1
Dechrau’r Byd Caewch eich llygaid yn dynn. Mae’n dywyll, dywyll. Rhowch eich dwylo dros eich clustiau. Mae’n dawel, dawel. Amser maith yn ôl, cyn dechrau’r byd, roedd popeth yn dywyll, popeth yn dawel. Dim pobl. Dim adar. Dim anifeiliaid.
10
Yna dwedodd Duw: “Rhaid i mi wneud golau! Golau dydd a haul i ddisgleirio.” Fe wnaeth Duw y golau. Ac roedd popeth yn dda.
11
Cadwodd Duw y tywyllwch ar gyfer y nos; gwnaeth y lleuad a’r sêr i ddisgleirio yn y tywyllwch. Roedd hynny’n dda hefyd.
12
Dwedodd Duw: “Rhaid i mi wneud awyr, tir a môr.” Ac roedd hynny’n dda hefyd. Ond roedd y byd yn wag ac yn dawel o hyd. Dwedodd Duw, “Rhaid i mi gael planhigion.” A dechreuodd y planhigion gwyrdd cyntaf dyfu. Cyn bo hir roedd yna flodau a choed a digon o bethau da i’w bwyta. 13
Ond doedd yna ddim un creadur byw i’w mwynhau.
Felly siaradodd Duw eto. Ac yna roedd y môr yn llawn o bysgod a chreaduriaid. A’r awyr yn llawn o liw a sŵn adenydd. Ac o’r ddaear fe ddaeth pob math o anifail. Doedd hi ddim yn dawel wedyn! 14
“Twît-twît! Twît-twît!” Canai’r adar yn hapus. Dechreuodd yr anifeiliaid siarad. Roedd llais pob un yn wahanol. “Hiii-ho!” Dyna’r mul. “Wwff! Wwff! Grrr-wff!” A dyna’r ci. 15
Ond doedd Duw ddim wedi gorffen eto. Roedd angen pobl yn y byd newydd hardd roedd Duw wedi ei greu: pobl i edrych ar ei ôl, pobl i’w fwynhau. Pobl oedd yn gallu meddwl a theimlo, fel Duw, a gwneud pethau hefyd. 16
Felly gwnaeth Duw y dyn cyntaf a’r ddynes gyntaf, i ofalu am y byd ac am ei gilydd, ac i garu Duw. Enw’r dyn oedd Adda ac enw’r ddynes oedd Efa. 17
Ar y dechrau, pan oedd y byd yn newydd, roedd popeth yn dda. A Duw yn hapus iawn. Ond ar ôl yr holl waith roedd Duw wedi blino. Aeth i orffwys er mwyn cael seibiant i fwynhau’r cyfan a wnaeth. 18
“Duw wnaeth yr awyr uwch ein pennau a’r ddaear dan ein traed. Mae Duw’n ein caru bob amser. Duw wnaeth yr haul sy’n disgleirio’n y dydd a’r lleuad a’r sêr sy’n disgleirio’n y nos. Mae Duw’n ein caru bob amser.” * “Duw biau’r ddaear a phob dim sydd ynddi, y byd a phob creadur sydd ynddo, am mai Duw sydd wedi eu gwneud i gyd.” * Ewch i dudalen 479 i weld o ble mae’r darnau sydd wedi eu haralleirio o’r Beibl yn dod. 19