Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar Grŵp Llandrillo Menai yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a’r Ganolfan Rheolaeth
Cynnwys
03
Partneriaeth Bwerus
04
Cyrsiau Hyfforddi Achrededig
08
Hyfforddiant Rhyngwladol
09
yfforddiant wedi’i Deilwra’n H Arbennig ar gyfer Busnes
10
Adborth Cwsmeriaid
Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) yn Y Ganolfan Rheolaeth Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG Ffôn: 01248 365981 E-bost: training@bangor.ac.uk www.gllm.ac.uk/busnes twitter.com/LlandrilloMenai
facebook.com/GrŵpLlandrilloMenai
Partneriaeth Bwerus
Mae tîm Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Grŵp Llandrillo Menai, sydd wedi eu lleoli yn Y Ganolfan Rheolaeth, yn ymroi i ddarparu’r gofal cwsmer/myfyriwr a’r gefnogaeth reoli broffesiynol orau bosib gan weithio mewn Partneriaeth â Phrifysgol Bangor a'r Ganolfan Rheolaeth. Mae staff hynod o brofiadol a chymwysiedig wedi dod at ei gilydd gyda’r nod cyffredin o godi safon rheolwyr ac arweinwyr. Mae gan y tîm brofiad helaeth a gwerthfawr o fewn y sector gyhoeddus, breifat a gwirfoddol. Bydd trosglwyddo’r holl raglenni’n cynnwys ystod eang o ddulliau dysgu ac addysgu er enghraifft pwyslais mawr ar gyfranogiad ac ymrwymiad, gwaith grŵp, hunan-fyfyrio, dysgu gweithredol a gweithgareddau adeiladu tîm yn yr awyr agored. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth gwaith tu allan i ddarpariaeth y cwrs drwy diwtora un-i-un, cynhadleddau fideo, e-byst a / neu galwadau ffôn.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar
Mae darpariaeth y cwrs yn hyblyg er mwyn iddi fod yn addas ar gyfer anghenion yr unigolion a’r sefydliadau, a gallent fod yn fewnol yn y gweithle neu yng nghyfleusterau Y Ganolfan Rheolaeth. Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn ganolfan gynhadledd a hyfforddiant ymroddedig a blaenllaw gyda llety preswyl 4* Croeso Cymru. Gyda golygfeydd o’r Fenai fendigedig, mae’r ganolfan yn darparu profiad hyfforddi yn ei gyfanrwydd ble gall myfyrwyr ymgolli mewn awyrgylch dysgu delfrydol.
3
Cyrsiau Hyfforddi Achrededig Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig (ACCA) Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) yn cynnig cyrsiau achrededig ACCA yn Y Ganolfan Rheolaeth Manteision yr Hyfforddiant ACCA Gwobrwyir y cymhwyster ACCA gan Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig, sef y corff rhyngwladol ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Mae’r astudiaeth effeithiol hon yn caniatau i fyfyrwyr fynd am yrfa gwerth chweil o fewn cyfrifiaeth, rheolaeth neu gyllid. Dyluniwyd y cymhwyster er mwyn addysgu’r ymgeisiwyr ynglŷn â gwybodaeth cyfrifo, sgiliau a safonau proffesiynol, yn ogystal â’u haddysgu am ymddygiad – y rhain oll yn darparu cyfle iddynt adeiladu gyrfa lwyddiannus o fewn unrhyw sector. Mae’r cyfleoedd ar ôl cwblhau’r cymhwyster ACCA yn niferus, gyda llawer o ymgeisiwyr yn chwilio am ac yn llwyddo i gael swyddi mewn sawl maes gwahanol megis: ymgynghoriaeth gyllidol, trethi, dehongli busnes a rheolaeth gyllidol. Yn gymhwyster a adnabyddir