Llyfryn D Llawlyfr i Ddysgwyr
Cymraeg i Oedolion Gwent Welsh for Adults
Mynediad Sylfaen Canolradd
Uwch Hyfedredd
Croeso
Shwmae, a chroeso i’ch Llyfryn D!! Nod y llyfryn hwn yw eich helpu ymgyfarwyddo â’ch cwrs, a
bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi ynghylch beth i’w ddisgwyl yn ystod y misoedd nesaf. Bydd e’n rhoi gwybod i chi am gynnwys eich cwrs hefyd. Felly, ar ôl darllen y llyfryn hwn, byddwch chi’n gwybod a ydych chi wedi gwneud y gwaith yma o’r blaen neu beidio! Cofiwch – does dim asesu ffurfiol ar ein cyrsiau Uwch, ond bydd cyfle i chi i sefyll arholiad ar ôl Blwyddyn 3 neu 4! Dych chi’n gwybod eich bod chi’n gallu dewis beth fyddwch chi’n ei ddysgu? Trwy’r Daith Iaith, bydd cyfle gyda chi i feddwl am 2 darged y tymor, a bydd eich tiwtor yn eich helpu chi i gyrraedd y targedau hyn yn y gwersi. Os oes problem gyda chi’n setlo i mewn i’ch cwrs, siaradwch â’ch tiwtor yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni o hyd, edrychwch ar y Siart Llif Data yn y llyfryn hwn fydd yn rhoi gwybod i chi ble i fynd i gael help. Ar y tudalennau High Five, byddwch chi’n gweld ychydig o gyngor ynghylch dysgu Cymraeg. Hefyd mae tudalen gyda ni ar Ddysgu Anffurfiol. Mae dysgu anffurfiol yn rhoi’r cyfle i chi i siarad Cymraeg y tu allan i’ch dosbarth. Dyma le byddwch chi’n wir dysgu sut i siarad Cymraeg! Os dych chi’n mynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd, byddan nhw’n dod yn rhan annatod o’ch proses ddysgu. Mae dywediad gyda ni yn y Gymraeg - “Dyfal donc a dyr y garreg.” Mae hyn yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith. Cofiwch – Ymarfer Ymarfer Ymarfer!!!!! Gwelwch hefyd fanylion am y sefydliadau Cymraeg sydd ar gael yn ardal Gwent a fydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ragor o gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg neu yn darparu cyfle i chi i wneud cyfnod o brofiad gwaith yn Gymraeg!! Dyn ni wedi cynnwys nifer o wefannau allanol a fydd o gymorth i chi wneud astudio preifat/ychwanegol hefyd. Gofynnwn ni i’ch dosbarth benodi Cynrychiolydd Dosbarth i helpu i’ch grŵp roi adborth i ni yn y Ganolfan. Dyn ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau a’ch awgrymiadau, a byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i newid pethau os oes angen i wella’ch profiad dysgu. Cyn diwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn dweud wrthoch chi beth fyddwch chi’n ddysgu ar y cwrs Uwch y flwyddyn nesaf. Bydd eich tiwtor yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y cwrs nesaf hefyd! Ein nod yw sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg cymaint â phosibl. Os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi ar ddechrau’r cwrs, neu os oes unrhywbeth sydd yn eich poeni ynghylch eich iechyd a diogelwch, siaradwch â staff y Ganolfan lle mae’ch cwrs yn cael ei gynnal. Os ydych chi’n dysgu mewn neuadd bentref, neu rywle lle nad oes aelodau o staff o gwmpas, dych chi’n gallu cysylltu â fi, Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod. Mwynhewch eich cwrs!!!! Sean Sean.Driscoll@coleggwent.ac.uk 01495 333701
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Manylion y Cwrs Uwch 1 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 1 i 15 o’r cwrs Uwch. Mae’r Unedau yn cynnwys
gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, deialog, darllen/gwrando a deall, dril, idiomau, geirfa, mynegi barn, ysgrifennu llythyrau a gwaith cartref. Mae Uwch 1 yn delio yn benodol â’r Cymal Enwol, Pwyslais, Y Lluosog, Taw/Mai, Yn/Mewn, Yr Amodol a’r Amhersonol.
Uwch 2 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 16 i 30 o’r cwrs Uwch. Mae’r Unedau yn cynnwys
gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, deialog, darllen/gwrando a deall, arddywediaid, cofio gwahaniaethau, dril, idiomau, geirfa, mynegi barn, ysgrifennu llythyrau, llenwi bylchau a gwaith cartref. Mae Uwch 2 yn delio yn benodol ag Arddodiaid, y Goddefol, Rhifolion, Trefnolion, Blwyddyn/ Diwrnod/Noson, Byth/Erioed, Cynffoneiriau, Bues i/Ro’n i ac Hwn/Hon/Hyn.
Uwch 3 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 1 i 13 o gwrs Uwch 2. Mae’r Unedau yn cynnwys
gweithgareddau sgwrsio, gramadeg, gwrando/gwylio/darllen a deall, ysgrifennu llythyrau, geirfa, cefndir Cymraeg a gwaith cartref. Mae Uwch 3 yn delio yn benodol â Threigladau, Yr Iaith Lenyddol, Meddiant, Cymalau ‘a’ ac ‘y’, ‘For’, ‘Gan’, Amherffaith – Y Ffurf Gryno, Darnau Ffolio, A/Ac/Ag/Gyda/ Gydag.
Uwch 4 - Bydd y cwrs yn cwmpasu Unedau 14 i 26 o gwrs Uwch 2. Mae’r Unedau yn cynnwys
gweithgareddau gwylio/gwrando/darllen a deall, ysgrifennu ymatebion i bwnc llosg, ysgrifennu traethodau, llythyrau ffurfiol, llenwi bylchau, geirfa, darnau ffolio, darnau cofnodol, cefndir Cymraeg a gwaith cartref. Ar ôl Uwch 4 awgrymir eich bod yn barod i sefyll yr arholiad Uwch.
Ydych chi ar y lefel iawn? Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel, cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Fel arall, gallwch gwblhau darganfyddwr lefel ar-lein y BBC www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/level_test/
Gwefannau defnyddiol
Edrychwch ar y gwefannau yma: • • • • • • • • • • • •
www.learnwelsh.org.uk http://gwent.ybont.org www.s4c.co.uk www.bbc.co.uk www.canolfanpeniarth.org/CBAC/ www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/cymarfer_CC/index.php.cy www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg/geiriadur http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/fideoscymorthcyflym/ www.golwg360.com www.geiriaduracademi.org www.cysgliad.com www.cronfacio.co.uk
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Problemau gyda’r cwrs
Siaradwch â’ch tiwtor / cynrychiolydd dosbarth. Os bydd y problem heb ei datrys ffoniwch Sean Driscoll 01495 333701
Colli dosbarth?
Siaradwch â’ch tiwtor. Ewch i Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychu Cyrsiau Ysgol Undydd a Phenwythnos sy’n cael eu hanelu tuag at adolygu. Astudio preifat.
Problemau ynganu
Gofynnwch i’ch tiwtor am help ychwanegol. Gwyliwch S4C a gwrandewch ar Radio Cymru a Cds y Cwrs
Pa fath o gymorth sydd ar gael?
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Os oes gennych unrhyw bryderon o ran Iechyd a Diogelwch, cysylltwch â Steffan Webb steffan.webb@coleggwent.ac.uk neu 01495 333735
Mae’r cymorth ar gael i ddysgwyr y nodwyd bod ganddynt anawsterau dysgu ac sydd angen cymorth ychwanegol wrth ddysgu Cymraeg. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael amser ychwanegol mewn arholiadau. Bydd angen i chi gael eich asesu neu ddarparu tystiolaeth feddygol. Mae angen i ddysgwyr gwblhau Ffurflen B.
Anawsterau e.e. Dyslexia / Dyslecsia
Trafodwch gyda’ch tiwtor neu gyda staff yng Nghanolfan y cwrs. Os bydd problem yn parhau, cysylltwch â Sean Driscoll 01495 333701
Anableddau
Cymorth i ddysgu
Trafodwch gyda’ch tiwtor. Mynychu cyrsiau adolygu i’ch paratoi ar gyfer yr arholiad. Astudio preifat. Cysylltwch â’r Cyd-lynydd arholiadau Catrin Cameron 01495 333782
Paratoi tuag at Arholiad
5
Sut i gael y gorau o’ch cwrs: y 5 uchaf! 1. Dewch i bob gwers bosib yn brydlon Os ydych yn absennol oherwydd salwch neu wyliau, gadewch i’ch tiwtor wybod cyn gynted ag y bo modd. Yn achos absenoldeb annisgwyl, bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi. Mae colli 4 gwers heb ymddiheuriad yn golygu colli’ch lle ar y cwrs.
2. Ansicr o rywbeth? Wedi colli gwers neu wersi? Ansicr o rywbeth? Peidiwch â phoeni mae help wedi cyrraedd! Gofynnwch i’ch tiwtor helpu gydag unrhyw waith dal i fyny. Cofiwch ymweld â Y Bont a defnyddio’r adnoddau ar-lein. Mynychwch Ysgolion Undydd a Chyrsiau Penwythnos a pheidiwch ag anghofio edrych ar yr holl wefannau Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.
3. Cadwch eich gwaith a’ch Taith Iaith mewn ffeil 4. Cofiwch eich gwaith cartref!
5. Manteisiwch ar gyrsiau atodol a dysgu anffurfiol Mae’r Ganolfan yn
trefnu cyrsiau undydd a phenwythnosau rheolaidd. Dyma ffordd wych i helpu’ch dysgu. Bydd eich tiwtor yn rhoi taflen i chi ar ddechrau’r cwrs ac yn eich atgoffa am y cyrsiau hyn; maent yn boblogaidd iawn! Mae hefyd gyrsiau wythnos - sef yr Ysgolion Haf. Cyfle gwych i wella’ch Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill ar bob lefel!
Cofiwch fwynhau!
Tu fas i’r dosbarth
Oeddech chi’n gwybod bod Dysgu Anffurfiol yn gyfrifol am 80% o’n dysgu - dim ond 20% sy’n dod o’r ystafell ddosbarth? Dyma pam mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. O foreau coffi i glybiau darllen, teithiau i lefydd fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru i bartÏon Haf a Nadolig - mae’r cyfleoedd yma i chi. Felly cadwch lygad allan am ddigwyddiadau yn eich ardal chi! Rydym yn cynnal Cyrsiau Penwythnos drwy gydol y flwyddyn ar Gampws Pont-y pŵl Coleg Gwent. Mae’r rhain yn cynnwys 14 awr o wersi gyda thiwtoriaid profiadol iawn. Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol, gan roi amser i chi adolygu patrymau blaenorol a ddysgwyd yn y dosbarth. Mae Ysgolion Haf yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’n nhw’n ffordd berffaith i orffen y flwyddyn, ac bydd yn eich paratoi ar gyfer mynd ymlaen i’r cam nesaf. Os ydych yn dilyn cwrs newydd, yna mae’n ffordd dda o ddechrau eich taith ddysgu Cymraeg. Dewch i gwrdd â dysgwyr eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr â chi. Gofynnwch iddynt am awgrymiadau o ran dysgu Cymraeg a sut y mae’r profiad wedi bod ar eu cyfer. Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys 30 awr o ddysgu dros gyfnod o bum diwrnod.
Mae Ysgolion Undydd yn cael eu trefnu gan ein Partneriaid ac yn cael eu cynnal ar hyd a lled Gwent. Maent yn cynnwys 5 awr o ddysgu ar ddydd Sadwrn.
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Arholiadau Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r arholiadau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr i ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.
Peidiwch â phoeni mae cymorth ar gael!! Bydd eich tiwtoriaid yn eich paratoi chi yn dda ar gyfer yr arholiadau yn y dosbarthiadau wythnosol. Ond cofiwch hefyd am ein cyrsiau adolygu. Bydd y cyrsiau yma yn canolbwyntio ar basio arholiadau – sut i godi marciau, yn hytrach na’u colli. Bydd cyfleoedd i ymarfer y cyfweliadau llafar – sef y rhan bwysicaf o’r arholiad. Cewch chi adborth unigol oddi wrth y cyfwelwyr hefyd! Bydd cyfle i chi i wneud profiad gwaith am ddiwrnod neu ddau fel rhan o’r prosiect arholiad mewn nifer o lefydd yng Ngwent. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth Gofynnwch i’ch tiwtor am wybodaeth am yr arholiadau yma. Maen nhw’n werthfawr iawn, yn enwedig i’r rhai ohonoch chi sy eisiau ennill cymhwyster. Rhowch darged i’ch hunain i sefyll a phasio un o’r arholiadau yma. Os dych chi’n dysgu yn y gweithle, cofiwch, dwy iaith, dau ddewis.
