Cadwyn Hydref 2014

Page 1

Cadwyn Gwent

Cylchgrawn i Ddysgwyr Cymraeg Gwent Magazine for Gwent Welsh Learners

Rhifyn Hydref 2014

dion Newyd ddiant llwy u l h t a D rwyo b o W Noson laen? m y d yd Beth s er mwy! a llaw

News Celebrating Success Awards Evening What’s On? plus much more


Newyddion

News

PARTI HAF yn y Bell, Caerllion Ar ddiwrnod braf yn ngoleuni’r haul cafwyd Parti Haf y Dysgwyr yn nhafarn y Bell yng Nghaerllion. Roedd yr haul yn gwenu y diwrnod hwnnw, a phawb yn y parti yn gwenu hefyd! Fe wnaeth pawb fwynhau’r barbeciw blasus, y band jazz bendigedig, y swynwr syfrdanol a’r melysion mawreddog. Cafwyd noson lawn hwyl a chwerthin gyda dysgwyr a thiwtoriaid yn mwynhau’r wledd a mwynhau siarad yn Gymraeg. Roedd pawb wedi llenwi eu boliau gyda bwyd blasus y barbeciw, tra’n gwrando ar y band jazz yn perfformio drwy’r nos, ac edrych ar y swynwr Eirian Wynn yn perfformio ei driciau digrif. Roedd Cert Melysion ‘Taylered Sweet Sensations’ yn wag erbyn diwedd y noson! Roedd y noson mor llwyddiannus cafodd erthygl ei hysgrifennu ym mhapur newydd yr Argus! Rydym yn enwog! Cofiwch gadw llygaid allan am fwy o’n digwyddiadau ni, ac archebwch eich lle mewn da bryd! Mae ein partïon yn boblogaidd iawn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i’r un nesaf - ein Parti Nadolig ar Ragfyr 2ail yn Sefydliad Llanhilleth Institute.

Sgwrsio gyda

Geirfa: Goleuni – Light Tafarn – Pub Gwenu – Smile Blasus – Tasty Bendigedig – Fantastic Swynwr – Magician Syfrdanol – Amazing Melysion – Sweets Mawreddog – Grand Perfformio – Performing Cert Melyson – Sweet Cart Llwyddiannus – Successful Enwog – Famous Archebwch – Book Poblogaidd –Popular

Dr. Christine James

Y

n ystod Wythnos Addysg Oedolion fe wnaeth yr Arch-dderwydd Dr. Christine James ymweld â Chlwb Clonc y Pŵerdy yng Nghwmbrân. Mae Dr. Christine James yn fardd adnabyddus iawn, wedi dysgu’r Gymraeg, ac erbyn hyn yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod. Christine yw’r fenyw gyntaf erioed i fod yn Arch-dderwydd! Mae hi nawr yn darlithio ym maes Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yn Abertawe, ac fe wnaethpwyd amser yn ei hamserlen brysur iawn i ddod i siarad gyda rhai o ddysgwyr y Clwb Clonc. Fe wnaeth pawb fwynhau ei straeon difyr a doniol, o’i phrofiadau yn dysgu’r Gymraeg fel ail-iaith yn yr ysgol, ei gwreiddiau fel bardd, ei gyrfa ym myd llenyddiaeth Gymraeg, ennill y Goron yn yr Eisteddfod a’i hethol yn Archdderwydd.

Cafodd dysgwyr y cyfle i ofyn nifer o gwestiynau i Dr. Christine James, ac roedd Christine wedi mwynhau’n fawr cael sgwrsio gyda dysgwyr Gwent yn y Gymraeg. I weld cyfweliad gyda Dr. Christine James, dilynwch y linc isod:

https://www.youtube.com/watch?v=yzJdZHB5IZ8

Geirfa: Arch-dderwydd – Arch-druid Ymweld – Visit Bardd – Poet Adnabyddus – Renowned Darlithio – To lecture Llenyddiaeth – Literature Oesoedd Canol – Middle Ages Amserlen – Schedule Difyr – Interesting Doniol – Funny Profiadau – Experiences Gwreiddiau – Roots Ethol – Elect Cyfweliad – Interview


Dylan Thomas’s trousers E

very year in the 1970’s my parents, sister and I used to go on holidays to West Wales. My father was mad on the poetry of Dylan Thomas and every year we visited Laugharne, the home of Dylan Thomas the poet. One day we were walking towards Dylan’s home on the path above the boathouse, when my father started talking to an old lady. This lady was Dolly Long, Dylan Thomas’s housekeeper. My father asked if she had any possessions belonging to Dylan Thomas that she wanted to sell and she replied that she had an old suit stuffed into the attic door to stop the draft coming in. My father said he would buy it and she rushed home to find the suit. Dolly Long soon returned with the trousers but the jacket had gone. My father paid five pounds for them and asked how she could prove they were Dylan Thomas’s trousers. She replied that they had the boat house laundry number printed on them – M66.