yn rhyngwladol, gall cyfleoedd godi ymhell tu hwnt i ffiniau’r DU. Mae papurau ar gael sy’n ehangu o lefelau sylfaen hyd at lefelau proffesiynol. Fframwaith y Rhaglen Darperir yr ACCA yn Y Ganolfan Rheolaeth trwy gymysgedd o sesiynau tiwtora wyneb yn wyneb a rhaglenni ‘dysgu cymysg’. Golyga hyn gymysgedd hyblyg o sesiynau a fynychir a rhinweddau ‘dysgu ymddangosol’. • Sesiwn gychwynnol a sesiynau tiwtorau wyneb yn wyneb undydd • Hyd at 10 darlith dros y we i’r rheini na allent fynychu’r sesiynau • Sesiynau adolygu – 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb • Cefnogaeth tu allan i’r dosbarth trwy alwadau ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb Pa bapurau sydd ar gael? Mae pob papur Lefel Sylfaen (F1 – F9) a phapurau Lefel Broffesiynol (P1 – P7) ar gael yn ddibynnol ar lefel y myfyriwr a’r galwad amdano, a hyn dros gyfnod yn cylchredeg dros 24 mis. Beth yw manteision y rhaglen ‘dysgu cymysg'? • Llwyddwyd i gael Gwell Graddau Pasio ar Gyfartaledd o gymharu â graddfa pasio rhyngwladol • Ffioedd Cwrs Cystadleuol • Mynediad hawdd — recordir pob seminar, darlith a sesiwn diwtora a gellir cael mynediad iddynt rhywle yn y byd
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar
4
Gwobr, Tystysgrif neu Ddiploma Arwain a Rheoli Cynigir Rhaglenni Arwain a Rheoli, wedi eu hachredu gan y CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig) yn Y Ganolfan Rheolaeth a hynny drwy fodiwlau. Golyga hyn eich bod yn gallu ymuno ar unrhyw amser o fewn y siwrne a chwblhau’r hyfforddiant yn eich amser eich hun. Mae pob modiwl yn brofiad dysgu unigryw a chynhwysiedig ei hun. Mae ein rhaglenni yn hynod o ymarferol ac wedi eu seilio ar aseiniadau ymarferol sy’n ychwanegu gwerth at ganlyniadau’r llinell isaf mewn cymhwyster cydnabyddedig. Mae’r Rhaglenni Datblygu Arwain a Rheoli wedi eu dylunio i gefnogi, datblygu a hysbysu arweinwyr a rheolwyr ymhob cam o’u gyrfa. Nod y rhaglenni yw i helpu unigolion a sefydliadau i gyrraedd eu potensial llawn a llwyddiant o fewn busnes. Ar gyfer pwy mae’n addas? Mae’r Rhaglenni Arwain a Rheoli ar gyfer Rheolwyr Rheng Flaen, Rheolwyr y dyfodol, Rheolwyr Canol, Uwch-reolwyr ac Uwchweithredwyr. Manteision i'r unigolyn: Bydd y anfonogion yn ennill cymhwyster arweinyddiaeth a rheoli o safon uchel a’i gydnabyddir yn genedlaethol ac yn adeiladu set sgiliau a fydd yn rhoi’r perfformiadau gorau posib. Bydd gallu’r anfonogion i ddarparu canlyniadau arwyddocaol yn cael ei gryfhau, ac, i lawer, yn darparu boddhad gwaith llawnach yn ogystal â gwobrwy sylweddol. Gall y cymhwysterau yma arwain at 'Chartered Manager' (CMgr). Manteision ar gyfer y Sefydliadau: Datblygiad gyrfa parhaol yw’r allwedd at dyfiant a chynaladwyedd i unigolion a sefydliadau. A dweud y gwir, mae sefydliadau angen arweinyddiaeth effeithiol er mwyn goroesi. Bydd y sefydliad yn adeiladu ar eu cynaladwyedd a phroffidioldeb drwy gael canlyniadau gwell gan eu pobl mewn ffordd sydd yn tyfu a datblygu dawn o fewn y busnes ar gyfer y tymor hir, gan ddod â ffurfiau adnabyddedig annibynnol a rhyngwladol o’r ymarferiadau gorau i mewn i’r tîm.
