ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 LLE MAE DYNGARWCH A CHYMUNED YN CYFARFOD Â’I GILYDD www.cfiw.org.uk
02 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
Fel Noddwr y Gronfa i Gymru, rwyf wrth fy modd i glywed am barhad llwyddiannau’r ymgyrch hon i dyfu cronfa waddol gymunedol genedlaethol i Gymru, gan gynnig y cyllid i bobl ddatblygu atebion lleol i anghenion lleol. Mae cannoedd o bobl ledled Cymru ac o amgylch y byd yn cydnabod y gwahaniaeth positif y gall y Gronfa i Gymru ei wneud, ac maent wedi ymuno â’r gymuned gynyddol o roddwyr i gefnogi’i hamcanion. Mae cryfhau’r cwlwm ymysg y Cymry ar wasgar wedi bod yn ddatblygiad neilltuol o bositif i’r Gronfa. Roeddwn yn falch iawn o ddysgu am Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain, sydd newydd gael ei sefydlu, ac a gynlluniwyd i gefnogi gyrfaoedd ac addysg Cymry ifainc y mae’u huchelgeisiau a’u galluoedd yn mynd â hwy allan o Gymru. Dengys y bartneriaeth hon sut mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn uno rhoddi dyngarol ag achosion elusennol Cymreig. Dyma flwyddyn olaf her arian cyfatebol y Loteri Fawr ar gyfer y Gronfa i Gymru, sy’n sicrhau y caiff pob ceiniog goch a roddir i’r Gronfa ddwywaith yr effaith er budd cymunedau Cymru. Mae hyn yn ei gwneud hi’n amser neilltuol o amserol i gefnogi’r Gronfa, a bydd y cymhelliant hwn yn gwthio’r gwaddol y tu hwnt i’r garreg filltir o £3 miliwn. Tra bod y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn arwain gweithgaredd blwyddyn arall i dyfu’r Gronfa i Gymru, mae cymunedau ledled y wlad eisoes wedi bod yn elwa o’i waith. Eleni, dewisodd Ymddiriedolaeth Spirit of 2012 y Sefydliad i lywio’i rhaglen ‘Fourteen’, gan annog pobl i gymryd rhan yn eu cymuned yn sgîl Gemau Olympaidd 2012 a Gemau’r Gymanwlad 2014. Roedd gennyf hefyd ddiddordeb mewn darllen adroddiad ‘Portread o Ddyngarwch yng Nghymru’ gan y Sefydliad, sy’n dangos maint yr heriau a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y gwaith hollbwysig hwn. Gallaf ond llongyfarch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am greu’r gronfa waddol gymunedol genedlaethol arbennig iawn hon. Dymunaf bob llwyddiant posibl iddo yn y flwyddyn sydd i ddod. Go brin fod arnaf angen dweud fy mod yn hynod ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi’r ymgyrch arloesol hon i greu cymuned o ddyngarwyr er budd pawb. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 03
1. CROESO Eleni, gweithiodd ymddiriedolwyr, staff a chefnogwyr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn galed i atgyfnerthu’n safle fel y lle ar gyfer dyngarwch yng Nghymru, lle mae rhoddwyr a phobl sy’n gweithredu yn cyfarfod ac yn uno yn eu diddordeb i gefnogi elusennau a phrosiectau cymunedol ledled y genedl. Caiff ein gwaith dyngarwch a’n harweinyddiaeth gymunedol ei enghreifftio yn y gwaith o gynhyrchu’n prosiect ymchwil, ‘Portread o Ddyngarwch yng Nghymru’. Gan gyfuno data ar roi â myfyrdodau, arsylwadau ac astudiaethau achos o 35 o bobl sy’n rhoi’n egnïol yng Nghymru heddiw, nod y gyfrol hon yw amlygu’r ystod o gymhelliannau ac ystyriaethau sy’n hysbysu rhoddwyr yn eu dyngarwch. Daw â dimensiwn unigryw Cymreig gan ganolbwyntio ar ddyngarwyr sy’n byw, yn gweithio neu’n rhoi yng Nghymru. Ewch i’n gwefan i ddarllen ein cyhoeddiad newydd. Mae uchafbwyntiau eleni’n cynnwys croesawu’r person cyntaf a roddodd £1 filiwn inni a dyfarnu grantiau yng Ngorllewin Cymru, yn ôl ei ddymuniadau dyngarol. Daeth hyn â swm y gwaddol a’r cronfeydd arian o dan ein stiwardiaeth i uchafswm newydd o £10.8 miliwn. Sefydlom amryw o Gronfeydd newydd, yn cynnwys cronfa mewn partneriaeth â Chymru yn Llundain, mudiad y gwnaethom lansio cronfa ddyngarol â nhw i helpu myfyrwyr ac entrepreneuriaid ifainc â
bwrsariaethau i gefnogi’u huchelgeisiau. Cynyddwyd ein Cronfa Waddol Gymunedol yn Wrecsam, diolch i drosglwyddiad ymddiriedolaeth oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ac eleni, roedd ein Hwythnos Ddyngarwch flynyddol yn cynnwys derbyniad busnes ym Mrwsel ble y gwnaethom ddathlu’n Cronfa i Gymru fel cyfrwng i bobl ymuno â’n cymuned o ddyngarwyr a rhoi rhywbeth yn ei ôl i Gymru. Mae hi wedi bod yn bleser datblygu ystod o bartneriaethau â chasgliad o gleientiaid, rhoddwyr a deiliad Cronfeydd, y mae’r cyfan ohonynt yn defnyddio’n gwasanaethau i fuddsoddi’u rhoddi dyngarol mewn cymunedau. Diolch i’w cefnogaeth nhw, dyfarnom £2.2 miliwn i dros 529 o brosiectau cymunedol, elusennau ac unigolion eleni, y mae’u gwaith yn cael ei danategu gan 7,406 o wirfoddolwyr ac sy’n dod â budd i 42,320 o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth. Diolch am eich diddordeb yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a’ch cefnogaeth iddo.
JANET LEWIS-JONES Cadeirydd info@cfiw.org.uk
LIZA KELLETT Prif Weithredwr liza@cfiw.org.uk
CYNNWYS 1. Croeso 2. Yr hyn a wnawn 3. Cysylltu pobl sy’n caru lles ag achosion sy’n cyfri’ 4. Arweinyddiaeth Dyngarwch Cronfa i Gymru Cronfa Ddyngarol Cymru Yn Llundain Wythnos Ddyngarwch Gwobrau Dyngarwch Portread o Ddyngarwch yng Nghymru 5. Cerdded ochr yn ochr â’n deiliaid Cronfeydd, rhoddwyr a chleientiaid Rhoddi fel unigolion ac fel teulu Dyngarwch corfforaethol Ymddiriedolaethau Cynghorwyr Proffesiynol 6. Ein Deiliaid Cronfeydd 7. Ein Cyllidau
3 6 8 15 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26
04 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
GWELEDIGAETH
CENHADAETH
GWERTHOEDD
Cymru â sector gwirfoddol a chymunedol ffyniannus, lle mae pobl leol yn arwain prosiectau ac sydd â’r adnoddau ariannol i ddatblygu eu datrysiadau’u hunain wedi’u seilio ar angen.
Cryfhau a chyfoethogi cymunedau lleol ledled Cymru drwy ysbrydoli a rheoli dyngarwch.
Gwybodus, rhagweithiol, arloesol, creadigol, cynhwysol, proffesiynol, eirioli, arwain, cydweithio, ysbrydoledig, cynaliadwy a rhadlon.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 05
TÎM Y SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU YMDDIROEDOLWYR YN HAF 2015
NODDWR Y GRONFA I GYMRU
Janet Lewis-Jones Cadeirydd Nigel Annett CBE Lulu Burridge Alun Evans E F Lloyd FitzHugh OBE JP DL Tom Jones OBE Sheila Maxwell Is-Gadeirydd Kathryn Morris Trysorydd Julian Smith
EI UCHELDER BRENHINOL Tywysog Cymru
Eleni, ymddeolodd y Parchedig John Davies o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gŵr y mae’i ymrwymiad i’r Sefydliad yn parhau fel Llysgennad Cronfa i Gymru.
LLYWYDD Y Capten Syr Norman Lloyd-Edwards KCVO, GCStJ, RD, YH, RNR Mae’r Sefydliad yn ddiolchgar am gefnogaeth Arglwydd Raglawiaid Cymru Ei Mawrhydi am eu diddordeb parhaus yn ein gwaith.
STAFF YN HAF 2015 Liza Kellett Prif Weithredwr Tom Morris Rheolwr Cyllid, Ymchwil a Grantiau Sarah Morris Swyddog Gweinyddol Andrea Powell Rheolwr Grantiau a Rhaglenni Ffion Wyn Roberts Swyddog Grantiau Rochelle Brunnock Cynorthwyydd Grantiau Siân Stacey Rheolwr Datblygu Samuel Stensland Cynorthwyydd Datblygu Mae cyn-staff wedi cyfrannu’n aruthrol at waith y Sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf, a diolchwn yn neilltuol i Helen Fagan, Jennifer Lloyd a Ffion Wyn Morris.
