Eryri heb sbwriel? Mae hyn yn ein dwylo ni Mary-Kate Jones Gyda chefnogaeth Partneriaeth Eryri, mae Cymdeithas Eryri yn arwain ar fynd i’r afael â sbwriel. Rydym wedi bod yn brysur yn cydlynu pecyn o fesurau wedi eu cyd-drefnu, gweithrediadau, ac ymgyrchoedd i fynd i’r afael â materion penodol yn ymwneud â sbwriel ar yr Wyddfa ac o amgylch yr Wyddfa. Fe all sbwriel ymddangos yn broblem anodd ei datrys. Nod y gwaith hwn yw torri problem sbwriel i rannau llai, ysgogi pobl i feddwl ac annog newidiadau positif mewn ymddygiad. Mae ein negeseuon cyntaf yn ymwneud â chroen ffrwythau, poteli plastig, pacedi creision a’r hen broblem honno, ‘Sut allwn ni fynd i’r afael â baw dynol?’ Mae croen ffrwythau yn enghraifft amlwg. Credwn y byddai llawer o bobl sy’n gadael croen ffrwythau ar y mynyddoedd yn dychryn wrth feddwl am adael potel blastig. Does gan lawer ohonyn nhw ddim syniad bod croen ffrwythau, eri ei fod yn pydru’n fuan mewn tomen gompost gynnes braf, yn gallu parhau am hyd i ddwy flynedd ar fynyddoedd oer. Wrth gyfathrebu negeseuon syml fel hyn gobeithiwn annog pobl i gymryd gofal arbennig a pharatoi’n well. Rydym yn rhannu’r posteri yma’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Dewch atom i ledaenu’r gair ac ynghyd â Phartneriaeth yr Wyddfa, partneriaid a busnesau cyfrifol ar hyd a lled Eryri gallwn helpu i gyfathrebu y negeseuon iawn a gwneud
22 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd
gwahaniaeth ledled y Parc Cenedlaethol. Dydy sbwriel ddim yn anochel. Mae Eryri heb sbwriel yn bosib. Mae’n amlwg y byddai Eryri heb sbwriel yn well profiad i bawb – preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ond mi fyddai Eryri heb sbwriel hefyd yn arbed arian, canlyniad lle byddai pawb ar eu hennill. Mae’r arbedion o ran costau arian ac amser staff pe bai pawb yn mynd â’u sbwriel gartref yn sylweddol, o ystyried y pwysau difrifol ar hyn o bryd ar yr awdurdodau, elusennau, tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud eu gorau glas i warchod Eryri. Mae yna lu o broblemau anodd, megis trafnidiaeth a pharcio, lle bydd angen gwario arian mawr ar adeiladwaith mewnol a chostau gweithredu er mwyn sicrhau atebion tymor hir. Mae sbwriel yn wahanol. Mae’r atebion i sbwriel yn ein dwylo ni – mae gan bob un ohonom ran hanfodol i’w chwarae. Mae sbwriel, yn llythrennol, yn ein dwylo ni. Pwy fyddai’n meddwl ei bod yn iawn agor eu drws a dod o hyd i sbwriel wedi ei adael ar riniog eu drws? Wel, neb, wrth gwrs. Dyna pam yr ydym yn credu bod pawb yn alluog i ddeall pam fod hyn yn bwysig ac yn gallu bod yn ofalus. Ein her yw trosglwyddo’r ymwybyddiaeth yma i bobl mewn ffyrdd sy’n gweithio. Felly does