Croeso’n ôl i wirfoddolwyr!
Casglu sbwriel ar lwybr Llanberis ● Litter clearing, Llanberis path
Yng nghanol Mawrth 2020, gadawodd staff Cymdeithas Eryri ein swyddfa heb wybod pryd y byddem yn gallu dychwelyd. Daeth yr holl waith ymarferol gyda gwirfoddolwyr i ben a chaewyd llawer o Eryri.
ar gyfer dechrau recriwtio gwirfoddolwyr. Fel bob amser, daeth gwirfoddolwyr Eryri i’r adwy ac o fewn wythnos roedd 100 o bobl wedi arwyddo ac yn falch o gael mynd allan unwaith eto i’r mynyddoedd i wneud gwahaniaeth.
Bu’n rhaid wrth gryn amser i addasu i weithio o adref ond cyn bo hir roeddem wedi cynefino â gweithio drwy gyfrwng galwadau fideo a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithiol gyda’n Hymddiriedolwyr. Ymhen rhai wythnosau ac wrth i’r clo mawr ddechrau llacio mewn mannau eraill, gwelsom luniau o fannau hyfryd a agorwyd eto, a dychryn o weld y sbwriel a’r diffyg cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â’r pwysau ychwanegol a roddwyd ar wasanaethau lleol, gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd.
Wrth i ni ysgrifennu hwn, mae ein staff yn trefnu ac yn arwain y gwirfoddolwyr yma, sy’n chwarae rhan hanfodol mewn gwarchod y cyhoedd a’r Parc Cenedlaethol. Maen nhw’n sicrhau bod negeseuon allweddol am ddiogelwch ac ymddygiad cyfrifol yn cael eu cyfleu ar safleoedd prysur. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu a gwireddu’r cynllun hwn; rydych chi wir yn arwyr Eryri!
Sut fyddai Eryri yn dygymod â’r lluoedd o bobl a welwyd mewn mannau eraill? A fyddai problemau parcio ceir, taflu sbwriel, a heidio yn gwaethygu neu’n cael eu lliniaru gan y cyfyngiadau mewn gwahanol rannau o’r DU? Roedd yn amlwg bod angen i negeseuon allweddol gyrraedd y bobl iawn. Ond sut? Cysylltodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri â Chymdeithas Eryri a’r Bartneriaeth Awyr Agored i gynorthwyo gyda mynd i’r afael â hyn. Y cynllun oedd datblygu rhaglen waith newydd lle byddai gwirfoddolwyr ‘Croeso’n ôl’ yn trosglwyddo negeseuon pwysig i ymwelwyr wrth iddyn nhw ddychwelyd i Eryri. Wedi tair wythnos hynod o brysur yn cynnwys llu o gyfarfodydd ar-lein ac e-byst, gan weithio o dan bwysau ar gyfer ail agor Eryri yn gynnar ym mis Gorffennaf, sefydlwyd y mesurau diogelwch
8 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd
Gwaith ar lwybr Llanberis mis Awst 2020 ● Footpath work Llanberis path August 2020