SWYDDOGION CYSWLLT
Tom Barham Colin Evans
Bob Sherer Abigail Tweed
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth broffesiynol Giselle Davies (Geldards), Ruth Peck & Jan Coverley (HR Solutions), a Designdough
06 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
2. YR HYN A WNAWN Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn helpu pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth – â’u rhoddi, eu gwirfoddoli, neu’u gwaith mewn cymunedau. Rydym yn gynghorydd dyngarwch y gall pobl ymddiried ynom sy’n cynnig gwasanaeth neilltuol bwrpasol i bob un o’n deiliaid Cronfeydd a’n cleientiaid. Cynghorwn ar ble y gall eu blaenoriaethau ar gyfer rhoi elusennol gael yr effaith fwyaf, buddsoddi’u rhoddion i gael yr adenillion mwyaf a darparu rhaglenni cadarn i roi grantiau ar eu rhan. Helpwn bobl i fwynhau eu rhoddi! Mae ein tîm yn ymchwilio ac yn cynghori ar anghenion a materion o bwys, mae’n cynnal gwaith diwydrwydd dyladwy, mae’n adrodd ar effeithiau a chanlyniadau, ac mae’n ymgysylltu â chleientiaid i’r raddfa y maen’ nhw’n dymuno.
OPSIYNAU GRONFEYDD EIN GWASANAETHAU DYNGARWCH Sefydlu’ch Cronfa eich hun Cronfa Effaith Uniongyrchol – Cronfa i heddiw Cronfa Waddol - Cronfa sydd yn cael ei buddsoddi am byth, rhodd sy’n cadw rhoi Cronfa Hybrid – Cronfa sydd yn cael effaith heddiw wrth hefyd buddsoddi am anghenion y dyfodol Gellir rhoi themâu i Gronfeydd yn ôl dymuniadau’ch cleientiaid; er enghraifft, rhaglenni grantiau sy’n benodol i ardal neu bwnc. Dyblu effaith eich rhodd i’r Gronfa i Gymru. Diolch i’n Her Gyfatebol Fawr. Darparu gwell dyfodol i gymunedau Cymru drwy adael rhodd yn eich ewyllys.
YSTOD O FUDDION Cronfa unswydd bwrpasol sydd wedi’i theilwra ar gyfer eich dymuniadau • ymweliadau â phrosiectau a chael cyfarfodydd â buddiolwyr • adroddiadau blynyddol ar yr effeithiau a geir a datganiadau ar fuddsoddiadau’r Gronfa • gwahoddiadau i ddigwyddiadau a fforymau dyngarwch • rhoi mewn modd effeithiol o ran trethi
ROI
Cronfa Effaith Uniongyrchol
TYFU
DYFARNU
EFFAITH HEDDIW
Cronfa Waddol
EFFAITH AM BYTH
Gronfa Hybrid
EFFAITH HEDDIW AC AM BYTH
Mae ein tîm dyngarwch yn gweithio â phob deiliad Cronfa i ddatblygu portffolio o roddi, yn unol â’u dymuniadau er mwyn i’w dyngarwch ddwyn y ffrwyth mwyaf. Cysylltwch â Liza Kellett, Prif Weithredwr, ar 02920 379580 i drafod sut y gall eich rhoddion wneud gwahaniaeth, neu ewch i’n gwefan www.cfiw.org.uk.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 07
LLE MAE DYNGARWCH A CHYMUNED YN CYFARFOD Â’I GILYDD Diolch i ddyngarwch ein cleientiaid, darparwyd y canlynol drwy’r Sefydliad Cymunedol yn 2014/15
£2,219,283 Gwerth y grantiau a fuddsoddwyd i gryfhau cymunedau lleol
£325,162
£10,804,813 Gwerth y gwaddol a ymddiriedwyd i’n stiwardiaeth fel ag ar yr 31ain o Fawrth, 2015
529
7,406
42,320
Nifer y grantiau a ddyfarnwyd yn 2014/15
Nifer y gwirfoddolwyr sy’n ymrwymo’u hamser a’u doniau i gefnogi’r mudiadau hyn
Nifer y bobl a elwodd o waith y sefydliadau a gyllidwn
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn aelod o Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig, rhwydwaith o 48 o sefydliadau cymunedol achrededig yn Lloegr, yn cynnwys un sefydliad cymunedol yr un i wasanaethu Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Gyda’n gilydd, dyfarnom £65 miliwn mewn grantiau ‘llynedd ar ran ein deiliaid Cronfeydd, rhoddwyr a chleientiaid. Â hanner biliwn o bunnau o gronfeydd gwaddol, mae aelodau’r rhwydwaith gyda’i gilydd yn ffurfio’r degfed rhoddwr grantiau mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
CLWYD
£84,906 GWYNEDD
£34,463 Y TU ALLAN I GYMRU
£359,595 POWYS
£368,980
DYFED
£223,297
£208,887
GORL MORG MORG GAN DE MORG
GWENT
£303,393 £310,600
MWY NA SWM EIN GRANTIAU CYNNIG SAIL A PHARTNERU GWYBODAETH LEOL ARBENIGEDD CENEDLAETHOL RHANNU A CHYDWEITHREDU
CYNNULL A CHADEIRIO DIWALLU ANGHENION DATHLU A HYRWYDDO
08 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
3. CYSYLLTU POBL SYDD Â CHALON AG ACHOSION SY’N CYFRI’ Roeddem wrth ein bodd eleni o groesawu amryw o ddeiliaid Cronfeydd newydd i’n portffolio. Mae’r rhain yn cynnwys Spirit of 2012, ac rydym yn rheoli’r rhaglen grantiau cymunedol ‘Fourteen’ iddynt; Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain, a gynlluniwyd i helpu Cymry ifainc, llawn dyheadau yn eu gyrfaoedd a’u haddysg; Ymddiriedolaeth Addysgol John Vaughan; gwneud Trosglwyddiad Ymddiriedolaeth arall â Chyngor Wrecsam. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r cleientiaid hyn i reoli’u rhoddi elusennol.
DOD Â PHOBL YNGHYD
RHANNU ARBENIGEDD
Ledled ystod o Gronfeydd, caiff pobl eu cynnull fel Paneli Grantiau i benderfynu sut orau i ddyfarnu grantiau. Mae arbenigwyr lleol, aelodau teuluoedd deiliaid Cronfeydd, cynghorwyr proffesiynol, cleientiaid, ac aelodau’r gymuned yn rhannu’u gwybodaeth a’u cyngor i sicrhau ein bod yn cefnogi grwpiau fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned. Yn unigryw, daw ein Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent ag ymgeiswyr a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i glywed am y gwahaniaeth y mae grwpiau cymunedol ac elusennau Gwent yn ei wneud, ac wedyn maent yn pleidleisio i ddewis pa un ohonynt a ddylai dderbyn cyllid.
Mae staff y Sefydliad ac Ymddiriedolwyr hefyd yn cyfrannu at ddatblygu strategaeth a pholisi, gan rannu’n gwybodaeth am gymunedau lleol â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. O: ddefnyddio’n harbenigedd i gefnogi mentrau cymdeithasol drwy eistedd ar Banel Cronfa Buddsoddi Cymunedol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; ymateb i ymgynghoriadau; cynghori asiantaethau ac elusennau; i roi cyflwyniadau mewn cynadleddau, a chyfrannu at y drafodaeth yng ngwrandawiad Cynllun Datblygu Gwledig Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop ym Mangor, mae’r Sefydliad bob amser yn fodlon ychwanegu’i safbwynt a’i ddealltwriaeth at ddyngarwch a chymunedau Cymru.
“Mae hi’n fraint dysgu am, a bod yn gallu ymateb i ddymuniadau dyngarol ein cleientiaid. Mae pob un cleient, Cronfa a rhaglen yn wahanol, ac yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru mae gennym y gallu i ddarparu gwasanaethau unswydd bwrpasol drwy’n rhaglenni grantiau wedi’u teilwra. Mae gweld y broses hon ar waith, a’r effaith a gaiff rhoddi elusennol ar fywydau pobl yng Nghymru, yn llawn ysbrydoliaeth wirioneddol.” Andrea Powell, Rheolwr Grantiau a Rhaglenni
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 09
CEFNOGI YMGEISWYR
CYNNULL
GWNEUD ARGRAFF
Fel Sefydliad Cymunedol, cerddwn ochr yn ochr ag ymgeiswyr, gan gynghori o’n swyddfa ac allan yn y cymunedau rydym yn eu cyllido. Mewn ffeiriau cyllido, diwrnodau galw heibio cymunedol a chyfarfodydd paneli lleol, darparwn gefnogaeth, a gofynnwn – ac atebwn- y cwestiynau sydd eu hangen i roi’r cyfleoedd gorau i elusennau a grwpiau bychain i dyfu ac i ddatblygu.
