4 minute read

yn gymraeg? sut mae’n teimlo i fod

Next Article
‘girls night’

‘girls night’

Gan Elan Jones

Fel Cymraes frwd sy’n astudio y Gymraeg fel pwnc yn y brifysgol, mae bod yn Gymraeg nid yn unig yn ran annatod o fy mywyd bob dydd ond llwydda’r Gymraeg i ddod â balchder i fy mywyd i ac mae cael fy amgylchynu â phobl sy’n rhannu’r un diwylliant a chredoau â mi yn rhoi gwên ar fy ngwyneb i yn ddyddiol.

Advertisement

Yn bendant, teimlaf fel Cymraes falch pan rwy’n gwisgo crys coch Cymru ac yn cefnogi’r tîm cenedlaethol ar y maes chwaraeon. Mae ymuno i ganu ein hanthem Genedlaethol yn danfon ias i lawr fy nghefn ac yn rhoi’r ymdeimlad fy mod yn perthyn i genedl arbennig tu hwnt. Heb os, mae canu yn yr iaith Gymraeg a bod yn aelod o gôr yn rhoi gwefr imi ac yn gwneud imi deimlo fy mod yn falch iawn i fod yn Gymraeg.

Mae gen i hoffder mawr tuag at draddodiadau’r wlad sy’n unigryw i ni fel cenedl megis Eisteddfodau, Dydd Gŵyl Dewi a chanu calennig. Yn sicr, mae chwedlau’r wlad hefyd yn hudolus ac yn mynd âm bryd, a darllen am Bendigeidfran a Blodeuwedd yn dod â mwynhad pur imi.

Mae gennym iaith unigryw a does dim yn well gennyf na bod ar wyliau mewn gwlad ddieithr a medru sgwrsio gyda fy nheulu heb i neb arall fedru deall. Yn ogystal, rwy’n hoffi pan fydd rhywun yn gofyn pa iaith rwy’n siarad gan fod hyn yn rhoi cyfle imi roi ychydig o hanes iddynt.

Does unman yn debyg i Gymru a does dim teimlad gwell na bod yn Gymraeg. Mae cael ymuno mewn unrhyw weithgaredd Torfol yn gwneud imi ymfalchio yn fy nghenedlaetholdeb ac yn fy atgoffa yn wir mai ‘cenedl heb iaith yw cenedl heb galon’.

Gan Caitlin Evans

Fel Cymraes, mae’r gwreiddiau sy’n fy nghlymu at fy mamwlad yma o hyd. Yn ystod fy mywyd, rwyf wedi cael nifer o brofiadau sydd wedi mynd a fi ymhellach i ffwrdd o Gymru yn gorfforol, ond mae’r cariad at y wlad wastad yna. Does dim byd arall yn y byd yn cymharu at y teimlad o gyrraedd nol yng Nghymru ar ôl bod i ffwrdd am gyfnod o amser. Mae’r caeau gwyrdd, y ffyrdd troellog a’r tywydd glawiog yn fy nghroesawu’n ôl gyda breichiau agored bob tro.

Wrth dyfu i fyny yng Nghymru, roedd yna lawer o eiliadau a wnaeth i mi deimlo’n arbennig o falch o ble rydw i’n dod. Fel ‘Gwlad y Gan’, ychydig iawn sy’n cymharu at ein cerddoriaeth, a gallwn weld ei bwysigrwydd yn enwedig ar y funud, gyda ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan yn dod yn anthem Cymru yng Nghwpan y Byd yn Quatar. Mae’n anhygoel gweld cynrychiolaeth Gymreig trwy gerddoriaeth ar lwyfan y byd, a gallwn weld hyd yn oed trwy’r teledu y pŵer mae’r can yn dal, a sut mae’n dod a holl gefnogwyr Cymru at ei gilydd. Yn yr un modd, does dim profiad cystal â chanu ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ yn Stadiwm Principality cyn gwylio ein tîm yn ein cynrychioli yn y rygbi. O fod yn aelod o’r côr yn ysgol a chanu yn yr Eisteddfod, i sgrechian Calon Lan yn y tafarn gyda fy ffrindiau, mae cerddoriaeth Cymraeg gwastad yn dod a mi yn syth adref.

