CLICzine 7 - Fersiwn Gymraeg

Page 1

A CADWN

MEW LTIAD CYSYL

CLICzine #7

HYDREF/gaeaf 2012

AM DDIM - CYMERA GOPI!

E N I Z CL IC www.CLICarlein.co.uk

IFANC YNG NGHYMRU BL BO I R GO YN CH A ON, GWYBODAETH Y SIANEL AM NEWYDDI

YN Y ON GYFROL H

Y BRWYDR 2 201 BANDIAU ADL ENNILL D ! IAU YN 16 PLEIDLEIS THNOS D PENWY ADOLYGIA R PONTY MAW D I EIRIA MYNEDIA

AELODAU O’R GYDWEITHFA CLIC:

/CLIConline

@CLICarlein



YNGLYN Â CLICzine

CLICzine ydy’ch cyfle chi i gael

cipolwg bywiog ar CLICarlein.co.uk, y cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc yng Nghymru a’r lle i ddarganfod a rhannu newyddion, gwybodaeth, cyngor ac yn bwysicach fyth cael dweud eich dweud. Cymerwch ran ar clicarlein.co.uk

GWNEUD

blogCLIC I NI

Rydym yn gobeithio eich bod chi eisoes wedi gwylio fideos ar CLICwylio.co.uk, eich sianel fideo un-pwrpas, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi lwytho eich fideos eich hunan?

@CLICarlein

Y syniad yw i ganiatáu i chi rhannu eich meddyliau a’ch syniadau ar newyddion a gwybodaeth a allai effeithio pobl ifanc yng Nghymru.

NODYN EIN GOLYGYDD GWADD

Dechreuodd y prosiect a grëwyd gan ein CLICiwr CrazyDistortion fel rhan o’i asesiad prifysgol ac wedi bod yn rhedeg am dros chwe mis.

/CLIConline

S’mae Pawb, Callye ydw i a fi ydy’r golygydd gwadd ar gyfer y gyfrol hon. Felly’r amser yna o’r flwyddyn ydyw hi eto: mae’r haf drosodd ac i nifer ohonom ni mae’n amser i wynebu dechreuadau newydd, un ai os ydyw hynny yn yr ysgol, prifysgol neu mewn swyddi. Rydym wedi rhoi’r gyfrol hon at ei gilydd gyda’r nod i ddarparu gwybodaeth a chyngor i chi sydd yn berthnasol i’r holl bobl ifanc oedran 11-25 yng Nghymru. Mae’r erthyglau a dewison ni yn pontio amrywiaeth o bynciau ac yn ein barn ni mae rhywbeth ar gael i bawb. Mae’r zine hon ond yn blas ar beth yn union yw CLICarlein ac rydym yn gobeithio y bydd yn eich annog chi i gymryd rhan. Mae’r rhwydwaith yn derbyn dros 35,000 ymweliad bob mis ac ar gael drwy Gymru gyfan. Ydych chi am sgwennu i CLICarlein? Cymerwch ran a chofrestru ar CLICarlein.co.uk i ddod yn CLICiwr!

Yn ystod yr amser hwn, trafodwyd amrywiaeth o themâu, o bynciau cyffredinol er enghraifft chwaraeon a thatws i rai mwy personol fel ymddiriedolaeth a hyder. Ddim yn cymryd ran eto? Anfonwch e-bost i CLICvlog@gmail.com

GWEFANNAU BYW CLIC Ynys Môn • defaid.com Pen-y-Bont ar Ogwr • bwsted.com Caerffili • youth4u.co.uk Caerdydd • thesprout.co.uk Sir Gaerfyrddin • ieuenctidsirgar.co.uk Conwy • conwyifanc.com Sir y Fflint • fflintyrifanc.co.uk Merthyr Tudful • mwstwrmerthyr.com Castell Nedd Port Talbot • nptshake.com Casnewydd • youngnewport.co.uk Powys • towip.co.uk Rhondda Cynon Taff • wicid.tv Abertawe • shouttawe.co.uk Bro Morgannwg • swoosh.me.uk Wrecsam • wrecsamifanc.co.uk Sir Benfro • pembrokeshireyouthzone.co.uk (Gwefan partner)

YN FYW CYN HIR! Blaenau Gwent • Ceredigion Sir Ddinbych • Gwynedd Sir Fynwy • Torfaen

