolio rhyngwladol. Yn gynharach eleni, bu i’r Athro Aled Gruffydd Jones hefyd gael ei benodi’n Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac, ynghyd â hyn, mae’n Gymrawd i’r Gymdeithas Hanes Frenhinol. Yn dilyn ei benodiad dywedodd yr Athro Aled Gruffydd Jones:
“Rydw i’n niad gan Athro Aled eth newydd
Mae’n gweithio’n barhaus er mwyn sicrhau diogelwch materion Cymreig ac addysg Gymraeg yn Aberystwyth.
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth Addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Felly, rwy’n siŵr y bydd yn ddatblygiad cadarnhaol ar gyfer Adran y Gymraeg a’i myfyrwyr, yn enwedig o ystyried y newidiadau yr ydym yn eu hwynebu o fewn strwythur academaidd y brifysgol yn y dyfodol agos.”
“Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf yn awyddus i weld Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg ledled y Brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith ôl-raddedigion.” Croesawyd y newyddion gan yr Is-ganghellor, yr Athro April McMahon, gan ddatgan ei bod yn “hynod o falch fod Aled wedi ei benodi”, gan fynd ymlaen i ddisgrifio’r Gymraeg “yn gwbl greiddiol i hunaniaeth y Brifysgol”. Croesawyd y penodiad yn
croesawu’r datgay Brifysgol mai’r Jones yw PennaAdran y Gymraeg.
Fodd bynnag, nid yw’r penodiad wedi cael ei groesawu gan bawb o fewn y Brifysgol gyda’r un brwdfrydedd.
3
Gydag Adran y Gymraeg yn debygol o wynebu newidiadau sylweddol yn y dyfodol agos, gan gynnwys ail-leoli’r adran ar Gampws Penglais, a chael ei chyfuno gydag adrannau eraill o dan bolisi ailstrwy-
SEFYDLWYD 2012
Rhaid cwestiynu a yw’r penodiad wedi ei wneud o safbwynt gwleidyddol i wthio’r newidiadau hyn tra’n llwyr ddiystyru barn staff a myfyrwyr yr adran. thuro newydd y Brifysgol, mae nifer wedi ystyried y penodiad fel cam gan Uwch-dîm Rheoli’r Brifysgol i geisio hwyluso’r broses o ddiwygio o fewn yr adran. Dadleuodd Adam Jones, Swyddog yr Iaith Gymraeg Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC):
“Nid wyf yn ei weld yn gymesur y bydd y Dirprwy Is-ganghellor Hŷn, sydd eisoes yn dal nifer o swyddi gwahanol o fewn y sefydliad a thu hwnt, bellach hefyd yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb o arwain Adran y Gymraeg. Rhaid cwestiynu a yw’r penodiad wedi ei wneud o safbwynt gwleidyddol i wthio’r newidiadau hyn tra’n llwyr ddiystyru barn staff a myfyrwyr yr adran.” Yn ystod y cyfnod hwn o newid sylweddol yn y Brifysgol, mae’n debygol y bydd y penodiad hwn yn bwnc llosg am beth amser. Fodd bynnag, dymuna’r Heriwr ei longyfarch ar ei benodiad fel pennaeth newydd yr adran, a dymunwn bob hwyl iddo gyda’i waith.
Aled Morgan Hughes
YR HERIWR
Newyddion o’r Brifysgol
NID DA LLE GELLIR GWELL?