Gan Lowri Davies

Fel bob hunaniaeth genedlaethol dwi’n siŵr, mae’n deimlad o berthyn i gymuned.

Ond i mi mae bod yn Gymraes yn fwy nag teimlad o berthyn i gymuned. Mae Cymru yn lle o hanes, diwylliannau ac ieithoedd, ac mae’r teimlad o fod yn Gymraes yn deimlad. ni all neb gyfateb i.

Does unman yn hybu teimlad o fod yn Gymraes cweit fel ddiwrnod rygbi yng Nghaerdydd. Oes ma na phethau sy’n dod yn agos yn amlwg, gwario ein gwyliau haf yn treulio amser yn Eisteddfod genedlaethol yn gwylio perfformiadau talentog unigolion neu ym MaesB yn gwrando ar yr holl gantorion a bandiau Cymraeg neu hyd yn oed yn treulio amser yn Sioe Frenhinol Cymru, Ynghyd a’r pedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau anifeiliaid, mae gan y sioe rhywbeth i ddiddori pawb trwy ei hystod eang o weithgareddau amaethyddol, crefftau, chwaraeon, bwyd ac yn y blaen.

Er hyn, yn bersonol does ddim teimlad yn cyfateb i deimlaf o fod yng Nghaerdydd ar ddiwrnod gem rygbi chwe gwlad neu’r gemau rhyngwladol. Mae clywed torf Cymraeg yn bloeddio’r anthem genedlaethol angerddol, emosiynol a llawn adrenalin, Hen Wlad Fy Nhadau ond yn cryfhau ein teimlad o hunaniaeth. Mae’r teimlad o gerdded i lawr stryd St Mary yn gweld torf o bobl yn gwisgo crysau coch, yn chwifio’i baneri Cymraeg ond yn fy atgoffa pa mor glos ydyn ni fel cymuned yn enwedig pan mae’n dod i gefnogi ein gwlad.

The love of an older sister. The sister who taught you to write your name, the sister who taught you to tie your hair, and tie your shoelaces, the sister who showed the rights and the wrongs of life through her own mistakes. She’s been my big sister since she was 7, maybe it’s all she knows. She worries, she cares, and she’ll always be there. I’ll always want her there, right next to me.

Amrit Bains

Flames crackling, rosy cheeks and sunburnt skin. Salty, windswept hair and limbs dizzying with electricity and exhaustion all at once. Warm hugs and laughter and the smell of burgers browning on the barbecue. The sun setting softly and a cool breeze brushing through leafy trees. Tired eyes with easy smiles and blankets to shelter the evening cold. Talks of tomorrow’s plans and surfing and picnics. The assurance of comfy beds and a good night’s sleep.

Ella Dorman

We asked our contributors what love feels like to them, raising the age-old question; what is love?

When you look at your family, friends and importantly YOURSELF, love is an ethereal string that passionately unites us together. Within the very vibrance of culture and beauty in life is a unique and unprecedented amount of love that holds itself in the strangest of forms. It’s the stranger who holds a door open for you, the barista who wishes you a good day, or the housemate who offers you a cup of tea and a chat. Love is all you need.

Alanya Smith

In any form, love is a feeling of comfort, a sense of warmth and safety. Nothing challenges this more than being apart, but at the same time nothing makes it stronger. When a hug after a hard day isn’t there, but the thought of them alone comforts you. When you can sit alone in your room, an ocean apart, but still feel the connection. A love that transcends the distance; that’s two hearts bound together.

Caitlin Evans

Page Design: Constance Cua

Last year I stumbled upon a new and unexpected love - full of excitement, the kind of love that could drive you crazy while making every second of life more beautiful. It was my first experience of true desire and complete longing, terrifying yet exciting, dangerous yet somehow so safe. Today, he is the best decision I’ve made - my best friend, my life partner, an embrace when things are tough. Simply, the love of my life.

Wiktoria Jazwinska

This article is from: