Prosbectws Israddedigion 2016-2018: Ysgol Addysg Prifysgol Bangor

Page 1

YSGOL ADDYSG

PROSBECTWS ISRADDEDIGION 2016-2018

ADDY SG

bangor.ac.uk/addysg


YSGOL ADDYSG

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG DU Ffôn: +44 (0)1248 383081 E-bost: addysg@bangor.ac.uk bangor.ac.uk/addysg

Dylunio: viewcreative.co.uk

CYSYLLTWCH Â NI


3 CROESO I BRIFYSGOL BANGOR

Yr Athro Enlli Thomas Pennaeth yr Ysgol

CROESO I BRIFYSGOL BANGOR

Mae’r rhain yn cynnwys: Addysg Blynyddoedd Cynnar, Astudiaethau Plentyndod, Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, Dylunio a Thechnoleg a Dylunio Cynnyrch. Byddant i gyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth helaeth o wahanol yrfaoedd yn cynnwys dysgu a gweithio mewn gwahanol leoliadau addysgol.

Ym Mangor rydym yn credu bod addysg yn fwy na dim Diolch am eich diddordeb i astudio gyda ni ond dysgu. Mae’r lleoliad yn yr Ysgol Addysg. Ni fu erioed amser gwell hyfryd, technoleg arloesol, adeiladau o ansawdd i fuddsoddi mewn addysg i gael gyrfa werth uchel a darlithwyr o’r radd chweil a dyfodol disglair. Mae’r prosbectws flaenaf yn rhoi Bangor hwn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am ein ar frig y dewisiadau. Rydym yn gwneud pob rhaglenni gradd rhagorol. ymdrech i ddod ag addysgu’n fyw. Rydym yn deall beth sydd ei angen ar ein myfyrwyr i lwyddo. Yn fwy na dim, rydym yn credu yn ein myfyrwyr. Mae ein staff ymroddedig yn rhoi profiad unigryw a byw i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes addysg. Mynd i’r brifysgol fydd y profiad gorau yn eich bywyd a dewis Bangor fydd y dewis gorau a wnewch yn eich bywyd. Mae Bangor yn cynnwys popeth fyddwch ei angen mewn prifysgol gefnogol a llewyrchus. Rwyf yn eich gwahodd i ymuno â’n cymuned dysgu a phob dymuniad da i chi ar eich taith.

YSGOL ADDYSG

bangor.ac.uk/addysg


Yn y

AM DDIM

ydd

y gost o ymuno 창'n cymdeithasau a'n clybiau chwaraeon

uchaf yn y DU am Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (NSS 2015)

Yn y

Cyfradd boddhad myfyrwyr o

10

yn y DU am lety (Whatuni Student Choice Awards 2015)

uchaf yn y DU am Astudiaethau Dylunio (NSS 2015)

Rhif

yn y DU am glybiau a chymdeithasau (Whatuni Student Choice Awards 2015)

(NSS 2015)

14

eg

yn y DU am y profiad a gaiff myfyrwyr (THE Student Experience Survey 2015)

mae myfyrwyr o dros

ARWEINWYR o wahanol wledydd yn dod i Brifysgol Bangor

ym maes ymchwil dwyieithrwydd ac addysg dwyieithog


5

CYNNWYS

6 Lleoliad 7 Yr Ysgol Addysg 8 Sut fydda i’n cael fy nysgu? 9 Sut i wneud Cais 10 Addysg Gynradd 14 Astudiaethau Plentyndod 16 Plentyndod Cynnar ac Astudiaethau Cefnogi Dysgu 18 Dylunio Cynnyrch 20 Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd 22 Gofynion Derbyn 24 Gyrfaoedd 26 Dyddiau Agored 27 Astudio neu Weithio Dramor

bangor.ac.uk/addysg


6 LLEOLIAD

LLEOLIAD Mae lleoliad Prifysgol Bangor yn cael ei gydnabod mewn sawl arolwg myfyrwyr fel un o’r “lleoedd gorau ym Mhrydain” (The Independent’s A-Z of Universities and Higher Education Colleges).

Mae gwibffordd yr A55 ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn golygu mynediad cyflym a rhwydd o brif rwydwaith traffyrdd y DU sy’n gwneud hi’n hawdd i gyrraedd llawer o’r brif dinasoedd.

bangor.ac.uk/addysg

PELLTER 0… Manceinion

2 awr

Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion

1.5 awr

Llundain

3.5 awr

Lerpwl

1.5 awr

Caer

1 awr

Dulyn

3 awr


7 YR YSGOL ADDYSG

YR YSGOL ADDYSG

Mae’r Ysgol Addysg yn cynnig addysg o’r radd flaenaf yn un o’r lleoliadau prydferthaf ym Mhrydain ac mae wedi sefydlu enw da ym maes hyfforddiant cychwynnol athrawon yn addysgu myfyrwyr i gyflawni anghenion ysgolion.

EIN RHAGLENNI:

CÔD UCAS

• BA Addysg Gynradd yn Arwain at Statws Athro Cymwys • BA Astudiaethau Plentyndod • FdA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chynnal Dysgu • BSc Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd • BSc Dylunio Cynnyrch

X120 X306 X312 X1WF W240

Cyrsiau Gradd BA Cyd-Anrhydedd (3 blynedd) a gynigir ar y cyd ag Ysgolion eraill: • Astudiaethau Plentyndod/Seicoleg • Astudiaethau Plentyndod/Polisi Cymdeithasol • Astudiaethau Plentyndod/Cymdeithaseg

CXV3 LXL3 LXH3

Mae ein cyrsiau i GYD ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r modiwlau a gynigir yn gallu newid yn flynyddol.

YSGOL ADDYSG

bangor.ac.uk/addysg


8 SUT BYDD BYDDAF YN DDYSGU?

Asesir y rhan fwyaf o’r modiwlau trwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. 40% yw’r marc llwyddo ar gyfer yr holl asesiadau.

ASESU

AR DDIWEDD BLWYDDYN 1 rhaid i fyfyrwyr ennill marciau o 40% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 80 o gredydau (heb unrhyw farc islaw 30% yn yr un modiwl) er mwyn symud ymlaen i Flwyddyn 2. Os na lwyddwch i gyrraedd y gofyn cyffredinol hwn i lwyddo, mae modd, fel rheol, ichi gymryd asesiadau ychwanegol ym mis Awst er mwyn ichi gyrraedd y safon sy’n ofynnol. Fodd bynnag, ceir isafswm trothwy, na chaniateir asesiad ychwanegol os nad yw wedi’i gyrraedd.

AR DDIWEDD BLWYDDYN 2 mae cyfres gyffelyb o reolau’n pennu p’un a fyddwch yn symud ymlaen i Flwyddyn 3. AR DDIWEDD BLWYDDYN 3 mae dosbarth terfynol eich gradd yn dibynnu ar eich marc cyffredinol, sef cyfartaledd pwysoledig o’ch marc cyfartalog ym Ml.2 (pwysoliad o draean) a’ch marc cyfartalog ym Ml.3 (pwysoliad o ddwy ran o dair).

SUT Y PENNIR DOSBARTH TERFYNOL FY NGRADD? Pennir dosbarth terfynol eich gradd yn ôl eich marc cyffredinol, fel a ganlyn: % EICH MARC CYFFREDINOL

DOSBARTH TERFYNOL EICH GRADD

70+ 60 - 69 50 - 59 40 - 49 35 - 39

Anrhydedd Dosbarth Cyntaf neu 1af Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch neu 2:1 Anrhydedd Ail Ddosbarth Is neu 2:2 Anrhydedd Trydydd Ddosbarth neu 3ydd Gradd gyffredin neu Radd lwyddo

bangor.ac.uk/addysg


9 HOWTO APPLY

SUT I WNEUD CAIS Rhaid i bob ymgeisydd o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd ddefnyddio ffurflen gais UCAS: ucas.co.uk

bangor.ac.uk/addysg


BA ADDYSG GYNRADD

BRIG

AR Y

10

yng Nghymru am Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon

NSS 2015

Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. bangor.ac.uk/addysg


11

BA ADDYSG GYNRADD

Bydd y radd 3 blynedd hon mewn Addysg Gynradd yn eich cymhwyso i ddysgu mewn ysgol gynradd. Amcan y radd yw sicrhau eich bod yn datblygu i fod yn athro/ athrawes hyderus a chymwys, gyda’r gallu i gyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus ac ymateb i anghenion dysgu disgyblion mewn ysgol gynradd. Bwriedir i’r radd ymateb i feini prawf y llywodraeth am hyfforddiant cychwynnol athrawon. Byddwch yn cael sylfaen eang yn y cwricwlwm cynradd cyflawn, gan ddewis arbenigo yn y Cyfnod Sylfaen (3-7), neu Gyfnod Allweddol 2 (7-11) ym mlwyddyn 3. Byddwch yn astudio pob agwedd ar y Cwricwlwm Cynradd.

90%

Mae

o’n myfyrwyr Addysg Gynradd mewn swydd broffesiynol o fewn 6 mis ar ôl iddynt raddio.

UNISTATS UK

bangor.ac.uk/addysg


12 ADDYSG GYNRADD

MODIWLAU BLWYDDYN 1:

• Astudiaethau Proffesiynol (30 credyd) • Profiad Ysgol (8 wythnos) (30 credyd)

LLYTHRENNEDD A RHIFEDD 1: (30 credyd) • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu • Datblygiad Mathemategol

BYD Y PLENTYN 1:

(30 credyd) • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol • Datblygiad Corfforol • Datblygiad Creadigol • Addysg Grefyddol • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd MODIWLAU BLWYDDYN 2:

• Astudiaethau Proffesiynol (30 credyd) • Profiad Ysgol (8 wythnos) (30 credyd)

ASTUDIAETHAU PWNC CRAIDD: (30 credyd) • Saesneg • Mathemateg • Gwyddoniaeth • Cymraeg

ASTUDIAETHAU PWNC ALL-GRAIDD: (30 credyd) • Celf • Dylunio a Thechnoleg • Daearyddiaeth • Hanes • Cerddoriaeth • Addysg Gorfforol • Addysg Grefyddol

bangor.ac.uk/addysg

MODIWLAU BLWYDDYN 3:

NAILL AI

NAILL AI CYNRADD IS (3-7)

• Astudiaethau Proffesiynol (30 credyd) • Profiad Ysgol (8 wythnos) (30 credyd)

LLYTHRENNEDD A RHIFEDD 2: (30 credyd) • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu • Datblygiad Mathemategol

BYD Y PLENTYN 2:

(30 credyd) • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol • Datblygiad Corfforol • Datblygiad Creadigol • Addysg Grefyddol • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

NEU

CYNRADD UWCH (7-11)

• Astudiaethau Proffesiynol (30 credyd) • Profiad Ysgol (8 wythnos) (30 credyd)

ASTUDIAETHAU PWNC CRAIDD: (30 credyd) • Saesneg • Mathemateg • Gwyddoniaeth • Cymraeg

ASTUDIAETHAU PWNC ALL-GRAIDD: (30 credyd) • Celf • Dylunio a Thechnoleg • Daearyddiaeth • Hanes • Cerddoriaeth • Addysg Gorfforol • Addysg Grefyddol


13 ADDYSG GYNRADD

PROFIAD YSGOL

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon profiadol ac yn cael cefnogaeth ganddynt i ddatblygu fel athro dosbarth/athrawes ddosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol a byddwch yn dysgu sut i gynllunio cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd. Ceir wyth wythnos o brofiad ysgol ym mhob blwyddyn.

SUT Y BYDDAF YN DYSGU?

Byddwch yn treulio 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd neu seminarau. Hefyd byddwch angen darllen, paratoi at seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau dysgu. Caiff yr elfennau a gyflawnir yn y Brifysgol eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiadau. Bydd eich ymarfer dysgu mewn ysgolion yn cael ei fonitro gan fentoriaid ysgol a thiwtoriaid cyswllt.

“Erbyn i mi raddio, roedd gennyf swydd barhaol yn Ysgol y Graig, Llangefni lle rwyf yn dysgu plant blynyddoedd 3 a 4.”

Gethin Phillips Gradd mewn Addysg Gynradd bangor.ac.uk/addysg


14 ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD

Mae’r rhaglen BA (Anrhydedd) Astudiaethau Plentyndod yn radd amlddisgyblaethol gyffroes i rai sydd â gwir ddiddordeb mewn gweithio â phlant a phobl ifanc mewn nifer o wahanol gyd-destunau a lleoliadau.

BA ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD

Mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema plentyndod: • Y Plentyn a’i (d)datblygiad; • Y Plentyn a chymdeithas; • Y Plentyn ac ysgol.

Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau allanol, gartref a thramor, a fydd yn cyfoethogi ac yn atgyfnerthu’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae’r rhaglen yn gwrs tair blynedd llawn amser, a gynigir naill ai fel gradd anrhydedd sengl mewn Astudiaethau Plentyndod neu fel gradd anrhydedd ar y cyd gyda: CÔD UCAS

• Seicoleg CXV3 • Polisi Cymdeithasol LXL3 • Cymdeithaseg LXH3

bangor.ac.uk/addysg


15 ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD

MODIWLAU BLWYDDYN 1:

Amcan blwyddyn gyntaf y radd mewn Astudiaethau Plentyndod yw rhoi cyflwyniad eang i’r myfyrwyr am dair prif ddisgyblaeth y cwrs, sef seicoleg, cymdeithaseg ac addysg yng nghyddestun plant a phobl ifanc. Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau gorfodol a fydd yn rhoi sylfaen gadarn mewn agweddau sy’n gysylltiedig â phlentyndod: • Byd y Plentyn • Seicoleg Plant • Y Ffordd mae Plant yn Chwarae • Plant, Moeseg a Diwylliant • Iechyd, Ffitrwydd a Lles Plant • Sgiliau ar gyfer Dysgu

MODIWLAU BLWYDDYN 2:

Ym mlynyddoedd 2 a 3 mae’r amrywiaeth o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi sylfaen drylwyr mewn safbwyntiau damcaniaethol allweddol, methodoleg ymchwil, a’r prif themâu wrth ddehongli profiadau cyfoes plentyndod: • Datblygiad Plant • Ymchwilio i Blentyndod • Cynhwysiad ac Anghenion Dysgu • Y Plentyn Byd-eang • Datblygu Ymarfer Effeithiol • Plant, Llythrennedd a Llenyddiaeth • Plant yn Cyfrif • Y Plentyn yn yr Awyr Agored

95%

Mae

MODIWLAU BLWYDDYN 3:

Byddwch yn cwblhau eich gradd gydag astudiaeth fanylach o feysydd allweddol, yn dewis modiwlau dewisol a chwblhau eich traethawd hir. • Tegwch mewn Plentyndod • Diogelu Plant • Plant, Ieithoedd a Dwyieithrwydd • Athroniaeth Plentyndod • Camddefnyddio Sylweddau mewn teuluoedd • Plant gydag Anawsterau Cyfathrebu • Traethawd hir

o’n myfyrwyr Astudiaethau Plentyndod mewn swydd broffesiynol neu yn astudio o fewn 6 mis ar ôl iddynt raddio.

UNISTATS UK bangor.ac.uk/addysg


16 ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR A CEFNOGI DYSGU

FdA ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR A CEFNOGI DYSGU* Mae agweddau at Blentyndod Cynnar a’r math o gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr yn datblygu’n barhaus. Mae ystyriaethau sy’n gysylltiedig â phlentyndod a datblygiad a dysgu plant yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd.

BLWYDDYN 1

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau a fydd yn rhoi sylfaen i chi mewn gwahanol agweddau ar y maes astudio. Mae’r holl fodiwlau’n orfodol. (MAE’R MODIWLAU GWERTH 20 CREDYD ONI BAI Y NODIR YN WAHANOL)

• Dysgu sut i Ddysgu • Meithrin Ymddygiad Derbyniol • Datblygiad Plant Ifanc • Lleoliad Gwaith • Yr Amgylchedd Dysgu • Chwarae Plant

BLWYDDYN 2

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn ehangu eich maes astudio. (MAE’R MODIWLAU GWERTH 20 CREDYD ONI BAI Y NODIR YN WAHANOL).

MODIWLAU GORFODOL:

• Sgaffaldio Dysgu (10 credyd) • Lleoliad Gwaith • Hawliau Plant • Y Plentyn Iach (10 credyd) • Rheoli Meithrinfa • Cefnogi Anghenion Dysgu


17 ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR A CEFNOGI DYSGU

MODIWLAU DEWISOL:

• Partneriaethau ac Asiantaethau NEU • Ymchwilio i Blentyndod *CYNIGIR Y CWRS YN OGYSTAL FEL CWRS RHAN-AMSER DROS 4 BLYNEDD. MAE’N ADDAS AR GYFER Y RHEINY SYDD EISOES YN GWEITHIO MEWN MEYSYDD SY’N BERTHNASOL I’R RADD, MEGIS MEIT HRINFEYDD NEU OFAL PLANT, RHEOLAETH GOFAL PLANT, NEU GANOLFANNAU PARTNERIAETH, AC I GYNORTHWYWYR DYSGU MEWN YSGOLION CYNRADD. MAE’N BOSIBL ASTUDIO A PHARHAU I WEITHIO.


18 DYLUNIO CYNNYRCH

BSc DYLUNIO CYNNYRCH Mae’r cwrs tair blynedd BSc mewn Dylunio Cynnyrch yn gwrs gradd broffesiynol gyda strwythur tynn. Mae’r cwrs wedi ei anelu at fyfyrwyr sydd a’u bryd ar weithio ym maes diwydiant. Mae myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o’r holl broses gweithgynhyrchu ac yn arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch. Mae profiad yn y gweithle yn elfen ganolog o’r cwrs a rhoddir sylw i ddatblygu ac asesu safonau proffesiynol yn unol â’r deilliannau dysgu.

95% am foddhad myfyrwyr.

UNISTATS UK

bangor.ac.uk/addysg


19 DYLUNIO CYNNYRCH

MODIWLAU

YMARFER PROFFESIYNOL

• Sefydliadau a Rheolaeth Egwyddorion Dylunio • Rheoli Cynhyrchu Rheoli Amser • Sgiliau Cyflwyno Arloesi • Sgiliau Cyflwyno Marchnata

ASTUDIAETH BWNC

• Defnyddio Egwyddorion Dylunio • Creadigrwydd • Cyfleu dyluniadau a modelau • Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CGC) • Cynhyrchu trwy Gyfrifiadur (CAM) • Sgiliau Cynhyrchu • Deunyddiau • Prototeipio • Datblygiad Cynaliadwy • Arferion gwaith diogel

PROFIAD GWAITH

• Bloc 8 wythnos yn ystod pob blwyddyn • Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol • Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o’r coleg • Gweithgynhyrchu • Marchnata • Sefydliad Bydd project gradd yn y flwyddyn olaf yn dod â’r holl elfennau uchod ynghyd.

SUT FYDDA I’N DYSGU?

• O leiaf 19 awr o amser cyswllt yr wythnos mewn darlithoedd/seminarau • Darllen, paratoi ar gyfer seminarau, cwblhau gwaith cwrs • Asesu elfennau astudiaethau proffesiynol trwy waith cwrs ac arholiadau • Asesiad parhaus o fodiwlau astudiaeth bwnc (ni fydd arholiad ysgrifenedig ffurfiol) • Profiad gwaith yn cael ei fonitro gan diwtoriaid • Tiwtorialau personol rheolaidd

“Mae’r cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mangor wedi rhoi’r gallu a’r hyder i mi wireddu breuddwydion a meddwl heb orwelion a’u troi i fod yn drosiant ac elw.” Matt Kennedy BSc Dylunio Cynnyrch/Lleoliad gwaith yn Rethinkthings Ltd, Unilever ac I.S.C. (International Safety Components). Erbyn hyn mae’n gweithio fel uwch-ddylunydd Tîm Dylunio Diwydiannol yn adran cynllunio pecynnu Unilever.

bangor.ac.uk/addysg


20 DYLUNIO A THECHNOLEG ADDYSG UWCHRADD

Bydd y radd hon yn eich cymhwyso i ddysgu Dylunio a Thechnoleg mewn ysgolion uwchradd ac mewn lleoliadau addysgol ôl-16. Mae’r cwrs wedi’i lunio i roi sylfaen eang i chi o ran addysgu’r pwnc ac fe’i datblygwyd mewn ymateb i feini prawf diwygiedig y llywodraeth am hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae profiad am un wythnos mewn ysgol gynradd wedi’i gynnwys yn y cwrs.

BSc DYLUNIO A THECHNOLEG ADDYSG UWCHRADD

Mae tair elfen i’r cwrs gradd Dylunio a Thechnoleg (Addysg Uwchradd): • Astudio Pwnc • Astudiaethau Proffesiynol • Profiad Ysgol

90%

mewn swydd broffesiynol o fewn 6 mis ar ôl iddynt raddio.

UNISTATS UK bangor.ac.uk/addysg


21 DYLUNIO A THECHNOLEG ADDYSG UWCHRADD

PROFIAD YSGOL

Byddwch yn treulio 24 wythnos mewn ysgolion yn ystod y tair blynedd, gyda chefnogaeth athrawon profiadol a thiwtoriaid o’r Brifysgol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau addysgu a mabwysiadu amrywiaeth o strategaethau sy’n diwallu anghenion gwahanol sefyllfaoedd dysgu.

ASTUDIO PWNC

Mewn modiwlau dylunio a thechnoleg byddwch yn dysgu defnyddio a datblygu eich sgiliau mewn amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau cynhyrchu drwy: • Dylunio Cyfathrebu • Dylunio a Gweithgynhyrchu (lefel 1) • Mecanweithiau a Electroneg • Dylunio Tecstilau a Gemwaith • Dylunio a Gweithgynhyrchu (lefel 3)

ASTUDIAETHAU PROFFESIYNOL Bydd y modiwl hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weinyddu cwrs, cynllunio dysgu i gyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, a chyflawni’r gofynion proffesiynol sy’n ddisgwyliedig yn y proffesiwn. Byddwch hefyd yn treulio wythnos ar leoliad mewn ysgol gynradd.

