Llais Ardudwy Mawrth 2022

Page 1

RHIF 517 - MAWRTH 2022 Merched y Wawr Harlech a Llanfair yn dathlu 10 mlynedd yng nghwmni Martin Eckley yn 1981

MyW yn Dathlu 50 Ym mis Rhagfyr 1971, cafodd Margaret Eckley ei hannog i gychwyn cangen Merched yWawr yn Harlech a Llanfair. Penderfynwyd, oherwydd Cofid-19, ohirio’r dathlu hanner can mlynedd ein bodolaeth hyd Mawrth 2022. Daeth tair gwraig wadd i’r dathlu, Freda y Swyddog Datblygu, Geunor yr Is-lywydd cenedlaethol ac Olwen, sy’n enedigol o’r Ynys, ac yn Llywydd y Rhanbarth. Braf oedd cael eu cwmni yn y Victoria, Llanbedr. Cafwyd pryd blasus wedi ei weini mewn ystafell wedi’i haddurno’n bwrpasol ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi. Cyflwynwyd mwg i bob aelod i gofio am y garreg filltir nodedig, heb anghofio bag bach o felysion a gafodd pob aelod yn anrheg gan Jennifer.

Llais Ardudwy 70c

Beth fuasech chi’n ei wneud efo £5,000? Buaswn i yn ei rannu gyda’r plant a’r wyrion a’r wyresau – neu llogi tŷ mawr am wyliau i’r teulu rhywle yng Nghymru. Eich hoff liw a pham? Rydw i’n hoff iawn o bob lliw, yn tueddu mynd am liwiau mwy llachar yn ystod yr haf. Eich hoff flodyn a pham? Does dim hoff flodyn gen i, ond rhain sydd orau gen i: cennin Pedr, briallu, rhosod, blodau tegeirian a ‘freesias’.

HOLI HWN A’R LLALL

2. Anwen Roberts Craig y Nos, Llandecwyn 01766 anwen15cynos@gmail.com772960

Lle cawsoch chi’r gwyliau gorau? Dan ni wedi bod yn Canada pan oedd y ferch yn byw yno. Gwlad lân a phrydferth iawn. Buom hefyd yn y Dominican Republic i briodas y mab. Trip ffantastig eto! I Ffrainc rydan ni wedi bod yn mynd am wyliau am sawl blwyddyn – llawer o hwyl, partïo a chwrdd â hen gyfeillion. Beth sy’n eich gwylltio? Pobl hunanol, sy’n meddwl am eu hunain o hyd – a ddim yn fodlon rhannu ag eraill. Pobl diamynedd a gwleidyddion. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Mae ffrind da yn ddibynadwy, yn ffyddlon ac yn amyneddgar. Hefyd yn gariadus ac yn cefnogi bob amser. Pwy yw eich arwr? Does dim yn arwr arbennig gen i – ond wedi edmygu’r Frenhines am ei ffyddlondeb. Dwi hefyd yn edmygu Syr Tom Moore am ei ymdrech arbennig dros yr NHS, a gwirfoddolwyr sy’n gweithio a chasglu at achosion da. Pwy ydych chi’n edmygu yn yr ardal hon? Dwi’n edmygu pobl sy’n gweithio yn wirfoddol yn yr ardal – ac at les y gymuned. Beth yw eich bai mwyaf? Rydw i’n gweld popeth yn ddu neu’n wyn, does gen i ddim hanner ffordd mae arna’i ofn. Os oes rhywbeth angen ei wneud – rhaid ei wneud yn syth bin! Beth yw eich syniad o hapusrwydd? I mi, hapusrwydd yw cael iechyd da, teulu iach a hapus, ffrindiau da, cartref clyd ac esmwyth.

