Tymor Agoriadol Gaeaf 2015 – Gwanwyn 2016 1
5 4 3
2 1
0
Darganfod Pontio Ar Lefel 0 mae’r prif gyntedd, sy’n agor i Ffordd Deiniol. Yma ceir y Dderbynfa, y Swyddfa Docynnau a bar Ffynnon y theatr yn ogystal â’r drysau i Seddi Llawr Theatr Bryn Terfel a’r Sinema. Ar Lefel 1 y ceir y prif ddrysau i’r Sinema ac i Falconi 1 Theatr Bryn Terfel. Ar Lefel 2 gallwch fwynhau olygfeydd o’r Gadeirlan o fwyty Gorad, – man delfrydol i gwrdd â’ch ffrindiau â’ch teulu i gael byrbryd amser cinio neu bryd o fwyd gyda’r nos. Gallwch fynd i Falconi 2 Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, Bocs Gwyn a Darlithfa Lefel 2 o’r fan hyn. Mae drysau gwydr yn arwain i’r man perfformio awyr agored a’r darn celf cyhoeddus, y Caban. Rhif elusen cofrestredig: 1141565
Ar Lefel 3 mae Arloesi Pontio a chaffi Cegin. Ar Lefel 4 ceir cyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd a swyddfeydd – dyma gartref newydd Undeb Myfyrwyr Bangor. Ar Lefel 5 mae darlithfa fawr, dau le dysgu cymdeithasol, a stondin Copa yn gwerthu diodydd a byrbrydau. Ewch allan ar y balconi lle mae golygfeydd godidog ar draws y ddinas. Gallwch gerdded allan i Allt Penrallt, dim ond tafliad carreg o Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor.
2
Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig
Croeso i dymor agoriadol Pontio Mae’n amser o’r diwedd i edrych ymlaen… at raglen fydd, gobeithio, yn cynnig rhywbeth i bawb, o sioeau i blant a’u teuluoedd i gyngherddau cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd, cynyrchiadau syrcas gyfoes ddyfeisgar, comedi, opera siambr, drama a rhaglen ffilmiau reolaidd yn ein sinema newydd. Bydd addasiad llwyfan o nofel enwog T Rowland Hughes, Chwalfa, gan Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel ym mis Chwefror. Bydd preswyliad theatr gan National Theatre Wales ym mis Ebrill a gosodiad difyr ‘Gwaddol’, yn cofio cyfraniad Theatr Gwynedd i ddiwylliant a’r celfyddydau yn lleol yn ogystal â thirlun celfyddydol Cymru. Bydd prosiect celfyddydau perfformio Pontio, BLAS, yn ymgartrefu yn y Stiwdio, bydd Cwtsh Cynganeddu yn dod o hyd i gornel gyfforddus, a bydd ein artist preswyl cyntaf, Bedwyr Williams, yn rhannu ei waith diweddaraf gyda ni. Dwi’n edrych ‘mlaen at weld plant bach a’u rhieni, pobl ifanc, myfyrwyr a phobl hŷn yn dod trwy ddrysau’r Ganolfan hynod hon am y tro cyntaf. Dewch i ddarganfod rhywbeth newydd rownd bob cornel, ymgolli mewn gweithgareddau, a rhyfeddu at harddwch adeilad nad oes ei debyg, yma yng nghalon Bangor. Mae’n gyffrous….ac er bydd llawer i’w ddarganfod a mwy fyth i’w ddysgu yn y cyfnod dechreuol hwn… o’r diwedd, gallwn ddweud yn hyderus fod Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor yma... i aros. 1
Cipolwg Sydyn Tachwedd Sad 28
Diwrnod Croeso: Disgleirio/Shine
4
Ffilm: Steve Jobs Ffigaro a Ffrindiau: Dathliad Opera Dathlu Preswyliad Bedwyr Williams Côr y Penrhyn a Chôr Meibion Llanelli Y Bancsi Bach Cyngerdd Nadolig Melltith y Brenin Lludd Only Men Aloud Gig Sŵnami/Yws Gwynedd/Yr Eira
6 9 11 13 15 16 17 18 19
How to Win Against History Ruby Wax: Sane New World Lost in Thought - A Mindfulness Opera 4x4 Ephemeral Architectures Agoriad Gosodiad Gwaddol Theatr Gwynedd Huw Stephens yn cyflwyno... Dod â Siwan yn Fyw Drwg!
21 22 24 25 26 27 28 28
Comedy Central Live Tipping Point Chwalfa Chwalfa: Cyrraedd at y gwir Cyngerdd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
29 30 34 35 36
Rhagfyr Maw 1 Merch 2 Gwen 4 Sad 5 Merch 9-Gwe 11 Sad 12 Merch 16- Gwe 18 Fri 18 Sad 19
Ionawr Gwe 8 Iau 14 Gwe 15 - Sad 16 Maw 19 Sad 23 Sad 23 Merch 27 Sad 30
Chwefror Maw 2 Iau 4 a Gwe 5 Merch 17- Sad 27 Sad 27 Sad 27
2
Mawrth Gwe 4 Sad 5 Maw 8 Sad 12 - Sul 13 Iau 17 Gwe 18 Gwe 18 Sad 19 Sul 20 Maw 22
L’Elisir D’Amore John Owen-Jones a Sophie Evans Comedy Central Live Mae Yna Le Hogia Ni - Yma o Hyd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Symffoni ‘Anorffenedig’ Jam ym Mar Ffynnon These Books are Made for Walking The Element in the Room 2il Benblwydd Sistema Cymru – Codi’r To
37 38 40 42 44 45 45 46 47 48
Ebrill Gwe 1 Sad 2 Sad 9 Gwe 15 Sad 16 Sul 17 Maw 19 Maw 19 Merch 20 Sad 23 Maw 26 Merch 27 - Iau 28 Gwe 29 Sad 30
Cabaret Pontio: Breabach Llŷr Williams a Cherddorfa Frenhinol Ffilharmonig Lerpwl: Meistri Fienna Puss in Boots Treacherous Orchestra Savage Hart Digwyddiad Rhannu National Theatre Wales Llechi/Slate gyda 9bach Comedy Central Live Dementia Dan Sylw Prosiect Drama’r Myfyrwyr Mr Bulkeley o’r Brynddu Preswyliad Pedwarawd Benyounes Russell Kane: Right Man, Wrong Age Gwaddol: Dathlu Theatr Gwynedd
3
49 50 52 53 54 55 56 57 58 59 60 61 62 63
Dawns a Syrcas
Sadwrn 28 Tachwedd, 10am-4pm Perfformiadau 20 munud 11am, 1pm, 3pm
Diwrnod Croeso Pontio
Disgleirio/Shine Cyntedd Canolog Pontio AM DDIM – cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau neu ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth Yn haf 2015, cawsom ein swyno gan gwmni syrcas cyfoes “prydferth a gwallgof” Pirates of the Carabina gyda’u sioe FLOWN yn y Babell Fawr ar Ffordd Glan Môr, Bangor. Rydym yn eu croesawu’n ôl y gaeaf hwn, y tro hwn i berfformio sioe Disgleirio, comisiwn arbennig gan Pontio a fydd yn ganolbwynt i’n Diwrnod Croeso ac i’w gweld yng Nghyntedd Canolog trawiadol eich canolfan newydd, hir-ddisgwyliedig.
Bydd mannau cyhoeddus Pontio, sef bwyty Gorad a chaffi Cegin, ar agor trwy’r dydd, gyda pherfformiadau cyson o “Disgleirio”. Bydd y diwrnod yn cynnwys ymddangosiad arbennig gan blant Ysgol Glancegin ac Ysgol Glanadda, yn gweithio gyda phrosiect cyfranogol Pontio ar gyfer pobl ifanc, BLAS. Dewch draw i’n gweld – mae croeso cynnes a gwefreiddiol yn eich aros!
4
“Rydym yma gyda 4 o blant (15, 13, 10 ac 8), ac mae’r perfformiad yn ei grynswth wedi swyno pob un ohonynt.”
“Yn bendant yn mynd i gael gwersi trapîs neu rywbeth felly. Llawn ysbrydoliaeth.”
DAU BENSIYNWR
OEDOLYN
"Gwych, dylai mwy o sioeau fel hon ymweld â Gogledd Cymru”
“Gwych, bendigedig, syfrdanol, epig.” PLENTYN 10 OED
OEDOLYN 5
Ymateb aelodau o’r gynulleidfa i FLOWN gan Pirates of the Carabina Gwledd Syrcas Feast Gorffennaf 2015
Ffilm
Nos Fawrth, 1 Rhagfyr 8.15pm
Michael Fassbender fel Steve Jobs. Llun: Universal Pictures
Steve Jobs (DU 2015) Tystysgrif 15 Sinema £7/£5 gostyngiadau Ffilm ddiweddaraf Danny Boyle, prif gyfarwyddwr Prydeinig ei genhedlaeth (Trainspotting, Slumdog Millionaire), enillydd Academy Award® a chyn fyfyriwr o Brifysgol Bangor fydd y ffilm gyntaf i gael ei dangos yn sinema ddigidol Pontio. Mae Steve Jobs yn ffilm sy’n gweu busnes, technoleg a theimladau dynol trwy gynnig hanes cefn llwyfan lansiadau enwog y cwmni a rôl allweddol un o arloeswyr mwya’r oes ddigidol law yn llaw â dadansoddiad o fywyd personol cyn brif weithredwr cwmni Apple.
Gyda Michael Fassbender yn serennu yn y brif rhan a Kate Winslet yn portreadu Joanna Hoffman, prif swyddog marchnata Macintosh mewn sgript gan Aaron Sorkin (sgriptiwr The Social Network, clasur arall am wreiddiau dyfodol digidol dynoliaeth), mae hi’n ffilm sy’n addo gwneud i ni ailystyried hanes diweddar yn ogystal â chynnig bod yn adloniant sinematig pur.
Hefyd Dydd Gwener, 4 Rhagfyr 9pm Dydd Sadwrn, 5 Rhagfyr 5.30pm a 8.15pm Dydd Sul, 6 Rhagfyr 2.00pm a 5.30pm Dydd Llun, 7 Rhagfyr 5.30pm a 8.15pm Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 5.30pm a 8.15pm Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 5.30pm a 8.15pm Dydd Iau, 10 Rhagfyr 5.30pm a 8.15pm
6
Michael Fassebender fel sylfaenydd arloesol Apple yn Steve Jobs. Llun: François Duhamel
Sinema Pontio Daw sinema o’r radd flaenaf i ddinas Bangor gydag agoriad Pontio. Rydym yn bwriadu cynnig y cyfle i gynulleidfaoedd weld ffilmiau diweddar ar y sgrîn fawr yn rheolaidd. Bydd nifer y dangosiadau yn amrywio o 15 i 25 pob wythnos, gyda dangosiadau ar gyfer plant, pobl hŷn a theuluoedd yn rhan reolaidd o’r rhaglen sinema ar benwythnosau a phrynhawniau ganol wythnos.
Ceiswn gynnig dwy ffilm newydd pob wythnos ynghyd â detholiad amrywiol o ddigwyddiadau arbennig, theatr fyw a digwyddiadau unigryw wedi’u hysbrydoli’n lleol. Byddwn yn ceisio creu’r rhaglen orau posib a fydd yn cwmpasu detholiad o’r ffilmiau cyfredol mawr a bach gyda'r dewis gorau o ffilmiau newydd tramor a Phrydeinig. Bydd taflen fisol yn cael ei chynhyrchu ar gyfer rhaglen Ffilm Pontio. 7
Pan ddaw i fwyd a diod, mae gan Pontio amrywiaeth o ddewisiadau Os ydych chi awydd paned o goffi a thamaid ysgafn yn Cegin, rhywbeth mwy sylweddol yn ein Tŷ Bwyta Gorad neu efallai yr hoffech chi fwynhau diod ym mar Ffynnon.
Mae gennym ni hyd yn oed ddewis o snaciau a diodydd parod yn ein ciosg Copa i’r rhai sydd ar frys. Mae ein bar a llefydd bwyta ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’n perfformiadau.
8
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi
www.pontio.co.uk
Cerddoriaeth
Nos Fercher, 2 Rhagfyr 7.30pm Opera Canolbarth Cymru
Ffigaro a Ffrindiau Dathliad Opera Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Arweinydd Nicholas Cleobury Gyda chyfeiliant gan Cerddorfa Siambr Opera Canolbarth Cymru Ymunwch â chwe darparseren y byd opera gan gynnwys Sara Lian Owen sy’n wreiddiol o’r ardal, mewn noson o ddetholiadau o “Le Nozze di Figaro” gan
Mozart ac “Il Barbiere di Siviglia” gan Rossini. Dyma adrodd hanes Iarll ac Iarlles Almaviva trwy gyfrwng ariâu ac ensembles, a phortreadu eu gwas cyfrwys Figaro a’r cymeriadau y mae’n eu twyllo – Bartolo, Basilio, Cherubino – ynghyd â Suzanna, ei ddarpar-wraig, sy’n gwyrdroi’r cwbl, wrth gwrs!
9
Addas i bob oed. Bydd y canu yn yr iaith Eidaleg.
Caban Mae Caban yn ddarn o gelf cyhoeddus gan yr artist rhyngwladol o fri Joep Van Lieshout. Mae’r cerflun, sydd wedi ei leoli yn nhirlun Pontio, yn ddehongliad cyfoes o Gaban y chwarelwyr. Lle i bawb fydd Caban – fel y dywed Bedwyr Williams, ymgynghorydd ar y cynllun Celf Cyhoeddus, “Mae Caban Pontio yn dathlu’r ffordd yr oedd y gweithwyr yn trawsnewid
rhywbeth oedd yn ei hanfod yn gwt i mewn i lu o wahanol bethau: i berfformio, i ddadlau, i drafod ac i freuddwydio.” Yn ystod Awst 2014, cafodd myfyriwr BA o Goleg Menai Anna Milner y cyfle i weithio yn Atelier Van Lieshout yn Rotterdam wrth i’r darn gael ei greu – gallwch ddarllen ei stori drwy fynd i cabanprojectrotterdam. wordpress.com/
10
Caiff y cynllun ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Gwynedd.
Digwyddiad
Nos Wener, 4 Rhagfyr 7.00pm
Preswyliad Bedwyr Williams: Dathliad* Sinema £5 Bydd artist preswyl cyntaf erioed Pontio, Bedwyr Williams, yn cyflwyno ffilm newydd sy’n edrych ar ddau o gasgliadau Prifysgol Bangor. Trwy gyfuno elfennau o gasgliad Crossley-Holland o offerynnau cerdd o bedwar ban byd, a chyfoeth Amgueddfa Byd Natur Brambell o fwystfilod, esgyrn a chreigiau, mae’n rhoi bywyd newydd i’r gwrthrychau difywyd hyn. Cyflwynir y ffilm newydd hon ochr yn ochr â ‘Century Egg’, ffilm a grëwyd gan Bedwyr yn ystod preswyliad cyffelyb yn Amgueddfeydd Prifysgol
Caergrawnt fel rhan o raglen gelf gyhoeddus y datblygiad. Ceir cymysgedd ddiddorol o eitemau o gasgliadau Prifysgol Bangor, wedi eu curadu gan Bedwyr gyda chefnogaeth Storiel, o fewn cypyrddau gwydr yn mannau cyhoeddus Pontio. Mae’r artist rhyngwladol Bedwyr Williams yn byw a gweithio yng Nghaernarfon. Yn 2013, bu’n cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Gelf Ddwyflynyddol Fenis (Biennale), gyda chyflwyniad o’r enw ‘The Starry Messenger’. Ar hyn o bryd, 11
mae fersiwn wedi ailwampio gyda gwaith newydd yn cael ei arddangos yn Oriel Whitworth, Manceinion. Mae Bedwyr yn un o chwe artistgyfarwyddwr a enwebwyd ar gyfer Gwobr erwog Jarman. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ei enw ar restr fer Gwobr Artes Mundi. Mae Bedwyr hefyd yn artist ymgynghorol ar Raglen Gelf Gyhoeddus Pontio. *Cynhelir y digwyddiad trwy’r Gymraeg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Pontio Tocyn anrheg Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy, prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50.
Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.
Canu Carolau yn Gorad Dydd Sadwrn, 5 Rhagfyr 2-3pm AM DDIM Dewch i mewn o’r oerfel i ymuno â ni ar gyfer ychydig o ganu carolau a mins peis fel rhan o ddathliadau Nadoligaidd Bangor ym mwyty Pontio Gorad ar lefel 2. Dyma’r cyfle cyntaf i brofi acwstig y cyntedd felly paratowch i godi’r
to ar achlysur ein Nadolig cyntaf gyda cherddoriaeth gan gerddorion o Ysgol David Hughes yn ymuno â myfyrwyr o Brifysgol Bangor a Menter Iaith Bangor. Brysiwch neu fydd y mins peis i gyd wedi mynd! 12
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 5 Rhagfyr 7pm
Côr y Penrhyn a Chôr Meibion Llanelli Theatr Bryn Terfel £12 Soprano Meinir Wyn Roberts Telynores Glain Dafydd Dyma gyfle i chi fwynhau gwledd o ganu corawl dan arweiniad y cerddorion amryddawn Owain Arwel ac Eifion Thomas, a hefyd i glywed rhai o’n hoff ddarnau ar gyfer corau meibion.
Yn ymuno â’r corau ar y llwyfan i ddathlu Nadolig cyntaf Pontio fydd y soprano Meinir Wyn Roberts a’r delynores Glain Dafydd.
13
Meinir Wyn Roberts (uchod) Glain Dafydd
Gweithdy A'i Bangor
Beth yw BLAS? Mae Blas yn gynllun celfyddydau cyfranogol i blant a phobl ifanc. Mae’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc yn ardal Bangor gael blas ar bopeth y mae’r celfyddydau perfformio yn ei cynnig. Bydd Blas hefyd yn cynnig cyfres o weithdai drama wythnosol yn y Stiwdio, yn galluogi pobl ifanc i weithio gyda rhai o’r cwmnïau proffesiynol sy’n dod i berfformio yn Pontio, ac i berfformio eu hunain yng nghyfleusterau newydd y ganolfan.
Gwledd Syrcas
Blas yn 2015 A’i Bangor? Aelwyd Yr Urdd, Bangor, Stiwdio Ddawns Bangor, Clwb Ieuenctid Maesgeirchen
Rydych Chi Yma Ysgolion Cynradd Glanadda, Glancegin, Hirael, Y Faenol, Hillgrove, Our Lady’s
Ed Holden aka Mr Phormula Iwan Charles
Sarah Mumford Ed Holden Katherine Betteridge Steel City Rockers
Gorymdaith Gwledd Syrcas Ysgolion Y Felinheli, a Glanadda, Codi’r To, Glancegin Kate Jones Thomasine Tomkins Cimera Ski Band
Blas yn 2016 Gweithdai drama a pherfformio wythnosol i ddatblygu hyder, presenoldeb llwyfan, sgiliau perfformio a mwynhau! Lle: Stiwdio Pryd: Pob nos Lun yn ystod y tymor
Pwy: 5.00pm-6.00pm Blwyddyn 3 a 4 6.15pm – 7.15pm Blwyddyn 5 a 6 7.30pm – 8.30pm Blwyddyn 7, 8 a 9 Cost: £25 (mae gostyngiad ar gael ar gyfer trigolion LL57 1)
14
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Does dim rhaid bod yn rhugl, ac rydym yn croesawu pawb o bob gallu ieithyddol. Cofrestrwch arlein o 23.11.15: www.pontio.co.uk I gael rhagor o wybodaeth anfonwch ebost at Mared: m.huws@bangor.ac.uk
9-11 Rhagfyr 7.30pm
teulu family
Ysgol Tryfan yn cyflwyno
Y Bancsi Bach Theatr Bryn Terfel £10/£7.50 gostyngiadau Roedd Owen wrth ei fodd yn tynnu lluniau, ond ychydig a wyddai y byddai’r holl graffiti y mae’n eu peintio ar un o waliau’r dre yn magu eu bywyd eu hunain. Mae Y Bancsi Bach yn sioe sy’n mynd â ni i fyd y dychymyg, ac yn gwneud i ni chwerthin a chrio yr un pryd.
sbon yn seiliedig ar y nofel fer gan Tudur Dylan Jones (Cyfres yr Onnen, Y Lolfa) ac Owain Arwel Davies. Dyma benllanw prosiect cyffrous gan Ysgol Tryfan, prosiect yn cynnwys amryw o weithdai celfyddydol yn yr ysgol mewn partneriaeth gyda nifer o ysgolion cynradd yr ardal.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol West Side Story, mae’n bleser gan Ysgol Tryfan gyflwyno sioe gerdd newydd
Cyfarwyddwr Martin Thomas Sioe yn yr iaith Gymraeg. 15
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 12 Rhagfyr, 7.30pm
Cyngerdd Nadolig Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £12/£10/£5 (plant o dan 18 a myfyrwyr) Corws Prifysgol Bangor Côr Siambr Prifysgol Bangor Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias Graeme Cotterill, Guto Pryderi Puw, Jenny Pearson (arweinyddion)
Bydd cerddorion ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru’n ymuno â Chorws a Chôr Siambr y Brifysgol ar gyfer eu cyngerdd Nadolig. Mae’r rhaglen eleni’n cynnwys trefniannau Gustav Holst o dair carol Nadolig dan y teitl Christmas Day, ynghyd â pherfformiad prin o’r Pastoral Mass for Christmas Eve gan y cyfansoddwr Brasilaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, José Maurício Nunes Garcia.