5
Cymhwyster Proffesiynol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) Ar gyfer pwy mae’n addas? Gall myfyrwyr adeiladu’n gyflym ar eu profiad a chymwysterau presennol er mwyn ennill y cymhwyster CIPS. Hyrwyddir y cymhwyster proffesiynol hwn o lefel gradd anrhydedd fwyfwy o fewn y sector gyhoeddus a phreifat ac fe’i anelir at y rheini sydd yn gyflogedig ac fel gofynion dymunol o fewn eu swydd-ddisgrifiad. Fe ystyrir pobl broffesiynol Caffael a Chyflenwi, yn enwedig y rheini sydd gyda chymhwysterau o safon, yn ased gwerthfawr i unrhyw sefydliad. Manteision i’r unigolyn: Mae’r dystysgrif gyflwyno Lefel 2 yn darparu gwybodaeth sylfaenol dda i’r rheini nad ydynt efallai yn gweithio mewn swydd caffael, ond a chanddynt gyfrifoldebau yn y maes. Lefel 3 yw’r pwynt mynediad delfrydol i’r rheini sydd yn newydd i’r maes neu nad oes ganddynt gymhwysterau na phrofiad blaenorol mewn awyrgylch caffael. Mae mynediad i lefelau uwch yn ddibynnol ar gymhwysterau a phrofiad blaenorol. O ganlyniad, mae pobl broffesiynol o fewn caffael a chyflenwi yn ased angenrheidiol a gwerthfawr i unrhyw gwmni, yn enwedig unigolion gyda chymhwysterau a hyfforddiant o safon uchel. Manteision ar gyfer y Sefydliadau: Mae rheolaeth caffael a chyflenwi yn croesi pob sector ac i lawer o sefydliadau eu costau mwyaf yw’r cynnyrch a’r gwasanaethau maent yn eu prynu, yn aml hyd at 80% o gyfanswm costau’r sefydliadau. Ystyrir caffael fel y maes pwysicaf o fewn gwariant a all ddylanwadu ar gostau busnes. Gall caffaeliad proffesiynol gynnig sylfaen costau gwell ac elw estynedig i sefydliadau.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar
6
Cymhwysterau Hyfforddi a Mentora Datblygwch eich sgiliau hyfforddi er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i berfformiad pobl o’ch cwmpas ac yn y pen draw eich llinell isaf… Achredir y Rhaglenni Hyfforddi a Mentora gan Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Ar gyfer pwy mae Hyfforddi a Mentora? Mae’r Rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheoli ar gyfer Rheolwyr Rheng Flaen, Rheolwyr y dyfodol, Rheolwyr Canol, Uwch-reolwyr ac Uwch-weithredwyr. Manteision i’r unigolyn: Bydd myfyrwyr yn adeiladu set sgiliau a fydd yn gwneud y gorau o’u perfformiad eu hunain ac eraill, ac felly, yn cael effaith arwyddocaol ar eu meysydd canlyniad allweddol. Ar gyfer cyfranogwyr cyflogedig fel arfer bydd hyn yn arwain at well diogelwch swydd, o bosib yn agor drysau at gyfleon dyrchafiad drwy natur yr effaith a gaent. Bydd rhai hunan-gyflogedig yn creu canlyniadau mesuriedig a ellir bilio amdanynt. Mae hefyd yn ymestyn hunan-ymwybyddiaeth a hunan-ffydd. Manteision ar gyfer y Sefydliadau: Bydd y myfyriwr yn adeiladu cynaladwyedd ac proffidioldeb y sefydliad drwy gael canlyniadau gwell o bobl y sefydliad, mewn ffordd sydd yn tyfu a datblygu dawn o fewn y busnes ar gyfer y tymor hir.
