YR HERIWR
Papur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth
Dydd Gwener 21ain Medi 2012
Llai o fyfyrwyr yn dod i Aber
Rhad ac am Ddim
Marwolaeth Myfyriwr
Cwymp yn nifer y myfyrwyr sydd yn dod i Brifysgol Aberystwyth.
Trac seiclo newydd i Aber?
Myfyriwr o Aberystwyth yn cael ei ganfod yn farw wrth ymyl y brif ffordd.
Tudalen 3
Tudalen 8 a 9
Ymgyrch i ddenu trac seiclo newydd i Aberystwyth yn mynd o nerth i nerth.
Tudalen 15
CAU NEUADD - COLLI ENAID? Neuadd Pantycelyn dan fygythiad Ar ôl bron i ddeugain mlynedd fel neuadd Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, mae Neuadd Pantycelyn yn wynebu'r bygythiad o gael ei chau.
G��� � G����� Croeso i rifyn cyntaf Yr Heriwr, papur Cymraeg newydd sbon myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Menter newydd a chyffrous i fyfyrwyr y Brifysgol yw sefydlu’r papur newydd Cymraeg hwn, a bydd yn llwyfan i ddarparu newyddion ac erthyglau ar ystod eang o faterion i’r Brifysgol a thu hwnt.
Trwy gyhoeddi’r Heriwr ddwywaith bob tymor, ein gobaith yw darparu gwasanaeth hollbwysig i Gymry Cymraeg y Brifysgol, a thrwy hyn gy�leu ein hyder a’n brwdfrydedd dros yr iaith i gynulleidfa
ehangach. Nid ar ffurf papur yn unig y bydd Yr Heriwr ar gael i chi ychwaith – byddwn yn cyhoeddi erthyglau ac yn rhoi gwybodaeth hanfodol ar ein gwefan yn rheolaidd. Yn y rhifyn hwn o’r Heriwr, cewch gipolwg ar yr hyn fydd yn digwydd yn Wythnos y Glas, yn ogystal â gwybodaeth hanfodol ar gyfer bod yn fyfyriwr Cymraeg yn Aber, fel pa dafarndai i’w hosgoi ar noson allan, a pha rai i dreulio oriau meithion ynddynt! Rydym wedi cynnwys amserlenni a fydd o gymorth i chi fel nad
Mae cynlluniau arfaethedig i godi neuadd newydd mewn sa�le arydych yn methu allan ar unrhyw gy�leoedd fel glas-fyfyriwr, megis digwyddiadau UMCA yn Wythnos y Glas. Byddwn hefyd yn rhoi blas i chi o’r amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw yn Ffair y Glas ac yn Ffair y Glas UMCA. Co�iwch y bydd gan Yr Heriwr stondin yn y ddwy ffair ble gallwch ymaelodi er mwyn sicrhau fod y papur yn mynd o nerth i nerth. Hyderwn y bydd Yr Heriwr yn gydymaith defnyddiol dros ben i chi wrth ddod i adnabod eich prifysgol a’ch ardal newydd. Mae cyhoeddi papur newydd yn weithgarwch symudol, prysur a chyffrous, a’n gobaith yw cynnwys cynifer o erthyglau â phosib sy’n adlewyrchu pob agwedd ar fywyd yn Aberystwyth,
all ar y campws yn siŵr o fod yn ddadleuol, gan fod cymaint a hanes a sentiment ynghlwm wrth y neuadd. Ond tybed a yw’n rhaid symud gyda’r oes?
Trowch i dudalen 2 i ddarllen mwy. a hynny gan nifer o gyfranwyr rheolaidd ac achlysurol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthyglau i’r Heriwr neu ddod yn aelod o Gymdeithas yr Heriwr er mwyn cael dweud eich dweud, gallwch gysylltu â ni ar ymholiadau@yrheriwr.org. Ar ddechrau’r cyfnod byrlymus hwn, hoffai’r Bwrdd Golygyddol estyn diolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn gwneud y syniad yn realiti. Gobeithiwn y bydd Yr Heriwr yn difyrru, yn hysbysu, yn ysbrydoli, ac yn bennaf oll, yn herio.
Bwrdd Golygyddol Yr Heriwr
YR HERIWR
Newyddion o’r Brifysgol
Rhifyn Wyth
Cau Neuadd - Colli Enaid? Neuadd Pantycelyn dan fygythiad Un o brif atyniadau Prifysgol Aberystwyth yw bwrlwm ei chymuned glòs, Gymreig. Gyda channoedd o fyfyrwyr yn chwilio am brifysgol ble gallant gymdeithasu a chael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Prifysgol Aberystwyth yn ddewis amlwg iawn i ateb y gofynion hyn a Neuadd Pantycelyn yn ddewis amlycach o ran sicrhau llety ble mae modd gwneud ‘popeth yn Gymraeg’. Wrth edrych ar wefan y Brifysgol, mae’n amlwg eu bod yn ymfalchïo yn eu myfyrwyr sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a gellir edrych ar brof�il personol 10 o fyfyrwyr Cymraeg, israddedig.
Mae pob unigolyn yn brolio nid yn unig safon y darlithoedd Cymraeg yn gyffredinol ond hefyd y pleser y maent yn ei gael wrth astudio amryw o bynciau gwahanol, sydd bellach yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac wrth gwrs, mae’r rhan helaeth o’r 10 wedi dewis byw yn Neuadd Pantycelyn. Ar y 15fed o Fai 2004 cynhaliwyd noson yn yr Undeb ar gampws y Brifysgol er mwyn dathlu pen-blwydd Undeb Myfyr-
Ers sefydlu’r neuadd mae Pantycelyn wedi bod yn gartref i �iloedd o fyfyrwyr, nifer ohonynt bellach yn f�igyrau amlwg iawn yng Nghymru. Tra’n byw
C�� ������ �’� ��������� Efallai y bu i rai ohonoch weld y newyddion yn ystod yr haf fod NASA, sef y National Aeronautics and Space Administration, wedi llwyddo i anfon robot crwydrol arbennig o’r enw ‘Curiosity’ i archwilio’r blaned Mawrth, i weld a oes unrhyw dystiolaeth o fywyd yno. Yn dilyn hyn, mae Adran Gyfri�iadureg Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu eu hefelychu, gyda’i robot crwydrol ei hun.
yn y neuadd y ffur�iwyd grwpiau enwog fel Yr Ods, Mynediad am Ddim, Doctor a’r Trwynau Coch, i enwi dim ond rhai.
wyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), sydd a’i phencadlys yn Neuadd Pantycelyn, a dathlu pen-blwydd Neuadd Pantycelyn fel neuadd breswyl Gymraeg yn 30 oed.
Bydd y prosiect hwn yn arbennig o bwysig wrth i deithiau robotig i’r gofod ddod yn fwy niferus a mwy uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf, gan olygu bydd angen iddynt fod yn fwy hunan-ddibynnol nag
Arweiniwyd y noson gan gyn-breswyliwr enwog arall, Dafydd Du, a daeth nifer o gyn-breswylwyr i ymuno yn y dathlu. Roedd y digwyddiad yn adlewyrchiad o’r cysylltiad cryf sydd gan unigolion ydynt ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau annibynnol wrth lywio, dewis samplau gwyddonol, a’u casglu ar gyfer eu dychwelyd i’r ddaear. Bydd y treialon yn cael eu cynnal
â’r neuadd a hefyd yn pro�i fod Pantycelyn yn sefydliad cryf a chymdeithasol, sydd â’r gallu i greu cymunedau clòs yn �lynyddol a chreu pro�iadau fydd yn aros am byth yng nghof y preswylwyr. Testun peth trafod felly yw cynllun £40 miliwn Prifysgol Aberystwyth i wneud newidiadau sylweddol i’w darpari-
yn yr Ynysoedd Dedwydd (Canary Islands) oherwydd y dirwedd f�lat, y tywod folcanig, y cerrig mân a’r brigiadau creigiog sy’n debyg i’r rhai a welir ar wyneb y blaned Mawrth.
Dymunwn bob lwc felly i Idris ac i’r prosiect hwn. Un cam bach i robot - un cam enfawr i’r Brifysgol!
Aled Morgan Hughes
Bydd y robot, sydd wedi cael yr enw ‘Idris’, yn cymryd rhan yn y prosiect Sgowt Llygad-olwg Robotig y Planedau (PRoViScout). Nod y prosiect yw dangos technegau llygad-olwg cyfri�iadurol ar gyfer nodi peryglon llywio ar y tir, adnabod targedau gwyddonol tebygol a dewis y targedau ‘mwyaf diddorol’ ar gyfer astudiaeth bellach - i gyd heb ymyrraeth ddynol. Dywedodd yr Athro Dave Barnes o Grŵp Roboteg Gofod a’r Planedau, Adran Gyfri�iadureg y Brifysgol:
“Bydd ein robot ni’n nodi targedau gwyddonol ac yn llywio at y targedau hyn gan ddefnyddio meddalwedd newydd, soffistigedig a ddatblygwyd yn ystod y prosiect PRoViScout.”
Idris y Robot
2
hnos y Glas 2012 aeth lety i fyfyrwyr; newidiadau all arwain at gau’r neuadd hanesyddol hon. Mae’n edrych yn debyg na fydd parti arall yn yr undeb i ddathlu pen-blwydd Pantycelyn yn 40 yn 2014, gan fod cynlluniau diweddar yn rhagweld symud y neuadd i sa�le arall ar gampws Penglais - y tu ôl i Bentref Jane Morgan. Nid oes dianc rhag y ffaith fod y lleoliad hwn gryn bellter o’r Hen Goleg ‘ger y lli,’ ble mae nifer o breswylwyr Pantycelyn yn gorfod cerdded i’w darlithoedd. Gallai ail-leoli Pantycelyn arwain at nifer o fyfyrwyr yn penderfynu ymgartrefu mewn tai preifat yn y dref yn hytrach nag mewn neuadd breswyl ar gampws y Brifysgol, gan y byddai’n gwneud mwy o synnwyr yn ymarferol. Gallai hyn effeithio’n fawr ar y gymdeithas glòs, Gymreig sydd wedi ei sefydlu yn Aberystwyth. Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddwyd y syniad o ail-leoli’r neuaddau yn amwys iawn, a gofynnwyd am ymateb gan ddatblygwyr.
Erbyn mis Medi 2011, cyhoeddodd y Brifysgol bod tri chwmni, sef Sir Robert McAlpine Limited, Miller Constuction Limited a Balfour Beatty Student Accomodation wedi’u dewis i fod yn rhan o’r broses o chwilio am ddatblyg-
wyr i droi neuaddau Pantycelyn yn llety hunanarlwyo modern a fydd yn cynnwys en-suite ym mhob ystafell.
Un brifysgol sy’n gallu uniaethu â’r sefyllfa yw Prifysgol Bangor. Mae eu myfyrwyr Cymraeg bellach wedi ymgartrefu yn neuaddau newydd JMJ ar sa�le’r Ffriddoedd. Dywedodd Sharyn Williams, myfyrwraig ôl-radd MA a chyn warden Neuadd Syr John Morris-Jones, wrth wefan Golwg360 fod y ‘myfyrwyr yn ymddangos yn hapusach efo’u cartref newydd’. Ond ai’r dodrefn modern a’r ceginau crand sydd yn cy�leu pro�iadau bywyd Prifysgol ynteu hanes a chyfrinachau adeilad fel Pantycelyn? Yn ôl rhai, bydd y buddsoddiad o oddeutu £40-£45 miliwn yn rhoi cy�le i’r Brifysgol a’r myfyrwyr gydweithio er mwyn creu ‘Pantycelyn Newydd’ ar gyfer y ganrif hon. Ond a ellir tynnu enaid o gorff, ei roi mewn cnawd newydd, a darbwyllo eraill mai’r un sefydliad sydd yma? I nifer o gynbreswylwyr a phreswylwyr cyfredol fel ei gilydd, mae Pantycelyn yn llawer mwy na neuadd. Felly, yng nghanol y rhifyddeg a’r rhesymeg noeth, tybed a oes llinyn i fesur yr hyn y mae’r neuadd yn ei olygu i’r Cymry?
Elliw Hâf Pritchard
Yn y rhifyn cyntaf, cafwyd erthygl ar ddyfodol lleoliad Adran y Gymraeg, gyda’r bygythiad byw iawn o’i hail-leoli ar Gampws Penglais. Yn sgil hyn, bu inni holi am eich barn chi fel darllenwyr ar ein tudalen Facebook ynglŷn â’r cynlluniau hyn. Dyma’r ateb a gafwyd i’r cwestiwn,
Mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n dod i astudio mewn prifysgolion Cymraeg yn gostwng. Dyna’r sefyllfa a awgrymir gan f�igyrau diweddar.
Yn dilyn f�igyrau a ryddhawyd gan UCAS (Universities and Colleges Admission Service), gellir gweld fod y nifer o fyfyrwyr sy’n dewis dod i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru wedi gostwng 1,786 o gymharu â’r un adeg y llynedd. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o 7.7% mewn niferoedd; y gwaethaf trwy wledydd Prydain, gyda phrifysgolion yn Lloegr yn pro�i gostyngiad o 7.5%, a phrifysgolion Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn pro�i twf bychan.
Golyga hyn fod y mwyafrif o brifysgolion Cymru yn dal i chwilio am fyfyrwyr i lenwi eu cyrsiau, ac yn troi at y system glirio i geisio denu mwy o ymgeiswyr. Mae hyn yn wahanol iawn i’r patrwm yn y gorffennol, yn enwedig yn achos Prifysgol Aberystwyth, lle mae’r Brifysgol wedi cymryd rhan yn y system glirio am y tro cyntaf mewn tair blynedd. Dateglodd llefarydd o Brifysgol Cymru, Casnewydd, fod ‘dwywaith’ cymaint o lefydd ar gael eleni trwy’r system glirio o gymharu â 2011.
dysgu myfyrwyr o Gymru, fel eu bod ond yn talu £3,500 y �lwyddyn yn hytrach na’r £9,000 yn Lloegr. Cyfrifodd y Llywodraeth y buasai angen 24,000 o fyfyrwyr o Loegr i ddod i astudio yma yng Nghymru er mwyn ariannu’r cymorthdaliadau i f�ioedd myfyrwyr o Gymru. Yn sgil y f�igyrau newydd hyn, bydd y pwysau ariannol yn codi ar y Llywodraeth Lafur i fedru parhau â’r cynllun dadleuol.
Fodd bynnag, mae rhai arbenigwyr yn nodi fod y cwymp yn y nifer o geisiadau i’r prifysgolion eleni yn anochel, oherwydd yr holl geisiadau o Loegr y llynedd er mwyn osgoi’r cynnydd mewn f�ioedd dysgu. Diddorol hefyd yw gweld fod Prifysgol Caergrawnt wedi pro�i cynnydd yn y nifer o ymgeiswyr am eleni, gyda rhagor yn mynd am addysg o’r safon orau wrth i fwy a mwy o Brifysgolion fabwysiadu’r f�ioedd dysgu o £9,000.
Aled Morgan Hughes
TACSI OW’s 07807 298440
‘BETH YW EICH YMATEB CHI I GYNLLUNIAU’R BRIFYSGOL I AIL-LEOLI ADRAN Y GYMRAEG AR GAMPWS PENGLAIS?’.
O blaid - 0%
Llanw a Thrai Myfyrwyr Aberystwyth
Yn amlwg felly, mae’r cwymp hwn mewn myfyrwyr sy’n dod i astudio yma yng Nghymru yn peri problem i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn enwedig o go�io ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig cymhorthdal tuag at f�ioedd
Dweud eich Dweud
Dim barn - 7%
SEFYDLWYD 2012
Newyddion o’r Brifysgol
O blaid, os caiff adeilad penodedig ei neilltuo i’r adran - 21%
Cerbydau 4, 6, 35 a 49 sedd
Gwasanaeth 24 Awr
Yn erbyn - 72%
Gwasanaeth rhad a chyfeillgar gan gwmni lleol Cymraeg
Dengys y siart fod y gwrthwynebiad i’r cynlluniau yn drawiadol iawn, gyda 72% o’r rhain a bleidleisiodd yn erbyn y cynlluniau yn gyfan gwbl. Diddorol hefyd oedd gweld fod 21% o’r rhain a atebodd y cwestiwn o blaid y cynllun, o dan yr eithriad y buasai adeilad penodedig yn cael ei neilltuo i’r adran ar y sa�le.
