Llawlyfr Modiwlau Cymraeg a Dwyieithog

Page 1

MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG Blwyddyn 1 2012/13


Pam astudio drwy’r Gymraeg? • Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi • Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog • Mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd • Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa

le! f y c r ’ o r w a f G wn e w c h y n


Wythnos Groeso 2012 – digwyddiadau pwysig! Dydd Llun, Medi 24

Cyflwyniad i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg + FFAIr Modiwlau 10.30-11.30 a 11.30 – 12.30 yn Neuadd Powis Mae hon yn sesiwn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Bydd y Dirprwy Is-ganghellor, Wyn Thomas, yn rhoi cyflwyniad ar y cyfleoedd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Bydd cyfle hefyd i gymdeithasu gyda staff a myfyrwyr eraill sy’n siarad Cymraeg, a chyfle i ddod i wybod mwy am y modiwlau cyfrwng Cymraeg.

Sesiynau sgiliau Cymraeg Mae’r sesiynau yma yn cael eu trefnu fesul Coleg - edrychwch yn llawlyfr eich Coleg/Ysgol am fwy o wybodaeth.

1


Y llyfryn hwn

Welsh-medium /bilingual modules

Mae’r llawlyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth am fodiwlau Cymraeg neu ddwyieithog sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn 2012/13. Mae’n debygol y bydd rhai newidiadau ac ychwanegiadau i’r ddarpariaeth a nodir yma. Dylech gadarnhau pa fodiwlau sydd ar gael wrth i chi gofrestru yn ystod yr wythnos groeso. Fe fydd cynrychiolwyr yr ysgolion academaidd yn hapus iawn i ymateb i unrhyw gwestiynau yngly ˆn â’r modiwlau sy’n cael eu cynnig ganddynt.

This booklet lists the Welsh-medium / bilingual modules that are available for first year students in 2012/13. If you are not yet able to follow modules through the medium of Welsh, but would like to learn / improve your Welsh during your time at Bangor, there are many opportunities for you to do so. Students can learn Welsh as part of their degree course, or follow Welsh courses outside their formal studies. Basic Welsh (these modules are not suitable for students who have gained a pass in Welsh GSCE second language) YHC 1891 10 credits over 1 semester YHC 1394 20 credits over 2 semesters

Bwrsariaethau Astudio trwy’r Gymraeg

Intermediate Welsh YHC 1893 10 credits over 1 semester

Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg, mae Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs, neu’r cwrs cyfan, trwy gyfrwng y Gymraeg.

YHC 1393 20 credits over 2 semesters For more information, please contact Nia Llwyd on n.llwyd@bangor.ac.uk or 01248 382909.

Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymorth Cymraeg / Help with Welsh You will find useful resources on the Cymorth Cymraeg website, which contains useful templates, sound files etc, that have been developed to help staff and students use Welsh at the University.

Cofiwch… i gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg, mae’n ofynnol eich bod yn llenwi’r ffurflen Cais am Gyllid i Fyfyrwyr sydd ar gael gan eich Awdurdod Addysg Lleol. Mae rhai cyfyngiadau ar y fwrsariaeth hon. Am amodau llawn, gweler http://www.bangor. ac.uk/studentfinance/info/welshbursary. php.cy

www.bangor.ac.uk/ cymorthcymraeg 2

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â cymorthariannol@bangor.ac.uk


Y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru. Mae Bangor yn cynnig mwy o gyrsiau a chyfleodd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru 3


Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Llywydd: Mared Jones Mae cyfle i fyfyrwyr ymaelodi gydag UMCB. Mae’n cynrychioli buddiannau pob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor sy’n siarad Cymraeg, yn dysgu Cymraeg, neu sydd â diddordeb yn yr iaith neu yn y diwylliant Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cefnogi a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg sydd yn cael problemau gyda’u cwrs neu gydag unrhyw agwedd o fywyd Prifysgol sydd yn ymwneud â’r iaith; annog myfyrwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith; helpu myfyrwyr di-Gymraeg sydd eisiau dysgu’r iaith; creu cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr i gymdeithasu a byw trwy gyfrwng y Gymraeg; hybu diwylliant Cymraeg i fyfyrwyr a staff y Brifysgol; a chryfhau statws yr iaith o fewn yr Undeb, y Brifysgol a’r gymuned leol.

Datblygu Sgiliau Mae cyfleoedd i chi ddatblygu llawer o sgiliau tra yn y Brifysgol. Mae defnyddio’r Gymraeg yn un o’r sgiliau hynny. Beth am edrych ar y modiwl sydd gan Canolfan Bedwyr i’w gynnig ar dudalen 24 Edrychwch hefyd ar www.bangor.ac.uk/ cymorthcymraeg sy’n llawn o adnoddau ieithyddol defnyddiol. Hefyd, mae sesiynau sgiliau astudio cyfrwng Cymraeg ar gael bob wythnos. Gellir cael cymorth ar faterion megis cymryd nodiadau, cynllunio traethodau, paratoi at gyflwyniadau llafar, yn ogystal â mathemateg ac ystadegau. Am fwy o wybodaeth, holwch Shân Ashton - s.ashton@bangor.ac.uk

Cofiwch am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr Wythnos Groeso, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw i stondin UMCB yn y Ffair Serendipedd ym Maes Glas ar y 26ain a’r 27ain o Fedi!

4


COLEG ADDYSG A DYSGU GYDOL OES

Ysgol Addysg XAC1024

XAC1033

20 credyd Semester 1 a 2

Chwarae Plant

Mae’r modiwl yn craffu ar ddatblygiad seicolegol cynnar plant o’u geni hyd at y blynyddoedd cynnar. Mae’n nodi’r cerrig milltir yn natblygiad cynnar plentyn ac yn tanlinellu’r ffactorau sy’n hyrwyddo datblygiad. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr arsylwi datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar priodol, yn enwedig mewn perthynas â chymdeithasu a rhyngweithio ag eraill, a dadansoddi eu tystiolaeth yn erbyn y prif gerrig milltir datblygu.

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn gwerthuso damcaniaethau chwarae a’u goblygiadau ar gyfer deall sut mae plant bach yn dysgu. Mae’n edrych ar y llenyddiaeth ar greadigedd a’i gysylltiadau â chwarae a dysgu. Ymchwilir i’r berthynas rhwng y celfyddydau creadigol a chreadigedd mewn meysydd dysgu perthnasol eraill. Mae’n datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o swyddogaeth y dychymyg wrth ddatblygu meddwl a sut mae plant bach yn dysgu trwy chwarae. Bydd angen i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwl hwn drefnu lleoliad byr lle ceir plant yn yr ystod oed perthnasol. XAC1026

XAC1034

Iechyd, Ffitrwydd a Lles 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn ystyried cyfraniad arweiniad llywodraeth ac asiantaethau cenedlaethol perthnasol mewn datblygu iechyd a ffitrwydd plant a phobl ifanc yng nghyd-destun diet ac ymarfer. Ei nod yw dadansoddi cyfraniad gweithgarwch corfforol, chwaraeon a diet tuag at hyrwyddo iechyd, ffitrwydd a diddordeb plant a phobl ifanc. Edrychir yn fanwl ar strategaethau i annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Dewisir a chreffir ar weithgareddau corfforol gan danlinellu negeseuon allweddol o ran iechyd a chyfranogiad, gan gynnwys dulliau pedagogaidd o addysgu a hyfforddi plant a phobl ifanc. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni gweithgareddau sy’n addas i blant a phobl ifanc. Canolbwyntir ar faterion iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â glanweithdra a chymorth cyntaf sylfaenol.

Sgiliau ar gyfer Dysgu 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn cynorthwyo myfyrwyr i ddysgu’n effeithiol ac i ddatblygu ystod o sgiliau allweddol a sgiliau trosglwyddadwy yng nghyddestun eu harddulliau a’u dulliau personol. Mae’n galluogi myfyrwyr i ganfod eu cryfderau a’u gwendidau presennol wrth osod targedau personol fel rhan o’r broses o ddod yn ddysgwr annibynnol. Bydd yn canolbwyntio ar y sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig sydd eu hangen i wneud rhaglen radd, ac ar helpu myfyrwyr i ddeall eu hymddygiad dysgu ac ymddygiad dysgu pobl eraill er mwyn ennill cymhelliant a hyder. XAC1027

Seicoleg Plant

Plant, Diwylliant a Moeseg

Cyswllt : Dr Gwyn Lewis w.g.lewis@bangor.ac.uk

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar arwyddocâd amrywiaeth diwylliannol, gwerthoedd, moesau a chredoau a’u pwysigrwydd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plant. Mae’n ymchwilio i’r credoau a’r arweiniad moesegol penodol a gynigir gan rai crefyddau yn y byd a hefyd yr arweiniad moesegol a gynigir gan rai diwylliannau. Mae’r modiwl yn ystyried strategaethau sy’n meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plentyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddefnyddio llenyddiaeth plant berthnasol i hyrwyddo’r ymwybyddiaeth hon.

Ysgol Dysgu Gydol Oes YSE1500

Deall Cymuned

20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn arwain y dysgwr at well dealltwriaeth o natur y gymuned. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng ffactorau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n effeithio ar gymunedau ac yn eu llywio. Bydd y dysgwr yn gallu cynnal dadansoddiad integredig sylfaenol o gymunedau, a defnyddio damcaniaethau yn ei ddealltwriaeth o gymunedau. Cyswllt: Shân Ashton s.ashton@bangor.ac.uk 5


COLEG Y CELFYDDYDAU DYNIAETHAU ADDYSG A DYSGUA’R GYDOL OES

Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau UXC1062

UXC1120

20 credyd Semester 1

Nod y modiwl hwn yw dysgu myfyrwyr sut i ddadansoddi testunau o wahanol draddodiadau dramataidd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr archwilio trwy gyfrwng cyflwyniadau ysgrifenedig a gweithdai ymarferol yr arddulliau perfformio a ddisgwylir gan y testunau gwahanol hynny. Disgwylir iddynt hefyd gysylltu’r profiad hwn â pherfformiad byw mewn theatr. Gall myfyrwyr hefyd ymchwilio i’r deunydd perfformio o safbwynt perfformwyr, dylunwyr, cyfarwyddwyr, technegwyr ac eraill, gan ddadansoddi’r galwadau, y cyfleoedd a’r anawsterau penodol a godir gan y testunau perfformio.

Y Ddelwedd Symudol 20 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi’r ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli’r modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-scène, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o’r pynciau o dan sylw. UXC1055

UXC1015

Cyfathrebu Digidol

Cyflwyniad i Newyddiaduraeth 20 credyd Semester 2

20 credyd Semester 1

Dyma fodiwl sy’n cyflwyno’r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd angen arnynt, a sut i gynllunio straeon ffeithiol. Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu sut i ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i’w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld aelodau o’r cyhoedd, cyn dewis a dethol y dyfyniadau gorau.

Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn defnyddio egwyddorion cyfathrebu a dylunio gwybodaeth er mwyn cyflwyno ymchwil a gwaith creadigol. Byddant yn defnyddio amrywiaeth o gymwysiadau sy’n seiliedig ar y we, gan gynnwys golygyddion lluniau, wiki, teclynnau deiagramu a chyflwyno, a blogiau. Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i faterion sy’n codi drwy gyfathrebu digidol a chyfathrebu sy’n seiliedig ar y we, gan gynnwys hawlfraint, perchnogaeth, dibynadwyedd, a dilysrwydd, gan wneud defnydd o ystod o adnoddau gwybodaeth perthnasol. UXC1091

Cyflwyniad i Berfformio

UXC1043

Ymarfer Creadigol

Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau 20 credyd, Semester 2

20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaethau’r cyfryngau fel disgyblaeth. Bydd y cwrs yn rhoi trosolwg i fyfyrwyr o astudiaeth academaidd o’r cyfryngau, a bydd yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach ym mlwyddyn 2 a 3. Yn ystod y semester, bydd y modiwl yn edrych ar sefydliadau’r cyfryngau, testunau’r cyfryngau a’r cysylltiad rhwng y cyfryngau a’r gynulleidfa. Bydd myfyrwyr yn ystyried eu cysylltiad eu hunain gyda’r cyfryngau, yng nghyd-destun amrywiaeth o theorïau’n ymwneud â’r cyfryngau.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno pob myfyriwr sy’n astudio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau i’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a ddysgir yn yr ysgol. Caiff y myfyrwyr y cyfle i gynhyrchu gwaith creadigol mewn nifer o feysydd, yn cynnwys ysgrifennu proffesiynol, newyddiaduraeth, cynhyrchu’r cyfryngau a pherfformio. Bydd y modiwl hefyd yn gymorth i fyfyrwyr ddeall y cysylltiad rhwng theori academaidd ac ymarfer creadigol, trwy eu gwaith eu hunain.

6


UXC1063

Ysgol Cerddoriaeth

Gweld y Llun

20 credyd Semester 2

WXC1001

Bwriad y cwrs hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall y cyswllt rhwng ffilm a’r cyd-destun cymdeithasol sydd wedi cynhyrchu’r ffilm. Gwneir hyn drwy archwilio technoleg, naratif, arddull, genre a phynciau. Bydd y sesiynau yn cyflwyno’r myfyrwyr i amrywiaeth o newidiadau pwysig sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y cyfrwng. Bydd y cwrs yn gofyn i’r myfyrwyr osod ffilmiau unigol o fewn cyd-destun cymdeithasol, genre, a chyd-destun technolegol. UXC1038

Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin (anrhydedd sengl) 40 credyd Semester 1 a 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y Gorllewin yn y cyfnodau Baróc, Clasurol a Rhamantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 i’r genhedlaeth o gyfansoddwyr ar ôl Wagner. WXC1002

Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau

Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin ca.1600-ca.1900 (cydanrhydedd) 20 credyd Semester 1

20 credyd Semester 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y Gorllewin yng nghyfnod y Baróc, Clasurol hyd at yr oes Ramantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 hyd at gyfnod Wagner.

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ymarfer y cyfryngau. Caiff myfyrwyr hyfforddiant sylfaenol ar ddefnyddio offer cynhyrchu fideo a sain. Byddant hefyd yn datblygu ar y ddealltwriaeth o gynhyrchu sylfaenol a gyflwynwyd iddynt yn UXC1091 Ymarfer Creadigol. Gan weithio mewn grwpiau bychain, bydd disgwyl i’r myfyrwyr gynhyrchu dau ddarn o waith creadigol, y naill ar ffurf fideo a’r llall ar ffurf glywedol. Yna bydd disgwyl iddynt adfyfyrio’n feirniadol ar y broses gynhyrchu a’r darnau o waith terfynol, gan gyfeirio at ystod o ddamcaniaethau.

WXC1003

Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin: Cynnar a Chyfoes (cydanrhydedd) 20 credyd Semester 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y Gorllewin yng nghyfnodau’r Canol Oesoedd a’r Dadeni yn ogystal â’r 20fed ganrif, gan gynnwys gwaith cyfansoddwyr tebyg i Schoenberg, Stravinsky, Bartók a Messiaen, gan orffen gyda chymeriadau pwysig y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd.

Cyswllt : Geraint Ellis geraint.ellis@bangor.ac.uk

WXC1004

Harmoni a Gwrthbwynt 20 credyd Semester 1 a 2

Astudiaeth ar gerddoriaeth y Gorllewin rhwng 1700 a 1830, gan ganolbwyntio ar gyfnod y Baróc a’r Clasurol. Ceir cyfle i astudio sgorau ac ymarferion cysylltiedig mewn dirnad clywedol er mwyn arsylwi a barnu cerddoriaeth donyddol yn finiocach. WXC1007

Y Cyfryngau a Cherddoriaeth Boblogaidd 10 credyd Semester 2

Cyflwyniad i’r diwylliant a’r diwydiant pop yw’r modiwl hwn, ynghyd â dadansoddi’r ffactorau cymdeithasol sy’n creu cerddoriaeth boblogaidd; dyfodiad roc a rôl, arddulliau pop; practis diwylliannol ei chynulleidfa; hunaniaeth a pherthynas diwylliannau â’i gilydd a datblygiad canu pop yng Nghymru ers 1960. 7


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU WXC1011

Ysgol y Gymraeg

Cyfansoddi

20 credyd Semester 1 a 2

CXC1016

Cyflwyniad i dechnegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. WXC1012

10 credyd Semester 1 a 2

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a thrafod ar lafar drwy ganolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan awduron cyfoes fel Caryl Lewis, Mihangel Morgan a Gerallt Lloyd Owen. Fe’i dysgir drwy gyfuniad o sesiynau hyfforddi, darlithoedd cyflwyniadol a seminarau.

Technoleg Cerdd Ymarferol

10 credyd Semester 1

Gan ddechrau gyda’r dybiaeth nad oes gan yr unigolyn unrhyw brofiad blaenorol mewn technoleg cerddoriaeth, nod y modiwl hwn fydd rhoi i’r myfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i raddedigion yn yr oes dechnolegol sydd ohoni. WXC1016

CXC1004

Yr Iaith ar Waith

20 credyd Semester 1 a 2

Modiwl ymarferol ei bwyslais sy’n anelu at godi hyder myfyrwyr wrth arfer y Gymraeg yn ysgrifenedig. Mewn cyfres o ddosbarthiadau eglurhaol, trafodir y modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Dysgir drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau.

Perfformio Unawdol 20 credyd Semester 1 a 2

Hyfforddiant unigol ar gyfer llais neu offeryn. Cytunir ar raglen arfaethedig o astudiaethau technegol, repertoire a deongliadol gyda’r tiwtor ar y cychwyn. Cynhelir gwrandawiad ar ddechrau’r semester. WXC1006

Llenyddiaeth Gyfoes

CXC1001

Diwylliannau Cerdd Byd-eang

Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol 10 credyd Semester 1

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau beirniadol myfyrwyr. Ceir cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Bydd y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol a chanolbwyntir ar gyfres o astudiaethau manwl o gerddi a darnau rhyddiaith unigol.

20 credyd Semester 1 a 2

Golwg ar draddodiadau cerddorol amrywiol (rhai gwerinol, ‘clasurol’ a phoblogaidd) sy’n gysylltiedig ag ardaloedd penodol o’r byd, yn ogystal â’r astudiaeth o offerynnau cerdd. Nid oes angen profiad blaenorol o’r maes, dim ond y gallu i werthfawrogi cerddoriaeth o ddiwylliannau gwahanol.

CXC1019

Cyswllt : Dr Pwyll ap Sion papsion@bangor.ac.uk

Rhyddiaith yr Oesoedd Canol 10 credyd Semester 1

Cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur. CXD1016

Sgriptio Teledu

20 credyd Semester 1

Yn y modiwl hwn, dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript ar gyfer y teledu. Bydd pum cam i’r gweithgaredd hwn (i) trafod gofynion teledu fel cyfrwng dramatig; (ii) cyflwyno braslun ysgrifenedig o thema’r ddrama; (iii) llunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad 8


Modiwlau Cymraeg Ail Iaith

manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; (iv) rhannu’r plot yn olygfeydd; (v) llunio’r ddeialog a chael cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. CXC1018

Gweithdy Creadigol

CXC1007

20 credyd Semester 2

20 credyd Semester 1 a 2

Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. CXC1002

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Bydd cyfle i astudio rhai o weithiau llenyddol pwysicaf yr ugeinfed ganrif, e.e. Te yn y Grug gan Kate Roberts, Blodeuwedd gan Saunders Lewis, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis. Dysgir drwy gyfres o seminarau a bydd pwyslais yn y modiwl ar ddatblygu sgiliau llafar.

Llên a Diwylliant 17401900

CXC1005

Ysgrifennu Cymraeg 20 credyd Semester 1 a 2

10 credyd Semester 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu darn byr o Gymraeg yn rheolaidd. Gosodir tasgau o natur ffeithiol (e.e. crynodeb neu fwletin newyddion) a hefyd greadigol (e.e. stori fer neu bortread). Dysgir drwy gyfres o seminarau a bydd pwyslais y modiwl ar ymarfer ysgrifennu’n raenus ac yn gywir.

Mewn dull cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cynnig arolwg o hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng tua 1740 a 1900. Bydd sylw i ddeuoliaethau’r ddeunawfed ganrif, canrif llên y Methodistiaid a chlasuriaeth Goronwy Owen. CXD1013

Cymraeg Llafar

Theatr Fodern Ewrop 20 credyd Semester 2

Yn y modiwl hwn, astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd a’r ail ran yn trafod yr adwaith i ddatblygiad y ddrama fodernaidd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.

CXC1008

Llên a Llun

10 credyd Semester 1

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Bydd cyfle i astudio pedwar gwahanol genre drwy gyfrwng enghreifftiau diweddar, e.e. casgliad o gerddi, nofel, drama deledu a ffilm. Dysgir drwy gyfres o seminarau. CXC1006

Golwg ar Lenyddiaeth 10 credyd

Semester 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Yn ystod y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, e.e. barddoniaeth Taliesin, Aneirin a Dafydd ap Gwilym a rhyddiaith Pedair Cainc y Mabinogi. Dysgir drwy gyfres o seminarau. Cyswllt : Yr Athro Peredur Lynch p.i.lynch@bangor.ac.uk

9


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg HXG 1007

enghreifftiau a themâu a drafodwyd yn y darlithoedd. HXC 1007

Cristnogion, Mwslemiaid a Phaganiaid: Ewrop 1000 – 1300

20 credyd Semester 2

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r datblygiadau pwysicaf yn hanes Cymru o ‘Oes y Tywysogion’ i’r cyfnod modern cynnar. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ymdrech wleidyddol a chyflawniadau’r teuluoedd brenhinol brodorol, yn cynnwys ymdrechion i sefydlu tywysogaeth Cymru, cyn mynd ymlaen i edrych ar fudiad Owain Glyndwr ac, yna, ar y newidiadau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol a welwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r modiwl felly’n arweiniad i gyfnod allweddol yn hanes y Gymru gynddiwydiannol, gan roi sylw’r un pryd i faterion canolog sy’n ymwneud ag astudio cymdeithasau canol oesol a modern cynnar yn gyffredinol.