SUT I FOD YN RHAN O CLIC

Mae CLIC yn lle i chi mynegi eich barn yn greadigol, rhyngweithio gydag eraill, a chael gwybodaeth a chyngor ar bron i bopeth sydd yn effeithio pobl ifanc yng Nghymru. Gallwch chi lwytho erthyglau, gadael sylwadau ar ysgrifennu pobl eraill, anfon fideos, ffotograffiaeth a gwaith celf, a hyd yn oed addasu’r cefndir. Mae ymuno gyda’ch grŵp golygyddol lleol hefyd yn gyfle i gyfarfod gyda phobl ifanc eraill a chael pethau am ddim fel tocynnau gigs a CDs. Rhowch alwad i ni ar 029 2046 2222 a gallwn ni sgwrsio mwy, e-bost info@cliconline.co.uk neu tweet @clicarlein

Callye Wong, Golygydd Gwadd

CYFEIRIAD

ProMo-Cymru Unedau 10 Gweithdai Royal Stuart Adelaide Place Bae Caerdydd CF10 5BR

CYSWLLT

Golygydd: Ryan Heeger Ffôn: 029 2046 2222 Ffacs: 029 2048 1331 www.clicarlein.co.uk

GOLYGYDDOL

Is-Golygydd: Daniel Grosvenor Dyluniad: Burning Red Cyfieithu: Catrin Southall & Gareth Aled John Ymchwilwyr: Carys Friend, Anna Kinnersley & Callum Parsons

AMDANOM NI

Mae’r CLICzine yn gyhoeddiad chwarterol i bobl ifanc 11 - 25 yng Nghymru. Ysgrifennwyd yr erthyglau i gyd gan bobl ifanc ac maent ar gael arlein ar clicarlein.co.uk

Hoffech chi ysgrfennu rhywbeth, ney cyfrannu llun neu gwaith celf ar gyfer y gyfrol nesaf? Cysylltwch a ni, manylion ar y chwith.


DULL O FYW

Pleidleisio yn 16! gan Snow.. o Fro Morgannwg (swoosh.me.uk) Roedd dydd Mercher 4ydd o Orffennaf 2012 yn ddiwrnod ffantastig i ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru. Cafodd Llywodraeth Cymru dadl ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan ohono drwy gydol y dydd. Yn cychwyn am saith y bore, gofynnwyd i mi am fy marn bersonol i tuag at leihau’r oedran pleidleisio ar raglen BBC Radio Wales ‘Good Morning Wales’. Wrth gwrs, roeddwn i o blaid gostwng yr oedran pleidleisio. Fel person ifanc 16 mlwydd oed gyda diddordeb yng ngwleidyddiaeth, i mi mae’n rhesymegol, os oes disgwyl i chi dalu trethu i’r llywodraeth,

Os oes disgwyl i chi dalu trethu, yna dylech allu lleisio eich barn yna dylech chi allu cael dweud eich dweud. Rwy’n trio peidio swnio’n rhagfarnllyd, ond nid oedd rhai o’r dadleuon yn erbyn gostwng yr oedran yn gryf iawn. Er enghraifft, meddai un Aelod Cynulliad fod y rhan fwyaf o bobl ifanc 16 mlwydd oed yn ddigon aeddfed ac yn ddigon cyfrifol i bleidleisio, ond oherwydd y lleiafrif bach nad oedd ef yn ystyried i fod yn ddigon aeddfed, roedd yn erbyn pleidleisiau yn 16. Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/Pleidleisio16

Am wybodaeth ar wleidydd iaeth ewch I bit.ly/gwleidyddiae thswoosh

TY LLU! gan Black_Star o Bowys (towip.co.uk) Rwy’n cael yr un cwestiynau drwy’r amser. Faint sydd gen ti? Pa rhai oedd wedi brifo’r mwyaf? Ble cefaist ti nhw wedi gwneud? Mae gen i 16 rhan o’m corff wedi tyllu mewn cyfanswm: saith mewn un clust, pump yn y llall, fy nhrwyn, gwefus, ‘smiley’ (gwefus uchaf) a botwm bola. Felly rydych chi eisiau cael eich tyllu ie? Yn gyntaf meddyliwch am beth ydych chi eisiau, ac yn ofalus. Mae’n rhaid i chi fod yn 16 i gael eich tyllu, oni bai bod gennych chi ganiatâd rhiant. I gael eich tyllu mewn rhannau o’r corff fel y bola neu’r wefus mae’n rhaid eich bod chi’n 18. Nid arbenigwr ydw i! Ond mae gen i lawer o dyllau yn fy nghlustiau! Felly beth bynnag mae’r tyllwr proffesiynol yn cynghori, yna gwnewch hynny! Darllenwch yr erthygl lawn ar

