Taflen Wybodaeth Lles staff

Page 1

Mae’r ddogfen hon yn tynnu sylw at y ddarpariaeth fewnol ac allanol sydd ar gael i helpu staff i wella, a hyrwyddo, eu lles meddyliol, emosiynol a chorfforol. Cafodd yr wybodaeth ganlynol ei llunio i adlewyrchu gwahanol lefelau ac angen am gefnogaeth ar fyrder, gan ddechrau gyda chefnogaeth ar unwaith (COCH), cefnogaeth ganolraddol i wella lles (OREN), ac adnoddau i helpu hyrwyddo lles (GWYRDD). Gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer iechyd a lles y staff.

Hyrwyddo lles DATBLYGU LLES STAFF YN Y GWAITH Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu personol a phroffesiynol i staff ym mhob swydd.. Ewch i'r dudalen datblygu staff am fanylion sut mae cofrestru: • • • •

• •

Sesiynau hyfforddi a datblygu mewnol pwrpasol Cynlluniau hyfforddi a mentora academaidd Hyfforddiant I-act Cofio Iechyd Meddwl Mae’r cwrs ar-lein hwn wedi ei lunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. I gael mynediad at y cyfle dysgu hwn, cliciwch yma Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru Ymateb i ddatgeliadau o drais rhywiol Mae'r cwrs hwn wedi ei lunio i gynorthwyo staff i dderbyn datgeliad o drais rhywiol gan fyfyriwr. Mae'r cwrs yn rhyngweithiol ac yn cynnwys nifer o fideos byr, astudiaethau achos, erthyglau newyddion a gweithgareddau. Dylai gymryd tua 1-2 awr i'w wneud i gyd. Cliciwch yma i gyrchu'r cwrs hwn

ADNODDAU RHYNGWEITHIOL A CHANLLAWIAU YMARFEROL Y BRIFYSGOL Mae gwefan Gofal yn Gyntaf yn cynnwys adnoddau ac erthyglau ar amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl yn cynnwys cadw’n heini’n feddyliol, cysgu’n braf, rheoli straen, hunan-barch, a chydbwysedd gwaith/bywyd. Mae Ap Zest Gofal yn gyntaf a ddarperir gan My Possible Self, yn cynnig cyfresi o dan arweiniad a phecyn cymorth o dechnegau ac ymarferion rhyngweithiol i'ch helpu i wneud synnwyr o broblemau, nodi’r arferion rydych am eu newid, a dysgu dulliau ymdopi er mwyn byw'n hapusach ac yn iachach. Mae Gofalu am Eich Meddwl yn cynnwys awgrymiadau a dulliau o gefnogi arferion a dulliau iechyd meddwl da i nodi ac ymdrin yn effeithiol ag achosion o drallod

1


Mae Rheoli straen a lles yn gadarnhaol yn cyflwyno ystyriaethau allweddol mewn perthynas â rheoli'r pwysau arferol sy'n dod yn sgil addasu i newid. Mae Straen yn y gwaith yn cyflwyno polisi straen y brifysgol ac yn darparu canllawiau ac offer hunanasesu wedi eu teilwra sy'n ymwneud â nodi a rheoli straen yn y gwaith. Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig sesiynau adfyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o sesiynau myfyrio’n rhad ac am ddim ar-lein ar Zoom dan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos. I gael rhagor o hunangymorth ac adnoddau gwybodaeth allanol i gefnogi lles meddyliol, ewch i Adnoddau ar gyfer lles meddyliol cadarnhaol ar wefan Iechyd a Lles. Y GAPLANIAETH A DARPARIAETH FFYDD Caiff Caplaniaeth a darpariaeth ffydd <https://www.bangor.ac.uk/studentservices/faith/index.php.en> ym Mhrifysgol Bangor eu harwain gan ddeuddeg o unigolion o ffydd a chefndiroedd crefyddol amrywiol. Maent yma i wrando, i weddïo gyda chi, i dafod agweddau ar fywyd a ffydd, ac mae rhai yn cynnig arweiniad a mentora ysbrydol.