20 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael ag un o gyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes Ewrop. Yn wir, yn sgil datblygiadau pellgyrhaeddol y cyfnod 1000-1300 bu tuedd i gyfeirio at y canrifoedd hyn fel blynyddoedd pryd y gwelwyd gwir `ffurfiant Ewrop’. Nodweddir y cyfnod hwn gan darddiad cyfundrefnau gwleidyddol, crefyddol ac economaidd newydd; nifer ohonynt, megis prifysgolion, sy’n parhau’n rhan annatod o fywyd Ewrop (a thu hwnt) yn yr unfed ganrif ar hugain. Nodwedd arall amlwg i’r cyfnod yw’r berthynas newydd a ddatblygwyd â chymdeithasau Mwslemaidd a Phaganaidd cyfagos, yn bennaf ac yn fwyaf trawiadol yn ystod cyfres o `Ryfeloedd Sanctaidd’ - y Croesgadau. Amcan y modiwl, felly, yw cyflwyno i’r myfyrwyr rai o ddatblygiadau sylfaenol a phellgyrhaeddol y cyfnod. HXC1006

Cyswllt: Euryn Rhys Roberts e.r.roberts@bangor.ac.uk

Cymru yn y Byd Modern 20 credyd Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw cynnig arolwg cynhwysfawr o hanes Cymru yn y cyfnod modern, gan ddangos sut y bu i Gymru adlewyrchu’r cyfnewidiadau enfawr a gafwyd yng ngwareiddiad gwledydd y gorllewin. Felly, trafodir effeithiau diwydiannu a threfoli, argyfyngau rhyfel, apêl syniadau gwleidyddol amrywiol, her ethnigedd a gender ac arwyddocâd cydberthynas ryngwladol. HXC 1004

Cymru: Tywysogion i Duduriaid

Cyflwyniad Hanes Modern 20 credyd Semester 1

A Mae’r modiwl hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Cyngres Fienna a phan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf o bersbectif eang, yn amrywio o strwythur cymdeithasol i hanes gwleidyddol a milwrol ac o’r tueddiadau diwylliannol i imperialaeth. Mae’n canolbwyntio ar Ewrop (gan gynnwys Ynysoedd Prydain). Mae disgwyl i fyfyrwyr fynd i bob un o’r 10 darlith er mwyn deall y themâu eang a sut maent yn asio i’w gilydd. Bydd rhan sylweddol o’r modiwl (3 gweithdy a 9 seminar) yn cyflwyno sgiliau astudio a dulliau methodolegol gan ddefnyddio 10


Ysgol Ieithoedd Modern LCF1001

LCG1001

20 credyd Semester 1 a 2

Sgiliau Iaith Ffrangeg

Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau darllen a deall y myfyrwyr drwy astudio testunau mewn amrywiol ddulliau a chyweiriau ac yn galluogi myfyrwyr i aralleirio testunau yn yr Almaeneg. Bydd yn galluogi myfyrwyr i gyfieithu testunau o’r Almaeneg ac i’r Almaeneg, ac i ysgrifennu darnau ar lefel gymharol uchel, e.e. traethodau byr. Bydd yn ehangu geirfa Almaeneg, ac yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o’r prif elfennau gramadegol yn yr Almaeneg gyfoes, a’r gallu i’w defnyddio mewn ymarferion gramadeg a thraethodau. Bydd y cwrs yn seiliedig ar wahanol bynciau, a atgyfnerthir trwy ymarfer prif elfennau gramadegol yr Almaeneg.

20 credyd Semester 1 a 2

Yn yr wythnosau cyntaf, byddwn yn cadarnhau ‘blociau adeiladu’ yr iaith ysgrifenedig (rhannau ymadrodd, cenedl enwau, cytundeb gramadegol ayyb), yn ogystal â chyflwyno’r prif werslyfr, sef En bonne forme. Yna, bydd y dosbarthiadau’n cael eu rhannu rhwng darllen a thrafod testunau yn Ffrangeg, cyfieithu i’r Ffrangeg ac o’r Ffrangeg, a chael adborth ar aseiniadau. LCF1002

Sgiliau Cyfathrebu Ffrangeg

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn mynd law yn llaw â LCF1001, ac mae’n canolbwyntio ar sgiliau llafar a gwrando’r myfyrwyr. Yn ogystal â dosbarthiadau sgwrsio traddodiadol, a gwaith yn seiliedig ar arddweud, mae pytiau o raglenni teledu Ffrangeg yn cyflwyno’r myfyrwyr i Ffrangeg fel y caiff ei siarad go iawn heddiw gan siaradwyr brodorol o amrywiaeth o gefndiroedd. Cynhelir y gwersi llafar gyda siaradwr brodorol. LCF1003

LCG1003

Almaeneg i Ddechreuwyr 1

20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i gystrawennau sylfaenol yr Almaeneg, gan eu cyfarwyddo’n arbennig â rôl agweddau gramadegol yn yr Almaeneg megis cenedl, ffurfdro a threfn geiriau. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i greu a thrin brawddegau sylfaenol ac i ddarllen a deall testunau syml yn yr Almaeneg a datblygu geirfa sylfaenol. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn ymarfer seinyddiaeth yr Almaeneg a chyflwyno pynciau syml yn yr Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Neue Horizonte.

Ffrangeg i Ddechreuwyr 20 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn addas i ddechreuwyr ynghyd â myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg at TGAU. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifennu. Bydd y myfyrwyr yn dysgu rhannau allweddol o ramadeg (yr amser presennol a’r gorffennol, y dyfodol a’r amodol, enwau, ansoddeiriau, arddodiaid) ynghyd â geirfa gyffredinol a’r ymadroddion allweddol. Gan ddefnyddio’r cymhorthion sain/ gweledol, bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant a chymdeithas Ffrainc heddiw. LCF1004

Sgiliau Iaith Almaeneg

LCG1004

Almaeneg i Ddechreuwyr 2

20 credyd Semester 1 a 2

Amcan canolog y modiwl yw datblygu dealltwriaeth sylfaenol y myfyrwyr o’r iaith Almaeneg ac o’r strwythurau gramadegol mwy cymhleth. Mae sgiliau ysgrifenedig y myfyrwyr yn cael eu datblygu drwy gyfieithu testunau byr i’r Gymraeg neu’r Saesneg, a drwy ysgrifennu darnau mwy datblygedig yn Almaeneg megis traethodau byr a llythyrau. Hefyd, gall myfyrwyr ddarllen a deall testunau canolradd yn Almaeneg ac ehangu eu geirfa. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau clywedol canolradd a magu hyder mewn seinyddiaeth Almaeneg yn ogystal â deall ac ymateb i faterion mwy cymhleth ar lafar yn Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Neue Horizonte.

Ffrangeg i Ddechreuwyr 20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi cwblhau LCF1003. Nod y modiwl yw datblygu’r sgiliau sylfaenol siarad, gwrando ac ysgrifennu a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn dod â hwy i’r lefel hyfedredd sy’n cyfateb i Lefel A. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio’r egwyddorion gramadeg a ddysgwyd yn semester 1 wrth ysgrifennu darnau mwy estynedig. O ran datblygu sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn trafod mwy yn yr iaith darged. Caiff sgiliau gwrando eu datblygu hefyd trwy ymarferion tâp sain a fideo. 11


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU LCE1600

Hanes a Diwylliant Ewrop 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i’r cyfnod modern. Cynigir amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop ac anogir y myfyrwyr i ddadansoddi diwylliant Ewropeaidd a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig i’r datblygiad hwnnw. Mae’r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau hollbwysig ‘Ewropeaidd’ sydd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at hanes y byd. Mae’r modiwl yn darparu sail hollbwysig er mwyn gallu astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder a byddwn yn cyfeirio at ystod o ffurfiau diwylliannol: llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm Cyswllt: Dr Manon Mathias m.mathias@bangor.ac.uk

12


Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg QCL1017

Y Gymraeg a Chymdeithas 20 credyd Semester 1

10 x darlith 2 awr + seminarau rheolaidd Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau cymdeithasol a sosioieithyddol o’r iaith Gymraeg a’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, fel cyflwyniad cyffredinol a sylfaenol i faes sosioieithyddiaeth (sociolinguistics). Gan mai amrywiaeth iaith fydd y prif ffocws, bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae’r Gymraeg yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel ardal ddaearyddol, gwahanol grwpiau cymdeithasol, gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol, ayyb. Bydd myfyrwyr yn darganfod sut mae sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn cymharu â sefyllfaoedd ieithoedd eraill ledled y byd. Trafodir hanes y Gymraeg a’i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd eraill megis Cernyweg, Llydaweg a Gwyddeleg. Ceir ffocws arbennig ar astudio tafodieithoedd y Gymraeg, gan gymharu amrywiadau gogleddol a deheuol, er enghraifft, ac archwilio’r modd y gall y Gymraeg newid yn y dyfodol, gan gynnwys materion yn gysylltiedig â marwolaeth iaith. Bydd hefyd cyfle i edrych ar ddwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymraeg, a sut mae Cymru’n wahanol neu debyg i wledydd dwyieithog eraill y byd.