Ydych chi’n dymuno hysbysebu yn Yr Heriwr?
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y bleidlais, a chadwch olwg ar y grŵp Facebook am ragor o gwestiynau yn y dyfodol agos!
Am fwy o fanylion e-bostiwch: hysbysebu@yrheriwr.org 3
YR HERIWR
Newyddion o’r Dre’ a thu hwnt
Ysbryd Cymunedol ar ôl Llifogydd
Rhifyn Wyth
Mae cronfa apêl a sefydlwyd gan Gyngor Ceredigion er mwyn cynnig cymorth ariannol i deuluoedd a ddioddefodd yn y llifogydd brawychus yn ardal Aberystwyth yn gynharach eleni, wedi llwyddo i dderbyn dros £100,000 mewn rhoddion. Effeithiodd y llifogydd ym mis Mehe�in eleni ar dros 1,000 o bobl yn Aberystwyth a’r pentre�i cyfagos megis Tal-ybont a Llandre, gyda lefel y llif yn codi dros 5 troedfedd (1.5m) mewn rhai ardaloedd.
Llwyddodd y gronfa i dderbyn rhoddion gan nifer o wahanol ffynonellau, o ddigwyddiad cymdeithasol a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, i roddion gan unigolion, gan gynnwys rhodd gan y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn dilyn eu hymweliad â’r ardal yn fuan ar ôl y llifogydd. Mewn cyfweliad gyda’r Heriwr, dywedodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, ei bod wedi cael ei ‘syfrdanu gan haelioni pobl’ mewn ymateb i’r llifogydd. Aeth y Cynghorydd Plaid Cymru yn ei blaen i nodi,
‘Hoffwn i ddiolch o waelod calon i bawb am eu haelioni a’u consyrn am eu cymdogion a ddioddefodd o ganlyniad i’r glaw mawr, a ddeilliodd o’r tor-cwmwl a fu yn y mynyddoedd uwch ein pennau. Yn ôl yr adroddiadau, mae’n ymddangos bod hwn y math o achlysur a bro�ir unwaith mewn dau gan mlynedd. Gobeithio’n wir na phro�ir unrhyw beth tebyg eto yn yr ardal hon’.
Ellen ap Gwynn Arweinydd Cyngor Ceredigion
‘Bydd y Panel Ymgynghorol a minnau yn cwrdd yn fuan i bennu canllawiau i ddosbarthu gweddill y gronfa. Bydd yr ail tranché ar gael i helpu pobl sydd yn dal mewn trybini ariannol yn dilyn y difrod i’w cartre�i’.
O’r gronfa, cadarnhawyd y byddai £80,650 yn cael ei rannu rhwng 130 o bobl, gan dderbyn taliad o un ai £700 neu £250. Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â beth i’w wneud gyda gweddill y gronfa. Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn,
i’r tywydd er mwyn cael cnu sych. Ond y go�id mwyaf oedd goroesiad y defaid ar ôl iddynt gael eu cnei�io.
“Tra bo dynoliaeth...”
Megan ‘Sarne’ sydd yn cael cipolwg ar helyntion y byd amaeth dros yr haf.
Y tywydd. Er cymaint o siarad sydd amdano gan bawb ... ni all neb ei reoli.
Fe’n chwipiwyd eleni gan gawodydd stormus a diddiwedd. Dengys f�igurau’r Swyddfa Dywydd mai Mehe�in 2012 oedd y mis Mehe�in gwlypaf yn hanes recordio a monitro glawiad ym Mhrydain. Mae’r tymor gwlyb hwn wedi effeithio ar bawb, ac yn enwedig ar y sector amaethyddol. Pur anaml oedd y cy�le i ddiosg y gôt fawr a’r welintons. Cleisiwyd y diwydiant llaeth unwaith eto yng Nghymru yn ystod mis Gorffennaf. Penderfynodd pedwar o’r prif broseswyr llaeth y byddent yn torri dwy geiniog y litr oddi ar bris y llaeth. Newyddion enbydus i ffermwyr, am na fyddai’r prisiau yn ddigonol i gyfateb i’r gost o gynhyrchu’r llaeth. O ganlyniad, heidiodd dros 2000 o brotestwyr i Lundain ym mis Gorffennaf.
Effeithiwyd ar ffermwyr defaid eleni hefyd. Profa f�igurau Hybu Cig Cymru fod 10% yn llai o ŵyn wedi llwyddo i gyrraedd y farchnad o gymharu â 2011. Bu’r tymor cnei�io yn un hir eleni wrth iddynt orfod ymateb
Bu’n gyfnod hynod hunllefus i arddwyr wrth i’w llysiau grebachu, a’u cynnyrch blymio i’r dyfnderoedd. Gadawa hyn effaith hirdymor ar brisiau bwyd ar gyfer y gaeaf. Dywedodd rheolwraig llysiau organig Blaencamel ei bod wedi dioddef colled ddirdynnol eleni, ac mae nifer o arddwyr wedi cwyno am falltod y tatws (potato blight). Heb os, mae’r hafau gwlyb hyn wedi dyfod ar ein gwarthaf ers rhyw bum mlynedd bellach. Roedd y silwair yn o�id mawr i nifer o ffermwyr Cymru, wrth i’r cnwd ddechrau syrthio a melynu, a phoenent na ddeuai’r un llygedyn o desni. Ond diolch i’r drefn, fe’n cusanwyd â phelydrau’r haul am wythnos gron yng nghanol Gorffennaf. Gallwch fentro bod y tractorau, y belars a’r combeiniau allan yn eu cannoedd yr wythnos honno, a’r rhan helaethaf o diroedd amaethyddol Cymru yn cael ei chynaeafu.
Er gwaethaf y sibrydion gwag oedd ar led, cynhaliwyd Sioe Amaethyddol Cymru fel yr arfer. Bu’n un o’r sioeau mwyaf llwyddiannus erioed gyda thyrfa sylweddol yn dod bob diwrnod i fwynhau’r haul a’r arddangosfeydd. Llwyddasant i dorri eu record wrth i 241,099 o bobl fynychu’r sioe yn ystod yr wythnos. Cafwyd cystadlaethau lu, a sylwebaeth lawn ar yr holl ddigwyddiadau gan gy�lwynwyr brwdfrydig S4C. Rwy’n siŵr i sawl ffermwr golli’r sioe eleni wrth iddynt fanteisio ar y cy�le i gasglu’r cynhaeaf. Llwyddodd Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru i arlwyo gwledd o weithgareddau hwyliog yn ystod y sioe. Bu’r aelodau yn cystadlu’n frwd trwy gydol yr wythnos. Sir
4
Bydd y gronfa apêl yn parhau i fod ar agor hyd at Fehe�in yr 8fed, 2013 (blwyddyn yn union ers dechrau’r llifogydd). Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gronfa apêl, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk
Aled Morgan Hughes
Geredigion a Sir Faesyfed lwyddodd i ennill y nifer mwyaf o bwyntiau am gystadlaethau’r wythnos. Roedd y pentref ieuenctid dan ei sang eleni eto, a diddanwyr enwog yn mentro i’r llwyfan gan gynnwys tri DJ poblogaidd o Radio 1, sef Greg James, Huw Stephens a Scott Mills.
Mae’r haf bob amser yn gyfnod sy’n llawn digwyddiadau ac yn gy�le euraid i gyd-amaethwyr gymdeithasu. Mae’n binacl ar gyfer treialon cŵn defaid a sioeau lleol. Mae’r sioeau lleol yn gy�le anhepgor i arddangos pob math o gynnyrch cefn gwlad ar ei orau, o geffylau i gacennau. Mae sioeau Sir Fôn a Sir Benfro yn ddwy sioe sylweddol, a braf oedd cael ymuno yn yr hwyl, wrth i’w hucha�bwyntiau gael eu darlledu ar S4C. Ym mis Medi 2012, fe fydd fferm Morfa Mawr ger Llanon yng Ngheredigion yn cynnal pencampwriaeth aredig y pum gwlad. Er gwaetha’r gwlybaniaeth, mae haf 2012 wedi bod yn haf i’w go�io, ac yn un hanesyddol wrth i’r gemau Olympaidd a Pharaolympaidd ddod i Lundain. A do, fe fanteisiodd ffermwyr ar y digwyddiadau hyn, gan gy�lenwi cigoedd i’r digwyddiadau enfawr. Bellach, mae Cig Oen Mynyddoedd y Cambria yn cy�lenwi cig oen i Wimbledon a Harrods.
Bydd wythnos y glas Ffermwyr Ifanc Cymru yn cael ei chynnal ar 4/5 o Hydref yng Nghaerdydd i danio’r f�lam ar gyfer blwyddyn arall o gystadlu graenus. Yr un fydd y stori wrth inni danio f�lam tymor newydd o fewn y Brifysgol. Ac wrth i dymor yr hydref wynebu byd ffermio, gobeithiwn am Haf Bach Mihangel.
Megan Elenid Lewis
SEFYDLWYD 2012
Newyddion o’r Dre’ a thu hwnt
hnos y Glas 2012
“Wyt ti’n co�io teulu’r Beasleys?” Dathlu bywyd y ddiweddar Eileen Beasley.
Ychydig dros �is yn ôl, collodd Cymru a’r iaith Gymraeg un o’i chymwynaswyr pennaf, Eileen Beasley. Cyfeirir ati’n aml fel ‘Rosa Parks Cymru’ am ei sa�iad hi a’i gŵr, Trefor Beasley, yn ôl yn y 50au, i sicrhau bil treth dwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.
Fe’i gelwir gan rai yn ‘Fam gweithredu uniongyrchol’ y Gymraeg gan iddi arwain ymgyrch 8 mlynedd heb gefnogaeth unrhyw fudiad na phlaid wleidyddol i sicrhau tegwch i’r Gymraeg. Dyma un o’r ymgyrchoedd a sbardunodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith a phrotestio torfol o blaid y Gymraeg yn 1962. Un blaguryn yn neffroad y genedl a dechrau gwanwyn newydd i’r iaith Gymraeg oedd Eileen Beasley mewn cyfnod pan nad oedd statws i’r Gymraeg o gwbl, ac yn gyfyngedig i’r capel a’r aelwyd. Ar ôl priodi a symud i Langennech ger Llanelli, penderfynasant wrthod talu’r dreth ar y tŷ oni chaent gais yn y Gymraeg.
Mewn cymuned ble’r oedd naw o bob deg yn medru’r Gymraeg, a holl swyddogion a chynghorwyr y cyngor lleol yn Gymry Cymraeg, roedd derbyn bil treth uniaith Saesneg yn anghymesur yng ngolwg Eileen a Trefor. Buont yn y llys un ar bymtheg o weithiau ac fe fu’r bwmbeilïaid yn eu cartref bedair gwaith, gan fynd â dodrefn o’u tŷ ar fwy nag un achlysur gan adael dim ond gwlâu a bwrdd ar un adeg. Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu di�lino fe gawsant eu papur treth dwyieithog yn 1960.
Er y sa�iad hwn, prin iawn oedd ymwybyddiaeth y Gymru Cymraeg o’r sa�iad tan i ddarlith enwog Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’, eu hanfarwoli ym 1962. Dywedodd Saunders:
�iad yn dal i fod yn batrwm hyd heddiw i rai ymgyrchwyr iaith. Dathlwyd eu haberth yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni lle roedd pabell wag ar y maes yn gofeb i’r cartref gwag yn Llangennech pan oedd y frwydr ar ei hanterth. Bu farw Eileen ddydd Sul olaf yr Eisteddfod, felly mae’n dyled yn fawr i’r unigolion a gafodd y weledigaeth i goffáu’r frwydr ar faes y Brifwyl, drigain mlynedd ar ôl y sa�iad gwreiddiol. Mae’n amserol i ni felly dalu teyrnged i’r diweddar Eileen a Trefor Beasley am y sa�iad a wnaethant dros yr hyn rydym ni’n ei gymryd yn ganiataol heddiw, sef hawliau a statws i’r Gymraeg a’i siaradwyr. Diolch yn fawr i deulu’r Beasleys am osod sylfeini’r Gymru rydym ni’n ei hadnabod heddiw.
A thra byddo dyfodol I’r Gymraeg yma ar ôl Fe welir naddu �ilwaith Dy enw di yn dy iaith. Gerallt Lloyd Owen.
Adam Jones
“Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati.”
Gostyngiad o 10% ar archebion dros £10 os defnyddiwch y daleb hon
Roedd sa�iad Eileen a Trefor yn gydnaws â’r dulliau chwyldroadol a ddelfrydid gan Saunders, ac mae eu sa-
Marwolaeth Myfyriwr
Mae corff dyn ugain oed a ddarganfuwyd ar briffordd yr A444, ger Nuneaton yn Swydd Warwick, wedi cael ei adnabod fel Sean Andrew Morley myfyriwr Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cafodd corff Mr Morley, a fuasai wedi dechrau ei �lwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd Medi, ei ddarganfod am 6:35am fore Sul yr 2il o Fedi, a bu’r ffordd ar gau am dros 10 awr. Mewn datganiad a ryddhawyd gan deulu Mr Morley yn dilyn ei farwolaeth, disgri�iwyd ef fel dyn ifanc ‘adnabyddus a phoblogaidd’, a dywedwyd y bydd yn cael ei ‘fethu yn arw’, ac y bydd yn gadael ‘bwlch enfawr’ yn eu bywydau.
Roedd Mr Morley yn chwaraewr rygbi brwd i dîm Myfyrwyr Prifysgol Aberyst-
wyth, ac i’w glwb lleol yn Nuneaton, lle roedd yn gapten, ac wedi ennill nifer o wobrau yn ystod ei yrfa. Mewn cyfweliad â’r Heriwr, dywedodd capten tîm rygbi’r Brifysgol, Greg Lewis: ‘Roedd Sean yn uchel iawn ei barch gan weddill y tîm ac unrhyw un arall a oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod.
‘Roedd ganddo wên ar ei wyneb o hyd, ac nid oedd byth eiliad ddi�las yn ei gwmni. Fel chwaraewr rygbi, roedd yn ymroddgar iawn i’r tîm ac yn awyddus iawn i chwarae. ‘Bydd y golled yn ergyd enfawr i’r clwb ac i’r holl ffrindiau oedd ganddo .’ Aeth Mr Lewis yn ei �laen i nodi fod y clwb yn bwriadu cynnal nifer o ddigwyddiadau i go�io am Mr Morley. Datgelodd eu bod yn bwriadu cynnal gêm goffa, munud o daw-
elwch cyn amryw o gemau ar ddechrau’r tymor, ynghyd ag anfon crys wedi’i arwyddo gan holl chwaraewyr y tîm i rieni Mr Morley. Bellach, mae nifer o bobl wedi gosod blodau a negeseuon wrth y briffordd lle darganfuwyd ei gorff, ac mae dros 2,200 o bobl wedi ‘hof�i’ tudalen ar Facebook a sefydlwyd fel teyrnged i Mr Morley, gyda ffrindiau o Aberystwyth a Swydd Warwick yn gadael sylwadau ac yn ychwanegu lluniau ohono.
Arestiwyd dyn 21 oed i’w gwestiynu gan y Heddlu am droseddau gyrru, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Hoffai’r Heriwr estyn ein cydymdeimladau at deulu a chyfeillion Mr Morley ar yr adeg anodd hon.
Aled Morgan Hughes
5
YR HERIWR
Rhifyn Wyth
P�� ��’� H����?