Newidiadau i Strwythur Academaidd Prifysgol Aberystwyth yn “Llunio ein Dyfodol” Newid strwythur 17 o adrannau academaidd a’u cwtogi i saith sefydliad yw cynnig diweddaraf Prifysgol Aberystwyth i brofi fod ganddynt ffurf drefniadol sydd yn cyfateb â delfrydau, dyheadau a gofynion y Brifysgol, ac sydd hefyd yn gallu cynnig cysondeb ac effeithlonrwydd i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn y dyfodol agos. Un o’r prif resymau dros ffafrio’r ailstrwythuro o fewn y Brifysgol yw lleihau’r gwahaniaethau amlwg sydd i’w cael rhwng y sefydliadau. Mae’r adrannau bychain, gyda llai nag ugain aelod o staff, yn ei chael yn anodd i gystadlu gyda’r adrannau hynny â dros ddau gan aelod o staff. Mae’r amrywiaeth hwn yn effeithio ar hyblygrwydd a chyflymder yr adrannau wrth ymateb i fentrau newydd. Ateb y brifysgol i’r broblem yw canolbwyntio ar ‘fodel sefydliadau’ sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson mewn amryw o Brifysgolion yn y DU.
Dau fater pwysig a allai beri pryder i unigolion, os yw’r ailstrwythuro yn cael ei gymeradwyo, fyddai dewis maint addas i bob sefydliad, yn ogystal â dewis pa bynciau sy’n cyd-fynd â’i gilydd. Er mwyn i’r model sefydliadau weithio’n dda, byddai’n rhaid i bob sefydliad fod yn ddigon mawr i sicrhau bod cyflenwadau, offer a staff technegol a chynorthwyol yn cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol, heb orwario ar dechnoleg ddiangen. Bydd sawl adran yn cael ei heffeithio’n fawr yn sgil y newidiadau hyn, yn enwedig yr adrannau gyda’r nifer leiaf o staff
a myfyrwyr. Felly, a oes gwir angen ailstrwythuro a newid sefydliadau Prifysgol Aberystwyth, ynteu a ellid darganfod ffordd symlach i’w gwella a’u datblygu cyn gweithredu ar y cynllun strategol hwn?
Adran fydd yn cael ei heffeithio’n aruthrol gan y newidiadau fydd yr Adran Gymraeg a leolir, ar hyn o bryd, yn yr Hen Goleg. Ers sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn 1872, mae’r Hen Goleg, gyda’i ddyluniad Fictoraidd a’r olygfa ysblennydd, wedi datblygu i fod yn un o symbolau mwyaf eiconig y sefydliad.
Fodd bynnag, mae newid ar y gorwel yn y ‘Brifysgol ger y Lli’, gyda chynlluniau dadleuol i’w newid ar y gweill, a’r posibilrwydd o ail-leoli’r Adran Gymraeg i Gampws Penglais. Ar hyn o bryd mae’r Hen Goleg yn gartref ysbrydol i Adran Gymraeg y Brifysgol, gyda rhai ystafelloedd yn cael eu defnyddio gan adrannau eraill, gan gynnwys yr Adran Gelf, yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu, a’r Adran Addysg. Yn ogystal â hyn, lleolir nifer o bersonél gweinyddol y Brifysgol yno, gan gynnwys un adran gyllid. Cred nifer mai un o brif amcanion y Brifysgol wrth symud yr adran yw ceisio sefydlu cydweithrediad agosach gydag adrannau eraill sydd wedi eu lleoli ar gampws Penglais, yn enwedig gyda’r posibilrwydd o newid strwythurol i’r adrannau ar y gweill. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei herio gan nifer o fyfyrwyr a staff yr Adran Gymraeg, gan ddadlau
4
Rhifyn Cyntaf - Eisteddfod
fod y Brifysgol bellach yn sefydliad amlgampws gydag adrannau wedi eu lleoli yn Llanbadarn, Gogerddan, Yr Hen Goleg, Y Buarth (lleoliad yr Ysgol Gelf) a Phenglais ei hun. Cyfyd hyn y cwestiwn pam eu bod yn symud Adran y Gymraeg o’r Hen Goleg. Gofynnodd Yr Heriwr i’r Is-ganghellor, Yr Athro April McMahon, am sylwadau ar y cymhelliant y tu ôl i’r cynllun, ond ni chafwyd ateb pendant.
Mae’r mater hanesyddol hefyd yn un sydd yn codi yn nadleuon unigolion sydd yn erbyn symud Adran y Gymraeg o’r Hen Goleg. Ers ei adeiladu, mae nifer helaeth o lenorion ac ysgolheigion nodedig, megis T.H Parry Williams a Gwenallt, wedi defnyddio’r Hen Goleg. Mae hyn yn atyniad mawr i nifer o fyfyrwyr sydd am astudio yno. Mae’n ffactor sydd wedi helpu sefydlu’r Adran Gymraeg fel yr un fwyaf llwyddiannus yng Nghymru (yn ôl y Complete University Guide 2013). Ofna rhai, wrth symud yr Adran, y bydd y cysylltiad hanesyddol hwn gyda llenorion ac ysgolheigion y gorffennol yn cael ei golli, gan hefyd ddylanwadu ar yr awyrgylch dysgu o fewn yr adran. Dadleua rhai y byddai’r cynllun o ailleoli’r adran ar Gampws Penglais yn fwy cyfleus i fyfyrwyr, yn enwedig y rhai o’r
Y Strwythur Presennol
Cyfadran y Celfyddydau: Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Yr Adran Hanes a Hanes Cymru, Yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Adran y Gymraeg, Yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd, Yr Ysgol Gelf, Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes. Cyfadran y Gwyddorau: Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Daearyddiaeth Ddynol / Gwyddor Daear (yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddor Daear),Y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Yr Adran Seicoleg, Yr Adran Gyfrifiadureg. Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol: Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg.
Genedlaethol Cymru 2012
flwyddyn gyntaf sy’n byw ym mhreswylfeydd cyfagos y Brifysgol, megis Pantycelyn. Er hyn, mae’n bwysig nodi fod y mwyafrif o fyfyrwyr yr Adran Gymraeg yn yr ail a’r drydedd flwyddyn yn byw yn y dref, ble y mae’r Hen Goleg yn llawer mwy cyfleus iddynt nag y buasai yn Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais.
Fodd bynnag, mae’n debyg fod ei ddyfodol yn dal i fod yn gymharol niwlog, heb unrhyw amserlen na chynllun pendant wedi’i nodi’n gyhoeddus ar hyn o bryd. Mae’n bwysig cofio nad dyma’r tro cyntaf i gynlluniau o’r fath gael eu crybwyll, gyda sôn am symud Adran y Gymraeg i fyny’r allt ers y saithdegau. Er hyn, cred nifer fod y bygythiad o symud ar ei anterth bellach, gyda sïon y bydd yr Adran Gymraeg wedi cael ei symud i Adeilad Hugh Owen (ar Gampws Penglais) erbyn Nadolig 2012.
Bywyd Cymdeithasol Y Strwythur Delfrydol?
SEFYDLWYD 2012
1. Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig 2. Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff 3. Y Sefydliad Mathemateg, Ffiseg, a Chyfrifiadureg
4. Y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddor Daear, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Hanes a Hanes Cymru 5. Y Gyfraith a Throseddeg, yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, a’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth
“Mae ‘na dafarn yn y nefoedd, meddan’ nhw ...” Nid yw’n anghyffredin i bobl ifainc feddwl mai lle tawel ydi Aberystwyth, wrth iddynt ei gymharu gyda llefydd fel Lerpwl neu Gaerdydd. Camsyniad llwyr yw hyn, a byddai unrhyw un sydd wedi cael noson allan yn Aberystwyth yn dweud wrthych eu bod wedi cael amser gwych! Unol yw’r gred nad yw hi’n bosib cael ‘noson dawel’ neu ‘fynd allan am un neu ddau’ yn y dref hon. Wedi dweud hynny, os nad ydych yn hoff o feddwi nes oriau mân y bore, mae’n gysur gwybod bod hen ddigon o ddewis o dafarndai yma dros ddeugain i fod yn fanwl gywir - i fwynhau peint tawel.
6. Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Ysgol Gelf, y Gymraeg, a Chanolfan y Celfyddydau.
7. Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Ieithoedd EwropeElliw Hâf Pritchard ac aidd a’r Ganolfan Saesneg RynAled Morgan Hughes gwladol.
YR HERWYR
Y Bwrdd Llywio Wyneb cyhoeddus yr Heriwr yw’r Bwrdd Llywio sy’n gyfrifol am gyllid a threfniadaeth y Papur a’r Pwyllgor.
Prin y gallwn sôn am noson allan yn Aberystwyth heb grybwyll Yr Hen Lew Du. Hwn yw’r lle i fod, yn enwedig os ydych chi’n fyfyriwr ifanc Cymreig, boed hynny i fwynhau’r cwis a gynhelir bob nos Lun, bloeddio canu gyda’r jukebox neu gymdeithasu gyda ffrindiau dros beint ... neu bump. Mae’r Llew yn ddewis poblogaidd yng nghrôls wythnos y Glas, ac mae’r awyrgylch cartrefol yn siŵr o alluogi pob myfyriwr i setlo i mewn i’w bywyd newydd yn Aberystwyth.
Siôn Eilir Pryse, Adam Jones, Miriam Williams, Jacob Ellis, Elin Haf Gruffydd. Y Pwyllgor Gohebwyr Golygydd Cynorthwyol: Gruffudd Antur Gohebydd Newyddion Cyffredinol: Aled Morgan Hughes Gohebydd Cymdeithasau: Bethan Ruth Walkling Gohebydd Materion Academaidd: Elliw Hâf Pritchard Gohebydd Bywyd Cymdeithasol: Ffraid Gwenllïan Gohebydd Chwaraeon: Llywelyn Williams Swyddogion
Swyddog Hysbysebu a Marchnata: Aled Wyn Williams Swyddog Dylunio: Eiri Angharad Siôn
Mae’r Cŵps yn dafarn arall sy’n chwarae rhan fawr yng ngweithgareddau Wythnos y Glas. Mae’r dafarn, fel y Llew, wedi bod yn gefnogol iawn
I gysylltu â’r uchod e-bostiwch : yrheriwr@gmail.com
5
wrth i’r myfyrwyr drefnu crôls ac wedi bod yn fan cychwyn i’r Crôl Teircoes a’r Crôl Teulu. Os ydych wedi dod i Aberystwyth i feddwi’n wyllt ac i aros allan nes oriau man y bore, byddwch yn siŵr o dynnu ymlaen yn dda gyda’r rhan fwyaf o’ch cyd-fyfyrwyr! Anochel yw hi y bydd pob sesiwn gwerth ei halen yn cychwyn gyda ‘Gaa’ yn Harry’s ac yn gorffen gyda Lip-Licking Chicken neu Hollywood Pizza. Mae dau glwb nos yn y dref, sef Why Not (neu Yoko’s i bawb) a Pier Pressure, a dyma ble fydd myfyrwyr yn gorffen eu nosweithiau gan amlaf. Cynhelir rhai nosweithiau yn wythnosol yn yr Undeb hefyd, megis Reload bob nos Fercher, felly os ydych yn hoff o ddawnsio i gerddoriaeth y 90au, dyma’r lle i chi! Peidiwch da chi â gwneud y camsyniad hwnnw mai tref dawel, ddigyffro yw Aberystwyth, neu mae peryg ichi golli coblyn o noson dda!
Ffraid Gwenllian
YR HERIWR
Diwylliant a Chymdeithasau
‘Cenwch wrogaeth i Gadair y Bardd’
Rhifyn Cyntaf - Eisteddfod
Gruffudd Antur yn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2012. Fis Chwefror 1962, traddododd Saunders Lewis ei ddarlith radio enwog ‘Tynged yr Iaith’; darlith sy’n trafod y posibilrwydd y byddai’r Gymraeg yn darfod erbyn yr unfed ganrif ar hugain oni byddai newid enfawr ym meddylfryd y Cymry a pholisi gwleidyddol yng Nghymru. Dyma’r ddarlith gyda’r ‘llais yn pellhau’ a’r ‘hen ŵr yn rhygnu’i eiriau’ a ysbrydolodd Mynar, neu Gruffudd Antur, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, i lunio ei gerdd ‘Cylchoedd’ a gipiodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2012. Un o Lanuwchllyn yw Gruffudd ac mae bellach yn astudio Ffiseg yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Fe fu’n ddisgybl yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn, ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala. Mae’n Olygydd Cynorthwyol ar y papur hwn ac hefyd yn llywydd Cymdeithas Taliesin. Wrth drafod ei brofiad dywedodd Gruffudd:
‘Roedd ennill y Gadair eleni yn rhyddhad mawr i mi, ar ôl dod yn agos ddwy flynedd yn ôl. Er gwaetha’r tywydd ofnadwy, roedd y profiad yn un hynod o bleserus, ac mae’n galonogol iawn fod pobl yn dal i ymddiddori mewn barddoniaeth yng Nghymru.
‘Roedd y testun eleni, sef ‘Cylchoedd’, yn llawn o bosibiliadau, a’r cylchoedd yn y gerdd yw cylchoedd cenedl, coleg a bro, yn ogystal ag ambell gylch arall llai amlwg! Fy uchelgais bellach yw gwireddu’r freuddwyd a geir yn y trydydd caniad, sef cael dychwelyd ar ôl dyddiau iwtopaidd addysg Brifysgol i fyw mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn gyfrwng bywyd beunyddiol.’
dyn, yn hafan ddiogel i’r gymuned Gymraeg ond sy’n dirwyn i ben ar ôl cyfnod cwrs gradd:
Mae’r gerdd fuddugol yn trafod themâu sy’n berthnasol i bawb sy’n ystyried bod yr iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o’r hunaniaeth Gymreig. Mae’r prifardd yn sôn am ‘byw mewn bohemia’, sef bohemia’r bywyd Cymraeg yn Aberystwyth ac mae’r thema hon yn amlwg yn y gerdd drwyddi draw. Mae’n sôn am yr hunaniaeth sydd i’w chanfod yn nhafarn y Llew Du ac am ‘fohemia’n cyfamod’ sy’n bodoli yn Neuadd Pantycelyn:
Yn eu beirniadaeth, dywedodd y beirniaid Rhys Iorwerth ac Ifan Prys:
Hon, y dafarn rhwng deufyd, a thafarn eithafiaeth yr ennyd, tafarn pob barn ar y byd; tafarn pob breuddwyd hefyd.
Wrth ddarllen ei gerdd gwelwn fod Aberystwyth yn fwy na dim ond man addysg i Gruffudd; mae’n gonglfaen sy’n diffinio bywyd
Awr fawr y glas-fyfyrwyr Bethan Walkling sydd yn cael cipolwg ar ddigwyddiadau wythnos y glas. Yn ystod Wythnos y Glas eleni bydd nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr newydd ddod i adnabod aelodau eraill y gymdeithas Gymraeg trwy weithgareddau a drefnir gan UMCA a’r Geltaidd. Bydd digon o hwyl a sbri i’w gael wrth fwynhau yn y tafarndai lleol. Ond, os nad yw yfed yn apelio rhyw lawer atoch, y mae cyfle i fwynhau gyda’r gweithgareddau amgen y mae UMCA yn eu cynnig. Bydd hefyd lawer o weithgareddau yn digwydd yn yr Undeb yn ystod Wythnos Glas. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rheiny, bwriwch olwg ar eu tudalen Facebook.
