LLWYDDO WRTH
YSGRIFENNU Gweithdai’r Ganolfan Sgiliau Astudio Ionawr – Mai 2016 CANOLFAN SGILIAU ASTUDIO
Eich helpu i wneud y gorau o’ch astudiaethau Gwasanaethau Myfyrwyr
LLWYDDO WRTH YSGRIFENNU
Cynnwys EICH HELPU I WNEUD Y GORAU O’CH ASTUDIAETHAU
02
GWEITHDAI SEMESTER 2
02
GWEITHDAI YSGRIFENNU ACADEMAIDD
03
YSGRIFENNU YMCHWIL A THRAETHAWD HIR
07
POENI AM ARHOLIADAU?
10
DYSGWCH FWY AM EIN HYMGYNGHORIADAU YSGRIFENNU
11
PEIDIWCH Â CHOLLI DIGWYDDIADAU ERAILL Y GANOLFAN A FYDD O GYMORTH
12
02
Eich helpu i wneud y gorau o’ch astudiaethau
Gweithdai Semester 2
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio’n gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr ar bob lefel o astudiaeth isradd ac ôl-radd, ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys:
Cyfres Ysgrifennu Academaidd sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu sy’n gysylltiedig ag aseiniadau, a Chyfres Traethawd Hir. Tua diwedd y semester cynhelir dau weithdy ychwanegol sy’n canolbwyntio ar y broses adolygu a rheoli arholiadau.
sgiliau ysgrifennu ac astudio
• Sesiwn galw heibio Mathemateg ac Ystadegau
• Gweithdai sgiliau ysgrifennu, ymchwil ac arholiadau
• Ysgol ysgrifennu traethodau hir ôl-radd
• Grwpiau ysgrifennu PhD • Canllawiau astudio ar-lein
studyskills.bangor.ac.uk
Mae ein gweithdai yn rhoi cyfle i archwilio arferion a strategaethau sy’n helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddisgwyliadau academaidd ac i wella ansawdd y gwaith rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae sgwrsio yn ganolog i’n dulliau o ymdrin â thasgau. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu. Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Ailadroddir y gweithdai unwaith yn ystod yr wythnos ganlynol, gyda’r un deunydd. Edrychwn ymlaen i weithio gyda chi.
DIM ANGEN COFRESTRU
• Apwyntiadau unigol ar
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi llunio dwy raglen o weithdai ar draws Semester 2:
GWEITHDAI YSGRIFENNU ACADEMAIDD Ionawr – Mawrth 2016 Hyd: 90 munud Mae’r gyfres hon sy’n rhad ac am ddim, ac wedi’u hanelu’n bennaf at fyfyrwyr israddedig ond hefyd yn berthnasol i ôl-raddedigion, yn darparu cyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Bwriad y gyfres yw darparu sylfaen gadarn ar gyfer ymdrin ag aseiniadau yn y dyfodol, drwy drin a thrafod pynciau megis rheoli eich astudiaethau, defnyddio ffynonellau a dulliau beirniadol o ddarllen ac ysgrifennu, a thrafod ffyrdd o gynhyrchu a threfnu eich syniadau. I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor. ac.uk/ digwyddiadau.php.cy Nid oes angen cofrestru.
04
WYTHNOS 15
WYTHNOS 16
Rheoli eich astudiaethau
Cael yr awen i lifo
27ain Ionawr - 2pm Alun A1.01
4ydd Chwefror - 2pm
2il Chwefror - 2pm
8fed Chwefror - 2pm Alun A1.06
Alun A0.01
Mae’r gweithdy hwn wedi cael ei gynllunio i’ch helpu i feddwl yn strategol am y semester o’ch blaen, ac i ystyried cynllun ar gyfer rheoli eich amser.
LR3 Prif Adeilad y Celfyddydau
Bwriad y gweithdy hwn yw rhoi hwb i’ch ysgrifennu drwy gyflwyno amrywiaeth o strategaethau ar gyfer cynhyrchu a chrisialu eich syniadau. Os ydych chi’n dueddol o ddileu mwy nag ydych chi’n ei ysgrifennu, neu’n syllu ar dudalen wag gan ddymuno nad oedd yn wag, yna bydd y gweithdy hwn o fudd i chi.
studyskills.bangor.ac.uk
WYTHNOS 17
WYTHNOS 18
Ysgrifennu brawddegau gwell
Cymryd nodiadau a darllen i bwrpas
10fed Chwefror - 2pm
Alun A1.06
18fed Chwefror - 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR3
16eg Chwefror - 2pm
Wheldon LT2
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi sylw i wallau cyffredin wrth strwythuro brawddegau a llif eich gwaith, gan archwilio ffyrdd o olygu eich gwaith yn y modd mwyaf effeithiol. Dylai’r sesiwn hon fod o fudd os yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn awgrymu bod angen i chi wella eich atalnodi a gramadeg.
22ain Chwefror - 2pm Alun A1.06 Yn y gweithdy hwn byddwn yn ystyried yr hyn sydd angen i chi chwilio amdano wrth i chi ddarllen, ac archwilio ffyrdd o grisialu gwybodaeth o ddarlithoedd ar ffurf nodiadau.
WYTHNOS 19
WYTHNOS 20
Aralleirio ac osgoi llên-ladrad
Sut i gryfhau eich dadl
24ain Chwefror - 2pm
9fed Mawrth - 2pm Wheldon LT2
OSCRA Prif Adeilad y Celfyddydau
1af Mawrth - 2pm Alun A1.01 Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar yr hyn a olygir wrth arfer da wrth ddefnyddio gwaith awduron eraill, ac mae’n cynnig nifer o ffyrdd i osgoi llên-ladrad. Rhoddir pwyslais penodol ar drafod ffyrdd o roi syniadau awduron eraill yn eich geiriau eich hun.
06
15fed Mawrth - 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau LR3 Os yw sylwadau adborth eich darlithwyr yn nodi’r angen i ddatblygu eich dadl a gwneud eich gwaith yn llai disgrifiadol, yna dyma’r gweithdy i chi. Yn ystod y sesiwn byddwn yn archwilio ffyrdd o gyflwyno safbwynt, sut i fynegi barn sy’n dal dŵr a ffyrdd o roi dadl ar brawf.
studyskills.bangor.ac.uk
WYTHNOS 15
YSGRIFENNU YMCHWIL A THRAETHAWD HIR Ionawr – Ebrill 2016 Hyd: 90 munud Mae’r gyfres hon sy’n rhad ac am ddim, ac wedi’u hanelu at fyfyrwyr sy’n ystyried eu traethawd hir yn ogystal â’r rhai sy’n paratoi ymchwil cefndirol, yn darparu cyfle ymarferol i: (a) ddatblygu eich targedau ymchwil, (b) i reoli eich ymchwil, (c) i ystyried dulliau o ymdrin ag adolygu ffynonellau, (ch) i lunio crynodeb, ac i (d) archwilio beth sy’n gwneud rhagarweiniad pwrpasol. I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan: http://studyskills.bangor. ac.uk/ digwyddiadau.php.cy Nid oes angen cofrestru.
Diffinio eich Pwnc 26ain Ionawr - 2pm
Wheldon LT2
3ydd Chwefror - 2pm
Alun A1.06
A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw? Dyma ddau gwestiwn sy’n cael eu hystyried yn y gweithdy hwn wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi.
WYTHNOS 16
WYTHNOS 17
Cynllunio eich traethawd hir
Adolygu’r Llenyddiaeth
9fed Chwefror - 2pm Alun A1.01
23ain Chwefror - 2pm Alun A0.01
17eg Chwefror - 2pm Alun A0.01
2il Mawrth - 2pm Alun A0.01
Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar y syniad o ‘archwiliad ymchwil’ fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich prosiect ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.
Yn y gweithdy hwn, rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan ystyried hefyd sut mae’r adolygiad wedi ei leoli o fewn eich ymchwil. Rydym hefyd yn ystyried sut i lunio safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth a sut i drefnu eich adolygiad yn y modd mwyaf effeithiol.
08
studyskills.bangor.ac.uk
WYTHNOS 18
WYTHNOS 19
Ysgrifennu Crynodebau
Ysgrifennu Rhagarweiniadau
8fed Mawrth - 2pm Alun A1.01
12fed Ebrill - 2pm Alun A1.01
16eg Mawrth - 2pm Alun A0.01
20fed Ebrill - 2pm Alun A1.01
Beth sy’n gwneud crynodeb da? Mae’r gweithdy yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn drwy gymharu crynodebau o ystod o wahanol ddisgyblaethau.
Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniad ysgrifenedig a’r hyn a wna awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.
studyskills.bangor.ac.uk
10
POENI AM ARHOLIADAU? Mae gennym ddau weithdy sy’n canolbwyntio ar sgiliau adolygu a rheoli arholiadau.
Gwneud eich gorau Adolygu mewn arholiadau munud olaf 13eg Ebrill - 2pm Alun A1.01
4ydd Mai - 2pm
Alun A1.06
19eg Ebrill - 2pm Alun A0.01 Gall sefyll arholiadau fod yn brofiad brawychus. Cynhelir y gweithdy hwn i gydfynd â’r cyfnod adolygu ar gyfer arholiadau’r haf. Y nod fydd lleihau pryder a straen yr arholiadau drwy edrych ar dechneg a ffyrdd llwyddiannus o baratoi ar eu cyfer.
Bwriad y gweithdy hwn, a gynhelir i gyd-fynd â’r cyfnod arholiadau, yw ceisio lleihau rhywfaint o’r pryder sy’n deillio o sefyll arholiadau, drwy gynnig awgrymiadau ar gyfer adolygu munud olaf ac ar gyfer diwrnod yr arholiad ei hun.
Ein tîm ysgrifennu Dysgwch Mae ein hymgynghorwyr ysgrifennu yn fwy am ein cynnwys Ymgynghorwyr Astudio a hefyd Ysgrifennu i Gyfoedion. Cyfoedion hymgynghoriadau Mentoriaid israddedig ac ôl-raddedig yw’r mentoriaid, sydd wedi’u recriwtio trwy gyfweliad ac sydd wedyn ysgrifennu yn dilyn rhaglen hyfforddi drwyadl. Bernir bod Beth yw ymgynghoriad ysgrifennu? Mae ymgynghoriadau ysgrifennu yn gyfle i chi gyfarfod yn unigol am hyd at 50 munud ar y tro ag aelod o’n tîm ysgrifennu er mwyn trafod eich gwaith ysgrifenedig. Gallwch drefnu apwyntiad ar unrhyw adeg yn y broses ysgrifennu, ac mae croeso i chi drafod aseiniadau yr ydych wrthi’n gweithio arnynt a hefyd y rheiny sydd eisoes wedi’u hasesu. Rydym yn eich annog i ddod â’ch gwaith gyda chi i’n hymgynghoriadau.
94% o’n sesiynau ymgynghori unigol yn werth 4 seren neu fwy, a dwy ran o dair yn ennill 5 seren.
Sut i drefnu ymgynghoriad Gallwch drefnu apwyntiadau ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflenni archebu ar ein gwefan, neu ar y ffôn ar 01248 382689. Fel arall, galwch heibio’n bersonol i dderbynfa Rathbone. Mae sesiynau ymgynghori ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae sesiynau ymgynghori yn rhad ac am ddim ac yn hollol gyfrinachol.
www.bangor.ac.uk/studyskills
E-BOST: STUDYSKILLS@BANGOR.AC.UK WWW.BANGOR.AC.UK/STUDYSKILLS studyskills.bangor.ac.uk
FFÔN: 01248 382689
12
Peidiwch â cholli digwyddiadau eraill y Ganolfan a fydd o gymorth Sesiynau galw heibio Mathemateg ac Ystadegau Mae’r gwasanaeth galw heibio ar gyfer mathemateg ac ystadegau yn gyfle i gwrdd â thiwtor yn unigol er mwyn trafod unrhyw anawsterau gyda mathemateg ac ystadegau y byddwch yn dod ar eu traws, a gofyn y math o gwestiynau y gallech fod yn gyndyn i’w gofyn i diwtor cwrs. Cewch gymorth gydag ymarferion, taflenni tiwtorial, hen bapurau arholiad, ac i ddefnyddio pecynnau ystadegol (Excel a SPSS). Os ydych yn cael anhawster deall y fathemateg, llunio damcaniaeth, dewis y prawf ystadegol cywir, neu ddehongli canlyniadau allbwn a grëwyd gan gyfrifiadur, galwch heibio yn ystod y tymor, yn Llyfrgell Deiniol.
Bob dydd Mawrth: 1:30 pm – 4:30 pm Bob dydd Mercher: 10:30 am – 4:30 pm Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn hollol gyfrinachol. Nid oes angen archebu eich lle.
Grwpiau ysgrifennu Rydym wedi bod yn cynnal grwpiau ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr PhD ers y dechrau, ac rydym yn croesawu aelodau newydd i’r grŵp ysgrifennu, a hefyd unrhyw fyfyrwyr sydd ar lefelau astudio eraill. Mae ein grwpiau yn rhoi cyfle i rannu gwaith ysgrifenedig a chael sylwadau gan ffrindiau beirniadol, a rhoi ysgogiad ar gyfer yr ysgrifennu. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp, cofrestrwch eich diddordeb drwy ein gwefan.
Canllawiau astudio ar-lein Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau astudio ar ysgrifennu a meysydd sgiliau eraill, o gyflwyniadau, i sgiliau arholiadau, a mathemateg ac ystadegau. Ewch ar-lein i weld canllawiau ysgrifennu traethodau, awgrymiadau ynghylch sut i osgoi llên-ladrad, a chyngor ar y grefft o olygu.