Llais Ardudwy Ebrill 2022

Page 1

LLWYDDIANTTRIATHLONHARLECH

Mae Triathlon Harlech yn un o’r rasys mwyaf poblogaidd ar y calendr ac erbyn hyn yn llwyddo i ddenu cannoedd o gystadleuwyr i’r dref. Gan gofio fod gan lawer o’r cystadleuwyr deulu efo nhw, mi welwch ei fod hefyd yn hwb mawr i dwristiaeth yn yr ardal. Dywed Linda Soar, ysgrifennydd y Neuadd Goffa, fod y tîm o wirfoddolwyr lleol eleni wedi paratoi 1200 tafell o facwn er mwyn cynnig rhôl i bawb oedd yn cystadlu. Roedd nifer fawr wedi cofrestru yn ras y Stryd Mwyaf Serth ar y nos Sadwrn. Roedd oddeutu 120 yn cystadlu yn y ddeuathlon ben bore Sul a rhyw 270 yn y triathlon ar ddydd Sul, Mawrth 27. Roedd 120 o bobl leol wedi gwirfoddoli i helpu ar y diwrnod - dyna arwydd o galon y gymuned yn Harlech a’r cyffiniau. Mae’n enghraifft wych o ddigwyddiad cymunedol lle mae llawer yn gweithio er lles y dref. Aiff yr elw o’r Triathlon at gefnogi prosiectau lleol fel Clwb Triathlon Harlech, Cynghorau Cymunedol lleol, timau Achub Mynydd lleol a llawer mwy o brosiectau cymunedol. Aim 519 EBRILL

Llun:Always

202270c

High Events Llun: Always Aim High Events Llais Ardudwy RHIF

-

Ffair wirfoddoli Yr Ysgwrn

TRAETH LLANDANWG Y gorau yng Ngwledydd Prydain!

Mae traeth Llandanwg wedi ei enwi fel y traeth gorau yn y wlad, yn ôl arbenigwyr gwyliau. Yn y blynyddoedd diweddar, yn enwedig yn dilyn y cyfnodau clo a’r ffaith nad oedd pobl yn gallu teithio dramor, gwelwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o bobl sydd wedi ymweld â’r ardal hon ac, o ganlyniad, wedi prynu tai haf yma. I benderfynu ar y traethau gorau, edrychodd y cwmni gwyliau HomeToGo ar leoliadau sy’n cynnig ansawdd da a gwerth eich pres, eu graddio gan gyn-ymwelwyr, a graddfa dŵr môr yn dda neu’n ardderchog.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 29 a bydd ar werth ar Mai 5. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Ebrill 25 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635 2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960 3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716 2 Cynhelir ffair wirfoddoli ddydd Sadwrn, Ebrill 9 rhwng 10.00 ac 1.00pm. Ar y diwrnod bydd cyfle i glywed gan wirfoddolwr a staff presennol, i gael blas o daith o amgylch y ffermdy a bydd cyfle am sgwrs dros baned a chacen. Rydym yn chwilio am bobl i’n helpu i: helpu gyda digwyddiadau ar y safle groesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn dywys ymwelwyr o amgylch y ffermdy helpu yn yr ardd lanhau’r adeiladau gynnal a chadw’r llwybrau gyflawni gwaith cadwraeth ymchwilio i hanes yr Ysgwrn. Am fwy o fanylion, e-bostiwch yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd - yn chwilio am wirfoddolwyr!

HOLI HWN A’R LLALL 3 Enw: Danial Owen. Gwaith: Myfyriwr PhD. Cefndir: Cefais fy ngeni ym Mangor a byw yn Ael y Glyn, Harlech ers hynny. Yn 2015, symudais i Lerpwl i astudio daearyddiaeth - dw i byth wedi gorffen! Erbyn hyn, rwyf yn byw yng Nghaer gyda fy nghariad, Liv. Mae’r ddau ohonom ni’n gwneud PhD mewn Gwyddoniaeth Data Daearyddol (Geographic Data Science), ac i fod i orffen blwyddyn nesa. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff ac yn rhedeg a seiclo yn weddol aml oherwydd dwi’n paratoi ar gyfer Triathlon Harlech! Pan dw i adra, mi wna i fynd i gerdded dipyn hefo’r teulu a chwarae golff. Dydi’r sesiwn ar ôl y golff ddim cweit mor iach, yn enwedig ar ôl chwarae gyda Siôn Rees a Neal Parry! Beth ydych chi’n ei ddarllen? Dw i’n tueddu i ddarllen llyfr ffeithiol a ffuglen ar yr un pryd fel na fydd unrhyw lyfr yn mynd yn ddiflas. Dw i newydd orffen darllen llyfr Sam Warburton, Openside. Roedd yr hanes am drip y Llewod i Awstralia yn ddiddorol iawn, yn enwedig oherwydd fod Dad yna ar y pryd! Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Seiclo: Le Tour de France. Hefyd, o dan ddylanwad fy chwaer, dwi wedi dechrau hoffi Love is Blind ar Netflix. Ydych chi’n bwyta’n dda? Yn weddol dda, yn enwedig ar ôl symud i fewn hefo fy nghariad. Dydi Liv ddim yn bwyta cig felly dan ni’n weddol ofalus gyda be dan ni’n ei fwyta, heblaw am daith bron bob wythnos i McDonalds. Hoff fwyd?

Cyri, yn enwedig cyri o Glwb Gwynfa yn Llandanwg! Hoff ddiod? Nid San Miguel (fel mae rhai yn ei wybod)! Fy hoff ddiod oedd llaeth. Dwi wedi yfed gymaint o laeth, dw i wedi datblygu anoddefgarwch! Felly, am rŵan, wna i aros gyda dŵr. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Ar ôl iddo brynu clwb pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney, er dwi’n siŵr mi fysa fo’n gwrthod dod draw i Gaer! Dwi’n hoff iawn o Rob McElhenney o’i sioe teledu Always Sunny in Philadelphia. Wrach bysa fo’n bosib i Rob ddod a Danny DeVito gyda fo! Lle sydd orau gennych? Unrhyw le yn y mynyddoedd. Pan fydda i adra, mi fyddaf i’n mynd yn weddol aml un ai i Foel Senigl neu i’r Rhinogydd. Wnes i fy nhraethawd hir yn edrych ar rewlifoedd yn y Rhinogydd, felly, dwi wedi treulio tipyn o amser yna. Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Gobeithio wna i ddim pechu hefo Mam am ddeud hyn, ond dwi’n meddwl mai taith i Slofenia a Croatia am bythefnos gyda’r cariad yn 2018. Yr uchafbwyntiau oedd mynd i Llyn Bled yn Slofenia a gwylio gêm cwpan y byd mewn ‘fanzone’ yng nghanol Split, Croatia. Yr isafbwynt oedd gwrthod talu 10c i fynd i’r toiled yng ngorsaf bws Zagreb cyn trafeilio am 6 awr i Split heb doiled… Beth sy’n eich gwylltio? Bod yn hwyr i lefydd. Dw i wedi cymryd ar ôl teulu ochr Mam a Dad gyda hwn. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Rhywun dibynadwy ac sydd ddim yn canslo planiau ar y funud olaf. Pwy yw eich arwr? Chwaraewyr enwog oeddwn i’n ei edmygu pan oeddwn i’n fach oedd Shane Williams (rygbi Cymru) a Tim Cahill (Everton). Rhywun sydd wedi cael dylanwad fawr ar fy mywyd yw cyn-athro daearyddiaeth yn Ysgol Ardudwy, Matthew Roberts. Yn syml, mae Matthew yn berson gwyllt. Mae o wedi trafeilio gyda’r nomads yn Mongolia, wedi gosod record ar sialens Paddy Buckley (rhedeg dros 47 copa dros 100km yn Eryri), a fo ddywedodd wrthaf i, os ti heb daflu i fyny ar ôl râs, ti heb drio digon caled! Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal hon? Mae yna lawer o bobl dwi’n edmygu sydd wedi fy helpu, megis cyn-athrawon fel Bev Smith, gwirfoddolwyr/rheolwyr clwbiau chwaraeon Harlech fel Dev John a John Barnett. Dw i’n edmygu Freya Bentham, yn enwedig, oherwydd beth mae hi wedi ei wneud i Harlech a hi oedd fy rheolwr cyntaf i. Ers i fi ddechrau golchi llestri yn y Llew Glas flynyddoedd yn ôl, mae Freya wedi agor ail gaffi wrth fynediad Castell Harlech. Beth yw eich bai mwyaf? Dw i ddim yn gallu gwneud penderfyniadau sydyn a dw i’n aml yn chwarae lawr popeth rwyf yn ei wneud. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod allan yn yr awyr iach gyda fy nheulu neu ffrindiau – unrhyw beth i wneud gyda chwaraeon neu gyda phêl. Dyna un o’r pethau dw i’n ei fethu’n fwyaf ers symud i ffwrdd ydi chwarae pêl-droed i dîm pêl-droed Harlech – heblaw am orfod cael gwared o’r bryniau o dyrchod daear ar fora dydd Sadwrn. Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Ei arbed - os byswn i’n ennill y loteri! Yn ôl rhai, mae hyn yn ddiflas, felly mi fyswn i’n ei ddefnyddio i fynd i deithio yn Ewrop am ’chydig o fisoedd. Mae yna gymaint o wledydd a diwylliannau difyr yna. Eich hoff liw a pham? Glas yn anffodus oherwydd fy mod yn cefnogi Everton. Efallai ei bod hi’n amser newid… Eich hoff flodyn a pham? Buddleia, oherwydd y gwenyn a’r pryfaid eraill mae o yn eu denu. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Wna i wrando ar lawer o wahanol fathau o gerddoriaeth. Ar hyn o bryd, dw i’n gwarando ar albwm newydd Wolf Alice, Blue Weekend Pa dalent hoffech chi ei chael? Chwarae rygbi. Gallaf frifo pobl yn ddamweiniol wrth chwarae rygbi, ond, does gen i ddim gobaith o daclo neb! Eich hoff ddywediadau? Fel mae Dad o hyd yn ddweud, ‘fail to prepare, prepare to fail’ – dyna pam dwi’n casau bod yn hwyr. Un arall ydi ‘lle i enaid gael llonydd’. Glywais i hwn ar y teledu ar raglen Iolo Williams. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Myfyriwr PhD sy’n byw yng Nghaer ond yn mwynhau dychwelyd adra pan yn bosib. Unigolyn sy’n mwynhau cwmni ffrindiau a’r awyr iach.

Ymarfer yn Llanbedr ar nos Sul am 7.30 Achau Er cof am ewythr arbennig - Evie Morgan Jones. Nid terfyn ydoedd clawdd dy filltir gron, i ti roedd gwerth ar bob rhyw garreg fach, a gallet osod llinach hwn a hon, gan ddirwyn hyd y clawdd i’r seithfed ach. ‘Pwy fu yn trwsio waliau ar Foel Wen?’ ‘Roedd, honno, wyddost ti, yn geifn i’th daid!’ A ninnau’n gwenu wedyn, ysgwyd pen, ni fedren gofio’r oll am nad oedd raid. Pan ddeuai dwylo newydd at y clawdd gan geisio gosod carreg yn eu tro, ‘Fan hyn mae’n perthyn?’ Roeddet ti a’th nawdd i ni yn garreg sail, yn bwyth yn glo. Heddiw mae niwl y topia’n cuddio’r tir, Ond fory, bydd y clawdd i’w weld yn glir.