16
Dydd Mercher, 16 Rhagfyr, 10am a 1.30pm Dydd Iau, 17 Rhagfyr, 10am, 1.30pm a 7pm Dydd Gwener, 18 Rhagfyr, 10am teulu
Cwmni Mega yn cyflwyno
Melltith y Brenin Lludd
family
Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau Sgrechfeydd erchyll y Ddraig Goch! Cawr dychrynllyd sy’n lladrata’u holl fwyd! Hud a lledrith gwrach ddieflig! Sioe Nadolig wreiddiol yw hon wedi’i seilio ar hen,hen chwedl Gymreig o gyfnod y Mabinogion. Mae bywyd y brenin Lludd a’i bobl y Brythoniaid yn y fantol ac yn cael ei chwalu gan ddrygioni tair melltith erchyll!!
Ond... gyda help gan ei frawd mawr Llefelys...a chi...???
Sgript gan Dafydd Emyr Caneuon gan Gwyneth Glyn
Dewch gyda ni ar antur ddychrynllyd llawn cyffro, sbort a sbri; ar ras arswydus llawn lliw a chanu a dawnsio... yn ôl ymhell i hen hanes ein pobl!
Pantomeim yn yr iaith Gymraeg sy’n addas i bawb.
17
Cerddoriaeth
Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 8pm
Only Men Aloud Theatr Bryn Terfel £18 Mae’r ensemble yma, sydd wedi ennill gwobr yn y Classical Brit Awards yn ffefryn drwy Gymru gyfan ac mor boblogaidd ag erioed gyda’i sioeau’n gwerthu allan a dilynwyr ym mhobman. Ymunwch ag un o ensembles lleisiol enwocaf Prydain, yn dilyn ryddhau eu halbwm diweddaraf
‘On the Road’. Byddant yn perfformio llond hosan ‘Dolig o gerddoriaeth gan gynnwys ffefrynnau tymhorol a chlasuron roc a phop. Gan ganu yn eu steil chwaraeus a chwaethus, a chyda lleisiau o’r radd flaenaf, gadewch i OMA roi ychydig o sglein ar yr Ŵyl.
18
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 19 Rhagfyr 8pm
Sŵnami Yws Gwynedd Yr Eira Theatr Bryn Terfel £10 Tri o fandiau mwyaf poblogaidd y sîn roc Gymraeg ar yr un llwyfan!
Gig sefyll. Gostyngiad o 10% i grwpiau o ddeg neu fwy.
Cyfle unigryw i ddechrau tymor y Nadolig mewn steil. Dewch i brofi awyrgylch llwyfan newydd yn Ngogledd Cymru. 19
Gwirfoddoli Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm Cwrdd ag ystod eang o bobl Dysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
Derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau yr ydych yn eu datblygu a phwyntiau XP ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
20
Cerddoriaeth
Pob dydd Iau 4.30pm-5.30pm am 4 wythnos: 25 Chwefror 3 Mawrth 10 Mawrth 17 Mawrth
Cwtsh Cynganeddu Lefel 0 £16 am 4 sesiwn Nos Wener, 8 Ionawr, 7.30pm Cynyrchiadau Flanagan
Gawn ni?... “Actorion hyderus a dawnswyr heini, encil i sgrifennu, cwtsh cynganeddu”
How to Win Against History
CWPLED O GERDD YSGRIFENNWYD GAN FL. 8 A 9 YSGOL TRYFAN, BANGOR YN GWEITHIO GYDA GERWYN WILIAMS FEL RHAN O GYNLLUN HADASYNIADA
Stiwdio £5 Sioe gerdd ffyrnig a ffantastig ydy hon am Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn. Fe’i ganwyd yn 1875; roedd ar fin etifeddu’r Ymerodraeth, ond yn lle hynny fe wariodd holl gyfoeth anhygoel ei deulu ar gynnal dramâu disglair, diemwntog... ag yntau’n brif seren.
Sesiynau anffurfiol ar ôl ysgol gyda’r bardd Twm Morys yn cyflwyno’r grefft o gynganeddu i bobl ifanc Blwyddyn 12 a 13. Nifer cyfyngedig o lefydd. Cyflwynir yn yr iaith Gymraeg.
Pan fu farw, dinistrodd ei deulu bob cofnod o’i fywyd, cyn mynd yn eu blaenau fel pe na bai erioed wedi bodoli.
Am wybodaeth cysylltwch â Mared Huws m.huws@bangor.ac.uk 01248 382 141. Tocynnau ar gael yn swyddfa docynnau Pontio 01248 38 28 28
Ymunwch â ni am berfformiad ar y gweill o’r sioe gerdd newydd, ddigrif, gyhyrog hon gan Seiriol Davies (Mess gan Caroline Horton & Co.), sydd am ddisgwyliadau, am wrywdod, am fethiant, ac am fod yn rhy od i'r byd, ond yn ysu i’r byd beidio â'ch anghofio.
Trefnir ac ariennir y cynllun ar y cyd rhwng Pontio a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Gwynedd.
Bydd sesiwn holi ac ateb gyda Seiriol Davies yn dilyn y perfformiad. 21
22
Digwyddiad
Nos Iau, 14 Ionawr 7.30pm
Ruby Wax Sane New World Theatr Bryn Terfel £20/£18 gostyngiadau Mae Ruby Wax yn ddigrifwraig, actor ac awdur poblogaidd a anwyd yn UDA ac sy’n byw yn y DU. Mae hi hefyd wedi dod yn ymgyrchydd iechyd meddwl ac wedi cael gradd Meistr mewn Therapi Gwybyddol ar sail Ymwybyddiaeth Ofalgar o Brifysgol Rhydychen. Mae’r sioe hon yn seiliedig ar ei llyfr Sane New World a ganmolwyd gan y beirniaid,
ac sy’n ein helpu i ddeall pam rydym yn peryglu ein hiechyd meddwl trwy'n meddyliau ein hunain. Mae Sane New World yn dangos inni sut i ailwifro ein meddwl er mwyn canfod llonyddwch mewn byd gorffwyll. Y sioe hon yw eich pasbort at fywyd callach. Efallai nad yw hi’n hannercall, ond mae hi’n dynwared y cyflwr yn eithaf da.
23
Oed: 14+
Cerddoriaeth
Nos Wener, 15 Ionawr, 6pm Dydd Sadwrn, 16 Ionawr, 12pm (perfformiad 4 awr) Cyd-gynhyrchwyd gan Grŵp Opera Mahogany a’r Barbican
Lost in Thought: Opera yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar Theatr Bryn Terfel £25 Lost in Thought yw’r opera gyntaf yn y byd i gael ei seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Yn seiliedig ar strwythur clasurol myfyrdod estynedig, mae’n archwilio’r mannau cyswllt rhwng sŵn a distawrwydd mewn cerddoriaeth a myfyrdod. A’r opera wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer theatr gartrefol, daw’r ffiniau rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa yn niwlog wrth i’r mezzo-soprano Lore Lixenberg a saith cerddor fynd â chi ar daith fewnol
o ymwybyddiaeth ofalgar, gyda chyfnodau o fyfyrdod, gorffwys, bwyta ar y cyd, a sesiwn ioga ysgafn. Yn berfformiad pedair awr dwys, mae Lost in Thought yn cyfuno cerddoriaeth a myfyrdod, gan ddod â dwysedd newydd i bob synhwyriad – drama fewnol o ymwybyddiaeth ofalgar.
24
Dawns a Syrcas
Llun: Photography by Ash
Nos Fawrth, 19 Ionawr 7.30pm
Sgwrs ar ôl sioe Theatr Bryn Terfel Arhoswch ychydig wedi’r sioe i wrando ar gyfarwyddwr Gandini Juggling, Sean Gandini, yn sgwrsio â Dr Emily Cross, niwrowyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, wrth iddynt archwilio balans, patrymu a darganfod yr hyn sy’n digwydd wrth i’r celfyddydau gwrdd â gwyddoniaeth mewn sesiwn fywiog a hwyliog.
Gandini Juggling
4x4
Ephemeral Architectures Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Perfformiad sy’n cyfuno dau fyd; bale a jyglo. Gan olrhain llwybrau drwy’r gofod, bydd 4 jyglwr a 4 dawnsiwr bale yn rhannu llwyfan am y tro cyntaf. Mae’r ddwy system ffurfiol yma yn deithiau byrhoedlog drwy amser a gofod, yn gadael hoel anweladwy, fel pensaernïaeth ddychmygol. Mae 4x4 yn ddathliad o le mae’r llwybrau hyn yn cwrdd. Mae’r Gandini Juggling anhygoel yn dychwelyd y tymor hwn i’w gariad at batrymau pur a mathemateg gyda 4x4.
Yn dilyn llwyddiant rhyngwladol Smashed gafodd ei gyflwyno gan Pontio yn Neuadd Ogwen yn 2014, mae’r gwaith newydd hwn yn mynd â ni ar deithiau cyflym drwy amser a gofod mewn deialog unigryw rhwng jyglwyr a dawnswyr bale. Gyda’r jyglwr byd enwog Sean Gandini yn cyfarwyddo, coreograffi gan ddawnsiwr y Royal Ballet Ludovic Ondiviela, a chyfansoddiad gwreiddiol ‘Suspended opus 69’ gan Nimrod Borenstein. Cynllun goleuadau arbennig gan Guy 25
Hoare sy’n cwblhau’r profiad godidog yma sy’n croesi ffiniau’r celfyddydau. Mae 4x4 yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Gandini Juggling, National Centre for Circus Arts, Lighthouse, Poole a La Breche, Pôle national des Arts du Cirque de Basse-Normandie / Cherbourg-Octeville. Cefnogir gan The Royal Ballet Studio Programme, Arts Council England, Agit Cirk, Shoreditch Town Hall a Jacksons Lane.