bit.ly/tyllucorff

GWYBODAETH AR UNWAITH YN MALTA gan hiyamynameissoph o Sir Benfro (pembrokeshireyouthzone.co.uk) Dychmygwch hyn: mae’n 10pm ond yn dal yn hynod o gynnes yn nhref bysgota fechan Marsaxlokk, Malta, ac rydych yn eistedd ar y llawr â’ch coesau wedi’u croesi ac yn droednoeth ar yr harbwr, modfeddi oddi wrth y môr sy’n glir fel crisial. Mae tua ugain o bobl o’ch cwmpas, ac ar waethaf y ffaith na wnaethoch eu cyfarfod ond 48 awr yn ôl, maent eisoes yn teimlo fel teulu. Rydych yn rhannu cyfrinachau a straeon wrth i chi

edrych ar y crychau yn y dŵr, ac yn sylwi ar olau’r lampau stryd yn dawnsio’n oren a melyn ymhlith cychod o bob lliw a llun. Dyma fy eiliad berffaith yn 2012, a rhoddodd CLIC y cyfle i mi ei brofi yng Nghynhadledd ieuenctid ERYICA (eryica.org).

Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/gwybdaithmalta

CLICwyr Cofio Cegin Eddie yn y gyfrol ddiwethaf? Wel mae syniad Eddie o Dorfaen wedi datblygu o ysgrifennu ryseitiau i CLICarlein i redeg ei gaffi ei hunan diolch i brosiect ‘Think Big O2’. Mae CLICwyr eraill hefyd wedi cael llwyddiannau trwy’r prosiect hon, yn cynnwys syniad Sinead ‘Dod o Hyd I’ch Hyder’. I ddysgu mwy ynglŷn â ‘Think Big O2’ a’r syniadau mae wedi helpu CLICwyr i ddatblygu gweler bit.ly/CLICmeddwl


CANLLAW AR FOD YN SÂL I BOBL YN EU HARDDEGAU gan RawrIAmADinosaur o Sir Gaerfyrddin (carmarthenshireyouth.co.uk) Roedd hi’n un o’r diwrnodau hynny: dihuno, bwyta bwyd, brwsio dannedd a gwisgo. Yna dwy awr yn hwyrach wrth eistedd yn y wers Cyfryngau, dechreuais i disian… a dyna pam cefais fy nghaethiwo i arwahanrwydd cymdeithasol fy nhŷ. Mae gen i anwyd, poenau cefn, ac rwyf wedi blino. Felly ar ôl dau ddiwrnod o eistedd yn y lolfa yn chwarae fy hoff gêm fideo, ‘Minecraft’, gwylio ‘The Big Bang Theory’, gwrando ar Frank Sinatra a phori’r erthyglau arbennig a gwefreiddiol ar CLIC, rydw i nawr yn ystyried fy hun yn arbenigwr ar oroesi’r diwrnodau hynny adre ar fy mhen fy hun pan na allwch chi fynd allan na gweld eich ffrindiau.

PENNOD NEWYDD YW HI

DULL O FYW

gan HAPPYNESSISLIFE o Wrecsam (youngwrexham.co.uk)

Am wybodaeth ar deulu a pherthnasau ewch i bit.ly/teulu wrecsam

Rydw i’n 11 mlwydd oed ac mae gennyf frawd hŷn (ond rwy ddim am ddatgelu ei enw i chi) ac mae fy rhieni wedi ysgaru. Mae gan fy nhad gariad ond nid oes gan fy mam. Yn fy mhen rydw i wedi ei chael hi’n anodd derbyn eu bod wedi gwahanu. Rwy’n caru fy nhad llawer ac ni allaf fyth ymdopi hebddo, ond mae gweld e gyda’i gariad yn gwneud i mi eisiau crio. Mae cariad fy nhad hefyd wedi ysgaru a ganddi dau o blant. Maen nhw’n lyfli. Rwy’n meddwl y rheswm rwy ddim yn hoffi hi ydy oherwydd ei bod hi fel pennod newydd yn llyfr fy mywyd ac nid ydwyf wedi arfer ei ddarllen eto. Roeddwn i’n hoffi’r bennod cynt. Darllenwch yr erthygl llawn ar bit.ly/pennodnewydd