GWEITHGAREDDAU CORFFOROL AR GYFER IECHYD A LLES CYFLEUSTERAU CHWARAEON A HAMDDEN Mae gan y brifysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do ac awyr agored ar draws pedwar safle’r brifysgol. Canolfan Brailsford yw prif ganolfan chwaraeon y brifysgol ar gyfer aelodau Prifysgol Bangor a'r gymuned leol. Mae'n gartref i amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys Astroturf, wal ddringo, campfeydd, llwyfan perfformio, cyrtiau sboncen a llawer mwy. Mae rhaglen ffitrwydd <https://www.bangor.ac.uk/sportbangor/classes> yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys rhaglen feicio ‘spinning’, ioga, Pilates, hyfforddiant dwysedd uchel ysbeidiol, a bocsio. Gall sesiynau hyfforddiant personol <https://www.bangor.ac.uk/sportbangor/personal-training> helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau iechyd a ffitrwydd yn gyflymach, gwella techneg a ffurf, a dyfeisio trefn ffitrwydd wedi'i theilwra i anghenion a dewisiadau personol. Mae cynllun didynnu cyflog at aelodaeth o Ganolfan Brailsford ar gael i staff y brifysgol. STAFF ACTIF A BŴTCAMP Mae Staff Actif <https://www.bangor.ac.uk/sportbangor/active-staff> yn rhaglen o weithgareddau sy’n cynnig cyfle i staff brofi gweithgaredd newydd bob mis o'r flwyddyn. Gall staff roi cynnig ar ddosbarthiadau mewn 2


ystum ac iechyd y cefn, bocsio, soffa i 5km, saethyddiaeth a llawer mwy. Mae Bwtcamp Staff <https://www.bangor.ac.uk/sportbangor/active-staff> wedi'i gynllunio i adeiladu cryfder a ffitrwydd trwy gymysgedd o weithgareddau aerobig, hyfforddiant cryfder a chyflymder. Mae Staff Actif a Bŵtcamp yn costio £2 y sesiwn ac nid oes rhaid i staff fod yn aelod o Ganolfan Brailsford i ymuno. CYNLLUN BEICIO I’R GWAITH Mae'r cynllun beicio i'r gwaith yn galluogi staff i gael budd o logi beiciau ac offer cymudo yn y tymor hir. Mae'n gynllun lle nad oes angen talu treth ac Yswiriant Gwladol a sefydlwyd gan y Llywodraeth a'r Adran Drafnidiaeth i helpu hyrwyddo teithio iachach i'r gwaith a lleihau llygredd a thagfeydd. Ewch i Buddion Bangor i gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn y cynllun hwn. NOFIO Mae nofio yn ymarfer ysgafn gwych sy'n defnyddio pob grŵp o gyhyrau ac yn ymarfer i’r corff cyfan. Os ydych yn mwynhau nofio i gadw’n heini neu ar gyfer hamdden, gallwch ddewis o sawl lleoliad ar draws y gogledd. Gweld lle mae eich canolfan nofio a hamdden leol. CERDDED Mae cerdded yn un o'r ffyrdd symlaf o sicrhau iechyd a ffitrwydd cyffredinol. Mae ein tudalen o deithiau cerdded yn cynnwys teithiau cerdded amser cinio o wahanol fannau ar safleoedd ym Mangor a Phorthaethwy a rhai teithiau cerdded hanesyddol i ddysgu am hanes a threftadaeth leol. Gallwch hefyd weld casgliad o deithiau cerdded gyda’r golygfeydd gorau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn Llŷn, Llwybr Arfordir Môn, a Sir Conwy.

EICH CEFNOGI I GAEL IECHYD CORFFOROL LLAWN Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o wasanaethau i helpu i roi sylw i gyflyrau iechyd corfforol. LEAF HEALTH Mae Canolfan Brailsford mewn partneriaeth â LEAF Health yn cynnig amrywiaeth o driniaethau. Caiff staff a myfyrwyr y brifysgol ostyngiad o 10% ar bob triniaeth, fel therapi chwaraeon a thylino, osteopathi, aciwbigo a llawer mwy. IECHYD GALWEDIGAETHOL Mae Iechyd Galwedigaethol yn helpu staff sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl afiechyd. Mae’n sicrhau bod mesurau priodol ar waith i gefnogi staff sydd â phroblemau iechyd i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol. RCS CYMRU I aelodau staff sy'n sâl o'r gwaith, neu'n ei chael hi'n anodd gweithio gyda chyflwr iechyd, mae RCS Cymru’n cynnig gwasanaethau ffisiotherapi am ddim, ac arweiniad arbenigol ac ymarferion i'ch helpu i wella'ch iechyd corfforol ac ymdrin ag unrhyw broblemau cyhyrysgerbydol sy'n effeithio ar eich gallu i weithio'n effeithiol.

3


I gael rhagor o wybodaeth am adnoddau a ffyrdd i fod yn egnïol yn gorfforol a gwella'ch iechyd, ewch i dudalen gweithgarwch corfforol ar wefan Iechyd a Lles

Cefnogaeth ganolraddol GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL CYMUNEDOL Y GIG CANOLFAN IECHYD MEDDWL BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) yn darparu gwybodaeth a chyfeiriadau at amryw o wasanaethau lleol yn y gymuned i gefnogi iechyd meddwl a lles. Mae'r rheini’n cynnwys meddygfeydd y Meddygon Teulu, Hwb Cymunedol GALLAF, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, Monitro Gweithredol a therapïau Parabl. I weld rhestr gyflawn o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael gweler gwefan iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr <https://bcuhb.nhs.wales/services/healthservices1/services1/services/mental-health/> CYRSIAU IECHYD A LLES Mae Swyddfa Hunanofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal nifer o gyrsiau iechyd a lles am ddim i oedolion sy'n byw mewn cymunedau ledled y gogledd i helpu gwella lles a rheoli cyflyrau iechyd tymor hir yn effeithiol. Ymhlith y cyrsiau mae Pum Ffordd at Les, Cysylltu â Phobl, Bwyta’n Gall, Calonnau Iach a llawer mwy. THERAPI AR-LEIN SILVERCLOUD Gall pobl ledled Cymru gael mynediad at therapi ar-lein am ddim heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu.

Mae SilverCloud yn llwyfan therapi ar-lein sy'n defnyddio dulliau a brofwyd fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd maent yn meddwl ac ymddwyn. Gall pobl 16 oed a hŷn sy’n profi gorbryder ysgafn i gymedrol, iselder neu straen gofrestru ar gyfer cwrs 12 wythnos o therapi ar-lein SilverCloud. Gallwch ddewis o un o 17 o raglenni iechyd meddwl a lles ar-lein, gan gynnwys help gyda gorbryder, iselder, straen, cwsg, a phryderon ariannol.

Y CYMORTH IECHYD MEDDWL SYDD AR GAEL TRWY BRIFYSGOL BANGOR CWNSELA TYMOR BYR Cwnsela Gofal yn Gyntaf Mynediad uniongyrchol ac yn syth bin at gwnsela dros y ffôn am ddim neu ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Ffôn:0800 174319 I gael mwy o wybodaeth am Ofal yn gyntaf, Rhaglen Cymorth i Weithwyr y brifysgol, gweler tudalen we Gofal yn gyntaf yn yr Adnoddau Dynol 4


Cwnsela RCS Os ydych yn sâl ac i ffwrdd o'r gwaith, neu'n cael trafferth yn y gwaith, mae RCS Cymru <https://rcswales.co.uk/en/supporting-you-at-work/> yn darparu mynediad cyflym at gwrs o chwe sesiwn cwnsela neu ffisiotherapi am ddim i roi sylw i gyflyrau iechyd fel straen, hwyliau isel, neu boen cefn. Ffôn: 01745 336442 E-bost: hello@rcs-wales.co.uk IECHYD GALWEDIGAETHOL Os oes gennych bryderon am eich iechyd a'ch gallu i wneud eich gwaith neu os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch, gallwch ofyn am gyngor ac ymgynghoriad gan Iechyd Galwedigaethol. Ewch i Iechyd Galwedigaethol i gael rhagor o wybodaeth ar y llwybrau atgyfeirio a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael.

