2 minute read

‘girls night’

Next Article
Food & Drink 41

Food & Drink 41

Bwyd gyda Beca Dalis Williams

Ydy eich ffrindiau yn dod draw? Ydych chi’n ceisio dod o hyd i rywbeth rhwydd i’w wneud ond sydd hefyd yn flasus? Dyma rhai syniadau i blesio eich gwesteion wrth i chi ddod at eich gilydd i wylio ffilm!

Advertisement

Un syniad poblogaidd sydd bob tro yn big hit ydy pan mae bob unigolyn yn gwneud platiaid o bethau gwahanol. Er enghraifft platiaid o losin, platiaid o fwyd Americanaidd, plataiaid o gaws a chracers, platiaid o greision gwahanol hyd yn oed! Mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd!

Rhywbeth arall at ddant pawb ydy nachos, caws a dipiau gwahanol. Mae pawb yn dwlu ar nachos, felly dwi’n siwr bydd eich parti bach chi yn hefyd! Syniad arall ydy aros i bawb i gyrraedd ac yna mynd i’r siop gyda’ch gilydd a dewis eich hoff bwdin. Boed hynny’n fudge cake, browni, hufen ia neu losin!

Beth am ddod o hyd i rysait er mwyn coginio pryd neu pobi cacen? Bydd pawb yn gallu cyd weithio a chael hwyl yn y gegin tra’n gwrando i gerddoriaeth o’ch dewis. Os ydych chi’n gwneud cacen, gallech chi ei addurno hi neu gwneud un ag addurn doniol!

Os ydych chi’n teimlo’n ddiog neu yn dioddef o’r noson gynt, beth am archebu eich hoff bwyd ar UberEats neu ap tebyg? Mae amryw o ddewisiadau yn y ddinas â phob math o fwydydd gwahanol! Byddwch chi byth yn brin o fwyd!

Gobeithio bod hyn wedi eich ysbrydoli i gael eich ffrinidau at ei gilydd a bwyta digon o fwyd blasus. Mwynhewch!

Ffilmiau gyda Millie Stacey

Mae films yn hanfodol ar gyfer noson mewn i ferched, reit? Y cwestiwn ym mle dewch chi o hyd i’r film perffaith? Netflix, Disney Plus, neu o rhywle arall? Mae na canoedd o films, cyfresi a docs i pob math o girls night yn dibynnu ar be sy’n apeilo i chi.

Chick flick: Clueless, About Time, Crazy Stupid Love, Mean Girls, Legally Blonde, Dirty Dancing.

Cyfresi: One Tree Till, Gilmore Girls, Firefly

Lane, Sex and The City, Once Upon a Time.

Drama: The Good Nurse, My Policeman, Let Him Go, Jersey

Hanes: Amsterdam, the Princess, The Trial of the Chicago 7, The Last Duel, Greyhound.

Beth bynnag yw eich ffilm o ddewis, gall merched i gyd cytuno bod ffilm dda gyda’r merched ddatrys ein holl broblemau a’n pryderon!

Coctels gyda Lowri Powell

Mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod i ddangos cariad, felly pam lai dangos eich cariad tuag at eich ffrindiau yn lle? Yn bersonol, y ffordd orau i ddangos cariad i mi yw trwy goctels. Yn enwedig achos mae nhw’n instagramable! Felly, dyma rhai syniadau coctels gallech chi ‘neud gyda’ch ffrindiau ar dydd Sant Ffolant:

Coctels cariadus Coch yw’r lliw mwyaf secsi wrth gwrs. Felly beth am wneud gystadleaeth am y coctel coch gorau? Ife’r ‘Strawberry Daiquiri’, ‘Bloody Mary’ neu’r ‘Sex on the Beach’ sydd mynd i ennill? Pwy a wyr?

Coctels sy’n adlewyrchu eich cyn-gariad

Mae hwn bach yn fwy juicy! Os ydych chi’n berson efo hiwmor tywyll, dyma’r gweithgaredd perffaith i chi! Mae’n amser i ddangos cyfrinachau eich cyn-gariad. Os oeddent yn greulon, beth am greu coctel coch fel diafol? Neu os oeddent yn drewi’n ofnadwy, beth am greu coctel gwyrdd? Bydd hyn yn gallu troi’n naill ai’n ddoniol neu’n od iawn! Ond dim ond bach o hwyl i adio atoch noson yw hi!

Coctels yr un lliw a’ch pyjamas

Hwn yw’r un mwyaf poblogaidd ar TikTok ar hyn o bryd. ydych chi fel fi, does gen i ddim pyjamas ffansi iawn! Felly ewch i Primark i nôl eich pyjamas secsi. Wedyn ewch i nôl eich cynhwysion ar gyfer eich coctel i gyd-fynd efo lliw eich pyjamas. Beth am goctel lemwn efo’ch pyjamas melyn neu ‘mojito’ efo’ch pyjamas gwyrdd?

Mae gymaint o ffyrdd i sbeisio fynny eich noson efo’r merched, efallai noson coctels yw’r un i chi!

This article is from: