Llyfryn D - Canolradd

Page 1

Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr

Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults

Mynediad Sylfaen

Canolradd Uwch Pontio Uwch Hyfedredd


Croeso

Shwmae, a chroeso i’ch Llyfryn D!! Nod y llyfryn yma yw eich helpu ymgyfarwyddo (familiarise

yourself ) â’ch cwrs, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi ynghylch beth i’w ddisgwyl (what to expect) yn ystod y misoedd nesaf. Bydd e’n rhoi gwybod i chi am gynnwys (content) eich cwrs hefyd. Felly, ar ôl darllen y llyfryn yma, byddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi gwneud y gwaith yma o’r blaen! Dych chi’n gwybod eich bod chi’n gallu dewis beth fyddwch chi’n ei ddysgu (what you will be learning)? Trwy’r Daith Iaith, bydd cyfle gyda chi i feddwl am 2 darged y tymor, a bydd eich tiwtor yn eich helpu chi i gyrraedd y targedau yma yn y gwersi. Felly, os dych chi eisiau help darllen llyfr i blant, bydd eich tiwtor yn gallu eich helpu gyda’r ynganu (pronounciation)! Efallai bydd yn rhaid i chi ddysgu rhai patrymau neu eirfa ar gyfer y gwaith, neu siarad â siaradwyr Cymraeg eraill – eto dyma rywbeth bydd eich tiwtor yn gallu eich helpu chi gydag e. Os oes problem gyda chi’n setlo i mewn i’ch cwrs, siaradwch â’ch tiwtor yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni o hyd, edrychwch ar y Siart Llif Data ( Data Flow Chart) yn y llyfryn yma fydd yn dweud wrthoch chi ble i fynd i gael help. Ar y tudalennau Y 5 uchaf, byddwch chi’n gweld ychydig o gyngor ynghylch dysgu Cymraeg. Hefyd mae tudalen gyda ni ar Ddysgu Anffurfiol. Mae dysgu anffurfiol yn rhoi’r cyfle i chi i siarad Cymraeg y tu allan i’ch dosbarth. Dyma le byddwch chi’n dysgu sut i siarad Cymraeg! Os dych chi’n mynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd, byddan nhw’n dod yn rhan annatod (an integral part) o’ch proses ddysgu. Mae dywediad (saying) gyda ni yn y Gymraeg - “Dyfal donc a dyr y garreg (Perseverance will succeed).” Mae hyn yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith. Cofiwch – Ymarfer Ymarfer Ymarfer!!!!! Gofynnwn ni i’ch dosbarth benodi (appoint) Cynrychiolydd Dosbarth (class representative) i helpu i’ch grŵp roi adborth (feedback) i ni yn y Ganolfan. Dyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau (views) a’ch awgrymiadau (suggestions), a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i newid pethau os oes angen i wella’ch profiad dysgu. Cyn diwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn dweud wrthoch chi beth fyddwch chi’n ddysgu ar y cwrs y flwyddyn nesaf. Bydd eich tiwtor yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi am y cwrs nesaf hefyd! Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg cymaint â phosibl. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon (concerns) gyda chi ar ddechrau’r cwrs, neu os oes unrhywbeth sydd yn eich poeni ynghylch eich iechyd a diogelwch, siaradwch â staff y Ganolfan lle mae’ch cwrs yn cael ei gynnal. Os ydych chi’n dysgu mewn neuadd bentref, neu rywle lle nad oes (where there isn’t) aelodau o staff o gwmpas, dych chi’n gallu cysylltu â fi , Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod. Mwynhewch eich cwrs!!!! Sean Sean.Driscoll@coleggwent.ac.uk 01495 333701

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr


Manylion y Cwrs Ar ddiwedd Canolradd 1 dych chi’n gallu ... • • • • • • • • •

Siarad am bobl a swyddi, Defnyddio sy, oedd, fydd Pwysleisio pethau, Ie/nage Adrodd yn ôl Siarad am y dosbarth a’r tŷ ; defnyddio ohonon ni Ysgrifennu llythyr Trafod y dosbarth; defnyddio arddodiaid Defnyddio Cael Defnyddio’r amhersonol Llongyfarch rhywun a chydymdeimlo

Ar ddiwedd Canolradd 2 dych chi’n gallu ... • Disgrifio lleoedd a phobl • Gorchmynion • Trafod rhaglenni teledu • Trafod arferion pob dydd • Trafod amserau a chyfnodau • Trafod hwn a hon • Arddodiaid cymhleth • Adolygu treigladau • Trafod diddordebau • Trafod gwaith • Trafod gwyliau • Trafod y cwrs

Ar ddiwedd Uwch Pontio dych chi’n gallu defnyddio’r / trafod y canlynol yn hyderus: • Bues i / Fuest ti? / Fues i ddim • Trafod gwyliau yn fanwl • Trafod eitemau ‘Retro’ • Ro’n i / O’n i? / Do’n i ddim • Af i / Awn ni?/ Ân nhw ddim • Trafod eich Gweithle ac Ymddeol • Brawddegau Pwysleisiol • Trafod y Byd • Baswn i / Faset ti?/ Faswn i ddim • Trafod bwyd • Defnyddio Ansoddeiriau Cymharol • Defnyddio Ansoddeiriau Afreolaidd • Trafod Iechyd • Trafod Rhai Enwogion o Hanes Cymru • Enwau Unigol a Lluosog • Sillafau • Cyflwyniad i Lenyddiaeth a Diwylliant Cymru

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr


Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Problemau gyda’r cwrs

Siaradwch â’ch tiwtor / cynrychiolydd dosbarth. Os bydd y problem heb ei datrys ffoniwch Sean Driscoll 01495 333701

Colli dosbarth?

Siaradwch â’ch tiwtor. Ewch i Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychu Cyrsiau Ysgol Undydd a Phenwythnos sy’n cael eu hanelu tuag at adolygu. Astudio preifat.

Problemau ynganu

Gofynnwch i’ch tiwtor am help ychwanegol. Gwyliwch S4C a gwrandewch ar Radio Cymru a Cds y Cwrs

Pa fath o gymorth sydd ar gael?


Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr

Os oes gennych unrhyw bryderon o ran Iechyd a Diogelwch, cysylltwch â Steffan Webb steffan.webb@coleggwent.ac.uk neu 01495 333735

Mae cymorth ar gael i ddysgwyr y nodwyd bod ganddynt anawsterau dysgu ac sydd angen cymorth ychwanegol wrth ddysgu Cymraeg. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael amser ychwanegol mewn arholiadau. Bydd angen i chi gael eich asesu neu ddarparu tystiolaeth feddygol. Mae angen i ddysgwyr gwblhau Ffurflen B.

Anawsterau e.e. Dyslexia / Dyslecsia

Trafodwch gyda’ch tiwtor neu gyda staff yng Nghanolfan y cwrs. Os bydd problem yn parhau, cysylltwch â Sean Driscoll 01495 333701

Anableddau

Cymorth i ddysgu

Trafodwch gyda’ch tiwtor. Mynychu cyrsiau adolygu i’ch paratoi ar gyfer yr arholiad. Astudio preifat. Cysylltwch â’r Cyd-lynydd arholiadau Catrin Cameron 01495 333782

Paratoi tuag at Arholiad


5

Sut i gael y gorau o’ch cwrs: y 5 uchaf!

1. Dewch i bob gwers bosib yn brydlon Os ydych yn absennol oherwydd salwch neu wyliau, gadewch i’ch tiwtor wybod cyn gynted ag y bo modd. Yn achos absenoldeb annisgwyl, bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi. Mae colli 4 gwers heb ymddiheuriad yn golygu colli’ch lle ar y cwrs.

2. Ansicr o rywbeth? Wedi colli gwers neu wersi? Ansicr o rywbeth? Peidiwch â phoeni mae help wedi cyrraedd! Gofynnwch i’ch tiwtor helpu gydag unrhyw waith dal i fyny. Cofiwch ymweld â Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychwch Ysgolion Undydd a Chyrsiau Penwythnos a pheidiwch ag anghofio edrych ar yr holl wefannau Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.

3. Cadwch eich gwaith a’ch Taith Iaith mewn ffeil 4. Cofiwch eich gwaith cartref!

5. Manteisiwch ar gyrsiau atodol a dysgu anffurfiol Mae’r Ganolfan yn

trefnu cyrsiau undydd a phenwythnosau rheolaidd. Dyma ffordd wych i helpu’ch dysgu. Bydd eich tiwtor yn rhoi taflen i chi ar ddechrau’r cwrs ac yn eich atgoffa am y cyrsiau hyn; maent yn boblogaidd iawn! Mae hefyd gyrsiau wythnos - sef yr Ysgolion Haf. Cyfle gwych i wella’ch Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel!

Cofiwch fwynhau!