Dyma fanylion holl aelodau’r bwrdd golygyddol a’r pwyllgor sydd yn gweithio’n ddygn i gyhoeddi’r papur hwn.
Y B���� G���������
Miriam Williams
Siôn Eilir Pryse
Elin Haf Gruffydd
golygyddol@yrheriwr.org
Gohebydd Newyddion Cyffredinol
newyddion@ yrheriwr.org
Aled Morgan Hughes
Gohebydd Bywyd Cymdeithasol
cymdeithasol@ yrheriwr.org
Ffraid Gwenllian
Swyddog Marchnata a Hysbysebu
hysbysebu@ yrheriwr.org
Aled Wyn Williams
Ynghyd â Llywydd UMCA a Materion Cymreig, rydym wedi mynd ati i lunio strategaethau a chamau er mwyn sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg y Brifysgol. Wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i siarad gyda chi, ac i weithredu ar y stratagaethau. Fe fydd cy�le i bawb fynychu cyfarfodydd ‘Ein Hiaith: Ein Haddysg’. Dyna fydd eich cy�le i ofyn cwestiynau, cynnig syniadau a derbyn atebion. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar y 3ydd o Hydref am 5:30yh yn Lolfa Fach Pantycelyn. Mae croeso mawr i chi i gyd.
Gohebydd Materion Addysg
addysg@ yrheriwr.org
Elliw Hâf Pritchard
Gohebydd Chwaraeon
Bethan Walking
Gohebydd Cymdeithasau
cymdeithasau@ yrheriwr.org
Mae’n fwriad gen i wella sefyllfa’r offer cy�ieithu yng nghyfarfodydd yr Undeb, sydd wedi bod yn wael ac annigonol am gyfnod hir. Fe fyddwn ni hefyd yn parhau gyda’r prosiect ‘UMCA yn y Gweithle’, lle byddwn yn gwahodd busnesau i gynhadledd yn y Brifysgol i drafod sut y gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned gyda chymorth myfyrwyr. Dyna rai o’r materion sydd gennym ni ar y gweill, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â chi yn ystod y �lwyddyn nesaf a chael rhannu syniadau eraill gyda chi. Edrychaf ymlaen at frwydro dros yr iaith yn y Brifysgol a’ch cynrychioli chi eleni. Gadewch i ni ddangos i bawb fod y Cymry’n barod i leisio barn, a mynnu tegwch!
cymstaff@aber.ac.uk jae20@aber.ac.uk
Jacob Dafydd Ellis
chwaraeon@ yrheriwr.org
Swyddog yr Iaith Gymraeg
Llywelyn Williams
Sgwâr Owain Glyndŵr Aberystwyth
Swyddog Dylunio a Ffotograf�iaeth
CDau ¥ llyfrau plant ac oedolion ¥ cardiau ¥ mapiau ¥ posteri ¥ cerddoriaeth ¥ cylchgronau ¥ lluniau ¥ bathodynnau ¥ pethe Cymreig eraill
dylunio@ yrheriwr.org
Eiri Angharad Siôn
Yn ogystal â’r cyfarfodydd uchod, rydym yn gobeithio pasio sawl polisi newydd a fydd yn cry�hau statws yr iaith Gymraeg ac yn mynnu tegwch. Mae eich mewnbwn yma’n allweddol.
Gruffudd Antur
Y P������� G�����
Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ac yn gyfnod heriol hefyd. Mae llwyddiannau fel datblygu Polisi Dwyieithrwydd yr Undeb a phresenoldeb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dangos nad sefyll yn ôl yw ein bwriad. Er hyn, mae gennym sawl sialens arall i’w goresgyn. Rhaid sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn derbyn ei statws gyfartal a theg ym mhob agwedd ar fywyd myfyrwyr a staff y Brifysgol.
Yn ystod gwyliau’r haf, rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda Llywydd yr Undeb, Ben Meakin, Llywydd UMCA, Carys Thomas ac yn ogystal, siarad ag amryw o aelodau blaenllaw’r Brifysgol er mwyn trafod materion y gymuned Gymraeg. Mae’r gefnogaeth yn amlwg, ond eu cymell i barhau gyda’r awch honno yw’r her.
Adam Jones
Jacob Dafydd Ellis
Y Gymraeg yn Aber
siopypethe@btconnect.com tel: 01970 617120
6
SEFYDLWYD 2012
hnos y Glas 2012
M������ ����� �� ���� I����!
Mae bod yn gynrychiolydd y Gogledd a’r Gorllewin ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn fraint o’r mwyaf. Ond i’r rhan fwyaf ohonom, rhywbeth newydd yw’r Coleg; rhywbeth efallai nad ydym yn ei ddeall yn iawn. Cwestiynau rwy’n eu clywed yn aml yw “Beth yw’r Coleg?” a “Sut alla i fod yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a hefyd yn aelod o Brifysgol Aberystwyth?” Bwriad y golofn hon felly yw ceisio ateb y cwestiynau hynny ac egluro tipyn o hanes sefydlu’r Coleg a’i ddyfodol. Coleg sy’n gweithredu ar lefel genedlaethol yw’r Coleg Cymraeg. Fe’i sefydlwyd yn 2010 gyda’r bwriad o gynllunio, cynnal a meithrin y galw
ment Newydd i’r Gymraeg, ac mae’n adrodd cyfrolau am gefndir a chymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel y soniais uchod, myfyrwyr Aberystwyth a ddaeth at ei gilydd i ‘fynnu dysg yn eu hiaith’ ac i roi neges glir i Lywodraeth Cymru am yr angen am strategaeth genedlaethol i wthio’r syniadau hynny yn eu blaenau.
am addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gellid dweud mai yn y brifysgol hon y ganwyd y Coleg. Myfyrwyr a darlithwyr Aberystwyth a orymdeithiodd i lawr trwy’r campws at riw Penglais yn eu cannoedd gydag un neges, sef eu bod am fynnu addysg yn y Gymraeg. Cyn hynny, darpariaeth fylchog a geid trwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw fuddsoddiad sylweddol na chynllunio cenedlaethol er mwyn cynyddu a gwella’r ddarpariaeth honno.
Er bod gennym bellach Goleg Cymraeg Cenedlaethol, diystyr yw’r Coleg heb fyfyrwyr yn perthyn iddo. Myfyrwyr fydd yn sicrhau fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Mae bod yn aelod o’r Coleg Cymraeg yn gyffrous: mae’n gymuned o gymunedau fel petai. Cymuned o fyfyrwyr a darlithwyr sydd â’r un weledigaeth: y weledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Wrth ddod yn aelod o’r Coleg byddwch yn cyfrannu at y weledigaeth honno, ac yn derbyn cymorth a chyngor ar faterion fydd yn golygu nad ydych wedi’ch ynysu fel myfyriwr cyfrwng Cymraeg.
Yn sgil sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae gennym sefydliad amlwg i hybu a hyrwyddo addysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Ond, yn bwysicach fyth, mae gennym strategaeth; strategaeth a luniwyd gan fyfyrwyr ac ysgolheigion ein cenedl i sicrhau ein bod yn cynyddu’r cy�leoedd sydd gennym i astudio trwy gyfrwng ein hiaith, a’n bod yn gallu manteisio’n llawn ar y cy�leoedd hynny. Arwyddair y Coleg yw ‘Mynnwch ddysg yn eich iaith.’ Dyma ddyfyniad o waith William Salesbury, cy�ieithydd y Testa-
Penodwyd Carys Ann Thomas yn Llywydd newydd UMCA a Materion Cymreig y Brifysgol ar gyfer y �lwyddyn hon, gan olynu Tammy Hawkins. Yn ei swydd, bydd Carys yn gyfrifol am amrywiaeth o wahanol ddyletswyddau, gan wasanaethu anghenion Cymraeg myfyrwyr y Brifysgol a’u cynrychioli’n effeithiol i geisio sicrhau statws teilwng i’r Gymraeg o fewn y sefydliad.
Daw Carys yn wreiddiol o bentref Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin, ac fe raddiodd yn gynharach eleni o Brifysgol Aberystwyth, lle bu’n astudio Daearyddiaeth. Galwodd Yr Heriwr draw am sgwrs ac ambell gwestiwn digon hwyliog yn Swyddfa UMCA, er mwyn ein helpu ni, ac yn enwedig y myfyrwyr y �lwyddyn gyntaf, i ddod i adnabod ein Llywydd newydd yn well.
Os oes unrhyw bryderon gennych ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg, eich cwrs neu unrhyw fater arall yn ymwneud â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi. Rwyf yma i fod yn glust i’ch problemau a hefyd yn llais i geisio eu datrys.
drj5@aber.ac.uk Adam Jones
Cynrychiolydd Myfyrwyr y Gogledd a’r Gorllewin ar Fwrdd Academaidd y CCC.
Trwy eich cynrychioli chi ar Fwrdd
Dod i Adnabod: CARYS UMCA
Ti’n adnabyddus am dy wallt coch. Pwy yw dy hoff ‘gochyn’ erioed?
Helo Carys a llongyfarchiadau ar gael dy benodi yn Llywydd newydd UMCA! Cwestiwn cyntaf, pa un yw dy ffefryn yr Eisteddfod Genedlaethol neu’r Sioe Frenhinol?
rwy’n mwynhau ei gwylio hi. Serch hyn, mae Cruella De Vil yn dal i lwyddo i ‘nychryn i bob tro!! Hoff lyfr?
Tim Minchin - mae e’n ddyn mor rhyfedd, ond eto mor ddoniol a thalentog.
Diolch yn fawr! Mae hwn yn gwestiwn caled iawn, rwy’n joio’r ddau ond, fel merch fferm, mae’r Sioe bob tro’n dod yn gyntaf!
Cwestiwn rili anodd. Mae gen i gymaint o ffefrynnau a nifer o gyfresi gwahanol rwy’n eu mwynhau, ond dwi’n credu mai Harry Potter (y gyfres gyfan) yw’r ffefryn yn y pen draw.
Cymaint o opsiynau i ateb hwn, ond credu’r un symlaf sydd yn taro’r hoelen ar ei phen yw Iwcs a Doyle - Da Iawn.
Digon teg. Pêl-droed neu rygbi?
Fis Medi eleni, wrth i’r myfyrwyr fentro yn ôl i Aberystwyth am �lwyddyn o hwyl, gwledda, ac wrth gwrs, astudio, bydd un gyn-fyfyrwraig yn dechrau cyfnod mewn swydd yr un mor gyffrous a heriol.
Academaidd y Coleg, rwyf wedi gallu sicrhau bod llais myfyrwyr yn llais sy’n cael ei glywed. Eleni yn Aberystwyth bydd 5 swydd darlithio newydd trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae yna gynlluniau i gynyddu hynny’n sylweddol. Mae adrannau a fu’n amwys tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol bellach yn rhannu’r un weledigaeth o gynyddu’r niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hoff raglen deledu?
Rygbi.
Rwy’n bach o geek pan mae’n dod i raglenni teledu ac yn ffan mawr o raglenni Sci-Fi, felly Doctor Who o bosib yw fy hoff raglen deledu. Ond fe wnes i hala lot gormod o oriau o’n amser sbâr i ym Mhanty yn gwylio Friends, felly mae hwnna hefyd yn ffefryn.
Mae pêl-droed yn iawn i’w wylio ond does dim byd fel cyffro un o gemau rhyngwladol Cymru Hoff dafarn yn Aberystwyth?
Y Llew Du heb os! Mae yna ddigonedd o dafarndai gwych yn Aber, ond mae’r atgo�ion o fod yn y Llew gyda’m ffrindiau yn rhai o’r atgo�ion gorau sydd gen i o’r tair blynedd diwethaf
Ar gyfer Gloddest UMCA eleni, os buaset yn medru dewis siaradwr gwadd o unrhyw gyfnod drwy hanes, pwy fuaset yn ei ddewis?
Hoff ddiod alcoholig?
John Lennon, ac mi fyddwn i’n gofyn iddo ddod â Paul McCartney, George Harrison a Ringo Star gydag e er mwyn cael y Beatles i chwarae!
Strongbow a black. Ond gwin rosé pan rwy’n treial bod yn sof�istigedig! Pa glwb pêl-droed - Abertawe neu Caerdydd?
Mae ‘na bry copyn enfawr yn Swyddfa UMCA a ti ar dy ben dy hun. Beth wyt ti’n ei wneud?
Credu bydd gen i elynion ar ôl ateb hwn ... dim un ohonynt! Rwy’n cefnogi Chelsea.
Os bydde neb o gwmpas Pantycelyn, dwi’n credu byddai’n rhaid i mi ei godi a’i da�lu mas trwy’r ffenest. Does ‘da �i ddim llawer o ofn pry cop, ond mi fyddai cael neidr yn y swyddfa yn stori hollol wahanol!!
Hoff f�ilm Disney?
101 Dalmatians. Hon oedd y f�ilm gynta’ i mi ei gweld yn y sinema ac ers hynny
7
Os byddet ti’n gorfod disgri�io dy fywyd drwy ddefnyddio enw cân, pa un fuaset ti’n ei dewis?
Mewn f�ilm am dy fywyd, pa actores fuaset yn dewis i chwarae dy ran di? Karen Gillan oherwydd, yn amlwg, byddai’n rhaid iddi fod yn gochen ond hefyd mae hi’n actores wych.
Os bydde gennyt ti DARDIS Dr Who, i ba gyfnod mewn hanes y buaset ti’n trafeilio’n ôl iddo a pham? Bydden i’n teithio’n ôl i ddiwedd y 1960au a dechrau’r 70au oherwydd mae’n gyfnod cyffrous iawn yn hanes Cymru ac yn llawn pobl ddylanwadol iawn.
Hefyd roedd cerddoriaeth Cymru a Phrydain yn anhygoel yn y cyfnod hwn, a sai’n credu bod angen i �i ddechrau sôn am y ffasiwn. Credu ei fod yn bosib mod i wedi cael fy ngeni yn y degawd anghywir! Ac yn olaf, cwestiwn sydd wedi rhannu Cymry ers degawdau - Meic Stevens, neu Dafydd Iwan? Dafydd Iwan.
Aled Morgan Hughes
YR HERIWR
Byw Bywyd i’r Eithaf
‘M�� ’�� ������ �� � N������ ������ ���...’ A ninnau’n cychwyn ar �lwyddyn newydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, cawn edrych ymlaen at aduno gyda hen ffrindiau, croesawu myfyrwyr newydd ac, wrth gwrs, meddwi’n a�iach yn ystod nosweithiau Wythnos y Glas! Hoffwn ddefnyddio’r erthygl yma i groesawu’r myfyrwyr newydd, ac i’w llongyfarch nhw ar wneud y dewis cywir wrth ddod i Aberystwyth fyddwch chi ddim yn difaru! Yn hytrach na sôn yn uniongyrchol am ddigwyddiadau Wythnos y Glas, rydw i am sôn am y llefydd pwysicaf yn Aberystwyth, y llefydd y byddwch chi i gyd yn dod i’w caru yn ystod eich blwyddyn gyntaf yma fel myfyrwyr - y tafarndai wrth gwrs.
Byddaf yn rhoi rhyw fath o ‘ganllaw tafarndai ’ ichi, a sôn am rai o’r llefydd bwyta y byddwch chi’n baglu i mewn iddynt ar ddiwedd noson allan. Yn ogystal â hyn, byddaf yn rhoi marc allan o ddeg iddynt, a rhoi fy marn ‘arbenigol’ ar bob un ohonynt. Gobeithiaf y bydd hyn yn eich helpu chi fel myfyrwyr newydd i ymgartrefu yn y dref fendigedig hon!
Harry’s
Bar bach eithaf ffasiynol yw hwn, o’i gymharu â rhai o dafarndai hŷn y dref. Mae’n raddol wedi troi yn un o’r tafarndai mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr Aberystwyth, ac mae llawer o’r diolch am hynny i’r Gaa sy’n cael ei gynnig yno (pedair siot o fodca, cordial a lemonêd).
