Llawlyfr UM Bangor 2015

Page 1

EICH

LLAWLYFR MYFYRWYR 2015-2016

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

handbook 2015 welsh.indd 1

21/07/2015 00:03:23


Ellie

Myfyriwr Economeg yn Bangor - Mwynhau reidio ei beic

Beth yw eich polisi hyblyg? Efo’r polisi hyblyg gan Endsleigh, gallwch gael yswiriant i’r eitemau pwysig yn eich bywyd yn unig. Adeiladwch eich polisi drwy ymweld a: endsleigh.co.uk/university

Eich bywyd. Eich eiddo. Eich yswiriant. Awdurdodir a rheoleiddir Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gellir gwirio hyn ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol drwy fynd i’r wefan www.fca.gov.uk/register Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig. Rhif cwmni: 856706 cofrestrwyd yn Lloegr yn Shurdington Road, Cheltenham Spa, Swydd Gaerloyw GL51 4UE.

handbook 2015 welsh.indd 2-3 WELSH Bangor 148mm x 210mm Student flex A5 ad.indd 1

07/07/2015 11:21:23


CYNNWYS

CROESO

02 TÎM SABOTHOL

04 WYTHNOS GROESO UNDEB ATHLETAU

07 10

CYMDEITHASAU

12 GWIRFODDOLI MYFYRWYR

2015-2016

LLAWLYFR MYFYRWYR

EICH

yw

GWYBODAETH IECHYD RHYWIOL EIN DATGANIAD BLYNYDDOL CARU BANGOR

CYMUNED GYNHWYSOL A-Y CHWARAEON A-Y CYMDEITHASAU

06 09 11 13

14

15

16

CLYBIAU FIND US A CHYMDEITHASAU CONTACT US UMCB MAP

17

18 20 22 25

DARGANFYDDWCH NI AR ... TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

11:21:23

PENWYTHNOS CROESO

03

PROSIECTAU GWIRFODDOLI MYFYRWYR

UMCB

CYFLEOEDD PRESENNOL

GWERTHOEDD AC EFFAITH

EICH LLES EICH ADDYSG EICH CYNRYCHIOLAETH O GWMPAS Y LLE! DARGANFYDDWCH NI, CYSYLLTWCH Â NI, MAP

19 21 23 26

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION

21/07/2015 00:03:24


02

CROESO

I FANGOR A CHROESO I UNDEB Y MYFYRWYR!

EICH TÎM SABOTHOL: MARK STANLEY, BECCA KENT, FFLUR ELIN, LYDIA RICHARDSON AC IFAN JAMES

Yma yn yr Undeb rydym yn ymdrechu’n ddiflino i wella profiad myfyrwyr drwy gynrychiolaeth a gweithgareddau. O glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim at wirfoddoli a chynrychiolaeth academaidd, rydym yma i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed trwy gydol eich amser yma.

EIN NEGES:

CYMERWCH RAN, MWYNHEWCH EICH HUN A CHYMERWCH Y CYFLE I DYWYS EICH UNDEB BETH YW SWYDDOG SABOTHOL?

Mae 5 ohonom yn Swyddogion Sabothol - myfyrwyr sydd wedi cymryd blwyddyn i ffwrdd i weithio fel eich cynrychiolwyr etholedig ac edrych ar ôl Undeb y Myfyrwyr. Cawsom ein hethol gan y myfyrwyr ac rydym yn gweithio ar eich rhan chi - felly os oes gennych unrhyw fater o bwys i’w godi a allai olygu gwella eich profiad fel myfyriwr, gadewch i ni wybod er mwyn i ni ddechrau gweithio arno!

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 4-5

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

E

E

5 M N O G

Y S Y

C M S

L


GWERTHOEDD AC EFFAITH CENHADAETH:

03

“GYDA’N GILYDD, BYDDWN YN GWEITHIO I GYFOETHOGI A GWELLA EICH PROFIAD FEL MYFYRIWR”

GWERTHOEDD DEMOCRATIAETH

ATEBOLRWYDD

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

DWYIEITHRWYDD

Sicrhau mai eich llais chi sy’n gyrru popeth a wnawn.

Sicrhau eich bod yn teimlo cyswllt â’n gwaith.

Sicrhau bod gennych fynediad cyfartal i gyfleoedd a rhyddid rhag gwahaniaethu.

CYNALADWYEDD

EFFAITH ENNILL GWOBRAU

5 GWOBR UCM YN CYNNWYS UNDEB MYFYRWYR Y FLWYDDYN YNG NGHYMRU AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL, CLYBIAU A CHYMDEITHASAU GORAU GAN WHAT UNI

YMRWYMIAD I FYND I’R AFAEL Â’R STIGMA A’R GWAHANIAETHU SYDD YNGHLWM AG IECHYD MEDDWL

CRYFHAU HAWLIAU MYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SY’N DYSGU

LLYFRGELL 24/7 TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

Sicrhau ymdriniaeth gyfartal i’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg.

Sicrhau parhad ein gweithgareddau ac ymrwymo i leihau’r effaith a gaiff ein sefydliad ar yr amgylchedd.

RYDYM WEDI BOD YN GWEITHIO’N GALED DROS Y FLWYDDYN DDIWETHAF AR EICH RHAN CHI, I WNEUD EICH CYFNOD YM MANGOR Y GORAU POSIB. NID OES LLE I NI GYNNWYS HOLL LWYDDIANNAU’R FLWYDDYN DDIWETHAF YMA, OND RYDYM WEDI DEWIS YCHYDIG O UCHAFBWYNTIAU...

DATGANIAD BLYNYDDOL GAN ISRADDEDIGION AC ÔL-RADDEDIGION - EICH LLAIS CHI AR ADDYSG

CLYBIAU A CHYMDEITHASAU AM DDIM PARHAU I DDATBLYGU EICH SYSTEM CYNRYCHIOLWYR CWRS

DYBLU GWIRFODDOLI

YMGYRCH TAI WEDI’I DEILWRA AT ANGHENION MYFYRWYR YMGYRCHU DROS AELODAETH AM DDIM I’R GAMPFA I FYFYRWYR NEUADDAU PRESWYL

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:24


04

EICH

TÎM SABOTHOL Enw: Fflur Elin

@LlywBangorPres

LlywBangorPres

Swydd: Llywydd Ffôn: 01248 38 8001

E-bost: fflur.elin@myfyrwyrbangor.com

Yr hyn fyddaf yn ei wneud eleni...

Yn fy amser hamdden... Rydw i wrth fy modd yn darllen, yn cael sesiynau marathon ar Netflix ac yn mynd allan gyda ffrindiau!

• Gwella cyfle cyfartal i bob myfyriwr drwy weithio i amrywiaethu’r cwricwlwm a gweithio gyda Chyngor y Myfyrwyr i gynnal gwaith ymchwil i’r bwlch cyrhaeddiad yn y Brifysgol • Codi ymwybyddiaeth am etholiadau Cynulliad Cymru a phwysigrwydd y bleidlais fyfyrwyr • Parhau i gryfhau’r berthynas rhwng y gymuned leol a’r Brifysgol • Cryfhau’r gefnogaeth a roir i fyfyrwyr ôl-radd

Enw: Becca Kent

@Bangor_AU

Swydd: Is-Lywydd Chwaraeon a Byw’n Iach Ffôn: 01248 38 8003

E-bost: rebecca.kent@myfyrwyrbangor.com

Yn fy amser hamdden...

Crynodeb o’m hamcanion eleni...

Rydw i wrth fy modd yn mynd ar anturiaethau gwyllt awyr agored, nofio tanfor, chwythu swigod bywyd nos Bangor a chwmni pobl ddifyr.

• Hyrwyddo ffordd o fyw iach i bob myfyriwr

• Ymgyrchu dros aelodaeth i’r gampfa am ddim i bob myfyriwr • Cadw prynhawniau Mercher yn rhydd ar gyfer chwaraeon • Hyrwyddo cydraddoldeb mewn chwaraeon • Cryfhau profiad yr Undeb Athletau trwy greu cymuned eang a mwy o gyfleoedd ar gyfer sgiliau cyflogadwyedd

Undeb Athletau Bangor - Bangor Athletic Union

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 6-7

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

Y h

R g d s d g


05 Enw: Mark Stanley

VPSocs.Comm

Swydd: Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned Ffôn: 01248 38 8004

E-bost: mark.stanley@myfyrwyrbangor.com

Yr hyn fyddaf yn ei wneud eleni...

Yn fy amser hamdden...

• Creu rhaglen Rhoi Cynnig Arni a fydd yn annog mwy o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau

Rydw i’n mwynhau gemau fideo, addrefnu dodrefn swyddfa, gyrru’n ddiogel, ffilmiau a gwisgo crysau.

• Gweithio gyda chymdeithasau i ennill brwydrau dros fyfyrwyr, o ran cyfleoedd myfyrwyr, yn academaidd, ym maes lles ac yn ehangach • Parhau â gwaith anhygoel Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor gyda grwpiau fel Grŵp Cymunedol Pobl Bangor a Chymdeithas Ddinesig Bangor

Enw: Lydia Richardson

@BangorVP_EduWel

vped.we

Swydd: Is-Lywydd Addysg a Lles Ffôn: 01248 38 8019

E-bost: lydia.richardson@myfyrwyrbangor.com

Yn fy amser hamdden...

Yr hyn fyddaf yn ei wneud eleni...

Rydw i wrth fy modd yn darllen, gwylio Netflix, cwrdd â phobl newydd, yn ogystal â rhoi cynnig ar ryseitiau newydd a phobi!

• Sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw gostau cwrs cudd y gallech eu hwynebu!

• Parhau i weithio gyda chi ar yr ymgyrch tai Cymerwch Bwyll cyn Llofnodi

• Parhau â’r gwaith a wnaed eleni gyda’r Cerdyn-C a gweithio gyda’r Brifysgol i wella’r gwasanaethau iechyd rhywiol • Gwella’r cyfathrebu rhwng cyfarfodydd ar lefel coleg, ysgol a myfyrwyr • Datblygu’r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n ofalwyr neu’n rhieni a myfyrwyr sydd wedi gadael gofal, trwy gynnig cefnogaeth yn y gymuned a chan y Brifysgol

Enw: Ifan James

@UMCB1

LlywyddUMCB

Swydd: Llywydd UMCB Ffôn: 01248 38 8006

E-bost: ifan.james@myfyrwyrbangor.com

Yn fy amser hamdden...

Yr hyn fyddaf yn ei wneud eleni...

Rydw i wrth fy modd yn chwarae riffs llyfn ar y gitâr, gwylio cyfres afaelgar ar y teledu, a chael hwyl gyda ffrindiau!

• Cynnal statws y Gymraeg yn y Brifysgol

• Gwneud yn siŵr bod yna gefnogaeth lawn i glybiau a chymdeithasau UMCB • Trefnu prif ddigwyddiadau calendr UMCB yn effeithiol, yn cynnwys yr Eisteddfod Ryng-golegol, y Daith Rygbi, a’n Gwledd Diwedd Blwyddyn • Gwneud yn siŵr bod defnydd teg a haeddiannol o adeilad Pontio yn cael ei sicrhau i UMCB • Ehangu ar aelodaeth UMCB, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin yn deg •

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:25


06

PENWYTHNOS

CROESO

Y

W

19 A 20 MEDI

B y

ARWYR UM

ARWYR

Mae Arwyr Undeb y Myfyrwyr ar gael i’ch helpu i symud i mewn yn ystod yr Wythnos Groeso. Mae gennym lwyth o fyfyrwyr wrth law drwy’r wythnos i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr amser gorau posib.

YN TEITHIO YMA AR Y TRÊN? Wnawn ni gwrdd â chi yn yr orsaf! Byddwn yn cynnal gwasanaeth bws wennol am ddim dros y penwythnos croeso o’r orsaf i’r holl wahanol neuaddau preswyl, fydd yn golygu na fydd raid i chi gario eich bagiau i fyny bryniau braf Bangor.

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 8-9

Pan fyddwch yn cyrraedd eich neuadd... bydd ein Harwyr yno yn eich disgwyl i’ch helpu i gario eich bagiau. P’un ai eich bod wrth y drws neu ar y llawr uchaf, bydd ein Harwyr yn rhoi help llaw i chi gludo popeth i’ch ystafell.

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

S Y


S

O

I

07

YN YSTOD YR

WYTHNOS GROESO SERENDIPEDD Mae Serendipedd yn golygu “damwain hapus” neu “ddigwyddiad dymunol annisgwyl”;yn benodol y ddamwain o ddod o hyd i rywbeth da neu ddefnyddiol heb chwilio amdano.

Serendipedd yw Ffair Wythnos Groeso UM a gynhelir yn Neuadd PJ. Mae’n ddigwyddiad arbennig ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato! Am ddeuddydd yn ystod Wythnos y Glas bydd dros 100 o gymdeithasau, dros 50 o glybiau chwaraeon a thros 30 o wahanol brosiectau gwirfoddoli, heb sôn am fusnesau lleol, i gyd yno â’u stondinau a bydd pawb am roi trugareddau a thalebau am ddim i chi a’ch perswadio i ymaelodi â’u clwb neu gymdeithas! Gallwch hefyd gasglu eich cerdyn Caru Bangor yno.

Bydd digonedd o weithgareddau eraill i chi gymryd rhan ynddynt dros yr Wythnos Groeso - Cadwch lygad amdanynt!

SUT I ENNILL Y DYDD YN YR WYTHNOS GROESO DYFRHEWCH: Yfwch ddigonedd o ddŵr CYMDEITHASWCH: Siaradwch â chynifer o bobl â phosibl BWYTEWCH: Cofiwch gael digon o fwyd CYSGWCH: Darganfyddwch rym cael cyntun fach! EWCH AM DRO: Ymlaciwch, gofynnwch am gyfarwyddiadau a dod i nabod Bangor

GWNEWCH BETHAU: Ewch i ddigwyddiadau, ymunwch mewn gweithgareddau a chofrestrwch am sesiynau blasu

CADWCH YN DDIOGEL: Gwnewch bopeth mewn grŵp a chadwch eich ffôn gyda chi

GOFYNNWCH AM GYNGOR: Mynnwch gymaint o wybodaeth â phosib gan eich Arwyr TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:26


E

Cymryd rhan, cwrdd a ffrindiau newydd, tria’ pethau newydd a cael hwyl!

DYNA BE MAE CAMPWS BYW YN EI OLYGU!

Cofiwch wisgo eich band neuaddau ar gyfer eich rhoddion! Gwelwch Facebook am fwy o fanylion

Dewch i Serendipedd a chyfarfod y Criw!

WWW.CAMPUSBWYBANGOR.CO.UK handbook 2015 welsh.indd 10-11


EIN

CYMUNED GYNHWYSOL

Rydym yma i helpu pob myfyriwr. Ni waeth pwy ydych chi, beth ydych yn ei wneud, o le ydych chi’n dod, pa iaith ydych chi’n ei siarad, beth yw eich hunaniaeth, rydym yma i’ch cefnogi chi, i’ch croesawu chi, ac i sicrhau eich bod yn mwynhau pob munud o’ch amser ym Mhrifysgol Bangor.

Y LLYNEDD GWNAETHOM

ELENI BYDDWN

• Ymchwilio i brofiadau myfyrwyr LHDTC+ mewn addysg er mwyn gwella eu profiad.

• Yn sefydlu ymgyrch etholiad y Cynulliad i gymell myfyrwyr i bleidleisio - byddwn yn gwneud yn siŵr bod llais myfyrwyr yn rhy uchel i’w anwybyddu!

