Gwannwyn / Autumn 2020

Page 6

Atal y wasg! Byddwch yn darllen yn rhywle arall yn yr ohebiaeth hon faint sydd wedi ei gyflawni o ran ein gwaith ymarferol hyd at y clo mawr ac yn wir ers hynny. Wrth gwrs, dydy’r gwaith hwn ddim yn dod i ben ac hoffem rannu gyda chi rhai syniadau cyffrous am y camau nesaf. Rydym yn datblygu rhaglen bwysig a fydd, gobeithio, yn cynyddu ystod ein gwaith yn fawr – rhaglen tair-blynedd i fynd i’r afael â’r heriau allweddol a nodwyd yn ein Cynllun Gweithredu. Ymysg yr heriau yma mae ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth wrth iddyn nhw amlygu eu hunain yn Eryri. Materion megis adfer mawnogydd, rheoli cynefinoedd, plannu coed lle mae eu hangen a chefnogi’r projectau cadwraeth mawr gyda’n partneriaid. Ochr yn ochr â’r rhain mae’r heriau sy’n codi o bwysau ymwelwyr. Mae’r angen am fodel mwy cynaliadwy o dwristiaeth yn arbennig o amlwg yn y safleoedd ‘pot mêl’ poblogaidd sy’n denu’r cyfran fwyaf o’r ymwelwyr hynny. Yma mae angen i ni helpu pobl i ddewis yn briodol a pharatoi ac, wrth gwrs, mae angen i ni gynnal llwybrau a mynd i’r afael â sbwriel. Bellach mae dwy her fawr newydd wedi dod yn amlwg. Yn gyntaf, yr angen i gwblhau ein gwaith yn ddiogel ac yn gyfrifol rŵan bod ein hasesiadau risg yn gorfod ymateb i effeithiau Covid-19. Yn ail, yr angen i osgoi’r problemau sydd wedi amlygu eu hunain o ran yr adnoddau sydd ar gael i ni ac adnoddau ein partneriaid. Fel elusennau eraill ac yn wir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae rhai o’n prif ffynonellau incwm allweddol wedi crebachu neu ddiflannu. Yn y cyfamser, wrth i orwelion gwyliau’r genedl grebachu o flaen ein llygaid, ac wrth i lawer o bobl ddewis ymweld â Pharciau Cenedlaethol er nad ydyn nhw wedi gwneud hynny o’r blaen, mae’r angen am ein gwaith a’n negeseuon yn fwy nag erioed.

Hyd yma, mae ein hatebion yn ymddangos fel a ganlyn. Rydym yn cyflawni llawer o waith, diolch i’n staff arbennig a’n gwirfoddolwyr. Ond does gynnon ni mo’r adnoddau i gyflogi casgliad mwy o staff parhaol. Yr hyn sydd gennym yw traddodiad rhagorol o hyfforddiant, cefnogi a mentora gwirfoddolwyr a phobl ifanc ar leoliadau gwaith. Beth pe baem yn gallu cymryd hynny gam ymhellach a chynnig prentisiaethau/gwaith ar leoliad ac wrth wneud hynny gynyddu ein gallu i fod yn effeithiol? Faint yn fwy o gymorth a fydden ni’n gallu ei roi i’n cyrff bartneriaid pe bai gennym dîm cyfan o bobl ifanc – a fyddai’n derbyn cyflog byw – yn datblygu eu medrau ac yn canolbwyntio eu hegni ar helpu i warchod Eryri ac ateb yr heriau a amlinellir uchod. Gyda’r hyfforddiant a’r gefnogaeth briodol ar waith, byddai’r prentisiaid yma’n gallu arwain grwpiau o wirfoddolwyr eu hunain wedyn ar orchwylion y mae angen cryn dipyn o rym pobl arnyn nhw – mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, sbwriel a chynnal llwybrau ar raddfa na welwyd o’r blaen. Wrth ddilyn y trywydd hwn byddai pobl ifanc sydd â chariad tuag at Eryri’n cael eu hannog ac yn derbyn yr hyfforddiant i wneud eu rhan – profiadau ac ysgogiad a fydd o bosibl yn parhau gydol eu hoes. Mae llawer i’w wneud ond mae hefyd cymaint o botensial. Mae cyfle i godi graddfa ein gwaith a’n heffaith. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda noddwyr ariannol potensial am y gwaith hwn. Bydd angen ein haelodau a’n noddwyr ariannol presennol arnom, ond bydd angen i ni hefyd ddod o hyd i gefnogwyr newydd a ffynonellau newydd o ariannu. Os allwch chi helpu neu os oes gennych syniad pwy all helpu, cofiwch gysylltu. Cysylltwch â John Harold, ein Cyfarwyddwr i drafod hyn ar director@snowdonia-society.org.uk.

Wrth edrych ar y sefyllfa hon yng nghyd-destun gwlad sy’n wynebu dirwasgiad, rydym yn gofyn y cwestiwn ‘Beth allwn ni ei wneud i helpu?’

Ffordd liwgar i godi arian i'r Gymdeithas

Cacynnen y llus ● Bilberry bumblebee Cwm Idwal ©Ben Porter

6 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Mae un o’n hymddiriedolwyr, Julian Pitt, yn creu ffenestri gwydr lliw (er nad ydy o’n lliwio gwydr gyda brwsh gan fod yn well ganddo ddefnyddio technegau cyfuno a chastio mewn odyn). Mae o newydd gwblhau ffenestr ar gyfer neuadd Canolfan Gadwraeth Pensychnant yng ngogledd y Parc Cenedlaethol. Ymysg ei waith blaenorol mae ffenestr sy’n rhan o’r arddangosfa barhaol yng Nghanolfan Genedlaethol Cofio’r Holocost ger Stafford. Os oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu ffenestr, fach neu fawr, ar gyfer rhywle sy’n agos at eich calon, yna mae Julian yn cytuno i gyfrannu tâl llafur ei holl waith i Gymdeithas Eryri. Mae’n bosibl codi swm sylweddol i’r Gymdeithas oherwydd mae cynllunio a chreu ffenestri addurniadol yn cymryd cryn amser. Gellir cysylltu ag ef drwy gyfrwng swyddfa’r Gymdeithas os hoffech gael gair am broject potensial.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.