Liz a throwsus ‘Dylan’

B

I keep Dylan Thomas’s trousers in a big frame in my downstairs toilet and we have had them for about 45 years! In June I went to the Antiques Road Show with the trousers. Fiona Bruce came straight over and she was very excited. She said that she wanted me to be filmed. Therefore, Dylan Thomas’s trousers will be on the Antiques Road Show in November.

ob blwyddyn yn ystod y saithdegau roedd fy rhieni, fy chwaer a fi yn arfer mynd ar wyliau i Orllewin Cymru. Roedd fy nhad yn dwlu ar farddoniaeth Dylan Thomas a phob blwyddyn roedden ni’n ymweld ȃ Thalacharn, cartref Dylan Thomas y bardd. Un diwrnod roedden ni’n cerdded tuag at gartref Dylan ar y llwybr uwchben y Boathouse, pan ddechreuodd fy nhad siarad ȃ hen fenyw. Enw’r hen fenyw hon oedd Dolly Long, y person a oedd yn cadw’r tŷ i Dylan. Gofynnodd fy nhad iddi a oedd eiddo gyda hi yn perthyn i Dylan Thomas roedd hi eisiau ei werthu ac atebodd hi fod hen siwt gyda hi wedi ‘i stwffio i agoriad yr attig i atal y drafft rhag dod i mewn. Dywedodd fy nhad ei fod e eisiau prynu’r trowsus a rhuthrodd hi adre i ȏl y siwt. Cyrhaeddodd Dolly yn ȏl cyn bo hir gyda’r trowsus ond heb y siaced a oedd wedi mynd. Talodd fy nhad bum punt am y trowsus a gofynnodd e sut roedd hi’n gallu profi taw trowsus Dylan oeddynt. Atebodd hi fod rhif golch y Boathouse ar y trowsus, sef M66.

Dw i’n cadw trowsus Dylan Thomas mewn ffram enfawr yn fy nhŷ bach lawr staer ac maen nhw wedi bod yno am bron bedwar deg pump o flynyddoedd! Ym Mis Mehefin es i i’r Antiques Road Show gyda’r trowsus. Daeth Fiona Bruce draw yn syth ac roedd hi wedi cyffroi. Dywedodd hi ei bod hi eisiau fy ffilmio i. Felly bydd trowsus Dylan Thomas ar yr Antiques Road Show ym mis Tachwedd.

Bore Coffi MacMillan yng Nglyn Ebwy Gaethon ni amser gwych yn y Bore Coffi yng Nglyn Ebwy er mwyn codi arian i "Macmillan Cancer Support". Diolch enfawr i'r dysgwyr Cymraeg, staff Blaenau Gwent a'r dysgwyr Addysg Gymunedol am ein helpu i godi £198.05!! Ffantastig!!!!

We had a great time in the Coffee Morning in Ebbw Vale in order to raise money for "Macmillan Cancer Support". A huge thanks to the Welsh learners, Blaenau Gwent staff and the Adult Education learners for helping us to raise £198.05!! Fantastic!!!!

Gwnaeth llawer o ddysgwyr deisennau i ni werthu yn ogystal â chyfrannu gwobrau ar gyfer y raffl. Diolch yn fawr, hefyd, i Amanda Smith am wneud balŵns i bawb. Diolch unwaith eto i bawb am eu cefnogaeth ac am wneud y

Lots of learners made cakes for us to sell as well as contributing prizes for the raffle. Many thanks to Amanda Smith for making balloons for everyone. Thank you once again to everyone for their support and for making the Coffee Morning a huge success!


Llais y Dysgwr

Learners Voice

Dywedoch chi – Gwnaethon ni! Eleni gwnaethpwyd camau breision o ran Llais y Dysgwr wrth dderbyn nifer helaeth o sylwadau oddi wrth gynrychiolwyr dosbarth yn ogystal â dosbarthiadau yn y Gymuned, yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu. Dyma ychydig o’ch argymhellion ac yr hyn ‘rydyn ni’n wneud er mwyn dangos ein bod yn gwrando’n astud arnoch chi a cheisio gwella’n gwasanaethau.