Arddangosfa
Dydd Sadwrn, 23 Ionawr 3pm
Gwaddol: Gosodiad i Ddathlu Theatr Gwynedd Lefel 2, Pontio AM DDIM Wedi ei ysbrydoli gan atgofion melys am Theatr Gwynedd ac wedi ei gyffroi gan wledd o ddeunydd archif gan gynnwys posteri, rhaglenni, delweddau, cynlluniau a llythyrau, mae’r artist Simon Proffitt wedi creu gwaith newydd sy’n edrych ar waddol Theatr Gwynedd. Mae ffilm newydd yn adrodd straeon actorion, staff a chynulleidfaoedd wrth iddynt hel atgofion,
gan ein atgoffa am rôl Theatr Gwynedd fel pwerdy creadigol pwysig a fu’n ysbrydoliaeth i genedlaethau. Mae Simon Proffitt yn artist cysyniadol sy’n defnyddio ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys ffotograffiaeth, darlunio, cerflunio, sain, ffilm a gosodiadau i wireddu ei syniadau. Weithiau mae'n gweithio ar y cyd, ac mae ei waith yn aml yn ddoniol ac o hyd yn sensitif i’w 26
gyd-destun. Curadodd Simon ymateb i Ysbyty Gogledd Cymru sydd erbyn hyn yn adfail ar gyfer arddangosfa arbennig yn Y Lle Celf fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg hyd at ddiwedd Ebrill 2016. Gyda diolch i Dyfan Roberts a Storiel am eu cefnogaeth.
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 23 Ionawr 8pm
Huw Stephens yn cyflwyno... Clean Cut Kid Huw M DJ Huw Stephens Theatr Bryn Terfel £8 Noson o gerddoriaeth fyw gan un o fandiau mwyaf cyffrous y foment, Clean Cut Kid o Lerpwl. Yn hanu o Fangor, mae Huw M yn ffefryn ar BBC 6Music, ac wedi rhyddhau albym newydd yn ddiweddar, Utica.
Bydd rhagor o artistiaid yn cael eu cadarnhau yn agosach at yr amser. Bydd Huw Stephens o BBC Radio 1 a Radio Cymru yn cyflwyno a DJo ar y noson. Gig Sefyll.
27
Llun: Maureen Rhys
Llun: Theatr Genedlaethol Cymru
Cymryd Rhan
Dydd Mercher, 27 Ionawr, 1-3pm
Dydd Sadwrn, 30 Ionawr, 11am a 2pm Theatr Bara Caws
Dod â Siwan yn Fyw: Sesiwn Drafod a Holi
Drwg!
teulu family
Stiwdio £6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un ohonynt o dan 18)
Theatr Bryn Terfel £3 (anelir y sesiwn at ddisgyblion Lefel A Cymraeg)
Os ydych chi'n hoff o bypedau yna mae Drwg! gan Theatr Bara Caws, sioe sy’n seiliedig ar chwedl Rhita Gawr, yn siŵr o apelio!
Bydd Ffion Dafis, Maureen Rhys a William Lewis yn trafod Siwan, drama fydryddol gan Saunders Lewis, wedi ei seilio ar y cymeriad hanesyddol Siwan, gwraig Llywelyn Fawr.
Mae chwedl Rhita Gawr yn rhan o’n hetifeddiaeth Gymreig, ac yn y cyflwyniad hwn mae Angela Roberts wedi ei haddasu fel ei bod yn berthnasol i blant heddiw.
Perfformir golygfeydd o ddrama sy’n cael ei hadnabod fel un o glasuron y Ddrama Gymraeg, gan aelodau o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, cymdeithas myfyrwyr a sefydlwyd ym Mangor yn 1923 dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry ac a atgyfodwyd yn 2012.
A phwy oedd Rhita meddech chi? Wel, un drwg oedd Rhita, wrth ei fodd yn codi ofn ar bawb a phopeth, ac yn bwlio plant llai yn ddidrugaredd. Dewch i gael blas o’r sioe hudolus. Cewch hefyd becyn arbennig i fynd adref hefo chi, er mwyn i chi wneud eich pyped eich hun.
Cadeirir y sesiwn gan Dr Manon Wyn Williams a bydd cyfle i holi’r panel. Mae drama Siwan ar faes llafur Lefel A Cymraeg.
Addas i deuluoedd a phlant oed cynradd. Digwyddiad yn yr iaith Gymraeg.
Digwyddiad yn yr iaith Gymraeg. 28
(Ch - Dd) Mark Olver, Tom Lucy, Andrew Ryan
Nos Fawrth, 2 Chwefror 8pm Comedy Central Live yn cyflwyno
Mark Olver, Tom Lucy, Andrew Ryan Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau Mae Mark Olver yn gomedïwr stand up ac artist sy’n cynhesu cynulleidfa ar y teledu. Mae wedi gweithio ar raglenni fel Vicar of Dibley, 8 Out of 10 Cats, 10 o’clock Live, Jonathon Ross, Have I Got News For You a Deal or No Deal. Yn ogystal, mae’n arwain nosweithiau ac yn brif berfformiwr rheolaidd clybiau comedi a hyrwyddwyr ar draws Prydain, gan gynnwys Off The Kerb, Avalon, Jongleurs a Highlights. Mae hefyd wedi cefnogi perfformwyr fel Russell Howard a Lee Mack ar deithiau cenedlaethol. Mae wedi perfformio stand up ar raglen BBC 3 sef Russell Howard’s Good News, Comedy Central Live at the
Comedy Store, ac Alex Zane’s Funny Rotten Scoundrels. Ymddangosodd fel gwestai ar raglen Sky Sunrise ac mae’n un o banelwyr rheolaidd Radio’r BBC. Yn ddim ond deunaw oed, Tom Lucy yw un o’r comediwyr ieuengaf sy’n gweithio’n broffesiynol o amgylch Prydain. Enillodd wobrau mawreddog The Comedy Store King Gong 2014 ac Up The Creek The Blackout 2015. Perfformiodd Tom ei gig stand up cyntaf ac yntau'n ddim ond 16 oed, ac mae bellach yn ymddangos yn rheolaidd mewn rhai o brif glybiau’r wlad, gan gynnwys The Glee Club, Up The Creek a Komedia. 29
Yn ystod y chwe mis diwethaf mae wedi cefnogi rhai o’i arwyr ym myd comedi, gan gynnwys Jack Whitehall a Harry Hill. Dewch i weld y gŵr talentog hwn cyn iddo ddod yn fyd-enwog! Dechreuodd y Gwyddel Andrew Ryan ei yrfa ym myd comedi yn 2008 pan benderfynodd gymryd rhan mewn cystadleuaeth meic agored. Erbyn 2014 roedd yn un o dalentau mwyaf cyffrous y blynyddoedd diwethaf, gyda galw mawr amdano fel perfformiwr ac MC yn y clybiau comedi mwyaf ar draws Iwerddon a Phrydain. Oedran: 16+
Dawns a Syrcas
Nos Iau, 4 Chwefror a Nos Wener, 5 Chwefror 7.30pm Ockham’s Razor wedi ei gynhyrchu gan Turtle Key Arts yn cyflwyno
Tipping Point Theatr Bryn Terfel £12/£10 gostyngiadau Yn dilyn llwyddiant ysgubol Not Until We Are Lost pan werthwyd pob tocyn, mae Ockam Razor yn dychwelyd gyda’u cynhyrchiad llawn newydd o’r enw Tipping Point. Lleolir Tipping Point mewn theatr gylch gyda’r gynulleidfa yn cael ei thynnu’n nes wrth i’r digwyddiadau newid o drychineb i drechu. Mae’r pum perfformiwr, o fewn cylch y llwyfan, yn trawsnewid polion metel syml i fod yn dirwedd gyfoethog o ddelweddau. Mae perfformwyr yn dal y polion ar flaenau eu bysedd, eu hongian o’r to, eu clymu, dringo arnynt, swingio ohonynt a cherdded ar
eu hyd, wrth iddynt newid i fod yn goedwigoedd, croesffyrdd a phendiliau. Mae’r perfformwyr yn cadw balans, dringo a glynu wrth y byd hwn sy’n gwegian, yn cefnogi ei gilydd wrth iddynt frwydro ar adeg pan fo pethau’n dechrau newid. Mae’n rhaid iddynt benderfynu a ydynt am frwydro yn erbyn yr anhrefn, ymdrechu i roi trefn ar fyd anhrefnus, neu ddod drwyddi, a gadael i fywyd wyro tuag at y pwynt lle mae popeth yn newid. Mae Tipping Point yn cynnwys cerddoriaeth system sain â sawl haen wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Adem Ilham a Quinta sydd wedi gweithio’n 30
flaenorol gyda Radiohead, Hot Chip a Bat For Lashes. Comisiwn ar y cyd gan London International Mime Festival a The Lowry, Salford Quays. Wedi ei gefnogi gan Dance City, Harlow Playhouse, artsdepot & Lincoln Drill Hall. Pnawn Dydd Gwener, 5 Chwefror, 12-2pm, £15 Gweithdy Meistr: Dyfeisio ar gyfer theatr yn yr awyr (Yn addas ar gyfer artistiaid syrcas, dawnswyr, gymnastwyr, perfformwyr corfforol ac ymarferwyr) Oed: 16+ Dosbarth meistr rhyngweithiol gyda chyfarwyddwyr a pherfformwyr o Ockham’s Razor. Niferoedd cyfyngedig, archebwch yn fuan.
Llun: Nik Mackey
31
ˆ GWYL GERDD BANGOR BANGOR MUSIC FESTIVAL 1 - 6 Maw rt h / M a r c h 2 0 1 6
BBC NOW | The Swingles Elin Manahan Thomas | CôR GLANAETHWY + mwy/more
www.gwylgerddbangor.org.uk POST@gwylgerddbangor.org.uk // 01248 382181 32
Mae arloesi yn beth rhyfeddol. Hebddo, byddai’r byd yn dlotach ac yn lle llai deinamig i fyw ac i weithio. Cynhwysion arloesi. Pinsiad o ddylunio, cynhyrchu a pherfformio a’u gosod mewn gofod unigryw. Ychwanegwch beth gwres creadigol ac yn fuan mae amgylchfyd yn cael ei greu lle mae syniadau yn cael eu harchwilio, creu a’u datblygu. Amgylchedd sy’n annog byd busnes a dysg i uno ac i gydweithio. Dyma lle rydym ni yn dod i fewn. Mae Arloesi Pontio Innovation, rhan o Brifysgol Bangor, yn ganolfan arloesi rhagorol ac yn un o gyfleusterau mwyaf blaenllaw o’i math ym Mhrydain, man lle gall celf a’r
gwyddorau ddod at ei gilydd. Rydym ni'n credu mai dim ond drwy fod yn rhydd i greu y mae gwir arloesi yn gallu digwydd. I gyflawni hyn rydym wedi creu gofod deinamig, lle y gall pobl o bob math o gefndiroedd a disgyblaethau gyfarfod, siarad ac adeiladu cynghreiriau mewn awyrgylch creadigol, yn rhydd o unrhyw gyfyngiad traddodiadol. Mae gwyddonwyr, peirianwyr, gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau, pobl busnes a myfyrwyr eisoes yn cydweithio ar ystod eang o gynddelwau masnachol sy’n gwneud Arloesi Pontio Innovation yn lle cwbl unigryw. Mae API yn herio’r hen ffordd o feddwl. Bydd ein gofod yn gartref i’r dechnoleg fydd yn hwyluso creu prototeipiau cyflym i gynhyrchion masnachol a dod ac
33
arloesedd i ganol llwyfan. Bydd gofod arloesi Pontio, y cyfleusterau a’r staff gwybodus, a’r gwasanaethau wrth gefn, yn gymorth i fusnesau o Gymru sy’n barod i fentro, bach a mawr. Mae creu effaith hirdymor gyda’r gymuned busnes yn ganolog i gyllid Raglen Cydgyfeirio’r UE i sicrhau adeiladu a chreu cyfleusterau datblygedig Pontio. Ennyn chwilfrydedd y bobl sydd yn dod i mewn i’r adeilad i ymweld â’r llawr arloesi yw’n bwriad. Trwy ddangos gwaith ar droed, a bod yn agored (wrth dderbyn y bydd peth gwaith, oherwydd ei sensitifrwydd masnachol, ddim ar gael i’w weld gan y cyhoedd), byddwn yn cyflawni dyhead Pontio i ymrwymo pobl ifanc ym maes STEAM, ac i wella sylfaen sgiliau’r economi leol.
Nos Fercher 17 Chwefror, 7.30pm (Rhagddangosiad) Nos Iau 18 – Nos Sadwrn 20 Chwefror, 7.30pm Nos Fawrth 23 Chwefror – Nos Wener 26 Chwefror, 7.30pm Dydd Sadwrn 27 Chwefror, 2.00pm a 7.30pm Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen
Chwalfa Theatr Bryn Terfel £12/£10 gostyngiadau (Rhagddangosiad) £15/£12 gostyngiadau, Tocyn Teulu £30
Addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ym Methesda rhwng 1900 a 1903 yw’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes y Deyrnas Unedig. Rhwygwyd cymuned, chwalwyd teuluoedd, a gwelwyd dioddefaint fel na fu erioed o’r blaen. Ond roedd yna ddewrder hefyd a phobl yn sefyll dros egwyddor a hawl a thegwch. Trwy’r cyfan, yn wyneb brad a chaledi, roedd yna chwerthin a chanu, ac yn fwy na dim, roedd yna frawdgarwch.
Bydd aelodau o’r gymuned yn ymuno gydag wynebau cyfarwydd i ddod â’r cyfan yn fyw, wrth i Edward Ifans a’i deulu wynebu’r her fwyaf yn eu hanes. Cyfrannodd chwarelwyr Gogledd Cymru o’u cyflogau prin i godi prifysgol a mynnu gwell i’w plant. Dyma stori enwocaf yr arwyr hynny, i ddathlu tymor agoriadol theatr newydd, odidog wrth droed y coleg hwnnw. Mynediad i ddysgwyr a’r di-Gymraeg trwy blatfform digidol Sibrwd. Ewch i www.sibrwd.co
34
Sgwrs cyn y sioe gydag Arwel Gruffydd: Oherwydd poblogrwydd y sgyrsiau cyn y sioe, rydym yn awgrymu eich bod yn archebu eich tocyn rhad ac am ddim ymlaen llaw Nos Fawrth, 23 Chwefror, 6.30pm Nos Fercher, 24 Chwefror, 6.30pm (i ddysgwyr)
Dydd Sadwrn, 27 Chwefror Chwalfa – Cyrraedd at y gwir Pontio TR2 11am yn Gymraeg a 12pm yn Saesneg £3 Trafodaeth 45 munud am daith helbulus Streic Fawr Chwarel y Penrhyn yng nghwmni Catrin Wager, arbenigwr ar hanes lleol ac ymchwilydd ym Mhrifysgol
Bangor, Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru a’r Athro Merfyn Jones, mewn sesiwn a gadeirir gan y ddarlledwraig Bethan Jones Parry. Cyfle i ddarganfod Caban, darn celf gyhoeddus Pontio (gweler tudalen 10)
35
Swper Chwarel Bydd swper chwarel ar fwydlen Gorad trwy gydol y tymor agoriadol
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 27 Chwefror 7.30pm
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Neuadd Prichard-Jones £12/£10/£5 i fyfyrwyr a phobl ifanc o dan 18 Chris Collins (arweinydd) Montsalvatge: Desintegraci ón Morfológica de la Chacona de J. S. Bach Mahler: Symffoni Rhif 4 Nodweddir darnau cyntaf ac olaf cyngerdd Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol ym mis Chwefror gan gyfosodiad o liw cerddorfaol tanbaid ac urddas clasurol.
Yn y Desintegración Morfológfica gan y cyfansoddwr o Gatalonia, Xavier Montsalvatge, gwelir Chaconne enwog Bach mewn D leiaf yn cael ei hailgreu mewn ffordd hynod galeidosgopig. Mae Pedwaredd Symffoni lawn gobaith Mahler, a ysgrifennwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, wedi ei
36
saernïo o amgylch cerdd werin, ‘The Heavenly Life’, sy’n ymddangos yn y symudiad olaf fel gosodiad llawn i unawd soprano. Yn y cyngerdd hefyd ceir perfformiad gan enillydd cystadleuaeth flynyddol yr Ysgol Cerddoriaeth i unawdydd concerto.
Cerddoriaeth
(Ch - Dd) Anthony Negus, Rhodri Prys Jones.
Nos Wener, 4 Mawrth 7.30pm OPRA Cymru
L’Elisir D’Amore Theatr Bryn Terfel £15/£5 i fyfyrwyr a phobl ifanc o dan 18 Daw OPRA Cymru â’i fersiwn Cymraeg o gomedi boblogaidd Donizetti L’elisir d’amore i Pontio. Gyda cherddorfa siambr o dan arweinyddiaeth Anthony Negus (gynt o Opera Genedlaethol Cymru) a chast o dalentau addawol ac ifanc, mae hon yn argoeli i fod yn noson bleserus o gerddoriaeth hudolus, farddonol a theatrig.
Mae’r cwmni’n falch i gyflwyno’r tenor dawnus o Lanfyllin, un o enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, Rhodri Prys Jones.
37
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 5 Mawrth, 7.30pm
John Owen-Jones a Sophie Evans Theatr Bryn Terfel £18 Bydd un o actorion a chantorion nodedig y West End a Broadway, John Owen-Jones, yn ymuno â’r gantores a’r actores Gymraeg adnabyddus, Sophie Evans, i gyflwyno noson o gerddoriaeth i chi. Mae John Owen-Jones yn fwyaf adnabyddus am ei berfformiadau fel Jean
Valjean yn Les Miserables ac fel y ‘Phantom’ yn The Phantom of the Opera. Mae Sophie Evans hefyd yn un o sêr byd theatr gerdd ac wedi chwarae rhan Dorothy yn The Wizard of Oz yn y London Palladium, yn dilyn ei llwyddiant yn dod yn ail yng nghyfres y BBC, Over The Rainbow.
38
39
Comedi
(Ch - Dd) George Rigden , Jenny Collier, Stu Goldsmith
Nos Fawrth, 8 Mawrth 8pm Comedy Central Live yn cyflwyno
George Rigden, Jenny Collier, Stu Goldsmith Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Comedïwr cerddorol yw George Rigden sydd wedi llwyddo, o fewn ychydig flynyddoedd, i dorri mewn i’r byd stand up, cael llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau i berfformwyr newydd ac ymddangos yng Nghaeredin yn 2015, gan guro nifer o berfformwyr eraill er mwyn ennill ei le yn sioe fawreddog Bound & Gagged Comedy – ‘AAA’ yn The Pleasance Caeredin.
Mae Stu Goldsmith wedi ennill gwobrau rhyngwladol ym maes comedi, ac mae ganddo enw fel comedïwr stand up clyfar a rhwydd. Mae ei frwdfrydedd a’i agosatrwydd naturiol yn cuddio ffraethineb a hyfdra a ddatblygodd yn ystod ei yrfa gynnar fel perfformiwr stryd. Mae’n hynod o agored am ei brofiadau mewn bywyd, ac yn hoffi mynd i’r afael â chariad, rhamant ag ochr negyddol gwireddu eich breuddwydion.
40
Jenny Collier “Dryly innocent” EASTLONDONLINES.COM
“Surprising edge” SHORTCOM.CO.UK
“Refreshingly original... Excellent” BROADWAY BABY
Age guidance: 16+
“Mae Profi yn wahanol i brosiectau eraill – mae’n gorfodi rhywun i feddwl yn eang a sylweddoli beth mae’n gallu ei wneud.” CYFRANOGWR PROFI
Mae Profi yn rhaglen dysgu a mentora ymarferol sy’n herio disgyblion blwyddyn 12 yn ysgolion uwchradd Môn ac Arfon i ymateb i frîff a osodir gan fudiad cymunedol lleol fel Age Cymru, Gisda a Menter Iaith Môn. Mae’r rhaglen, a lansiwyd ym mis Tachwedd, yn cael ei hwyluso gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor a’i chefnogi gan gyflogwyr lleol, ac yn anelu at ehangu
gorwelion, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a rhoi hwb i hyder y bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Daw’r rhaglen i ben gyda digwyddiad hyrwyddo i’w gynnal gan Pontio, lle mae timau’n cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid, a phob un yn gobeithio ennill gwobr ariannol i’w fudiad cymunedol fel y gallant roi eu syniadau ar waith.
41
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi’r prosiect, cysylltwch ag Elen Bonner, Rheolwr Prosiect Profi ar 01248 382813 neu e.bonner@bangor.ac.uk Mae Profi wedi’i seilio ar raglen dysgu drwy brofiad i israddedigion Prifysgol Bangor,sef ‘Menter trwy Ddylunio’, a chaiff Profi ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn gyda chefnogaeth hael Nuclear Power Horizon a Santander, trwy Is-adran Fyd-eang Prifysgolion Santander. Cydgynhyrchwyd y gweithgareddau gan Pontio, Chris Walker - People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a disgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni.
Gyda chymorth hael
Nos Sadwrn, 12 Mawrth, 7pm Dydd Sul, 13 Mawrth, 2pm No Fit State a Chynllun BLAS Pontio yn cyflwyno
Mae Yna Le Theatr Bryn Terfel £10/£5 gostyngiadau Ble’r ei di i synfyfyrio? Dianc i gilfach gefn neu ddringo i ben coeden? Chwarae mig ynghanol trugareddau’r atig neu guddio tu ôl i honglad o soffa? Cilio i wardrob neu selar sy’n gybolfa o hen ddodrefn? Oes rhaid cael gofod gwag, cynfas wen i’w lliwio’n wahanol bob tro? Neu efallai dwnnel tywyll yn atsain o leisiau? Fyddi di’n gorffwys dy ben ar glustog o eiriau a melodïau neu’n siglo wyneb i waered er mwyn cael gweld y byd o’r newydd? Bydd y perfformiad yn consurio lle, gorffennol, sain, pleser, delwedd: hanesion anghyfarwydd, atgofion a breuddwydion dileferydd.
