Mae cymhwyster prifysgol yn nes nag ydych yn ei feddwl...ac nid yw’n costio ffortiwn. Mae ein hamrywiaeth gynyddol o gyrsiau Addysg Uwch yn golygu y gallwch astudio cyrsiau prifysgol ar bob un o’n campysau.
Digwyddiadau agored Dewch i gael blas ar fywyd coleg yn ein digwyddiadau agored. Dyma’r ffordd orau o ddarganfod mwy am gyrsiau a chymorth ariannol, ac ymweld â’n campysau cyfeillgar. Dydd Mawrth 10 Tachwedd
5-8pm
Dydd Mercher 20 Ionawr
5-8pm
Dydd Mawrth 1 Mawrth
2-8pm
Dydd Mercher 11 Mai
5-8pm
Dydd Mercher 29 Mehefin
2-8pm
Cofrestrwch ar-lein nawr i gael cyfle i ennill £50 (amodau a thelerau’n weithredol) www.coleggwent.ac.uk/open
Sut i ddod o hyd i bethau 2 3 4 5 6
Pam astudio gyda ni? Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud Eich canllaw i gymwysterau Faint y bydd yn ei gostio? Sut i wneud cais
Mae Coleg Gwent yn bartner strategol Prifysgol De Cymru ac UHOVI (rhan o Brifysgol De Cymru).
Holl fanteision astudio yn y brifysgol Fel myfyriwr AU yng Ngholeg Gwent, bydd gennych fynediad at yr holl gyfleusterau yn y brifysgol sy’n dilysu eich cwrs, yn cynnwys canolfannau dysgu’r campysau, adnoddau ar-lein ac Undeb y Myfyrwyr. Byddwch yn derbyn trawsgrifiad gan eich prifysgol a chewch eich gwahodd i seremoni raddio’r brifysgol.
Campysau cyfeillgar yn eich ardal leol Gallwch ddisgwyl safon ddysgu o’r radd flaenaf gan ein darlithwyr arbenigol – mae gan bob un ohonynt y profiad perthnasol yn eu diwydiant felly nid yn unig y byddwch yn dysgu gan y gorau ond hefyd gallant roi cyngor i chi ynglŷn â sut i gychwyn ar eich gyrfa. Ac mae ein dosbarthiadau yn rhai bach, fel y gallwch gael syniadau mawr.
Profiad sy’n gysylltiedig â gwaith i ddechrau eich gyrfa Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith perthnasol, ond yn aml mae’n anodd cael eich troed yn y drws os ydych yn dod yn syth o fyd addysg. Bydd gennych fantais gystadleuol wrth astudio gyda ni gan fod y rhan fwyaf o’n cyrsiau AU yn cynnwys profiad sy’n gysylltiedig â gwaith Felly yn ogystal â chael cyfle i roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn y coleg ar waith mewn diwydiant, mae’n edrych yn wych ar eich CV a gallai eich gwneud yn fwy cyflogadwy.
Buddsoddiad yn eich dyfodol, na fydd yn costio ffortiwn I helpu gyda’r gost o astudio, gall holl fyfyrwyr Addysg Uwch ymgeisio am Fenthyciad Myfyriwr – nid yn unig ni fyddwch yn ei ad-dalu hyd nes i fod yn ennill dros £21,000 y flwyddyn ond hefyd pan fyddwch yn cychwyn ad-dalu bydd yn fforddiadwy ac ni fyddwch yn talu treth ar y swm. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen 5.
2
Mae bod yn fyfyriwr AU yng Coleg Gwent yn fendigedig. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth; gwrandewch ar rai o’n myfyrwyr presennol. Luke Florence Gradd Sylfaen mewn Technoleg Cerdd
“Mae’r cwrs hwn yn ddrws i fywyd gwahanol i mi. O ardal ddifreintiedig i’r cyfle o gyflawni rhywbeth. Mae’r cwrs yn fforddiadwy iawn, mae’r adnoddau’n wych ac mae’r darlithwyr yn arbenigwyr felly mae’n fuddsoddiad da iawn yn fy nyfodol.”
“Nid oeddwn yn sylweddoli y gallwch chi wneud cwrs prifysgol heb Lefelau A, felly ar ôl gorffen fy Lefel 3 mewn Busnes yng Ngholeg Gwent, roedd yn gwneud synnwyr i fynd ymlaen i’r Radd Sylfaen yn yr awyrgylch cyfeillgar lle roeddwn yn ffynnu. Mae fy lleoliad gwaith wedi rhoi’r sgiliau a hyder i mi, a fydd yn fy helpu i gael swydd ar ôl gorffen fy mlwyddyn ychwanegol.”
Martyn Nash Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Busnes
Caroline Olarewaju Gradd Sylfaen mewn Steilio Ffasiwn
“Ar ôl y Radd Sylfaen dwy flynedd yn y coleg byddaf yn gymwys i fynd ymlaen i’r flwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru, ac yna byddaf wedi ennill Gradd Baglor lawn ymhen tair blynedd. Mae’r addysgu a’r cymorth o’r radd flaenaf yn golygu y byddaf wedi paratoi’n dda ar gyfer mynd i’r brifysgol ac yna i’r byd go iawn.”
3
Dyma ganllaw i’r cyrsiau AU gwahanol y gallwch eu hastudio yng Ngholeg Gwent. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch i ddewis y cwrs cywir ffoniwch ni ar 01495 333777 - rydym yn hapus i helpu. Cymwysterau HNC a HND
Cymwysterau proffesiynol
• Cymwysterau cysylltiedig â gwaith sy’n cyfuno theori ac ymarfer • Datblygu sgiliau ar gyfer maes penodol o waith • Cânt eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr • Fel arfer yn cymryd dwy flynedd i’w cwblhau
• Cânt eu dyfarnu gan gyrff proffesiynol fel arfer • Yn cynnwys hyfforddiant ymarferol i feithrin profiad ymarferol yn eich dewis faes • Arddangos lefel medrusrwydd gydnabyddedig mewn disgyblaeth benodol
Graddau Sylfaen
Mynediad i AU
• Cyfuno astudiaethau academaidd â hyfforddiant ymarferol yn y gwaith • Astudir fel arfer dros ddwy flynedd i ennill cymhwyster yn ei rinwedd ei hun • Opsiwn i gwblhau blwyddyn ychwanegol i gwblhau gradd anrhydedd lawn
• Paratoi ar gyfer astudio ar lefel gradd os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer yr uchod • Datblygu’r sgiliau astudio sydd eu hangen arnoch i wneud cynnydd
4
Buddsoddiad yn eich dyfodol yw cwrs Addysg Uwch. Mae yna gostau yn gysylltiedig â dysgu, gan gynnwys yr amser rydych yn ei fuddsoddi ac eich ffioedd dysgu. Fe allwch fod yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol, sy’n golygu y gallai eich astudiaethau gostio llawer llai na ydych yn feddwl. Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn berthnasol i’r flwyddyn academaidd 2015/16, nid yw manylion am ffioedd a chefnogaeth ariannol ar gyfer 2016/17 wedi eu cyhoeddi eto. Fel canllaw yn unig y bwriedir y ffigyrau, bydd yr union fanylion ar gael ar ein gwefan cyn gynted â’u bod wedi eu cyhoeddi.
Myfyrwyr llawn amser Y ffi safonol llawn amser ar gyfer HNC, HND neu Radd Sylfaen yn 2015/16 oedd £6,750 y flwyddyn. Ond, £3,810 y flwyddyn yn unig oedd myfyrwyr o Gymru yn talu o ganlyniad i Grant Ffioedd heb brawf modd, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Myfyrwyr rhan amser Mae ffioedd dysgu yn amrywio rhwng cyrsiau felly mae’n dibynnu pa gwrs rydych yn ei astudio. I ddarganfod cost eich cwrs ffoniwch y tîm Derbyn ar 01495 333777.
Benthyciad Ffioedd Dysgu Gallwch naill ai dalu’r ffi dysgu o flaen llaw neu gallwch wneud cais i ohirio talu trwy drefnu Benthyciad Ffioedd Dysgu. Bydd y benthyciad hwn yn cael ei ad-dalu ar ôl i chi adael y cwrs a dechrau ennill dros £21,000 y flwyddyn. Yn 2015/16, roedd myfyrwyr llawn amser yn gallu gwneud cais am fenthyciad o hyd at £3,810 ac roedd myfyrwyr rhan amser yn gallu benthyg hyd at £2,625. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan ar ôl i ni gael y manylion am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu 2016/17.
Grant Dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth Llywodraeth Cymru Gall pob myfyriwr wneud cais am Grant Dysgu i helpu gyda chostau byw a chostau astudio (llyfrau, teithio ayyb), nid oes rhaid ad-dalu’r grant hwn. Bydd rhaid i chi ddechrau ad-dalu’r Benthyciad Cynhaliaeth o’r mis Ebrill ar ôl i chi adael neu orffen eich cwrs os ydych wedi dechrau ennill dros £21,000 y flwyddyn. Bydd faint o Grant Dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth rydych yn gymwys amdanynt yn dibynnu ar eich cais a phrawf modd. Mae manylion pellach ar gael ar ein gwefan.
Grant Cymorth Arbennig
PCET (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)
Efallai y byddwch yn gymwys am Grant Cymorth Arbennig os ydych yn unig riant, os ydy eich partner hefyd yn fyfyriwr neu os oes gennych anableddau penodol.
Yn 2015/16, roedd ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau TAR yn £611 am bob modiwl 20 credyd – byddech fel arfer yn astudio 60 credyd mewn blwyddyn.
Cymorth ychwanegol
Mae rhaid i chi wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am yr holl gefnogaeth, gan gynnwys y Grant Ffioedd. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru studentfinancewales.co.uk neu ffoniwch 0300 200 4050.
Efallai y byddwch yn gymwys am gymorth ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n dibynnu arnoch yn ariannol. Nid oes rhaid ad-dalu’r cymorth hwn ac mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys y Grant Oedolion Dibynnol, Grant Gofal Plant a’r Lwfans Dysgu i Rieni. Os oes gennych unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs o ganlyniad i anabledd, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth ychwanegol trwy’r Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Noder: Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn
5
Cadarnhewch a ydych yn gymwys a pha
berthnasol i flwyddyn academaidd 2015/16. Bwriedir y ffigyrau fel canllaw, gan nad yw’r wybodaeth ar gyfer
gymorth y gallwch ei hawlio o bosibl. www.coleggwent.ac.uk/hefinance
2016/2017 ar gael eto, Cyn gynted â’n bod wedi cael y manylion, bydd y wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa gwrs yr hoffech ei astudio, mae’n hawdd gwneud cais.
Cyngor ac arweiniad ar gyrsiau Cewch eich gwahodd i gwrdd â thiwtor pwnc a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am eich cwrs ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cofrestru a sefydlu Cewch eich gwahodd i gofrestru sydd fel arfer ar ddechrau mis Medi. Byddwn yn anfon llythyr atoch yn agosach i’r amser i roi gwybod i chi ar ba ddyddiad yn union y bydd angen i chi ddod i mewn, a beth fydd angen i chi ddod gyda chi. Byddwch yn cael gwybod mwy am y cwrs gan y staff a fydd yn eich addysgu, cwrdd â phobl eraill ar eich cwrs, ac ymgyfarwyddo â champws y coleg. Dylech ddisgwyl bod yn y Coleg am ddau ddiwrnod.
6