ANTUR NEWYDD DYFODOL DISGLAIR PRIFYSGOL BANGOR
Prospectws Israddedigion
2017
DEWCH I BROFI BANGOR DIWRNODAU AGORED Dewch i un o’r Diwrnodau Agored i gael blas ar fywyd myfyriwr a chael gwybod mwy am y cyrsiau sydd ar gael yma. Gan ein bod ar y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr, fe welwch fod yma amryw o resymau dros ddewis astudio ym Mangor. Bydd diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd, cyfarfod y staff a’r myfyrwyr, gweld y campws a’r neuaddau preswyl a chael y wybodaeth ddiweddaraf am astudio yma. Bydd pob Ysgol academaidd yn agored i chi a chewch gyngor ar bynciau megis gyrfaoedd i raddedigion, cyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, gwasanaethau lles myfyrwyr ac UCAS. Bydd hefyd gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer myfyrwyr hŷn a rhieni. Cewch raglen yn cynnwys manylion y diwrnod ymlaen llaw er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’ch ymweliad, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein sydd ar ein gwefan. Byddwn yn anfon rhaglen a phecyn gwybodaeth atoch cyn y diwrnod agored.
04
I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk/diwrnodagored neu ffoniwch 01248 382005 / 382420
“Roedd Diwrnod Agored Bangor yn brofiad gwych. Cefais fanylion am y cwrs a dod i adnabod y staff. Bu’n brofiad defnyddiol iawn” LIAM EVANS, o Hen Golwyn
Dewch i wybod mwy am y profiad o fod yn fyfyriwr ym Mangor drwy ddod i un o’n Diwrnodau Agored. PRYD MAE’R DIWRNODAU AGORED? Bydd y Diwrnodau Agored ar y dyddiau Sadwrn canlynol yn 2016:
Mehefin 25, 2016 Gorffennaf 2, 2016 Hydref 15, 2016 Hydref 29, 2016 YN YSTOD DIWRNOD AGORED BYDDWCH YN • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. ARCHEBU EICH LLE I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 382005 / 382320
05
© Iwan Williams
TU HWNT I DDISGWYLIADAU
06
“Ym Mangor rydym bob amser yn gwneud ein gorau i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol er mwyn darparu profiadau prifysgol sydd yr un mor bleserus ag ydynt yn werth chweil. Rydym yn cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, yn amrywio o arweiniad ariannol i gyfleoedd gyrfa ac o gyngor personol i gefnogaeth academaidd. Rydym hefyd yn falch ein bod yn meithrin cymuned gefnogol a mawr ei gofal sy’n annog ymdrech a thwf personol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Yn ogystal, mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd godidog Eryri a milltiroedd o arfordir yn ychwanegu at y profiad prifysgol na ellir ei guro. Yn ddiweddar mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau’n datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr, gan ei wneud yn lle mwy deniadol fyth i astudio ynddo. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.” Yr Athro JOHN G. HUGHES Llywydd/Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor
07
GYDA’R GORAU CIPOLWG CYFLYM
10 UCHAF Mae’r canlyniadau rhagorol a gafodd Prifysgol Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015 yn ei gosod yn y safle uchaf yng Nghymru ac yn y 10 uchaf ym Mhrydain* am foddhad myfyrwyr. Gosododd y canlyniadau Prifysgol Bangor yr orau yng Nghymru am addysgu.
Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn gadarnhad ardderchog o’n gweithgareddau a’n gwerthoedd. Mae’n wych ein bod yn y 10 uchaf ym Mhrydain... Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu’r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.” Yr Athro OLIVER TURNBULL Dirprwy Is-ganghellor (Addysgu a Dysgu)
Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn rhoi adborth cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob un o brifysgolion Prydain ac yn Arolwg 2015 cafodd Prifysgol Bangor ganlyniadau rhagorol mewn ystod o bynciau a meysydd.
08
* ac eithrio sefydliadau arbenigol † The Sunday Times Good University Guide 2016 ** heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig
Y Gorau yng Nghymru am Addysgu Yn 6ed ym Mrydain am † Ansawdd ein Haddysgu Yn y 10 uchaf ym Mhrydain am Gefnogaeth Academaidd Yn y 40 uchaf ym Mhrydain** am Ansawdd ein Hymchwil
15Uchaf Bi
Gosododd gwobrau WhatUni? 2015 Brifysgol Bangor y brifysgol orau ym Mhrydain am Glybiau a Chymdeithasau. Cafodd ansawdd y llety a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ei gosod yn y 5 uchaf a roedd Bangor yn y 10 uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn.
Gosododd Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education Prifysgol Bangor ymysg y 15 prifysgol orau ym Mhrydain am brofiad myfyrwyr.
AD PE AS Cyll HCA Iei Mar Ce EBi GC Cym
Gosododd Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015 Prifysgol Bangor yn y 10 uchaf ym Mhrydain mewn 19 maes pwnc ac yr uchaf yng Nghymru am 12 maes pwnc: Bioleg; Astudiaethau Dylunio; Peirianneg Electronig; Astudiaethau Saesneg a Seisnig; Cyllid; Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon; Ieithyddiaeth; Marchnata; Cerddoriaeth; Eraill mewn Gwyddorau Biolegol (sy’n adlewyrchu agweddau ar ein haddysgu meddygaeth-gysylltiedig); Gwaith Cymdeithasol a Chymdeithaseg.
09
BANGOR: DOES UNMAN TEBYG
10
Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a’r ymchwil o safon fyd-eang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o’r llu o weithgareddau myfyrwyr. Gyda tua 160 o glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r cyfan yn cyfrannu at brofiad prifysgol bythgofiadwy a digymar... Cipolwg cyflym ar Brofiad Myfyriwr • Mae cymuned fyfyrwyr fywiog Bangor yn cynnwys dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig – darllenwch fwy am brofiadau ein myfyrwyr ar dudalennau 14-15. • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall. • Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir – yn gaffaeliad mawr i’r myfyrwyr sy’n astudio yma. Mae neuadd JMJ yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg sy’n cynnig cymuned glòs a chyfeillgar i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru. • Mae cefnogaeth i fyfyrwyr yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni ar gael yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol. Gallwn hefyd eich paratoi chi ar gyfer eich dyfodol gyda’n gwasanaethau cyflogadwyedd a menter. • Mae’n lle cyfeillgar a chyfleus i astudio, ac mae’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn rhesymau eraill dros benderfynu dod i Fangor. • Mae maint a natur Bangor yn golygu bod myfyrwyr yn ymgynefino ar unwaith, ac yn mwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau a’r ffordd o fyw unigryw a gynigir i fyfyrwyr yma. • Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.7M.
11
LLEOLIAD SY’N DENU Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant Lleoliad Cyfeillgar a Chyfleus Mae rhagoriaeth Prifysgol Bangor Mae lleoliad Bangor hefyd yn denu. Mae Bangor Mae’r bywyd myfyrwyr a gynigir ym Mangor yn mewn ymchwil ac addysgu yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd i’r yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus un o’r prif resymau pam fod nifer o’n myfyrwyr i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn yn dewis astudio yma. Mae maint a natur ddinas. Mae hyn yn cynnig cyfle i’n dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas gyfeillgar y lle, yr amrywiaeth o weithgareddau myfyrwyr gydweithio a chymdeithasu ei hun. myfyrwyr a gynigir, ynghyd a’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn golygu bod myfyrwyr yn mwynhau â phobl o wahanol wledydd. Mae eu hunain ym Mangor. Mae’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau hefyd yn golygu bod y Brifysgol yn pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. gweithredu ar lwyfan rhyngwladol, Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Mae Academi, clwb nos y myfyrwyr, yn Môn yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd ganolbwynt i lawer iawn o’r adloniant gyda’r gan weithio mewn partneriaeth â rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i nos. Yn ogystal â nosweithiau wedi eu trefnu gan phrifysgolion a phartneriaid ymchwil fwynhau eich hunain yn ymlacio. yr Undeb neu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg ledled y byd. Bangor (UMCB, mwy ar dudalen 23), mae I’r dwyrain, mae’r A55 a’r rheilffordd ar hyd arfordir Cymru yn golygu y gallwch chi fynd digon hawdd am y diwrnod neu gyda’r nos i Landudno, Caer, Lerpwl neu Manceinion. Mae llefydd fel Caernarfon, Llanberis, Beddgelert a Biwmares yn gyrchfannau poblogaidd i fynd am dro, tra bo sawl pentref llai wedi eu dewis fel lleoliad ar gyfer trip Pentre Bach UMCB.