Tu fas i’r dosbarth

Oeddech chi’n gwybod bod Dysgu Anffurfiol yn gyfrifol am 80% o’n dysgu - dim ond 20% sy’n dod o’r ystafell ddosbarth? Dyma pam mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. O foreau coffi i glybiau darllen, teithiau i lefydd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru i bartÏon Haf a Nadolig - mae’r cyfleoedd yma i chi. Felly cadwch lygad allan am ddigwyddiadau yn eich ardal chi! Rydym yn cynnal Cyrsiau Penwythnos drwy gydol y flwyddyn ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys 14 awr o wersi gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol, gan roi amser i chi adolygu patrymau blaenorol a ddysgwyd yn y dosbarth. Mae Ysgolion Haf yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’n nhw’n ffordd berffaith i orffen y flwyddyn, a bydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i’r cam nesaf. Os ydych yn dilyn cwrs newydd, yna mae’n ffordd dda o ddechrau eich taith ddysgu Cymraeg. Dewch i gwrdd â dysgwyr eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr â chi. Gofynnwch iddynt am awgrymiadau o ran dysgu Cymraeg a sut y mae’r profiad wedi bod ar eu cyfer. Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys 30 awr o ddysgu dros gyfnod o bum diwrnod

Mae Ysgolion Undydd yn cael eu trefnu gan ein Partneriaid ac yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwent. Maent yn cynnwys 5 awr o ddysgu ar ddydd Sadwrn.

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr


Arholiadau Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r arholiadau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr i ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.

Peidiwch â phoeni mae cymorth ar gael!! Bydd eich tiwtoriaid yn eich paratoi chi yn dda ar gyfer yr arholiadau yn y dosbarthiadau wythnosol. Ond cofiwch hefyd am ein cyrsiau adolygu. Bydd y cyrsiau yma yn canolbwyntio ar basio arholiadau – sut i godi marciau, yn hytrach na’u colli. Bydd cyfleoedd i ymarfer y cyfweliadau llafar – sef y rhan bwysicaf o’r arholiad. Cewch chi adborth unigol oddi wrth y cyfwelwyr hefyd! Gofynnwch i’ch tiwtor am wybodaeth am yr arholiadau yma. Maen nhw’n werthfawr iawn, yn enwedig i’r rhai ohonoch chi sy eisiau ennill cymhwyster. Rhowch darged i’ch hunain i sefyll a phasio un o’r arholiadau yma. Os dych chi’n dysgu yn y gweithle, cofiwch, dwy iaith, dau ddewis.

Ar ôl Canolradd 2 cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.

Llais y Dysgwr Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn credu mewn gwrando ar farn dysgwyr ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr i gael ymwneud yn uniongyrchol wrth asesu a llunio eu profiadau dysgu eu hunain wrth ddysgu Cymraeg. Rydym am i chi wybod y byddwn yn gwrando ar eich barn ac y bydd hon yn gwneud gwahaniaeth. Sut y gallwch chi gymryd rhan? • Cwblhau’r “Taith Iaith” • Cael eich ethol fel Cynrychiolydd Dosbarth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y Fforwm Taith Iaith: Trwy broses y “Taith Iaith”, byddwch yn cael y cyfle i osod 2 darged y tymor, a bydd y tiwtor yn eich helpu i gyrraedd y targedau hynny yn ystod y gwersi. Cynrychiolwyr Dosbarth: Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob dosbarth yn ethol o leiaf un Cynrychiolydd Dosbarth. Yna, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwahanol sesiynau sydd wedi eu cynllunio i’w cefnogi yn eu rôl, ee gan sicrhau bod cynrychiolwyr yn cynrychioli barn y dosbarthiadau. Bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu gwahodd i gyfarfod panel y dysgwyr / grŵp ffocws neu ateb holiadur byr syml gyda chymorth eu cyd-aelodau dosbarth. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, cysylltwch â’ch tiwtor neu Antoni Morgan, Swyddog Llais y Dysgwr ar 01495 333710.

Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr


Beth sy nesaf? Ar ddiwedd y cwrs Canolradd 1, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i Canolradd 2. Mae’r manylion am y cwrs hwn ar dudalen 2 yn y llyfryn hwn. Yn dilyn Canolradd 2 / Uwch Pontio y cwrs nesaf fydd Uwch 1 - bydd y canlynol yn cael eu cynnwys: • • • • • • • • • • • • • • • •

Atebion: Yes / No Ateb drwy ofyn Cwestiynau Cymal Enwol (Defnyddio Bod) Cymal Enwol Negyddol (na / nad) Cymal Enwol (Gorffennol Cryno) Pwyslais Pwyslais a chymal enwol (taw) Yr Amodol (Byddwn i) Yr Amodol Cryno (Darllenwn i) Yn neu Mewn Cyflwyno Yr Amodol (Byddwn i – I would) Ffurfio Cryno’r Amodol Dyfodol Cryno Yr Amser Amhersonol (Gorffennol /Presennol) Yr Amser Amhersonol (wyd + ir) Ansoddeiriau Cyfartal

Ar ôl Canolradd 2 / Uwch Pontio cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Canolradd. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.

Ydych chi ar y lefel iawn? Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau darganfyddwr lefel ar-lein y BBC www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/level_test/

Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 os oes angen cyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym bob amser yma i’ch helpu chi ar eich taith ddysgu.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.