newyddion trist Teyrnged i Syr John Houghton 1931-2020
A Tribute to Sir John Houghton 1931-2020
Bu farw Is-lywydd Cymdeithas Eryri a’r gwyddonydd hinsawdd byd-enwog Syr John Houghton ym mis Ebrill 2020, yn 88 oed.
Vice president of the Snowdonia Society and worldrenowned climate scientist Sir John Houghton has died, April 2020, at the age of 88.
Roedd yn un o arweinyddion cynnar mwyaf dylanwadol y Panel Rhyng-lywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), a sefydlwyd ym 1988 i gynghori llunwyr polisi ar wyddoniaeth newid hinsawdd fyd-eang. Ef oedd prif olygydd tri adroddiad cyntaf yr IPCC a chadeiriodd neu gyd-gadeiriodd bwyllgor asesu gwyddonol y panel. Yn 1997 roedd Syr John ymysg gwyddonwyr yr IPCC a gasglodd Wobr Heddwch Nobel yn Oslo ar ran y corff. Rhannwyd y wobr y flwyddyn honno gyda chyn islywydd yr UD, Al Gore.
He was among the most influential early leaders of the UN’s Intergovernment Panel on Climate Change (IPCC), which was set up in 1988 to advise policymakers on the science of global climate change. He was the chief editor for the IPCC’s first three reports and chaired or co-chaired the panel’s scientific assessment committee. In 2007 Sir John was among the IPCC scientists who collected the Nobel Peace Prize in Oslo on behalf of the organisation, which shared the award that year with former US vice president Al Gore.
Yn gyn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Swyddfa Dywydd ac yn ddiweddarach yn Brif Weithredwr, sefydlodd Syr John Ganolfan fyd-enwog Hadley dros Newid Hinsawdd a Gwasanaethau. Fel un o wyddonwyr hinsawdd mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, cyfrannodd yn fawr at ddealltwriaeth achosion ac effeithiau’r cynnydd yn nhymheredd y ddaear.
A former Director General and later Chief Executive of the Met Office, Sir John founded the world -renowned Hadley Centre for Climate Science and Services. As one of the foremost climate scientists of his generation, he contributed greatly to the understanding of the causes and impacts of global temperature rise.
Yn 1972 etholwyd Syr John yn gyfaill y Gymdeithas Frenhinol. Cafodd ei urddo’n farchog yn 1991, enillodd fedal aur y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol yn 1995 ac fe’i anrhydeddwyd â Gwobr Siapán yn 2006. Ganwyd John Houghton i rieni a oedd yn Fedyddwyr pybyr yn Nyserth, gogledd Cymru ac fe’i magwyd yn y Rhyl, lle y datblygodd ei gariad tuag at y môr a’r mynydd. Ei gof pennaf o’i blentyndod oedd harddwch cefn gwlad Eryri a bryniau Clwyd gerllaw. “Fy nghof cryfaf yw fy mod yn hoff iawn o gefn gwlad. Mae’n lle hyfryd a chyn gynted ag oedd gen i feic roeddwn yn mynd ar fy meic i grwydro’r ardal gyfan gyda chyfeillion. Roeddwn i hefyd yn mwynhau teithiau i Eryri i ddringo mynyddoedd.” Mynychodd Ysgol Ramadeg y Rhyl ac enillodd ysgoloriaeth yn 16 oed i Rydychen. Aeth ymlaen i ddod yn athro ffiseg atmosfferig. Yn 1997 cynorthwyodd Syr John gyda ffurfio Menter John Ray, elusen addysgiadol a oedd yn canolbwyntio ar gynghroesiad gwyddoniaeth, yr amgylchedd a Christnogaeth. Yn Gristion ymroddedig, ni welai wrthdaro rhwng ei gredoau crefyddol a’i safle fel un o’r unigolion a oedd ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth hinsoddol. Yn 2007, symudodd Syr John i Aberdyfi. Yn ôl ei wyres, Hannah Malcolm, “cafodd fyw ei flynyddoedd olaf ger y môr yng Nghymru, sef y man, mae’n debyg (heblaw am lusgo pobl i fyny llwybrau amheus ym mynyddoedd Cymru) a garai fwy nag unlle arall.” Gwahoddwyd Syr John i ddod yn Is-lywydd o’r Gymdeithas gan David Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Eryri ar y pryd. Roedd ganddo ddiddordeb yn y Gymdeithas a’i gweithgareddau, mynychodd ein CBC yn y Bermo yn 2010 ac ysgrifennodd erthygl ar newid hinsawdd ar gyfer cylchgrawn y Gymdeithas yng ngaeaf 2010. Ynghyd â David Lewis, helpodd i lunio dull y Gymdeithas o fynd i’r afael â materion newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy. Yn ymgynghorydd amrhisiadwy i Ganolfan y Dechnoleg Amgen, CAT, ger Machynlleth, cyfrannodd yn hael i CAT yn 2016 i greu Bwrsari blynyddol Syr John Houghton ar gyfer helpu i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i archwilio atebion hinsawdd. Ein cydymdeimlad llwyraf â theulu Syr John a’i ffrindiau oll.
30 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd
In 1972 Sir John was elected a fellow of the Royal Society. He was knighted in 1991, won the Royal Astronomical Society’s gold medal in 1995 and was honoured with the Japan Prize in 2006. John Houghton was born to strict Baptist parents in Dyserth North Wales and grew up in Rhyl, where his love for the sea and mountains began. His abiding memory of his childhood is the beauty of the nearby countryside of Snowdonia and the Clwydian hills. “My strongest memory would be that I was very fond of the countryside. It’s a wonderful place and as soon as I got a bicycle I remember I went cycling around exploring the whole area with friends. I also enjoyed trips we made to Snowdonia to climb mountains.” He attended Rhyl Grammar School and won a scholarship at 16 to Oxford, where he went on to become a professor of atmospheric physics. In 1997 Sir John helped to form the John Ray Initiative, an educational charity focused on the intersection of science, the environment and Christianity. A committed Christian he saw no conflict between his religious beliefs and his position at the vanguard of climate science. In 2007, Sir John moved to Aberdyfi. His grand daughter, Hannah Malcom, comments “he got to live his final years by the sea in Wales, which was perhaps the place (apart from dragging people up 'shortcuts' on Welsh mountains) that he loved most of all.” David Lewis, then Chair of the Snowdonia Society, invited Sir John to become a Vice-President of the Society. He took an interest in the Society and its activities, attended our AGM in Barmouth in 2010 and wrote an article on Climate Change for the Society magazine of winter 2010. With Davis Lewis he helped to shape the Society’s approach to climate change and renewable energy issues. A valued adviser to the Centre for Alternative Energy, CAT, near Machynllech, he made a generous donation to CAT in 2016 to create the annual Sir John Houghton Bursary helping support the next generation of students in exploring climate solutions. Our deepest condolences to all of Sir John’s friends and family.