Nature of Snowdonia - taith Mike Raine Pe bai ffasiwn beth â cherddwr mynydd neu ddringwr nodweddiadol yn bodoli yna credaf na fyddai gwybodaeth, dealltwriaeth nag ymwybyddiaeth amgylcheddol yn uchel ar eu rhestr o flaenoriaethau. Yn amlwg, maen nhw i gyd yn mwynhau crwydro’r mynyddoedd, ond bydd y rhan fwyaf wedi eu hudo gan yr her gorfforol a meddyliol a gysylltir â chrwydro’r bryniau. Dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r amgylchedd, ac mae’r rhan fwyaf yn falch o ddysgu dipyn bach mwy amdano. Yn fy mhrofiad i, fodd bynnag, ychydig o wybodaeth amgylcheddol sydd gan lawer o ymgeiswyr sy’n ymuno â mi ar gyrsiau arweinydd mynydd neu hyfforddwyr mynydda ac roedden nhw hefyd wedi darganfod y mynyddoedd fel cyfrwng ar gyfer heriau corfforol a meddyliol. I fod yn arweinydd mynydd llwyddiannus a chyfrifol maen nhw’n wynebu’r orchwyl anodd o gael gafael ar wybodaeth am yr amgylchedd o ystod o ffynonellau ac mae gormod ohonyn nhw wedi dysgu i ailadrodd ambell i chwedl fynyddig go amheus. Mae’n debyg mai oherwydd y blodyn tresgl y moch yn fwy na’r un arall y daeth y llyfr yma i fodolaeth. Dywedwyd wrthyf sawl gwaith ar gyrsiau asesu arweinydd mynydd mai aelod o deulu’r blodau ymenyn oedd hwn. Os ydych mewn sefyllfa un-i-un gallwch fynd i’r afael â hyn yn eithaf rhwydd ond, mewn safle o ffug arwain dydy hyn ddim mor hawdd. Gellir dilyn y rhan fwyaf o straeon arweinydd mynydd posib i bwynt lle mae’r ymgeiswyr yn gallu cywiro eu hunain, a gorau oll os bydd hynny’n digwydd cyn iddi fynd yn beryglus. Ond, os yw arweinydd potensial yn troi at grŵp a dweud rhywbeth sy’n anghywir, yna beth ddylai’r asesydd ei wneud? Dydy o ddim yn beth braf dweud wrth bobl eu bod yn anghywir yn syth bin, a hynny o flaen eu cyfoedion. Fodd bynnag, os na fydd y camgymeriadau yma’n cael eu cywiro’n syth yna mae’n bosib iddyn nhw gael eu hailadrodd bedair gwaith, o ystyried bod pedwar ar gwrs asesu arweinydd mynydd a chymryd bod y lleill wedi coelio’r ffaith a’i drosglwyddo. Yr hyn oedd ei angen oedd ffynhonnell o wybodaeth wedi ei hanelu’n uniongyrchol at y gynulleidfa hon. O ganlyniad i fy nghynnig i helpu gyda hyn cynhyrchwyd Nature of Snowdonia (Gwasg Pesda 2020). Syniad y llyfr hwn oedd dod ag ystod o bethau y gall y darllenwr/cerddwr/dringwr eu gweld ar ddiwrnod nodweddiadol ar y mynydd at ei gilydd. O’r dechrau un doedd Tresgl y moch, a arferai gael ei ddrysu gyda blodau’r ymenyn gan ambell i arweinydd mynydd ●Tormentil, used to be confused with buttercups by some mountain leaders
Mike Raine
hwn ddim yn llyfr am lygad y dydd, y blodyn ymenyn na feillion na’r blodau arctig alpaidd mwy prin. Roedd yn llyfr am dresgl y moch, teim, a chlustog Fair, am rigoliadau, meini crwydr a chen map; y pethau yr ydych yn eu gweld. Mae’n anochel bod dringwyr yn crwydro oddi ar y llwybr amlwg, felly roeddem yn teimlo bod rhyw ymwybyddiaeth o’r planhigion arctig alpaidd mwy prin, yn cynnwys brwynddail y mynydd, yn haeddu ei gynnwys. Ond, mae’r darlun eang yn ymgais i ddangos ac egluro natur pob dydd taith yn ucheldir Eryri, ledled ystod o bynciau. Cyn hyn byddai angen cyfrolau gwahanol ar arweinyddion ar gyfer adnabod blodau, adar, pryfed, glaswellt, coed, rhedyn, ffwng, mamaliaid, mwsogl, cen, daeareg, daearyddiaeth ac archeoleg heb sôn am ddulliau o amaethu tir mynydd neu chwedlau lleol. Roedd cludo dwsin neu fwy o lyfrau adnabod erioed yn apelio i’r sawl sy’n hoff o droedio mor ysgafn â phosib ar y mynyddoedd. Mi oedd hyn felly yn golygu ei bod yn afresymol methu neu ohirio llwyddiant ymgeisydd am beidio â bod yn berchen ar lefel dda, neu hyd yn oed sylfaenol, o wybodaeth. Fy syniad i oedd tynnu lluniau o bob dim yr oeddwn yn eu gweld ar y mynydd am flwyddyn neu ddwy ac yna eu gosod mewn llyfr. Dyma, yn ei hanfod, yr argraffiad cyntaf o Nature of Snowdonia. Fy ngobaith yw ei fod wedi aeddfedu dros y blynyddoedd, wedi dod o hyd i’r gynulleidfa briodol ac yn siarad efo nhw mewn ffordd ddealladwy – does dim allwedd ar gyfer botanegwyr yma! Rydym yn adnabod blodau yn ôl y tymor a’u lliw gyda chyfeiriad at gynefin a maint o fewn y testun. Mae’r ail argraffiad wedi ei ymestyn yn sylweddol, wedi ei ail-ysgrifennu’n eang ac mae ynddo dros 100 o ffotograffau newydd. Gwybodaeth am y llyfr, ei bris, ac opsiynau dewisol am ei brynu https://www.mikeraine.co.uk/product-page/nature-ofsnowdonia-2nd-edition Mae Mike Raine yn rhan o dîm hyfforddi Plas y Brenin, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, ac yn awdur Nature of Snowdonia (Gwasg Pesda 2020.) Gallwch ei ddilyn ar Trydar @mikeraine neu gallwch hoffi ei Blog ar Facebook ‘Notes from the Hill’. Chwiliwch hefyd am ei weithdai Nature of Snowdonia preifat.
28 | 28 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlyneddGwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd