Beth yw'r Beibl?

Page 1

Beth yw’r Beibl?


Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Mae’r pethau rwyt ti’n eu dweud mor dda, maen nhw’n felys fel mêl. Dy orchmynion di sy’n rhoi deall i mi; ac felly dw i’n casáu pob ffordd ffals. Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr. Salm 119: 9, 105 Mae’r glaswellt yn crino, a’r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth! Eseia 40:8 Felly dyma sut bobl ydy’r rhai sy’n gwrando arna i ac yna’n gwneud beth dw i’n ei ddweud. Maen nhw fel dyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy’n gwrando arna i heb wneud beth dw i’n ei ddweud yn debyg i ddyn dwl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu’n llwyr. Geiriau Iesu yn Mathew 7:24-27


Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud. Mae’n fwy miniog na’r un cleddyf, ac yn treiddio’n ddwfn o’n mewn, i wahanu’r enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr. Mae’n barnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu. Hebreaid 4:12 Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da. 2 Timotheus 3:16-17 Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo’ch hunain ydy peth felly! Iago 1:22


Beth ydy’r Beibl? Mae’r Beibl yn dweud yr hanes am gariad Duw. Ei neges ganolog ydy fod Duw yn ein caru ac am i ni droi ato. Mae’n trafod cwestiynau mawr bywyd: O ble daethon ni? Pam ydyn ni yma? Beth sydd o’i le yn y byd? Sut ddylen ni drin pobl eraill? Sut allwn ni ddod i adnabod Duw? Mae’n lyfr sydd wedi newid bywydau pobl ar hyd y canrifoedd. Mae’r cwbl mae’n ei ddweud yn berthnasol i’n bywydau ni heddiw. Nid llyfr cyffredin ydy’r Beibl mewn gwirionedd mae fwy fel llyfrgell neu gasgliad o ddogfennau. 66 o ddogfennau wedi eu hysgrifennu gan nifer o awduron dros gyfnod o tua 1,600 o flynyddoedd. Mae’n cynnwys pob math o lenyddiaeth – hanes, cyfreithiau, barddoniaeth, caneuon serch, dywediadau doeth, proffwydoliaeth, llythyrau, a mwy. Ond er yr amrywiaeth yma i gyd mae yna harmoni a dilyniant trwyddo. Mae un neges yn rhedeg fel llinnyn arian


drwy’r cwbl – fod Duw yn caru ei fyd a’i bobl. Mae’r Beibl yn rhannu’n ddwy ran – yr Hen Destament ydy’r rhan gyntaf, sef ysgrifau sanctaidd yr Iddewon (bron y cwbl wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg yn wreiddiol), a’r Testament Newydd, sef ysgrifau a llythyrau wedi eu hysgrifennu yn ystod y ganrif yn dilyn bywyd Iesu o Nasareth. Mae’r Hen Destament (39 llyfr) yn adrodd hanes y genedl Iddewig – y da a’r drwg. Yna mae’r Testament Newydd (27 llyfr) yn adrodd hanes Iesu a’r cymunedau o bobl ddaeth i gredu ynddo. Bywyd a dysgeidiaeth Iesu, ac arwyddocâd ei farwolaeth a’i atgyfodiad, ydy’r allwedd i ddeall y Beibl. Mae Cristnogion yn credu mai Duw ei hun wnaeth ysbrydoli awduron llyfrau’r Beibl, ac felly mae’n aml iawn yn cael ei alw yn ‘Air Duw’ – h.y. fod Duw yn siarad trwyddo gyda ni. Yng ngeiriau’r Salmydd, “Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.” Salm 119:105


Dyma’r llusern sy’n llewyrchu ar daith bywyd: Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Hwn yw’r Gair sy’n abl i’n harwain trwy gymhlethdodau bywyd: Mae dy air yn abl i’m harwain drwy’r anialwch mawr ymlaen, mae e’n golofn olau, eglur, weithiau o niwl, ac weithiau o dân; mae’n ddi-ble ynddo fe, fwy na’r ddaear, fwy na’r ne’. Mae’r Gair yn ein galluogi i ddehongli bywyd a marwolaeth yng ngoleuni bywyd Iesu: Dyma Feibil annwyl Iesu, dyma rodd deheulaw Duw; dengys hwn y ffordd i farw, dengys hwn y ffordd i fyw; dengys hwn y golled erchyll gafwyd draw yn Eden drist, dengys hwn y ffordd i’r bywyd drwy adnabod Iesu Grist.


Arwain fi i chwilio’r gwirioneddau am Dduw a’i Fab Iesu ar dudalennau’r Beibl: O Arglwydd, dysg im chwilio i wirioneddau’r Gair nes dod o hyd i’r Ceidwad fu gynt ar liniau Mair; mae ef yn Dduw galluog, mae’n gadarn i iacháu; er cymaint yw fy llygredd mae’n ffynnon i’m glanhau. Yr un yw efengyl Iesu, y Gair, ymhob oes er fod amgylchiadau dyn yn newid: Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn; aros mae Efengyl Iesu byth yr un; Athro ac Arweinydd yw efe ’mhob oes; a thra pery’r ddaear pery golau’r groes.


Y Beibl a’r Gymraeg Yn yr Oesoedd Canol ambell ddarn prin o ysgrythur oedd ar gael yn Gymraeg, mewn llawysgrif ac o’r golwg. Lladin oedd iaith gwasanaethau’r eglwysi drwy’r deyrnas hyd 1549, pan ddechreuwyd darllen yn Saesneg. Ond “Mynnwch yr ysgrythur yn eich iaith” oedd anogaeth yr uchelwr William Salesbury i’w gyd-Gymry. Yn 1551, yn damaid i aros pryd, cyhoeddodd Salesbury Kynnifer Llith a Bann, sef darlleniadau ysgrythurol ar gyfer yr oedfaon. Rhoed taw ar y gwaith am bum mlynedd tra bod Mari yn Frenhines, a’r gwasanaethau yn ôl mewn Lladin. Yn ystod teyrnasiad ei chwaer, Elizabeth, roedd pwyslais mawr ar gydymffurfio, ac felly ar ryw wedd roedd hi’n syndod bod gorchymyn wedi’i roi yn 1543 i ddarllen y Beibl yn Gymraeg yn yr eglwysi. Ond y bwriad gan Elizabeth ar y pryd oedd defnyddio’r Gymraeg i gael y Cymry i gydymffurfio â’i chrefydd Brotestannaidd hi. Felly gorchymynnwyd yr esgobion i fynd ati i gyfieithu’r Beibl cyfan i’r Gymraeg.


Cyfieithwyd y Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Testament Newydd gan Salesbury erbyn 1567 a chafodd help eraill gan gynnwys yr Esgob Richard Davies. Ond ni chafodd y cyfieithiad lawer o groeso oherwydd i Salesbury ddefnyddio ffurfiau ar eiriau Lladin yn gymysg gyda’r Gymraeg (eccles am eglwys er enghraifft). Bu’n rhaid aros am un mlynedd ar hugain arall cyn cael y Beibl cyfan. Yr Esgob William Morgan o’r Wybrnant, offeiriad Llanrhaeadr ym Mochnant, oedd yn gyfrifol am y campwaith hwnnw. Bu’r Archesgob Whitgift yn gefnogol iawn iddo, er mai ef oedd gelyn mawr John Penri. Cafodd Beibl William Morgan, 1588, groeso mawr. Roedd yn waith ieithydd a llenor medrus. Yn ogystal â’r Hebraeg a’r Groeg gwreiddiol roedd fersiynau Saesneg ac Almaeneg wrth ei benelin, ac yntau yn gywirach na nhw yn aml. Cafodd ei dwtio gan yr Esgob Richard Parry a Dr John Davies, Mallwyd ym Meibl 1620.


Ni welwyd fersiynau newydd ar ôl 1620 tan i bwyllgor y Beibl Cymraeg Newydd gael ei sefydlu ac ymddangosodd y Testament Newydd yn 1975 a’r Salmau yn 1979 a’r Beibl cyfan yn 1988, pedwar can mlynedd ers cyhoeddi Beibl William Morgan. Cafwyd fersiwn diwygiedig ohono yn 2004 gyda phwyslais ar iaith gynhwysol ac yna yn 2015 cyhoeddwyd y testun eto fel rhan o’r Beibl Canllaw. Erbyn troad y mileniwm roedd cynlluniau ar droed i gyhoeddi beibl.net ar y we. Ymddangosodd y Testament Newydd ar y we yn 2002, y Beibl cyfan ar y we yn 2012 ac yna y Beibl cyfan mewn print yn 2015. Diolch amdanynt bob un – mae cael y Beibl yn ein hiaith yn drysor amhrisiadwy ac mae’n anodd gorbwysleisio ei werth.


Y Beibl yw’r unig lyfr y mae’r Awdur ei Hun yn bresennol bob tro y caiff ei ddarllen.

Nid pobl yn siarad am Dduw, ond Duw yn siarad â phobl, yw cynnwys y Beibl.

Ond tybed ydy Duw wedi siarad â ni unwaith ac am byth yn nhudalennau’r Beibl, ac wedi anghofio amdanom y dyddiau hyn? Na, mae Duw yn dal i lefaru – dyna’r gwirionedd Cristnogol.

Llyfr gobaith ydy’r Beibl a’i thema drwyddo ydy bod Duw yn bod, yn gweithredu ac yn gofalu amdanom. Ond mae hefyd yn ateb y cwestiwn, ‘Beth yw dyn?’ Plentyn i Dduw.


Un weddi tri fersiwn Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef. Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol; a maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn; a phaid â’n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg. Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas a’r gallu a’r gogoniant am byth. Amen.

Beibl William Morgan

Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig


Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg. Achos ti sy’n teyrnasu, ti sydd â’r grym a’r gogoniant am byth. Amen. beibl.net


Mae’r Beibl wedi’i gyfieithu i o leiaf 2,018 o ieithoedd ac mae dros 250,000 o gopïau yn cael eu gwerthu a’u rhannu bob dydd. Llyfrgell o 66 o lyfrau yw’r Beibl wedi eu hysgrifennu gan 44 o wahanol awduron dros gyfnod o 1,600 o flynyddoedd a hynny mewn tair iaith Hebraeg, Aramaeg a Groeg. Y llyfr hiraf yn y Beibl yw Llyfr y Salmau, tra’r byrraf yw Trydydd Llythyr Ioan. Mae’r bennod hiraf i’w gweld yn Salm 119 gyda 176 o adnodau a’r fyrraf yw Salm 117 gydag ond 2 adnod. Mae 1189 o benodau yn y Beibl, gyda 929 yn yr Hen Destament a 260 yn y Testament Newydd. Mae 31,173 o adnodau yn y Beibl, gyda 23,214 yn yr Hen Destament a’r 7959 yn y Testament Newydd. Mae 824,840 o eiriau yn beibl.net, gyda 605,128 yn yr Hen Destament a 219,712 yn y Testament Newydd. Y Beibl yw’r unig lyfr sy’n honni i fod yn eiriau Duw. Duw ysbrydolodd awduron y Beibl i ysgrifennu i lawr ei eiriau; a dyna pam y cawn yr ymadrodd “fel hyn y dywed yr Arglwydd” mor aml.


Diolch am Feibl yn ein hiaith. Gofynnwn am dy gymorth i’w ddarllen a’i ddeall yn well. Rydym yn ddiolchgar, Arglwydd, fod gennym Feibl, a hwnnw mewn iaith gyfoes. Maddau inni nad ydym yn ei ddarllen yn amlach. Rho inni help i’w ddeall, nes meddiannu’r trysor sydd yn ei eiriau. Agor ein llygaid i weld drwy’r geiriau y Gair – dy annwyl Fab Iesu Grist. Agor ein clustiau er mwyn i ni glywed dy lais ac i ni ddeall neges dy efengyl yn well. Agor ein calon er mwyn i ni dderbyn Iesu fel ein Gwaredwr a’n Harglwydd. Gwna ein Beibl, Arglwydd, yn Air y Bywyd i ni. Amen


Air Disglair Duw dyro d’olau i Gymru heddiw

Am wybod mwy ewch i: ysgolsul.com | beibl.net


Nid hen grair llawn o eiriau – ydyw hwn o dan y gawg flodau Hwn yw’r Gair pan nad ar gau Duwdod mewn dywediadau. Einion Evans Cywrain ei fapiau cariad; – yn ein llaw y mae’n llyfr cyfeiriad. ’Run term yng nglosari’n Tad, yw ‘Gair Iôn’ ac ‘arweiniad’.