Mae’n lle da i’r myfyrwyr fynd ar gychwyn eu nosweithiau er mwyn meddwi’n gy�lym! Mae gwasanaeth bwyd sof�istigedig ar gael ar ochr arall y dafarn ac, er bod hyn yn hyfryd pan fyddwch chi eisiau cinio dydd Sul i setlo hangover y noson gynt, siom yw dweud mai ymateb chwyrn a gewch gan aelodau o’r staff pan fydd y myfyrwyr yn dechrau chwarae eu gemau swnllyd! Mae digonedd o le yma er, pan fydd hi ar ei phrysuraf, mae hi’n anodd dod o hyd i le i eistedd. Caiff y lle ei hysbysebu fel tafarn Wyddelig, ond alla i ddim dweud ‘mod i wedi sylwi ar ddim sydd yn ei wneud yn fwy Gwyddelig na’r Llew Du i fod yn onest. Ond allwn i’n bersonol ddim dychmygu noson allan i’r Undeb neu i’r dref nad yw’n cychwyn gyda Gaa. Harry’s = 8/10
Yr Angel
Ychydig ddegawdau yn ôl, roedd hon yn un o’r prif dafarndai ymysg myfyrwyr Aber. Mae’n dafarn hynod draddodiadol gydag awyrgylch eithaf tywyll a chyfrin. Rhaid cyfaddef fod rhwyg ymysg myfyrwyr heddiw ynglŷn â’u barn ar y dafarn hon, gyda rhai myfyrwyr ymhongar yn ei gweld yn hen-ffasiwn ac eraill o’r gred ei bod yn glasur ymysg tafarndai Aberystwyth. Nid oes amheuaeth nad oes delwedd hynod unigryw i’r dafarn hon, ac nad yw hi wedi cael ei thynnu i mewn i’r ailddodrefnu sydd wedi digwydd yn y rhan fwyaf o dafarndai eraill y dref. Mae’n lle gwych i fynd i gymdeithasu ar ddi-
wedd noson, gan ei bod ar agor tan oriau mân y bore. Yn ogystal â hyn, mae’r ystafell ddigwyddiadau ar y llawr gwaelod yn cynnal nosweithiau difyr iawn ar benwythnosau, sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr! Nid oes digon o bobl yn gwerthfawrogi’r Angel yn fy marn i; mae’n lle gwych i orffen noson! Yr Angel = 7/10
Yr Academi
Efallai mai gwell fyddai anwybyddu’r eironi mai hen gapel wedi cael ei drawsnewid yn dafarn yw’r Academi. Beth bynnag yw eich sa�bwynt ar hyn, nid oes posib gwadu steil unigryw’r dafarn hon. Mae dau lawr i’r dafarn - y llawr cyntaf yn cynnig adloniant, gan gynnwys bwrdd pŵl, a’r ail lawr, sef galeri’r hen gapel, yn cynnwys rhagor o lefydd eistedd, gan ei bod yn dueddol o fod yn llawn myfyrwyr yma, yn enwedig ar benwythnosau! Mae pawb yn dueddol o ddod yma yn agos at ddiwedd y noson, ar ôl gorffen yn y tafarndai ond cyn mynd i un o’r clybiau. Er fy mod yn hoff iawn o ddelwedd a steil y dafarn hon, nid yw’n lle y bydda’ i’n edrych ymlaen at fynd iddo’n benodol ar noson allan. Academi = 6/10
Wetherspoons - Yr Hen Orsaf Cyn cychwyn, mae’n rhaid imi gyfaddef mai prin iawn yw fy ymweliadau â Wetherspoons. Mae’n dafarn sydd allan o’r ffordd braidd, ac yn dipyn o daith i ffwrdd o brif dafarndai’r dref, sy’n boen braidd oherwydd pan fyddwn ni’n mynd yno, mi fyddwn ni’n mwynhau. Jygiau yw’r dewis mwyaf poblogaidd yma gan amlaf gan fod bargen i’w chael - dau am ddeg punt. Mae hi’n dafarn ffasiynol sy’n cynnig bwyd da a llwyth o wahanol fargeinion ar ddiodydd, felly, yn syml, os nad oes ots gennych chi fynd allan o’ch ffordd, mae’n lle gwych i fyfyrwyr sy’n brin o arian! Wedi dweud hyn, gan fod cadwyn o dafarndai Wetherspoons ar hyd a lled y wlad, mi gewch chi’r un driniaeth, yr un pro�iad a’r un gwasanaeth araf wrth giwio am ddiod ag a gewch ymhob Wetherspoons arall. Nid ydyw’n bro�iad gwefreiddiol, gwahanol nac arbennig i Aberystwyth o bell ffordd. Dyna pam mai dim ond 6/10 ydw i’n ei roi i’r hen Wethers ... neu Spoons - be’ bynnag ‘dech chi’n dewis ei alw o! Wetherspoons = 6/10
Varsity
Fel Wetherspoons, cadwyn o dafarndai corfforaethol ydi Varsity ond, os ydych chi’n casáu mynd i Varsity fel arfer, rhowch gy�le i un Aberystwyth. ’Dw i’n addo i chi fod ymdeimlad gwahanol yno i bob Varsity arall rydw i wedi bod ynddo. Mae’r awyrgylch hamddenol yn galluogi myfyrwyr i gael hwyl ymysg ei gilydd heb orfod poeni am rywun yn dweud wrthynt am fod yn dawel.
Mae’r staff yn garedig iawn ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fyfyrwyr eu hunain, felly maen nhw’n deall mai eisiau
8
Rhifyn Wyth
hwyl rydyn ni! Mae’n boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr gan fod diodydd yn weddol rad yma (ceisiwch gael gafael ar ‘V card’ sy’n golygu y gallwch fanteisio ar fargeinion - yn enwedig ar nos Fawrth, sef noson ‘Punt y peint’).
Mae’r ‘Bowlen Bysgod’ yn ddewis ffasiynol yma ar nosweithiau eraill, sef yr un peth a jwg yn y bôn, ond ei fod o mewn powlen bysgod... yn amlwg. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n holi am eich ‘Powlen Bysgod’ heb rew, neu dim ond rhyw bedair gegaid fydd ynddi! Yr unig beth sy’n boen ar nosweithiau prysur ydi’r ffaith nad oes byth le i eistedd ond, fel arall, ’does gen i fawr i gwyno amdano! 8/10 i Varsity Aberystwyth - pwyslais ar Aberystwyth fan ’na oherwydd, o bro�iad, mae’r gweddill yn anobeithiol! Varsity Aberystwyth = 8/10
Salt
Nid yw Salt yn dafarn arbennig o boblogaidd ymysg myfyrwyr, nac yn ddewis amlwg ar bob crôl, sy’n bechod mewn gwirionedd, achos mae’n lle bach braf, chwaethus. Mae’r ffordd y mae wedi cael ei addurno yn cylchdroi o amgylch y traeth a steil surf unigryw, sy’n hollol wahanol i dafarndai eraill Aberystwyth. Nid yw’r lle byth yn llawn o fyfyrwyr, felly os ydych chi ffansio diod dawel i ffwrdd o’r holl brysurdeb, dyma’r lle i chi! Efallai y byddai amrywiaeth ehangach o alcohol yn denu mwy o fyfyrwyr ar benwythnosau; pwy a ŵyr. Mae prisiau yn weddol rad yma, ac mae modd i fyfyrwyr brynu cardiau disgownt am bunt yr un. I fod yn onest, ’dw i’n teimlo braidd yn annheg yn rhoi fy marn ar Salt gan nad ydw i wedi bod yno’n ddigon aml o bell ffordd! Ond, o beth ydw i wedi’i weld, tydy o ddim y math o le rydw i eisiau mynd iddo ar noson allan. Ond os ydych chi’n hoff o awyrgylch hamddenol, tawel ar noswaith allan, byddwch fwy na thebyg yn anghytuno hefo �i! Salt = 6/10
Pier Pressure Y clwb mwyaf yn Aberystwyth. Ond gan mai ond dau glwb yn unig sydd yno, tydy hynny’n fawr o gamp! Os ydych chi, fel �i, yn hoff o ddawnsio ar ddiwedd noson allan, mae’n debygol mai yn Pier Pressure y byddwch chi’n eich ffeindio’ch hun!
Mae’n hynod boblogaidd ymysg myfyrwyr, yn arbennig ar benwythnosau, er mai dyna pryd mae’n costio fwyaf i fynd i mewn. Ond mae pawb yn fodlon talu mwy, gan mai dyma’r lle i fod ar ddiwedd nos Sadwrn. Mae’n bosib defnyddio eich cardiau myfyriwr i gael gostyngiad ar y pris yma, felly co�iwch ddod ag ef gyda chi ar nosweithiau allan! Mae Why Not (isod) wedi pro�i’n fwy poblogaidd na’r Pier yn ystod dechrau’r wythnos gan nad oes angen talu i fynd i mewn o gwbl bryd hynny. Llawr dawnsio anferth yw Pier Pressure yn y bôn, gyda bar ar y ddau ben, a llefydd eistedd wedi eu gwasgaru o’i amgylch. O ystyried eu bod yn ceisio creu’r ddel-
hnos y Glas 2012
wedd mai clwb caneuon cyfoes ydyw, gallan nhw fod ychydig yn fwy ‘on the ball’ hefo’r caneuon diweddaraf, ond maen nhw’n eithaf da ar y cyfan, i fod yn deg. Mae llawer o gwestiynu ynglŷn â diogelwch wedi bod ynghlwm â Pier Pressure, gan ei fod, wrth gwrs, ar y pier. Mae rhai wedi dweud eu bod yn teimlo’r llawr yn ysgwyd pan maent yn ddigon sobor i sylwi, ond peidiwch â phoeni, nid oes sail i’r cyhuddiadau hyn ... o beth rydw i’n ei wybod beth bynnag! Pier Pressure = 8/10
Why Not/Yoko’s
Er bod y clwb hwn dipyn yn llai na Pier Pressure, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n mwynhau nos Lun yn Why Not gymaint â nos Sadwrn yn Pier Pressure. Mater o farn ydi hynny mae’n siŵr, ond yn bersonol, mae’r gerddoriaeth fwy at fy nant i yma. Mae’r DJ yn chwarae cerddoriaeth amrywiol, sy’n wych i ddawnsio iddi, ond mae’r ffaith fod y llawr dawnsio mor fach yn broblem ar nosweithiau prysur.
Mae delwedd eithaf ffasiynol i’r lle ar y tu fewn, ond mae’n gwestiwn gen i a fuaswn i o’r un farn wrth edrych ar y lle drwy lygaid sobor. Digon posib fod y lle yr un mor hagr a diolwg ar y tu mewn ag y mae’n ymddangos ar y tu allan! Wedi dweud hynny, myfyrwyr sy’n llenwi’r lle y rhan fwyaf o nosweithiau, ac fel mae pawb yn gwybod, tydyn nhw ddim yn ffyslyd! Why Not = 8/10
Y Cŵps
Mae’r Cŵps yn lle gwych i fyfyrwyr, yn enwedig yn ystod Wythnos y Glas. Yma y bydd pawb yn cwrdd ar gychwyn crôls megis y Crôl Teircoes a’r Crôl Teulu. Tafarn ddi-ffws iawn yw hon, sydd heb weld llawer o newid yn y degawdau diwethaf. Credaf fod hyn yn beth da gan fod yr awyrgylch gwerinol, didwyll a gwreiddiol hwnnw yn apelgar iawn i fyfyrwyr heddiw. Mae’n lle gwych i gychwyn noson fawr, neu’n berffaith i fynd am beint tawel gyda ffrindiau (er nad yw mynd allan gyda’r bwriad o noson dawel wastad yn gorffen felly yn Aberystwyth!). Mae’r staff yn hynod gyfeillgar ac yn hapus iawn pan mae’r lle yn llawn bwrlwm ffraeth y myfyrwyr - mae’r Cŵps yn llawn haeddu 8/10 petai hynny ond am eu croeso cynnes bob amser! Y Cŵps = 8/10
Downies
Prin y gallech ystyried dod i Downies heb gael yr Admiral, sef pedair siot o fodca a Red Bull. Hon yw’r ddiod mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n mynd yno yn dewis ei hyfed (tydw i ddim yn edmygwr mawr ohoni’n bersonol). Mae’r lle, fel llawer o dafarndai eraill yn Aberystwyth, yn llawn myfyrwyr ar benwythnosau ond, yn anad dim, lle i’r bobl leol yw Downies yn ystod yr wythnos. Mae’n lle perffaith os ydych eisiau peint tawel yn ystod yr wythnos ond mae’n eithaf stwrllyd ar benwythnosau - sydd i’w ddisgwyl am wn i!
Mae Downies yn edrych fel tafarn glasurol, gyda rhyw ymdeimlad Gwyddelig ar brydiau - mae hyn yn beth cadarnhaol i lawer iawn o fyfyrwyr Aberystwyth, ond yn ddiffyg i rai criwiau ifanc, ymhongar sy’n gwyro tuag at y llefydd mwy ffasiynol. Pawb at y peth y bo yn y pen draw, ond mae dod yma ar grôls yn ystod Wythnos y
SEFYDLWYD 2012
Byw Bywyd i’r Eithaf Glas yn wych, gyda hwyl a chyffro’n llenwi’r dafarn. Yr unig wendid yn fy llygaid i, os ydych yn mynd yno ar benwythnosau pryd mae hi ar ei phrysuraf, mae’n anodd iawn clywed beth mae’r person wrth eich ymyl yn ceisio ei ddweud wrthych, heb sôn am geisio cael sgwrs gyda’ch ffrindiau! Downies = 6/10
Inn on the pier Er nad ydy o’n ymddangos fel y lle mwya’ ffasiynol o’r tu allan, mae’r rheolwyr wedi llwyddo i gadw delwedd Inn on the Pier yn un o ansawdd da iawn. O ystyried cymaint o amser sydd wedi pasio ers i’r dafarn gael gweddnewidiad, mae’n dipyn o gamp nad yw hi wedi cael ei gwthio i gefn meddyliau myfyrwyr a’i labelu fel tafarn hen-ffasiwn, ddi�las. I’r gwrthwyneb, mae’n fan poblogaidd ymysg myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr hŷn, ac mae wedi cael enw yn y gorffennol am ddenu criwiau eithaf cy�lafar a swnllyd. Mae Inn on the Pier yn un o’r ychydig dafarndai ar draws Prydain sy’n parhau i feddu ar drwydded pedair awr ar hugain yn ystod y penwythnos, sy’n golygu nad oes rhaid ichi fynd adref o gwbl os mai dyna’ch dewis chi! Mae nosweithiau adloniadol yn ystod yr wythnos hefyd, megis ‘Karaoke Madness’ ar nos Sul a nos Fercher ac, oherwydd ei bod yn chwaer-dafarn i glwb nos Pier Pressure drws nesaf, mae bargeinion gwahanol rhwng y ddau le er mwyn ichi gael gwerth eich arian! Yn ogystal â hyn, maent yn gweini bwyd drwy gydol yr amser agor, sy’n wych os ydych chi angen leinio’r ’stumog cyn cychwyn yfed, neu os ydych chi’n cael y ‘munchies’ wedi bod allan! Inn on the Pier = 6/10
Yr Undeb
Mae’r nosweithiau sydd yn cael eu cynnal yn yr Undeb yn ystod Wythnos y Glas yn rhai ar wahân i’r nosweithiau sy’n cael eu cynnal gan UMCA. Serch hynny, mae’n bosib y byddwch eisiau ehangu eich gorwelion a mynd i noson ‘Where’s Wally?’ neu barti ‘PaintGlow’ yn eich wythnos gyntaf. Wedi Wythnos y Glas, gallaf warantu y byddwch yn treulio o leiaf un noson yr wythnos yn yr Undeb, gyda ‘Reload’ ar nos Fercher, ble maent yn chwarae clasuron o’r 80au a’r 90au, neu ‘Mad Fridays’, ble mae bargeinion di-ri ar wirodydd a chwrw.