QCL1145

Disgrifio’r Gymraeg 20 credyd Semester 2

10 x darlith 2 awr + seminarau rheolaidd Modiwl sylfaenol yw hwn sydd yn cyflwyno nifer o gysyniadau creiddiol i astudiaeth o strwythur ieithyddol Cymraeg cyfoes. Canolbwyntir ar agweddau mwyaf nodweddiadol o’r iaith lafar anffurfiol (yn hytrach na Chymraeg ffurfiol), a bydd myfyrwyr yn edrych ar agweddau megis y system sain (ffonoleg a seineg), y system ramadegol (cystrawen, trefn geiriau), y dull y mae geiriau’n cael eu categoreiddio (rhannau ymadrodd), strwythur fewnol geiriau (morffoleg) a’r geiriau eu hunain (yr eirfa). Bydd myfyrwyr yn ystyried effaith dwyieithrwydd ar y Gymraeg, gan gynnwys y broses o gymysgu geiriau Cymraeg a Saesneg yn yr un frawddeg. Yn olaf, bydd myfyrwyr yn edrych ar y cysyniad o newid iaith mewn Cymraeg cyfoes, gan ofyn os yw’r Gymraeg yn colli rhai o’i nodweddion ieithyddol unigryw drwy ddylanwad y Saesneg, ac ystyried sut (neu os) bydd y Gymraeg yn newid yn y dyfodol. Cyswllt : Dr Peredur Davies p.davies@bangor.ac.uk

13


COLEG BUSNES, GWYDDORAU CYMDEITHAS A’R GYFRAITH

Ysgol Busnes ACB1103

ACB1108

10 credyd Semester 1

Cyflwyniad i Fusnes/ Rheolaeth

Sylfaen economeg – prinder adnoddau – yw thema ganolog y modiwl hwn. Ar ben hynny, rhoddir pwyslais ar y cyfundrefnau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r broblem greiddiol hon. Rhoddir sylw arbennig i weithrediad y farchnad trwy gyfrwng y peirianwaith pris, a rhoddir sylw hefyd i drefniadaeth cynhyrchu gan fusnesau mawr a bach.

10 credyd Semester 1

Cyflwyniad i fusnes, rheolaeth a chyfundrefnau gwaith. Trafodir yr amryw theorïau rheoli cyfundrefnau, agweddau ar reolaeth adnoddau dynol megis ymddygiad unigolion a grwpiau, strwythur, cymhelliant ac arweinyddiaeth. ACB1104

Cyflwyniad i Economeg 1

ACB1109

Cyflwyniad i Farchnata

Cyflwyniad i Economeg 2 10 credyd Semester 2

10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl yma yn canolbwyntio ar sylfeini macro-economeg, sef perfformiad yr economi. Rhoddir sylw penodol i ymdrechion a pholisïau’r llywodraeth i geisio dylanwadu ar weithrediad yr economi. Mae’r meysydd a astudir yn cynnwys Incwm Gwladol, Twf Economaidd, Chwyddiant, Diweithdra a Masnach Ryngwladol.

Cyflwyniad i natur marchnata fel swyddogaeth busnes, gyda’r prif bwyslais ar ddiwallu anghenion cwsmeriaid, rheoli a thargedu’r farchnad drwy gynnyrch, gwasanaethau a strategaethau effeithiol.

Cyswllt : Dr Sara Parry s.parry@bangor.ac.uk

14


Ysgol y Gyfraith SCL1115

Y Gyfraith yn Gymraeg 20 credyd

Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfreithiol sylfaenol law yn llaw â meithrin sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r modiwl yn cynnwys elfen gref o hybu sgiliau ymchwil gyfreithiol, a bydd pwyslais yn cael ei roi ar gywirdeb ieithyddol y tasgau hyn, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgrifennu Cymraeg cyfreithiol graenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar iaith lafar gywir ac addas i’r cywair. Ceir cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr wrth ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trawsieithu). Rhan bwysig o’r modiwl fydd paratoi at y cyflwyniad llafar lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar y gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a’u sgiliau ieithyddol trwy gyfrwng ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.

Ar gyfer y modiwlau isod bydd y darlithoedd ffurfiol yn Saesneg ond bydd y tiwtorialau ar gael drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dewis y myfyriwr. Ar gyfer myfyrwyr Ysgol y Gyfraith yn unig mae’r modiwlau isod. SXL1110

Cyfraith Gyhoeddus 20 credyd

SXL1112

Cyfraith Breifat 1

20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi sylfaen i’r myfyriwr sy’n rheoli ffurfio a gorfodi contractau (addewid, derbyn a chytundeb) meysydd gallu, bwriad, cyfreithlondeb a sicrwydd telerau. SXL1113

Cyflwyniad i’r Gyfraith 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i System Gyfreithiol Lloegr, gan roi fframwaith i astudio “Beth yw’r Gyfraith”, sut mae’r system yn gweithredu a’r system mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae’r modiwl yn edrych ar fframwaith y llysoedd, sifil a throseddol, y farnwriaeth, cyfreithwyr a rôl ac arwyddocâd cyfranogiad lleygion yn y system (ynadon, rheithgorau ac aelodau tribiwnlysoedd) a datblygu Deddf Hawliau Dynol. SXL1115

Sgiliau Cyfreithiol

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau astudio cyfreithiol ymarferol megis: ysgrifennu nodiadau effeithiol, ysgrifennu traethodau cyfreithiol, datrys problemau cyfreithiol, cyflwyno dadl, achosion llys ffug, gweithio mewn tîm, rheoli amser yn effeithiol, technegau adolygu, etc. Caiff myfyrwyr eu dysgu i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn effeithiol i ymchwilio i’r gyfraith, darllen y gyfraith, llunio dadl lafar ac amddiffyn dadl gyfreithiol a dadansoddi a gwerthuso’r gyfraith. Cyswllt : Huw Tomos Pritchard sop82a@bangor.ac.uk

Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i’r myfyriwr o nodweddion a rhinweddau’r cyfansoddiad. Bydd cyfraith gyfansoddiadol yn ymdrin â meysydd y prif sefydliadau, deddfau ac arferion yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn edrych ar y rheolau, sy’n rheoleiddio prif gyrff llywodraeth a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth.

15


COLEG BUSNES, GWYDDORAU CYMDEITHAS A’R GYFRAITH

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas SCU1001

SCS1004

20 credyd Semester 1 a 2

Ceir cyflwyniad i’r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a’u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar. Yna, edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso’r theorïau a’r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol.

Sgiliau Ymchwil

20 credyd Semester 1

Mae Sgiliau Ymchwil yn fodiwl rhagarweiniol sydd yn disgrifio natur ymchwil empeiraidd mewn gwyddorau cymdeithas. Mae’n trafod yr amrediad o ddulliau ymchwil sydd ar gael i gymdeithasegwyr a’r tybiaethau athronyddol sydd yn sail i’w gwaith. Cynlluniwyd y modiwl o gwmpas nifer o weithdai, a bydd yn rhoi ichi brofiad ymarferol mewn nifer o feysydd ymchwil, gan gynnwys chwilio am wybodaeth, dadansoddi cynnwys, arsylwi a chynllunio holiaduron. SCP1002

Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes

SCY1004

Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn eich cyflwyno at faes trosedd a chyfiawnder troseddol. Trafodir theorïau a themâu allweddol a ddefnyddir i egluro ymddygiad troseddol sy’n cynnwys esboniadau clasurol i’r rhai mwyaf cyfoes; y mesurau a ddatblygwyd i atal trosedd, ynghyd â gorolwg o’r system gyfiawnder troseddol sy’n cynnwys prif asiantaethau cyfiawnder troseddol, datblygiad hanesyddol, strwythur ac atebolrwydd y system.

Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol

20 credyd Semester 1 a 2

Ystyrir beth yw polisi cymdeithasol a thrafodir syniadau a chysyniadau allweddol yn y maes. Cyflwynir ideolegau gwahanol mewn perthynas â lles cymdeithasol a rôl y wladwriaeth, a rhoddir ystyriaeth i sut mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llunio, eu gweithredu a’u cyllido.

SCY1006

Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol 20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i faes cyffredinol Cynllunio Ieithyddol yng Nghymru drwy ddiffinio, nodi pwrpas a chynnig cyd-destun cyfreithiol i ieithoedd lleiafrifol. Cyflwynir sfferau trosglwyddo iaith am y tro cyntaf i fyfyrwyr gan nodi pwysigrwydd y teulu, y gymuned, y system addysg a’r gweithle wrth drosglwyddo ieithoedd lleiafrifol. Cyswllt : Dr Myfanwy Davies myfanwy.davies@bangor.ac.uk

16


COLEG GWYDDORAU NATURIOL

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Mae croeso i fyfyrwyr ddilyn unrhyw fodiwl ychwanegol sydd ddim ar y rhestr hon ond lle mae darlithydd sy’n siarad Cymraeg yn cyfrannu tuag at y dysgu (e.e. Daearyddiaeth Dynol). ONC1001

Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol

20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i sgiliau astudio a datblygiad galluoedd llafar ac ysgrifenedig yng nghyddestun sgiliau cyflwyno a methodoleg amgylcheddol/hamdden. Mae’r modiwl yn cynnwys asesiad parhaus mewn Technoleg Gwybodaeth. DXC1303

Methodoleg Maes 10 credyd Semester 2

Modiwl ymarferol sy’n cynnwys uned maes preswyl ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe. Mae’r modiwl yn datblygu sgiliau a thechnegau maes Daearyddol ac Amgylcheddol. Mae’n gyfle gwych i gydweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda myfyrwyr o sefydliadau eraill yng Nghymru. Nid oes arholiad gyda’r modiwl: bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy gynhyrchu portffolio.

DXC1000 neu DXC1007

Tiwtorialau Academaidd 10 credyd neu 20 credyd Semester 1 Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn cyflwyno’r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar wyddonwyr a daearyddwyr modern. Mae’n cynnwys darllen am faterion cyfoes penodol, gan gynnwys cynaladwyedd. Bydd dosbarthiadau rheolaidd (gyda hyd at 5 myfyriwr ym mhob dosbarth) yn cael eu cynnal gyda thiwtor addas yn dibynnu ar y cwrs gradd. Bydd elfen gref o greu cynllun datblygu personol a datblygu sgiliau ysgrifennu a chyflwyno llafar. Bydd yn gyfle da i feithrin hyder a sgiliau amlbwrpas. Mae lefel y credydau yn ddibynnol ar ba fodiwlau eraill mae myfyrwyr unigol yn dewis eu gwneud yn eu blwyddyn gyntaf. DXC1006

Gwaith Maes – Gwneud Eryri

20 credyd Semester 2

Gwaith maes yn edrych yn uniongyrchol ar y prosesau daearegol, amgylcheddol a dynol sy’n cyfrannu tuag at dirlun, a strwythur cymunedol a diwydiannol Eryri. Cyswllt : Dr Paula Roberts p.roberts@bangor.ac.uk

17


COLEG GWYDDORAU NATURIOL

Ysgol Gwyddorau Biolegol BSC1024

Ysgol Gwyddorau Eigion ONC1001

Ymarferion Biofeddygol

20 credyd Semester 1 a 2

20 credyd Semester 1 a 2

Dosbarthiadau yn ymwneud â sgiliau rhifedd, cyflwyno a llythrennedd gwybodaeth

Cyfres o ddosbarthiadau ymarferol ym meysydd Biocemeg, Ffisioleg, Microbioleg a Geneteg. Ymweliadau ag ysbytai a chwmnïau priodol. ONC1001

OSC1000

Semester 1 a 2

Sgwrsio am, a chyfathrebu egwyddorion a phroblemau gwyddonol. Defnyddio sgiliau ymchwil rhagymadroddol

Dosbarthiadau yn ymwneud â sgiliau rhifedd, cyflwyno a llythrennedd gwyddonol.

OSC2000

Bioleg y Gell a’r Moleciwl

Semester 2

Project ymchwil bach yn seiliedig ar lenyddiaeth ar bwnc o’r gwyddorau morol. Datblygu sgiliau ymchwil ymhellach.

Dyma brif fodiwl yr Ysgol ar agweddau celloedd a moleciwlau bioleg. Strwythur a gweithrediad celloedd – gyda phwyslais ar bilenni. Bioleg Foleciwlaidd a Biocemeg.

Cyswllt : Dr Dei Huws d.g.huws@bangor.ac.uk

Cyflwyniad Meicrobioleg 10 credyd Semester 1

Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg glinigol. (Myfyrwyr Biofeddygol yn unig) BSC1018

Tiwtorialau Blwyddyn Un 10 credyd Semester 1

Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial, yn pwysleisio sgiliau ysgrifennu, rhifedd a dadansoddi. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau. BSC1021

Ymarfer Da’r Labordy 10 credyd Semester 1

Cyflwyniad i ystod hanfodol o fedrau trosglwyddadwy sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio’n llawn ar fodiwlau eraill ar Lefel 1, a hefyd yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn rhannau diweddarach o’r cwrs. BSC1017

Tiwtorial 2 20 credyd

20 credyd Semester 2

BSC1005

Tiwtorial 1 20 credyd

Sgiliau Ymchwil Rhagarweiniol

20 credyd Semester 1

BNC1004

Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol

Ffisioleg Dyn

20 credyd Semester 1 a 2

Cyswllt: Yr Athro Deri Tomos a.d.tomos@bangor.ac.uk

18


COLEG IECHYD A GWYDDORAU YMDDYGIAD

Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

NLD 1202

40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar gyd-destun darparu gwasanaethau i bobl gydag anabledd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried datblygiad hanesyddol gwasanaethau a materion allweddol sydd wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer presennol. Conglfaen y modiwl hwn yw ein gwerthoedd fel ymarferwyr, ynghyd â chynhwysedd a dinasyddiaeth, ac ymarfer gwrth-wahaniaethol. Cynigir ystod o gyfleoedd asesu, yn cynnwys asesiad adolygol ymarfer clinigol.

Modiwlau dwyieithog yw’r rhain o fewn y rhaglen Baglor mewn Nyrsio: NAB 12020

Datblygu Nyrsio Oedolion

40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar rai o’r materion sylfaenol yn ymwneud â nyrsio oedolion gydol oes. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol ym maes nyrsio oedolion i ymwneud ag unigolion a’u teuluoedd, gan gymryd yr agweddau ffisiolegol a seicolegol i ystyriaeth, ynghyd â’r dylanwadau cymdeithasol a geir mewn gwahanol amgylcheddau gofal iechyd. I’ch paratoi i ddarparu ar gyfer anghenion oedolion byddwch yn treulio 50% o’r modiwl hwn mewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol fydd yn eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio tosturiol ac urddasol i oedolion. NCB 1202

Ymreolaeth a chydraddoldeb

NCM 1202

Gofal Iechyd 1 (Nyrsio) 40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw cyflwyno elfennau cyffredinol gwybodaeth a sgiliau y mae ar holl ymarferwyr gofal iechyd eu hangen, yn cynnwys egwyddorion gofal trawsffurfiol. Mae’r modiwl yn dechrau paratoadau i ymarfer gyda’r bwriad o roi sylfeini gwybodaeth a sgiliau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyflawni disgwyliadau’r cyhoedd, cleientiaid a’r cyrff proffesiynol perthnasol o ran cysylltiadau personol, cydnabod hawliau a rhwymedigaethau a rhoi gofal wedi’i seilio ar dystiolaeth.

Cyflwyniad i Nyrsio Plant a Phobl Ifanc

NCM 1204

40 credyd Semester 1 a 2

Gwyddorau Dynol 1 (Nyrsio)

40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar rai o’r materion sylfaenol yn ymwneud â dod yn nyrs plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cynnwys rhoi gofal sy’n canolbwyntio ar blant a’u teuluoedd, hawliau plant, datblygiad nyrsio plant a phobl ifanc, a datblygiad ffisiolegol a seicogymdeithasol plant a phobl ifanc. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol fydd yn eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio i blant a phobl ifanc gydag anghenion nyrsio meddygol a llawfeddygol cyffredin.

Diben y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o systemau’r corff, ynghyd â ffactorau sy’n dylanwadu ac effeithio ar iechyd, haint a salwch mewn cymdeithas. Byddwch yn datblygu gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg, seicoleg a chymdeithaseg, a’r modd y defnyddir y rhain mewn ymarfer gofal iechyd. Cyswllt: Ruth Williams / Sharon Pierce r.w.williams@bangor.ac.uk / s.a.pierce@ bangor.ac.uk

19


COLEG IECHYD A GWYDDORAU YMDDYGIAD

Ysgol Seicoleg PCC1001

PCC1004

20 credyd Semester 2

Cyfathrebu ac Ysgrifennu Gwyddonol 1

Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut i ddewis y prawf ystadegol cywir (prawf-t [t-test]), ANOVA, prawf chi-sgwâr [Chi-square] etc) a chynllunio project ac adroddiad ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA. Byddwch hefyd yn deall pwysigrwydd materion moesegol ym myd Seicoleg. Bydd y modiwl yma yn ehangu eich dealltwriaeth o ymchwil seicolegol fel eich bod wedi’ch paratoi ar gyfer eich project yn yr ail flwyddyn.

10 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn cynnig sail dda i fyfyrwyr mewn seicoleg sylfaenol, ac yn eu cyflwyno i wahanol feysydd o fewn seicoleg. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith yn y lle cyntaf, wedyn, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio ymhellach i’r deunydd, a hynny mewn grwpiau bychain. Byddant yn trafod erthyglau gwyddonol, rhaglenni dogfennol a materion cyfoes o bersbectif seicolegol, ac yn cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. PCC1003

PCC1005

Seicoleg Datblygiad 10 credyd Semester 2

Yn y modiwl yma mi fyddwch yn ymdrin â pum pwnc allweddol o fewn astudiaeth Seicoleg Datblygiad, yn cynnwys: Rhagarweiniad i ddulliau a theorïau seicoleg ddatblygiadol; datblygiad cyn-geni a genedigaeth; datblygiad emosiynol ac ymlyniad; datblygiad cymdeithasol a gwahaniaethau rhyw a rôl datblygiad rhyw.

Cyfathrebu ac Ysgrifennu Gwyddonol 2 10 credyd Semester 2

Bydd y seminarau hyn yn cynnwys materion fel sylfeini biolegol ymddygiad, gwybyddiaeth, seicoleg gymdeithasol, seicoleg iechyd, a seicoleg glinigol. Bydd y materion yn cael eu cyflwyno ar ffurf darlith yn gyntaf, ac wedyn caiff y myfyrwyr drafod y materion gyda’i gilydd mewn grwpiau bychain. Bydd hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o feysydd allweddol ym maes Seicoleg gan ddefnyddio iaith ffurfiol, ac yn datblygu eu sgiliau ysgrifenyddol gwyddonol. PCC1002

Dulliau Ymchwil ac Ystadegau II

Cyswllt: Dr Nia Griffith n.griffith@bangor.ac.uk

Dulliau Ymchwil ac Ystadegau I

Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

20 credyd Semester 1

Cyflwynir dulliau ymchwil â’u defnydd mewn Seicoleg yn y modiwl hwn. Byddwch yn dysgu sut i adolygu’r llyfryddiaeth; cynllunio arbrawf; ffurfiau casglu data; defnyddio pecyn meddalwedd SPSS; cyfrifo a dehongli dadansoddiadau ystadegol, a sut i gyflwyno canlyniadau ymchwil. Byddwch yn cydweithio mewn grwpiau bychain, ac yn helpu eich gilydd i gynllunio arbrawf a defnyddio technegau methodolegol Seicoleg.

Mae’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn awyddus i ehangu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae pump o aelodau staff yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg ac yn hapus i gynorthwyo myfyrwyr sydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol. Mae’n bosib cael cyfieithiadau o ddogfennau, ac mae’n bosib cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg. Mae modiwlau dwyieithog ar gael ym mlynyddoedd 2 a 3. Cyswllt: Julian Owen pepc26@bangor.ac.uk

20


COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL

Ysgol Cemeg FXC1101

FXC1104

10 credyd Semester 2

Cemeg 1

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif ddosbarthiadau biomacrofoleciwlau a chyfansoddion naturiol sy’n actif yn feddyginiaethol a’r berthynas rhyngddynt. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys cyflwyniad i fiomacrofoleciwlau (ee proteinau, carbohydradau ac asidau niwclëig) cemeg grwpiau gweithredol cynhyrchion naturiol, astudiaeth achos o gyfansoddyn sy’n actif yn feddyginiaethol a chyflwyniad i adweithedd ym myd natur, gan gynnwys elfennau hybrin, cyd-ffactorau a fitaminau. Rhoddir pwyslais arbennig ar enghreifftiau o gemeg sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd.

10 credyd

Semester 1

Cydofynion: FXC1113 Mae’r cwrs mewn tair rhan – a) Adeiledd a bondio, b) Bondio cofalent, siapiau moleciwlau, a’r tabl cyfnodol a chyfnodedd, c) Cemeg organig. FXC1103

Ein Cemeg Ni

Cemeg 2 20 credyd

Semester 2

FXC1105

Cydofynion: FXC1114 Cemeg y metelau trosiannol, adeileddau cyflwr solid, Thermodynameg, Cineteg, Cemeg grwpiau gweithredol 2 (synthesis ac adweithiau) Ocsidio a rhydwytho.

Dulliau Offerynnol a Dadansoddol 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddulliau offerynnol a ddefnyddir i ddadansoddi sylweddau a deunyddiau sy’n berthnasol i fyfyrwyr ar yr holl gyrsiau gradd sy’n seiliedig ar y gwyddorau. Mae’r cwrs wedi ei strwythuro i ddarparu cyflwyniad sylfaenol i offeryniaeth, dadansoddi a dehongli data dadansoddol. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng darlithoedd ‘cysyniadau allweddol’ sy’n arwain at sesiynau labordai cysylltiedig ac yn cael eu dilyn gan seminarau adolygu. Mae’r pwyslais yn bendant iawn ar ddarparu profiad ymarferol yn y defnydd o bob un o’r dulliau dadansoddol canlynol: Uwch fioled/Delweddu, Radiocemeg, Cromatograffeg Haen Denau, Cromatograffeg Nwy, Cromatograffeg Hylifol Pwysedd Uchel, electrocemeg sylfaenol, Meintioli metelau ac anfetelau, diffreithiant pelydr-x ac electronau, Is-Goch, sbectrometreg fas, cyseinedd magnetig niwclear, a Defnyddio Cyfuniad o Dechnegau. FXC1106

Labordy Cemeg 1 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin yn gyfartal â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Dewisir yr arbrofion er mwyn i’r myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg. Arbrofion: rhyngweithiadau rhyngfoleciwlaidd a mewnfoleciwlaidd, dadansoddiad o ddw ˆr 21


COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL a halogwyd gan yr amgylchedd (safoni hydoddiant potasiwm permanganad a thitrad rhydocs i bennu cynnwys fanadiwm yn y dw ˆr gwastraff), pennu grafimedreg nicel, dadansoddi cymysgedd tair cydran o gyfansoddion organig (distyllu, echdynnu), hydradu alcen, cynhyrchion diwydiannol (asbirin a neilon), sbectrosgopeg atomig, electrocemeg (sinc/copr, cell galfanig). FXC1107

FXC1113

10 credyd Semester 1

Cydofynion: FXC1101 Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu cysyniadau sylfaenol mewn cemeg anorganig (priodweddau cyfnodol, siapiau moleciwlau gan ddefnyddio VSEPR), cemeg organig (grwpiau ffwythiannol, dull enwi sylfaenol moleciwlau organig, mecanweithiau adwaith gyntaf, saethau cyrliog) a chemeg ffisegol (ynni arwahanol, bondio a chroesiad), gan ddefnyddio dull datrys problemau.

Labordy Cemeg 2 10 credyd Semester 2

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin yn gyfartal â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Gan fod y cwrs yn barhad ar FXX1106/ FXC1106, dewisir yr arbrofion er mwyn datblygu ymhellach y prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg. Arbrofion: asid bensöig lluosi â dau (Grignard, ocsidio), cynnyrch naturiol (didoli, seboneiddiad), metelau trosiannol, dadansoddiad ansoddol o anionau anorganig, paratoi cymhlygyn alwminiwm, cineteg (SN1, ArSE), enthalpi anweddiad, calorimedr bom adiabatig. FXC1111

FXC1114

Cemeg ar Waith 2 10 credyd Semester 2

Cydofynion: FXC1103 Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu cysyniadau sylfaenol mewn cemeg anorganig (cemeg cyd-drefniant, cemeg metelau trosiannol, pacio solidau, systemau crisial) cemeg organig (grwpiau ffwythiannol, dull enwi ehangach moleciwlau organig, mecanweithiau adweithio, RGI) a chemeg ffisegol (cineteg a thermodynameg) gan ddefnyddiol dull datrys problemau.

Medrau Cyfrifiannu ac Astudio

FXC0010

10 credyd Semester 1

Cemeg Hanfodol Semester 1 10 credyd

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau cemegol allweddol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg e.e. lluniadu cemegol sylfaenol a’r gofynion cyfrifiannu sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg. Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy – gwneud nodiadau, ysgrifennu, dulliau chwilio am wybodaeth ac adolygu. FXC1112

Cemeg ar Waith 1

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad cytbwys i gemeg. Ymysg y pynciau a drafodir yn y darlithoedd y mae: Adeiledd atomau a bondio, atyniadau rhwng moleciwlau, molau a chyfrifiadau mol, cydbwyseddau cemegol, asidau, basau a pH a byfferau, ocsidio a rhydwytho, cyfradd adweithio a chemeg organig sylfaenol (cyflwyniad i grwpiau gweithredol a rhai adweithiau pwysig, isomeredd, systemau cylch a chyfundrefn enwau). Ategir y cwrs gan ddosbarthiadau datrys problemau.

Medrau Mathemateg ar gyfer Cemegwyr 10 credyd Semester 1

Cyswllt: Enlli Huws e.h.huws@bangor.ac.uk

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fathemateg a sut y cymhwysir mathemateg ym maes cemeg: rhifyddeg sylfaenol - ffracsiynau, aildrefnu hafaliadau; plotio data a ffwythiannau; calcwlws.

22


Ysgol Cyfrifiadureg ICW1043

Ysgol Peirianneg Electronig

Systemau Gwybodaeth 10 credyd Semester 2

Nid oes modiwlau Cymraeg/Dwyieithog ar gael ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, ond mae’r modiwlau isod ar gael ar gyfer myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Bydd y modiwl yn trafod sut gall systemau cyfrifiadurol drin a thrafod gwybodaeth er mwyn cefnogi a hwyluso bob math o fusnesau. Bydd y modiwl ar gael ar gyfer myfyrwyr ar y cyrsiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, ac o bosib bydd ar gael hefyd fel opsiwn i fyfyrwyr ar gyrsiau eraill.

IEW2005

10 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y modiwl Digital Circuits 1 gan roi sail ddamcaniaethol gadarn i’r broses o gynllunio cylchedau dilyniannol cydamseredig ac anghydamseredig. Bydd myfyrwyr hefyd yn dechrau astudio pensaernïaeth cylchedau digidol ar gyfer rhifyddeg cyfrifiadurol. Dysgir y modiwl yn ddwyieithog ar y cyd gyda’r modiwl IES2005 Digital Circuits 2.

Yn ychwanegol mae’r modiwl isod ar gael ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn. ICW3099

Cylchedau Digidol 2

Project Unigol Cyfrifiadureg

30 credyd Semester 1 a 2

Bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 3 y cyrsiau BSc yn yr ysgol yn gwneud project unigol 30 credyd. Gall myfyrwyr ddewis project sy’n cael ei oruchwylio gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny drafod eu gwaith project yn y Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn dewis hefyd i gwblhau’r traethawd hir yn y Gymraeg.

IEW3098

Project Unigol MEng 40 credyd Semester 1 a 2

Bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 3 y cyrsiau MEng yn gwneud project unigol sylweddol. Gall myfyrwyr ddewis project sy’n cael ei oruchwylio gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny drafod eu gwaith project yn y Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn dewis hefyd i gwblhau’r traethawd hir yn y Gymraeg.

Cyswllt : Dr Iestyn Pierce i.pierce@bangor.ac.uk

IEW3099

Project Unigol Electroneg

30 credyd Semester 1 a 2

Bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 3 y cyrsiau BEng a BSc yn yr ysgol yn gwneud project unigol 30 credyd. Gall myfyrwyr ddewis project sy’n cael ei oruchwylio gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny drafod eu gwaith project yn y Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn dewis hefyd i gwblhau’r traethawd hir yn y Gymraeg. Cyswllt : Dr Iestyn Pierce i.pierce@bangor.ac.uk

23


CANOLFAN BEDWYR CCB1001 CCB1201

Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg

10 credyd Semester 1 neu 2

Nod y modiwl hwn yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd hyn o gymorth iddynt wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eu prif bynciau, ac yn eu paratoi at y byd gwaith. Cyswllt : Eleri Hughes eleri.hughes@bangor.ac.uk

Mynnwch ddysg yn eich iaith Mae Bangor yn arwain mewn datblygiadau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Nod y Coleg yw darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau penodedig, yn cyfrannu at ddatblygu cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg, ac yn sicrhau fod adnoddau Cymraeg ar gael i fyfyrwyr.

24

Manteisiwch ar y cyfle i astudio drwy’r Gymraeg! Mae cangen Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i leoli yng Nghanolfan Bedwyr, yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae croeso cynnes i chi alw heibio i gael gwybodaeth am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor, neu i holi am wasanaethau cyfrwng Cymraeg.


Canolfan Bedwyr

Yn cefnogi gwaith cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol

Rydym yma i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg Gloywi Iaith

Technolegau Iaith

Cyrsiau ac adnoddau i helpu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl i ddod yn fwy hyderus wrth siarad ac ysgrifennu. Cyrsiau paratoi at y Dystysgrif Sgiliau Iaith hefyd ar gael.

Meddalwedd Cysgliad i’ch helpu gyda gramadeg, geirfa a sillafu.

Cyfieithu

Cynllunio Gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfieithu traethodau myfyrwyr a chyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Hefyd ar gael Llawlyfr Gloywi Iaith

Am fwy o wybodaeth: www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr


36352 7_12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.