Byddwch yn dod yn gyfarwydd â chynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol a byddwch yn dysgu sut i gynllunio cynlluniau gwaith priodol ac ystyried gofynion asesu ac adrodd.

SUT FYDDA I’N DYSGU?

Byddwch yn treulio 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd neu seminarau. Hefyd byddwch angen darllen, paratoi at seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau dysgu. Caiff yr elfennau a gyflawnir yn y Brifysgol eu hasesu drwy waith cwrs (yn cynnwys datblygu eich portffolio dylunio a gwaith project ymarferol) ac arholiadau. Bydd eich ymarfer dysgu mewn ysgolion yn cael ei fonitro gan diwtoriaid.

Glynwen Davies Athro Dylunio a Thechnoleg

“Mae’r gefnogaeth a gefais i gan staff, o ran y rhan addysg a’r paratoi at y diwydiant dylunio, wedi bod yn rhagorol. Mae astudio israddedig ym Mangor yn rhagorol o ran cyfleoedd academaidd ac ansawdd bywyd - allwn i ddim bod wedi gwneud dewis gwell.” bangor.ac.uk/addysg


22 GOFYNION MYNEDIAD

GOFYNION MYNEDIAD BA ADDYSG GYNRADD • TGAU Gradd B mewn Mathemateg • TGAU Gradd B Mewn Iaith Saesneg (Gradd C neu uwch yn yr Iaith Gymraeg ar gyfer y rhai sy’n dymuno dilyn y cwrs drwy gyfrwng y Cymraeg). • TGAU Gradd C mewn Gwyddoniaeth • O leiaf 240 pwynt ar lefel TAG/TAA gydag o leiaf dair gradd C Safon Uwch mewn pynciau cwricwlaidd o ddewis. • Diploma Cenedlaethol BTEC gydag o leiaf 3 credyd teilyngdod mewn unedau perthnasol. • Cymhwyster mynediad - isafswm o 60 credyd gydag o leiaf 45 credyd ar Lefel 3. Os nad yw’r ymgeiswyr yn meddu ar y cymwysterau TGAU angenrheidiol bydd raid iddynt ennill cymwysterau cyfwerth wrth ddilyn y cwrs mynediad. • Scottish/Irish Highers gyda 240+ pwynt. • Rydym yn ystyried myfyrwyr hˆyn sydd â chymwysterau neu brofiad perthnasol.

bangor.ac.uk/addysg

BA ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD • 240 pwynt ar Safon Uwch TAU neu gyfwerth, yn ogystal â TGAU gradd C mewn Iaith Saesneg • Diploma Cenedlaethol BTEC (newid) gyda chredydau Rhagoriaeth a Theilyngdod mewn pynciau perthnasol • Cwrs mynediad cydnabyddedig gyda 60 o gredydau; 45 ar lefel 3, yn cynnwys pynciau perthnasol • Tystysgrif Ymadael Iwerddon gyda 270-300 o bwyntiau, yn cynnwys pynciau perthnasol • Tystysgrif Ymadael yr Alban gyda 5 llwyddiant graddfa C, yn cynnwys pynciau perthnasol • Rydym yn ystyried myfyrwyr hˆyn sydd â chymwysterau neu brofiad perthnasol yn ôl eu teilyngdod unigol.


23 GOFYNION MYNEDIAD

FdA PLENTYNDOD CYNNAR AC ASTUDIAETHAU CEFNOGI DYSGU • TGAU gradd C neu uwch yn Iaith Gymraeg i’r rhai sy’n bwriadu dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, neu TGAU gradd C neu uwch yn Iaith Saesneg i’r rhai sy’n bwriadu dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg. • Gradd C neu uwch mewn un pwnc Safon Uwch neu gyfwerth, neu gymhwyster lefel 3 mewn pwnc gofal plant. • Profiad eang o leoliad gwaith, gwaith gwirfoddol neu waith gyda chyflog gyda phlant o dan 7 oed. Mae myfyrwyr yr ail flwyddyn sy’n gwneud gradd sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu ym Mhrifysgol Bangor yn gymwys i wneud cais i ychwanegu at eu gradd i gael gradd anrhydedd lawn yn ystod y drydedd flwyddyn o’r rhaglen BA Astudiaethau Plentyndod.