Cynhelir noson fwyaf UMCA, sef ‘Sŵn’, unwaith y mis yn yr Undeb, lle chwaraeir cerddoriaeth Gymraeg drwy gydol y nos. Ar y noson hon ar ddiwedd pob tymor, gwerthir cylchgrawn ‘Yr Utgorn’, sef clebar a hel straeon gwahanol am fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, felly os byddwch chi’n cael eich hun mewn sefyllfa anffodus, mae’n hynod debygol bydd y stori’n cael ei chyhoeddi yn y rhifyn nesaf! Rhaid imi gyfaddef fy mod i wrth fy modd yn yr Undeb, a ‘mod i wastad yn cael noswaith dda yno. Mae’r diodydd yn rhad, gan mai lle i’r myfyrwyr ydyw, ac mae’n gy�le i gymysgu gyda myfyrwyr gwahanol y Brifysgol. Mae yno hefyd le bwyd ar y llawr gwaelod i setlo chwant unrhyw un ar ôl sesh! Yr Undeb = 9/10
Kanes
Kanes ... y math o le y mae’n well bod yn eitha’ meddw cyn cyrraedd! Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn hapus yma, ond mae ‘na rai ymhongar fyddai’n troi eu trwynau ar y lle, i fod yn onest. Mae ’na laff i’w chael yma a thydy’r gerddoriaeth ddim yn rhy uchel, felly mae’n
9
bosib cael sgwrs hefo’ch ffrindiau. Mae’r lle wedi cael ei rannu yn ddau lawr, y bar ar y llawr uchaf, a’r bwrdd pŵl a rhagor o lefydd eistedd i lawr y grisiau (byddwch yn ofalus arnyn nhw!) Braidd yn fach ydi’r dafarn hon, yn enwedig pan fydd hi’n llawn, ond, wrth lwc, tydy hi ddim yn affwysol o brysur yma, hyd yn oed ar benwythnosau. Mae amrywiaeth weddol o ddiodydd yma, ac mae’r prisiau’n rhad ofnadwy, chwarae teg! ‘Dw i’n bersonol yn gweld y lle fel tŷ hanner ffordd rhwng Varsity a’r Hen Lew Du, ac mae o’n lle bach da ac ni fyddai sesh go lew yr un fath heb bicio i mewn am siot yn Kanes! Kanes = 7/10
Y Llew Du
Fel ma’ nhw’n ddweud; yr olaf a fyddant �laenaf, ‘te! ‘Does ‘na ddim amheuaeth nad y Llew ydi’r dafarn rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mlwyddyn gyntaf i ynddi, a hynny am y rheswm syml mai hon ydi’r dafarn orau yn Aberystwyth o’m sa�bwynt i. ‘Waeth os ydych yn mynd yno i gymryd rhan yn y cwis yn ddeddfol bob nos Lun, mynd yno i fwydro efo ffrindiau wrth wylio gêm ar y sgrin fawr, neu i ganu hefo’r jukebox yn feddw dwll ar nos Sadwrn, mae gan bawb le yn ei galon i’r Llew. Ar ei newydd wedd, mae’r bar wedi cael ei leihau er mwyn gwneud mwy o le i bobl eistedd, ond hyd yn oed wedyn mae’n amhosib dod o hyd i sedd pan mae hi brysuraf, sy’n dangos pa mor boblogaidd ydi’r Llew! Mae ymdeimlad braf iawn yno a hynny, yn fy marn i, oherwydd cynllun y llefydd eistedd.
Yn wahanol i dafarndai eraill Aberystwyth, nid oes byrddau mewn corneli i bobl gael llonydd; mae pawb fel un grŵp mawr, sy’n hyfryd gan ei fod yn teimlo fel eich bod mewn tŷ ffrind. Maen nhw’n gweini bwyd hyfryd yn ystod y dydd hefyd, am brisiau teg iawn, a chredwch chi �i, rydych chi’n cael gwerth eich harian - yn enwedig gyda ‘Cherdyn Llew’ (gallwch brynu un am £5 wrth y bar er mwyn cael 10% i ffwrdd).
Ni chewch staff mwy caredig na’r rhai yn y Llew maent wastad yn barod i helpu ac i fod yn rhan o’r hwyl gyda chi a’ch ffrindiau. Mae’r Llew yn chwarae rhan enfawr yn Wythnos y Glas, gan ein bod yn mynychu’r lle ar bron bob crôl - os ydych chi’n cyrraedd yno! Ond, yn ogystal â hynny, mae’n creu lle arbennig i’w hun yng nghalonnau’r glas-fyfyrwyr, a hynny oherwydd yr awyrgylch cartrefol, diogel a chyfeillgar sydd yno. Yr Hen Lew Du = 10/10
Hollywood Pizza a Lip Lickin’ Chicken Sut allwch chi fynd adref ar ôl noson allan heb fwyta sothach? Er mai sothach ydy o, mae o’n sothach neis, yn enwedig ar ôl ichi foddi’ch iau mewn alcohol. Dyma’r ddau le sy’n gwerthu’r sothach gorau yn Aberystwyth, ac mae pob myfyriwr rywbryd wedi dod o hyd i’w hun yn gorwedd ar lawr Hollywood Pizza neu ar y pa�in y tu allan i Lip Licking Chicken ar ddiwedd noson. Mae’r ffaith eu bod ill dau o fewn ychydig lathenni i Pier Pressure a Why Not, bod y prisiau’n rhad a’r bwyd yn �lasus yn egluro pam eu bod mor boblogaidd ymysg myfyrwyr meddw, sydd eisiau gorffen eu noson allan mewn ‘steil’. Mae’n sbario i chi orfod cwcio, ‘tydy?
Ffraid Gwenllian
YR HERIWR
Y Cymdeithasau
Rhifyn Wyth
CIP AR Y CYMDEITHASAU Mae degau o wahanol gymdeithasau ar gael i ni fyfyrwyr yma yn Aberystwyth sy’n golygu ei bod yn anodd di�lasu yma. Yn bendant, mae rhywbeth at ddant pawb, yn cynnwys sawl cymdeithas cyfrwng Cymraeg. Mae Wythnos y Glas yn gy�le gwych i ddod i adnabod y rhain, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y ffeiriau yn ystod yr wythnos.
Y Geltaidd Cymdeithas Gymraeg gref arall yn Aber yw’r Geltaidd. Hon yw cymdeithas chwaraeon myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, a’r llywydd eleni yw Gwion Jones. Bydd y Ffair Chwaraeon ar ddydd Mawrth y 27ain o Fedi eleni yn gy�le i fyfyrwyr ymuno â’r Geltaidd yn ogystal â thimau a chymdeithasau chwaraeon eraill.
UMCA
Ar hyn o bryd mae gan y Geltaidd dimau rygbi, rygbi merched, pêl-droed, pêl-droed i ferched, pêl-rwyd, hoci a dawns. Ond mae’n bwysig pwysleisio nad oes rhaid bod yn aelod o dîm i fod yn aelod o’r Geltaidd, gan fod llawer o gy�leoedd i gymdeithasu y tu hwnt i’r maes chwarae.
UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yw un o’r prif gymdeithasau i fyfyrwyr Cymraeg, a’r llywydd eleni yw Carys Thomas. Ers ei sefydlu ym 1973, mae UMCA wedi bod yn llais i fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn ogystal â threfnu adloniant a chymdeithasau iddynt, ac nid yw eleni yn eithriad. O fewn y tymor nesaf trefnir nifer o weithgareddau i fyfyrwyr Cymraeg gan UMCA, gan gynnwys nosweithiau yn ystod Wythnos y Glas. Am restr lawn o ddigwyddiadau’r wythnos gweler yr amserlen isod.
Ar ben hyn, mae taith �lynyddol gan y Geltaidd yn mynd i weld Cymru yn chwarae yn un o gemau pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Eleni, Caeredin yw’r gyrchfan, ac mae’n argoeli i fod yn benwythnos llawn yfed a joio yng nghwmni’n gilydd a phrifysgolion eraill gan ddathlu llwyddiant Cymru, gobeithio!
Nos Wener - Parti Pwnsh Nos Sadwrn - Crôl Croesawu Nos Sul - Canu yn y Cŵps Nos Lun - Crôl Teulu Nos Fawrth - Noson Garioci Nos Fercher - Crôl Teircoes Nos Iau - Eisteddfod Dafarn Nos Wener - Gig gan Cell Cymdeithas Pantycelyn Nos Sadwrn – Hasbins
Cymdeithas Taliesin Efallai fod yr enwau Myrddin ap Dafydd, Dylan Iorwerth, Twm Morys, Eurig Salisbury, Hywel Grif�iths ac Iwan Rhys yn gyfarwydd i chi. Un peth sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw eu bod i gyd yn gyn-aelodau o Gymdeithas Taliesin. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth, dyma’r gymdeithas i chi! Cy�le ydyw i wella ar eich sgiliau neu fachu sgiliau cynganeddu ac ysgrifennu yn ogystal â mynd ar deithiau o bryd i’w gilydd. Ond yn y Cŵps mae’r gymdeithas yn cwrdd fel arfer.
Yn ogystal â’r rhain, bydd digwyddiadau yn ystod y tymor yn yr Undeb, sef nosweithiau SŴN. Mae’r rhain yn nosweithiau i gymdeithasu yn Gymraeg wrth ddawnsio i gerddoriaeth Gymraeg, mewn gwisg ffansi fel arfer. Dyma rai o’r nosweithiau mwyaf co�iadwy yng nghalendr UMCA. Un o nosweithiau mwyaf UMCA yn yr Undeb yw’r Ddawns Ryng-golegol. Mae’r Ddawns yn digwydd yn ystod y tymor hwn, lle bydd siaradwyr Cymraeg prifysgolion Cymru yn dod at ei gilydd am gig enfawr sy’n llawn o hwyl, sgwrsio a meddwi. Cy�le gwych i ddod i adnabod pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt!
Mae gan Gymdeithas Taliesin lawer i fod yn falch ohono eleni gan i un o’i haelodau, Gruff Antur, gipio’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ac, yn wir, mae 5 o enillwyr y Gadair yr Urdd dros y 9 mlynedd diwethaf wedi bod yn aelodau o Gymdeithas Taliesin. Tybed ai chi fydd y nesaf?
Aelwyd Pantycelyn
Plaid Cymru Ifanc
Nid yw’n bosib sôn am fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth heb grybwyll yr enw Pantycelyn. Mae Aelwyd Pantycelyn yn rhoi cy�le i chi gymdeithasu trwy ganu mewn amryw o gorau neu fel unigolion.
Mae Cymdeithas Myfyrwyr Plaid Cymru yn fudiad bywiog sy’n ceisio lledaenu neges Plaid Cymru i fyfyrwyr o bob cefndir a chred o fewn y Brifysgol. Drwy gyfarfod yn aml a chynnal nifer o wahanol weithgareddau - o ddigwyddiadau cymdeithasol i rai mwy gwleidyddol eu naws, maent yn gobeithio cynnig rhywbeth at ddant pawb. Nid oes yn rhaid bod yn aelod o Blaid Cymru er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w tudalen Facebook.
Mae cyngerdd Nadolig ar yr agenda ar gyfer y tymor cyntaf, yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol yn yr ail dymor ac Eisteddfod yr Urdd erbyn dechrau Mawrth. Mae gan yr arweinydd, Eilir Pryse, a’i dîm, Catrin Herbert a Martin Jones, lawer o waith i wneud, ond bydd digon o amser ar gyfer y ‘Croliau Côr’ enwog rwy’n siŵr!
Undeb Cristnogol Mae cymdeithas Gristnogol Gymraeg gref iawn yn Aberystwyth. Maent yn cwrdd bob nos Iau ym Mhantycelyn, ac mae’r llywydd eleni, Gwenno Puw, yn awyddus i unrhyw un sydd â diddordeb ddod i’r cwrdd cyntaf am baned a sgwrs!
Cymdeithas yr Iaith Bwriad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw ‘gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid’,
Cymdeithas o bobl yw Cymdeithas yr Iaith lle mae pawb yn rhannu’r un weledigaeth: y weledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru. Maent yn ymgyrchu’n aml o blaid y Gymraeg a’i siaradwyr. Bydd y Gymdeithas hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y �lwyddyn, o brotestiadau gwleidyddol i gigs hwyliog yn y dref.
Bydd llu o gymdeithasau Cymraeg yn sicr o fynd â’ch bryd yn y Ffair Gymdeithasau ar y 28ain o Fedi, o Gymdeithas yr Iaith i bleidiau gwleidyddol i gymdeithasau gwirfoddol fel RAG. Felly, gwnewch yn fawr o’r cymdeithasau yma i ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill yn ystod y tymor cyntaf, a tharo’r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a chwarae!
Bethan Walkling
10
9 5 8
6
8 2 9
4 9 6 5
SUDOKU 7
3 2
5 8 9 3
6 5 7 1
SEFYDLWYD 2012
Posau
hnos y Glas 2012
1 6
4
1 6 2
2
6
4 6 8
7 2
Trafferth Mewn Tafarn
8
Llenwch y grid 9x9 fel bod pob rhes, colofn a bocs 3x3 yn cynnwys y rhifau 1-9 unwaith yn unig.
CROESAIR
Angel Cambrian Cŵps Downies Gaa Fishbowl Harleys
Harrys Inn on the pier Kanes Paddywhack Pier Pressure Rummers Salt
Shark Attack Ship and Castle Varsity Yokos Yr Academi Yr Hen Lew Du
Helpwch lunio dyfodol y Coleg Cymraeg
I lawr
Ar draws
1. Y llawysgrif gynharaf yn y Gymraeg (4,8) 2. Organ bychan sy’n cynhyrchu hormonau (7) 3. Tarddiad afon (4) 4. Fyny, uwchben 5. Ffurf trydydd unigol presennol mynegol y ferf ‘aros’ (4) 7. Chwaer eich ŵyr (5) 11. Triongl a 2 ochr sydd yr un hyd (9) 13. Gwelir un o’r rhain cyn y clywir taran (6) 14. Pentref genedigol T H Parry-Williams (3,2) 16. Cyfenw enillydd ‘Llyfr y Flwyddyn’ 2012 (5) 19. Arweinydd crefyddol Islamaidd (4) 23. ‘___ wyf inna i fod’ (3) 24. Cân serch gan Edward H Da�is (2)
1. Defnyddir sawl un o’r rhain i roi to ar eich tŷ (5) 4. Uned sy’n mesur potensial trydanol (6) 6. Gair ar ddechrau pob llythyr (6) 8. Ffurf y fannod cyn llafariaid (2) 9. Annedd, cartref (2) 10. Gwyliau ar ôl priodi: ____ mêl (3) 12. Cantores a merch i El Bandito (4) 14. Cy�lwr trwyn gydag annwyd (7) 15. Rhaid bod yn un o’r rhain cyn troi’n bili-pala (6) 17. ____ edrych tuag adref (3) 18. Rhowch hwn ar friw neu lid (3) 20. 4,840 llathen sgwâr (3) 21. Beirniad ‘Talwrn y Beirdd’ (6) 22. Uned o fesur (4) 23. Windhoek yw prifddinas y wlad hon (7) 24. Gallwch glywed hwn os yw’n is ac o chwith (2)
Gellid dod o hyd i holl atebion y croesair, chwilair a’r sudoku ar ein gwefan. Ewch i www.yrheriwr.org
11
Ymaelodwch heddiw • Mynediad i adnoddau astudio di-ri ar y Porth • Tystysgrif sgiliau iaith Gymraeg y Coleg • Ethol cynrychiolwyr myfyrwyr y Coleg • Gweithgareddau amrywiol gan ganghennau’r Coleg yn eich Prifysgol • Bod yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau lefel M y Coleg • Derbyn gwybodaeth am ysgoloriaethau uwchraddedig eraill
I wybod mwy ewch at www.colegcymraeg.ac.uk/ymaelodi
YR HERIWR
Y Celfyddydau
Y CELFYDDYDAU YN ABERYSTWYTH
Tref fyrlymus yw Aberystwyth, hyd yn oed heb ystyried y Brifysgol sy’n rhan mor bwysig ohoni. Mae’n fan cyfarfod pwysig rhwng y gogledd a’r de, ac mae wedi llwyddo i gynnal diwylliant cyfoethog sy’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i bobl o bob oed. Mae a wnelo hynny lawer iawn, wrth gwrs, â’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Brifysgol, sydd wedi bod yn dynfa gref i rai o ysgolheigion a f�igyrau amlycaf Cymru ers dros ganrif. Sgil effaith hynny yw bod digwyddiadau diwylliannol yn digwydd yn rheolaidd, sy’n medru cyfoethogi eich blynyddoedd yma yn Aber. Mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi’i leoli yng nghanol y dref, ac mae’r cwmni yn llwyfannu sioeau yn rheolaidd. Yng Nghanolfan y Morlan, cynhelir nifer o ddigwyddiadau, sy’n amrywio o ffeiriau llyfrau, hystings gwleidyddol i gyfarfodydd cyhoeddus, ac mae’n ganolbwynt i ddiwylliant Cymraeg y dref.