Cynllun Siarad Babi dwmdwms bow-wowbeibeispi-po www.meithrin.cymru/siaradbabiPaeiriau‘dychchi’nddefnyddiowrthsiaradbabi?‘Dynnieisiaueuclywedigyd! mw-mw

Mae aelodau Côr Meibion Ardudwy wedi ailddechrau ymarferion ers y toriad ym mis Mawrth 2020. Mae gan y Côr nifer o gyngherddau ar y gorwel cyn bo hir, ynghyd â thaith i Huchenfeld yn yr Almaen wedi ei addo yn hydref 2023. Mae’n amser delfrydol i wahodd aelodau newydd i’n plith gan fod pawb yn cychwyn ar yr un dudalen fel petai. Os ydych yn medru canu, cofiwch y buasem yn falch o’ch gweld yn y Ganolfan yn Llanbedr ar nos Sul am 7.30. Gallwn sicrhau croeso cynnes, paned a sgwrs, digon o hwyl a difyrrwch a chyfle i deithio i wledydd tramor yn achlysurol.

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN ADIWRNODNANTCOLOHWYLYNLLANBEDRARYCAEPÊLDROEDDyddSadwrn,Mai21,9.00tan3.009.00-11.00Pêl-droedplant11.00Pêl-droedoedolionStondinauamrywiolRhagorofanylionmisnesaf

Côr Meibion Ardudwy

Haf Llewelyn Dyma soned a ddarlledwyd ar Talwrn y Beirdd, Radio Cymru, nos Sul, Mawrth 27. Bu Haf yn fuddogol arni trwy sgorio 10 marc a chael canmoliaeth uchel iawn. Mae Haf yn aelod o Dîm Penllyn. Ry’n ni, ar y cyd â’r gyda(neuchi’ncasglu’rCenedlaethol,DysguGanolfanCymraegeisiaueirfary’cheiddefnyddiowedieudefnyddio)babanodeichteulu chi. Ry’n ni am gasglu’r geiriau er mwyn eu rhannu gyda siaradwyr Cymraeg newydd er mwyn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn y ffordd fwyaf naturiol posib gyda’u plant o’r cychwyn cyntaf un.

5 Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y cymru/papurau-bro/neullaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.https://bro.360. Llais Ardudwy SAMARIAIDLLINELLGYMRAEG08081640123 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG Codi pris Llais Ardudwy O fis Mai ymlaen, fel y rhan fwyaf o bapurau bro, bydd y papur hwn yn costio £1. Rydym wedi cadw’r pris cyn ised â phosib am gyfnod hir ond erbyn hyn, gyda chostau popeth ar i fyny, nid oes gennym ddewis ond codi’r pris.

*cynnwys:Pamor bwysig ydy’r gallu i siarad Cymraeg gyda gofalwyr, ffrindiau ac *ymwelwyr?Sutmae’n

6 LLANFAIR A LLANDANWG

Hoffai Angharad ddeall profiadau pobl ac wedyn datblygu canllawiau i’w defnyddio yn y sector cartrefi gofal. Mae gan Angharad diddordeb mewn siarad â siaradwyr Cymraeg dros 50 mlwydd oed, sy’n byw mewn cartref gofal yng Nghymru. Os hoffech wybod mwy, ewch i www.hiraethcymru.com neu cysylltwch ag Angharad trwy hiraethcymru@gmail.com, neu ar 07468 985861.

Byw mewn cartref gofal?

Os felly, a fyddai gennych ddiddordeb mewn prosiect ymchwil i edrych ar brofiadau siaradwyr Cymraeg hŷn sy’n byw mewn gofal?

Swyddogion Merched y Wawr Harlech a Llanfair yn torri’r gacen i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r gangen. Eirlys Williams, Llywydd; Bronwen Williams, Is-lywydd; Ann Evans, Trysorydd; a Janet Mostert, Ysgrifennydd. MrDiolchHowell Eric Jones Bu farw Chwefror 6, 2022 yn 96 oed. Dymuna’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd ganddynt yn eu profedigaeth o golli tad, taid, hen daid a thad yng nghyfraith ffeind ac annwyl Diolchiawn. i staff nyrsio Plas Gwyn, Pentrefelin am eu gofal dros y dair blynedd ddiwethaf, diolch i Dylan o gwmni Pritchard a Griffths, Tremadog am y trefniadau trylwyr. Diolch hefyd i Gwen am gynnal y gwasanaeth ac am ddarllen y deyrnged mor hyfryd. Diolch hefyd i Iwan Morus Lewis yr organydd. Diolch hefyd am y rhoddion ariannol er cof am Mr Eric Jones oedd yn mynd at Gronfa’r Nyrsus ym Mhlas Gwyn. Gyda llawer o ddiolch, Meic Jones a Mair Wyn Jones. Rhodd £30 eleni yn lle mis Mai. Cytunwyd i hyn. Cafwyd gwybod gan Dylan Hughes y bydd cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan yr uchod yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Harlech, nos Iau yr 17eg o’r mis hwn. Hefyd, cafwyd gwybod bod trafferthion hefo’r pwll gan fod un o’r gwresogwyr wedi torri, hefyd bod y ‘roller’ sydd ar draws wyneb y dŵr wedi torri, ac oherwydd hyn nid yw’n bosib agor y pwll i’r cyhoedd ar hyn o bryd, er eu bod yn gobeithio ailagor adeg y Pasg. Bydd Treiathlon Harlech yn cael ei chynnal yno ar y 27ain o’r mis hwn, hefyd bydd cwrs Achubwyr Bywyd yn cael ei gynnal ddechrau mis Ebrill.

CEISIADAU CYNLLUNIO Gosod ffliw allanol ar adeilad cwrtil i adeilad rhestredig - Y Bwthyn, Tŷ Mawr, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel byngalo a garej presennol ac adeiladu byngalo dormer deulawr newydd a garej ar wahân - Hafod, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn. Newidiadau ac amnewid balconi ffrynt - ‘West Ridge’, 11 Stad Fronhill, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Ambiwlans Awyr Cymru - £250 CFfI Meirionnydd - £50 HamddenGOHEBIAETHHarlech ac Ardudwy Derbyniwyd llythyr yn gofyn yn ffurfiol a fyddai’r Cyngor yn cytuno i ryddhau y taliad cyntaf o’r cynllun presept mis Ebrill

Ydych chi yn siarad Cymraeg ac yn byw mewn cartref gofal yng Nghymru?

CYMUNEDCYNGORLLANFAIR

Mae Angharad Higgins, myfyrwraig PhD yng Nghanolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe, yn ymchwilio i sut mae iaith a diwylliant yn effeithio ar bobl sy’n byw mewn gofal. Mi fydd yr ymchwil yn edrych ar faterion yn

teimlo os yw cyfleoedd i siarad Cymraeg yn gyfyngedig?

Mr Chris Nuttall Gofynnwyd a fyddai hi’n bosib gosod mainc ar Y Maes, Llandanwg er cof am ei rieni oherwydd eu bod wedi arfer dod i Landanwg ar eu gwyliau am sawl blwyddyn. Os yw’n dymuno gosod mainc yn rhywle yn y maes parcio, bydd yn rhaid iddo gysylltu gyda Chyngor Gwynedd fel perchnogion y safle, ac os yw eisiau gosod mainc ar dir Y Maes bydd yn rhaid iddo gysylltu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel perchnogion y tir.

* Sut brofiad oedd bod yn siaradwr Cymraeg mewn cartref gofal yn ystod y pandemig Covid-19?

Dull Malu’r bisgedi sunsur yn fân, toddi’r menyn, yna ychwanegwch y bisgedi iddo a’i gymysgu. Rhowch ar waelod eich dysgl fflan a phwyswch i lawr, yna ei roi yn yr oergell i oeri am tua hanner awr. Rhowch y sudd lemwn, llaeth tew a’r hufen mewn dysgl gymysgedd a’i chwipio nes y bydd wedi tewychu neu Tywalltwchddyblu. y gymysgedd i’r ddysgl fflan, ei lefelu, yna ei roi yn yr oergell. I addurno, peipiwch ychydig o hufen gyda thiwb blodyn a chroen y lemwn wedi ei gratio. Mae y rysáit yma’n gwneud digon i 12 unigolyn, ond mae’n bosib ei haneru wrth ddefnyddio 1 tun 196g o laeth Mae’rtew. pwdin yma’n ysgafn ac yn flasus, ac mae y cyfuniad o’r lemwn a’r sunsur yn dda iawn. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau! Rhian Mair, Tyddyn Gwynt gynt.

Rysáit 5 owns o fenyn 12 owns o fisgedi sunsur 5 owns hylif o sudd lemwn (tua 4 1lemwn)tun397g o laeth tew (‘condensed’) ½ peint o hufen dwbl.

7 PRIODI YN Y GAMBIA

GEGINYGEFN

Fflan lemwn

Dywedodd y cyhoeddwyr fod enwau lleoedd o bob math o dan fygythiad ac yn diflannu’n gyflym iawn. Maen nhw’n gobeithio y bydd y gyfrol hon, ynghyd â gwaith gan sefydliadau fel Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yn gofnod ar gyfer y dyfodol, gan ailgyflwyno enwau anghofiedig ac ysbrydoli astudiaethau tebyg ledled Cymru. Mae Cerdded y Caeau gan Rhian Parry ar werth nawr (£19.99, Y Lolfa).

Cerdded y Caeau Bydd yr ystyron cudd y tu ôl i enwau caeau Cymru yn cael eu datgelu mewn llyfr newydd a gyhoeddir y mis Roeddhwn.Cerdded y Caeau Rhian Parry yn ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd yng Nghymru, meddai’r cyhoeddwyr. Mae’r gyfrol clawr caled, gyda lluniau a mapiau, yn benllanw oes o waith yn astudio enwau lleoedd yn ardal Ardudwy, ond mae’n cynnig patrwm i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am enwau caeau yn eu hardal eu Datblygwydhunain.ygyfrol yn dilyn ymchwil ddoethurol yr awdur ac mae’n datgelu sut y gall yr ystyr y tu ôl i enwau lleoedd, ffermydd a

Llongyfarchiadau i Liz Stringer a Sidat Sanneh ar eu priodas yn y Gambia ar ddydd Gŵyl Ddewi. Mae pawb yn adnabod Liz fel un o staff caffi’r pwll nofio yn Harlech. Pob dymuniad da i’r ddau yn y dyfodol.

Dangosoddgyfan. canlyniadau ymchwil Rhian Parry fod y rhan fwyaf o enwau ffermydd a chaeau yn hynafol iawn, hyd at chwe chanrif a mwy. “Dim ond drwy gerdded y caeau y gallwn sylwi ar nodweddion y tir a sylweddoli bod yr enwau a ddewisir yn gwbl briodol,” meddai’r awdur Rhian Parry. “Mae enw yn fwy na label. Mae rhai enwau hynafol yn anfon ias i lawr fy asgwrn cefn, teimlad tebyg iawn i’m cyfarfyddiad â lleoliadau trawiadol yn ucheldiroedd Ardudwy.”

chaeau ddwyn ynghyd dirwedd, hanes lleol a diwylliant Cymru

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8 CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDA Mwynhau crempogau yng Nghylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn. Mmm! Diwrnod y Llyfr yng Nghylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi tŷ deulawr ar wahân - Bedw Arian, Tal-y-bont . Cefnogi’r cais hwn. Ailwampio a throsi ystafell aros yn y caffi a gosod 6 ffenestr to - Station House, Dyffryn Ardudwy. Mae’r aelodau yn bryderus nad oes safle parcio ger y datblygiad, ac yn awgrymu y dylai panel ymweld pwyllgor cynllunio’r Parc Cenedlaethol ddod i’r safle er mwyn gweld y sefyllfa parcio sy’n bodoli. Codi estyniad cefn unllawr - Bwlch Cae, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. MATERION YN CODI Agor Tendrau Torri Gwair Dyfarnwyd tendrau 1, 2 a 3. Bydd Mr Gareth John Williams yn torri a chlirio’r gwair o amgylch y toiledau yn Nhal-ybont ac hefyd i dorri a chlirio’r gwair ym Mharc Morlo ac i dorri a chlirio’r gwair yng Ngardd Pen-y-bont Parc Chwarae Pentre Uchaf Mae’r sleid newydd wedi ei gosod. ParcGOHEBIAETHCenedlaethol Eryri Mae’r swyddogion yn ymchwilio i’r carafanau statig yn Bryn Bwyd. Cais am gymorth ariannol CFfI Meirionnydd - £500. UNRHYW FATER ARALL Cytunwyd i brynu baner yr Wcrain a’i chwifio ger y neuadd. Anfonir llythyr at Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i ofyn iddo wneud ei orau i atal lladd pobl yn Wcrain gan filwyr Rwsia. Dydd Gweddi’r Byd Cynhaliwyd Dydd Gweddi’r Byd yn Festri Horeb bnawn Gwener, 4 Mawrth. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan ferched Cristnogol Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd nifer dda yn bresennol a chafwyd cyfarfod arbennig iawn. Diolch yn fawr i bawb am gymryd rhan eto eleni. Gwnaed casgliad o £90. Llongyfarchiadau fil i Albert a Susan Groom, Derwen, ar ddathlu eu priodas ddiemwnt. yn ddiweddar. PRIODAS DDIEMWNT

24

Diolch Dymuna

Cyhoeddiadau’r

Diolch

phen-blwydd

Dosbarth Ysgol Sul yn Horeb Rhes gefn o’r chwith i’r dde: Mrs Morris, Pentre Canol, ?, ?

Diolch

Rhes ôl o’r chwith i’r dde: Jean Jones (Sarnfaen), Margaret (chwaer Joan Williams), Blodwen (Francis), Catrin (Pugh), Luned (Pugh), Rhes flaen o’r chwith i’r dde: Haf Jones (chwaer Gwenan), Miss Griffith, Jane (Llanddwywe), a Mai (Siopwen). Roedd 6 ohonynt ym mharti cerdd dant buddugol O T Morris yn ogystal.

Am

Mrschwith:Maggie Griffith, Bryn Ifor Mrs Nansi Ellis, Horeb Terrace Miss Cassie Jones, Tŷ Capel Horeb Mrs Mary Pugh, Penrhiw Miss Dilys Jones, Perthi Miss Olwen Thomas, Faeldre Mr O T Morris, Pentre Canol Pwy yw’r bachgen ifanc ar y chwith tybed? Sul, Horeb 10.00 nodir yn wahanol Lewis 17 Parch Olwen Williams Esyllt Maelor Parch Iwan Ll Jones, 5.30 Mrs Iris Pugh, Llwyn, Tal-y-bont, ddiolch o galon am y cardiau, anrhegion, galwadau ffôn a’r da a dderbyniodd ar ei yn 90. yn fawr. a rhodd £10

EBRILL 10 Elfed

Rhes flaen: ?, Mrs Williams, Caerffynnon, Mrs Winnie Jones (mam Mrs Gwenfron Wynne), a’r Parch John Williams. Gwledda Tybed ai sosial yn Festri Horeb i ddiweddu tymor y gymdeithas oedd yr Ynachlysur?wynebu’r camera o’r dde i’r

MAI 1

Gwneud yn fawr o’r dyddiau gwlyb yng Nghylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn.Pen-blwydd arbennig Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Iris Pugh, Llwyn, Tal-ybont sy’n 90 ar 8 Mawrth. Parti canu Miss Anita Griffith a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Treorci.

9 Hen luniau o’r ardal

oni

dymuniadau

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN 10 *MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau *GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.comCapel Newydd EBRILL 3 - Dewi Tudur 10 - Dewi Tudur 17 - Dewi Tudur 24 - Gruffudd Davies MAI 1 - Dewi Tudur 8 - Rhodri Glyn Mae’r oedfaon yma ar nos Sul am 6.00 ac mae croeso i bawb. Ewch i’n safle we capelnewydd.org am fwy o wybodaeth. Eglwysgyda’rEbrillGwasanaethLlanfihangel-y-traethauSulyPasg17,am11.30CanonBethBailey Croeso cynnes i bawb! Colli aelod Yn Ysbyty Alltwen ar 11 Mawrth, yn 90 oed, bu farw Mrs Dawn Owen, aelod hynaf Cangen Merched y Wawr Talsarnau, ac un a fu’n ffyddlon ac ymroddgar i’r gangen am flynyddoedd lawer. Bu’n byw yn Llandecwyn am gyfnod hir, ac er iddi symud i fyw i Borthmadog bron i bum mlynedd yn ôl, parhaodd i fod yn aelod gyda ni yn Nhalsarnau. Bu iddi ddioddef anhwylder garw yn ystod ei misoedd diwethaf a olygai iddi ddibynnu ar beiriant anadlu yn gyson, ddydd a nos, ond cafodd gyfle i ymuno â ni am ginio ym Mwyty Pant Du, Penygroes mor ddiweddar â mis Medi y llynedd a braf oedd cael ei chwmni yno. Byddwn yn gweld ei cholli’n fawr iawn. Cynhaliwyd ei hangladd, i’r teulu’n unig, yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, 25 EstynnwnMawrth. gydymdeimlad dwys gyda’r teulu i gyd, yn arbennig ei brawd Prysor a’i wraig Margaret, y ddau a fu’n gymorth mawr i Dawn ac a fu’n gofalu cymaint amdani yn ystod ei misoedd olaf. Anfonwn ein cofion diffuant atynt yn eu profedigaeth. Cydnabyddiaeth Dymuna Prysor, Margaret a’r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Dawn, ac am y rhoddion hael i Scope er cof amdani. Diolch i’r Parch Iwan Llewelyn Jones am ei wasanaeth teimladwy yn yr Amlosgfa, ac i Gareth a Dylan o Gwmni Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr ac urddasol. Rhodd a diolch £20 Dathlu 20 mlynedd Neuadd Gymuned Talsarnau Ym mis Ebrill 2002, agorwyd y Neuadd Gymuned newydd ac er mwyn dathlu’r achlysur eleni mae Pwyllgor y Neuadd yn trefnu cynnal gwahanol weithgareddau yn ystod y misoedd nesaf, gan ddechrau gydag Arddangosfa o luniau, hen a newydd, o’r ardal a’i phobl. Bydd hon yn digwydd ym mhrif ystafell y Neuadd, dros gyfnod o ddau ddiwrnod, gan ddechrau nos Wener, 29 Ebrill, o 7.30 ymlaen, a phrynhawn Sadwrn, 30 Ebrill o 1.00 – 5.00. Croesawir pawb i ddod i’r digwyddiad cyntaf yma a bydd cyfle i weld dipyn o hanes a chael sgwrs dros baned.

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad i Celt a Meira Roberts, Berthen Gron, sydd wedi cael profedigaeth deuluol ym Margoed, de Cymru. Anfonwn ein cofion atynt. Cydymdeimlo Estynnwn ein cydymdeimlad â Mairwen Evans, Fuches Wen Fach, yn ei phrofedigaeth o golli ei mam, Laura Evans, [Lowri] Ty’n Bwlch. Anfonwn ein cofion atat, Mairwen. Safle we Braf cael cyhoeddi fod safle we Neuadd Gymuned Talsarnau ar gael i’w defnyddio. Diolch cynnes iawn i Hefin Williams am y cynllunio, y paratoi a’r hyfforddiant er mwyn i ni, griw bach Trysorau Talsarnau, allu bwydo’r wybodaeth i mewn iddi. Gobeithio y bydd o fudd i bobl yr ardal. Y cyfeiriad: neuaddgymunedtalsarnau.cymru.www.

Cofion Anfonwn ein cofion at Gillian Morgan, 2 Weirglodd Fawr, sydd yn Ysbyty Gwynedd yn derbyn triniaeth. Rydym yn meddwl amdani ac yn dymuno’n dda iddi.

11 YSGOL TALSARNAU

yn hysbysu’r Cyngor y byddant cyn hir yn dechrau gweithio ar brosiect mawr i wella tirwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy’n golygu y bydd 10 peilon a thua 3km o’r llinell uwchben presennol ar draws aber afon Dwyryd yn cael eu tynnu ac y bydd ceblau tanddaearol yn cael eu gosod yn eu Maentlle.yn gwahodd cynrychiolydd o’r Cyngor hwn i fod yn rhan o’r Grŵp Cyswllt Cymunedol y maent yn ei sefydlu. Cytunwyd bod John Richards a Lisa Birks yn cynrychioli’r Cyngor yn y Grŵp hwn. CYNGORTALSARNAUCYMUNED

Croesawydgweithgarwch.Dylan a Joy Hughes ar ran Hamdden Harlech ac Ardudwy er mwyn trafod yr hyn oedd yn digwydd gyda’r ganolfan yn Harlech ac yn bennaf, y pwll nofio. Cafwyd gwybod bod cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan yr uchod a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech nos Iau yr 17eg o’r mis hwn, hefyd bod cyfarfodydd o’r fath wedi eu cynnal yn y Bermo a Dyffryn Ardudwy. Bu trafferthion efo’r pwll gan fod un o’r gwresogyddion wedi torri, hefyd bod y ‘roller’ sydd ar draws wyneb y dŵr wedi torri ac oherwydd hyn nid yw yn bosib agor y pwll i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond eu bod yn gobeithio ailagor adeg y Pasg. Cynhelir Treiathlon Harlech yno ar y 27ain o’r mis hwn, hefyd bydd cwrs Achubwyr Bywyd yn cael ei gynnal ddechrau mis Ebrill. MATERION YN CODI Camerâu CCTV Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio polion trydan a weirio soced iddynt a hefyd, ar ôl cysylltu gyda’r Cynghorwyr eraill, ei fod wedi cymeradwyo bod taliad yn cael ei wneud cyn cyfarfod y Cyngor i S K Security am y camerâu hyn. Hefyd, adroddodd y bydd dau gamera yn cael eu gosod yn Llandecwyn a dau arall ym Maentwrog a’i fod yn gobeithio y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn cyfarfod nesa’r Cyngor. Cytunwyd, ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, y bydd rhaid cysylltu gyda’r Cynghorau Cymuned eraill yn Ardudwy i ofyn am gyfraniad tuag at roi’r camerâu hyn ar waith. Agor Tendrau Torri Gwair Derbyniwyd un tendr ynglŷn â gwneud y gwaith uchod gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau, i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus ac un i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel-y-traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tendr Mr Meirion Griffith. CEISIADAU CYNLLUNIO Trosi eglwys yn dŷ, a chodi estyniad ochr a gosod 6 ffenestr to (3 ar yr edrychiad de ddwyrain a 3 ar yr edrychiad gogledd orllewin) - Eglwys Crist, Talsarnau. Gwrthwynebir y cais hwn os yw’n fwriad gan y perchennog newid defnydd yr adeilad hwn i dŷ haf ac os bydd yn newid ei ddefnydd i dŷ i’w osod neu ei werthu i bobl leol, dylid gosod amod ar y datblygiad nad yw’n cael ei drosi yn dŷ haf yn y dyfodol. Hefyd, datganwyd pryder ynglŷn â pharcio oherwydd nid oes lle i barcio y tu allan i’r adeilad a buasai hyn yn beryglus pe bai hyn yn digwydd gan ei bod yn ffordd brysur iawn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Neuadd Bentref - £1,500.00 Cylch Meithrin Talsarnau - £1,000.00 CFfI Meirionnydd - £100.00 Ambiwlans Awyr Cymru - £400.00 GridGOHEBIAETHCenedlaethol Derbyniwyd e-bost oddi wrth yr uchod

