Gwannwyn / Autumn 2020

Page 20

Barn yr aelodau am Eryri 360 Rydym yn newid ein ffyrdd. Dydy’r pethau rydym yn eu disgwyl gennym ni ein hunain a phobl eraill ddim yn ddigyfnewid. Mae’r amgylchiadau presennol yn gwneud i bob un ohonom ail-feddwl ynglŷn â gwyliau. Cyhoeddwyd erthygl yng nghylchgrawn y Gwanwyn gan Jonathan Williams-Ellis, ac ynddi amlinellodd ei obeithion am lwybr ymwelwyr ‘Eryri 360’ o amgylch gogledd orllewin Cymru. Wrth gyflwyno’r darn gofynnwyd am eich barn. Mynegodd rhai darllenwyr gydymdeimlad gyda busnesau sy’n seiliedig ar dwristiaeth ac sy’n wynebu adegau anodd, ond roedd pob un yn bryderus mai canolbwynt y fenter yw hyrwyddo cludiant modur yn yr ardal. Mae tudalennau ein cylchgrawn yn lle da i drafod cwestiynau fel hyn. Fel y nododd un aelod, does dim llawer o amser ers I’r Gymdeithas wrthwynebu agweddau o ail-agor Rheilffordd Ucheldir Cymru. Heddiw byddai llawer o bobl yn gweld potensial i’r rheilffordd fel rhan o isadeiledd ymwelwyr mwy cynaliadwy. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dydy Cymdeithas Eryri ddim yn cefnogi menter Eryri 360. Fodd bynnag, rydym yn credu ei fod yn werth trafod eu project efo nhw ac mae’n amlwg bod aelodau’n falch ein bod wedi dod â’r mater i’w sylw. Rydym wedi cynnwys dyfyniadau o amryw o’r e-bostiau a dderbyniwyd, er mwyn rhoi blas o’r materion a godwyd: Gan Tony Pearson: Roeddwn braidd yn bryderus wrth ddarllen am fenter Eryri 360. Fe all y cysyniad hwn, yn seiliedig ar Arfordir y Gogledd 500 yn yr Alban, gael effaith negyddol ar Eryri. Fel y mae’r erthygl gan Jonathan WilliamsEllis yn ei grybwyll, arweiniodd yr AG 500 at gynnydd o 70% yn y nifer o ymwelwyr yn ei blwyddyn gyntaf. A fyddem ni eisiau cynnydd tebyg yn y nifer o ymwelwyr yn ardal Eryri? Gan Peter Foulkes, Machynlleth: Twristiaeth araf, nid cyflym. Rydw i wedi treulio amser (araf) yn Sutherland, gan fwynhau’r tirlun anhygoel a’r bywyd gwyllt hyfryd, ond roeddwn yn bryderus am y nifer o gampar-faniau, a oedd wedi prynu nwyddau yn rhatach cyn hyd yn oed cyrraedd Ucheldir yr Alban, mae’n debyg. Gwelais un fan o’r fath yn treulio’r noson ym maes parcio Bae Sandwood, gan ddefnyddio’r toiledau a’r cyflenwad dŵr am ddim yn hytrach na defnyddio’r maes gwersylla ychydig o filltiroedd i lawr y ffordd. Heb sôn am y rhes o geir cyflym crand gyda’u bwriad o deithio’r 500 cyn gynted â phosib. Gan Paul Nickson, Llanberis: Rydym yn gwybod am dagfeydd ar ffyrdd Eryri yn enwedig yn yr haf. Mae’r cylchgrawn yn cyfeirio yn rhywle arall at Gynllun yr Wyddfa[1] a’r gwir angen i fynd i’r afael â’r parcio a phroblemau trafnidiaeth eraill sy’n effeithio ar y Parc. Alla’i ddim ond dychmygu cymaint yn waeth fydd hyn nid yn unig yn y Parc ond mewn mannau eraill yn y cynllun ‘360’ megis Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn. Gobeithio y bydd y Gymdeithas yn ymbellhau o’r project hwn a gweithredu yn ei ffordd drylwyr arferol i gynlluniau dychrynllyd megis cynlluniau ynni dŵr yn Ffos Noddun.

20 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Gan Graham Wood, Eglwysbach: Doeddwn i ddim yn gwybod dim am y fenter hon nes y derbyniais rifyn y gwanwyn o’r cylchgrawn. Credaf y bydd gan lawer o bobl ddiddordeb, yn cynnwys grwpiau cymunedol yn y dyffrynnoedd yr effeithir o bosib arnyn nhw. Mae’r blaned mewn argyfwng hinsawdd, gydag allyriadau o’r defnydd o danwydd ffosil yn brif ffactor gyfrannol. Ac eto dyma fenter a gynlluniwyd yn benodol i ddod â nifer cynyddol o gerbydau modur i mewn i Eryri. Os yw’r profiad yn yr Alban yn rhyw fath o arweiniad, yna bydd llawer o’r rhain yn gampar-faniau mawr a yrrir gan ddisel. Mae’r ffaith fod y fenter yn cael ei noddi gan Lotus – cynhyrchwr ceir sbort perfformiad uchel – yn arwydd bryderus arall o’r defnydd a ragwelir. Mae fy mhrofiad o Arfordir y Gogledd 500, fel beiciwr ac wrth sgwrsio efo bobl leol yn Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban, yn awgrymu drwg deimlad enfawr tuag at yr aflonyddwch, sbwriel, tagfeydd, graddau damweiniau uwch ac yn y blaen o ganlyniad i drafnidiaeth gynyddol. Un gŵyn gyffredin yw bod cwmnïau llogi campar-faniau ac archfarchnadoedd yn Inverness yn gwneud yn dda, tra bod rhesi hirion o faniau yn gyrru ar hyd y llwybr yn peri tagfeydd ond yn disgwyl cael parcio am ddim dros nos, gadael sbwriel a gwagio eu toiledau cemegol er nad ydyn nhw’n defnyddio fawr ddim ar fusnesau lleol. Er nad ydy’r ffyrdd a ddewisir ar gyfer llwybr Eryri 360 yn rhai trac sengl, mae’r potensial ar gyfer problemau tebyg yn amlwg. Er enghraifft, y ffordd B drwy Dal-y-cafn, Dolgarrog a Threfriw. Er nad yw’n drac sengl, mae’n gul ac yn droellog a does dim posibl gweld ymhell arni. Os ydych chi wedi beicio ar ei hyd byddwch yn gwybod cyn lleied o le sydd i gerbydau fynd heibio hyd yn oed efo traffig ar lefelau presennol. Mae’r darnau o wydrau aden ceir toredig yn adrodd cyfrolau. Fel llwybr beicio y peth gorau allwn ni ei ddweud am y ffordd B yma yw mai dyma’r dewis ‘mwyaf peryglus’ yn Nyffryn Conwy. Mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng yr angen am ddyfodol sy’n economaidd hyfyw ar gyfer cymunedau gwledig a pheryglon masnachu cynyddol. Ond mae’n bosib bod dewis arall yn bodoli. Yn ystod y clo mawr rydym wedi bod yn beicio bob dydd. Mae beicio heb gar nag injan i’w clywed wedi rhoi golwg hyfryd ar yr hyn fyddai’n bosib yn yr ardal, gyda dim i’w clywed ond caneuon adar a sŵn y gwynt yn y coed, ac awyr iach i’w anadlu heb orfod blasu mwg ceir sy’n pasio heibio. Ystyriwch sut mae hyn yn cymharu gyda’r golygfeydd o barcio gwallgof yn Ogwen a Phen-y-pas yn yr wythnosau cyn ac ar ôl y clo mawr. Fe all Eryri ddod yn hyrwyddwr ar gyfer twristiaeth ‘araf’ neu ‘werdd’. Dychmygwch yr ardal gyda buddsoddiad sylweddol mewn rhwydwaith o lwybrau beicio di-draffig, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus mwy aml a gyda phrisiau rhesymol yn cysylltu’r amrywiol atyniadau a mannau cychwyn/gorffen teithiau. Fe all Eryri oleuo’r ffordd ar gyfer mwynhad o awyr agored distaw, heb lygredd na cherbydau. Dydw i ddim yn arbenigwr, ond mae’n siŵr bod ffyrdd i fod â mwy o gyswllt â’r teimlad presennol nag annog mwy o bobl i yrru i mewn i’r ardal, gyda ‘gyrru cerbyd’ fel y prif weithgaredd. [1] Mae Partneriaeth yr Wyddfa ar hyn o bryd yn gweithio ar opsiynau tymor hir i sicrhau bod teithio a chludiant yn llawer mwy cynaliadwy yn ardaloedd y Parc Cenedlaethol sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr – ar hyn o bryd mae ein Cyfarwyddwr yn Gadeirydd Partneriaeth yr Wyddfa.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.