Gofynnoch chi…

Gwnaethon ni…

Rhagor o gyfarfodydd Llais y Dysgwr dros ardal Gwent

Cynhaliwyd cyfarfodydd yn Nhrefynwy, Torfaen, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Ymwelwyd â dosbarthiadau Cymraeg i’r Teulu a Chymraeg yn y Gweithle. Cysylltwyd â dysgwyr dros y ffôn a thrwy e-bost hefyd.

Rhagor o adnoddau i’w defnyddio y tu allan i’r dosbarth

Mae llawer o ddeunyddiau adolygu ar fformat fideo wedi’i lanlwytho i wefan Y Bont. Mae pob uned adolygu y cyrsiau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd bellach ar gael yno.

Mwy o foreau coffi

Mae llawer o’r rhain yn cael eu cynnal ledled Gwent. Edrychwch ar Y BONT neu gofynnwch i’ch tiwtor/canolfan am ragor o wybodaeth.

Eisiau gwersi ar gyfrifiadur

Mae gwersi drwy Skype ar gael. Cysylltwch â Steffan Webb am ragor o wybodaeth (01495 333735 neu steffan.webb@coleggwent.ac.uk)

Copïau Caled o ddeunyddiau

Os nad ydych chi’n derbyn copïau caled o daflenni hysbysebu neu Gadwyn Gwent, ac yn dymuno ei wneud, gofynnwch i’ch tiwtor neu cysylltwch â Lowri Morgan (01495 333300 neu lowri.morgan@coleggwent.ac.uk)

Angen rhagor o farchnata

Cynhaliwyd 6 sesiwn marchnata mewn archfarchnadoedd dros yr haf eleni. Dyn ni wedi ymweld â Sioe Brynbuga, Sioe Mynwy a’r Ffiliffest (Caerffili). Cynhaliwyd sesiwn farchnata gyda Thîm Rygbi y Dreigiau y llynedd, hefyd. Dosbarthwyd ein brochures i gynifer o fannau cyhoeddus â phosibl dros yr haf. Hefyd, dosbarthwyd 20,000 o daflenni o ddrws i ddrws yn ardal Casnewydd, a thargedwyd siopau yng nghanol y ddinas hefyd.

You asked - We did! This year, great strides were made with the Learners Voice after we received a considerable number of comments from class representatives as well as Community, Welsh in the Workplace and Welsh for Family classes. Here are some of your suggestions, and the steps we have taken to address these issues, which show that we listen carefully to you while attempting to improve our services.

You asked....

We did…

More Learner Voice meetings throughout the Gwent area.

Meetings were held in Monmouthshire, Torfaen, Caerphilly, Blaenau Gwent and Newport. Visits arranged to Welsh for Family and Welsh in the Workplace classes. Learners were also contacted over the telephone and by e-mail too.

More resources for use outside of the classroom

A considerable amount of revision material in video format has now been uploaded to Y BONT website. Every revision unit in the Mynediad, Sylfaen and Canolradd courses are now available there.

More coffee mornings

Many are now held throughout Gwent. Please look on Y BONT or ask your tutor/centre for more information.

Computer based courses

Lessons are now available through Skype. Please contact Steffan Webb for more information (01495 333735 or steffan.webb@coleggwent.ac.uk)

Hard Copies of materials

If you don’t receive hard copies of advertising materials or Cadwyn Gwent, but wish to do so, please ask your tutor or speak to Lowri Morgan (01495 333300 neu lowri.morgan@ coleggwent.ac.uk)

More marketing needed

6 marketing sessions were organised in supermarkets over the summer. Centre staff have distributed brochures all over Gwent, and attended Usk Show, Monmouth Show, and the Filifest (Caerphilly). A marketing event was held in partnership with the Dragons Rugby Team last year, too. Our course brochures were distributed to as many public places as possible over the summer. In Newport, 20,000 leaflets were distributed from door to door, and shops in city were also targeted.


Dathlu Llwyddiant

Celebrating Success

Roedd nosweithiau gwobrwyo wedi eu cynnal yng Ngwent dros yr haf. Roedd nifer o ddosbarthiadau, tiwtoriaid a dysgwyr Gwent wedi ennill gwobrau. Dyma’r canlyniadau: Over the summer, there were several award evenings held in Gwent. A number of our learners, tutors and learners from the Gwent centre received awards. Here are the results:

Tlws Dosbarth Cymraeg y Flwyddyn (Class of the Year) Mynediad 1 – Y Pŵerdy Tiwtor - Michaela Johnson Peter Blagojevic | Julie Burchell | Jacqueline Carey Andrea Crockett | Catherine Cullen | Philippa Greaves Brian Greaves | Patricia Inger | Natalie Kersley Christopher Neye | Melanie Phillips | Emma Simons Graham Squire | Samantha Squire | Rhiannon Sullivan Rhiannon Walding | Susan Warren | David Wood

Tlws Dysgwyr Cymraeg (Welsh Learners) Dosbarth Uwch 3 (drwy fideo) Y Parth Ddysgu, Glyn Ebwy Tiwtor - Steffan Webb

Tlws Tiwtor y Flwyddyn Cymeradwyaeth (Commended) Torfaen

Rose Dentus | Deborah Howells Amanda Smith | Simon Large Jeff Smith | Lynne Sefton Nigel Gaen | Susan Hitchings Charmayne Jones

Michaela Johnson James Eul Eleri Hodder Jonathan Perry

Tlws Cyflawniad Arbennig (Special Achievement Award) Dosbarth Pontio - Tŷ Rhydychen Tiwtor - Sarah Meek

Cymeradwyaeth Uchel (Highly Commended) Tiwtor - Steffan Webb Blaenau Gwent

Tlws Tiwtor y Flwyddyn (Tutor of the Year) Blaenau Gwent

Merryl Francis | Terry Hayward | Lisa Ryall Craig Griffiths | Amanda Sanders | Kathryn Morton Christine Strong | Nicholas Ashworth | Sue Hayward

Amanda Smith

Delyth Rees

Noson Wobrwyo | Awards Evening Ym mis Medi, am y tro cyntaf cynhaliwyd Noson Wobrwyo i ddysgwyr Gwent a oedd yn llwyddiannus yn arholiadau CBAC eleni a’r dysgwyr oedd wedi cwblhau’r Cwrs Sabothol. Agorwyd y Seremoni gyda Chôr y Dreigiau ac roedd dros 70 o ddysgwyr a thiwtoriaid yn dathlu ar gampws Pont-y-pŵl, Coleg Gwent. Roedd Emyr Davies, Swyddog Arholiadau CBAC ac Ann Farmer yn cyflwyno tystysgrifau i’r dysgwyr. Roedd ffrwd fyw gyda ni ar y noson, ac roedd #nwgwent yn trendio!!! Ar ôl y seremoni, roedd cyfle i bawb gymdeithasu a chloncian dros bwffe ac roedd y cacennau’n flasus iawn! Dyn ni wrthi’n trefnu’r Noson Wobrwyo y flwyddyn nesaf, felly gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni. I weld fideo bach o’r noson, dilynwch y linc: http://goo.gl/4cKgmJ Da iawn chi.

In September, for the first time we held our very own Awards Evening to celebrate the success of our learners in this years WJEC examinations and those who successfully completed the Sabbatical Course. The Côr y Dreigiau opened the evening and there were over 70 learners and tutors celebrating at Pontypool Campus, Coleg Gwent. Emyr Davies, WJEC Welsh for Adults Examinations Officer and Ann Farmer were presenting the certificates to the learners. We also had a live twitter feed, and #nwgwent was ‘trending’ on the evening! After the ceremony, there was an opportunity for everyone to ‘catch up’ and have a ‘chat’ over a buffet and there were delicious cakes! We are already making arrangements for next years Ceremony and we hope that you will be able to join us. To watch a short video of the evening, go to the following link: http://goo.gl/4cKgmJ Da iawn chi!


Beth sydd ymlaen What’s on....

Ysgolion Undydd Day Schools

(£15.00)

Abertyleri 08.11.14 Abertillery Learning Action Centre Comprehensive School Site Alma St Abertillery NP13 1YL

01495 355895

Cwrs Penywthnos Weekend Course Campws Pont-y-pŵl Coleg Gwent Heol Blaendâr Pont-y-pŵl, NP4 5YE

22-23.11.14 £10 — bargen / bargain! Lessons, tea and coffee included Archebwch NAWR / Book your place NOW!

01495 333710

Casnewydd 06.12.14

Parti’r dysgwyr!

City of Newport Campus Nash Road Casnewydd NP19 4TS

01495 333710

Cysylltwch â ni! Contact us!

CanolfanCymraegiOedolionGwent gwent.ybont.org.uk @learnwelshgwent @cymraeggwent www.learnwelsh.org.uk

(£10.00)

Learners’ party!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.