Cefnogaeth ar unwaith LLINELLAU CYMORTH BRYS 24 AWR Tîm Diogelwch Prifysgol Bangor Y Tîm Diogelwch sy'n gyfrifol am ddiogelwch y myfyrwyr, y staff a’r ymwelwyr, yn ogystal ag ystâd y brifysgol. Mae’r holl staff diogelwch yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf a gallant gynnig cyngor a chymorth ar faterion cyffredinol neu drefnu i gael cymorth. Mae’r tîm diogelwch ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ac maent yn weithredol 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Os bydd argyfwng ar y campws ffoniwch 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01248 382795 o ffôn symudol. Dylid hysbysu’r tîm diogelwch ar unwaith os cysylltwch ag un o'r gwasanaethau brys 999. Os oes gennych bryderon brys ynglŷn â lles meddyliol a/neu ddiogelwch myfyriwr, cyfeiriwch at y siart llif iechyd meddwl argyfwng sy'n eich tywys trwy'r camau i ddod o hyd i gefnogaeth briodol ac amserol. CALL Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru Mae'r ‘Community Advice and Listening Line’ (CALL) yn cynnig cefnogaeth emosiynol a chyngor cyfrinachol ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ynghyd â rhestr gynhwysfawr o’r gwasanaethau cefnogi yn eich ardal leol a gwybodaeth ynglŷn â chael mynediad atynt. Gall unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu berthynas neu ffrind gael mynediad i'r gwasanaeth. Llinell gymorth: *0800 132 737 neu anfon neges destun 'help' i 81066 *Am ddim i alw o ffôn tŷ, bydd y gost o alw o ffôn symudol yn amrywio'n sylweddol E-bost: callhelpline.org.uk CALM

5


Mae'r ‘Campaign Against Living Miserably’ (CALM) yn arwain symudiad yn erbyn hunanladdiad ac yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwe-sgwrs gyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd angen siarad am broblemau bywyd neu ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth. Mae CALM hefyd yn cefnogi'r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad, trwy'r ‘Support After Suicide Partnership’ (SASP). Llinell gymorth: 0800 58 58 58 - ar agor o 5pm tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn

Mind Cymru Mae’n darparu cyngor a chefnogaeth i helpu unrhyw un sy'n dioddef problem iechyd meddwl neu'n cefnogi rhywun sy’n dioddef problem iechyd meddwl. Mae llinell wybodaeth Mind yn cynnig gwybodaeth am wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i fynd i chwilio am gymorth, meddyginiaeth, triniaethau ac eiriolaeth. Llinell Wybodaeth: 0300 123 3393 (ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc). E-bost: info@mind.org.uk Mae ‘Local Minds’ yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Mae pedair elusen Mind ledled y gogledd. Cael hyd i'ch Mind lleol GIG 111 Cymru Mae'r gwasanaeth 111 yn dwyn ynghyd wasanaethau y tu allan i oriau Galw Iechyd Cymru a’r Meddygon Teulu i ddarparu gwybodaeth am iechyd, cyngor, a mynediad i ofal sylfaenol brys, ond nad yw'n peryglu bywyd, y tu allan i oriau. Llinell gymorth: 111 neu 0845 4647

Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru <https://www.rasawales.org.uk/>Mae’n darparu cefnogaeth a therapi arbenigol i unrhyw un yn y gogledd sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol neu drais Llinell gymorth: 0808 80 10 800 E-bost: info@rasawales.org.uk <mailto:info@rasawales.org.uk> Y Samariaid Mae'r Samariaid yn cynnig man diogel i chi siarad unrhyw bryd yr hoffech chi, yn eich ffordd chi am yr hyn sy'n eich poeni chi. Llinell Gymorth: 116 123 (Saesneg); 0808 164 0123 (Cymraeg). E-bost: jo@samaritans.org <mailto:jo@samaritans.org> Mae'r gwasanaethau Saesneg ar gael 24/7 ac mae'r gwasanaeth Cymraeg ar gael bob dydd 7pm i 11pm.

6


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.