Einion Evans

Llyfr mawr ei bwnc, llyfr mwya’r byd, – llyfr Duw, A llyfr deddf yr hollfyd: Mae bywiol fflam y bywyd A grym y gair yma i gyd. R. Jones Llyfr doeth, – yn gyfoeth i gyd, – wych lwyddiant, – A chleddyf yr Ysbryd; A gair Duw nef yw hefyd; Beibl i bawb i bobl y byd! Robert Williams


Pam darllen y Beibl? Yr ateb syml yw, er mwyn i ni ddod i adnabod Duw. Prif bwrpas ein bodolaeth ar y ddaear yw addoli a charu Duw a byw mewn perthynas gydag Ef am byth. Er mwyn hyn y cawsom ein creu. Gair Duw yw’r Beibl. Llyfr sydd wedi ei ysgrifennu gan ddegau o awduron, o dan arweiniad yr Ysbryd Glân, er mwyn cyflwyno’r newyddion da Cristnogol i ddynoliaeth. Yn ein perthynas gariadus gyda Duw, trwy Iesu, y mae ystyr cyflawn i fywyd a thrwyddi deuwn i garu ein gilydd. Mae’r Beibl, mewn amrywiol ffyrdd, yn esbonio sut y gallwn wneud hyn a sut y mae Duw trwy Iesu wedi trefnu ffordd ryfeddol i ni ddod yn gyfeillion iddo. Mae’n esbonio sut mae Duw wedi delio hefo’r drwg sy’n ein gwahanu ni oddi wrtho trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae’r Beibl o glawr i glawr yn esbonio meddwl Duw a’i gynllun ar ein cyfer. Mae hyn yn cynnwys sut y deuwn i berthynas gydag Ef trwy Iesu ac nad oes ffordd arall i wneud hynny. Esbonia sut y mae’r Ysbryd Glân yn gweithio yn ein plith; sut i addoli Duw a gweddïo yn effeithiol; sut i fod yn ddisgyblion i Iesu Grist mewn byd anghrediniol; sut i garu a gwasanaethu ein gilydd; sut i oresgyn problemau personol; sut i fyw bywydau glân, moesol a charedig sy’n llawn gweithredoedd da; sut i fod yn aelodau gwerthfawr o fewn i’r gymdeithas,


sut i hyrwyddo cyfiawnder Duw mewn byd anghyfiawn a llwer mwy. Mae’n ein harfogi i ennill brwydrau ysbrydol yn ein calonnau ac i orchfygu temtasiynau. Mae gan y Beibl arweiniad a doethineb ar gyfer pob amgylchiad, da neu ddrwg a ddaw i’n bywydau. I ddweud y gwir wrth ystyried yr holl bethau hyn byddai’n ffôl i beidio â darllen y Beibl yn gyson.


‘Agor inni’r Ysgrythurau Dangos inni Geidwad dyn.’ Helpa ni i dy glywed yn siarad ym mywyd a pherson dy Fab Iesu Grist: yn ei ddysgeidiaeth bur, yn ei weithredoedd nerthol ac yng ngrym ei angau a’i atgyfodiad. Amen.

/beiblbyw #beiblbyw beibl.net ysgolsul.com biblesociety.org.uk Beth yw’r Beibl? Cyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau’r Gair 2016 Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH www.ysgolsul.com

Diolch i’r canlynol am gyfrannu: Huw John Hughes, Alun Tudur, Arfon Jones a Dewi Myrddin Hughes Golygydd Cyffredinol: Aled Davies Cysodi: Rhys Llwyd Argraffwyd yn y Deyrnas Gyfunol Cedwir pob hawl.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.