Yn ystod hanner tymor cynta’r flwyddyn bu plant dosbarth Mr Owens yn cymryd rhan mewn prosiect dros gyfnod o bump wythnos i hyrwyddo byw’n iach. Mae’r cynllun wedi’i rannu yn wersi dosbarth sy’n ymdrin â themâu allweddol ynglŷn â bwyta’n iach a chadw’n heini a gwersi llythrennedd corfforol allan ar fuarth yr ysgol. Buont yn dysgu llawer am y grwpiau bwyd, lle mae siwgr yn cuddio a’r hyn a all ddigwydd i’n cyrff os na fyddwn yn bwyta brecwast a phwysigrwydd bwyta diet cytbwys. Roedd hon yn raglen werth chweil a’r plant wedi mwynhau’r gwaith a’r ymarfer yn fawr iawn. Fel ysgol, rydym yn rhoi bri ar ddatblygu medrau gydol oes i arfogi ein plant i ddatblygu’n ddinasyddion iach hyderus a hapus. Thema arall sydd wedi cael cryn sylw yn y dosbarth hefyd yw newid hinsawdd. Mae’r plant wedi cael cyfleoedd rheolaidd i drafod effeithiau newid hinsawdd ar ein planed ac ar ddiwrnod y llyfr cawsant gyfle i ymuno mewn gweithdy wedi ei drefnu gan Dŵr Cymru i drafod llyfrau yn cyflwyno’r thema gyfoes hon. Unwaith eto roedd hwn yn gyfle i feithrin dinasyddion egwyddorol a moesol i’r dyfodol. Mae’r llun olaf yn cyfleu’r hwyl a’r bwrlwm brofodd y plant yng nghwmni Marged a Branwen pan ddaethant i’r ysgol i gynnal gweithdy ar stori Branwen. Cafodd y plant fyrdd o hwyl yn actio’r gwahanol gymeriadau mewn sesiynau byrfyfyr. Penllanw’r gweithgarwch oedd cyfansoddi cân wreiddiol a’i pherfformio a’i recordio. Diwedd creadigol a hwyliog i’r

12 Llongyfarchiadau i Rhian Mair Jones, Betws yn Rhos; Mai Jones, Llandecwyn; Gwenfair Aykroyd, Y Bala; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Dilys A PritchardJones, Abererch, Dotwen Jones, Cilgwri Wirral Mary Jones, Dolgellau; Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug; Bethan Ifan, Llanbadarnfawr; Gwenda Davies, dudalenPhilAtebionLlanfairpwllgwyngyll.i’rSgwârGeiriauatMostert.[Manylionar2]. POS GEIRIAU gan Mai Jones 4 20 8 7 24 23 8 2 10 14 2 18 13 26 18 11 15 14 22 18 18 6 22 1 9 6 10 24 14 16 20 24 10 14 23 8 1 22 24 13 11 6 14 24 1 22 13 12 13 18 20 22 25 13 24 19 14 8 7 22 8 6 19 6 26 13 22 18 20 13 18 13 24 7 6 18 13 6 26 1 24 17 7 11 24 13 14 22 6 14 13 18 20 6 10 22 14 6 2 6 5 18 14 R 14 21 24 20 6 6 14 27 22 3 24 5 15 14 24 22 22 24 O 24 24 20 2 1 6 1 D 13 18 22 5 13 25 13 5 POS GEIRIAU gan Mai Jones, Llandecwyn Fel yr addewais, dyma gynnwys pos geiriau Mai Jones. Diolch iddi am ei hymdrech lodwiw. Hwyl ar y datrys. Gerallt Rhun Ymdrech unigolyn i godi arian Mae heriau ein byd yn aml a dyrys. O ryfel yn Wcráin, newyn yn Affganistan ac effeithiau’r argyfwng hinsawdd trwy’r byd i gyd, byddai’n hawdd troi’n fewnblyg a digalonni. Ond yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (15-21 Mai) mae cyfle i ymateb yn gadarnhaol i’r heriau hyn. Trwy roi, gweithredu a gweddïo, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn. Bydd nifer ohonoch yn gweithio’n galed dros yr Wythnos. Diolch ichi. Bydd pob math o weithgareddau’n digwydd ledled Cymru, yn cynnyws nifer o unigolion a grwpiau sy am gyflawni her y 300,000 cam trwy fis UnMai.person sy am gyflawni’r her hon ydi’r Parchedig Andrew Sully o Landudno. Mae wedi gosod nod sylweddol iawn iddo’i hun – sef cerdded o’r Waen i Gaernarfon gan gysylltu pob un o gestyll y gogledd ar y ffordd, 22 ohonynt! Trwy wneud hyn mae am godi ymwybyddiaeth o’r her sy’n wynebu pobl Zimbabwe. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu neu os am wybod mwy am Wythnos Cymorth Cristnogol yn gyffredinol, cysylltwch â’n swyddfa yng Nghaerdydd. Gallwch ffonio 029 2084 4646 neu anfon ebost i cymru@ cymorth-cristnogol.org CymorthCristnogolNewynuamgyfiawnder A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1 - D 2 - 3 - 4 - 5 - 6 - 7 - 8 - 910 - 11 - 12 - 13 - 14 - R 15 - 16 - 17 - 1819 - 20 - 21 - 22 - 23 - 24 - O 25 - 26 - 27 - 28 - Ph

Roedd bob amser yn dal hances gotwm lân a’r peth olaf yr oedd hi’n ei ofyn cyn mynd i’r ysbyty oedd ‘Lle mae fy hances?’ Pan hunodd, roedd hances yn ei llaw. Merch ei milltir sgwâr oedd hi, wedi byw yn y gymuned ar hyd ei hoes a ddim yn dymuno byw mewn ardal arall. Roedd yn un dda am godi gyda’r wawr yn y bore. Colli Mary ac Iorwerth. Daeth anhwylder pan gafodd ei 80 oed, canser ar y bys bawd llaw a chafodd grafft croes yn Ysbyty Llandudno, ac o fewn 6 mis roedd y canser wedi ymledu o dan ei braich i’r ‘lymph nodes’. Buodd yn ffodus o gael triniaeth yn Ysbyty Whiston, Lerpwl, ac aros yno am 11 diwrnod. Brwydrodd yn ddewr iawn a chafodd ddod adref ac wedyn mynd i Ysbyty Glan Clwyd am dair wythnos o radiotherapi. Cafodd ofal arbennig gan nyrsys cymunedol FfrindiauArdudwy. eraill oedd y diweddar Ieu a Tywyna, Stabal Mail, Ty’n Coed ac wedyn aethon i Dy’n Coed Dyffryn Ardudwy. Roedd cysylltiad agos wedi parhau. Hen ffrind arall yw Glenys (Anti Glenys); roedd wedi bod yn hen ffrindiau a chyn y Covid-19 roedd Glenys yn ymweld â hi ar bnawn dydd Wedyn,Sul.daeth anhwylder arall, esgyrn brau, pan gafodd gyfnod gyda chefn drwg. Trwy lwc cafodd dabledi i’w cymryd unwaith yr wythnos ac fe wellodd a medru symud unwaith eto. Roedd yn aelod o Gapel Soar. Roedd wrth ei bodd gyda’r trip i ganolfan arddio Frongoch. Roedd yn hoff iawn o wrando ar gerddoriaeth Cymraeg Hogiau’r Wyddfa, Trebor Edwards, Wil Tân a chorau cymysg. Ar ôl cyfnod byr o anhwylder daeth cwmwl du ar 2 Mawrth pan gollodd Lowri y frwydr pan ein gadawodd yn sydyn yn Ysbyty Gwynedd. Diolch am ei bywyd ac am gael ei hadnabod a bod yn gymorth iddi ar hyd y blynyddoedd. Bydd colled fawr ar ei hôl. Gwaith a gorffwys bellach wedi mynd yn un.

Ganwyd Lowri ym mis Medi 1930 yn fferm Ty’n Bwlch, merch i Edward Lewis a Lizzie Griffiths. Roedd yn un o bedwar o blant sef Mair, Iorwerth ac Anwen. Mynychodd Ysgol Talsarnau. Y dyddiau hynny doedd dim ceir, cerdded i’r ysgol oedd hi. Fe gliciodd gyda ffrind o’r enw Doreen oedd yn efaciwî (Saesneg) oedd yn byw yn y Garth gyda Dodo Laura. Roedd y ddwy yn cerdded i’r ysgol gyda’i gilydd. Daeth

DiolchME Dymuna Mairwen a theulu’r diweddar Laura Evans (Laura, Ty’n Bwlch) ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth. Mawr yw ein diolch am yr ymweliadau, cardiau a galwadau ffôn, ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Ambiwlans Cymru.

prifathro newydd i’r ysgol, Dewi Williams o Bronaber, ac roedd yn gofyn am ddiarhebion. Dywedodd “Yng ngennau sach mae cynilo”, a dywedodd Doreen “A new broom sweeps clean”. Roedd y ddwy yn ffrindiau triw i’w gilydd. Hyd heddiw roedd y ddwy yn cadw cysylltiad, yn ymweld pan yn gallu a’r galwadau dros y ffôn. Buodd Lowri yn driw iawn gyda’r Ffermwyr Ieuainc a byddai yn adrodd hanesion y trip i Lundain. Cyfarfu â Dafydd a chanlyn am sbel. Priododd â Dafydd ar 20 Mawrth 1954, a symud i fyw i Llety ger Harlech. Roedd yn wraig fferm dda. Roedd bywyd yn galed y dyddiau hynny; dim cyfleusterau, ac roedd yn corddi a gwneud menyn. Roedd yn coginio yn fendigedig, a hoffai fwyd cartref. Roedd yn hela gwair yn yr haf ac wrth ei bodd yn dreifio y Ffyrgi bach. Mynd efo Dafydd ar y moto beic at ei ffrindiau May ac Aneurin i gael swper ac wedyn roeddan nhwythau yn ymweld â nhw y Llety. Dyddiau Wedidifyr. byw yn Llety am gyfnod, symud i fyw i Plas Uchaf, fferm fynydd fawr, a chadw defaid a gwartheg. Roedd yn gweithio yn galed ar y fferm. Cofio Elizabeth a Kathryn yn dod i aros ar eu gwyliau ar y fferm. Roedd yn ddireidus a gwên bob amer ar ei hwyneb. Yn y flwyddyn 1984 daeth cnoc enfawr o golli Dafydd yn sydyn gyda thrawiad ar y galon. Roedd rhaid rhoi’r gorau i ffermio a chwilio am gartref newydd i fyw. Cyrraedd Fuches Wen Bach, Glan-y-wern, gyda Mairwen, y ferch. Cafodd flynyddoedd hapus yn ymddiddori yn yr awyr agored yn yr ardd; tyfai goed hydrangea. Roedd wrth ei bodd yn torri toriadau a photio blodau. Buodd y ddwy’n gwmni i’w gilydd ac yn edrych ar ôl ei gilydd. Roedd yn hoff iawn o olchi gyda llaw; roedd yn barticwlar iawn ar osod y dillad ar y lein ac roedd rhaid eu cael yn daclus. Hoffai smwddio. Wedyn daeth y peiriant golchi. Roedd yn hoff iawn o waith tŷ, a choginio bwyd cartref ffres fel lobsgows, pwdin reis a bara brith. Roedd yn hoff iawn o’i bwyd, a chael ‘treat’ weithiau (pysgod a sglodion).

Rhodd a diolch £20

13 (Lowri,LauraCoffâdEvansTy’nBwlch)

14 YSGOL ARDUDWY

Cerdded Afon Yn ddiweddar a hwythau yn dod i ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol, aeth criw TRAC i gerdded yr afon Aran yn Nolgellau. Gwnaed y weithgaredd yma mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Awyr Agored Urdd Gobaith Cymru. Diwrnod i’w gofio i bawb yn sicr. Codi arian Gwelwyd ymdrech deilwng iawn yn yr ysgol i godi arian at yr ymdrechion yn yr Wcráin. Llwyddwyd i godi £670 drwy wisgo mewn melyn a glas am ddiwrnod. Unwaith eto, yr ysgol yn cefnogi ymgyrch gwerthchweil. Dymuna’r ysgol ddiolch yn fawr i bawb am eich cyfraniadau hael tuag at y ffoaduriaid truenus sy’n wynebu bywydau ansicr ar hyn o bryd.

Ydrydydd.ferchgyntaf yn ôl oedd Erin Mitchelmore gyda Cêt ap Tomos yn ail a Keisha Swai yn drydydd. Dylan, Alfie a Cai Cêt, Erin a Keisha Gymnasteg Yn y byd acrobatig, daeth llwyddiant i ddwy o’r Ysgol. Teithiodd Isobel Cleaver a Kelsey Firth lawr i Gasnewydd gan ddychwelyd gyda’r wobr gyntaf. Da iawn genod. Kelsey ac Isobel

Iwcalelis Daeth y tywydd braf ar ddiwedd mis Mawrth a chyfle i nifer fynd allan i chwarae Iwcaleilis gyda’r Adran Gerdd. Disgyblion o B7 oedd y cyntaf i fynd ati i ddysgu’r grefft hon a hynny yng nghysgod y Castell. Cyfle gwych i nifer. Jago, Cai ac Euros Rygbi’r Gogledd Wedi’r gemau caled ar y cae rygbi, daeth tymor y criw gyda RGC1404 i ben. Dyma oedd y cyfle i chwarae yn erbyn ardaloeddd eraill ar hyd a lled Cymru. Yn sicr, dangosodd bob un eu bod yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf a’u bod yn haeddu eu llefydd yn y garfan. Llongyfarchiadau mawr i’r hogiau i gyd gan obeithio y daw cyfle eto pan fydd y garfan yn cael ei ddewis ar gyfer tymor nesa’. Rhedeg Trawsgwlad Ras Ardudwy Trefnwyd ras Ysgol Ardudwy ar gyfer bechgyn a merched o B7 i fyny. Wedi cychwyn ar dir yr ysgol aed wedyn heibio’r pwll nofio, troi lawr i’r dde wrth weld Theatr Ardudwy gan anelu wedyn am y Traeth. Wedi cyrraedd y tywod melyn, roedd yn rhaid rhedeg ar ei hyd cyn troi yn ôl

ac adre ar hyd Ffordd y Traeth. Ar y linell derfyn, Alfie Owen oedd enillydd ras y bechgyn gyda Dylan Mitchelmore yn ail a Cai Thomas yn

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

3.

5.Methodists.EvanThomas,

4.

2.

cael eu torri allan yn rheolaidd gan J R Jones, oedd yn cadw disgyblaeth haearnaidd ar yr eglwys. Yn aml iawn, yr oedd yna dderbyn yn ôl ond yr oedd yna aildorri allan hefyd. Peidiwch â meddwl fod hyn yn golygu fod pobol Ramoth yn bobl arbennig o ddrwg neu bechadurus;

Bu golygyddion Caneuon Ffydd yn ‘chwynnu’ a bellach tri emyn sydd ar ôl o eiddo Richard Jones ar gael i gynulleidfaoedd Cymru. Ond, meddech chi, gŵr o`r hen oes oedd Richard Jones ac emynau yn mynegi profiadau’r hen oes yw ei emynau. Digon gwir, ond mae ynddynt urddas a dyfnder profiad sydd yn sicr o fod yn gymorth i unrhyw un a chanddo amser i’w hystyried a myfyrio ynddynt. Ac maent yn siŵr o fod â mwy o rinwedd ynddynt nag ambell i dalp o ynfydrwydd a lithrodd heibio i’r golygyddion ac sydd yn llechu rhwng cloriau casgliad Caneuon Ffydd - er cystal ydyw drwodd a thro. Dyma i chi un pennill a gollwyd: ‘Tangnefedd Duw, fel afon gref, O orsedd nef yn llifo, A fydd i’r sawl a garo’r gwir, Gan rodio’n gywir ynddo.’ A dyna fo; cystal ag Edmwnd Prys debyga i. Tra roedd Richard Jones yn byw yn y Wern roedd cymeriad pwysig arall yn hanes crefyddol Cymru yn gymydog iddo yn y Garreg Fawr, sef John Richard Jones (1765-1822). Yn Llanuwchllyn y ganed ef a dywedir iddo gael addysg dda yn ôl safonau’r cyfnod. Roedd ganddo wybodaeth eang ym meysydd llenyddiaeth a cherddoriaeth. Annibynwyr oedd ei deulu ac Annibynnwr oedd yntau ar y dechrau ond daeth i gredu’n raddol na ddylid bedyddio babanod ond yn hytrach adael iddynt i wneud eu proffes wedi cyrraedd oed deall goblygiadau hynny. Trodd felly at y Bedyddwyr ac ym 1789, ordeiniwyd ef yn weinidog ar Gapel Ramoth, ErLlanfrothen.maiLlanfrothen oedd canolfan gweinidogaeth J R Jones, roedd ganddo hefyd ofal am gylch eang yn cynnwys y rhan fwyaf o ran orllewinol yr hen Sir Feirionnydd. Roedd yn bregethwr nerthol er nad oedd yn cymeradwyo’r neidio a’r gweiddi a’r gorfoleddu oedd yn rhan o addoliad y Methodistiaid ar y pryd ac a oedd erbyn hyn yn tueddu i lithro i mewn i wasanaethau mwy syber y DiddorolBedyddwyr.ywsylwiar gylch cyfeillion J R Jones. Heblaw’r gweinidog amlwg Christmas Evans a’r cerddor John Williams, Dolgellau, cafodd lawer o fwyniant yn cymdeithasu â beirdd Eifionydd – Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu yn enwedig Maefelly. mwy nag un traddodiad ynghylch perthynas J R Jones a Richard Jones o`r Wern. Roedd y ddau yn gymeriadau gwahanol iawn. Richard Jones yn ŵr heddychlon tawel a J R Jones yn wyllt ac eiddgar. Roeddynt hefyd yn rhyw fath o gystadlu yn Llanfrothen am yr un gynulleidfa. Clywais ddweud bod J R Jones yn fwy medrus na Richard Jones am gael defaid i mewn i’w gorlan ond bod Richard yn fwy galluog i’w cadw yno ar ôl eu Lluniwydcorlannu! cofiant i J R Jones gan David Williams ym 1913. Ynddo , ymysg llawer o bethau diddorol eraill, mae rhai o gofnodion Ramoth gan gynnwys rhestr o`r aelodau. Syndod yw gweld cymaint o aelodau oedd yn cael eu torri allan gan J R Jones. deg enw cyntaf yn y rhestr: ‘1. John Humphrey, Penrhyn. Diaelodwyd 1803. Jane Lloyd, Caenant, Penrhyn. Diaelodwyd 1803. Ellinor Evans, Maes-gwŷr-Lleyn. Diaelodwyd 1803, adferwyd 1816. Bu farw 1829. Grace Humphrey. Aeth at y Maes-gwŷr-Lleyn. Bu farw 1797. 6. Humphrey Thomas, Penrhyn. Bu farw 1819. Ellinor Jones, Penrhyn. Diaelodwyd 1804. Janett Lloyd, Penrhyn. Bu farw Lloyd, Penrhyn. Bu farw 10.1852.John Robert, Joiner. Bu farw Nid1790.’yw gweddill y rhestr yn wahanol o gwbl. Roedd aelodau’n doedd dim angen i neb wneud fawr o ddim i gael ei ddiarddel. Un bai mawr oedd ‘ymbriodi ag un digred’, hynny yw un o enwad arall neu o ddim enwad o gwbl ac roedd dangos ‘gogwydd at blaid grefyddol arall’ yn reswm arall dros dorri allan. Roedd anghytuno â J R Jones ar fater o farn hefyd yn ddigon i beri i unrhyw un golli ei Gwelwch,aelodaeth. felly, nad gŵr i gellwair ag ef oedd J R Jones. Cawn fwy o’r hanes y tro nesaf. JBW Diolch Dyma’r hanner canfed erthygl i John Bryn Williams, Cricieth ei hanfon atom ers iddo gychwyn ar y gwaith yn 2018. Hoffem ddiolch yn gynnes iawn iddo am ei ffyddlondeb a’i brydlondeb. Diolch hefyd am iddo ein difyrru a’n haddysgu yn sgil yr [Gol.]erthyglau.

Y tro o’r blaen bûm yn sôn am Richard Jones o’r Wern, Llanfrothen a fu byw rhwng 1772 a 1833. Daeth i fyw i Rosigor, Talsarnau ychydig fisoedd cyn diwedd ei oes ond fel Richard Jones, Y Wern y cofir amdano byth. Roedd ganddo wyth emyn yn y Llyfr Emynau a Thonau 1929, chwech yn y Llawlyfr Moliant Newydd 1958 a chwech eto yn y Caniedydd 1961.

Dyma’r

16 LLANFROTHENYNOHYD

7.

8.

9.1805.Fanny

• Plannwch fasged grog neu flwch ffenestr ar gyfer gwenyn a gloÿnnod byw gyda chapanau cornicyll (nasturtium) a lafant, a’u gosod mewn llecyn heulog.

• Cadwch y baddon adar a’ch bwydwyr adar yn lân ac yn llawn o ddŵr glân.

• Dros nos mae ystlumod yn bwyta pryfed yn cynnwys y mosgito, gwyfynod a chwilod, ac felly’n helpu i gynnal cydbwysedd naturiol.

R J

• Gadewch fwyd i’r draenogod.

DEWIS BWRDD ADAR

• Mae ystlumod hefyd yn clwydo y tu ôl i fondo neu bren ar wyneb deheuol adeiladau.

Daeth gwahoddiad anarferol iawn trwy e-bost tua mis yn ôl. ‘The British Ambassador Dame Menna Rawlings will have the pleasure to welcome Ms Llinos Rowlands to celebrate the Fifth Anniversary of Les Voisins and the launch of our new GREAT campaign.’ Wel, don’t mind if I dŵ! Dyma archebu fy nhocyn Eurostar yn syth! Sioc gyntaf i staff a theulu oedd fy newis o dacsi trwy Paris pan gyrhaeddais - ie, tacsi beic modur! Roedd Sebastien a’i Honda Goldwing yn ffordd gyffrous a chyflym i deithio mewn dinas. Bron i Terri dagu ar ei swper pan welodd fy fideo. Pwrpas yr holl beth o ‘voisines’ ydi cryfhau y berthynas rhwng y DU a Ffrainc. Ysgrifennais erthygl iddynt tua 3 mlynedd yn ôl (trwy y dalentog Elin Roberts) am y berthynas rhwng Dylanwad ac un o’r gwinllannoedd o Ffrainc rydym yn mewnforio ganddynt. Felly, dwi’n ‘voisine’! Roedd yn barti llawn hwyl, bwyd a dawnsio yn yr adeilad hanesyddol a hardd yng nghanol y ddinas. Ac roedd voisines o’r Alban, Gogledd Iwerddon a Llogr yn ogystal â Chymru. Ac, roedd gofyn i pob cenedl y DU ganu i gynrychioli eu gwlad. O Gymru mae’r Llys Genhades Menna Rawlings yn wreiddiol. Ond doedd dim ond hanner dwsin o Gymru. Y dewis o gân i ni? ‘Sex Bomb’ goeliwch chi? Felly cefais y ‘fraint’ o ganu ‘Sex Bomb’ gyda nhw. Diolch i’r nefoedd roedd cynulleidfa swnllyd erbyn hyn a dwi’n wir obeithio bod dim fideo!! Yn bendant mi wnes ffrindiau newydd. Ond dwi’n falch iawn o’n perthynas gyda’r gwinwyr yr ydym yn prynu ganddynt, yn Ffrainc a gwledydd Ewropeaidd eraill. Yn ystod cyfnod mor drist ar ein stepan drws dwi’n fodlon iawn cymryd rhan hyd yn oed fach iawn i greu perthnasau chryf a chyfeillgar rhwng ein gwledydd. Llinos Rowlands, Dylanwad Dolgellau Tom Jones a HondatrwyGoldwingParis

TRYCIAU01766TalsarnauWILLIAMS770286IZUZU

• Plannwch flodau unflwydd a pharhaol (blodau sengl, nid blodau dwbl) i annog peillwyr fel gwenyn, pryfed hofran a chacwn i’r ardd.

YSTLUMOD

• Rhowch y gorau i dorri lawnt fel bod y gwellt a’r blodau’n cael tyfu. Bydd hyn yn denu’r sioncyn gwair, chwilod, adar sy’n nythu ar y ddaear a phryfed eraill.

Bywyd gwyllt yr ardd I’W GWNEUD Y MIS HWN

Fe all bwrdd adar fod yn hambwrdd syml, efo to neu heb do. Bydd rhimyn o amgylch ei ochr yn rhwystro’r bwyd rhag cael ei chwythu i ffwrdd a bydd bwlch ym mhob cornel yn caniatáu i ddŵr lifo i ffwrdd a’i wneud yn haws ei lanhau. Peidiwch â dewis un efo rhyw gynllun cymhleth gan na fyddwch yn gallu ei lanhau. Dewiswch leoliad o gyrraedd ysglyfaethwyr fel cathod.

• Os welwch chi ystlumod, mae’n arwydd o amgylchedd iach, llawn pryfed.

• Dyma’r amser i ystlumod gyda rhai bach ddechrau symud i glwydfan, felly byddai’n syniad da prynu blwch ystlumod a’i osod mor uchel â phosib ar glawdd heulog. Cofiwch osgoi rhywle sy’n agos at olau diogelwch a pheidiwch â gosod gormod o olau yn eich gardd.

17

• Mae pyllau gardd a phlanhigion sy’n blodeuo dros nos fel melyn yr hwyr yn annog y math o bryfed y mae’r ystlum yn hoffi’u bwyta.

• Mae 17 rhywogaeth o ystlum yn magu yma ond maen nhw wedi prinhau. Yma yng Nghymru rydych yn debygol o weld yr ystlum lleiaf, yr ystlum hirglust, yr ystlum mawr ac ystlum y dŵr.

oedd nyrs gymunedol ym Methesda ac yna yng Nghonwy a Deganwy. Symudodd wedyn i Rhuthun gan weithio yn yr ysbyty yno ac fel nyrs gymunedol. Byddai wrth ei bodd yn mynd i’r ffermydd gwledig – yn aml iawn yng nghanol eira. Tua 25 mlynedd yn ôl, penderfynodd ymddeol a phrynu tŷ yn Llandrillo-yn-Rhos, yn ymyl y môr. Byddai’n cerdded yn aml ar hyd y prom ac weithiau cyn belled â Deganwy! Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth a byddai’n mynychu cyngherddau yn y Venue yn aml iawn. Ni fyddai byth yn methu Cymanfa Ganu pan fyddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd. Roedd hefyd wedi ymuno â chymdeithas yr Advanced Motorists a chafodd fod yn hyfforddwr iddyn nhw am rai blynyddoedd. Os byddai efo chi mewn car –byddai’n rhoi tips ar sut i ddreifio! Roedd yn hoff iawn o deithio a bu ar wyliau ym Mhatagonia, Gwlad yr Iâ, Canada, Yr Eidal, Sbaen a llawer gwlad arall. Byddai’n dod adref yn aml iawn ac ni fethodd erioed dreulio’r Nadolig yn Nhŷ’r Acrau [dim ond unwaith oherwydd Covid-19]. Roedd hi’n hoff iawn o blant ac yn garedig iawn tuag atyn nhw bob amser.

Gwisgai’n drwsiadus ac roedd yn edrych yn smart bob amser.

HARLECH 18 Casglu i bobl yr Wcráin

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â Tecwyn a Pris a’r teulu, Tŷ’r Acrau ym marwolaeth eu chwaer a chwaer-yng-nghyfraith, sef Glenys Williams. Bu farw yn annisgwyl yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn cyfnod o anhwylder. Dyma deyrnged a gyflwynwyd gan Tecwyn, ei brawd, yn y gwasanaeth angladdol.

Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau. Trefnwyd y rota blodau i’r Gofeb am fis Ebrill a mis Mai. Croesawyd Sheila Maxwell oedd wedi trefnu noson ‘Plentyndod Plentyn’, yn cynnwys amser plentyn yn yr ysgol, eisteddfodau, a hanes capel a chrefydd ym mywyd plentyn yng Nghymru. Cafwyd noson ddifyr iawn o hanes, a lluniau i ddangos yr hanes. Diolchwyd iddi gan Edwina Evans. Yna cafodd yr aelodau a’r gwesteion o SyM y Bermo de, bara brith a theisennau cri. Diolchwyd i SyM Harlech am noson wych a difyr gan Gadeirydd SyM y Bermo, Mari O’Rourke.

Dywed Gwen ei bod wedi bod yn rhan fawr o’i bywyd o’i phlentyndod hyd heddiw; bob amser yn cadw cysylltiad ac yn dangos diddordeb ym mywyd Gwen a Bryn. Roedd yn braf cael ei chwmni difyr bob Nadolig a hi fyddai’n cymryd y cyfrifoldeb am y ‘prawn cocktails’ bob blwyddyn.

TEYRNGED I GLEN Gadawodd Glen Ysgol Ardudwy pan oedd yn 16 oed ac aeth i weithio i Ysbyty Madog am ddwy flynedd. Yna cafodd gychwyn ar ei hyfforddiant i fod yn nyrs yn Ysbyty’r Royal yng Nghaer – cwrs tair blynedd gan arbenigo mewn

Eimamolaeth.swyddgyntaf

Bu Myfanwy Jones, Yr Odyn, Llech, Harlech a Marion Jones, Hendremur, Harlech yn brysur ddechrau mis Mawrth yn cario rhoddion dillad i Ysgol y Gader, Dolgellau tuag at ffoaduriaid o Wcrain. Deuddydd wedyn roedd rhaid gofyn i Gill a Mark Ballantyne o Landanwg am fenthyg fan i drosglwyddo mwy o roddion, y tro hwn i Rhug, ger Corwen. Dymuna Myfanwy a Marion ddiolch yn fawr i drigolion Harlech a Llanfair am eu haelioni yn cyfrannu at yr achos teilwng iawn yma. Cofio Mam Er cof am fam, nain a hen nain arbenning ac annwyl iawn a hunodd Ebrill 12fed. Chwe mlynedd ers y golled enfawr ond aros mae’r hiraeth gyda ni fel teulu. Rhodd £10 Teulu Blodwen Jones, 23 Y Waun Teulu’r Castell Cynhaliwyd y cyfarfod ar 8 Mawrth, a dyma’r cyfarfod cyntaf ers Mawrth 2019 oherwydd CroesawydCovid-19.pawbo’raelodau hen a newydd i’r cyfarfod gan Edwina Evans. Rhoddwyd croeso arbennig i Fiona Roberts o’r pwll nofio, Harlech, oedd wedi dod i gynnal bingo i’r aelodau. Rhoddwyd diolch arbennig am 15 mlynedd o wasanaeth fel trysorydd gan Mrs Maureen Jones, ond roedd wedi gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd Maeafiechyd.Mrs Susan Jones wedi cymryd y swydd fel trysorydd a diolch yn fawr i hithau hefyd. Dyma ddyddiadau Teulu’r Castell: 12 Ebrill – gyda Sefydliad y Merched gyda sgwrs gan Sheila Maxwell. 10 Mai – gyda Merched y Wawr. 14 Mehefin – te yn y Queens’ Hotel, ac yna yn ailgyfarfod yn yr hydref. Yna croesawyd Fiona a chafwyd hwyl fawr yn chwarae bingo. Cafwyd te wedi’i baratoi gan aelodau o’r pwyllgor.

Mae Iddon yn cofio fel y byddai’n gwneud jig-sos efo fo pan oedd yn blentyn ac yn prynu a chwarae llawer iawn o gemau. Roedd ganddi ddigon o amynedd efo plant a dwi’n sicr fod gan Erin, Ynyr a Gwern lawer o atgofion melys am Anti RoeddGlen. ganddi ddiddordeb mawr yn lles Meirwen hefyd a phan aeth i’r India tua 2 flynedd yn ôl, roedd yn bryderus os nad oedd wedi ffonio. Byddai’n fy holi o hyd, ‘Wyt ti wedi clywed gan Meirwen?’ Er ei bod wedi ymddeol yn gynnar, roedd ganddi lawer iawn o ddiddordebau ac roedd ganddi ffrindiau a chymdogion da. Cafodd fyw bywyd llawn iawn ac roedd wrth ei bodd yn ei chartref cysurus yn Llandrillo yn Rhos. Bydd colled fawr ar ei hôl yn y gymdogaeth honno ac yn Harlech hefyd. Bendith arni.

Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau a’r gwesteion i’r cyfarfod, sef noson Gymreig, a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Harlech nos Fercher 9 Mawrth 2022 gan y Llywydd Jan Cole.

19 CYNGORHARLECHCYMUNEDCylch Meithrin Harlech Dathlu Diwrnod y Llyfr Dathlu Diwrnod Trwynau Coch a gwisgo fel Arwyr Anhygoel MATERION YN CODI Arwyddion Tŷ Canol Adroddodd y Clerc nad oedd wedi derbyn ymateb gan Mr Richard John ynglŷn â’r mater uchod ond ei bod wedi cael sgwrs gyda Mr Aled Lloyd o’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â’r mater a’i fod ef yn mynd i drafod y mater gyda Mr John a gofyn iddo roi cynlluniau gerbron cyn gynted â Adroddoddphosib.yClerc ymhellach ei bod wedi cael gwybod erbyn hyn bod y cynlluniau wedi eu rhoi gerbron y Parc Cenedlaethol. Agor Tendrau Torri Gwair Derbyniwyd un tendr ynglŷn â gwneud y gwaith uchod gan Mr Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a’r fynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn y tendr. Hefyd cytunwyd i dderbyn pris Mr Gareth John Williams am dorri gwair cae chwarae Brenin Siôr a’r cae pêl-droed eto eleni. CEISIADAU CYNLLUNIO Diwygio Amod Rhif 1 o Ganiatâd Cynllunio dyddiedig 13 Mawrth 2012 i ymestyn y cyfnod dechrau gwaith am 5 mlynedd ychwanegol - Morfa Newydd, Ffordd Glan Môr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. ADRODDIAD Y TRYSORYDD Ceisiadau am gymorth ariannol Cyfeillion Ysgol Tanycastell - £2,000 Cylch Meithrin Harlech - £2,000 Pwyllgor yr Hen Lyfrgell - £1,000 Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000 CFfI Meirionnydd - £250 Ambiwlans Awyr Cymru - £500 HamddenGOHEBIAETHHarlech ac Ardudwy Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn gofyn yn ffurfiol a fyddai’r Cyngor yn cytuno i ryddhau’r taliad cyntaf o’r cynllun presept mis Ebrill eleni yn lle mis Mai. Cytunwyd i hyn. UNRHYW FATER ARALL Bydd cyfarfod ‘Ymgysylltu gyda’r Gymuned’ yn cael ei gynnal gan Hamdden Harlech ac Ardudwy am 7.30 o’r gloch ar yr 17eg o’r mis hwn. Cafwyd gwybod bod rhai’n holi a oedd y ffos sy’n rhedeg o Siop y Morfa tuag at y Clwb Golff wedi ei glanhau a cadarnhawyd bod hyn wedi ei wneud. Cytunwyd i ailgychwyn y cyfarfodydd yn yr Hen Lyfrgell o fis nesaf ymlaen. Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.uk Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.ukFacebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota Capel Jerusalem, Harlech Mis Ebrill 15 Parch Dewi Morris am 10.30 Cymun y Groglith

Llun Merched y Wawr Harlech a Llanfair yn 10 oed

Mae’r ddau’n cadw ffit ac ar eu beiciau yn aml ac yn cyfrannu’n frwdfrydig at fywyd cymdeithasol eu cymuned ym LlongyfarchiadauMangor. fil iddyn nhw! priodas ddiemwnt i bobl sy’n bancio efo’r West am eu gwasanaeth banc

Dathlu

Dros y Pasg bydd Meira a Geraint Percy Jones gyda theuluoedd eu meibion Aled Llŷr a Rhys yn dathlu eu priodas ddiemwnt. Mae’r trydydd mab, Rhodri, yn byw yn Awstralia, ond mewn cysylltiad bron yn ddyddiol. Bydd llawer yn cofio am Geraint a Meira pan oeddan nhw’n byw yn Ardudwy a Geraint yn athro Cymraeg yn Ysgol Ardudwy.

Merched y Wawr Harlech a Llanfair ar ddathlu 50 Gyda chymorth Mrs Gweneth Evans a Mrs Dilys Brown dyma restr o’r aelodau sydd yn y llun yn dathlu’r 10 mlynedd cynta. Mae rhai wynebau ar goll yn y cefn; un yw Miss Lowri John, a etholwyd yn Drysorydd cynta dros y Hoffwngangen.nodihefyd gyfraniad arbennig Mrs Meinir Lewis i’r gangen o’r Mudiad dros yr holl flynyddoedd. Hi oedd yr ysgrifenyddes gyntaf a finne yn Llywydd Cynta. Roedd yn gyfnod hapus iawn. Rhyfedd meddwl ein bod yn medru edrych yn ôl ar oes o atgofion bywyd! Daeth heriau arall i’r iaith Gymraeg erbyn hyn a gwerthfawrogwn ymroddiad y criw sy’n dal ati i weithio drosti yn yr ardal. Margaret Eckley Rhes flaen – Mrs Betty Gregson, Miss Manon Lewis (athrawes Lladin), Mrs Elizabeth Jones, Martin Eckley, Rhian Jones (wedi paratoi’r gacen), Mrs Meinir Lewis, Mrs Mair M Williams, Mrs Janet Mostert, Miss Pegi Griffith. Rhes ganol – Mrs Mair Highley, Mrs Nel Jones, Mrs Iris Hughes, Mrs Margaret Eckley, Mrs Cassin Ann Jones, Mrs Hughes y Plas, Mrs Dilys Brown, Mrs Lyn Thomas, Mrs Jennie Meredith Evans, Misses Nellie a Nansi Griffth, Mrs Ceridwen Williams, Mrs Lowri Owen.

Rhes gefn – Mrs Annie Davies Jones, Mrs Eirlys Turner, Mrs Williams, Min y Mynydd, Mrs Enid Davies, Mrs Eirlys Williams, Mrs Gweneth Evans, Mrs Margaret Wilson, ??, Mrs Jini May Williams, ??, ?, Mrs Gladys Roberts, Miss Elma Parry, Mrs Evelyn Elizabeth Kilmister, ?? Ffotograffydd: John Baker.

20

Amserlensymudol. y fan symudol (Seren): • Y Marian, Dolgellau – pob dydd Mawrth rhwng 10.50 a 11.20 • Maes parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog - pob dydd Mawrth rhwng 13.00 ac 13.45 • Maes parcio Iard-yr-Orsaf, Porthmadog – pob dydd Iau rhwng 10.20 a 10.55. Ni fydd y fan yn bresennol fel uchod ar Wyliau’r Banc. Manylion pellach ar www.natwest. com/bankingwithus BANC SYMUDOL Y NAT WEST YN YR ARDAL Yn y llun fe welir Llinos Davies, sy’n gyrru fan symudol (Seren) y Nat West, ar y Marian, Dolgellau.

Nat

Gwybodaeth

Cynnwrf yn y borfa – y filfyw

Stori am Wil Ifor Jones Pan o’n i’n athro yn Ysgol Bro Cynfal ddechrau’r 80au, byddwn yn awyddus i’r disgyblion ddysgu am fyd natur. Ro’n i yn mynd â nhw allan yn aml ac yn eu siarsio i barchu

Mor bwysig ydoedd ymddangosiad y gwelltyn bychan hwn fel y canwyd iddo mewn llinellau megis: “Yr eidion du gaiff fyw Heddiw mi welais filfyw.”

Byddai Twm Elias a Wil Ifor Jones yn westeion poblogaidd a pharod iawn eu cymwynas. Trwy fod yn eu cwmni, roeddwn innau’n dysgu Rhywdrollawer. ym mis Mai 1983 mi gredaf oedd hi a Wil a minnau yn tywys rhyw 25 o blant ar Lwybr Llyn Mair ym CofiafMaentwrog.iddoglywed telor y coed a’n dysgu am ei gân sy’n swnio’n debyg i geiniog yn troelli ar fwrdd ac yna’n disgyn a’r sŵn yn gwanio. Cofiaf iddo hefyd holi’r plant pam tybed roedd y coedwigwr wedi gadael ambell i foncyff ar lawr y goedwig. Yr ateb, wrth gwrs, oedd er mwyn iddi bydru a bod yn fagwrfa i bryfed a thrychfilodd a fyddai, yn eu tro, yn ffynhonell fwyd i’r adar a chreaduriaid eraill. Wrth inni gerdded, roedd modd tynnu sylw at fwtsias y gog, blodyn y gwynt, botwm crys, llygad doli a llawer o flodau eraill. Yn ystod y daith, aeth un o’r merched at Wil â blodyn yn ei llaw. ‘Be’ ‘di enw hwn?’ holodd y fechan. ‘Wel blodyn oedd o!’ atebodd Wil yn ei ffordd annwyl, fynwesol arferol, heb geryddu dim arni. Pan welais i’r blodyn yn llaw’r ferch, ro’n i’n teimlo’n fethiant llwyr fel athro. Ro’n i’n flin bod Wil wedi bod yn dyst i’r fath olygfa - er gwaetha’r siarsio lawer gwaith ar y plant yn y dosbarth yn y gorffennol - i beidio casglu blodau gwylltion. Ond ddaru Wil ddim cynhyrfu o gwbl - un felly oedd o - dim ond parhau i’n tywys a’n goleuo yn ei ffordd ddiymhongar arferol. Ond dwi’n dal i gofio am ffolineb y ferch.

CORNEL NATUR

Er mai ar groen gwydn y ffridd neu borfa gyffelyb y tyfa’r filfyw, ac mai gweiryn byr blewog ydyw i bob pwrpas i edrych arno, brwynen ydyw mewn difrif o ran cyfansoddiad ac i’r rhain y mae’n perthyn agosaf. Mae i frwynen frig tywyll caled, ac felly hefyd y filfyw. Blodyn yw’r brig yma mewn difrif a dibynna hwn ar y gwynt i wasgaru’r paill o un planhigyn i’r llall. Nid oes fawr ddim arall â brig na blodyn iddo yr adeg yma o’r flwyddyn, felly mae’r filfyw yn weddol amlwg yn y borfa gwta ond yn ddiweddarach fe’i collir yn y rhuthr tyfiant o weiriau brasach. Ar foelydd mawnog diweddarach eu tymor y benllwyd sy’n arwyddo symudiad yn y tyfiant. Blodyn plu’r gweunydd (Eriophorum angustifolium) yw hwn ac fe’i gwelir fel cynffon cwningen fechan yn ymddangos drwy ffeg y gaeaf. Gwelltyn plu’r gweunydd wedi iddo wywo a chochi’n lliw gwaed sy’n rhoi’r ansoddair ‘coch’ i amryw o’n corsydd yng Nghymru. Trysor i ninnau heddiw yw’r ddaear yma a’i chyfrinachau a hefyd ddealltwriaeth a pharch ein hynafiaid ohoni.

byd natur a pheidio torri unrhyw flodyn na chyffwrdd mewn nyth Ynaderyn.ygwanwyn yn arbennig, byddwn yn awyddus i gael cwmni arbenigwr i’n tywys a’n dysgu am ecoleg a byd natur yn gyffredinol ac am arferion yr adar, nythod, enwau blodau a choed ac ati.