Mae sgiliau hyfforddi wedi eu datblygu i safon uchel yn darparu rheolwyr ac arweinwyr gyda’r wybodaeth, sgiliau a hyder i berfformio hyd yn oed yn fwy effeithiol yn eu swydd o ddydd i ddydd… 7
Rhaglenni Hyfforddiant Rhyngwladol a Datblygiad Proffesiynol Canolfan Hyfforddi breswyl wedi ei lleoli yn y DU yw’r Ganolfan Rheolaeth yn gweithio gyda phartneriaid strategaethol i gynnig hyfforddiant proffesiynol, blaenllaw wedi ei deilwra i’r farchnadfa fusnes ryngwladol. Mae portffolio’r rhaglenni hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu i gefnogi cynaladwyedd busnes trwy ddatblygu rheolwyr sydd yn cynnig meddylfryd cyfredol a pherthnasol i’r oes bresennol. Darperir cyrsiau ar gyfer bob lefel, o aelodau tîm hyd at arweinwyr busnes a Phrif Weithredwyr. Caiff pob un o’n rhaglenni eu darparu gan hwyluswyr rhyngwladol profiadol gyda phrofiad eang diwylliannol, academaidd a phrofiad ymarferol o fewn diwydiant. Rydym yn falch o gynnig pecynnau datblygiad a hyfforddiant i gleientiaid wedi eu teilwra ar gyfer eich anghenion chi ac mae pob un o’n rhaglenni wedi eu hachredu. Rhaglenni ar Gael • Caffaeliad • Arwain a Rheoli • Rheolwr Siartredig • Cyfrifo a Chyllid • Hyfforddi a Mentora • Rheolaeth Adnoddau Dynol Dehongliad Ymgynghoriaeth ac Anghenion Hyfforddi Gallwn ddarparu dehongliad anghenion hyfforddiant ar gyfer eich sefydliad er mwyn penderfynu ar rhaglen o gyrsiau wedi eu teilwra o fewn yr opsiynau.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar
8
Busnes i Fusnes (B2B) Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) yn gweithio mewn Partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac wedi eu lleoli yn Y Ganolfan Rheolaeth. Gall GLLM ddarparu unrhyw un o’r rhaglenni a chymwysterau a gynigir ‘o fewn y sefydliad’, i gleientiaid gyda nifer digonol o weithwyr. Gall rhaglenni hefyd fanteisio ar gyfleusterau pedair seren Y Ganolfan Rheolaeth. Gellir teilwra rhaglenni a/neu fodiwlau i gyrraedd anghenion ac amcanion eich sefydliad. Y brif ffocws yw sicrhau bod pob un o’n rhaglenni wedi eu dylunio a’u darparu i sicrhau proses rhyngweithiol a gwerthfawr sydd wedi ei hanelu at gynaladwyedd eich sefydliad. Gall ein hymgynghorwyr ddylunio rhaglenni penodol ar gyfer eich sefydliad yn y meysydd: • Cyllid • Caffaeliad a Chyflenwad • Arwain a Rheoli • Adnoddau Dynol Gall pob un o’r rhaglenni gael eu darparu yn Y Ganolfan Rheolaeth, traws DU neu’n rhyngwladol gan ein tiwtoriaid hynod o brofiadol ac ymarferol.
Cysylltwch â ni i drafod rhaglen ar gyfer anghenion eich busnes.
99
Adborth Cwsmeriaid Lyndsey Jones ACCA Cynorthwy-ydd Cyfrifon The Cake Crew Cyf (Medi 2014)
Pam Boyd Hyfforddi a Mentora ILM Prif Weithredwr ac Ymgynghorydd Llawrydd Shawboyd Associates (Ionawr 2015)
Hynod o ddefnyddiol ac yn darparu arweiniad ar gyfer unigolion sydd hefyd yn gorfod delio gyda chyflogaeth llawn amser.
Rhaglen a hyfforddwr gwych sy’n mynd i fod o fantais i’m dyfodol i fel hyfforddwr.
Adam Print Hyfforddi a Mentora ILM Hyfforddwr Llawrydd (Tachwedd 2014)
Mae gan hwn ddeunyddiau gwych i werthuso, hunanfyfyrio ac i ddefnyddio’r damcaniaethau’n ymarferol.
Elfyn Davies CIPS Lefel 5 Gweithiwr Airbus (Ebrill 2014)
Mae damcaniaeth CIPS wedi bod o fantais gref i’m gyrfa o fewn Caffaeliad.
Mike Bell Rheolaeth Prosiect Strategaethol Cydlynydd Rhanbarthol Cyngor Wrecsam (Mawrth 2015)
Nia Wyn Harris Swyddog Datblygu a Rheoli Newid Cyngor Gwynedd (Mai 2015)
Dysgeidiaeth angenrheidiol ar gyfer unrhyw un sy’n ymgymryd â swydd Rheolwr Prosiect.
Mae safon y ddarpariaeth yn ardderchog, gyda hyfforddwyr profiadol sy’n arbenigwyr yn eu maes, a hefyd yn ddwyieithog.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Blaengar
10