Caleidosgop o liwiau a symudiadau, pair o theatr, ffilm, syrcas a cherddoriaeth fyw i godi’ch calon i’r entrychion. Mae yna le i mi gael cyffwrdd, arogli a blasu fy mreuddwydion. Meiddiwch chi fy amau! Wedi ei lunio a’i greu gan Firenza Guidi, dyma ddigwyddiad cymunedol theatrig i ddathlu agoriad Pontio, mewn partneriaeth â phrosiect BLAS Pontio, ysgolion cynradd Bangor ac Ed Wright, Electroacwsteg Cymru.
Gyda diolch i’r holl feirdd a weithiodd yn agos gyda Pontio i wireddu cynllun HaDAsyniaDA a chynnig yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Mae Yna Le’: Tudur Dylan, Karen Owen, Gerwyn Wiliams, Ed Holden, Sian Northey, Eurig Salisbury, Llion Jones a Dewi Pws. 42
Llun: Seventh Wave
Mae yna le a phopeth yno’n bosib Mae yna le i fod yn fi fy hun ac yn fil o bobol eraill Mae yna le i glywed blodau’n tyfu a cherrig yn sibrwd alawon swynol Mae yna le i fydoedd ysgwyd llaw Ganllath o drothwy ‘nghartref.. FIRENZA GUIDI A PHOBL IFANC ARDAL BANGOR 43
Drama
Nos Iau, 17 Mawrth 7.30pm Theatr Bara Caws
Hogia Ni – Yma o Hyd Stiwdio £12/£10 gostyngiadau gan Meic Povey Yn nhafarn yr Alexandria, Caernarfon ar ddiwedd 2014, yn dilyn ymadawiad terfynol byddinoedd Ei Mawrhydi o dalaith Helmand, Affganistan, daw tri o gyn-filwyr at ei gilydd i hel atgofion. Ar yr wyneb, mae Iwan Jones, Diane Taylor a Telor Roberts yn byw bywydau ‘normal’ erbyn hyn, yn rhan eto o gymdeithas wâr.
Ond o dipyn i beth daw hi’n amlwg fod hynny ymhell o’r gwir, ac nad ydi profiadau hunllefus maes y gad byth yn eich gadael o ddifri’. Sylweddolant fod geiriau Plato - “dim ond y meirw welodd ddiwedd ar ryfel” mor berthnasol ag erioed, a fod y rhyfel ‘personol’ maent yn ymhel ag o o ddydd i ddydd mewn peryg o’u llorio. 44
Oedran: 14+
Cerddoriaeth
Nos Wener, 18 Mawrth 7.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Symffoni ‘Anorffenedig’ Neuadd Prichard-Jones
Ar ôl y cyngerdd – Jam yn y Bar Ymunwch â ni ym mar Ffynnon Pontio ar ôl y cyngerdd ar gyfer rhywbeth bach ychwanegol gyda rhai o berfformwyr gorau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Digwyddiad ar y cyd rhwng Pontio a’r BBC.
£15/£13.50 gostyngiadau Tocynnau Teulu: £15/£20, £5 myfyrwyr SCHUBERT Symffoni Rhif 8 ‘Anorffenedig’ HUW WATKINS Concerto Ffliwt MOZART Symffoni Rhif 40 THOMAS SØNDERGÅRD Arweinydd ADAM WALKER Ffliwt
Rydym yn croesawu’r ffliwtydd Adam Walker fel unawdydd i berfformio’r concerto a gyfansoddwyd ar ei gyfer gan ein Cyfansoddwr Cysylltiedig, Huw Watkins. Chwrligwgan o daith o’r dechrau i’r diwedd; mae’n dangos y rheolaeth sydd gan Adam ar yr offeryn, wedi’i gydbwyso’n ofalus ar balet o liw cerddorfaol. 45
Gyda’i halawon teimladwy, harmonïau bywiog a chyfuniadau creadigol o weadau cerddorfaol, mae Symffoni ‘Anorffenedig’ Schubert, gyda dim ond dau symudiad cyflawn, yn ategu’r Concerto i'r Ffliwt yn berffaith.
teulu
Dydd Sadwrn, 19 Mawrth 11am a 2pm
family
Crying Out Loud a Bikes and Rabbits yn cyflwyno
These Books Are Made For Walking Stiwdio £6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18) Mewn llyfrgell wag a hen ffasiwn, mae dau o bobl gyda hoffter anarferol o lyfrau’n cyfarfod a chychwyn ar daith chwareus. Gan ymgolli yng nghyfoeth a dyfnder llyfrau, mae’r ddau gymeriad yn chwarae gyda ffuglen. Caiff llyfrau eu trawsffurfio i fod yn hetiau a sliperi ac yn awyrennau papur sy’n hedfan drwy’r
awyr; caiff llyfrau eu bwyta a’u pentyrru ar ben ei gilydd yn uchel i ffurfio tirwedd simsan. Mae These Books Are Made for Walking yn ddarn dyfeisgar hyfryd o theatr a luniwyd gan Bikes and Rabbits, sy’n cymysgu sgiliau syrcas a theatr i greu gwaith beiddgar a hynod wreiddiol.
46
Hyd: 60 munud heb egwyl Addasrwydd oedran: Mae These Books Are Made for Walking wedi ei greu i gynulleidfaoedd o bob oed. Mae’n wych ar gyfer grwpiau, partïon a theulu estynedig. Rydym yn credu ei fod fwyaf addas i bobl 6 oed a hŷn oherwydd mae angen i gynulleidfaoedd eistedd a gwylio’r sioe ar ei hyd.
Drama Nos Sul, 20 Mawrth, 7.30pm Tangram Theatre Company
The Element in the Room: A Radioactive Musical Comedy about the Death and Life of Marie Curie Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Roedd bywyd Marie Curie yn un anghyffredin iawn, a gwnaeth ddarganfyddiadau gwyddonol anhygoel yn wyneb anawsterau anghredadwy. Dyma ei hanes, yn llawn darganfyddiadau sy’n mynd â’ch gwynt, a chaneuon hynod o wirion. Mae comedïau cerddorol Tangram am Darwin ac Einstein wedi cael canmoliaeth uchel gan bobl o bob cwr o’r byd a chan wyddonwyr ac wedi bod wrth fodd cynulleidfaoedd yng Nghaeredin. Mae’r sioe newydd sbon hon yn cwblhau’r ‘Scientrilogy’ hynod lwyddiannus. Ystod oedran: 11 oed i 111 oed
Cymryd Rhan
Pontio yn galw ar wyddonwyr ac artistiaid! Be all ddigwydd yn y gofod hwnnw rhwng moleciwlau a marimba, aria ac arian byw? Yn Eisteddfod Meifod eleni lansiwyd Cronfa beilot SYNTHESIS gan Pontio gyda’r bwriad o annog 2 bâr gwahanol o wyddonwyr ac artistiaid i ddatblygu syniadau gyda’i gilydd sydd yn pontio’r ddau fyd. Gwahoddir ceisiadau ar y cyd gan wyddonwyr ac artistiaid (o’r maes celfyddydau perfformio) am y gronfa o £2,000 y pâr.
Dyddiad cau: Ionawr 7 2016. Cyhoeddir enwau’r prosiectau llwyddiannus Nos Sul 20fed o Fawrth am 6.45pm yn ystod wythnos Gŵyl Wyddoniaeth Bangor. Cyllidir 2 brosiect llwyddiannus, i gychwyn Ebrill 2016. Am wybodaeth pellach cysylltwch â info@pontio.co.uk 47
Cerddoriaeth
Nos Fawrth, 22 Mawrth 7pm Sistema Cymru – Codi’r To!
Cyngerdd Dathlu 2il Ben-blwydd Theatr Bryn Terfel £5/£2 gostyngiadau Wedi ei ysbrydoli gan yr enwog El Sistema o Venezuela, mae Codi’r To yn brosiect cymunedol, sy’n gweithio gydag ysgolion cynradd a’u cymunedau i ddarparu profiadau cerddorol ac addysg offerynnol.
Dewch i ddathlu ail benblwydd Codi’r To gyda cherddorion ifanc Ysgol Glancegin, Bangor, fydd yn siwr o godi’r to gyda chôr, band pres, band chwyth a band Samba!
48
Cerddoriaeth
“Tempos are often exhilarating, & the ensemble interplay is fiery. The colours & textures are beautifully layered but spaciously uncluttered lending the Breabach sound a depth & definition that only strengthens its impact.”
Nos Wener, 1 Ebrill 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno
SONGLINES
Breabach Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Mae’r cyntaf o ddau fand o’r Alban fydd yn perfformio ym mis Ebrill, y band pum offeryn Breabach, yn cyflwyno cerddoriaeth werin fodern wefreiddiol ac unigryw, sydd wedi ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol ym myd cerddoriaeth fel un o’r bandiau mwyaf dynamig a chyffrous. Mae’r band wedi ennill ‘Band Byw Gorau 2013’ a ’Band Gwerin Gorau 2012‘ yng Ngwobrau Cerddoriaeth
Draddodiadol yr Alban yn ogystal â chael eu henwebu ddwywaith am y ‘Band Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2. Yn dilyn pum mlynedd prysur yn teithio’r byd, gan fynd ar daith o amgylch Awstralia, Seland Newydd, Asia, Gogledd America, Sgandinafia a’r Dwyrain Canol, mae Breabach yn falch o gael cyhoeddi eu pumed albwm stiwdio, Astar (pellter neu daith yng Ngaeleg yr Alban). 49
Mae Breabach yn cyfuno talent Calum MacCrimmon (pibau/ chwibanau/bouzouki/ llais), Ewan Robertson (gitar/ llais), James Mackenzie (pibau/ffliwt/chwibanau), Megan Henderson (ffidl/ llais/ dawns stepio) a James Lindsay (bas dwbl). Caniateir cario diodydd i mewn i’r theatr yn ystod digwyddiadau Cabaret Pontio.