Cynhelir Ffair y Glas yn ystod wythnos gyntaf y myfyrwyr yn y brifysgol. Bydd y Ffair Chwaraeon ar ddydd Mawrth yr 27ain o Fedi eleni yn gyfle i fyfyrwyr ymuno â chymdeithasau chwaraeon. Bydd cynrychiolwyr o holl gymdeithasau chwaraeon y brifysgol yno er mwyn i fyfyrwyr newydd gael gweld a oes un o ddiddordeb iddynt. Os nad yw chwaraeon yn mynd â’ch bryd, bydd digonedd o gymdeithasau eraill o bob math i’w gweld yn y Ffair Gymdeithasau ar y 28ain o Fedi. Y mae hefyd nifer o gymdeithasau gwleidyddol a rhaid peidio ag anghofio’r cym-
6
Ond gwn am freuddwyd gynnil yn y nos i’n harwain ni law yn llaw drwy’r gwyll o hyd i brofi’r bore hefyd, gan fod cartre’n ddyhead ac atgo’ bro yn barhad.
‘Mae’r awdl yn un sy’n ymdrin â thaith y bardd wrth iddo ymgodymu â’i agwedd ef ac agweddau ei genhedlaeth tuag at dynged yr iaith.
Mae ei feistrolaeth ar y mesurau caeth yn gyfan gwbl, gyda’i linellau ac amrywiaeth ei gynganeddion yn lân ac yn raenus yn y tri chaniad fel ei gilydd.’ Hoffwn longyfarch Gruffudd yn bersonol ar ei gamp a hefyd am ei ymroddiad a’i angerdd wrth iddo ymgymryd â’i rôl newydd fel Golygydd Cynorthwyol y papur hwn.
Adam Jones
deithasau gwirfoddol fel Oxfam, UNICEF a chymdeithas RAG, sy’n gweithio’n galed i wella’r byd a’r gymdeithas. Mae modd i chi hefyd ymuno â chymdeithasau diwylliannol megis yr undebau crefyddol, yn ogystal â’r cymdeithasau perfformio a drama fel comedi The Exploding Fish a’r clwb Glee.
Os ydych am gael blas ar ohebu, yna mae digon o ddewis o gymdeithasau cyfryngol fel Yr Heriwr, The Courier a Radio’r Bae. Y mae hefyd cymdeithasau amgen i’w cael, megis tîm quidditch a chymdeithas ailgynhyrchu rhyfeloedd! Bydd cyfle i ymaelodi â’r holl gymdeithasau yn ystod Wythnos y Glas ond am ragor o wybodaeth cyn hynny cysylltwch â chydlynydd cymdeithasau’r brifysgol ar undeb.gweithgareddau@aber.ac.uk
Bethan Walkling
Adran Chwaraeon
Genedlaethol Cymru 2012
Wynebu’r Her
SEFYDLWYD 2012
Chwaraeon yn Aberystwyth
Pêl-rwyd y Geltaidd
Yn nhudalen Chwaraeon y rhifyn cyntaf hwn o’r Heriwr, gobeithiwn roi blas i chi o’r profiad o gymryd rhan mewn chwaraeon fel myfyriwr Cymraeg yn Aberystwyth.
Enillwyr Cystadleuaeth Bêl-rwyd Gala Chwaraeon Rhyng-golegol, Bangor 2012. Capten tymor 2012/13 fydd Lleucu Angharad Philips.
Llywelyn Williams
Y Geltaidd ‘GSE’ Cafodd clwb pêl-droed y Geltaidd dymor llwyddiannus dan arweiniad y capten, Llion Parry. Er gwaethaf cychwyn ansicr i’r tymor, gyda chanlyniadau siomedig yn y paratoadau cyn y Gynghrair a cholli yn rownd gyntaf Cwpan y Dref (DIGS), gwellodd pethau wedi i’r Gynghrair ddechrau ym mis Hydref.
Y Goron Driphlyg i’r Du a’r Melyn
Bu’n dymor gwych i’r Pornstars - un o dimau pêl-droed cymdeithasol mwyaf llwyddiannus y Brifysgol dros y ddwy flynedd diwethaf. Myfyrwyr o Ddyffryn Conwy a Chlwyd yw’r mwyafrif helaeth o’r garfan ac eleni llwyddasant i gwblhau’r trebl. Enillasant Gynghrair yr Uwchgynghrair heb golli’r un gêm. Ad-enillwyd Cwpan y Dref gan guro Average Anne o 1-0 o flaen torf sylweddol ar Goedlan y Parc, diolch i gôl Ilan Hughes yn y pymtheg munud
olaf. Ac i goroni eu tymor, trechwyd Average Anne yn rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr o 2-1 yn y 92ain munud. Prif sgoriwr yr Uwchgynghrair oedd Garmon Hafal gyda thair gôl ar ddeg.
Rygbi’r Geltaidd
Bu’r Geltaidd yn brysur iawn dros benwythnos gŵyl y banc fis Mai yn yr ŵyl rygbi 7 bob ochr a gynhaliwyd ar gaeau Blaendolau. Cyrhaeddodd y Geltaidd rownd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth y merched a rownd derfynol y plât yng nghystadleuaeth y dynion. Cyfeillgar fu gemau tîm y Geltaidd weddill y tymor ac enillasant yn erbyn Clwb Rygbi Tregaron ac yn erbyn ail dîm Clwb Rygbi Aberystwyth. Carfan Prifysgol Aberystwyth fu’n fuddugol yn y twrnament rygbi rhynggolegol eleni, gan ennill yn gyfforddus yn erbyn Bangor, Caerdydd ac Abertawe dan arweiniad Guto Owen. Gwion Dafydd Jones fydd capten tîm y dynion y tymor nesaf.
Am fwy o wybodaeth ewch i Facebook:
CPD y Geltaidd, Rygbi’r Geltaidd, Hoci’r Geltaidd, Rygbi Merched y Geltaidd, CPD Pornstars
Enillwyd Cynghrhair Bundesliga’r DIGS yn gyfforddus heb golli’r un gêm a rhoddwyd ymdrech ragorol yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Average Anne, gan unioni’r sgôr yn 2-2 gydag ergyd ragorol Celt Iwan dros y golgeidwad. Ond, yn anffodus, fe gollodd y Geltaidd ar giciau o’r smotyn o 13-12!
ADOLYGIAD O GLWB PÊL-DROED Y GELTAIDD Trefnwyd gornest 7 bob ochr ar gaeau Blaendolau ddiwedd mis Mai gan Gymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru. Roedd y Geltaidd ar y blaen yn erbyn tîm cyntaf y Brifysgol yn y rownd derfynol, diolch i gôl gan Elgan Jones (capten tymor 2012/13) yn y munudau cyntaf. Byddai’r Geltaidd wedi ennill oni bai am ergyd a wyrodd heibio’r golgeidwad, Llywelyn Williams, i unioni’r sgôr yn 1-1 yng nghic olaf y gêm. Cyrhaeddodd y GSE rownd yr wyth olaf Plât y Twrnamaint gan golli unwaith yn rhagor ar giciau o’r smotyn wedi i’r ddau dîm fethu â sgorio yn ystod amser ychwanegol.
Rhaid rhoi clod enfawr i Celt Iwan, a chwaraeai gynt i’r Bontnewydd, am ennill chwaraewr y flwyddyn DIGS Aberystwyth. Mae sôn am sefydlu tîm pêl-droed i ferched y Geltaidd y tymor nesaf. I’r rhai sydd â diddordeb, gallwch roi eich enwau ymlaen yn stondin y Geltaidd yn Wythnos y Glas.
Cysylltwch â’r Heriwr
yrheriwr@gmail.com www.facebook.com/yrheriwr 7
@yrheriwr