Gan adeiladu ar ein cefnogaeth i ddwy elusen Gymreig sy’n helpu merched i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a chymunedol (siaradom mewn panel Diwrnod Rhyngwladol y Merched a chefnogom dair o ferched ar gynllun cysgodi gwaith), galwodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ddigwyddiad arbennig i annog ymddiriedolwyr ifainc ac ymddiriedolwyr benywaidd. Roedd ein derbyniad noswaith anffurfiol, a drefnwyd yn garedig gan Capital Law, yn cynnwys y Fonesig Rosemary Butler, AC, yn siarad am ei hynt a’i hanes mewn bywyd cyhoeddus, ac Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn sgwrsio am eu profiadau o’r drefn lywodraethol, gwirfoddoli, a heriau a llawenydd ymddiriedolaeth. O’r trigain o bobl ifanc a ymunodd â ni yr haf hwn, mae dau wedi rhoi gwybod eu bod eisoes wedi cael cynnig lleoedd ar fyrddau elusennau, a dywedodd amryw o rai eraill wrthym eu bod wedi’u hysbrydoli i ddirnad eu sgiliau a’u hyder eu hunain ac i chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli neu i ymuno â byrddau.
Ar strategaethau… hysbysu polisi a thanategu newid Ar gymunedau lleol… magu hyder a chyfalaf cymdeithasol Ar elusennau a grwpiau cymunedol… newid sylweddol mewn cyllido a datrysiadau lleol Ar bobl… grymuso, cefnogi, buddsoddi
RHYDDHAU EGNI, YSGOGI GWEITHREDU
CAIFF HANESION Y PROSIECTAU A GYLLIDIR GAN EIN DEILIAID CRONFEYDD A RHODDWYR EU GWELD AR Y TUDALENNAU A GANLYN.
10 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
GALLUOGI POBL IFANC A HYRWYDDO ADDYSG, MENTER A DYSGU GYDOL OES
Mae’r gweithgarwch hwn yn cynnwys grantiau i sefydliadau sy’n meithrin hunan-barch, hyder a gorwelion i bobl ifanc; cymorth i elusennau sy’n gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; bwrsariaethau i fyfyrwyr; a phrosiectau sy’n meithrin sgiliau a chyflogadwyedd. Mae hyn o fewn cyd-destun y ffaith bod un o bob tri o’n plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac effaith niweidiol hyn ar hunan-werth, llythrennedd, sgiliau, uchelgais a chyfleoedd bywyd.
“Roedd o’n brofiad gwerthfawr, ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan eto. Roedd yn hwb i’m hyder wrth imi gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau” Cyfranogwr prosiect
DYHEAD
Dywedodd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, y mae’u hymgyrch ‘Get Sporty’ wedi’i hariannu drwy raglen Cymunedau Lleol Comic Relief rydym yn ei rheoli, wrthym sut y gallai merched ifainc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe elwa o deimlo’n fwy hyderus ac ysbrydoledig ynglŷn â’u dewisiadau gyrfa. Dyfarnodd y Sefydliad grant o £7,500 o’n Cronfa Skiathos, sef Cronfa sy’n cefnogi’n benodol brosiectau sy’n helpu plant a phobl ifanc yn eu harddegau, gan fagu hunan-barch, uchelgais a phrofiadau. Gweithiodd deg o wirfoddolwyr â busnesau lleol yn ac o amgylch Abertawe i drefnu ymweliadau, sgyrsiau, a diwrnodau agored. Agorwyd llygaid mwy na 100 o ferched ifainc ac ehangwyd eu gorwelion, diolch i’r rhaglen hon, gan eu helpu i ganfod am hyd yn oed fwy o gyfleoedd i barhau â’u haddysg neu i ddechrau ar eu bywydau proffesiynol.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 11
ADEILADU RHWYDWEITHIAU A HYDER MEWN CYMUNEDAU
Mae grantiau dan y pennawd hwn yn cynnwys y rhai a roddir i elusennau sy’n gweithio er mwyn grymuso pobl mewn cymunedau y maent yn ddifreintiedig yn ariannol ac yn gymdeithasol; sefydliadau sy’n cynorthwyo pobl ar y cyrion; a buddsoddiad mewn digwyddiadau a chyfleusterau cymunedol. Mae’r grwpiau hyn yn ganolbwynt i’r gymuned. Mae pentrefi gwledig, bychain yn gefndir i fywydau llawer o bobl yng Nghymru, ond gall lleoliad darluniadol beri heriau dyddiol. Mae Cwmni Nod Glas Cyf, a leolir yn Ninas Mawddwy yng Ngwynedd, wedi bod yn adnewyddu adeilad segur i sefydlu canolfan gymunedol i bobl gyfarfod, ac i’w defnyddio fel menter gymunedol. Golygai £20,000 o grant oddi wrth Gronfa Sefydliad y Teulu Ashley y gallent ddatblygu hen siop y pentref i fod yn siop grefftau, lle i oriel a chaffi.
“Roedd hi’n wych cyfarfod â’r gwirfoddolwyr lleol sydd wedi gwneud cymaint o ymchwil, hyfforddiant a chynllunio ar gyfer eu menter gymunedol newydd, a gweld eu hymdrechion yn dwyn ffrwyth. Gwnaed argraff neilltuol arnaf gan gynlluniau’r grŵp i roi ‘mynediad i farchnad’ i artistiaid lleol drwy gynnwys arddangosfa ar gyfer cynnyrch crefft a chelfyddyd yn oriel y siop. Mae’r fenter bentref hon hefyd yn cynnwys siop trin gwallt!” Sheila Maxwell, Gwahoddwyd Is-gadeirydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
GWYTNWCH
12 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
GWELLA IECHYD CORFFOROL AC IECHYD MEDDWL
Mae’r categori eang hwn yn cynnwys grantiau a ddyfarnir i sefydliadau sy’n cynorthwyo pobl sy’n dioddef o faterion iechyd a dibyniaeth; cynyddu’r cyfleoedd i fanteisio ar chwaraeon ac ymarfer corff; hyrwyddo bywyd iach; trechu arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith yr henoed a phobl agored i niwed; gwella’r cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau i fanteisio ar wasanaethau; a gwella lles trwy gyfrwng cwnsela, cyfryngu a chyngor. Mae’n gweithgarwch dyfarnu grantiau yn y categori hwn yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol trwy gynorthwyo cyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau iechyd, a’u darpariaeth, gan feithrin hunan-barch a lleihau iselder ac arwahanrwydd cymdeithasol.
“Yn bwysicach na dim, nid yw’r Squirrel’s Nest yn gwneud i’r aelodau deimlo’u bod yn rhan o brosiect iechyd meddwl, ond yn hytrach ei fod yn grŵp cyfeillgarwch a all gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n bleserus i’r ddwy ochr,” Robert Visintainer, Cydgysylltydd
DEWRDER
Mae’r Cwt i Ddynion, The Squirrel’s Nest, elusen sydd wedi’i lleoli ar barc diwydiannol yn Nhondy ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymddangos o’r tu allan i fod ond yn weithdy pren, ond mae’n llawer iawn mwy na hynny! Ac yntau wedi’i seilio ar fodel o Awstralia, mae o mewn gwirionedd yn fan ymgynnull pwrpasol i ddynion a merched o bob oed i gyfarfod, i weithio ochr yn ochr â’i gilydd, ac i deimlo’n gyfforddus yn siarad, y cyfan tra ei fod yn cynhyrchu incwm drwy werthu’u nwyddau pren mewn ffeiriau crefft lleol. Gan gael ei gyfarparu â pheiriannau sandio, llifiau ac amrywiol ddarnau o bren, mae’r 40 o aelodau’n cynhyrchu powlenni, ysgrifbinnau, a darnau bychain o ddodrefn . Talodd Cronfa i Gymru y Sefydliad am ddril piler newydd gwerth £625 – darn syml o declyn ar gyfer prosiect sy’n gwneud cymaint mwy dros les meddyliol na gwneud nwyddau pren. Drwy osmosis, mae gwirfoddolwyr y Squirrel’s Nest yn lleihau unigedd, maent yn magu hyder ac maent yn cefnogi’r naill a’r llall.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 13
DIOGELU’N HAMGYLCHEDD
Yn y categori elusennol hwn, mae’r Sefydliad yn dyfarnu grantiau i sefydliadau sy’n cynorthwyo cynaladwyedd amgylcheddol, cadwraeth ac ymchwil ac arloesedd. Mae materion amgylcheddol, yn rhai lleol neu fyd-eang, yn dwyn pobl ynghyd i drechu’r problemau hyn ar y cyd, gan gryfhau cymunedau ar yr un pryd a chynnig sylfaen ar gyfer cymdeithas sy’n ymgysylltu yn fwy gyda’r amgylchedd. Mae Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr, yn Niwbwrch, yn benderfynol o roi sylw i anghenion lleol gydag adnoddau lleol. Gan fod 40% o bobl 16-65 mlwydd oed yn Niwbwrch nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET), a chyda choedwig brydferth a lleoliad arfordirol ar garreg ei ddrws, aeth y grŵp newydd hwn ati i gynnwys pobl leol mewn gweithgareddau amgylcheddol, a all hefyd fod o fudd i ymwelwyr â’r gornel hardd hon o Ynys Môn. Mae grant o £2,000 oddi wrth ein Cronfa Fuddsoddi Dyngarwch Micro Fenter arloesol yn cyllid sbarduno cynllun busnes i greu cynllun llogi beiciau menter gymdeithasol newydd. Ac yntau’n cael ei gyllido gan raglen Fourteen o eiddo Spirit of 2012, gwnaeth yr egin-sefydliad hwn hefyd yn ddiweddar gynnal Diwrnod Ymwybyddiaeth
PARCH
o Goetiroedd, a dynnodd ynghyd dros 200 o drigolion lleol a saith o fudiadau cymunedol i ddysgu mwy am y coed, i gymryd rhan mewn gweithgareddau Ysgol Goedwigaeth, ac i glywed am y bywyd gwyllt a gweithgareddau cymunedol eraill yn yr ardal.