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 2 Ebrill 7.30pm
Llŷr Williams a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl Meistri Fienna Theatr Bryn Terfel £15/£13 gostyngiadau Haydn Symffoni Rhif 96 ‘Miracle’ Beethoven Concerto Piano Rhif 5 Brahms Symffoni Rhif 1 Arweinydd Vasily Petrenko Piano Llŷr Williams Caiff ei galw’n “Beethoven’s Tenth” – a threuliodd Brahms ddeg mlynedd yn cyfansoddi ei Symffoni Gyntaf. Mae’n un o’r darnau hynny mae’n rhaid ei glywed yn cael ei berfformio’n fyw – taith epig o drasiedi i orfoledd wedi ei goroni gan alaw sy’n deilwng o Ludwig ei hun. Cred Vasily Petrenko ei fod yn fwy na theilwng o sefyll
ochr yn ochr â Choncerto Piano Rhif 5 Beethoven. Caiff ei adnabod am ei urddas a’i ysbryd arwrol a bydd yn cael ei berfformio gan Llŷr Williams. A pa ffordd well i ddechrau’r noson na gyda symffoni egnïol, ddychmygus a ffraeth a gyfansoddwyd gan athro Beethoven, Haydn, a’i hysgrifennodd yn arbennig i swyno cynulleidfaoedd ym Mhrydain? Mae’r pianydd o Gymru, Llŷr Williams* - yn hynod o boblogaidd ac yn cael ei edmygu am ei ddeallusrwydd cerddorol dwfn, ac am natur llawn mynegiant ei ddehongliadau. Bydd Llŷr yn perfformio gyda
* Pianydd preswyl Galeri Caernarfon yw Llŷr Williams.
50
Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl a hynny ar biano cyngerdd Steinway model D a ddewiswyd ganddo yn arbennig ar gyfer Pontio. Mae’n bleser gan Pontio groesawu Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn ôl i Fangor ar ôl peth amser. Mae cerddorfa symffoni broffesiynol hynaf Prydain, y ‘Liverpool Phil’ wedi bod wrth galon diwylliant Lerpwl ers 1840.
Gyda diolch i Gronfa Gaynor CemlynJones am eu rhodd hael sef y piano cyngerdd Steinway, ac am eu cyfraniad i'r celfyddydau yng Ngogledd Cymru
51
Dydd Sadwrn, 9 Ebrill 11am a 2pm Lyngo Theatre yn cyflwyno
Puss in Boots Stiwdio £6/£20 Tocyn Ffrindiau a Theulu (4 person, un i fod o dan 18 oed) Sioe gan Marcello Chiarenza Wedi ei haddasu a’i pherfformio gan Patrick Lynch Cerddoriaeth gan Carlo ‘Cialdo’ Capelli Cynorthwyydd dylunio Elena Marini Oed 4+
A fyddai gennych ffydd mewn cath sy’n siarad? Wyddoch chi byth, gallai eich newid o dlotyn i dywysog fel arwr y stori hon a ddaw yn fyw ac yn fywiog ar ein llwyfan llethrog anhygoel trwy Patrick Lynch o Cbeebies: Gan ddefnyddio mwg a drychau a thrapddorau cudd bydd yn
52
dangos i chi sut mae’r gath ysgafndroed hon yn twyllo’r Brenin a’r Cawr er mwyn rhoi ei feistr ar y brig. Gyda llu o bypedau, melin wynt go iawn a rhaeadr o ffrwythau a chnau dewch i weld y chwedl glasurol hon, mae’n “gathgam” o stori dda!
Cerddoriaeth
Nos Wener, 15 Ebrill 7.30pm
Treacherous Orchestra Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Yr ail fand o’r Alban i ymddangos yn Pontio y mis yma! Mae gig Treacherous Orchestra yn brofiad cwbl unigryw. Trwy eu cerddoriaeth mae’r band yn mynd â’r gwrandawr ar daith sy’n cwmpasu sawl emosiwn, naws a thempo, yn aml o fewn munudau! Mae Treacherous Orchestra yn rym pwerus mewn cerddoriaeth Albanaidd; band gwerin mawr gydag un ar ddeg o aelodau sy’n cyflwyno perfformiadau byw epig, tanllyd noson ar ôl noson.
Ar y llwyfan mae’r chwaraewyr yn rhoi sioe werth chweil, wrth iddyn nhw gymysgu’r alawon gwreiddiol gydag agwedd roc anarchaidd theatraidd. Dyma fand sy’n mynd â ni i’r entrychion, yn dechnegol, yn drawiadol ac eto’n herfeiddiol o gignoeth. Mae eu sioeau bob amser yn llawn bywyd ac yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo’n wirioneddol fyw ac yn y foment. Gig sefyll.
53
“Treacherous Orchestra are a brave, loud 11-piece folk big band influenced by rock as well as traditional Celtic styles - rousing fusion from the vibrant Scottish scene” THE GUARDIAN
Dawns a Syrcas
Nos Sadwrn, 16 Ebrill 7.30pm Citrus Arts
Savage Hart Theatr Bryn Terfel
Yn ystod eu hymweliad cyntaf, bydd Citrus Arts yn gweithio gyda phlant sy’n cymryd rhan ym mhroject BLAS gyda Pontio i greu perfformiad byr fydd ymlaen cyn Savage Hart.
£12/£8 gostyngiadau Cyfunir celfyddyd yn yr awyr, bale a syrcas i greu stori hudolus am Uchelwr Cymreig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae ysbrydion o’i orffennol yn aflonyddu arno. Sefydlwyd Citrus Arts gan ddau o wneuthurwyr syrcas theatraidd gorau Prydain, sy’n adnabyddus am greu gweithiau eithriadol o brydferth gyda thîm
o artistiaid talentog a phrydferthwch theatraidd cyfoethog.
natur yn erbyn mileindra cudd byd yr anifeiliaid yw Savage Hart.
Daw’r ysbrydoliaeth o storïau Thomas Johnes a’i gyndeidiau o Stad yr Hafod yng nghanolbarth Cymru, sydd bellach yn gasgliad o adfeilion ble mae byd natur yn prysur oresgyn olion trefn ddynol. Dameg am arglwyddiaeth dyn dros fyd
Mae teulu o geirw a laddwyd wedi bod yn gwylio neuadd fwyta gŵr creulon, ond nawr maent wedi rhoi eu pennau at ei gilydd i roi cynllun ar waith.
54
Addas ar gyfer oedran 10+
Cymryd Rhan
Dydd Llun 11-Dydd Sul 17 Ebrill Preswyliad National Theatre Wales
Gwnaethpwyd Ym Mangor Bydd National Theatre Wales yn ymgartrefu yn Pontio am breswyliad o wythnos, ac rydym eisiau i chi ymuno â ni. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddathlu doniau’r ddinas - yn cefnogi, datblygu a darparu llwyfan creadigol i artistiaid, cerddorion, beirdd, actorion a selogion o bob rhan o Fangor. Mae preswyliadau eraill (mewn lleoedd cyn belled â Tokyo ac mor agos ag Ynys Môn) wedi
cynnwys cydweithio gydag artistiaid lleol, perfformio gwaith newydd, cystadlaethau stomp meic agored, perfformiadau/ digwyddiadau yn trafod pethau sy’n bwysig i chi a pherfformiadau gan fandiau lleol, i gyd AM DDIM. Dewch i ddarganfod eich creadigrwydd mewnol gyda National Theatre Wales a chymryd rhan yn GWNAETHPWYD YM MANGOR - MADE IN BANGOR.
55
E-bost: madeinbangor@ nationaltheatrewales.org Trydar: @ntwtweets #ntwbangor Bydd digwyddiad rhannu ddydd Sul, 17 Ebrill am 3pm. Digwyddiad am ddim. Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio.
Cerddoriaeth
Llun: Dewi Glyn Jones
Nos Fawrth, 19 Ebrill 7.30pm
Llechi / Slate Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Rydym wedi rhoi lle amlwg i hanes a diwylliant y diwydiant llechi yn y rhaglen hon. Gwelwyd hyn eisoes gyda chynhyrchiad Chwalfa a hefyd gyda dyfodiad CABAN, darn o gelf cyhoeddus cyfoes a chyffrous sydd wedi ymgartrefu yn nhirlun Pontio. I gyd-fynd a'r pwyslais ar ein treftadaeth, mae Pontio yn falch o bartneriaethu gyda grŵp gwerin 9Bach, i greu noson arloesol o ddeunydd newydd.
gwobr yr albwm gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 fis Ebrill 2014. Heno, ac yn arbennig ar gyfer tymor agoriadol Pontio maent yn gwahodd cerddorion, dawnswyr, gwneuthurwyr ffilm a beirdd sydd â chysylltiadau ag ardal Bethesda, i gyd-greu a pherfformio deunydd newydd sbon wedi ei ysbrydoli gan Lechi.
Mae 9Bach ar label Recordiau Real World ac wedi cael blwyddyn anhygoel gan ennill 56
Yn rhan o’r creu gyda 9Bach mae: Lleuwen Steffan Côr y Penrhyn Kate Lawrence Dyl Goch a Ieuan Wyn Bydd cyfle i fwynhau ffrwyth llafur prosiect addysgiadol cysylltiol dan ofal Cerdd Cymunedol Cymru yng ngofodau cyhoeddus y ganolfan ar y noson.
Comedi
(Ch - Dd) Brennan Reece, Phil Jerrod, Andy Robinson
Nos Fawrth, 19 Ebrill 8pm
Brennan Reece, Phil Jerrod, Andy Robinson Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Cafodd Brennan Reece ei goroni yn Gomedïwr Saesneg y Flwyddyn yn ddiweddar. Mae ei olwg anarferol ar fywyd yn cael ei gyfleu yn ei storïau bywiog a lliwgar. Ymddangosodd ar raglen BBC Marvellous, Skins ar Sianel 4 a Winner of Don’t Stop Me Now ar Sky One. Mae wedi perfformio ar hyd a lled y wlad ac yn ddiweddar bu’n cefnogi Joe Lycett ar ei daith o amgylch Prydain. Mae Brennan yn prysur wneud enw iddo’i hun ym myd comedi.
Dechreuodd Phil Jerrod ei yrfa stand up o dan Angus Steakhouse yn 2012. Ers hynny, mae wedi methu ei radd PhD, wedi cerdded allan o’i swydd ym maes cyhoeddi ac wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd hyd a lled y wlad, gan ei dweud hi fel ag y mae hi am broblemau annealladwy bywyd modern.
57
Mae Andy Robinson wedi cynnal dros 2000 o gigs ar draws y wlad, gan gynnwys Clybiau Glee, Comedy Stores, Highlights a Jongleurs ac mewn mannau cymharol ddi-nod. Mae wedi cefnogi Sean Lock, Rich Hall a Paddy McGuiness, ac mae’n cefnogi Jo Brand yn aml ac wedi gweithio gyda hi dros y deng mlynedd diwethaf. Mae hefyd wedi cefnogi’r cerddor jazz enwog, John MacLaughlin.
Digwyddiad
Nos Fercher, 20 Ebrill 7.30pm
Dementia Dan Sylw Stiwdio £14/£12 gostyngiadau Noson yng Ngwmni’r Ddarlledwraig Beti George, yr Athro Bob Woods a’r bardd John Killick. Mae dementia yn effeithio ar fywydau un o bob tri ohonom. Mae tystiolaeth gynyddol bod gan y celfyddydau gyfraniad pwysig i’w wneud i wella ansawdd bywyd pobl sydd yn byw gyda’r cyflwr. Bydd y ddarlledwraig Beti George yn gofyn pam fod hyn yn wir gan arwain sgwrs gyda chyd sylfaenydd Canolfan Datblygu Gwasanethau Dementia Cymru, Prifysgol Bangor, yr Athro Bob Woods, a’r bardd John Killick.