BSc DYLUNIO CYNNYRCH • 200-240 pwynt yn cynnwys A2/TAA mewn pwnc perthnasol, yn ogystal â graddau B neu uwch TGAU mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg. • Diploma Cenedlaethol BTEC gyda chredydau Rhagoriaeth a Theilyngdod mewn pynciau perthnasol. • Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hˆyn sydd â phrofiad/ cymwysterau perthnasol yn ôl eu teilyngdod unigol. • Fel rhan o’r broses cyfweliad proffesiynol bydd disgwyl i chi sefyll prawf llythrennedd a rhifedd.

BSc DYLUNIO A THECHNOLEG ADDYSG UWCHRADD • 200-240 pwynt yn cynnwys A2/TAA mewn pwnc perthnasol, yn ogystal â graddau B neu uwch TGAU mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg. • Diploma Cenedlaethol BTEC gyda chredydau Rhagoriaeth a Theilyngdod mewn pynciau perthnasol. • Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hˆyn sydd â phrofiad/ cymwysterau perthnasol yn ôl eu teilyngdod unigol. • Fel rhan o’r broses cyfweliad proffesiynol bydd disgwyl i chi sefyll prawf llythrennedd a rhifedd. Rhaid i athrawon dan hyfforddiant/ myfyrwyr wneud cais am Ddatgeliad Manylach (Enhanced Disclosure) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a rhaid i’r Ysgol weld bod hwnnw’n foddhaol cyn dechrau profiad ysgol/ lleoliadau gwaith. Sylwer: O ystyried tariff newydd UCAS (sy’n dod

i rym ym Medi 2017), mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn adolygu ei pholisi ar gynnig lleoedd. Mae’n debygol y bydd cynigion a wneir at fis Medi 2017 a thu hwnt wedi eu seilio ar gymwysterau a graddfeydd penodol. Fodd bynnag, cyhoeddir manylion pellach ar wefan Prifysgol Bangor. Bydd unrhyw gynigion a wneir yn ystod cylch ceisiadau 2016 ar gyfer mynediad wedi’i ohirio yn parhau i gael eu gwneud ar sail tariff presennol UCAS.


24 GYRFAOEDD

GYRFAOEDD

Wrth edrych ar yrfaoedd ein graddedigion diweddar, gwelir bod 85% mewn gwaith cyflogedig neu’n dilyn astudiaeth bellach. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yn y sectorau cynradd, uwchradd, trydyddol neu addysg uwch. Mae’r cwrs Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu yn baratoad delfrydol i fynd ymlaen i SAC Cynradd, HLTA Cynradd, yn arbenigo yn y Cyfnod Sylfaen a gyrfaoedd goruchwylio neu reoli mewn meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant. Mae llawer o’n myfyrwyr Astudiaethau Plentyndod yn gwneud cais i’n cwrs Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg (TAR). Mae rhai yn penderfynu aros ymlaen i astudio meistr neu PhD i arbenigo mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt.

85% bangor.ac.uk/addysg

mewn gwaith cyflogedig neu’n dilyn astudiaeth bellach.

Arolwg diweddaraf Cyrchfannau Myfyrwyr sydd wedi gadael Addysg Uwch (DLHE)


25 GYRFAOEDD

Gall ein graddedigion edrych ymlaen at gael cyfleoedd mewn amryw o lwybrau gyrfaol. Gall y cyfleoedd gyrfaol diddorol hyn gynnwys: • Dysgu • Gwaith Ieuenctid a Chymunedol • Gofal Plant • Cyhoeddi, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau • Gwaith Cymdeithasol • Addysg Amgueddfeydd ac Orielau • Llyfrgelloedd • Gwasanaethau Cyhoeddus • Adnoddau Dynol • Dylunio Cynnyrch • Ymgynghorwyr Dylunio • Rheoli Cynnyrch • Gwerthu a Marchnata • Dysgu Dylunio a Thechnoleg

CANOLFAN GYRFAOEDD A CHYFLEOEDD Yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol sydd ohoni’r dyddiau hyn, mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar y gweithgareddau academaidd, hamdden a chysylltiedig â gwaith sydd ar gael i chi fel myfyriwr. Os ydych yn gwybod pa lwybr gyrfa yr ydych am ei ddilyn ai peidio, mae’r Ganolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd yn cefnogi myfyrwyr a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar i wneud dewisiadau priodol am eu dyfodol, drwy ddarparu gwybodaeth, gweithdai, cyngor ac arweiniad unigol o safon uchel, yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith, fel canolfan waith i fyfyrwyr, lleoliadau gwaith a chysgodi rhywun yn y gwaith. Ffôn: +44 (0)1248 382071 E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk bangor.ac.uk/gyrfaoedd

“Rwyf wrth fy modd yn addysgu, gan fy mod i yn blentyn mawr mewn gwirionedd. Nid wyf yn ystyried addysgu fel gwaith, ond yn hwyl. Dwi wastad yn edrych ymlaen at fynd i mewn i’r gwaith gan fy mod yn gwybod pan fyddai’n mynd adref bydd gennai straeon gwych i’w hadrodd.”