Ac mae’r parch i Wil Ifor Jones hefyd wedi aros ar hyd y blynyddoedd. Coffa da amdano. PM Ysgrif arall gan Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o’r Dyffryn, gynt) o’r llyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i’w deulu a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi erthyglau Wil yn Llais Ardudwy. Y tywydd gwlyb tyner a gawsom yn ddiweddar a ddaeth a glesni i’r meysydd. Mae arwyddion o dyfiant fel hyn yn dderbyniol iawn i ni heddiw ond golygai lawer mwy i’n cyn-deidiau o ffermwyr a thyddynwyr. Yn yr amser a fu dibynnai’r ffermwyr yn llwyr ar y cnydau a godai o’i dir ei hun am borthiant i’r creaduriaid yn y gaeaf. Ni ellid archebu llwyth o fyrnau gwair o lawr gwlad Lloegr fel heddiw. Felly wedi hirlwm maith deuai’r cyffro yn y tir a gobaith am gynhaliaeth am flwyddyn arall. Un o’r arwyddion cynharaf o’r cynnwrf yn y borfa oedd pennau duon y filfyw (Luzula campestris).

21

22

WYTHNOS AWYR DYWYLL

MINECRAFT

Cafwyd diwrnod o hwyl ar ddydd Gwener, Mawrth 18, sef Diwrnod y Trwyn Coch. Bu’r Cyngor Ysgol yn brysur yn trefnu diwrnod o hwyl i’r holl ddisgyblion a’r staff. Daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel arwyr neu mewn gwisg ffansi. Cerddodd pawb i fyny i dop Harlech i Gaffi Wilderness i gael hufen iâ. Prynodd bawb drwyn coch a hefyd cacenni blasus gan Anti Gwen, y gogyddes. Yn y pnawn, cafwyd gemau amrywiol a disgo i orffen y diwrnod.

Cymerodd disgyblion B5 a 6 ran mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Parc Cenedlaethol fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru. Roedd angen gwneud model o Gysawd yr Haul ar gyfer y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau cynnes i Lili Mai Evans, Tolis Walters, Aron Roberts, Tommy Hooban, Daniel Roberts a Kai Griffiths am ddod i’r brig. Dyma’r criw gyda’u gwobr, sef glôb rhyngweithiol o blaned Mawrth. Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am y blaned. Da iawn chi blantos.

Casglwyd £200 at yr achos da hwn. Da iawn chi a diolch i Gaffi Wilderness am yr hufen iâ blasus. BEICIO Ar Fawrth 8 a 9, bu disgyblion B6 yn cymryd rhan mewn hyfforddiant beicio. Yn ystod yr hyfforddiant roedd rhaid iddynt ddangos nifer fawr o fedrau ar gyfer beicio ar y ffyrdd. Llongyfarchiadau i’r criw yma am basio Lefel 1 a 2. CYSTADLEUAETH MINECRAFT Llongyfarchiadau fil i Siôn Williams sydd wedi sicrhau gwobr o het cefnogwyr pêl-droed CymruYsbryd 58 iddo ef ei hun a thystysgrif am ennill cystadleuaeth Minecraft Mentrau Iaith y Gogledd. Mae’r teulu yn cymryd diddordeb mawr mewn pêl-droed ac maen nhw wrth eu bodd hefo’r wobr.

NEWYDDION YSGOL TANYCASTELL

GWNEUD Y PETHAU BYCHAN Ar ddiwrnod Gŵyl Ddewi, bu disgyblion Derbyn/B1 a 2 yn gwneud y pethau bychan o gwmpas Harlech. Roeddent yn rhannu cennin Pedr, cacenni cri a bara brith i gymdogion yr ysgol.

DIWRNOD TRWYN COCH

yn y rhifyn diwethaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y Theatr, cysylltwch â Janice Horrocks, Cadeirydd presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at: chairman@dragontheatre.co.uk Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091 YMGEISYDDETHOLIAD Ann Griffith, merch leol – ymgeisydd Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd ar Fai Ces5ed i fy magu yn Rhif 12 Porkington, merch i Dorothy a Llewelyn Griffith, a mwynhau rhyddid i grwydro’r traethau a’r mynyddoedd pan oeddwn yn ifanc. Roedd Capel Siloam a Theatr y Ddraig yn bwysig i mi. Rydw i’n falch iawn o ’ngwreiddiau ym Meirionnydd, y morwyr, y seiri maen, y mwynwyr aur a’r chwarelwyr llechi a sefydlodd y dref arbennig hon. Ar ôl cyfnod o deithio, cefais yrfa foddhaus fel Gweithiwr Cymdeithasol ac Ymgynghorydd Gofal Cymdeithasol. Yn 2016, roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae gen i fab, Twm Meirion a thri chi, Deio, Celt a Guto.

23 Y BERMO LLANABERA

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286 Diolchiadau Dymuna teulu’r diweddar Jennie Williams, Caerddaniel, Llanaber ddiolch i bawb am y cardiau, negeseuon a’r caredigrwydd a estynnwyd atynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain oedd mor annwyl a dymunol. Diolch i’r Parch A Brian Evans am ei wasanaeth ddiffuant ag i’r ymgymwerwyr Glyn Rees a’i Fab am y trefniadau trylwyr. Diolch am y rhoddion tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru. Mae hiraeth mawr ar ei hôl, roedd mor annwyl a charedig tuag atom i gyd. Rhodd: £20.00

am ddod yn hen-hen nain. Darllenwyd gohebiaeth o’r swyddfa: Gŵyl Ranbarth yn Neuadd Rhydymain ar 27 Ebrill; Gŵyl y Pum Rhanbarth ar 14 Mai. Croesawodd Grace ein siaradwraig Ann Edwards atom. Mae Ann yn enedigol o’r Bermo ac yn ferch i’r diweddar Llew a Dorothy Griffiths, Brookside. Bu’n sgwrsio yn ddifyr a doniol am ei phlentyndod a hefyd am y teulu a chymeriadau’r dref. Roedd yr aelodau wrth ei bodd mynd dros yr hen hanesion. Yn ferch ifanc, aeth i Awstralia i weithio a gweld teulu. Ar ôl dod adref bu’n weithiwr cymdeithasol, yn Gynghorydd Sir ar Ynys Môn ac yn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru. Diolchodd Llewela i Ann am bnawn diddorol a chartrefol. Byddwn yn cwrdd nesa ar Ebrill am 2.00. y Ddraig Trwy amryfusedd, collwyd y llinell olaf yn ein nodyn

5

Theatr

Merched y Wawr Ar 15 Mawrth daeth criw bach ohonom ynghyd yn y Ganolfan CafwydHamdden.gair o groeso gan ein llywydd, Llewela. Danfonwyd ein cydymdeimlad a’n cofion at Heulwen a’r teulu yn eu Llongyfarchiadauprofedigaeth.iLorraine

Triathlon Harlech – gan un â’i gwreiddiau yn Harlech Wel, am ddiwrnod bendigedig o braf, dydd Sul 27 Mawrth, i gynnal Triathlon FeHarlech!wnesi benderfynu cymryd rhan yn y Triathlon yma yn 2020, ond wrth gwrs fe ddaeth y clo, a 2 flynedd yn ddiweddarach dyma’r digwyddiad yn cael ei gynnal. I ddathlu fy mhen-blwydd yn 60 oed yn 2020 roeddwn wedi bwriadu rhedeg 3 ras:

3. ‘Goldrush’ yng Nghoed y Brenin, gan bod cysylltiadau yn yr ardal yma ar ochr fy mam - cafodd fy mam ei magu yn Dol Sera ac yna roedd yn byw yn Llanelltyd cyn priodi a symud i Ddeganwy. Byddaf yn edrych ymlaen at redeg y ras yma ar y 23 YEbrill.gamp gyntaf yn Triathlon Harlech oedd nofio 400 metr yn y pwll nofio. Dwi’n cofio’r pwll nofio yn newydd sbon, a threuliais amser difyr a hwyliog yn fan hyn efo’r teulu; cofio dysgu sut i nofio (o ryw fath) yma a edmygu fy nghyfnitherod, Haf a Nia (o Lanfair) yn gwneud campau yn y dŵr. Allan a fi wedyn ar y beic, ac roeddwn reit ffyddiog gan mai dyma fy nisgyblaeth gryfaf – 20K draw at Ynys, dros y rheilffordd a phedlo mor gyflym ac y gallaf tuag at Harlech drwy goed Llechwedd ac yn edmygu’r golygfeydd yn gwibio heibio cyn troi rownd yn ymyl tŷ nain (y diweddar Jennie Meredith Evans), Awelfryn, a hen garej Yncl Ed (Edgar Kilmister), cofio’r siop chips a’r caffi lle’r oedd Ffred a Marti (Ashwood) yn gweithio’n brysur. Yn ôl a fi a chael cip o’r castell a chofio’r ffraeo a fu rhwng fi a’m mrawd a chwaer – pwy oedd y cyntaf i weld castell Harlech wrth deithio yn y car o Ddeganwy pob pythefnos i weld Nain Harlech. Y gamp rŵan oedd cofio pa res i roi’r beic ar y bar haearn yn y trawsnewidiad yn y cae yn ymyl y pwll nofio. Yna rhedeg i lawr y ffordd i gyfeiriad y traeth, a’r coesau braidd yn simsan ar ôl y beic. At y twyni tywod ac ow! Y tywod yn feddal feddal, a theimlo’n hun yn suddo ond yn benderfynol i ddal ati i redeg. Cyrraedd y traeth a throi i’r dde a’r golygfeydd draw i Ben Llŷn yn gwneud i mi anghofio’r teimlad anghyfforddus a’r llais yn fy mhen yn sgrechian arnaf i stopio! Troi yn ôl ar ôl rhyw filltir a rhedeg o flaen Ysgol Ardudwy ac ar ôl rhyw 2 filltir croesi’r ffordd, i lawr llwybr a chroesi’r rheilffordd cyn dod at risiau cerrig y castell – amhosib i redeg rŵan wrth ddringo’r grisiau anwastad ac ar y diwedd cael croeso mawr gan Brenin a Brenhines y castell. Yn y Neuadd Goffa roedd croeso mawr a brechdan bacwn a phaned o goffi gan Heulwen a’r criw. Rwyf yn perthyn i grŵp Triathlon o Landudno, sef Clwb Triathlon y Gog. Roedd 65 o aelodau’r clwb yn cystadlu. Er mawr syndod i mi roeddwn yn drydydd yn fy oedran (merched 60+), gydag amser o 1:36:07 (nofio 11:07, T1 01:59, beic 46:24, T2 01:44, rhedeg 34:55). Hwn oedd y Triathlon cyntaf i mi ei wneud ers 2019. Roedd croeso cynnes a phawb mor barod i helpu. Mae’r Triathlon yn Harlech yn un da i wneud – ac yn addas i unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig arni. Da iawn i Clwb Triathlon Harlech am gynnal y Triathlon ac i Anelu/Always Aim High Events am drefnu. Llinos Davies, Deganwy Diolch i Gwynfor James, Sportpictures Cymru, am ganiatâd i ddefnyddio ei luniau o Llinos.

1. Triathlon Harlech, gan mai dyma’r ardal lle’r oedd fy nhad yn byw cyn iddo briodi.

2. Marathon Eryri – Roeddwn wedi edmygu fy nhad yn rhedeg y ras yma, a dyma fi yn penderfynu mynd amdani. (Rwy’n edrych ymlaen i redeg hon ar y 31 Hydref 2022).

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook

Articles inside

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.