Bydd y noson yn cynnwys darlleniadau o gerddi grewyd gan Cefin Roberts, Manon Steffan Ros a Sian Northey, fel rhan o brosiect barddoniaeth a dementia Pontio gyda’r awdur John Killick, mewn cydweithrediad â Tŷ Newydd. Byddwn yn clywed gan rai sydd yn byw gyda dementia ac yn cael perfformiad gan gerddor preswyl prosiect “Corneli Cudd” Pontio, Manon Llwyd. Cawn weld clipiau ffilm o’r prosiect a chlywed casgliadau ymchwil gan Dr Gwawr Ifan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Bangor.
58
Bydd cyfraniad arbennig hefyd gan y dawnsiwr a’r coreograffydd Cai Tomos, a fydd yn dangos i ni sut mae artistiaid hwythau yn cael eu sbarduno yn greadigol gan bobl sydd yn byw gyda dementia. Darperir offer cyfieithu ar y pryd. Noson mewn cydweithrediad â Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Drama
Llun: Toby Williams www.no27media.com
Nos Sadwrn, 23 Ebrill 7.30pm Cymdeithasau Drama Prifysgol Bangor yn cyflwyno
Prosiect Drama’r Myfyrwyr Theatr Bryn Terfel £3 Bydd Cymdeithasau Drama Undeb y Myfyrwyr Bangor yn dod â’r profiad theatrig gorau i chi a all wneud i chi chwerthin, grio neu gyfuniad o’r ddau. Bydd yn theatr ffres a bywiog yn cynnwys gwaith gan fyfyrwyr daearyddiaeth,
seicoleg, cerddoriaeth a gwyddoniaeth yn ogystal â myfyrwyr theatr. Maent yn fyfyrwyr sy’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gweithio’n ddiflino i ddifyrru’r gynulleidfa.
59
Drama
Nos Fawrth, 26 Ebrill 7.30pm Cwmni Pendraw
Mr Bulkeley o’r Brynddu Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau Gan Wyn Bowen Harries gyda chydweithrediad Theatr Bara Caws Addasiad o Ddyddiaduron William Buckeley Mae dyddiaduron William Buckeley yn rhoi darlun gwych i ni o fywyd cefn gwlad ynghyd â bywyd bonheddwyr Môn yng nghanol y 18fed ganrif.
Bydd y cynhyrchiad bywiog hwn o ddiddordeb i holl fynychwyr theatr sy’n hoffi stori dda. Roedd bywyd William Buckeley fel opera sebon anhygoel. Nodwyd nifer o ganeuon yn y dyddiaduron ac fe gynhwysir digonedd o gerddoriaeth fyw yn y perfformiad. Oedran 11+
60
Cerddoriaeth
Nos Fercher Ebrill 27 / Nos Iau Ebrill 28 7.30pm
Preswyliad Pedwarawd Benyounes Estynwn groeso i bedwarawd ysbrydoledig Benyounes i Fangor unwaith eto ar gyfer deuddydd o gyngherddau a gweithgareddau cymunedol ar gyfer plant cyn ysgol a chynradd, plant ag anghenion arbennig a phreswylwyr mewn canolfan gofal dementia, yn ogystal â selogion cyngherddau clasurol.
Cyngerdd Pedwarawd Benyounes Nos Fercher, 27 Ebrill 7.30pm Theatr Bryn Terfel £14/ £10/ £5 Bydd y cyngerdd thematig yma yn rhoi sylw i’r modd y chwiliai cyfansoddwyr clasurol am ysbrydoliaeth trwy edrych ar draddodiadau gwerin eu gwledydd. Ochr yn ochr â gweithiau gan gyfansoddwyr megis Dvórak a Kodály, bydd Pedwarawd Benyounes hefyd yn perfformio pedwarawd a ysgrifennwyd gan Kapralova, cyfansoddwraig o fri o gyfnod Ravel ac Janáček.
“Dewch i gwrdd a Antonin Dvořák” – cyngerdd amser cinio i blant
Pedwarawd Benyounes: Gweithiau cyntaf ac olaf
Dydd Iau, 28 Ebrill 1.00pm - 2.00pm Stiwdio £2 (Addas i Bl 5 a 6)
Nos Iau, 28 Ebrill 7.30pm Neuadd Powis £14/£10/£5
Gan adeiladu ar lwyddiant cyngerdd amser cinio ‘”Papa Haydn” y llynedd ymunwn â Phedwarawd Benyounes ar daith o goedwigoedd Bohemia yn Nwyrain Ewrop hyd at reilffyrdd y Byd Newydd.
Mae cyngerdd heno yn cynnwys gweithiau olaf y cyfansoddwyr cerddoriaeth siambr o fri: Haydn, Beethoven a Schubert. Yn ymuno â Phedwarawd Benyounes i chwarae pedwarawd aruchel Schubert bydd y sielydd Philip Higham. Ochr yn ochr â’r gweithiau hyn bydd premier o waith gan Simon Bainbridge.
Nod y cyngerdd rhyngweithiol hwn yw annog sgiliau gwrando a chael hwyl! 61
Comedi
Nos Wener, 29 Ebrill 8pm Off The Kerb Productions yn cyflwyno
Russell Kane Right Man, Wrong Age Theatr Bryn Terfel £16 Ydych chi’n 16 oed ond eto’n teimlo’n 21? Ydych chi’n 40, ond yn honni eich bod yn 25? Neu efallai eich bod wedi cyrraedd 80 oed, gyda chalon fel tri bustach a ‘sex drive’ tsimpansî. Peidiwch â phoeni: mae hyn yn naturiol. Dydyn ni byth yr oedran ‘cywir’ – dyma yw hyfrydwch a melltith bod yn berson go iawn. Yn y sioe newydd hon, bydd Russell Kane yn cyflwyno perfformiad stand up gwefreiddiol a hynod o ddoniol am dyfu fyny, tyfu lawr a pham fod rhechu bob amser yn mynd i fod yn ddoniol.
Mae Russell Kane, y comedïwr anhygoel sydd hefyd yn gyflwynydd, actor, awdur a sgriptiwr, yn cael ei adnabod yn bennaf am ei waith fel cyflwynydd tair cyfres o Live At The Electric ar BBC3, ymddangosiadau rheolaidd ar Live At Apollo ar BBC1, Unzipped ar BBC3 a Celebrity Juice ac I’m A Celebrity Get Me Out of Here! Now! ar ITV2. Oedran 15+
62
Lluniau gyda diolch i Wasanaeth Archifau Gwynedd
Nos Sadwrn, 30 Ebrill 7.30pm Pontio yn cyflwyno
Gwaddol: Dathlu Theatr Gwynedd Theatr Bryn Terfel £12/ £10 / £8 gostyngiadau Darparodd Theatr Gwynedd, rhagflaenydd Pontio, gartref i’r ddrama Gymraeg a’r celfyddydau ym Mangor a’r fro am bron i ddeugain mlynedd, gan ennill lle yng nghalonau’r gymuned a thrwy Gymru.
y ddeuawd bytholwyrdd John Ogwen a Maureen Rhys, Iwan Charles a phlant ysgol Llanllechid ac Alys Williams, wyres sylfaenydd Theatr Gwynedd Wilbert Lloyd Roberts a seren cyfres “The Voice”.
Yng nghwmni mawrion y theatr, artistiaid a ffrindiau, bydd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn ail ymweld ag egni a bwrlwm y dyddiau a fu mewn cân, dawns a drama. Bydd John Pierce Jones a Cefin Roberts yn rhannu eu hatgofion gyda ni ac fe gawn ni fwynhau perfformiadau arbennig gan
Bydd Ysgol Ddawns a Chelfyddydau Perfformio Gwynedd yn ail-greu dathliad cyffrous o theatr gerdd a dawns gyda’r noson yn cyrraedd ei hanterth mewn perfformiad o gân gomisiwn wedi ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gan Gôr Ieuenctid Môn. 63
Byddwn yn sgrinio atgofion staff Theatr Gwynedd ac aelodau triw o‘r gynulleidfa, o’r theatr a’i chynyrchiadau, atgofion a gasglwyd gan Pontio dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y rhain hefyd i’w gweld fel rhan o Arddangosfa Gwaddol. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Gwybodaeth Gyffredinol Archebu Ar-lein tocynnau.pontio.co.uk Dros y ffôn 01248 38 28 28 Yn Bersonol Gallwch brynu tocynnau o Siop Pontio, Stryd Fawr, Bangor. Oriau agor: Llun, Mawrth, Mercher – 10am-5pm Iau, Gwener – 9am-5pm Sadwrn -10am-3pm Bydd y Swyddfa Docynnau yn gweithredu o’r stryd fawr cyn symud i’r ganolfan yn ystod y tymor agoriadol. Bydd oriau’r Swyddfa Docynnau yn ymestyn unwaith y mae Pontio ar agor. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth. Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac, yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan www.tickets. pontio.co.uk/online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Yna, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau.
Teuluoedd Mae Pontio wedi ymrwymo i gynnal perfformiadau a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl ifanc a’u teuluoedd. Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadauPontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a’r rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhywun o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i fewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.
64
Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun. Gallwch hefyd gael gwybod os gallwch chi, neu’r person rydych yn gofalu amdano/i, ymuno â’r cynllun a chwblhau ffurflen gais. Fel arall, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28 i siarad ag aelod staff am Hynt yn Pontio. Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd 30 munud ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau.
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, cysylltwch â ni ar 01248 388 421
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am beth sydd ymlaen, newyddion a chynigion arbennig Os ydych yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, fe fyddwn yn creu cyfrif ar-lein ar eich cyfer I weld polisi preifatrwydd Pontio, edrychwch ar: tickets.pontio.co.uk/online/data
Enw
E-bost
Cyfeiriad
Côd post
Ffôn:
Ychydig o wybodaeth amdanoch chi. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i ddarganfod mwy am ein hymwelwyr yn unig
Ym mha fath o ddigwyddiadau mae eich diddordeb mwyaf? Cerddoriaeth
Drama
Teulu
Cymryd Rhan
Comedi
Dawns a Syrcas
Digwyddiadau
Ffilm
Gwryw
Benyw
Ydych chi’n fyfyriwr?
Sut hoffech chi dderbyn gwybodaeth?
Ebost
Post
Anfonwch at: Pontio, Prifysgol Bangor, RHADBOST, Bangor, Gwynedd, LL57 2BR 65
66