“Mae yna gymaint o egni a diddordeb, o ystod o brosiectau cymunedol lleol ac elusennau, mewn cydnabod treftadaeth naturiol a hanesyddol y gornel hon o Ynys Môn. O gyllido maes chwarae yn Niwbwrch, sydd yn ddiau ag un o’r lleoliadau harddaf yng Nghymru, i grant cychwyn busnes ar gyfer prosiect coetir cymunedol, a chyllido picnic traeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau a’u teuluoedd, mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi bod yn cefnogi’r egni hwn. Ac yn awr mae hyn wedi’i gatalyddu hyd yn oed yn rhagor gan ein bod wedi dod yn gymuned ‘Fourteen’, ac mae ein panel Ysbryd Bro Aberffraw o egniolwyr cymunedol lleol yn buddsoddi mewn meithrin gwirfoddoli, lles a gweithgaredd diwylliannol a chorfforol i helpu i gael hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan ” Mark Gahan, Cydgysylltydd Cynefin
14 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
MEITHRIN TREFTADAETH A DIWYLLIANT Mae’r celfyddydau, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, ac adeiladau a chyfleusterau o arwyddocâd hanesyddol yn cael budd gan grantiau a roddir dan y categori hwn. Mae dathlu a hyrwyddo elfennau diwylliannol, ysbrydol ac artistig ein bywydau a diogelu ein treftadaeth yn hanfodol er mwyn datblygu cymunedau hyderus ac sy’n ymgysylltu, lle y mae pobl yn rhannu ymdeimlad o le a hunaniaeth. Roedd brwdfrydedd dros ymdrechion cadwraeth Menter y Felin Uchaf, a leolir ym Mhen Llŷn, cymaint fel pan agorodd ei brosiect tŷ crwn yn null Celtaidd ei ddrysau i wirfoddolwyr, disgwyliwyd 30 ond fe ymunodd 80! Roedd rhai’n geiswyr gwaith ifainc, ac roedd eraill yn fyfyrwyr pensaernïaeth dan hyfforddiant. Cefnogodd grant o £4,995 oddi wrth Gronfa Ymddiriedolaeth Dulverton y gwirfoddolwyr eiddgar hyn, a 60 o blant ysgol lleol, i weithio fel tîm ac i adeiladu’r tŷ crwn gan ddefnyddio dulliau adeiladu hynafol megis adeiladu gwal o gerrig sychion, panelu plethwaith a dwb, fframio to, gwneud gwaith saer, defnyddio llechi cerrig a thoi â gwellt.
BALCHDER
Gyda chefnogaeth adran archeolegol Prifysgol Bangor, daw’r tŷ crwn yn ganolfan addysg er budd ymwelwyr, ysgolion a chadwraethwyr. Mae’r cyfranogwyr o’r prosiect hwn, y gwnaeth rhai ohonynt roi bron i 200 o oriau o’u hamser, wedi adeiladu lle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i ddysgu mwy am hanes Celtaidd a daearyddiaeth leol.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 15
4. ARWEINYDDIAETH DYNGARWCH Y GRONFA I GYMRU Mae unig gronfa waddol gymunedol genedlaethol y byd, Y Gronfa i Gymru, wedi parhau i dyfu, diolch i roddion oddi wrth ystod o roddwyr dros y flwyddyn. Saif y Gronfa yn awr ar £2.3 miliwn, ac ers iddi gael ei lansio yn 2011, mae hi wedi dyfarnu dros £94,000 i 74 o elusennau bychain, prosiectau, a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Gyda dim ond £150,000 yn weddill yng Nghronfa’r Loteri Fawr ar gyfer Her Gyfatebol Cymru, anogwn bawb sydd eisiau rhoddi i’r Gronfa i Gymru i roi cyn y bydd y cyfle hwn yn darfod ym mis Awst 2016. Derbyniom gannoedd o roddion oddi wrth bobl o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd, a bydd y rhoddion hyn yn sicrhau y bydd pobl Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, bob amser yn gallu cael at gyllid ar gyfer prosiectau llawn ysbrydoliaeth sy’n gwneud gwahaniaeth.
A ninnau’n llawn cyffro, cyhoeddwn bartneriaeth newydd â Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America (NWAF), gan adeiladu dolen bwysig a chyffrous gyda’r Cymry ar Wasgar yng Ngogledd America. Cyhoeddwyd y bartneriaeth hon yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Columbus, Ohio, gyda Llywydd NWAF yn egluro,
“Mae’n bleser gwirioneddol gweithio â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac i ddysgu am ffordd o wneud gwahaniaeth yn ôl yn y famwlad. Er mwyn cefnogi twf y Gronfa i Gymru, rydym eisiau annog mwy o roddion o America. Credaf y bydd y dull treth-effeithiol hwn o roi yn helpu Americanwyr i roi rhywbeth yn ei ôl i’r wlad y maent yn ei charu.” Ar ôl llwyddiant y nifer cyfyngedig o blancedi Melin Tregwynt, a dyluniad clustog i gymorth y Gronfa i Gymru, rydym wrth ein bodd o rannu’r newyddion bod y felin wlân Gymreig uchel ei chlod hon yn rhyngwladol yn parhau i gefnogi’r Gronfa drwy gynhyrchu fersiwn arbennig prydferth arall. Ac yn well byth, bydd y dyluniad newydd yn nodwedd barhaol ym Melin Tregwynt, gan sicrhau y bydd y bartneriaeth â’r Gronfa i Gymru wedi’i gweu gyda’i gilydd am flynyddoedd eto i ddod. Â 30% odii wrth bob un gwerthiant yn cael ei roddi fel rhodd i’r Gronfa
i Gymru - wedi’i ddyblu i 60% tan fis Awst 2016, diolch i Her Gyfatebol y Loteri Fawr - dyma’r amser gorau i gael blanced arbennig Cronfa i Gymru ar gyfer eich anwyliaid. Diolch i’r holl dîm ym Melin Tregwynt am barhau i gefnogi’r Gronfa. Fel Noddwr y Gronfa hon, estynnodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wahoddiadau i’r Sefydliad fynychu derbyniad yn ei gartref swyddogol yng ngorllewin Cymru, ac aethom gydag un deiliad Cronfa i Barti Gardd Ei Mawrhydi Y Frenhines yr haf hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar i Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am ei gefnogaeth barhaus i’n huchelgais i dyfu unig gronfa waddol gymunedol genedlaethol y byd.
Cyhoeddom yn ddiweddar yr Adolygiad cyntaf gan y Gronfa i Gymru, gan roi manylion grantiau, hanesion cefnogwyr, a gweithgareddau’r Gronfa i Gymru. Os hoffech dderbyn copi o’r Adolygiad Blynyddol hwn, anfonwch e-bost at sam@cfiw.org.uk, os gwelwch yn dda, neu lawrlwythwch yr adolygiad oddi ar ein gwefan.