Darllenwch yr erthygl llawn ar bit.ly/Salwch

GwobrauCLIC 2012 Yn dilyn llwyddiant GwobrauCLIC agoriadol a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mis Tachwedd diwethaf. Mae cynlluniau yn ei le i’w drefnu ar gyfer 2012 yng Nghastell Caerffili ar ddydd Mawrth y 30ain o Hydref. Bwriad y noswaith yw cydnabod ymdrechion pobl ifanc sydd wedi cyfrannu tuag at CLICarlein ac annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan. Bydd rhestr fer o ymgeiswyr ar clicarlein. co.uk er mwyn i ddefnyddwyr CLIC cofrestredig allu pleidleisio o ddiwedd mis Medi. Bydd ceisiadau enillgar yn cael eu dewis yn seiliedig ar y nifer o bleidleisiau a derbynnir, ynghyd a phenderfyniadau oddi wrth banel o feirniaid. Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni GwobrauCLIC, ble bydd enillwyr Brwydr y Bandiau CLIC/Merthyr Rock y flwyddyn hon hefyd yn perfformio. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch cindy@promo-cymru.org neu ffoniwch 029 2046 2222.


DWEUD DDWEUD

AD OLYG IA D PENWYTHNOS BETH MAE CLICwyr MAWR PONTY YN GWRANDO I? gan TWSkittles o Blaenau Gwent (safleCLIC i ddod yn fuan)

Ar Ddydd Sadwrn yr 21ain o Orffennaf, teithiodd cannoedd o bobl i Bontypridd i ddechrau’r haf gyda bang. Roedd fy ffrind a mi yn ddigon lwcus i ymuno a’r parti hefyd. Roedd Olly Murs, Cover Drive, Diana Vickers a Aleks Josh o ‘The Voice’ ymhlith y perfformwyr syfrdanol.

GWR AND O

Artist: The Gaslight Anthem • Trac: 45 • Dewiswyd gan: FairyG00, Ceredigion (Gwefan CLIC i ddod yn fuan) Artist: Elbow • Trac: Open Arms Dewiswyd gan: thechicgeek, Caerdydd (thesprout.co.uk) Artist: Cough Syrup • Trac: Young The Giant Dewiswyd gan: Snow.., Bro Morgannwg (swoosh.me.uk) Artist: Mariah Carey • Trac: Triumphant (Get ‘Em) Dewiswyd gan: Superstar200433, Sir y Fflint (fflintyrifanc.co.uk)

Er roedd gennym ni docynnau ar gyfer sioe Nos Wener, cyn i’r clwydi agor cyhoeddodd y staff fod prif berfformiwr y noson Jessie J yn sâl a’i doctor wedi ei chynghori i ganslo bob sioe am y penwythnos hynny. Roedd y newyddion hyn yn sioc ac yn siom mawr i’r gynulleidfa.

Artist: Taylor Swift • Trac: We Are Never Ever Getting Back Together • Dewiswyd gan: Ihavethecyrusvirusx, RCT (wicid.tv) Artist: Steam Powered Giraffe • Trac: Automatic Electronic Harmonics • Dewiswyd gan: Sharaknos, Sir Gaerfyrddin (ieuenctidsirgar.co.uk) Artist: Massive Horse • Trac: Chinese Family Dewiswyd gan: ThingsThatAnnoyMe, Abertawe (shouttawe.co.uk)

Er gwaethaf canslad sioe Nos Wener gwelodd nos Sadwrn dorf enfawr arall. Roedd y digwyddiad tu allan felly daeth cymaint o bobl yn barod gyda chotiau glaw ac ymbareli rhag ofn byddai’r tywydd Cymraeg nodweddiadol yn cyrraedd. Ond yn lwcus i ni arhosodd yr haul allan drwy’r dydd! Roeddem yn ddigon ffodus i fod pedwar rhes yn ôl o’r glwyd ddiogelwch blaen llwyfan, a rhoddodd y swyddogion diogelwch cwpanau plastig llawn dwr i ni i gadw’n hydradol.

