Anni Llŷn
Angela Jolliffe
Nadolig Cyntaf Fy Llyfr
Anni Llŷn
Bardd Plant Cymru 2015-2017
Nadolig Fy Llyfr
Cyntaf
Gan Anni Llšn L lu n i a u g a n A n g e la Jo l liff e
4
Pwy sy’n disgwyl babi? Mair yw hon, yn wir. Dywedodd angel wrthi y bydd hi’n geni mab Duw cyn hir. 5
I ble mae pawb yn teithio? Nôl i’w gartref ei hun. Mae Joseff a Mair yn mynd i Fethlehem. Mae’r Rhufeiniaid am eu cyfri fesul un.
6
7
8
Oes lle i aros yma? Mae Mair wedi blino. Mae gŵr y llety’n ysgwyd ei ben. Does dim lle iddynt yno.
9
10
Pwy sy’n gorwedd mewn preseb? Iesu – mab annwyl Mair. Mae’r anifeiliaid yn ei wylio’n dawel yn cysgu ar ei wely o wair. 11
Pam mae’r bugeiliaid mewn dychryn? Mae golau llachar uwch ben. “Peidiwch ag ofni” medd angel, “Mae Iesu wedi’i eni mewn stabal pren.”
12
13
I ble mae’r bugeiliaid yn rhedeg? I Fethlehem nerth eu traed, i weld Mair a Joseff, a mab Duw mewn cig a gwaed.
14
15
Seren ddisglair yn yr awyr! Beth yw ystyr y seren dlos? Brenin wedi ei eni? Rhaid ei dilyn drwy’r nos.
16
17
18
Pwy sy’n teithio ar gamelod? Tri Gŵr Doeth ar daith hir, yn cario anrhegion i’r babi, gan ddilyn y seren glir. 19
20
Ai dyma balas y Brenin bach? “Na!” meddai Herod, “Fi yw’r brenin yma! Ond, os y dewch chi o hyd i’r bychan, galwch heibio ar y ffordd adra.”
21
I ble mae’r seren yn eu harwain? Mae’r Tri Gŵr Doeth yn penlinio wrth faban bychan hapus, gan roi anrhegion iddo.
22
23
24
Meddyliodd Mair yn dawel beth oedd ystyr hyn i gyd? Dynion doeth a bugeiliaid yn moli a galw ei mab yn Frenin y Byd?
25
Yn y nos mae Joseff yn deffro. Cafodd neges mewn breuddwyd gan angel, yn eu rhybuddio i ddianc yn gyflym i rywle sy’n llawer mwy diogel.
26
27
Maen nhw’n aros yn yr Aifft am sbel, ond heb ddarganfod lle da i fyw. Ac felly maen nhw’n teithio i Galilea, Joseff, Mair a mab Duw.
28
29
Cyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau'r Gair © 2016 Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
Cyhoeddwyd yn wreiddiol dan y teitl My First Christmas Book Hawlfraint © 2011 Anno Domini Publishing www.ad-publishing.com
www.ysgolsul.com
Cyfarwyddwr Cyhoeddi: Annette Reynolds Cyfarwyddwr Celf: Gerald Rogers Rheolwr Cyn-gynhyrchu: Krystyna Kowalska Hewitt Rheolwr Cynhyrchu: John Laister
Testun Cymraeg: Anni Llŷn Golygydd Cyffredinol: Aled Davies Cysodi: Rhys Llwyd Cedwir pob hawl
Testun © 2011 Sally Ann Wright Lluniau © 2011 Angela Jolliffe
Argraffwyd yn yr Undeb Ewropeaidd
Pwy sy’n disgwyl babi? Pwy sy’n gorwedd mewn preseb? Pwy sy’n teithio ar gamelod? Dyma hanes geni Iesu yn cael ei adrodd yn fywiog gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn. Llyfr delfrydol ar gyfer y plant lleiaf.
www.ysgolsul.com
9
781859 948323
ISBN 9781859948323 | £2.99