16 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
ARWEINYDDIAETH DYNGARWCH CRONFA DDYNGAROL CYMRU YN LLUNDAIN Mae gan Gymru gysylltiad maith a chryf â Llundain, a ymgorfforir gan ‘Cymru yn Llundain’, sy’n darparu cyfleoedd rhwydweithio i Gymry sy’n newydd i’r ddinas, ac mae’n meithrin naws gymunedol ymysg y rheiny sydd â chysylltiadau Cymreig sydd efallai wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd lawer. Ym mis Mawrth, 2015, sefydlodd aelodau Cymru yn Llundain Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Bydd eu cronfa waddol yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o gyllid i gefnogi myfyrwyr mentrus, entrepreneuriaid, a phobl Cymru i gyflawni’u huchelgais yn Llundain a’r tu hwnt. Bydd y Gronfa’n helpu i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith a datblygu gyrfa. Mae’r cysyniad o’r Gronfa Cymru yn Llundain yn adeiladu ar rai enghreifftiau gwych o Gymry uchelgeisiol, mentrus yn derbyn grantiau gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru er mwyn datblygu ac ymestyn eu hastudiaethau. Mae Megan, myfyriwr y gyfraith a dderbyniodd gefnogaeth i gael ffioedd dysgu a chynhaliaeth lawn oddi wrth Gronfa a Enwir a reolir gan y Sefydliad, yn disgrifio’r gallu i fyw, i weithio, ac i astudio yn Llundain o ganlyniad i’r cyllid hwn fel “newid bywyd”. Bydd Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o gyllid i Gymry eraill sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd.
“Y syniad yw i Gymry llwyddiannus helpu i gefnogi’r genhedlaeth nesaf ac i roi rhywbeth yn ei ôl i Gymru. Gobeithiwn y bydd y rheiny a dderbyniodd gefnogaeth wedi iddynt ddod yn llwyddiannus hefyd ryw ddydd yn cyfrannu tuag at y Gronfa eu hunain. Cafodd y fenter groeso brwd a denodd gefnogaeth hael. Un ffactor yn hyn o beth oedd Her Gyfatebol Cronfa i Gymru gan y Loteri Fawr. Mae cefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru wedi hen fod yn rhan o hanes y sefydliad, ac mae ein haelodau’n cydnabod y Gronfa i Gymru fel cyfrwng ardderchog i hyrwyddo’u cefnogaeth i’r cyfryw brosiectau, gan ddarparu modd i’r rheiny sy’n caru lles Cymru i roi i bobl Cymru mewn ffordd strategol a chynaliadwy. Edrychwn ymlaen at weld y gronfa’n mynd o nerth i nerth dros y pum mlynedd nesaf.” Huw Hampson-Jones, Cadeirydd Cymru yn Llundain
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 17
ARWEINYDDIAETH DYNGARWCH WYTHNOS DDYNGARWCH 2014 Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i archwilio, i ddathlu ac i hyrwyddo dyngarwch. Yn ystod Wythnos Ddyngarwch 2014 ym mis Tachwedd, arweiniodd y Sefydliad gasgliad o fentrau ledled Cymru i gyd. Roeddem yn falch o lansio’n cyhoeddiad ymchwil, ‘Portread o Ddyngarwch yng Nghymru,’ yn ein prif ddigwyddiad, y Derbyniad Dyngarwch, yng Nghastell Caerdydd.
WYTHNOS DDYNGARWCH CYMRU 2014 CEFNOGWYR A SIARADWYR
RHANDDEILIAID A PHARTNERIAID
WYTHNOS DDYNGARWCH 2014 – ROEDD DIGWYDDIADAU’N CYNNWYS: • • • • • •
Brecwast busnes i drafod ein gwasanaethau rheoli dyngarwch a gynhelir gan KTSOwensThomas Cylch rhoi gyda dyngarwyr menter mewn partneriaeth â Capital Law a Quilter Cheviot, ag arian cyfatebol yn cael ei ddarparu gan Sefydliad Pears Grŵp ffocws ysgoloriaeth o fyfyrwyr a staff prifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth Gêm o ‘philanthrop-oly’ gydag ACCA Cymru a gwesteion yn archwilio cymhellion dyngarol Sgwrs dros swper â Llwybrau Dysgu Cymru Digwyddiad rhyngwladol Cronfa i Gymru gyda’r Cymry ar Wasgar ym Mrwsel, a gynhelir gan Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
18 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
ARWEINYDDIAETH DYNGARWCH GWOBRAU DYNGARWCH Er mwyn anrhydeddu pobl y mae’u dyngarwch wedi bod o fudd i gymunedau Cymru, cyflwynodd Cadeirydd y Sefydliad, Janet Lewis-Jones, a chefnogwr y Sefydliad, Peter Saunders, OBE, Wobr Ddyngarwch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i’r dyngarwyr a ganlyn:
DR DEWI DAVIES
PETER NEUMARK
TONY JOHNSON
Mae’r Dr Dewi Davies yn ddyngarwr ac yn gyn- feddyg meddygol. Penderfynodd roi’i elwau buddsoddi ar waith drwy ddyngarwch drwy gefnogi’r ardal lle y tyfodd yn oedolyn yng ngorllewin Cymru, gan gydnabod anghenion eang eu natur cymuned wledig ac ynysig. Gwnaeth y Dr Davies hyn drwy sefydlu cronfa waddol £1 filiwn sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Ne Ceredigion a Gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, a bydd yn parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.
Mae’r dyngarwr a’r gŵr busnes Peter Neumark yn dal yn ffyddlon i’r achosion a’r mudiadau y mae’n credu ynddynt, gan gefnogi elusennau megis Tŷ Gobaith, Outward Bound Trust (lle roedd yn ymddiriedolwr a chanddo wasanaeth maith) a Banc Bwyd Sir y Fflint. Arweiniodd rhodd gan Peter a’i wraig Maria hefyd at yr agoriad diweddar o amgaefa yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn. Ac yntau wedi’i benodi’n Rhaglaw yr Urdd Fictoraidd Frenhinol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, rhydd Peter ei amser, ei arian a’i anian i elusennau Cymru.
Mae’r cyfreithwyr Tony a Judith Johnson yn ddyngarwyr menter. Ar ôl gweithio â’i fanc bwyd lleol a gweld drosto’i hun y gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn y gymuned leol, aeth Tony ati i gefnogi costau gweithredol y banc bwyd. Gwnaethant hefyd gyllido cychwyn Purple Shoots, sef elusen ficro gyllid ddielw a leolir yn Ne Cymru, a hynny ar ôl cael eu hysbrydoli gan fodel Banc Grameenyn Bangladesh, a chan gredu’i fod yn ffordd wych o helpu i godi pobl o dlodi, mae Tony a Judith wedi sefydlu’u hymddiriedolaeth elusennol eu hunain yn ddiweddar i helpu i liniaru tlodi ac i gefnogi pobl sy’n dioddef camdriniaeth.
Fel rhodd drwy’r Gronfa i Gymru, gwnaeth dyngarwch y Dr Davies hefyd sbarduno rhagor o fuddsoddi arian cyfatebol i’r Gronfa i Gymru, gan gefnogi prosiectau ledled Cymru gyfan, diolch i Gronfa’r Loteri Fawr.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 19
ARWEINYDDIAETH DYNGARWCH PORTREAD O DDYNGARWCH YNG NGHYMRU Fel yr unig sefydliad yng Nghymru sy’n ymroi i hyrwyddo ac i reoli dyngarwch, mae gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb ac uchelgais i fod wrth graidd lle mae dyngarwch a chymuned yn cyfarfod â’i gilydd yn ein cenedl. Serch hynny, nid yw’r darlun o ddyngarwch yng Nghymru wedi’i gatalogio, ac nid oes yna’r un prosiect ymchwil pwrpasol wedi bod sy’n archwilio dyngarwch yng Nghymru. Anaml iawn y bydd ymchwil a mentrau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn rhoi sylw i roddi dyngarol yng Nghymru’n benodol. Fel yr unig wlad yn Ewrop a chanddi ‘gynllun trydydd sector’ wrth graidd agenda’r Cynulliad Cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gryfhau’r sector gwirfoddol a’r sefydliadau seilwaith sy’n gwasanaethu grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau cymdeithasol. Gyda dadl gref gan y Sefydliad dros gefnogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi grant craidd yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru dros y saith blynedd diwethaf, sydd wedi cynnwys ariannu’r gwaith ymchwil cynnar ar gyfer yr adroddiad hwn.
“Cyhoeddiad penigamp. Da iawn.” Y Farwnes Prashar, Llywydd Anrhydeddus Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig
Ein hamcanion oedd: • Rhannu’n haddysg fel y gall eraill ymwneud yn fwy cynhyrchiol â rhoddwyr sylweddol • Amlygu arwyddion defnyddiol ar gyfer codwyr arian a dyngarwyr • Ysbrydoli mwy o roddi dyngarol i gefnogi cymunedau Cymru
“Diolch yn fawr iawn ichi am anfon copi imi o Portread o Ddyngarwch. Dyma ddogfen arwyddocaol iawn a chryn ôl meddwl arni ac sydd wedi’i chynhyrchu’n broffesiynol iawn. Mae’n eich goleuo ac yn eich ysbrydoli. Llongyfarchiadau i chi ac i bawb sy’n gysylltiedig!!” Peter Saunders, Dyngarwr menter ac entrepreneur
“Ardderchog a hynod o ddiddorol.” Antony Lewis, Deiliad Cronfa’r Sefydliad
Dyngarwyr Rydym wedi galluogi ystod o ddyngarwyr unigol, y mae llawer ohonynt yn elwa o wasanaethau’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, i siarad o waelod eu calonnau am eu profiadau’u hunain, eu diddordebau a’u cymhellion i roi i gymunedau Cymru. Rydym yn neilltuol o ddiolchgar am eu syniadau, eu myfyrdodau a’u hymrwymiad i rannu’u cyfoeth.
Gellir lawrlwytho’r cyhoeddiad hwn oddi ar ein gwefan, a chofiwch gysylltu â’r Sefydliad os hoffech gopi caled.
20 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
5. CERDDED OCHR YN OCHR Â’N DEILIAID CRONFEYDD, RHODDWYR A CHLEIENTIAID Yn yr adran hon o’n Hadolygiad Blynyddol, amlygwn hanesion ystod o ddyngarwyr a sut rydym yn gweithio, ac yn cerdded, ochr yn ochr â hwy.
UNIGOLION A THEULUOEDD
YMDDIRIEDOLAETHAU
Mae’r Sefydliad yn gweithio’n agos â rhoddwyr a theuluoedd eraill i reoli’u Cronfeydd penodol a Enwir. Gan fod yn debyg i ymddiriedolaeth elusennol ond heb feichiau’r drefn lywodraethu a beichiau gweinyddol, ein cleientiaid sy’n dewis themâu a daearyddiaeth eu Cronfa tra bod y Sefydliad yn rheoli’r gorchwyl o wneud grantiau, diwydrwydd dyladwy ac adrodd ar effeithiau. Gall y Sefydliad gynnull paneli teuluol ac ymweliadau â phrosiectau i gleientiaid, gan roi bywyd i’w dyngarwch drwy brofiadau uniongyrchol.
A’r sefydliad yn awr yn cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau, mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gweithio ag ymddiriedolwyr Ymddiriedolaethau presennol i stiwardio’u gorchwyl o roi grantiau. Gall hyn fod drwy reoli rhaglenni grantiau, cynghori ar roi grantiau lleol, neu drwy drosglwyddo’r Ymddiriedolaeth i’r Sefydliad, a thrwy hynny ysgafnhau’r pwysau o reoli’r Ymddiriedolaeth gan wybod y bydd ei amcanion elusennol yn parhau i gael eu cyflenwi’n ddiwyd.
CYNGHORWYR A CHYFRYNGWYR PROFFESIYNOL Fel cynghorwyr ar ddyngarwch, mae’r Sefydliad yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i gynghorwyr proffesiynol i helpu i gyflawni dymuniadau dyngarol eu cleientiaid. Mae’r Sefydliad yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau a gynigir gan ystod o gynghorwyr proffesiynol, er enghraifft - mewn cynllunio stadau a rhoddi’n effeithiol o ran trethi.
DYNGARWCH CORFFORAETHOL Mae gan y Sefydliad flynyddoedd lawer o brofiad o weithio â busnesau i ymestyn hyd yr eithaf eu huchelgais o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Drwy ddarparu wyneb annibynnol sy’n cadw hyd braich ar gyfer eu rhoddi corfforaethol, gall y Sefydliad gydweithredu â busnesau i gynllunio rhaglenni grant strategol yn unol â’u cenadaethau busnes.
MAE GWEITHIO Â’R SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU YN RHWYDD, YN EFFEITHLON AC YN EFFEITHIOL, GAN DDOD AG YSTYR AC EFFAITH I’CH DYNGARWCH.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 21
RHODDI FEL UNIGOLYN AC FEL TEULU TEULU SLOMAN Mae’r Sefydliad yn gweithio â phobl i’w helpu i reoli’u rhoddi dyngarol yng Nghymru. Pan sefydlir Cronfa a Enwir, yn debyg i Ymddiriedolaeth Elusennol, bydd y Sefydliad yn cymryd y cyfrifoldebau, tra bod ein rhoddwyr yn mwynhau penderfynu pa themâu yr hoffent eu cefnogi. Sicrhawn y bydd pob gwiriad ar ddiwydrwydd dyladwy a threfn llywodraethu’n cael eu gwneud, darparwn wybodaeth leol a hefyd dangoswn effaith dyngarwch pob cleient drwy Adroddiad ar Effeithiau blynyddol. Mae’r enghraifft hon oddi wrth Gronfa’r Teulu Sloman yn dangos sut mae rhoi drwy’r Sefydliad wedi galluogi’r teulu hwn i gefnogi ardal yng Nghaerdydd sy’n bwysig iddynt.
Ganwyd a magwyd Martyn Sloman ar stad cyngor Trelái yng Ngorllewin Caerdydd ar ôl y rhyfel. Athrawon mewn ysgol leol oedd rhieni Martyn, gan ddod yn gyfranogwyr gweithgar o fewn Cybiau’r Sgowtiaid, yr Ysgol Sul a rhwydwaith eglwysi yn yr ardal leol. Fel mae Martyn yn adrodd, “Roedd yna lawer o bobl yn y gymuned honno yn gwirioneddol wneud eu gorau glas i eraill, ac mae arnaf ddyled o ddiolch iddynt.” Penderfynodd Mr Sloman sefydlu’i Gronfa Deuluol gyda’r Sefydliad ychydig flynyddoedd yn ôl: “Roeddwn wedi cyrraedd 60 a daeth pensiwn cyfandaliad i rym imi. Roeddem yn eitha’ taclus yn ariannol - heb fod â gwerth net enfawr ond yn eitha’ cefnog, serch hynny. Roedd fy ngwraig yn Is-gadeirydd a sefydlodd Sefydliad Cymunedol yn Norfolk, lle rydym yn trigo yn awr, ac eisteddom a siaradom amdano, a dywedais innau yr hoffwn gyllido rhywbeth yn ôl yng Nghymru os oedd hi am wneud y gwaith hwn yn Norfolk. Y ddwy agwedd neilltuol a apeliodd atom oedd darganfod y gallem gael ein Cronfa a Enwir ein hunain - Cronfa’r Teulu Sloman - ac yn ail, y gallai ganolbwyntio’n benodol ar Drelái. Gwnaeth y ddau beth hyn gryn dipyn o wahaniaeth imi o ran rhoddi - Cronfa a Enwir ar gyfer ardal fechan.” Un prosiect a dderbyniodd gyllid drwy Gronfa’r Teulu Sloman yw’r prosiect ysbrydoledig, Making Music Changing Lives. Seilir y gerddorfa gymunedol hon i
blant ar fodel Simon Boliver yn Venezuela, ac mae’n darparu’r offerynnau a’r gwersi i blant lleol na fyddai byth fel arall fod wedi profi cerddoriaeth yn y ffordd hon.
“Ni sylweddolais yr effaith roedd o’n mynd i’w gael tan imi glywed amdano, ac yn wir ei weld o ar Songs of Praise. Defnyddiwyd grant o £500 oddi wrth Gronfa’r Teulu Sloman ar gyfer prynu offerynnau yn wreiddiol. Arferwn â mynychu’r Ysgol Sul yn Eglwys yr Atgyfodiad (Church of the Resurrection), ac ni allwn chwarae triongl, a bod yn onest, na symbal. Mae o wedi bod yn llwyddiant ysgubol mewn ardal sydd ei angen o. Rhydd hunanhyder i bobl, rhydd hunangred i bobl, rhydd ymdeimlad o gymuned i bobl sy’n ymwneud â’r teulu cyfan. Mae hynny’n benigamp!” Mae Mr a Mrs Sloman yn awr yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys eu plant yn y penderfyniadau ynghylch pa elusennau a grwpiau cymunedol i’w cefnogi, ac ychwanegu at y Gronfa ar ran y genhedlaeth nesaf. Mae effaith barhaol Cronfa’r Teulu Sloman yn parhau i ddarparu cefnogaeth i grwpiau cymunedol lleol, ac mae’n enghraifft go iawn o deulu’n rhoi rhywbeth yn ei ôl i’r ardal lle y cawsant eu magu.
22 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
DYNGARWCH CORFFORAETHOL
Mae’r Sefydliad yn gweithio’n agos ag ystod o fusnesau sy’n defnyddio’n gwasanaethau i reoli elfennau o’u strategaethau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Defnyddiwn arbenigedd ein tîm grantiau proffesiynol i gynllunio ac i weithredu rhaglenni grantiau sy’n cyd-fynd â gwerthoedd, gweledigaeth ac amcanion marchnata ein cleientiaid. Hyfforddwn a chefnogwn baneli staff, gan ymgorffori adborth gan gwsmeriaid i mewn i gynllunio rhaglenni, ac rydym yn rheoli proses bleidleisio staff ynglŷn â grantiau. Gweithiwn hefyd â chynghreiriaid corfforaethol a phartneriaid ehangach megis Capital Law, Llwybrau Dysgu Cymru, ac ACCA Cymru i rannu arbenigedd ac i gefnogi rolau ehangach ein gilydd. Gwerthfawrogir dylanwad ac arbenigedd y Sefydliad gan ein holl gleientiaid.
GWOBRAU CYMUNEDOL BAGIAU SIOPA ASDA
GWOBR DATBLYGU MENTER GYMDEITHASOL SANTANDER (SEDA)
Eleni, comisiynodd ASDA Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig i reoli’u rhaglen gwobrau cymunedol, gan ddosbarthu grantiau sy’n deillio o’r tâl am fagiau plastig a arloeswyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 ac sydd yn awr ar waith fesul cam ledled y Deyrnas Unedig.
Mae gwobrau SEDA yn cefnogi tyfu mentrau cymdeithasol ac elusennau mentrus sy’n gweithio er budd uniongyrchol eu cymuned. Gweithiodd y Sefydliad â Santander am dros dair blynedd, gan fuddsoddi gwobrau yn amrywio o £5,000 i £50,000 i helpu grwpiau entrepreneuraidd i dyfu’u busnesau cymdeithasol eu hunain ac i gynyddu’u heffaith yn unol ag un o’r canlyniadau targed a ganlyn: gwella cynhwysiant cymdeithasol; cefnogi pobl ddifreintiedig drwy sgiliau, hyfforddiant a gwaith; a chreu amgylchedd gwyrddach. Un o nodweddion eithriadol y rhaglen hon oedd y câi’r enillwyr, yn ychwanegol at y gwobrau ariannol, hefyd fynediad i raglen cymorth busnes gan Santander. Roedd hyn yn cynnwys cael at fodel asesu effeithiau, y cyfle i gael intern yn gweithio am dri mis yn y sefydliad i helpu i weithredu cynlluniau twf mentrus, a chefnogaeth arbenigol gan wasanaeth ymgynghori ar fentrau cymdeithasol. Gydag ymgysylltiad staff Santander lleol, a chyngor busnes a chyllidol gan dîm menter gymdeithasol y Sefydliad, elwodd enillwyr y gwobrau’n enfawr o’r gefnogaeth gofleidiol hon i’w helpu i dyfu.
Gyda £360,000 i’w ddyfarnu i brosiectau cymunedol a weithredir gan wirfoddolwyr sy’n agos at siopau Asda ledled Cymru, mae’r Sefydliad wedi gweithio â’r cleient i gynllunio rhaglen sy’n cynnwys enwebiadau a phenderfyniadau a wneir yn lleol, gyda chwsmeriaid, staff a thrigolion lleol i gyd yn cymryd rhan mewn cydnabod gwaith prosiectau cymunedol gwych.
“Mae arnom eisiau i’r tâl am fagiau siopa gael buddion cymdeithasol - yn ogystal ag amgylcheddol - hirdymor. Drwy weithio â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, mae gennym y cyfle i fuddsoddi’n arloesol yn ein cymunedau lleol, ac mae arnom eisiau i hyn gefnogi prosiectau ac elusennau lleol o fewn milltir sgwâr Asda” Richard Mason, Uwch-reolwr Asda â chyfrifoldeb cymunedol a chorfforaethol
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 23
YMDDIRIEDOLAETHAU
DATGANIAD Y COMISIWN ELUSENNAU
Mae gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ystod o gysylltiadau â nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Mae cleientiaid sy’n ymddiriedolwyr yn cynnwys Elusen Henry Smith, Ymddiriedolaeth Dulverton, Sefydliad y Teulu Ashley a Comic Relief. Mae Sefydliad Esmée Fairbairn wedi cefnogi’n datblygiad, ac mae Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl wedi comisiynu prosiectau penodol.
Mae’r Comisiwn Elusennau yn cydnabod bod gan sefydliadau cymunedol enw da am reoli cronfeydd elusennol mewn ffordd effeithiol, er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu heffaith yn lleol.
Rydym yn barter yr ymddiriedir ynddo, sy’n gweithio â chyd-sefydliadau mewn modd sy’n: • parchu prosesau a gwybodaeth idiosyncratig, gan gydnabod buddiannau ac uchelgeisiau cyffredin • cydnabod penderfyniadau ac arbenigedd pob partner • cynnig ystod o fodelau llunio penderfyniadau – ar hyd y continwwm o ‘wedi’i ddatganoli’n llwyr’ i ‘argymell ar gyfer penderfyniad’ • sicrhau cynllunio rhaglenni ardderchog ac unswydd bwrpasol, ac adrodd ar effeithiau’n flynyddol Gellir comisiynu’n gwasanaethau’n ffurfiol, ond gall ein cyfeillgarwch a’n cydweithrediadau fod yn anffurfiol ac er diben neilltuol. I’n partneriaid sy’n ymddiriedolwyr, rydym yn: cynghreiriad (o ran rhannu gwybodaeth, dangos y ffordd neu reoli ambell grant bychan yn awr ac yn y man); ymgynghorydd (wrth gyflenwi prosiectau a gomisiynwyd i archwilio agendâu neu faterion penodol); asiant rhoi grantiau (rheoli rhaglenni grantiau unswydd bwrpasol yng Nghymru); a stiward. Mae’r rôl olaf hon yn cynnwys gweithio ag ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau elusennol segur, neu’r rheiny lle mae’r drefn lywodraethu a chyfrifoldebau adrodd wedi mynd yn flinderus, dechrau ymddiriedolaeth neu ddirwyn ymddiriedolaethau i ben a chreu Cronfa gan anrhydeddu amcanion dyngarol gwreiddiol y rhoddwr.
Gweithiodd y Comisiwn Elusennau a sefydliadau cymunedol yn agos yn y blynyddoedd diwethaf i sicrhau y gall ymddiriedolwyr sy’n ceisio adfywio cronfeydd ymddiriedolaethau marwaidd (segur) neu aneffeithiol (ac sy’n chwilio am ffordd effeithiol o barhau â’u gwaith da ym mlynyddoedd y dyfodol) ryddhau’u cronfeydd i sefydliad cymunedol fel rhan o’u harfarniad o opsiynau. Mae’r Comisiwn Elusennau’n croesawu ac yn cefnogi’r fenter hon ac mae’n annog pob elusen i ofyn iddynt eu hunain a ddylent weithio â sefydliadau cymunedol fel dewis arall yn lle parhau, yn neilltuol os ydynt yn cytuno ag un neu fwy o’r datganiadau a ganlyn: • • • • • • •
Rydym yn ei chanfod hi’n anodd nodi buddiolwyr Ni allwn wario incwm yr elusen Rydym yn canfod ein hunain yn darparu arian i’r un bobl neu grwpiau bob blwyddyn Rydym yn ei chanfod hi’n anodd denu ymddiriedolwyr Hoffem fod yn gysylltiedig â sut y gwarir yr arian ond does arnom eisiau’r cyfrifoldeb cyfreithiol o fod yn ymddiriedolwr Mae’r gwaith o weinyddu’r elusen a’i buddsoddiad yn dod yn feichus neu’n anghymesur â lefel y cyllid Byddai’n dda gennym petaem yn gwybod mwy am faterion a chyfleoedd lleol a phwy arall oedd yn ariannu beth.
24 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â CHYNGHORWYR PROFFESIYNOL Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn gweithio’n agos ag ystod o gynghorwyr proffesiynol i fodloni amcanion elusennol eu cleientiaid ac i gynnig ystod gyffredinol o roi opsiynau. Mae’r Sefydliad yn cynnig ystod o wasanaethau i gleientiaid preifat sydd â diddordeb mewn sefydlu Cronfa bersonol, gadael cymynrodd neu rodd yn eu hewyllys, neu drosglwyddo’r baich o reoli ymddiriedolaeth elusennol. Cynhaliwn gyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ymysg Cynghorwyr Proffesiynol, yn cynnwys digwyddiadau etifeddiaeth gyda Geldards, ‘Philanthropoly’ gydag ACCA Cymru a KTS Owens Thomas, a sgyrsiau ag ystod o gynghorwyr proffesiynol eraill.
“Mae gan fy nheulu eisoes ei Gronfa ei hun yn y Sefydliad Cymunedol i Gymru sy’n cefnogi prosiectau iechyd corfforol ac iechyd meddwl ledled Cymru. Gan ein bod wedi newid hyn yn ddiweddar i fod yn Gronfa Waddol, rydym wedi ysgrifennu yn awr yn ein hewyllys y bydd 10% o’n hystâd yn cael ei roddi i’r Gronfa hon. Mae gennym yr hyblygrwydd i newid Cytundeb ein Cronfa ar unrhyw adeg ac rydym wedi enwi’n plant fel llunwyr penderfyniadau yn y Gronfa hon fel eu bod yn gallu helpu i ddyfarnu grantiau heb y baich o sefydlu’n hymddiriedolaeth elusennol ein hunain.” Deiliad Cronfa a Enwir a chleient Cymynrodd Etifeddiaeth
DEG RHESWM PAM MAE CYNGHORWYR PROFFESIYNOL YN GWEITHIO Â’R SEFYDLIAD CYMUNEDOL YNG NGHYMRU: 1
Rydym yn wybodus – mae gan ein tîm grantiau proffesiynol a staff ymchwil wybodaeth drwyadl am yr anghenion yng Nghymru.
6
Daliwn gyfrifoldebau ariannol a chyfreithiol ymddiriedolaeth, yn cynnwys y drefn lywodraethu, cyfrifo ac adrodd.
2
Rydym yn hyblyg - mae Cronfa a Enwir yn gweithredu mewn ffordd debyg i ymddiriedolaeth elusennol, gyda chleientiaid yn dewis yr achosion a’r ddaearyddiaeth y maent yn dymuno’u cefnogi gyda’r opsiwn i newid hyn dros amser, pe dymunid.
7
Hwyluswn fodd o roddi’n effeithiol o ran treth - fel elusen gofrestredig, rydym yn gyfrwng delfrydol ar gyfer pob math o roddi’n effeithiol o ran treth. Rydym hefyd yn derbyn rhoddion o stociau a chyfrannau.
3
Rydym yn gyflym ac yn effeithlon – gellir sefydlu Cronfa a Enwir ar ôl un cyfarfod, ac nid oes angen aros sawl mis i gofrestru ymddiriedolaeth elusennol.
8
Rydym yn dryloyw – codwn ffi rheolaeth am ein gwasanaethau. Gweithredwn â chostau craidd isel iawn, sy’n golygu y gellir dosbarthu mwy o arian mewn grantiau i’r gymuned.
4
Rydym yn gwneud rhoddi’n syml - mae’r Sefydliad yn rheoli’r holl broses o roi grantiau, yn cynnwys hysbysebu, asesu, darparu crynodebau o brosiectau i gleientiaid, cyllido gwobrau, a chynnal gwaith monitro.
9
Sicrhawn effeithiolrwydd hirdymor – mae ein cronfeydd gwaddol yn tystio i natur gynaliadwy ein busnes elusennol, ac mae cleientiaid â Chronfa Waddol a Enwir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn awr ac am flynyddoedd i ddod.
5
Mesurwn effaith a gaiff ein gwaith o roddi grantiau – mae pob un o’n cleientiaid yn derbyn adroddiad blynyddol o effeithiau sy’n darparu dadansoddiad manwl o’r grantiau a roddwyd gan eu Cronfa.
10 Rydym yn ddiduedd – cefnogwn ystod gyffredinol o themâu ac ni ffafriwn unrhyw achos neu elusen neilltuol, gan gyllido’r amcanion a’r themâu y mae ein cleientiaid yn dymuno’u cefnogi.
ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015 25
6. EIN DEILIAID CRONFEYDD A CHLEIENTIAID EIN DEILIAID CRONFEYDD UNIGOLION A THEULUOEDD
YMDDIRIEDOLAETHAU A CHRONFEYDD SYLFAEN
Cronfa Daisy Gronfa Waddol Dr Dewi Davies* Cronfa Dory Cronfa Ferndale Cronfa’r Arglwydd Merthyr Martin Groves Adventure & Travel Fund Cronfa Myristica Cronfa Navigation* Cronfa Elusen y Briodas Frenhinol Cronfa Skiathos Cronfa Teulu Sloman Cronfa Ddyngarol Cymru Yn Llundain* The John Andrews Charitable Trust Fund
Cronfa Waddol Gymunedol Ynys Môn Cronfa Waddol Gymunedol Caerdydd Elusen Dinasyddion Caerdydd Ymddiriedolaeth Addysg ar gyfer Dinasyddion Caerdydd Cronfa Ysgolion Sylfaenol Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint Cronfa i Gymru Cronfa Hiraeth/Cronfa Roi Staff Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent Cronfa Relief in Need Penarlâg a’r Fro Cronfa Ddyngarol Micro Fenter Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd Cronfa Waddol Gymunedol Powys Cronfa Sefydliad Powys Cronfa Elusen Ysgol Uwchradd Llandrindod Deddf Eglwys Cymru Powys Cronfa Addysg Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn Cronfa Ymddiriedolaeth Dosbarth Sir Drefaldwyn Cronfa Goffa Stanley Bligh Hen Ysgol Ramadeg y Genethod Aberhonddu Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton Cronfa Waddol Gymunedol Wrecsam
CRONFA I GYMRU Y Gronfa Loteri Fawr Sefydliad Waterloo Sefydliad Moondance Earl of Plymouth Estates Limited
BUSNESAU ASDA Bristol & West The Clarks ‘Giving Back’ Fund Cronfa Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Coventry Melin Tregwynt Gwobrau Datblygu Menter Gymdeithasol Santander Wales & West Utilities
EIN RHANDDEILIAID Sefydliad Esmée Fairbairn Sefydliadau Cymunedol y DU Llywodraeth Cymru Y Gronfa Loteri Fawr
CLEIENTIAID Sefydliad Teulu Ashley Comic Relief Ymddiriedolaeth Dulverton Sefydliad Garfield Weston Elusen Henry Smith Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl Sefydliad Pears Sefydliad Elusennol The Trusthouse Queen’s Trust Spirit of 2012
YMGYRCHOEDD Her Gyfategol Fawr Cronfa i Gymru Goroesi Gaeaf Cymru Cronfa Adennill Llifogydd Cymru
CYLCHOEDD RHOI
Cyllidir gan Sefydliad Pears Cylch Rhoi Mostyn Hall Cylchoedd Rhoi Uchel Siryf Gwynedd Cylchoedd Rhoi Dyngarol Micro Fenter Cylchoedd Rhoi Uchel Siryf Clwyd Cylch Rhoi Peter Neumark * Mae’r cronfeydd yma wedi sbarduno rhoddion mewn i’r Gronfa i Gymru’r Loteri Fawr
26 ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015
7. EIN CYLLIDAU Daw’r wybodaeth hon oddi wrth y Cyfrifon Blynyddol a archwiliwyd yn llawn ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar yr 31ain o Fawrth, 2015. Y diben yw rhoi dealltwriaeth i’r darllenwr o sut mae’r Sefydliad yn galluogi’i broses o roi grantiau - ein prif weithgaredd elusennol. Gellir cael y Cyfrifon Blynyddol llawn (a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar yr 28ain o Fedi, 2015), Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac Adroddiad yr Archwiliwr eu cael oddi wrth swyddfa’r Sefydliad neu oddi ar ein gwefan www.cfiw.org.uk.
CYSYLLTU Sefydliad Cymunedol Cymru Tŷ Sant Andreas 24 Cilgant Sant Andreas Caerdydd CF10 3DD Ffôn: 02920 379580 E-bost: info@cfiw.org.uk Gwefan: www.cfiw.org.uk cfinwales @cfinwales Elusen Gofrestredig: 1074655 Rhif y Cwmni: 03670680
ADNODDAU A DDERBYNNIR £4.628m
ADNODDAU A WARIWYD £2.638m
ARIANWYR CRAIDD £115k
CODI ARIAN £168k
RHODDION £1k
LLYWODRAETHU £61k DATBLYGU
CRAIDD AMRYWIOL £6k
DYNGARWCH £106k GWEINYDDU
FFIOEDD RHEOLI £269k
GRANTIAU £135k ARIAN RHODDWYR AR GYFER BUDDIOLWYR £2.110m
GWEITHGAREDDAU ELUSENNOL
£2.409m
GRANTIAU £2.168m
INCWM GWADDOL AR GYFER BUDDIOLWYR £300k
CYFALAF GWADDOL NEWYDD £1.827m
CRONFWYDD GWADDOL £10.805m
EIDDO £300k
Cyfalaf rhoddwyr ar gyfer incwm grantiau buddiolwyr y dyfodol
BUDDSODDIADAU £10.531m
CRONFEYDD CYFYNGEDIG £1.783m Arian rhoddwyr ar gyfer grantiau buan i fuddiolwyr
ASEDAU CYFREDOL NET £1.780m
CRONFEYDD ANGHYFYNGEDIG £134k Cyfalaf gweithio ar gyfer gweithgareddau craidd yr elusen
CRONFEYDD £12.722m
ASEDAU NET ARALL £111k
ASEDAU NET £12.722m Mantolen ar 31 Mawrth 2015