Yn ystod y cwrs Uwch cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Llais y Dysgwr Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent yn credu mewn gwrando ar farn dysgwyr ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr i gael ymwneud yn uniongyrchol wrth asesu a llunio eu profiadau dysgu eu hunain wrth ddysgu Cymraeg. Rydym am i chi wybod y byddwn yn gwrando ar eich barn ac y byddant yn gwneud gwahaniaeth. Sut y gallwch chi gymryd rhan? • Cwblhau’r “Taith Iaith” • Cael eich ethol fel Cynrychiolydd Dosbarth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y Fforwm Taith Iaith: Trwy broses y “Taith Iaith”, byddwch yn cael y cyfle i osod 2 darged y tymor, a bydd y tiwtor yn eich helpu i gyrraedd y targedau hynny yn ystod y gwersi. Cynrychiolwyr Dosbarth: Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob dosbarth yn ethol o leiaf un Cynrychiolydd Dosbarth. Yna, bydd y cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gwahanol sesiynau sydd wedi eu cynllunio i’w cefnogi yn eu rôl, ee gan sicrhau bod cynrychiolwyr yn cynrychioli barn y dosbarthiadau. Bydd cynrychiolwyr dosbarth yn cael eu gwahodd i gyfarfod panel y dysgwyr / grŵp ffocws neu ateb holiadur byr syml gyda chymorth eu cyd-aelodau dosbarth. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynrychiolydd Dosbarth, cysylltwch â’ch tiwtor neu Antoni Morgan, Swyddog Llais y Dysgwr ar 01495 333710.
Llyfryn D - Llawlyfr i Ddysgwyr
Beth sy nesaf? Ar ddiwedd y cwrs Uwch, byddwch yn symud ymlaen i Hyfedredd. Ar y lefel hon bydd pob dosbarth Hyfedredd ag anghenion gwahanol. Ond y nod cyffredinol yw datblygu sgiliau presennol y dysgwyr ymhellach er mwyn eu symud o fyd y dysgwyr i fyd y Cymry Cymraeg. Er mwyn gwneud gweithgareddau fydd yn diwallu anghenion penodol y grŵp dan sylw rhoddir pwyslais mawr ar hyblygrwydd y cwrs ac oherwydd hyn addesir cynnwys y gwersi’n benodol ac yn arbenigol ar gyfer y grŵp. Defnyddir ystod eang o adnoddau er mwyn diwallu gofynion y dosbarth. Defnyddir Ffeil Hyfedredd CBAC sy’n cynnwys pum uned: Cyflwyno, Cyfieithu a Thrawsieithu, Crynhoi a Gwerthuso, Project Ymchwil ac Ysgrifennu Graenus yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau a deunyddiau eraill i wella rhugledd aelodau’r cwrs ymhob un o’r medrau. Bwriedir defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau er mwyn sicrhau y codir sgiliau y dysgwyr. Bydd y cwrs yn adolygu’r holl gystrawennau a gyflwynwyd hyd yn hyn. Defnyddir nifer o lyfrau/adnoddau gramadegol (yn eu plith): • • • • • • • • • • • • • •
Llenwi Bylchau – Politechnig Cymru Defnyddiau Gloywi – CBAC Deunyddiau Gloywi Hyfedredd CBAC 1 & 2 gan gynnwys hen bapurau Uwch a Hyfedredd Taclo’r Treigladau - David Thorne Cymraeg Graenus - Phylip Brake Cwrs Meistroli Canolfan Caerdydd Adnoddau Y Banc - Acen Adnoddau Y Tiwtor Yn ogystal defnyddir erthyglau o Golwg, Golwg 360, Barn, Sgrîn, Y Cymro a gwefannau perthnasol Ar gyfer gweithgareddau deunyddiau clyweled defnyddir (yn eu plith): Gwrando’n Astud – CBAC Gwylio’n Graff Eclips – Cymru a Chymreictod Deg o’r Adeiladau Pwysicaf yng Nghymru – Dr John Davies
Yn ystod y cwrs Uwch cofrestrwch ar gyfer arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch. Gofynnwch i’ch tiwtor neu ffoniwch y Ganolfan am ffurflen gofrestru.
Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01495 333710 os oes angen cyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym bob amser yma i’ch helpu chi ar eich taith ddysgu.