Llew Davies

Alumni Bangor a Pennaeth yn Ysgol Cae Top


26 DYDDIAU AGORED

DYDDIAU AGORED Dewch i wybod mwy am brofiad bod yn fyfyriwr ym Mangor drwy ddod i un o’n Dyddiau Agored.

YN YSTOD Y DIWRNOD AGORED FE GEWCH:

• Ddod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld â’r Ysgol Addysg ac ysgolion academaidd eraill • Gweld y llety sydd ar gael • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. Cynhelir Dyddiau Agored y brifysgol yn yr haf a’r hydref bob blwyddyn. I archebu lle a chael gwybod mwy ewch i: www.bangor.ac.uk/diwrnodagored Os na ellwch ddod ar un o’r dyddiau hyn, cysylltwch â’r Ysgol 01248 382408 neu e-bostio: addysg@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais drwy UCAS fe’ch gwahoddir i’n diwrnod i ymgeiswyr UCAS a drefnir gan yr Ysgol Addysg yn ystod y gwanwyn. Yn y diwrnod agored hwn yn yr ysgol gall aelodau staff drafod manylion y cwrs ar lefel fwy personol â darpar fyfyrwyr. Cewch gyfle hefyd i ymweld â’r neuaddau preswyl a’r ardal gyfagos. Am ddyddiadau a gwybodaeth bellach, ewch i: www.bangor.ac.uk/diwrnodagored

bangor.ac.uk/addysg


27 ASTUDIO NEU WEITHIO DRAMOR

ASTUDIO NEU WEITHIO DRAMOR Mae astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd yn gyfle rhy dda i’w golli. Trwy dreulio amser mewn gwlad arall fe gewch brofi diwylliannau newydd, gwneud ffrindiau newydd, cael golwg fyd-eang ar eich pwnc a dysgu iaith newydd. Yn fwy na dim, byddwch yn cryfhau eich siawns o gael swydd dda drwy ddatblygu sgiliau newydd a dod yn fwy blaengar, hyderus ac annibynnol. Nid oes raid i chi fod yn astudio iaith i fynd ar un o’r cynlluniau hyn, ac mae Prifysgol Bangor yn cynnig tri dewis, sy’n amrywio o raglenni haf i dreulio blwyddyn gyfan dramor.

Blwyddyn Profiad Rhyngwladol

Hon yw ein rhaglen fwyaf poblogaidd, sy’n galluogi myfyrwyr i ychwanegu blwyddyn at eu cwrs gradd a threulio’r flwyddyn ychwanegol yn astudio neu weithio dramor. Ni fydd Prifysgol Bangor yn codi unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol arnoch ac ni ofynnir i chi dalu ffioedd dysgu dramor chwaith. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol yn llwyddiannus yn cael y cymal ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ wedi’i ychwanegu at deitl eu gradd.

Rhaglen Amgen

Os nad ydych eisiau ychwanegu blwyddyn at eich gradd, mae’n bosib y gallech fynd dramor ar ein rhaglen ‘amgen’. Bydd y cyfnewid yn digwydd yn ystod eich ail flwyddyn, a gellwch ddewis treulio’r holl ail flwyddyn dramor neu ddim ond un semester. Opsiwn astudio’n unig yw hwn a bydd y credydau y byddwch yn eu hennill dramor yn cael eu trosglwyddo i’ch cwrs gradd ym Mangor.

Rhaglenni Haf

Os hoffech dreulio cyfnod byr yn unig dramor, gellwch wneud cais i gymryd rhan yn un o’n rhaglenni haf rhyngwladol. Rhaglenni diwylliannol yw’r rhain a gynhelir yn ein prifysgolion partner yn Ne Corea a Tsiena ac sy’n para rhwng pythefnos a chwe wythnos. Am wybodaeth bellach am ein hopsiynau astudio a gweithio dramor, ewch i www.bangor.ac.uk/international/ exchanges/outgoing

bangor.ac.uk/addysg


CYSYLLTWCH Â NI YSGOL ADDYSG

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG DU Ffôn: +44 (0)1248 383081 E-bost: addysg@bangor.ac.uk bangor.ac.uk/addysg


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.