Artist: Of Monsters And Men • Trac: Little Talks Dewiswyd gan: living_legend12, Conwy (conwyifanc.com) Artist: Gogol Bordello • Trac: Supertheory Of Supereverything • Dewiswyd gan: Richard Padley, Castell Nedd Port Talbot (nptshake.com)

Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/PenMawrPon

MYNEDIAD I EIRIAS Postiwyd gan

Superstar200433 o Sir y Fflint

fflintyrifanc.co.uk

Ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Orffennaf fe ges i a fy ffrind pas ffotograffydd i’r cyngerdd ‘Access All Eirias’ ym Mae Colwyn. Cyrhaeddon ni Barc Eirias ble roedd y cyngerdd yn digwydd. Pan gyrhaeddon ni, clywon ni Pixie Lott yn gwneud prawf sain ac roedd hi’n swnio’n syfrdanol. Roeddem ni mor gynhyrfus am y cyngerdd erbyn hyn. Aethom ni i gasglu ein tocynnau ac aros am gyfarwyddiadau am ble i fynd. Arhosom ni i’r cyngerdd dechrau a chawsom y cyfle i gwrdd a un o’r artistiaid A*M*E. Gwelon ni Pixie Lott a Cover Drive hefyd. Tra

roeddem ni’n aros i fynd i mewn gwelon ni Olly Murs yn gwneud ei brawf sain, a wnaeth e hyd yn oed chwifio atom ni. Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/AdolygiadEirias


TONE DA M

AGE

Chwiliad Cymru gyfan am Dalen t heb eu Harwy ddo Llongyfarchiadau i ‘Tone Damage’ o Blaenau Gwent a enillodd Brwydr y Bandiau CLIC/Merthyr Rock 2012. Cawson nhw’r cyfle i chwarae’r prif lwyfan ym Merthyr Rock ym mis Medi, ac ennill gitâr DBZ Dean gwerth £900. Cafodd yr ail a’r drydydd ‘The Moon Brides’ a Rich Kinsey y cyfle i chwarae’r ail lwyfan yn Merthyr Rock. Hoffech chi gymryd rhan ym mrwydr 2013? Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio botb@cliconline.co.uk/botb am ddiweddariadau. Hefyd cofiwch gallwch chi lwytho eich fideos cerddoriaeth, lluniau ac erthyglau ar unrhyw adeg i clicarlein.co.uk / clicwylio.co.uk

I gadw’n gyfoes gyda brwydr blwyddyn nesaf

/CLIConline

@CLICarlein

T BY DESIGN BITTERSWEE Lluniau gan: Ashlea Bea Photography /AshleaBeaPhotography


DWEUD DDWEUD

R H Y W IO LD E B

Am wybodaeth ar iechyd rhywiol ewch i bit.ly/iechyd rhywiolbwsted

gan Kinghamster o Ben-y-Bont ar Ogwr (bwsted.com) Mae Rhywioldeb yn beth mawr ym mywyd unrhyw un. Does dim ots os ydych yn syth neu’n hoyw, mae ganddo ryw fath o effaith arnoch chi. Does dim ots beth yw eich rhywioldeb, ni ddylech chi gael eich trin yn wahanol. Yr un peth sy’n fy mlino i ynglŷn â rhywioldeb yw agwedd pobl ar ran rhyw. Mae merched yn dweud fod merched sy’n hoyw yn ffiaidd, ond bod dynion hoyw yn giwt a buasent yn hapus iawn i gael ffrind hoyw. Mae dynion yn dweud fod merched sy’n hoyw yn anhygoel tra bod dynion sy’n hoyw yn anghywir. Rydym ni gyd yn haeddu’r hawl i fod pwy ydyn ni eisiau bod. Rwy’n dweud dylech chi byw eich bywyd fel ydych chi eisiau.

ST OR I O DR AI S gan Anonymoustache o Gastell Nedd Port Talbot (nptshake.com) Digwyddodd hyn i gyd dwy flynedd yn ôl. I gychwyn, roedd hi mewn perthynas erchyll, perthynas treisiol. Roedd hi’n ifanc (15) ac yn fregus, bydda ti’n gallu dweud. Roedd hi’n benwan am y bachgen yma. Buasai hi’n gwneud unrhyw beth iddo (heblaw am unrhyw beth rhywiol, roedd hi’n credu mewn ‘dim rhyw cyn priodas’). Fe oedd ei chariad cyntaf hi a doedd hi erioed wedi cusanu bachgen o’r blaen. Gan fod hi yn erbyn gwneud unrhyw beth rhywiol, roedd hyn yn ei wylltio ef felly roedd yn ei tharo hi. Roedd yr esgeulustod a’r gamdriniaeth yn gyson. Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/draisrhywiol

TWEETS/ SYLWADAU Wow, mae’r erthygl hon mor gryf. Mae’n anodd dychmygu beth fyddai fel yn y fath yna o sefyllfa - IHAVE THEC YRUS VIRUS X

Darllenwch yr erthygl lawn fan hyn bit.ly/rhywioldeb

ENNILL DA D L gan End0fDarkness o Ferthyr Tudful (mwstwrmerthyr.com) Mae bron i bopeth yr ydym yn gwneud mewn bywyd yn gysylltiedig â phobl eraill. Meddyliwch am y bobl yr ydych yn cyfarfod mewn gwahanol lefydd: yr ysgol, coleg, prifysgol, gwaith, treulio amser gyda’r teulu, mynd allan gyda ffrindiau, mynd i gyfweliadau, mynd siopa ac yn y blaen.

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl hyn yn bobl neis yn gyffredinol, ond beth am y rheini sydd ddim? Dychmygwch os roedd gan bawb y gallu i’ch darbwyllo chi i wneud beth bynnag roedden nhw eisiau i chi gwneud. Mae’n bosibl y gwnaethant i chi gredu mai dyma oedd y peth iawn i wneud, a dylech chi deimlo’n ofnadwy am beidio dilyn beth maen nhw’n dweud.

Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/EnillDadl

ANHWYLDER CORFF DYSMORFFIG gan DeadAngelLover22 o Gaerffili (youth4u.co.uk) Mae Anhwylder Corff Dysmorffig (neu BDD fel mae’n cael ei adnabod yn aml) yn anhwylder sydd yn gallu achosi gofid meddyliol a chorfforol mawr. Mawn rhai achosion difrifol efallai byddwch chi wedi clywed amdanynt, gall pobl deimlo mor “ddiflas” gyda rhan o’u corff fel y byddant yn achosi niwed mawr i’r rhan yna o’u corff. Mae gan bawb ansicrwydd bach ac yn ychydig yn falch bob hyn a hyn ond

Mae gennym ni gyd ein ansicrwyddau bach nid yw hyn yr un peth, gall BDD achosi pobl i flino’n ormodol am ran o’u corff mae ganddynt broblem gydag ef. Darllenwch yr erthygl lawn fan hyn bit.ly/dysmorffig

TWEETS/ SYLWADAU Mae hon yn erthygl bwerus iawn ac mae gen i gymaint o barch yno ti am siarad allan ynglŷn â’r mater hon - EDDIE SECRETARY


Yna mae

i chi MEIC yw’r llinell gymorth, gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. O ffeindio allan beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal chi i helpu delio gyda sefyllfa anodd, bydd MEIC yn gwrando arnoch chi pan na fydd unrhyw un arall. Byddwn yn rhoi gwybodaeth o ansawdd, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd angen arnoch chi i wneud newid.

Cysylltwch â ni yn y Gymraeg neu Saesneg; mae’n lan i chi. Rydym ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch chi gysylltu â ni drwy alwad ffôn, tecst a negeseua sydyn.

Mae MEIC yn gyfrinachol, yn ddienw, am ddim, ac ar eich cyfer chi.


DWEUD DDWEUD

C H R O M E Y PORWR MWYAF POBLOGAIDD e (shouttawe.co.uk) gan Ploppy McDougle o Abertaw

Fe wnaeth Google Chrome ragori ar Internet Explorer fel y porwr a ddefnyddir fwyaf. Mae’r rheswm dros y cynnydd cyflym ym mhoblogrwydd y porwr hefyd yn newyddion drwg i Microsoft, wrth i ragor a rhagor o bobl ddewis cau eu ffenestr Internet Explorer am y tro olaf ar ôl gosod Chrome ar eu cyfrifiadur. Ond nid problem Microsoft yn unig yw hi, oherwydd dengys StatCounter sy’n casglu ystadegau fod llawer o bobl yn gwneud yr un peth â phorwr enwog Mozilla, Firefox. Darllenwch a rhowch sylwadau ar yr erthygl lawn ar bit.ly/porwrchrome

ALCOHOL, RWY’N DY G A S AU D I

Am wybodaeth ar iechyd a materion y corff ewch i bit.ly/wicid alcoholcym

gan Ihavethecyrusvirusx o Rhondda Cynon Taff (wicid.tv) Alcohol, mae’n wir na alli di siarad
 Ond ti sy’n rheoli pa eiriau
` Sy’n dod allan o feddyliau pobl.
 Sylwedd drygionus wyt ti, yn difetha bywydau Mentra di fod yn gysylltiedig â fy un i
 Rwyt ti’n ymddwyn fel diod ddieuog
 Ond rwyt ti’n creu llanastr yn eu meddyliau, Yn rheoli eu meddyliau, Rwyt ti wedi dal nifer o bobl yn dy Drap, dwl, dychrynllyd, Er ni alli di fy nala i, na. Byddwn i fyth yn cwympo am hynny Rwyt ti wedi cymryd fy ffrindiau i ffwrdd, Eu troi mewn i rywun arall Pe bai’n bosibl i mi ddod a nhw nol
 Ond gwae fi! Rwyt ti’n rhy gryf i mi Darllenwch a gwnewch sylwadau ar y gerdd lawn ar bit.ly/CerddAlcohol


DWEUD DDWEUD

COFLEIDIO LHDT YNG NGHASNEWYDD

TWEETS/SYLWADAU

gan Snoo o Gasnewydd (youngnewport.co.uk) Grŵp LHDT newydd i bobl ifanc yng Nghasnewydd yw Embrace. Ein bwriad yw darparu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfrinachol i bobl ifanc sy’n Lesbiaid, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd yng nghanol y ddinas fel y gallai aelodau gwneud ffrindiau newydd a derbyn unrhyw gefnogaeth sydd angen arnynt, o faterion iechyd i broblemau emosiynol. Byddwn hefyd yn ymweld â cholegau lleol ynghyd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i hybu’r grŵp ac ennill aelodau. Am ragor o fanylion cysylltwch â ‘Information Shop’ Casnewydd ar 01633 255031.

Newyddion Grêt - Roeddwn i am wybod os oedd unrhyw bet h yn ei le ers ‘The Wave group’ , ond dyma’n union beth sydd ang en ar LHDT ifanc yng Nghasnewy dd - LI LE MZ 16

Am wybodaeth ar eich hawliau ewch i bit.ly/HawliauDynol

Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/embraceLHDT

YDYCH CHI AM DDYLUN IO C LAW R C LI C zi ne NESA F?

DYMA FI/SEE ME gan DanielleNicole15 o Gaerdydd (thesprout.co.uk)

Hoffech chi weld eich gwaith ar 100,000 o gopïau o CLICzine# 8 sy’n mynd allan ar draws Cymru? Mae hyn yn gyfle arbennig i ddangos eic h gwaith!

Keith Towler yw Comisiynydd Plant Cymru. Mae’n angerddol ynglŷn â lles plant yng Nghymru ac yn bwriadu hybu delweddau positif plant a phobl ifanc. Mae Towler yn teimlo’n gryf ynglŷn â labeli negyddol sy’n gysylltiedig â phobl ifanc ac felly wedi dechrau arwain ymgyrch newydd sbon o’r enw ‘See Me/ Dyma Fi’. Nod yr ymgyrch yw gorchfygu stereoteip pobl ifanc ac annog agweddau positif tuag at blant a phobl ifanc yn byw yng Nghymru.

Gallwch rhoi cefnogaeth i’r ymgyrch drwy anfon negeseuon i: seeme@childcomwales. org.uk. Gallwch chi hefyd anfon negeseuon tweet o anogaeth i @SeeMe_DymaFi. www.seeme-dymafi.org.uk Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/DymaFi

E N I LLY D D DY LU N I O CLAWR Y GYFROL HON Llongyfarchiadau a diolch i FairyG00 o Geredigion a gynlluniodd y clawr zombie arbennig ar gyfer y gyfrol hon. Mae ei waith celf ar glawr 100,000 o gopiau ac wedi mynd allan i bob ysgol, coleg, clwb ieuenctid, prifysgol a llyfrgell yng Nghymru, yn ogystal a llefydd eraill. Meddai FairyG00, “Mae mor cŵl i wybod bydd fy ngwaith i’n cael ei gyhoeddi ar lawer o zines ar draws Cymru. Rwy’n teimlo’n gyffrous i’w gweld ar y clawr blaen a gobeithio mae pawb yn ei hoffi. Y rheswm arluniais i zombies yw oherwydd maen nhw’n grêt ac i’n paratoi ni ar gyfer yr apocalyps a fydd yn cyrraedd yn fuan…pob lwc!”

Byddwn yn cyfweld a’r enillydd ar y wefan ac ar gyfer y CLICzine, hefyd byddwch yn derbyn bag anrhegio n. Felly ewch i dylunio, arlunio neu ffo tograffio! E-bostiwch eich ceisiada ui gallery@cliconline.co.uk neu ffoniwch 02920 462222.

CH ANFONW EICH U A CEISIAD


ADDYSG

HYFFORDDIANT

TG – DROS AC YN ERBYN

DECHRAU BUSNES YN Y COLEG gan thechaser o Conwy Ifanc (conwyifanc.com)

gan missnshah o Ynys Môn (defaid.com) I mi, i optimeiddio addysg llwyddiannus yw i streicio balans. Mae rhai technoleg yn diddorol iawn. Er enghraifft: argraffu amserlenni ar-lein i ddod o hyd i ddarlithiau mewn ystafelloedd seminar ar gyfer eich modiwlau, neu cyrchu sylwadau/adborth tiwtorial ar draethodau a.y.b. Mae fy nghyngor i am waith prifysgol yn hawdd: • Blaenoriaethwch dasgau a byddwch yn drefnus • Byddwch yn benderfynol i wneud yn dda • Yn bwysicach fyth mwynhewch beth yr ydych yn astudio, yna does dim modd i bethau mynd o le • Rheolwch eich amser • Gwnewch amser am doriadau

Os oes gennych ddiddordeb yn sefydlu eich busnes eich hunan bydd angen cymorth a chymwysterau arnoch chi, felly efallai mai Diploma BTEC mewn Busnes yw’r cwrs i chi. Mae gennych y Mae gennych cyfle i gychwyn gyfle i gychwyn busnes bach o busnes bach fewn y coleg ble byddent yn rhoi benthyciad o £50 i chi, ynghyd a’ch cofrestru ar gyfer y Cystadleuaeth Menter yr Ifanc. Ar ddiwedd y cwrs bydd eich canlyniadau yn rhoi lefelau TGAU o radd A i C yn dibynnu ar ba mor galed yr ydych yn gweithio ac yn mynychu. Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/BusnesYnColeg

Darllenwch yr erthygl lawn ar bit.ly/tgmanteision

HAN FOD ION CLICarlein CYSYLLTIADAU ADDYSG Y BRIFYSGOL AGORED Hybu cyfle addysgol a chyfiawnder cymdeithasol drwy ddarparu addysg prifysgol ansawdd uchel i bob un sy’n dymuno sylweddoli eu huchelgeisiau a chyflawni eu potensial. www.open.ac.uk 0845 300 6090

SNAP CYMRU I gynnig addysg o bobl gydag anghenion addysgol arbennig / anabledd a darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. www.snapcymru.org Tel: 029 2038 4868 GYRFA CYMRU Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd dwyieithog a diduedd am ddim i bobl o bob oed - gan ddod ag addysg a busnes at ei gilydd. www.careerwales.com 0800 100 900

Am wybodaeth ar addysg ewch i bit.ly/addysgdefaid

Go Wales Ystod o wasanaethau i fyfyrwyr a graddedigion a busnesau gan gynnwys lleoliadau gwaith, arian ar gyfer hyfforddiant, cronfa ddata arlein o swyddi. www.gowales.co.uk 0845 225 0650

DYSGU GYDA CLICarlein Mae gan CLICarlein amrywiaeth o becynnau hyfforddi ar gael i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i helpu chi i ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae yna gyrsiau achrededig Agored Cymru mewn Gwasanaethau Gwybodaeth Ar-lein i Bobl Ifanc sydd yn rhoi trosolwg o waith gwybodaeth ieuenctid a sut i ddefnyddio CLICarlein. Mae hefyd yna hyfforddiant ar straeon fideo, dyddiaduron

lluniau, ysgrifennu creadigol, barddoniaeth a darlledu radio. Gall CLICarlein hefyd cynnig hyfforddiant achrededig i ddod yn rhan o’r tîm arolygwyr ifanc ar gyfer gwybodaeth ieuenctid, ArOlwg. Bydd y rhain ar gael yn fuan i lwytho o ProMo-Cymru ar bit.ly/promotoolkit Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Burton, Swyddog Hyfforddiant CLIC ar rachel@cliconline.co.uk neu ar 029 2046 2222.

Wedi colli allan ar gyn cyfrol o CLICzine? Daliwch i fyny ar-lein ar bit.ly/cliczine-cym


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.