• Sefydlu Fforwm Myfyrwyr Anabl.

• Yn gweithio gyda myfyrwyr ôl-radd i gryfhau eu cymuned a’u cynrychiolaeth.

• Trosglwyddo adborth gan fyfyrwyr am gynwysoldeb mewn bywyd academaidd pob dydd er mwyn i’ch llais gael ei glywed.

• Yn cynyddu ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a’r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd rhywiol drwy’r Brifysgol.

• Creu’r ymgyrch Allan mewn Chwaraeon i gynyddu cynhwysedd drwy’n holl weithgareddau.

• Yn gweithio gyda myfyrwyr rhyngwladol i wella eu cynrychiolaeth a’u profiad.

Undod Bangor yw’r gymdeithas lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws*, cwestiynu/cwiar a mwy (LHDTC+). Rydym yma i gynrychioli ac i ddarparu gwybodaeth ac adloniant i bob myfyriwr LHDTC+ a’u ffrindiau ym Mangor.

unitybangor

Am fwy o wybodaeth ‘hoffwch’ ni ar ein tudalen

neu anfonwch e-bost at unity@myfyrwyrbangor.com

r

CYMUNED BANGOR

y

Rydym yn ceisio cynnal perthynas dda gyda’r gymuned leol, ac rydym wrth ein bodd yn cydweithio ac yn cyfrannu, fel y gallwch weld o rai o’r projectau gwirfoddoli rydym yn eu trefnu.

!

K

09

Dyma restr o rai o’r pethau y byddwn yn eu gwneud:-

Rydym hefyd yn cynnal myrdd o weithgareddau difyr yn amrywio o’r Diwrnod Canoloesol ym Miwmares at ymuno â Gwledd Conwy, helpu gyda Charnifal Haf Grŵp Cymunedol Pobl Bangor a Dathliadau’r Ŵyl.

CYNLLUN TŶ AGORED GWOBRAU’R LANDLORDIAID WARDEINIAID YN Y GYMUNED

DARGANFYDDWCH NI AR ... TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

A MWY!

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION

21/07/2015 00:03:27


10

EICH

UNDEB ATHLETAU Helô! Mae sawl cyfle i gymryd rhan dros y flwyddyn. Does dim ots beth yw eich cefndir, cewch y cyfle i ddod o hyd i’r gweithgaredd neu weithgareddau chwaraeon sy’n iawn i chi. Mae gennym dros 55 o glybiau a thros 3000 o aelodau’n cymryd rhan. Maent yn amrywio o’r cystadleuol at weithgareddau hamddenol. Os dymunwch, gallwch gystadlu yn rhaglen Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn unigol neu fel rhan o dîm. MENA

Mae yna bob amser rhywbeth yn mynd ymlaen yn yr UA ac mae ein clybiau’n brysur iawn drwy’r amser gyda’u chwaraeon, gyda’r gymuned ac yn gymdeithasol. Bydd yr UA yn trefnu llwyth o ddigwyddiadau dros y flwyddyn i ddod â phawb ynghyd waeth beth yw eich camp chwaraeon. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

handbook 2015 welsh.indd 12-13

AD

LOVE LANE ER

LT AL NR PE

RO

W

AD HO LY HE

AD DD RO DDOE FFRI

TREBORTH

CANOLFAN BRAILSFORD

OA D NR RFO RNA

NO

R

2 0 0T H M

CYFLEUSTERAU HYFFORDDIANT

yn dathlu eu llwyddiannau yn ein clwb nos a man diogel, Academi.

YMGYRCHOEDD: Bob blwyddyn byddwn yn cynnal

digwyddiadau elusen ac yn codi ymwybyddiaeth am sut yr hoffem weld chwaraeon yn datblygu yn y dyfodol. Cadwch lygad am bencampwriaethau Tashwedd a Chwefron ac Allan mewn Chwaraeon.

UWCH DIMAU A SÊR YR UA: Cystadleuaeth yn cynnwys chwaraeon lluosog i ganfod y tîm/unigolyn mwyaf ffit yn yr UA.

GŴYL BYW’N IACH: Mae hon yn wythnos o weithgareddau gwych yn hyrwyddo byw’n iach i’r Brifysgol gyfan. Cadwch lygad am y beic smwythyn a’r sesiynau ‘rhowch gynnig arni’.

Y BENCAMPWRIAETH RYNG-GOLEGOL: Y

digwyddiad chwaraeon mwyaf ar galendr yr UA ym Mangor, cystadleuaeth mewn llu o wahanol chwaraeon yn erbyn Prifysgol Aberystwyth. Disgwyliwch awyrgylch drydanol heb ei hail byddwn yn brwydro am y tlws ar ein tomen ein hunain eleni.

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

IN DE

IO

L RO

AD

H HIG

CAE

NOSWEITHIAU’R UA: Bob nos Fercher mae holl glybiau’r UA

DARGANFYDDWCH NI AR ...

AD

LO

ILL

ET RE ST

T

YMLAEN?

O GE R COLLE

NH GLA N R A F O

NS DEA

BETH SYDD

SILIWEN ROAD

T LS IO

Mae Bangor a’r cyffiniau’n un o leoliadau gorau’r wlad o ran gweithgareddau awyr agored, a bydd llawer ohonoch yn cymryd rhan ynddynt. Ewch i Serendipedd i gwrdd â chlybiau’r UA a chael gwybod mwy am y dewis rhagorol o chwaraeon a gynigir yma.

SAFLE’R NORMAL

IN DE

Mae’r sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal yn ein cyfleusterau rhagorol yng Nghanolfan Brailsford, Safle’r Normal a Threborth; yn cynnwys trac a maes ac amrywiaeth eang o gyfleusterau allanol.

N

T

E RIV

ME

TRAI AI S

D IA OR CT VI

Mae’r holl dimau chwaraeon am ddim i chi ymuno â nhw a byddant yn cynnal sesiynau blasu ar ddechrau’r tymor, felly beth am weld faint o chwaraeon newydd y gallwch chi roi cynnig arnynt?

I STRAIT


CHWARAEON A-Y

U

A

J

Q

• Athletau

• Jitsu • Judo

• Quidditch

B • • • •

T

Badminton Beicio Bocsio Bonllefwyr

W

ER

LT AL NR PE

HO LY HE

AD

RO

AD

LO

ILL

IO

IN DE

L RO

AD

H HIG

D ROA FON

R

2 0 0T H M

T

ET RE ST

T

T LS IO

IVE

NH GLA N R A F O

NS DEA

LOVE LANE

AD

IN DE

O GE R COLLE

• • • • •

Canwio Cerdded Mynyddoedd (UMWC) Chwaraeon Eira Cleddyfa Criced

D • Dawns • Deifio Uchel

F

• Ki Aikido

L M • Marchogaeth • Mynydda

G • Golf • Gymnasteg

H Hoci (Dynion) Hoci (Menywod) Hwylfyrddio Hwylio

n.

R • Rhwyfo • Rygbi’r Gynghrair Rygbi’r Undeb (Dynion) • Rygbi’r Undeb (Merched)

S

• Nofio • Nofio Tanfor

• • • • •

O

T

N

• Octopush

• Ffitrwydd Polyn • Frisbi Eithafol

• • • •

K • Lacrosse

C SILIWEN ROAD

NO

11

P • • • • • • • • • • • •

Peli Paent Pêl-droed Gaelaidd (Dynion) Pêl-droed Gaelaidd (Merched) Pêl-droed (Dynion) Pêl-droed (Merched) Pêl-droed Americanaidd Pêl-fasged (Dynion) Pêl-fasged (Merched) Pêl-foli Pêl-llaw Pêl-rwyd Polo Canŵ

• • • • • •

Saethyddiaeth Sboncen Sglefrio Snwcer a Pool Syrffio

Tenis Tenis Bwrdd TrampolÎn Treiathalon Tonfyrddio

Rhaglen o ddigwyddiadau chwaraeon amrywiol sy’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Yn amrywio o gynghreiriau strwythuredig at sesiynau chwarae anffurfiol, mae yna rywbeth i bawb. Cyfle rhagorol i wneud ffrindiau trwy chwaraeon neu gymryd rhan mewn chwaraeon gyda grŵp o ffrindiau heb ymrwymo i glwb.

@BANGOR_AU

UNDEB ATHLETAU BANGOR- BANGOR ATHLETIC UNION 21/07/2015 00:03:28


EICH CYMDEITHASAU

12

S’mae! Rŵan eich bod ar eich ffordd i Brifysgol Bangor byddwch angen rhywbeth i’w wneud yn eich amser hamdden! Dylech gael golwg ar ein rhestr o gymdeithasau myfyrwyr! Mae cymdeithasau yn ffordd ragorol i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau neu gael profiad o weithgareddau newydd; bydd amryw ohonynt yn gefn i’ch astudiaethau academaidd, ac yn cynnig sgiliau a chymwysterau i chi a fydd o fudd i chi ymhell ar ôl i chi orffen eich cyfnod yma. Mae gennym gymdeithasau academaidd megis y Gymdeithas Seicoleg neu’r Gymdeithas Ddaearyddol a fydd yn cydweithio gyda’ch ysgolion academaidd. Mae cymdeithasau’r cyfryngau Y Llef, Serem a Storm FM yn delio gyda newyddiaduriaeth argraffiedig a’r radio. Mae yna gymdeithasau cerddorol sy’n trefnu badiau ac cerddorfeydd. Os hoffech ffod ar y llwyfan neu helpu allan tu cefn i’r llwyfan mae gennym cymdeithasau perfformio fel BEDS (Cymdeithas Ddrama Saesneg), Rostra a SODA (Cymdeithas Ddrama Gerdd). I’r actifyddion yn eich plith mae gennym gymdeithasau ymgyrchu megis Coppafeel, Amser i Newid a Nawdd Nos. Os oes gennych syniad am gymdeithas yna’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i 10 o bobl sydd â’r un diddordeb ac a hoffai gymryd rhan, ac anfon e-bost ataf i ar mark.stanley@myfyrwyrbangor.com i ddechrau’r broses o sefydlu cymdeithas newydd! A’r atyniad mawr arall yw... Mae ymaelodi â phob un ohonynt yn rhad ac AM DDIM! Rydym yn un o nifer prin o undebau myfyrwyr yn y DU sy’n cynnig aelodaeth am ddim ac mae hynny’n golygu y gall pob myfyriwr ac aelodau o’r gymuned leol ymuno mewn cymaint o weithgareddau â phosib, gan chwalu pob rhwystr i’ch datblygiad.

Cymdeithas Garddio Organig Garddwriaethol

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 14-15

Cymdeithas DJ

Cymdeithas Gerddoriaeth

Storm FM

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM


CYMDEITHASAU A-Y A • • • • • • • •

B • • • • • •

C • • • • • • • • • • • • • • •

D • • • • • • •

Adar Afro-Caribïaidd Ail-greu Canoloesol Airsoft Anglican Animeiddio (BAWLS) Archimedes (Myfyrwyr Wrecsam) Asasiniaid

Band Cyngerdd Band Jazz Band Pres Biofeddygol Bioleg Busnes

Ceidwadwyr Celf Model y Cenhedloedd Unedig Cerddoriaeth (MuSoc) Coedwigaeth (BFSA) Comedi Coppafeel! (Ymwybyddiaeth Cancr y Fron) Coreaidd Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Crefyddau’r Ddaear Undeb Cristnogol Criw’r Llwyfan Cwrw Go Iawn Cyfraith Cyfraith y Stryd

Dadlau (BUDS) Dadlau Cyfreithiol Daear a’r Amgylchedd (BEES) Daearyddiaeth Democratiaid Rhyddfrydol DJ Drama Saesneg (BEDS)

E

• Endeavour (Gwyddorau’r Môr) • Entomoleg

Ff • • • • • •

Ffeministiaeth Ffermio Creu Ffilmiau Ffotograffiaeth Ffuglen Wyddonol Ffug-Ryfela a Chwarae Rôl (BWRPS)

G

• Garddio Organig Garddwriaethol (HOGSoc) • Gemau Cyfrifiadurol (BUGL) • Gilbert a Sullivan • Gogledd Lloegr • Y Groes Goch Brydeinig • Gwnïo a Chrefftau (BCSS) • Gwyddbwyll • Gwyddoniaeth, Esblygiad ac Anffyddiaeth

H

• Hacio • Hanes ac Archeoleg • Herpotoleg

I

• • • •

Ieithoedd Modern (LangSoc) Ieithyddiaeth (BLS) Indiaidd Islam

L

• Lowland Cent (Cylchgrawn Creadigol)

Ll • • • • • •

Llafur Y Llef (Papur Newydd Cymraeg) Llenyddiaeth ac Iaith (BALLS) Llinynnau Llyfrau a Phlu Cymdeithas Llywelyn (Dysgwyr Cymraeg)

13

O

• Myfyrwyr Ôl-radd

P • • • • • •

Pacistanaidd Pabyddiaeth Plaid Cymru Pocer Pong Cwrw Pysgota Môr

R

• Rostra (Cymdeithas Ddrama)

RH

• Myfyrwyr Rhyngwladol

S

• Seicoleg (PSYCH) • Seren (Papur Newydd Saesneg) • Sgowtiaid a Geidiau (BUGS) • Siapaneaidd • SODA (Drama Operatig) • Storm FM (Gorsaf Radio) • Sŵoleg

T

• Gweithredu Myfyrwyr Treborth (STAG)

U

• Undod (LHDTC+)

Y

• Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

M

• Methodistiaeth • Minecraft (MOBS)

N

• Nawdd Nos

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:28


14

EICH

GWIRFODDOLI MYFYRWYR

Dros 750 o gyfleoedd a mwy na 35 o brojectau cymunedol! Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yn adran o’r UM sydd â thros 750 o gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd ac achlysurol i fyfyrwyr mewn dros 35 o brosiectau yn y gymuned. Mae gwirfoddolwyr GMB yn cyfrannu cyfanswm o 600 o oriau gwirfoddoli bob wythnos, gan weithio mewn pedwar maes allweddol: Plant a Phobl Ifanc, Oedolion Bregus, yr Amgylchedd a Phrosiectau Cymunedol.

GWIRFODDOLI PRESWYL

SBECTRWM

Mae gan GMB weledigaeth y dylai fod yn brofiad cyffredin i fyfyrwyr wirfoddoli yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac y dylai UM wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi, hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli myfyrwyr. Dyna pam mai prif nod GMB yw cynorthwyo myfyrwyr i arwain eu prosiectau gwirfoddoli eu hunain a chynnig y gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt.

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 16-17

“DIANC O FANGOR” RAG

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM


I

15

RHAI O’N

Cymwynas@Bangor

Clwb Llinos

Mynd am Dro (x2)

Chwaraeon yn y Gymuned

Tŷ Llywelyn

PROSIECTAU Teithiau prynhawn Sadwrn i bensiynwyr.

Cyswllt â’r Henoed

Grwpiau te prynhawn i henoed dros 70 mlwydd oed.

Sblodj

Clwb ar ôl ysgol i blant 5-7 mlwydd oed.

Sblat

Clwb ar ôl ysgol i blant 7-11 mlwydd oed.

Sbectrwm

Gweithgareddau i blant a effeithir gan Awtistiaeth a Syndrom Asperger.

Gwirfoddolwyr yn cynorthwyo myfyrwyr eraill ym Mhrifysgol Bangor i ymgartrefu a chael y gorau o fywyd prifysgol.

Gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol fentrau’n ymwneud â chwaraeon, gan weithio’n bennaf â phlant a phobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol a chlybiau chwaraeon unwaith yr wythnos.

Trac a Maes

Gwirfoddolwyr yn mynd i sesiynau Clwb Athletau Trac a Maes y Fenai ar nos Fercher i hyfforddi a chefnogi aelodau iau’r clwb.

Canolfan Cyswllt â Phlant

Hergest (x2)

Gweithgareddau i gleifion yn y ward iechyd meddwl lleol.

Mae’r gwirfoddolwyr yn rhedeg Canolfan Cyswllt â Phlant Bangor ac yn goruchwylio ymweliadau rhwng plant ac aelod o’r teulu sy’n byw ar wahân iddynt.

Y Rhoi Mawr

Cwrdd i Glywed

Casglu ac ailgylchu eitemau diangen o’r neuaddau preswyl ar ddiwedd y flwyddyn.

Te Partis

Lluniaeth ac adloniant i dros 100 o bensiynwyr lleol adeg y Nadolig a’r Pasg.

Glanhau Traethau Helpu i lanhau a diogelu’r arfordir lleol.

Gwirfoddolwyr yn cynnal cyfarfodydd misol i grŵp o bobl dros 50 mlwydd oed sy’n drwm eu clyw.

Caffi Cofio

Gwaith cadwraeth yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Tŷ Newydd

AGRO

Sesiynau chwaraeon i blant ysgolion cynradd lleol.

Dadansoddi Fideo Chwaraeon

Mae gwirfoddolwyr yn cynnig gwasanaeth dadansoddi perfformiad clybiau chwaraeon lleol gan ddefnyddio’r dechnoleg dadansoddi chwaraeon ddiweddaraf.

Pwyllgor Hyrwyddo

Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd unwaith yr wythnos i ddatblygu syniadau am ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y mudiad a hyrwyddo gwirfoddoli.

Gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl leol dros 50 mlwydd oed i gael mynediad i’r rhyngrwyd a dysgu mwy am dechnoleg gwybodaeth. Gwirfoddolwyr yn cynnal clwb cymdeithasol i bobl sydd â dementia Alzheimer’s a’u teulu neu ofalwyr.

Chwaraeon y Ddraig

Mae gwirfoddolwyr yn ymweld yn wythnosol â Thŷ Llywelyn, uned ddiogel i rai a effeithir gan broblemau iechyd meddwl, i gynnal gweithgareddau gyda’r cleifion.

Caffi Hafan

Gwynedd Werdd

Gweithgareddau i gyndroseddwyr mewn hostel fechnïaeth leol.

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd grŵp o bobl ifanc gyda Syndrom Downs ar nosweithiau allan bob yn ail nos Iau.

Gwirfoddolwyr yn cynnal gweithgareddau unwaith y mis ar gyfer pobl sydd mewn adferiad o gamddefnyddio alcohol a sylweddau.

Ablett

Gwirfoddolwyr yn cynnal gweithgareddau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn yr uned iechyd meddwl yn y Rhyl. TWITTER.COM/GMB_SVB

Mae RAG, ’Raising and Giving’, yn hen draddodiad prifysgol o godi arian at elusen ac wedi bodoli ers degawdau. Drwy gymryd rhan yn RAG cewch y cyfle i fwynhau a phrofi amrywiaeth eang o weithgareddau i godi arian at elusennau lleol a chenedlaethol. O bencampwriaethau pŵl at droeon cerdded wedi’u noddi, mae yna rywbeth yma at ddant pawb. P’un ai y byddwch yn cymryd rhan ym mhob gweithgaredd neu ddim ond un mae’n brofiad bendigedig ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd.

FACEBOOK.COM/STUDENTVOLUNTEERINGBANGOR 21/07/2015 00:03:29


16

EICH BETH YW

UMCB?

Mae gennym nifer o gymdeithasau y gallwch gymryd rhan ynddynt fel y gallwch weld ar y dudalen nesaf ac rydym yn agored iawn i unrhyw syniadau am glybiau, cymdeithasau neu ddigwyddiadau newydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod i’m gweld i naill ai yn fy swyddfa yn Undeb y Myfyrwyr neu yn JMJ neu gysylltu â mi ar ifan.james@ myfyrwyrbangor.com.

Shwmae! Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw’r Undeb sy’n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Gymreig yn ystod eich cyfnod yma ym Mangor. Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i chi eu mwynhau dros y flwyddyn i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yma. Dros y flwyddyn nesaf byddaf yn sicrhau na fyddwch dan unrhyw anfantais o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy adolygu’r broses o gyfieithu eich gwaith ac iaith eich arholiadau. Os byddwch yn wynebu unrhyw broblemau gyda’ch cwrs neu’r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ym Mangor, dewch i’m gweld i a byddaf yn gwneud fy ngorau i’ch helpu neu’n eich cyfeirio at rywun arall a all wneud.

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 18-19

Mae’n edrych yn debygol o fod yn flwyddyn wych gydag amserlen lawn o ddigwyddiadau. Mae gweithgareddau UMCB yn amrywio o’r Eisteddfod a’r Ddawns Ryng-golegol at yr Wythnos Gymreig a’r daith rygbi flynyddol. Byddwn yn cynnal nosweithiau cwis a nosweithiau meic agored rheolaidd yn nhafarn Y Glôb.

Edrychaf ymlaen at eich gweld yn fy swyddfa neu yn un o’n nifer o ddigwyddiadau neu gyfarfod un o’n cymdeithasau.

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM


u.

17

Clybiau a Chymdeithasau UMCB

Clwb Pêl-droed UMCB

Aelwyd JMJ

Aelwyd JMJ

Cyfle i ganu yn y côr, adrodd neu ddawnsio mewn cyngherddau. Byddwn yn disgwyl pethau mawr gan y côr eleni yn dilyn eu llwyddiant y llynedd yn cyrraedd rownd gynderfynol Côr Cymru.

Clwb Pêl-droed UMCB

Gwisgwch eich esgidiau pêl-droed a’ch crys UMCB a rhowch gynnig ar fod yn rhan o’n sgwad pêl-droed.

Cymdeithas Llywelyn

Cymdeithas i ddysgwyr yw Cymdeithas Llywelyn. Ond gallech chi fel siaradwyr iaith gyntaf eu helpu i ymarfer eu Cymraeg a datblygu hyder mewn defnyddio’r iaith mewn awyrgylch hamddenol ac anfeirniadol.

Cymdeithas y Ddrama Gymraeg

Taith Rygbi UMCB

Y Ddraenen

Cylchgrawn ysgafn am aelodau UMCB.

Gwirfoddoli

Bydd digon o gyfle i chi wirfoddoli yn y gymuned drwy ymuno â’r prosiectau a gyd-drefnir gan UMCB a’i gymdeithasau.

Y Llef

Dyma’r papur newydd myfyrwyr Cymraeg sy’n cynnwys newyddion am yr Undeb, y Brifysgol a’r byd ehangach. Mae hefyd yn cynnwys ‘Yr Hadau’, cylchgrawn i ddysgwyr Cymraeg sy’n cynnwys newyddion perthnasol a straeon am ddysgwyr eraill. Os hoffech gyfrannu, buasem wrth ein bodd yn eich croesawu atom.

Cymdeithas Neuadd JMJ

Os ydych yn mwynhau perfformio, cyfarwyddo, dysgu, gwisgoedd neu ysgrifennu sgriptiau, dyma’r gymdeithas i chi arddangos eich sgiliau.

Mae Neuadd JMJ yn galon i gymuned myfyrwyr Cymraeg ac mae’r lolfa sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i uno’r ddwy neuadd yn ganolfan i gymdeithasu ac ymlacio.

Y Cymric

Mae mwy o gymdeithasau ar y gweill ac os oes gennych syniad am gymdeithas newydd, dewch â’ch syniadau atom ac fe wnawn ni geisio eu gwireddu.

Dyma’r gymdeithas sydd yn gyfrifol am drefnu ein digwyddiadau cymdeithasol er mwyn i chi allu gweithio’n galed a chwarae’n galed. TWITTER.COM/UMCB

A Mwy…

FACEBOOK.COM/UNDEBMYFYRWYRCYMRAEG.BANGOR 21/07/2015 00:03:30


EDUCATION 18

EICH LLES

Er mwyn i chi fwynhau eich profiad fel myfyriwr i’r llawn rhaid i chi fod yn hapus ac yn iach a gwybod y gallwch droi at rywun am gefnogaeth pan fyddwch ei angen - a dyna’n gwaith ni, drwy’r dydd, bob dydd! Gyda’n cymdeithasau lles fel Nawdd Nos, Coppafeel a’n cymdeithas LHDTC+, a finnau fel eich Swyddog Sabothol Addysg a Lles, rydym i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod eich lles ar ben ein rhestr o flaenoriaethau.

Ymgyrchoedd

Ymgyrch Tai

Mae yna nifer o ymgyrchoedd y gallwch gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o’r ymgyrch iechyd meddwl Carwch eich Meddwl i #Lles, sy’n canolbwyntio ar sut i edrych ar ôl eich hun yn ystod cyfnodau prysuraf eich cwrs gradd.

Bydd ein hymgyrch tai Cymrwch Bwyll Cyn Llofnodi hefyd yn dechrau ym mis Tachwedd i’ch cynghori am yr amser gorau i ddechrau chwilio am dŷ a beth i edrych amdano. Bydd hyn yn cynnwys cyfle i chi ymweld ag amryw o dai trwy’r cynllun Tŷ Agored er mwyn i chi Gymryd Pwyll Cyn Llofnodi. Cadwch lygad am ein cyhoeddusrwydd!

Bywyd Myfyrwyr Mae lles hefyd yn cynnwys ymdopi â bywyd myfyrwyr ym Mangor (byddwn ni i gyd yn wynebu cyfnodau anodd pan fyddwn oddi cartref yn y coleg) a sut y byddwch yn byw fel rhan o’r gymuned ehangach. Dyna pam mae UM yn gweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr i wneud yn siŵr y bydd eich amser ym Mangor mor wych ag y gall fod. Ar ben hynny mae’r project gwirfoddoli Cymwynas@Bangor ar gael i bob myfyriwr hefyd, yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth yr ydych ei hangen i wneud y gorau o’ch amser ym Mangor. Mae pob agwedd ar les mewn dwylo da.

Polisi Dim Goddefgarwch Mae gennym hefyd Bolisi Dim Goddefgarwch, ac yn ei sgil mae staff yn derbyn hyfforddiant goddef dim - sy’n golygu pan fyddwch chi allan am y noson, neu’n byw eich bywyd o ddydd i ddydd, gallwch deimlo’n ddiogel gan wybod fod yna bobl drwy Fangor gyfan sy’n ystyried eich diogelwch chi (a chan ei bod yn ddinas fechan, mae’n gymharol hawdd i ni edrych ar ôl ein gilydd!) Yn olaf - mae croeso i chi roi galwad, anfon e-bost neu alw i mewn i UM unrhyw bryd am gyngor, cefnogaeth, neu jest am sgwrs - rydym yn griw siaradus a chroesawgar!

Psst! Mae Nawdd Nos yn wasanaeth cyfrinachol gwrando a rhoi gwybodaeth sy’n

cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Yn ystod amser tymor mae Nawdd Nos ar agor o 8yh tan 8yb - i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych, i roi rhifau ffôn siopau prydau parod i chi, neu i wrando ar faterion mwy difrifol y byddwch am eu trafod. Ffoniwch: 01248 383880

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 20-21

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM


n

19

GWYBODAETH IECHYD

RHYWIOL

Mae’r Cerdyn-C wedi cael ei gyflwyno’n ddiweddar gan UM i fyfyrwyr rhwng 13 a 25 iddynt gael fynediad at gyngor iechyd rhyw a chondomau ar draws y campws. Mae’n cynnig ffordd ddienw i chi dderbyn cyngor am iechyd rhywiol a chondomau am ddim drwy’r flwyddyn. Mae 6 o aelodau staff Undeb y Myfyrwyr wedi cael eu hyfforddi i ddosbarthu’r Cerdyn-C yn ogystal â staff Gwasanaethau Myfyrwyr; mae’n gynllun parhaol y dylech gofrestru arno. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru naill ai yn ystod Serendipedd neu yn ystod y flwyddyn yn ein lleoliadau Cerdyn-C. Cofiwch ei fod yn gyfan gwbl AM DDIM ac yn ddienw - yn gwbl syml a dim cwestiynau! #Diogelwch

CERDYN-C A’CH CONDOMAU AM DDIM Amseroedd a lleoliadau Undeb Myfyrwyr Llun i Gwen 9:00 -16:30 (Merch 9:00 -18:00)

Gwasanaethau Myfyrwyr Llun i Gwen 9:00 -16:30

Neuadd JMJ Mawrth a Mercher 13:00 -17:00

Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth ac Arweiniad Iechyd Rhywiol yn cynnig condomau am ddim, profion HIV, gwybodaeth am y gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael yn lleol, ymwybyddiaeth am wybodaeth iechyd allweddol a mwy! Gwnewch yn siŵr o gadw llygad am gyfleoedd i gymryd rhan semester nesaf neu anfonwch e-bost at lydia.richardson@ myfyrwyrbangor.com os oes gennych ddiddordeb.

Clinig Iechyd Rhywiol Ysbyty Gwynedd Ar gael i chi: • Profion Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (yn cynnwys HIV) • Pob opsiwn atal cenhedlu gan gynnwys deunydd atal cenhedlu brys • Profion Beichiogrwydd • Brechiadau Hep B

Llinell ffôn apwyntiadau:(01248) 384054, ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 09.30yb -11.30yb CYFEIRIAD CLINIGAU Uned Menai, Ysbyty Gwynedd Ffordd Penrhos, Bangor LL57 2PW. (01248) 385385

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

• Addysg Rhyw Fwy Diogel • Cefnogaeth/cynghori a chynghori ar feichiogrwydd heb ei chynllunio • Cyfeirio ar gyfer terfynu beichiogrwydd • Cyfeirio at y Ganolfan Ymosodiadau Rhywiol lleol

Mae dewis o drefn galw-heibio, slotiau brys ac apwyntiadau ar gael yn ein holl glinigau ond argymhellir apwyntiadau ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys. Rhaid bod yno am 1yh yn achos pob clinig galw-heibio

DIWRNOD

AMSER

Dydd Llun

1.30 - 4.30yh

Dydd Mercher

1.30 - 4.30yh

Dydd Gwener

9.30 - 11.30yb

Dim clinig galw-heibio

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:31


20

CYFLEOEDD PRESENNOL

CYMRWCH RAN! A OES GENNYCH DDIDDORDEB MEWN CAEL COFNOD O’CH TAIR BLYNEDD YM MANGOR? Oes gennych ddiddordeb i’n helpu ni i wneud bywyd yn well i bawb? Yn Undeb Myfyrwyr Bangor mae gennym brosiect cyffrous ac arloesol flogio o’r enw

Tair Blynedd yn Ddiweddarach. Rydym yn chwilio am hyd at 5 myfyriwr o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan drwy ffilmio blog fideo byr am eich bywyd fel myfyriwr ym Mangor dros y tair blynedd nesaf.

Rydym am wybod sut brofiad oedd yr Wythnos Groeso i chi, sut wnaethoch chi ganfod eich aseiniad cyntaf a sut beth yw bod yn aelod o glwb neu gymdeithas. Rhoddir camera fideo i bob flogiwr a gofynnir iddynt anfon fideos byr o tua 5-10 munud trwy’r flwyddyn a byddwn yn defnyddio’r fideos i’n helpu i ffurfio dealltwriaeth fanwl o fywyd ym Mangor ar gyfer myfyrwyr. Fel gwobr am gymryd rhan ym mhob un o’r tair blynedd, byddwn yn cynnig tocyn rhad ac am ddim i Ddawns yr Haf bob blwyddyn a chewch gadw’r camerâu. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr o bob math o gefndiroedd - myfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr ymchwil, israddedigion, siaradwyr Cymraeg felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni drwy e-bost am fwy o wybodaeth danielle.barnard@myfyrwyrbangor.com

PECYN NWYDDAU CARTREF AM DDIM AR GAEL I FYFYRWYR SYDD ANGEN CEFNOGAETH Os ydych chi’n fyfyriwr o gefndir incwm isel, neu heb gefnogaeth i fynychu prifysgol, efallai bydd diddordeb gennych dderbyn pecyn o nwyddau cartref am ddim ar gyfer eich amser mewn neuadd breswyl. Mae’r pecynnau’n cynnwys yr holl grochenwaith, cyllyll a ffyrc a sosbenni y byddech angen, ynghyd â gwydrau, mygiau, celfi coginio a bwrdd torri.

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 22-23

Gan mai prosiect peilot hwn, mae nifer cyfyngedig o becynnau ar gael, felly rydym yn gofyn ichi ddim ond rhoi’ch enw ymlaen os na fuasech yn gallu prynu’r eitemau eich hunain. Gallech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a rhoi’ch enw ymlaen drwy e-bostio gmb@myfyrwyrbangor.com.

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM


21

EICH ADDYSG

Yn Undeb Myfyrwyr Bangor rydym yn credu mai’r myfyrwyr ddylai fod wrth y llyw o ran eu profiad academaidd. Rydym yn falch iawn o’n Huned Cynrychiolaeth Academaidd, a’r Drefn Cynrychiolwyr Cwrs. Mae ein Huned Cynrychiolaeth Academaidd yn canolbwyntio ar brofiad academaidd myfyrwyr, a dyma’r lle i chi fynd os fydd gennych unrhyw broblemau yn ymwneud â’ch gwaith academaidd neu eich bod angen gwneud apêl academaidd. Mae’r Uned hefyd yn gartref i’r prosiect Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr - project sy’n rhoi’r cyfle i chi fynegi barn am eich profiadau dysgu drwy enwebu aelodau staff yn eich adran am un o’r gwobrau. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth amdano yn ystod Semester 1! Hoffech chi wybod mwy? Anfonwch e-bost atom ar academicrepresentationunit@ myfyrwyrbangor.com

Bob blwyddyn caiff y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eu trefnu gan yr UCA i roi’r cyfle i fyfyrwyr enwebu staff sydd wedi mynd yr ail filltir.

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

Mae’r drefn Cynrychiolwyr Cwrs yn golygu bod eich ymateb chi’n cael ei glywed ac yn cael ei ddefnyddio i fonitro a gwella eich profiad academaidd yn barhaus. Mae’n gyfrwng i’ch helpu i ddatrys problemau gyda’ch cwrs, yn rhoi’r cyfle i chi ystyried eich profiad a rhoi sylwadau arno, ac yn gweithio drosoch chi i newid unrhyw faterion sy’n creu pryder i chi. Mae’r drefn yn cael ei harwain gan eich Cynrychiolwyr ac yn gweithio mewn partneriaeth â’ch Ysgol a’ch Coleg a phawb yma yn Undeb y Myfyrwyr i wneud yn siŵr bod eich safbwyntiau chi wrth graidd pob penderfyniad a gaiff ei wneud a fydd yn effeithio ar eich gwaith academaidd.

Mae’r Cynrychiolwyr Cwrs yn cael eu hethol yn wythnosau cyntaf Semester 1, a gall unrhyw fyfyriwr sefyll. Os yr hoffech gymryd rhan flaenllaw yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich addysg, anfonwch e-bost at coursereps@myfyrwyrbangor.com i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan!

Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:33


22

EIN

DATGANIAD BLYNYDDOL

MAE DATGANIAD BLYNYDDOL Y MYFYRWYR YN UN O’R DARNAU O WAITH YR YDYM FWYAF BALCH OHONO. Gallwch ddarllen ein Datganiad ar ein gwefan, ond o’i roi’n syml mae’n adroddiadau sydd wedi’u seilio’n llwyr ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym am eich profiad academaidd. O’r llyfrau sydd ar y silffoedd at labordai cyfrifiaduron, o’r adborth a dderbyniwch ar eich gwaith at eich dewisiadau modiwl - mae eich llais chi ar flaen y gad i greu newid.

BYDDWN HEFYD YN RHOI CEFNOGAETH I CHI GYDA CHYFLOGADWYEDD AC UNRHYW BROBLEMAU GYDA MYNEDIAD AT ADDYSG. Drwy weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol, rydym yn gweithredu argymhellion ar sut i wella eich profiad drwy siapio’r ffordd y cewch eich dysgu, eich cynnydd, ac addasiadau i’ch profiad academaidd i ateb eich gofynion.

EICH addysg chi sydd dan sylw, ac rydym yn credu mai chi yw’r arbenigwyr, felly ni’r myfyrwyr ddylai fod yn llywio’r penderfyniadau.

Dyma’r hyn rydym eisiau ei wneud drosoch chi: Cryfhau cynhwysedd cymuned myfyrwyr Bangor Gwella’r profiad i ôl-raddedigion

C

E

M m ff y g m y G s S e b e

B Y

M c y a d g S g m

Cynyddu’r gefnogaeth i’r rheiny sy’n gadael gofal a myfyrwyr sy’n rhieni Hyrwyddo pwysigrwydd iechyd rhywiol Datblygu’r berthynas â’r gymuned leol ymhellach Creu awyrgylch groesawgar o gyfranogi sydd wedi’i deilwra at fyfyrwyr rhan-amser, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr cartref DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 24-25

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

O S


R

EDD

ai

yo ur EICH

23

CYNRYCHIOLAETH

Eich Undeb Myfyrwyr CHI yw Undeb Myfyrwyr Bangor. Rydym yma er mwyn i chi allu siapio eich Undeb, gweithredu’r newidiadau yr ydych eu heisiau, a bod yn gyfrwng i’r newidiadau hynny.

ETHOLIADAU Mae UM yn cael ei arwain gan fyfyrwyr ar ran myfyrwyr. Dyna sut rydym yn sicrhau ein bod yn ffres, yn fywiog, yn llawn hwyl ac wedi’n gwreiddio yn eich profiad chi. Mae democratiaeth wrth galon popeth a wnawn, a chewch y cyfle i ethol myfyrwyr i redeg eich clwb a chymdeithas, i fod yn Gynrychiolydd Cwrs ar eich rhan, i sefyll ar Gyngor y Myfyrwyr i drafod syniadau a materion sydd o bwys i chi, ac i weithio fel Swyddogion Sabothol. Mae gennych y grym i ddewis pwy sy’n eich cynrychioli. Neu, os oes gennych yr egni, y brwdfrydedd a’r syniadau gallwch sefyll yn yr etholiadau eich hun!

CYNGOR Y MYFYRWYR Mae Cyngor y Myfyrwyr yn gorff sy’n cynrychioli ein holl fyfyrwyr. Mae’n cwrdd yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y Swyddogion Sabothol yn cyflawni eu swyddogaethau’n effeithiol, yn trafod syniadau a materion sy’n codi ac yn cynllunio projectau a meysydd gwaith newydd. Gallwch gymryd rhan yng Nghyngor y Myfyrwyr drwy siarad ag aelodau o’r Cyngor, neu drwy gyflwyno syniad i Gyngor y Myfyrwyr ei drafod neu drwy ddod i’r cyfarfodydd!

BWRDD YR YMDDIRIEDOLWYR

CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Mae UM yn elusen sy’n gweithio ar eich rhan chi. Yn gyfreithiol mae’n rhaid i ni gael bwrdd ymddiriedolwyr i oruchwylio ein gweithgareddau a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio’n galed dros fyfyrwyr ac ar yr un pryd yn dilyn cyfraith gwlad ac arfer gorau. Yn ogystal â’r Swyddogion Sabothol, mae 3 o fyfyrwyr sy’n ymddiredolwyr gwirfoddol yn aelodau o’r bwrdd. Gallwch ddysgu mwy ar y we.

Byddwn yn cynnal dau Gyfarfod Cyffredinol y flwyddyn, un ar y dechrau a’r llall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Diben y Cyfarfodydd Cyffredinol yw rhoi’r cyfle i chi i gyd gwestiynu eich Swyddogion, canfod pa gynnydd mae eich Undeb yn ei wneud a gosod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hefyd yn gyfle i chi gynnig projectau a syniadau newydd i UM weithio arnynt.

OES GENNYCH CHI SYNIAD GWYCH? TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

Os oes gennych chi syniad da i wella Bangor, mae’n hawdd ei roi ar waith! Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw mynd i myfyrwyrbangor.com ac i’r adran Syniadau. Gall unrhyw un gyflwyno Syniad, ac yna caiff ei drafod yng Nghyngor y Myfyrwyr ac, os yw’n pasio, daw’n bolisi UM. Bydd Swyddogion Sabothol UM yn gweithio gyda chi i roi eich Syniad ar waith. A dyna chi’n dylanwadu ar brofiad pawb o’ch cwmpas!

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:34


18

RYDYM YN

CARU BANGOR

MAE’R BARTNERIAETH CARU BANGOR YN BROSIECT TREFNU YN Y GYMUNED SY’N DOD Â PHOBL AT EI GILYDD DRWY BONTIO GRWPIAU CYMDEITHASOL, EHANGU SAFBWYNTIAU A RHOI LLAIS I BOBL, GAN GREU RHWYDWEITHIAU, ARWEINWYR A CHYDBERTHYNAS. Daw â phobl ynghyd dros fuddiannau cyffredin a’u galluogi i ennill y dydd drwy ddefnyddio’r grym sydd eisoes ganddynt. Mae Caru Bangor yn anelu i drawsnewid cymunedau a galluogi pobl i greu newid.

Ydych chi am gymryd rhan?

Cysylltwch: lovebangor@myfyrwyrbangor.com

TAI

GWASTRAFF

Rydym yn gweithio gyda chi a’r gymuned leol i wella safonau byw drwy fentrau fel Cymorth Cartref. Mae Cymorth Cartref yn fenter wirfoddoli sy’n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr ac yn cynghori myfyrwyr newydd am yr hyn y dylasent fod yn chwilio amdano mewn tŷ a pha gwestiynau i’w gofyn wrth chwilio am dŷ, ac yn raddol mae’n codi disgwyliadau a safonau.

Rydym yn credu bod myfyrwyr angen mwy o fynediad at y wybodaeth briodol am sut i ymdrin â gwastraff cartref ac ailgylchu ac rydym yn gweithio i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y wybodaeth gywir ac yn cadw Bangor yn daclus.

CERDYN GOSTYNGIADAU

PARCIO YN Y BRIFYSGOL Os ydych yn bwriadu dod â char gallwch brynu trwydded parcio, ond mae mannau parcio’n gyfyngedig ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried p’un ai eich bod angen car ym Mangor ai peidio. Cofiwch - gall Undeb y Myfyrwyr eich cludo i’n holl weithgareddau ni ac yn ôl.

DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 26-27

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda busnesau lleol i gynnig gostyngiadau i chi er mwyn arbed arian a chefnogi busnesau bychain lleol.

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

O


U

o mdrin n ny clus.

BANGOR

25

O GWMPAS Y LLE!

LLYSENWAU LLEFYDD YM MANGOR! BV

MALT

Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau

Tafarn y Belle Vue

Hogwarts

Y Dafarn Felen

Yr Hen Glan

Prif Adeilad y Celfyddydau

Tŵr Cemeg

Yr Allt Gas Allt Glanrafon

Adeilad Alun Roberts

Ffridd

Pentref Ffriddoedd

Academi

Academi yw clwb nos y Brifysgol ac mae ganddo hefyd gaffi, ystafell gemau cyfrifiadurol ac ystafell sinema

BUSNESAU CYMRAEG LLEOL Ble i fynd i gwrdd â ffrindiau

Y Glôb – Tafarn gyfeillgar, a man cwrdd sawl un o ddigwyddiadau UMCB.

Ble i fynd i brynu llyfrau Cymraeg

Mae yna ddigon o ddewis gyda Palas Print a Na Nog yng Nghaernarfon ac Awen Menai ym Mhorthaethwy; gallwch ffeindio ystod eang o lyfrau Cymraeg ym mhob un, yn ogystal â archebu y llyfrau fydd angen ar eich cwrs.

BLE I DDOD O HYD I NI? Yn ystod y semester cyntaf byddwch yn gallu dod o hyd i ni tu ôl i Far Uno (cymerwch olwg ar y map).

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

Yn Semester 2 byddwn yn symud i adeilad Pontio!

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:35


BANGOR

26

O GWMPAS Y LLE! Y CANOLFAN BRAILSFORD EICH CANOLFAN CHWARAEON SWYDDOGOL

BAR UNO

F

BAR AR Y CAMPWS

A EN

I

EICH UNDEB MYFYRWYR

FFO

HE

OL FI CT O

RI A

FFO RDD

PENTREF FRIDDOEDD

TREBORTH SAFLE’R NORMAL

D ED DO RID F F DD OR FF

CYSYLLTWCH Â NI:

01248 38 8000

GORSAF DRENAU

DEWCH I’N GWELD NI:

UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR BRYN HAUL HEOL FICTORIA BANGOR GWYNEDD LL57 2EN

FF

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM DARGANFYDDWCH NI AR ... handbook 2015 welsh.indd 28-29

WWW.MYFYRWYRBANGOR.COM

DD OR

E CA

R


G LE

LON CARIADON

EICH GWASANAETHAU MYFYRWYR

O Y C STR

DE IN IO L

NR AL LT IS AF

YD

PE

DD OR FF

ON

PRIF ADEILAD Y CELFYDDYDAU

DE

EN IW SIL D RD FFO

RATHBONE Y

NEUADD GARTH

D RY ST

T GL ALL

N FO RA AN

PONTIO UNDEB MYFYRWYR SEMESTER 2

FF

CA E

OR DD

DE IN IO L

RGY BI

RI A

YD

FA W R

FFO RDD

LF IC TO

27

R ST

CLWB ‘MAN DIOGEL’

ORSAF RENAU O FF

D RD

CA

ON RF NA R E

PENTREF Y SANTES FAIR

GOGLEDD

200M

TWITTER.COM/BANGORSTUDENTS

FACEBOOK.COM/BANGORSTUDENTSUNION 21/07/2015 00:03:36


Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor - Theatr hyblyg maint canolig - Theatr Stiwdio - Sinema - Bwyty, siop goffi a chiosg bwyd - Menter drwy Ddylunio: myfyrwyr yn gweithio gyda busnesau ar heriau masnachol

- Y gallu i brototeipio bron iawn unrhywbeth - Y Bocs Gwyn, FabLab, MediaLab, HackLab, CoLab - Gofodau dysgu rhyngweithiol - Darlithfeydd - Undeb y Myfyrwyr

Yn agor yn fuan

handbook 2015 welsh.indd 30

21/07/2015 00:03:36


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.