Dylid hefyd gadw llygad barcud ar y digwyddiadau yn y Drwm, sef y theatr fechan yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cynhelir ambell gig acwstig gartrefol yno o bryd i’w gilydd, a bu artistiaid fel Meic Stevens, Steve Eaves a Tecwyn Ifan yn perfformio yno’n ddiweddar. Afraid yw dweud fod Canolfan y Celfyddydau yn rhan annatod o fywyd diwylliannol Aber. Dyma un o’r canolfannau prysuraf o’i math trwy Gymru gyfan, a chynhelir nifer o ddigwyddiadau Cymraeg yma. Mae’n werth ceisio dal ambell sioe yma, yn enwedig os trefnwch fod criw go lew yn mynd gyda’i gilydd. Gobeithiwn, trwy gyfrwng Yr Heriwr, roi cyhoeddusrwydd
ehangach i’r digwyddiadau sy’n digwydd o’n cwmpas yn Aberystwyth, gan geisio sicrhau nad yw digwyddiadau’r Brifysgol a digwyddiadau’r dref wedi’u hynysu, gan fod y naill, yn aml iawn, yn dibynnu ar y llall.
Os buoch chi mewn digwyddiad cymdeithasol yn Aber yn ddiweddar, o gig yn y Llew Du i sioe yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac awydd adolygu’r pro�iad, fe fyddai’r Heriwr yn falch o glywed gennych. Ein gobaith yw y bydd y papur hwn yn adlewyrchu pob agwedd ar fywyd myfyrwyr a thrigolion Aberystwyth, ac er mwyn cy�lawni hyn, mae angen mewnbwn gan nifer o wahanol ffynonellau. Dyma eich cyfrwng chi, a chyfrwng a fydd, gyda gobaith, yn cry�hau’r cysylltiadau rhwng y Cymry yn Aberystwyth. Cysylltwch â celfyddydau@yrheriwr.org er mwyn rhannu eich pro�iadau, a sicrhau eich bod yn rhan o dwf a llwyddiant y papur hwn.
Digwyddiadau’r Hydref
Who’s coat is that jacket? - Canolfan y Celfyddydau, 28/09/2012 SXTO - Theatr Arad Goch, 01/10/2012 Ble mae’r dail yn hedfan? – Theatr Arad Goch, 22/10/2012 Birds/Adar - Canolfan y Celfyddydau 25/10/2012 Noson yng Nghwmni Eigra Lewis Roberts - Y Drwm, 26/10/2012 Lens 2012 - Out of the Shadows - Y Drwm, 23/11/2012 The Tempest - Canolfan y Celfyddydau, 07/12/2012
TAITH FAWR 50
DAFYDD
IWAN
A’R BAND I gofnodi’r 50 mlynedd o berfformio bydd Dafydd Iwan yn mynd ar daith o Gymru yn yr hydref ac yn cyhoeddi bocs set o’i holl ganeuon – 12 CD yn cynnwys 219 o draciau! 21/09 – 22/09 – 29/09 – 05/10 – 06/10 – 19/10 – 27/10 – 02/11 – 03/11 – 09/11 – 10/11 – 17/11 – 23/11 –
Neuadd Pontyberem 01269 871600 Theatr Soar, Merthyr 01685 722176 Gwesty Nant y Ffin, Sir Benfro 01437 563423 Neuadd Dwyfor, Pwllheli 01758 704088 Canolfan Hamdden Machynlleth 01654 703300 Canolfan y Mileniwm, Caerdydd 02920 636464 Gwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn 01239 710317 Llety Parc, Aberystwyth 01970 636333 Plas Isaf, Corwen – Caffi Treferwyn neu Awen Meirion Saith Seren, Wrecsam 01978 447006 Canolfan Cymry Llundain 02078 373722 Venue Cymru, Llandudno 01492 872000 Theatr Felinfach 01570 470697
Digwyddiad Croesawu Myfyrwyr Newydd Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
Dydd Sul 23 Medi 2012 2:30pm Derbyniad i groesawu holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y Brifysgol sy’n siarad Cymraeg. â thiwtoriaid adrannol cyn prysurdeb y cyfnod Cofrestru, a dysgu mwy am fodiwlau a’r manteision o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Darperir lluniaeth ysgafn hefyd.
Catrin ar 01970 622 065 neu anfonwch e-bost at cem13@aber.ac.uk
Am fwy o wybodaeth neu tocynnau cysylltwch â’r lleoliadau perthnasol neu Sain ar 01286 831 111
12
THEATR YN TORRI FFINIAU
Rhifyn Wyth
Yn ystod yr haf eleni, cefais y pleser o fod yn rhan o berfformiad anhygoel a gwefreiddiol gan Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ar ôl cyfnod byr o greu ac ymarfer sioe newydd sbon yn Aberystwyth, aethpwyd ati i berfformio ‘Torri’r F�iniau - Beyond Borders’ yng Nghastell y Waun ger Wrecsam a Phlas Llanerchaeron, sy’n rhan o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae sawl blwyddyn wedi pasio ers i THCIC lwyfannu perfformiad awyr agored, ac roedd hwn yn berfformiad llawn bwrlwm, chwerthin, hud a lledrith a pherfformiadau ysblennydd. Cefndir y sioe eleni oedd storïau a chwedlau lleol y rhanbarthau Celtaidd. Cafwyd cy�le i wrando ar amryw o storïwyr proffesiynol, yna aethpwyd ati i’w trawsnewid yn berfformiadau.
Dyma ddywedodd Pat Venner, newyddiadurwraig y BBC yn Wrecsam am y sioe:
‘Roedd y cyfan yn bleser; roedd y noson ar ei hyd yn adloniant pur, ac yn fraint i gael gweld cynifer o bobl ifanc yn cymryd rhan. Roedd y gynulleidfa ar daith hudol gyda’r bobl ifanc hyn. Roedd y perfformiad cyfan yn orlawn o egni, lliw, drama, cerddoriaeth a hwyl ... roedd yn antur fawr. ‘Dw i’n meddwl mai dyma’r noson fwyaf hudol i mi ei chael erioed.’ Trawsffur�iwyd y lleoliadau yn fyd llawn tylwyth teg, cewri, bleiddiaid ac antur. Dyma oedd gan Catrin Beard i’w ddweud ar raglen Dewi Llwyd fore Sul y nawfed o Fedi: ‘Mi oedd yr holl beth yn wledd; roedd e’n rhagorol; yn llawn hiwmor, arswyd; cyfuniad ardderchog o waith corfforol, ffur�ioldeb, anffur�ioldeb, chwerthin;, roedd y straeon ar ffurf cân, rhai eraill wedi ei dramateiddio.
‘Roedd na un drawiadol iawn yn cael ei hadrodd gan dair merch yn sefyll yn llonydd ar ochr y llyn yn Llanerchaeron - roedd y gynulleidfa wedyn ochr draw’r llyn yn gwrando drwy gyrn clustiau yn clywed y cyfan… ’Dw i jyst eisiau llongyfarch y cwmni ar y cynhyrchiad gorau i mi ei weld ganddynt ers blynyddoedd …’ Roedd yn bleser ac yn anrhydedd i gael gweithio gyda chwmni mor broffesiynol a thalentog. Diolch yn fawr iawn i Tim Baker am sioe heb ei hail a phob lwc iddo ac i weddill y cwmni ar gyfer y dyfodol.
Jacob Dafydd Ellis
Y Celfyddydau
hnos y Glas 2012
‘M�� � M�’
ac yntau’n dad sengl i bedwar o blant. Er gwaethaf teithio’r byd gyda’i ‘gitâr a’r hen sgrepan’, fe ddiolcha’r brawd Houdini i’w bentref genedigol, Solfach, a’i bobl am ei wneud y dyn ydy o heddiw. Mae yna dinc hiraethus i’r gyfrol, am y dyddiau a fu er gwaetha’r cyfnodau tywyll ac annhegwch bywyd, gyda Meic ei hun yn cyfaddef am y bywyd y penderfynodd ei ddilyn, ‘pan fyddwch chi’n pwyso a mesur y daith gyfan, mae’n gythrel o ffordd o fyw – ac yn ffordd o farw ambell waith’. Ond yn y dyddiau trist hynny, y gerddoriaeth a gadwodd ei ben uwch wyneb y dŵr, ac er gwaetha’r cyfan, fe gadwodd yn driw i eiriau ei nain, ‘ddoi di drwy hyn’.
Adolygiad gan Mared Grug
Rhwng yr her ar ddiwedd y broliant: ‘daliwch i ddarllen, os meiddiwch chi!’ a sylwad He�in Wyn am y ‘gyfrol hon sy’n rhoi ystyr newydd i onestrwydd’, mi fydda hi’n wirion peidio rhoi cy�le i drydedd ran hunango�iant y dewin o Solfach, Meic Stevens, wrth iddo ddechrau ar ‘gyfnod newydd, rhyfedd cynhyrfus ond byth yn derfynol, chwaith’. Dyma gyfrol lawn amrywiaeth, o adrodd hanesion, i ddisgri�io cymeriadau lu y daeth ar eu traws ar hyd ei oes ac i fyfyrio ar y byd a’i bethau. Yn ei ffordd unigryw ei hun fe ddringa’r athrylith i gyfrwy’i geffyl ar amryw achlysur i leisio’i farn yn glir, gan f�inio ar draethu, am sawl mater sy’n amlwg yn peri ymateb cryf, angerddol ynddo. Fe ddioddefa’r BBC frath ei dafod am eu diffyg cefnogaeth a’u hymwybyddiaeth
Rhoddodd y blaidd yn y Ray-bans glas gymaint i’w ddilynwyr yn ei ganeuon, gan wneud i’r gwrandawyr feddwl am fywyd a marwolaeth a’r f�in denau sydd rhyngddynt; rhywbeth yn amlwg o’r gyfrol hon y bu’n rhaid iddo ef ddysgu amdanynt
o fyd y celfyddydau Cymreig, fel sawl un arall. Cawn hanes y cyn-gariadon a’r ffrindiau oes: ‘mynd wnaeth y menywod ond aros wnaeth y cerddorion’, a chawn gip cwbl newydd ar Feic Stevens ‘y tad angho�iedig yn Llaneirwg’, wrth iddo ymdrechu i gadw dau ben llinyn ynghyd
O dan y brad a’r dinistr
Adolygiad gan Gruffudd Antur
Trwy Ofer Esgeulustod ... Brad a Dinistr Prifysgol Cymru, Dafydd Glyn Jones, Dalen Newydd, 24tt; pris: £3.00 Fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd, efallai nad oes a wnelom ni ddim â Phrifysgol Cymru yn uniongyrchol. Ar ôl i’r drefn ffederal chwalu ychydig flynyddoedd yn ôl, a’r colegau yn dechrau dyfarnu eu graddau eu hunain, ni fyddwn ni yn aelodau o Brifysgol Cymru ar ôl graddio. Ond er hyn, mae’n parhau i fod yn sefydliad pwysig o ran y sefydliadau a’r prosiectau sydd ynghlwm wrtho. Yn ôl broliant y llyfryn hwn, ceisir rhoi digwyddiadau mis Hydref 2011, pan ddatgelwyd y cynlluniau i ddiddymu Prifysgol Cymru a’i chyfuno â Phrifysgol Cymru: Y Drindod-Dewi Sant, yn eu ‘cyd-destun.’ Ond mae’n amlwg, o ddarllen teitl y llyfryn a’r broliant, nad ymdriniaeth ysgolheigaidd, gytbwys a diduedd ydyw. Dywedir yn y broliant: ‘Yn y llyfryn hwn edrychir ar lanast dychrynllyd Prifysgol Cymru, a cheisio’i osod yn ei gyd-destun.’ Ond â’r ddadl yn dal i ferwi, mae’n bosib nad dyma’r amser cywir i asesu’r sefyllfa mewn dull cytbwys, ac mae’r llyfryn hwn yn rhan o’r ddadl. Mae brawddeg gyntaf y llyfryn yn sefydlu safbwynt yr awdur yn glir a diamwys: ‘Trychineb, trasiedi, llanast, ffiasgo, ffars, hanci-panci ...’ ac fe’n hatgoffir yn gyson beth yw ei farn gyda nifer o eiriau eraill fel ‘helbul’, ‘cawdel’ a ‘chwerthinllyd’. Cyfeiriad yw teitl y llyfryn, wrth gwrs, at gerdd adnabyddus J. J. Williams i Gantre’r Gwaelod. Gŵyr pawb mai Seithenyn oedd y gwyliwr gwreiddiol, ond tybed pwy yw’r gwyliwr diog, neu’r gwylwyr, y tro hwn? Fel y mae Dafydd Glyn Jones yn cyfaddef, ysgrif gan leygwr yw hon, ond mae’n ysgrif sydd ag ôl blynyddoedd o gywain gwybodaeth arni. Ceir ychydig o gefndir a hanes Prifysgol Cymru o’i sefydlu yn 1893 hyd at ei hanterth, sy’n ddefnyddiol iawn i daflu mwy o oleuni ar arwyddocâd ei chwymp. Fel y noda’r awdur, bu’n sefydliad dadleuol ar hyd ei oes ond un dyfyniad nas cynhwysir yw geiriau Saunders Lewis
yn Tynged yr Iaith, a ddarlledwyd hanner can mlynedd yn ôl: ‘Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru ... gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.’ Er hyn, does dim gwadu’r gwaith da a phwysig y mae Prifysgol Cymru wedi ei gyflawni, o ystyried holl gyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru a phrosiectau fel y rhai yn y Ganolfan Uwchefrydiau. Amddiffyn y gwaith da hwn yw byrdwn yr ysgrif mewn gwirionedd. Dan 14 o is-benawdau, olrheinir hynt a helynt Prifysgol Cymru mewn modd sy’n hawdd i’w ddilyn ac sy’n ymatal rhag bod yn hirwyntog. Er bod rhai enwau unigol yn cael eu crybwyll, mae Dafydd Glyn Jones yn osgoi rhag gosod y bai yn dwt wrth draed unigolyn neu grŵp bychan o unigolion; yn hytrach, edrychir ar y darlun mawr, gan bwysleisio bod yr holl raddedigion hefyd yn rhan bwysig o’r Brifysgol, ac yn rhan statudol o unrhyw benderfyniad yn ei chylch. Felly, yn annhebyg i’r hen Seithennyn gynt, nid yw’n bosib pwyntio bys yn ymfodlonus, gan fod mwy nag un gwyliwr wedi esgeuluso’i waith wrth i’r môr ddechrau llifo trwy’r morgloddiau. Gyda chwymp sefydliad halogedig fel Prifysgol Cymru, hawdd fyddai ymwrthod rhag galaru. Ond er hallted y feirniadaeth yn y llyfryn byr hwn, mae union fodolaeth y llyfryn yn awgrymu fod yma rhywbeth y dylid, ac y gellid, ei achub. Ni fyddai pwrpas i’w gyhoeddi fel arall. Fe ddaw’r amser ymhen blynyddoedd i gloriannu digwyddiadau mis Hydref 2011, ac fe fydd yn dra diddorol i weld sut y bydd beirniadaeth ac awgrymiadau Dafydd Glyn Jones yn dal eu tir.
13
SEFYDLWYD 2012
y ffordd greulonaf un, drwy eu pro�i. Rhoddir tudalennau bregus o’r gyfrol i enwi a choffau ffrindiau a gollwyd.
Fe godir i’r wyneb y rhesymau dros gymhlethdod cymeriad y gitarydd a’r canwr hwn, a chawn ddealltwriaeth ehangach o’i fywyd a daw popeth a oedd gynt yn amwys, rhywsut yn gliriach. Dyma gyfrol afaelgar, wedi ei hysgrifennu’n unigryw dros ben, bron a bod fel dyddiadur. Cyfraf fy hun yn freintiedig iawn fod Meic wedi rhannu’r fath onestrwydd ar bapur â mi, fel y ‘rwy’n sicr y byddwch chithau ar ôl ei darllen. Sylwer ‘ar ôl’, ac nid ‘os’.
YR HERIWR
Chwaraeon
ATHLETWYR OLYMPAIDD CYMRU
JEMMA LOWE - No�io Pili Pala 2oom
Dyma �las i chi o’r athletwyr o Gymru a fu’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain eleni.
DAI GREENE - Clwydi 400m Yr athletwr o Lanelli oedd capten tîm athletau Prydain yn ystod y gemau. Roedd un o’r ffefrynnau i gipio’r fedal aur, gan ei fod yn bencampwr byd a phencampwr clwydi 400m Gemau’r Gymanwlad. Yn anffodus i Greene, gorffennodd yn y pedwerydd sa�le, 0.14 eiliad i ffwrdd o gael medal efydd. 48.24 eiliad oedd ei amser, sy’n gy�lymach na’r amser a enillodd y fedal aur iddo ym Mhencampwriaeth y Byd, 2011. Felix Sanchez o Weriniaeth Dominica a gafodd y fedal aur.
HELEN JENKINS - Triathlon
Jenkins oedd un o’r ffefrynnau i ennill y fedal aur eleni, wedi dod yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Triathlon Merched y Byd yn 2008 ac eto yn 2011, y �lwyddyn pan enillodd Gwpan Pan America. Ond yn y 5ed sa�le y gorffennodd y ras eleni. Yn anffodus i Jenkins, roedd anaf i’w phen glin ers Cyfres Triathalon y Byd yn San Diego wedi’i dal hi’n ôl. Roedd rhaid gwahaniaethu rhwng yr athletwyr a gyrhaeddodd y brig, Nicola Sprig a Lisa Norden, gyda ddelweddau ffotograf�ig gan ei bod yn amhosib gwahaniaethu rhwng yr amseroedd. Ond, o drwch blewyn yn llythrennol, Sprig a gafodd y fedal aur.
Llwyddodd y nofwraig o Abertawe i orffen yn y 6ed sa�le yn rownd derfynol y gystadleuaeth ‘Pili Pala’ 200m. Mae’r Gymraes yn 5ed yn netholion y byd ar ôl iddi hi sicrhau medal arian yng nghystadleuaeth No�io’r Byd yn 2010 ac ym Mhencampwriaeth No�io Ewrop. Cafodd fedal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad hefyd. Mae hi’n nofwraig i gadw golwg arni, gan ei bod yn debygol y bydd hi’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ac yn Rio de Janeiro yn y Gemau Olympaidd nesaf.
JADE JONES - Taekwondo
Llwyddodd y ferch 19 oed o’r F�lint i ennill medal aur gyntaf Cymru eleni yn y gystadleuaeth Taekwondo i ferched dan 57kg. Curodd Yuzhuo Hou o China o 6-4 yn y rownd derfynol, a olygodd mai hi yw’r athletwraig gyntaf erioed o dîm Prydain i ennill medal aur mewn Taekwondo. Yn 2011, enillodd fedal arian ym Mhencampwriaeth Taekwondo’r Byd, a bu’n bencampwraig yng Ngemau Olympaidd yr Ieuenctid yn 2010.
FRED EVANS - Bocsio
Fe lwyddodd y bocsiwr o ardal Caerdydd i gyrraedd rownd derfynol pwysau welter, lle bu’n ymladd yn erbyn Serik Sapiyev o Kazakhstan. Yn anffodus i Evans, bu’n rhaid iddo fodloni ar fedal arian ar ôl colli o 17-9. Serch hynny, roedd ennill y fedal arian yn gamp ragorol i’r Cymro; ef bellach yw bocsiwr mwyaf llwyddiannus Cymru. Y tro diwethaf i Gymro ennill medal bocsio Olympaidd oedd ym 1972 pan gipiodd Ralph Evans y fedal efydd. Fred Evans oedd y pencampwr Ewropeaidd cyntaf o Gymru y llynedd, pan gurodd Andrey Zamkovoy o Rwsia.
Llywelyn Williams
POB CHWARAE TEG ...?
Bu’r Gemau Olympaidd eleni’n llwyddiant ysgubol. Ond wrth gwrs, nid oedd yn ddigwyddiad di-fai o bell ffordd. Roedd cael y faner gywir i’r gwledydd priodol yn dasg anodd ar adegau a bu llawer o gwyno am orwario, helynt G4S, seddi gwag, prisiau cwrw, chwaraeon yn cefnogi McDonalds a gormod o Brydeindod. Ond o leiaf bu i’r athletwyr chwarae’n deg … do?
Roedd y pedwar cystadleuydd yn taro’r wennol (shuttlecock) yn fwriadol i mewn i’r rhwyd. Dechreuodd y dorf yn Wembley, a wariodd lawer o arian ar eu ticedi, fwio’r chwaraewyr yn ystod y gêm. Ynghanol yr holl ffrwgwd, rhybuddiodd y dyfarnwr ei fod yn mynd i ohirio’r gêm yn gyfan gwbl os parhaent i chwarae’n fudr. Ar ôl ufuddhau i’r swyddogion, enillodd
Rhagolwg Cynghrair y Pencampwyr
Gyda thymor prifysgol ar �in dechrau, mae’r tymor pêl-droed domestig wedi dechrau ers dros �is ac fe gychwynnodd cystadleuaeth fwyaf llewyrchus Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr, yr wythnos diwethaf. Pan dynnwyd yr enwau o’r het yn nhywysogaeth Monaco ar Awst y 30ain, roedd nifer o gewri pêl-droed Ewropeaidd yn edrych yn ffefrynnau pendant, yn cynnwys Manceinion Unedig, Paris St. Germain a Barcelona. Roedd disgwyl i nifer o’r timoedd mawr osgoi ei gilydd, fel y gwelir yng ngrŵp H gyda Galatasary o Dwrci, Braga o Bortiwgal a CFR Cluj o Rwmania wedi’u tynnu o’r het i wynebu Manceinion Unedig.
Rhaid croesawu’r timau sy’n newydd i gystadleuaeth fwyaf llewyrchus Ewrop megis Montpellier HSC o dde Ffrainc, y Sbaenwyr sydd wedi’u ffynnu gan olew’r Dwyrain Canol, Malaga C.F a phencampwyr SuperLiga Denmarc, FC Nordsjaelland. Enillodd Montpellier Herault Sport Club gynghrair Ligue 1 y tymor diwethaf ond, yn anffodus, maent wedi colli eu hymosodwr ysbrydoledig, Olivier Giroud (25 gôl mewn 43 gêm y tymor diwethaf) i Arsenal. Serch hynny, mae Montpellier wedi arwyddo cyn-ymosodwr OGC Nice, Anthony Mounier, i greu’r cy�leoedd a sgorio goliau. Bydd Montpellier yn dibynnu ar yr amddiffynnwr Mapou Yanga-Mbiwa i gadw’r goliau allan mewn grŵp sy’n cynnwys Arsenal, Schalke 04 ac Olympiakos, a chreadigrwydd Younés Belhanda ac Karim Aï Fana wrth ymosod. EFYDD: Philips Idowu – Naid Driphlyg Roedd Idowu yn un o’r ffefrynnau i gael y fedal aur eleni ar ôl ennill y fedal arian yn Beijing 2008. Daeth i Lundain yn hyderus, wedi paratoi ac wedi bod mewn hysbyseb teledu ar gyfer Adidas yn cynrychioli Tîm GB. Ond bu ffrwgwd rhyngddo ef a Phrif Hyfforddwr Athletau Prydain, Charles van Commenee. Nid yw’r ddau wedi siarad â’i gilydd ers mis Mehe�in, 2011 wedi i Idowu ddweud nad oedd am gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop ar Twitter
AUR: Badminton Merched – China v De Korea
Un bwriad oedd ganddynt yn y gystadleuaeth ddwbl hon. Colli. Gwyddai’r chwaraewyr y byddai cyrraedd y rowndiau terfynol yn haws os oeddynt yn colli’r rowndiau cychwynnol, gan fod hyn yn golygu eu bod yn cael gwrthwynebwyr haws yn y rowndiau dilynol.
Rhifyn Wyth
De Korea’r ornest 21-14 21-11. Y rali hiraf gawson nhw oedd 4 ergyd.
Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd Gemau Olympaidd Llundain 2012 fod ymddygiad y chwaraewyr yn ‘ddigalon’ ac yn ‘annerbyniol’. Cafodd y parau eu diarddel o’r gemau Olympaidd, yn ogystal â pharau eraill o Dde Korea ac Indonesia, am gam-drin y gemau.
ARIAN: Nadzeya Ostapchuk – Ta�lu Pwysau Bu i’r athletwraig hon o Felarws ymddwyn yn anfoddhaol trwy dwyllo’i ffordd i ennill y fedal aur. Methodd Ostapchuk ei phrawf cyffuriau gan fod arlliw o ‘metenolone’ wedi’i ddarganfod yn samplau ei phro�ion dŵr. Valerie Adams, y ferch a ddaeth yn ail, a gafodd y fedal aur yn ei lle.
14
Nid oedd Idowu wedi bwriadu teithio gyda gweddill carfan Prydain i Bortiwgal i ymarfer, ar ôl gwrthod cydymffur�io â gweddill y tîm hyfforddi. Ni sicrhaodd Idowu, i gyrraedd y 12 uchaf yn ei gystadleuaeth wedi’r holl ddrama
Llywelyn Williams
hnos y Glas 2012
Chwaraeon chwarae ar lefel uchaf pêl-droed Ewrop a pharhau hanes Celtic yn y Gynghrair ers iddynt gael eu coroni fel y tîm Prydeinig cyntaf i’w hennill ym 1967.
Gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Wembley, Llundain, nid wyf yn rhagweld y bydd tîm o Loegr yn codi’r cwpan ar Fai’r 25ain. Er bod Bayern München wedi cry�hau eu carfan
Llwyddodd Malaga C.F. i gyrraedd Cynghrair y Pencampwyr drwy guro’r tîm Groegaidd, Panathinaikos, yn y rowndiau rhagbrofol dros ddwy gêm. Gyda chymorth ariannol Sheikh Al Thani o Qatar, maent wedi arwyddo chwaraewyr rhyngwladol fel Martin Demichelis o’r Ariannin, Carlos Kameni o Gamerwn ac Joaquin o Sbaen. Yn ystod y tymor hwn, bydd eu hyfforddwr, Manuel Pellegrini yn gobeithio y gall cyn-ymosodwr Blackburn Rovers sydd ar fenthyg o Manchester City, Roque Santa Cruz, sgorio’r goliau mewn grŵp sy’n cynnwys y cewri Eidaleg A.C Milan, Zenit St.Petersburg o Rwsia a phencampwyr Cynghrair Pro Jupiler Gwlad Belg, RSC Anderlecht. Bydd Nordsjaelland yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth a dan reolaeth Kasper Hjulmand. Wedi ennill Superliga Denmarc am y tro cyntaf yn ei hanes y tymor diwethaf, bydd eu capten, Nicolas Stockholm, yn allweddol i’w llwyddiant yn y gystadleuaeth hon. Yn ychwanegol, mae mab hyfforddwr Dinas Abertawe, Michael Laudrup, sef Andreas Laudrup, yn aelod o’r garfan am y tymor.
Trac seiclo i Aber?
Cyngor Ceredigion yn fodlon mabwysiadu’r cynllun trac athletau a seiclo i Aberystwyth. Yn dilyn sawl cyfarfod a thrafodaeth ynglŷn â’r fenter, cyhoeddodd Cyngor Ceredigion eu bod wedi mabwysiadau’r cynllun i adeiladu trac athletau pob tywydd a chanolfan seiclo dan do yn Aberystwyth.
Bydd y Cyngor yn penodi tîm gweithredol ar gyfer y prosiect, yn ogystal â chysylltu’r cynllun hwn â chynllun adfywio tref Aberystwyth. Cadarnhaodd yr AC Huw Lewis fod y cynllun yn symud yn ei �laen wrth Tony Wenlock, un o gefnogwyr y cynllun a greodd ddeiseb i’w gefnogi.
Bwriad cychwynnol Wenlock oedd lobïo Cyngor Ceredigion i gymryd y cynllun adeiladu drosodd, gan obeithio penodi rheolwr ar y prosiect. Cafodd y datblygiad gefnogaeth galonogol gan Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn (Plaid Cymru) a chynghorwyr o’r pleidiau eraill.
Heb os nac oni bai, grŵp mwyaf diddorol y gystadleuaeth y �lwyddyn hon yw grŵp D, neu Grŵp y Pencampwyr. Tynnwyd pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr, Manchester City, pencampwyr Eredivisie yr Iseldiroedd, Ajax Amsterdam, pencampwyr La Liga Sbaen, Real Madrid C.F a phencanpwyr cynghrair (die Bundesliga) a chwpan (DFB Pokal) yr Almaen, Borussia Dortmund.
SEFYDLWYD 2012
gyda Javi Martinez a Mario Mandzukic, a phencampwyr y gystadleuaeth y tymor diwethaf, Chelsea, wedi ychwanegu Eden Hazard ac Marko Marin at yr ymosod. Nid wyf yn gweld bydd ymadawiad Pep Guardiola o’r Gamp Nou yn destun pryder. Yn bersonol, credaf mai Carlos Puyol fydd yn codi’r cwpan am y pedwerydd tro o dan arch Wembley eleni.
Illtud Dafydd
Aber yn anelu am y 6 uchaf yn Uwchgynghrair Cymru
Yr unigolion i gadw llygad arnynt fydd canolwyr Ajax, Christian Eriksen a Miralem Suljemani, a chanolwyr ymosodol yr Almaen, Mario Gotze ac Marco Reus, tra bod gan dimoedd Manchester City a Real Madrid C.F. lu o chwaraewyr dawnus fel Sergio Agüero, Cristiano Ronaldo a’r canolwr o Groatia sydd yn llywio’r chwarae a arwyddodd dros Real Madrid C.F yn ystod yr haf am £30miliwn, Luka Modric. Un tîm hanesyddol Ewropeaidd sy’n dychwelyd i’r gystadleuaeth ar ôl alltudiaeth yng Nghynghrair Europa ers 2007 yw Celtic. Byddant yn wynebu’r Rwsiaid Spartak Moscow, Ben�ica ac un o dimau gorau hanes pêl-droed, F.C Barcelona, yng ngrŵp G. Bydd y Cymry yn y garfan, sef y canolwr dde, Adam Matthews, a’r canolwr cae, Joe Ledley, yn gobeithio am bro�iad o Cafwyd hefyd gefnogaeth yn y Cynulliad gan AC Ceredigion, Elin Jones a Simon Thomas, AC Rhanbarth Gorllewin Cymru.
Casnewydd yw’r unig leoliad yng Nghymru sydd â thrac seiclo dan do ar hyn o bryd. Yn ôl rheolau iechyd a diogelwch, nid oedd Clwb Beicio Ystwyth yn gallu caniatáu i blant feicio ar lonydd prysur. Dywedodd Brian Ashton, Prif Hyfforddwr Clwb Athletau Aberystwyth ac aelod o Glwb Seiclo Ystwyth, y gallai’r nifer o aelodau ddyblu yn sgil adeiladu’r Ganolfan ac y byddai’n denu llawer o blant a phobl ifainc.
Mae hi’n bwysig taro’r haearn pan mae’n boeth gyda’r cynllun, tra bod brwdfrydedd am chwaraeon ar ei anterth yn dilyn y Gemau Olympaidd, a’r cyffro wedi i’r Sais, Bradley Wiggins, ennill y Tour de France. Bydd y ganolfan hon yn hwb enfawr i seiclo yn yr ardal a bydd yn rhoi Aberystwyth ar y map trwy ddenu beicwyr o bob rhan o’r wlad. Llywelyn Williams
15
Yn ôl Thomas Crockett, cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, mae carfan Tomi Morgan yn ddigon cryf i ennill lle yn chwech uchaf yr uwchgyngrhrair yn nhymor 2012/13. Mae’r clwb wedi cry�hau’r garfan drwy arwyddo Matty Collins a Declan Carroll, ynghyd â’r bechgyn ifanc dawnus sy’n cystadlu am le yn y garfan; Liam James a Rhydian Davies. Mae’r Clwb yn gobeithio pro�i eu bod cystal â’r timau eraill o’u cwmpas y tymor hwn.
Bû’r Heriwr yn holi Thomas Crockett ymhellach ynglŷn â gobeithion Clwb Pêl-droed Aberystwyth ar gyfer y tymor i ddod. Mae hi’n dal yn gynnar yn y tymor, ond beth yw eich gobeithion ar gyfer y tymor hwn? Ai realistig fyddai cyrraedd y 6 uchaf i gipio’r safle olaf yng ngemau ail gyfle Cynghrair Europa? TC : Yn fy marn i dylse’r garfan fod yn ddigon cryf i ennill lle yn y Chwech Uchaf yn 2012/13. Mae Tomi wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr haf i ddenu chwaraewyr o safon i’r clwb. Gyda chwaraewyr fel Stuart Jones, Sean Thornton a Matty Collins ar gael, mae’n naturiol fod y disgwyliadau’n uwch na’r tymor diwethaf. Ble ydych wedi cryfhau’r garfan, a ble oedd eich gwendidau y tymor diwethaf? TC: Bydd canol cae Aber yn gryf iawn eleni. Gobeithiwn weld y gorau o ddewiniaeth Sean Thornton a chryfder Michael Walsh, heb sôn am sgiliau Matty Collins. Mae’r bachgen newydd, Declan Carroll o Ddinbych y Pysgod, wedi serennu yn y gemau cyfeillgar, ac mae coesau hir a thaldra Gavin Cadwallader hefyd yn gaffaeliad. Peidiwch ag anghofio am chwaraewyr lleol fel Siôn James, Rhydian Davies a Bari Morgan ychwaith: canol cae arbennig o gryf. A fydd Tomi Morgan yn rhoi mwy o gyfleoedd i’r bechgyn ifanc y tymor hwn? TC: Mae’n dibynnu os ydyn nhw lan i’r safon angenrheidiol. Cynghrair Genedlaethol, nid lleol ydi Uwchgynghrair Cymru, a dyletswydd cyntaf Tomi yw dewis tîm sy’n ddigon da i ennill gemau yn y gynghrair honno. Wedi dweud hynny, gwnaeth Liam James yn arbennig o dda i ennill ei le yng ngêm gynta’r tymor, ac roedden ni i gyd yn falch dros ben i weld ymddangosiad Rhydian Davies o’r fainc hefyd. Pwy yw’r ffefrynnau i ennill Gynghrair? TC: Yn fy marn i, bydd TNS yn ennill y Gynghrair, Y Bala’n ail a Bangor yn drydydd. Yn dilyn llwyddiant Cynghrair Airtricity Iwerddon, a fyddech o blaid symud Uwchgynghrair Cymru i dymor yr Haf? TC: Er fy mod yn bersonol wedi gweld llwyddiant clybiau fel Shamrock Rovers, rwyf yn dwym at y syniad. Ond nid yw pawb ar fwrdd y cyfarwyddwyr, heb sôn am y gynghrair gyfan, yn cytuno. Un peth pwysig i’w ystyried yw’r gost o roi dŵr ar y cae yn ystod yr haf. Gall olygu degau o filoedd o bunnau mewn costau ychwanegol i’r clwb. A fyddai’r cefnogwyr yn fodlon ysgwyddo’r gost? Mae yna drafodaeth bwysig i’w chael, yn sicr. A oes gan Tomi Morgan un llygad ar Gwpan Cymru y tymor hwn? Ynteu ai sicrhau safle diogel yn y gynghrair yw’r flaenoriaeth? TC: Ar ôl colli cymaint o gwsg y llynedd, a ninnau yn y tri isaf am ran helaeth o’r tymor, i mi mae sicrhau lle yn y chwech uchaf yn flaenoriaeth glir. Wedi dweud hynny, mae llwyddiant yng Nghwpan Cymru yn rhoi pleser i’r cefnogwyr, sy’n bwysig dros ben, ac yn fuddiol o ran dod ag arian i’r clwb hefyd. Ga’ i fod yn hunanol a gofyn am y ddau os gwelwch yn dda?!
Llywelyn Williams
Chwaraeon y Brifysgol Cynghreiriau BUCS
PÊL-RWYD MERCHED – CYNGHRAIR Y GORLLEWIN 3B
Bydd Tîm Rygbi Dynion 1XV Aberystwyth yn wynebu’r Drindod Dewi Sant yn eu gêm gyntaf y tymor hwn, tra bydd tîm 1af y Clwb Pêl-droed yn herio 3ydd tîm Prifysgol Sir Gaerloyw ym Mlaendolau.
Hawliodd tîm Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, ddyrcha�iad i Adran 2, Gorllewin B, tra cafodd tîm 3XV Prifysgol Metropolitanaidd Caerdydd (UWIC) eu darostwng i’r un gynghrair â thîm 1af Aberystwyth. Bydd y gynghrair hon yn dipyn caletach gyda dyfodiad y ddau dîm o UWIC y tymor hwn.
Bydd tîm pêl-rwyd y merched yn wynebu 4ydd tîm Prifysgol Metropolitanaidd Caerdydd yn eu gêm gyntaf hwythau yn y brifddinas. Bydd carfan hoci’r merched hefyd yn y brifddinas yn herio 3ydd tîm y Brifysgol Metropolitanaidd, tra bydd tîm hoci’r dynion yn aros yn Aberystwyth i wynebu’r Coleg Amaethyddol Brenhinol. Bydd y gemau i gyd yn cychwyn ar yr 17eg o Hydref 2012. Dyma restr o’r gemau y bydd timau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan ynddynt yn nhymor 2012/13. Am fwy o wybodaeth am yr holl dimau, ewch i wefan www.bucs.org. uk a chliciwch ar ‘Aberystwyth University’.
PÊL-DROED DYNION – CYNGHRAIR Y GORLLEWIN 4B Prifysgol Sir Gaerloyw (3ydd tîm) - ADREF - 17 Hydref 2012 Prifysgol Morgannwg (4ydd tîm) – ODDI CARTREF - 24 Hydref 2012 Prifysgol Met. Caerdydd (4ydd tîm) – ODDI CARTREF – 31 Hydref 2012 Prifysgol Abertawe (3ydd tîm) - ADREF – 7 Tachwedd 2012 Prifysgol Morgannwg (3ydd tîm) ODDI CARTREF – 21 Tachwedd 2012 Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin (tîm 1af) ADREF – 5 Rhagfyr 2012 Prifysgol Sir Gaerloyw (3ydd tîm) ODDI CARTREF – 23 Ionawr 2013 Prifysgol Morgannwg (4ydd tîm) ADREF – 30 Ionawr 2013 Prifysgol Abertawe (3ydd tîm) ODDI CARTREF – 13 Chwefror 2013 Prifysgol Morgannwg (3ydd tîm) ODDI CARTREF – 27 Chwefror 2013
Y CAM CYNTAF I FRASIL Unwaith eto, mae gennym rowndiau rhagbrofol newydd ar y gweill. Y gwrthwynebwyr cyntaf y tro hwn oedd Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Dyma gy�le i wylio gêm gystadleuol cyntaf Chris Coleman fel rheolwr tim pêldroed Cymru, ar eu taith i geisio cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014. Roedd y cyffro’n amlwg yn y dyddiau cyn yr ornest ac wrth i bawb gyrraedd y stadiwm nos Wener, yn edrych ymlaen i weld y sêr ar y cae, ac yn gweddïo am ymgyrch lwyddiannus. Er gwaethaf anallu rhai o'n chwaraewyr mwyaf disglair, megis Bellamy ac Allen, i chwarae, roedd yn bryd i'r breuddwydio ddechrau.
Rhwng dau feddwl oeddwn i wrth ystyried maint y dorf. Dydy 20,000 o bobl ddim yn ffôl o gwbl ar gyfer tim rhyngwladol o faint Cymru, ond trueni oedd gweld nad oedd y stadiwm yn llawn, gyda rhyw bum mil o seddi gwag, a hithau'n gêm agoriadol yr ymgyrch. Siom oedd hyn, yn enwedig o ystyried fod y Belgiaid wedi llwyddo i lenwi eu cornel hwy a chadw digon o sŵn yn ystod y gêm. Efallai fy mod i’n uchelgeisiol, ond wrth go�io pa mor llawn oedd hi yn Stadiwm y Mileniwm pan oedd y tîm yn fwy llwyddiannus yn 2003, mae'n amlwg nad yw Cymru’n cael cymaint o gefnogaeth ag y medrent ei gael. Ni allwn ond gobeithio y bydd hyn yn gwella gyda'r canlyniadau.
Nid oedd y gêm ei hun yn rhy galonogol chwaith. Er bod Cymru wedi chwarae'n dda am y 20 munud cyntaf, gan gadw eu siâp, cyfyngu'r Belgiaid, a chael cy�le cynnar gan Dave Edwards, doedd dim dwywaith fod cerdyn coch James Collins wedi newid y gêm. Yn erbyn tîm mor ddawnus, oedd yn cynnwys chwaraewyr disglair fel Hazard a Fellaini, roedd yn anochel y byddai Cymru'n stryffaglu, ac yn y diwedd colli o 2 gôl i 0 oedd ei hanes. Er bod digon o gemau i fynd yn y grŵp, a gobaith o ennill yn erbyn pob un (Serbia, Croatia, Yr Alban a Macedonia), testun pryder oedd i Gymru fethu sgorio’r un gôl unwaith yn rhagor. Oni bai am Bale, nid oedd yr un chwaraewr ymosodol yn disgleirio.
Er y canlyniad siomedig, o leiaf roedd y
Prifysgol Met Caerdydd (4ydd tîm) – ODDI CARTREF – 17 Hydref 2012 Prifysgol Gorllewin Lloegr, Hartpury – ADREF – 24 Hydref 2012 Prifysgol Sir Gaerloyw (2il dîm) – ADREF – 7 Tachwedd 2012 GÊM GWPAN – ODDI CARTREF - 14 Tachwedd 2012 Prifysgol Abertawe (2il dîm) – ODDI CARTREF – 21 Tachwedd 2012 Prifysgol Caerdydd (3ydd tîm) - ODDI CARTREF – 5 Rhagfyr 2012 Prifysgol Met. Caerdydd (4ydd tîm) – ADREF – 23 Ionawr 2013 Prifysgol Gorllewin Lloegr Hartpury – ODDI CARTREF – 30 Ionawr 2013 Prifysgol Sir Gaerloyw (2il dîm) – ODDI CARTREF – 13 Chwefror 2013 Prifysgol Abertawe (2il dîm) – ADREF – 27 Chwefror 2013 RYGBI DYNION 1XV ABERYSTWYTH – CYNGHRAIR Y GORLLEWIN 2B
Drindod Dewi Sant Caerfyrddin (tîm 1af) – ODDI CARTREF – 10 Hydref 2012 Prifysgol Abertawe (3ydd tîm) – ADREF – 17 Hydref 2012 Prifysgol Met. Caerdydd (3ydd tîm) – ODDI CARTREF – 24 Hydref 2012 Prifysgol Morgannwg (2il dîm) – ADREF cefnogwyr ychydig yn fwy bywiog. Wrth lwc, cawsom dicedi yn Stand Canton, ble roedd band pres gwych y Barry Horns yn diddanu'r dyrfa gyda chaneuon. Roedd digon o gefnogwyr brwd yn cadw sŵn wrth iddynt siantio popeth o deyrnged i'r diweddar reolwr Gary Speed, i bennill ffraeth am yr ymosodwr Steve Morison. Petai awyrgylch y stand hwnnw'n cael ei ddyblygu drwy'r stadiwm gyfan, byddai wedi bod yn hwb ychwanegol i'r chwaraewyr, gan fod llawer ohonynt wedi arfer gyda thorfeydd digon a�lafar wrth chwarae i'w clybiau'n wythnosol. Fel gwlad y gân, dylai Cymru allu gwneud yr un fath.
– 31 Hydref 2012 Prifysgol Met. Caerdydd (4ydd tîm) – ADREF – 14 Tachwedd 2012 Prifysgol Abertawe (4ydd tîm) – ODDI CARTREF - 21 Tachwedd 2012 Prifysgol Bath (4ydd tîm) GÊM GWPAN – ADREF – 28 Tachwedd 2012 Prifysgol Caerdydd (3ydd tîm) – ODDI CARTREF – 5 Rhagfyr 2012 Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin – ADREF – 12 Rhagfyr 2012 Prifysgol Abertawe (3ydd tîm) – ADREF – 16 Ionawr 2013 HOCI MERCHED ABERYSTWYTH TÎM 1af – CYNGHRAIR Y GORLLEWIN 3B
Prifysgol Met. Caerdydd (3ydd tîm)ODDI CARTREF – 17 Hydref 2012 Prifysgol Caerdydd (4ydd tîm) – ADREF – 24 Hydref 2012 Prifysgol Bryste (4ydd tîm) – ADREF – 7 Hydref 2012 GÊM GWPAN – 14 Tachwedd 2012 Coleg Amaethyddol Brenhinol (tîm 1af) ODDI CARTREF – 21 Tachwedd 2012 Prifysgol Met. Caerdydd (3ydd tîm) – ADREF – 23 Ionawr 2013 Prifysgol Caerdydd (4ydd tîm) – ODDI CARTREF – 30 Ionawr 2013 Prifysgol Bryste (4ydd tîm) – ODDI CARTREF – 13 Chwefror 2013 Coleg Amaethyddol Brenhinol – ADREF – 27 Chwefror 2013
Llywelyn Williams Byddai'n wych petaem ni fel criw o fyfyrwyr Aberystwyth, trwy'r Geltaidd neu UMCA, yn gallu trefnu tripiau i'r gemau sydd i ddod. Byddai criw mawr ohonom yn sicr o gadw digon o sŵn - mae noson allan yn Aber yn dyst i hynny! Byddai hefyd yn golygu mwy o Gymraeg mewn tyrfa sydd, ar y cyfan, yn Saesneg. Gyda gêm yn erbyn ein brodyr Celtaidd o'r Alban i ddod ar y 12fed o Hydref, pa well achlysur i fyfyrwyr na gêm bêl-droed a phenwythnos yng Nghaerdydd? Pwy a ŵyr, efallai y bydd Cymru'n fuddugol!
Iolo Cheung