“Mae Bangor yn lle hynod o braf i fyw ac astudio. Ceir y gorau o ddau fyd yma – bod yn y ddinas ond yn agos i gefn gwlad a’r Parc Cenedlaethol.” ELAIN HAF ELIS o Abergele, sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg
12
amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Y Glôb. Mae Bar Uno, sydd ym mhentref Ffriddoedd yn fan cyfarfod arall poblogaidd i fyfyrwyr. Mae gan Bar Uno dair sgrin fawr a chalendr llawn gweithgareddau yn cynnwys nosweithiau chwaraeon, nosweithiau cymdeithasol i glybiau a chymdeithasau, a nosweithiau o adloniant. Yn ogystal, mae canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd, Pontio, yn ganolbwynt cymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ogystal â chanolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â bod yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, mae’r ganolfan yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, ystafelloedd darlithio, bar, bwyty a chaffi. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau cerddoriaeth, drama, theatr awyr, comedi, ffilm, ac ystod o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal yno.
Canolfan newydd Pontio
“Mae’r rhan fwyaf o’r cyfleusterau ar y campws, ac mae’n cymryd 10 munud i gerdded i’r Prif Adeilad. Mae’r llyfrgell yn un anhygoel, ac mae’r staff o hyd yn barod i helpu. O ran byw, mae yna bopeth ar gael – fel siopau a bwytai.” CARYS ANGHARAD DAVIES, o Aberteifi, sy’n astudio Cerddoriaeth
13
WRTH EU BODD YM MANGOR PROFIADAU EIN MYFYRWYR “Mi es i Ddiwrnod Agored cyn dod i’r Brifysgol a rhoddodd hynny syniad i mi ynglŷn â’r lle a sut roedd y cwrs yn cael ei ddysgu. Dewisais astudio ym Mangor am fod fy nghwrs yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yno ac mae hynny wedi bod o fantais i mi. Mae byw mewn neuadd yn brofiad gwerthfawr iawn – mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud ffrindiau newydd a byw yn annibynnol. Credaf fod Bangor yn ddinas ddelfrydol i fyw ac astudio ynddi.” MELEN HÂF LLOYD, o’r Gaerwen, Ynys Môn sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
“Mae Bangor yn lle unigryw – ar yr un llaw mae’n cynnig cyffro a bwrlwm dinas Bangor a’r Brifysgol, ond ar y llaw arall, mae mynyddoedd Eryri a’r môr...” 14
LIAM EVANS, o Hen Golwyn, sy’n astudio Cymraeg a Hanes
“Yr amgylchedd Gymraeg a chartrefol oedd y prif ffactor i mi ddewis Bangor fel Prifysgol. Yn ogystal, mae adnoddau, y cyfleusterau a darpariaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ymysg y gorau. Mae’r profiad o fyw mewn neuadd yn anhygoel! Wrth fyw yn neuadd JMJ mae’n hawdd dod i adnabod myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf a’r ail – felly mae’n amhosib osgoi bwrlwm a gwefr y gymdeithas Gymraeg.
“O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ailgartref imi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor i astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y dewis gorau i mi. Mae gallu astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi a gan fod Bangor yn caniatáu i mi wneud hynny rwyf yn ei weld yn lle gwych ar lefel addysgol a chymdeithasol.
Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr fyddai – ‘Dewch i Fangor! Y lle i wneud ffrindiau, mwynhau a chael addysg o’r safon ucha’!’”
Rwyf yn hapus iawn efo’r gefnogaeth yr wyf yn ei chael yma, yn enwedig gan fy narlithwyr a fy Nhiwtor Personol. Teimlaf y gallwn drafod unrhyw beth gyda nhw.”
OWAIN ELIDIR WILLIAMS, o’r Wyddgrug, sy’n astudio Gwyddorau Chwaraeon
LOWRI LLOYD PARRY, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
”Mae Bangor yn lle hyfryd i fyw ac astudio gan fod pob man mor agos i’w gilydd. Mae cyfleusterau dysgu o’r safon uchaf yma ac mae yma lawer o gyfleusterau hamdden sy’n rhoi digon o ddewis o bethau i’w gwneud yn eich amser rhydd. Mae Bangor mewn lleoliad unigryw – yn agos i’r môr a mynyddoedd Eryri ac felly mae digon o gyfle i fynd allan i archwilio’r ardal gyfagos. Fy uchafbwynt yw cael fy nerbyn i ddod i’r Brifysgol anhygoel yma, a galla’i ddweud fy mod wedi mwynhau pob eiliad yr wyf wedi bod yma, boed hynny mewn darlithoedd neu yn cymdeithasu efo ffrindiau...” GWION LLŶR MORGAN EVANS, o Dregaron, sy’n astudio Cymraeg a Gwyddor Chwaraeon
“Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg – mae yma Gymdeithas Gymraeg gref iawn ac mae byw yn JMJ yn anhygoel.” RHIANNON LLOYD WILLIAMS, o Gaerdydd, sy’n astudio Cymraeg
15
Y GYMRAEG YM MANGOR
“Mae Bangor yn lle braf iawn i fyfyrwyr Cymraeg. Mae cymdeithas Gymraeg glòs yma ac mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed ar y stryd fawr ac yn y Brifysgol.” ELAIN HAF ELIS, o Abergele, sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr.
Arwain ar y Gymraeg Bangor yw un o’r prifysgolion pwysicaf yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy Gymru. Mae Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn llawer o’r cydweithio rhwng prifysgolion yn sgil sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – o fodiwlau ym meysydd Busnes, y Gyfraith a Cherddoriaeth i enwi dim ond rhai, i’r gwaith o lunio’r termau sydd eu hangen ar gyfer astudio drwy’r Gymraeg.
Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n gyson mewn datblygiadau academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog. Ym Mangor, ceir profiad Cymraeg cyflawn – o ddewis eang o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i wasanaethau trwy’r Gymraeg, i ddigwyddiadau cymdeithasol Bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mangor yn parhau le mae’r Gymraeg yn ganolog. i dyfu dros y blynyddoedd nesaf yn dilyn penodi darlithwyr newydd trwy gynllun staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr Hyd yn hyn dyfarnwyd 30 o swyddi darlithio newydd, sy’n ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i golygu y gall myfyrwyr edrych ymlaen at nifer o gyrsiau a chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol datblygiadau cyfrwng Cymraeg newydd mewn meysydd fel hwn. Cemeg, Cerddoriaeth, Seicoleg, Polisi Cymdeithasol, Nyrsio, Cyfrifeg, Gwyddorau Cyfrifiadurol, Gwyddorau Chwaraeon, Sŵoleg ac Economeg.
“Credaf fod Bangor yn lle gwych i fyfyrwyr Cymraeg oherwydd yr ystod eang o gyrsiau a’r cymorth sydd ar gael i’w hastudio. Yn ogystal, mae cymuned Gymraeg wych yma, wedi ei chryfhau gan neuadd JMJ ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB).” LOWRI LLOYD PARRY, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
16
Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
17
GO BE www.bangor.ac.uk