SWYDDOGION Cadeirydd Hefina Griffith 01766 780759 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis 01341 241297 Min y Môr, ann.cath.lewis@gmail.comLlandanwg Trysorydd Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 llaisardudwy@outlook.com2NA Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis 01341 241297 Min y Môr, iwan.mor.lewis@gmail.comLlandanwg CASGLWYR NEWYDDION YLLEOLBermo Grace Williams 01341 280788 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts 01341 247408 Mai Roberts 01341 242744 Susan Groom 01341 247487 Llanbedr Jennifer Greenwood 01341 241517 Susanne Davies 01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith 01766 780759 Bet Roberts 01766 780344 Harlech Edwina Evans 01766 780789 Ceri Griffith 07748 692170 Carol O’Neill 01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Anwen Roberts 01766 772960 Gosodir y rhifyn nesaf ar Ebrill 1 a bydd ar werth ar Ebrill 6. Newyddion i law Haf Meredydd erbyn Mawrth 27 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei Dilynwchllafar.’ ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy GOLYGYDDION 1. Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 pmostert56@gmail.com780635

Rydyn ni’n hoffi mynd i’r garafan ym Mharc Carafanio Pencelli, ger Aberhonddu, lle rydan ni’n cael heddwch ac yn ymlacio. Mae’r ardal yn fendigedig a’r bobl yn gyfeillgar yno.

2

Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Fy hoff gân yw ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn. Dwi’n hoff iawn o ganeuon Dafydd Iwan, hen ganeuon Cymreig, cerddoriaeth

Andre Rieu a Neil Diamond. Pa dalent hoffech chi ei chael? Gallu reidio beic! Doedd rhiw Penllech ddim y lle gorau i ddefnyddio beic. Dwi wedi mynd yn rhy hen erbyn hyn. Eich hoff ddywediadau? O’m plentyndod yn y gogledd: Pen punt a chynffon ddima. Dwi wedi cael llond bol. Gwell hwyr na hwyrach. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Yn hapus a bodlon ar y bywyd sydd ganddon ni rŵan. Dwi’n gobeithio na fydd rhyfela mewn gwahanol fannau y byd yn ymyrryd ar ein hapusrwydd.

Enw: Gwenfair Davies (Roberts gynt) Gwaith: Wedi ymddeol fel athrawes ers tro ar ôl dysgu yn Sutton Coldfield, Aberteifi ac Abergwaun. Cefndir: Cefais fy ngeni yn Llys Mair, Harlech, yn ferch i Hugh a Mary Roberts. Rydw i yn un o bedwar plentyn, ond bu farw ein chwaer yn ifanc iawn. Cawsom blentyndod hapus iawn. Roedd Mam a Dad yn garedig i lawer o fyfyrwyr yng Ngholeg Harlech – yn eu bwydo yn aml. Ymunes i â chôr y Coleg ac ro’n i’n mynd i’r dawnsfeydd yno. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Bwyta yn weddol iachus. Mynd i gerdded ambell waith – ond ddim digon. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Ar hyn o bryd ar ganol darllen ‘Small Island’ gan Andrea Levy, a ‘The Salt Path’ gan Raynor Winn. Darllen yr iPad ar iPhone. Dydw i ddim yn darllen llawer yn y Gymraeg. Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Dwi ddim yn gwrando ar y radio. Rydw i’n hoff iawn o Noson Lawen a rhai rhaglenni Cymraeg, cyngherddau ac ati. Dwi wrth fy modd yn gwylio Cymru yn chwarae rygbi, ‘Weather Man Walking’, ‘The Repair Shop’ ac, wrth gwrs, ‘Strictly Come Dancing’ Ydych chi’n bwyta’n dda? Rydan ni’n hoffi bwyd da! Mae Tony, fy ngŵr, yn coginio bwyd blasus iawn. Rydyn ni’n bwyta salad amrywiol gyda sawl pryd. Hoff fwyd? Rwy’n hoff iawn o bysgod – cranc, cimwch, maelgi a draenog y môr. Hefyd yn mwynhau cyw iâr, salad, tato pôb, ffrwythau a iogwrt. Mae ambell i wydraid o win gwyn neu rosé yn mynd i lawr yn dda. Dwi yn yfed coffi, dŵr lemon a leim, a diod blodyn yr ysgawen. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Y teulu i gyd – sy’n niferus. Lle sydd orau gennych?

3. Haf Newyddion/erthyglauMeredydd i: 01766hmeredydd21@gmail.com780541,07483857716

3 Y GEGIN GEFN CYSTADLEUAETH GOGINIO Y GEGIN GEFN

Dull Golchi’r genhinen a’i thorri yn ddarnau. Toddi 1 owns o’r menyn a chynnwys y genhinen a’i choginio am tua 5 munud, yna tynnu’r genhinen allan a’i hychwanegu at y tatws. Cymysgwch yn dda a’i roi yng ngwaelod dysgl bopty. Torrwch y wyau yn eu hanner ar eu hyd a’u gosod yn y ddysgl a’u pen i lawr yn y tatws a’r Cynheswchcennin.yrowns o fenyn sydd ar ôl ac ychwanegu y blawd ato. Yn ara deg, ychwanegwch y llefrith a gwylio rhag ofn iddo fynd yn lympiau! Mi fydd y saws yn tewychu fel y bydd yn coginio; yna adiwch y caws wedi ei gratio a chadw dipyn i’w roi ar y top. Rhowch y saws caws ar ben y wyau ac ychydig o gaws wedi ei gratio drosto. Rhowch yn y popty ar 370 gradd C nes y bydd wedi brownio. Mi allwch ei fwyta fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs gyda bacwn neu gig o’ch dewis. Digon i ddau unigolyn. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau! Rhian Mair Jones, Tyddyn y Gwynt gynt

A dyma gampweithiau Bethan Haf Williams, 6 oed o Altrincham. Doedd ganddi hi ddim eisin coch ond, er hynny, mae wedi llwyddo i greu dipyn o sioe!

Casi Roberts o 2 Castell y Gog, Dyffryn Ardudwy, 10 oed gyda’i champwaith. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dyffryn ac yn hoff o wneud crefftau o bob math. Yn y rhifyn diwethaf, fe wnaethon ni ofyn i’r plant wneud Pwdin Bisgedi Brau neu Gacennau Bach Siocled i ddathlu Gŵyl San Ffolant.

Wyau Sir Fôn Rysáit 10 owns o datws wedi eu mathru 22(stwnshio)genhinenŵywedieu berwi’n galed 2 owns o fenyn 1 llond llwy fwrdd o flawd plaen Cwpanaid o lefrith/laeth (1/4 peint) Pupur a halen 3 owns o gaws aeddfed wedi ei gratio.

Mae Mared a Gethin Evans, Llys Enlli, Tal-y-bont hefyd wedi bod yn coginio ar gyfer y gystadleuaeth. Yn wir, fe ddaru Mared greu pwdin bisgedi brau gyda mefus a chacennau bach siocled. Diolch i bawb am gystadlu. Mae’r wobr gyntaf ar ei ffordd i Casi. Llongyfarchiadau gwresog iti, Casi. Bydd gwobr hefyd yn mynd i Bethan Haf, Mared a Gethin am eu gwaith clodwiw. Diolch i Rhian Jones a Janet Mostert am gytuno i noddi’r gystadleuaeth. [Gol.]

Un o ymadroddion Beirdd yr Uchelwyr ar adeg fel hon oedd ‘torri brenhinbren’. Ystyr y gair brenhinbren ydi ‘y goeden fwyaf’ neu ‘derwen fawr ganghennog’. A dyna Evie i’r dim; wedi’i wreiddio yng Nghwm Nantcol ond ei gyfraniad a’i ddylanwad yn ymestyn yn bell tu hwnt i’w ardal, i’w sir a hefyd i’w wlad. Y pennaf o’n cymwynaswyryn enwedig o safbwynt y diwylliant Cymraeg yn yr ardal hon a thu hwnt; a dwi’n defnyddio’r gair ‘diwylliant’ yn ei ystyr Dewchehangaf.ynôlat y brenhinbren a’r goeden fawr ganghennog. Sawl cangen oedd i’r goeden hon? Dim ond ei deulu agos sy’n gwybod yn iawn sawl cangen oedd i gyfraniadau Evie,Evie. â Heulwen yn gefn mawr iddo, fu’n gyfrifol am yr asbri ym mywyd Cwm Nantcol ers imi ddod i fyw i’r ardal yn y 70au cynnar ac ar hyd y degawdau wedyn. Eisteddfodau lleol, Cymdeithas y Cwm, yr Urdd, Capel y Cwm a Chapel y Ddôl, gyrfaoedd chwist, y Ffermwyr Ifanc a Thîm Ymryson y Beirdd. Roedd ganddo fo ddeinamo pwerus iawn. Roedd yn weithgar iawn efo pobl ifanc, yn llywodraethwr mewn dwy ysgol ac yn gefn mawr i fudiad y Ffermwyr Ifanc yn lleol ac yn sirol. Roedd yn gynghorydd lleol a sirol ac ar bob math o bwyllgorau megis Theatr Ardudwy a Gwasanaeth Tân y Gogledd. Yn 2008, fo oedd Cadeirydd y Cyngor Sir. Roedd yn amaethwr blaengar ac ar flaen y gad gyda sawl datblygiad. Roedd yn swyddog poblogaidd gyda’r Weinyddiaeth Amaeth rhwng 1966 a 1994 a chafodd groeso cynnes iawn ar sawl aelwyd oherwydd ei natur hynaws, ei bersonoliaeth mynwesol a’i ddealltwriaeth o’i waith. Dyn glandeg, smart a thrwsiadus bob amser. Dyn eang ei weledigaeth, dyn galluog, yn chwim iawn ym maes mathemateg ac roedd ganddo lawysgrifen gymen iawn.

Roedd o hefyd yn ddarllenwr brwd. Gallwn draethu’n faith am ei gyfraniadau i fyd amaeth – yn ysgrifennydd sioe gŵn yn Harlech a Dyffryn Ardudwy, yn weithgar efo’r Sioe Sir, lle roedd yn flaenllaw ar y corn siarad am flynyddoedd. Fo oedd llywydd y Sioe Sir yn 2010. Roedd hefyd yn un o reolwyr Cwmni Clunderwen a Cheredigion. Sut oedd o’n cael amser i wneud hyn oll? Sut oedd o’n cael amser i ffermio? Fel mae’r hen air yn ei ddweud, ‘Os ydych chi am ofyn cymwynas, gofynnwch i ddyn prysur!’ Prin y medrai ef a Heulwen symud ar gae y Sioe Sir neu Sioe Llanelwedd neu faes yr Eisteddfod Genedlaethol heb ddod wyneb yn wyneb â rhywun cyfarwydd. Roedd yn nabod pawb a phawb yn ei nabod o. Roedd yn Gristion o argyhoeddiad ac yn weithgar yng Nghapel Nantcol a Chapel y Fro. Braint arall oedd iddo gael ei godi’n flaenor yng Nghapel y Ddôl yn 2006. Fo oedd yn parhau i drefnu Suliau hyd y diwedd. Roedd yn un o’r hoelion wyth yn sicr. Nid dyn y cysgodion oedd Evie ond dyn oedd yn gweithredu, yn llythyru, yn ffonio i sicrhau siaradwyr, yn gofalu am adloniant, ac yn aml yn gofalu am yr ochr ariannol, yn cefnogi’n ymarferol i sicrhau graen ar Miweithgareddau.weloddyrAwdurdodau ei ddoniau amlwg pan benodwyd ef yn Ynad Heddwch. Bu ei ddoethineb, ei Gristnogaeth a’i natur bonheddig yn gefn mawr iddo yn y swydd honno am chwarter canrif. Fe ŵyr pawb pa mor weithgar oedd o efo’r Eisteddfod Genedlaethol – yn ddirprwy brif stiward ym Mro Madog yn 1987, yn Is-lywydd yn Steddfod Bala yn 2008, lle roedd o mor falch o weld ei ŵyr, Rhys, yn un o’r macwyaid. Yn 2009, mi gafodd ei gyfraniad i’n diwylliant ei chydnabod ac roedd wrth ei fodd yn derbyn y Wisg Wen yn yr Orsedd. Fe glywais o le da na chafodd ei enwebiad ei drafod gan Fwrdd yr Orsedd. Cynigwyd ac eiliwyd gan nad oedd angen unrhyw drafodaeth cyn cynnig yr anrhydedd iddo fo. Oni bai amdano fo, dydw i ddim yn meddwl y buasai cystal llewyrch ar Gôr Meibion Ardudwy. Wynebodd y Côr sawl her dros y blynyddoedd, rhai bach a mawr, ond mi oedd Evie yn benderfynol fod y Côr yn mynd i barhau ac fe weithiodd yn ddiarbed i sicrhau hynny. Bu’n gadeirydd y Côr ar dri achlysur gwahanol, bu’n aelod ers 1954 [68 mlynedd], ac ef, tan ei farwolaeth, oedd Llywydd Anrhydeddus y Côr. Bu hefyd yn arwain cyngherddau’r Côr am flynyddoedd gan ddangos dimensiwn arall i’w bersonoliaeth. Roedd ganddo hiwmor cynnes a rhyw ddireidi difalais. Yn yr un modd, ym myd eisteddfota a’i gyfraniad enfawr yn arwain gweithgareddau’r llwyfan – gallaf enwi o leiaf 10 eisteddfod – Cwm Nantcol, Gwynfryn, Ffermwyr Ifanc [Meirion a Chymru], Talsarnau, Harlech, Tal-ybont, Bala; Llanuwchllyn, Llandderfel, Llawrplwy a Phenstryd, a Llanfachreth.

• Y cyntaf oedd ei adnabyddiaeth lwyr o’r maes ee os oedd angen trefnu seremoni gadeirio

• Yr ail oedd adnabyddiaeth o’r prif gystadleuwyr. Gallai gyflwyno cystadleuydd heb holi neb am ei enw. Dyn oedd yn nabod pawb oedd o.

Roedd hefyd yn un o arweinyddion yr Ŵyl Cerdd Dant yn Harlech yn 1974. Gwn iddo gael ei anrhydeddu gan bwyllgorau niferus am ei gefnogaeth a hynny’n aml iawn heb ofyn dimai o dâl.

4 COLLI’R BRENHINBREN

Roedd ganddo dri chryfder mawr ar lwyfan eisteddfod.

• A’r trydydd oedd ei fod yn nabod ei gynulleidfa. Dyn pobl oedd Evie. Bu hefyd yn un o olygyddion Llais Ardudwy. Roedd yn un o bedwar bryd hynny. Daliodd ei ddiddordeb yn y papur hyd y diwedd un. Byddai ar y ffôn yn weddol aml, yn canmol ac yn cynnig syniadau. ‘Mae gen i awgrymiadau am bobl fedrai lenwi holiadur ‘Holi Hwn a’r Llall’ i ti!’ Ac nid cynnig yr enw ond mynd yr ail gam wedyn. ‘Mi ffonia i o, mi fedra i yrru copi iddo fo.’ Fel mewn llawer i faes - gweithredu nid dim ond addo ei gefnogaeth. Mae dyled y papur i Evie

EVIE MORGAN JONES [1936-2022]

Ag

Rhoi’i

Rhoes dant yn nhelyn Nantcol A sain ei dinc seinia’i dôl.

5 yn Bûmdrwm.yncydweithio’n agos efo fo yng Nghymdeithas Cwm Nantcol. Er mai fi oedd y Cadeirydd yn ddiweddar, Evie oedd wrth y llyw. Fo oedd yn gwneud y gwaith caib a rhaw. Trefnu’r pwyllgor, helpu i sicrhau siaradwyr, teipio ac argraffu rhaglen, cadw’r cyfrifon a pharatoi mantolen ariannol. Nodais ei fod yn nabod pawb ac roedd hynny’n fendith fawr i Gymdeithas y Cwm. Roedd y fantolen ariannol bob amser yn batrwm ac er nad oes tâl aelodaeth, mae’r Gymdeithas yn parhau i ffynnu oherwydd parodrwydd Evie i roi ysgwydd dan y gwaith - heb anghofio haelioni nifer fawr o garedigion – y rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelodau ei deulu ei hun! Mi fydd colled enfawr ar ôl y dderwen fawr ganghennog yn yr ardal hon ond mi fydd y golled fwyaf ar aelwydydd Heulwen, Aled ac Eleri, Gwenan ac Arfon heb anghofio Aron, Rhys, Elliw, Siôn, Dylan ac Iwan a’i ddwy chwaer, Gweneira a Jean, a’r teulu estynedig. Mi gânt gysur o gofio’r amseroedd da a chysur o gofio am ei ofal, ei hawddgarwch, ei hiwmor a’i gyngor Diolchdoeth. am iddo gael oes dda a chynhyrchiol a diolch am gawr o ddyn a wnaeth gymaint o waith dyrchafol dros bethau gorau ein cenedl. Diolch am gael ei adnabod y brenhinbren. Diolch am holl nawdd y dderwen fawr ganghennog. Diolch, diolch yw ein cân. Gwyn ei fyd o. PM

Penybryniau, Dyffryn Ardudwy - {Cefn Uchaf, Cwm Nantcol gynt} Amaethwr, Arweinydd Eisteddfodau, Cynghorydd, Cwmniwr, Cymwynaswr, Capelwr, Carwr ‘Y Pethe,’ Cyfaill Cwm Nantcol brofodd olud - ei allu, Diwylliodd ei weryd, A bri roes Evie hefyd I’r rhan fechan hon o’i fyd. Ef a roes urddas i’w fro Yn wylaidd drwy’i hanwylo; Plethu wnaeth ddysgeidiaeth gŵr  gwarineb gwerinwr.

Bydd maith yr hiraeth weithian - i Heulwen Ac Aled a Gwenan Am ŵr hoff gymerai ran afiaith drwy’i oes gyfan. Fel arwr, bu’n frwydrwr o fri! - Yn un I fwynhau ei gwmni, A dygnwch brwd ei egni Fu’n cryfhau’n heneidiau ni. Conglfaen o’r radd flaenaf - yn mynnu gymuned gyntaf; I’w encil aeth yn ŵr claf Drwy wal ei frwydr olaf. Iwan Morgan Evie Morgan Jones Anodd yw cau y llenni - i Heulwen Ar aelwyd ddigwmni, Atgofion lif am Evie Ddaw o hyd i’w hannedd hi. Mair LlanystumdwyEvansEnglyn i Evie Diamod fu i fyd amaeth - ein hiaith A ‘Phethe’n’ hunaniaeth, Mae sôn am ei wasanaeth A’r hyn oll yn wir a wnaeth. Huw Dafydd DIOLCHIADAU Dymuna Heulwen, Aled, Gwenan a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Evie Morgan, priod, tad a thaid arbennig iawn. Diolch diffuant i’r Parch Christopher Prew am wasanaeth urddasol ddydd yr angladd ac hefyd diolch i’r Parch Iwan Llewelyn Jones am ei wasanaeth arbennig wrth yr organ. Cafwyd teyrnged haeddiannol gan Phil Mostert ac mae ein diolch yn fawr iawn iddo. Yn ogystal diolch i Iwan Morgan am farddoniaeth wych a ddarllenwyd ganddo yn ystod y gwasanaeth. Dau ffrind mynwesol i Evie dros nifer o flynyddoedd. Hyfryd oedd cael presenoldeb aelodau o Gôr Meibion Ardudwy a ffurfiodd osgordd i ffarwelio ag Evie a fu’n aelod ffyddlon am oddeutu 60 o flynyddoedd; roedd y Côr yn agos iawn at ei galon i’r diwedd. Daeth tyrfa luosog i’r angladd a gwerthfawrogwyd eu presenoldeb yn fawr iawn. Derbyniwyd rhoddion hael o £3000 er cof am Evie fydd yn cael ei drosglwyddo i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch arbennig i Malcolm o gwmni Pritchard & Griffiths am y trefniadau trylwyr a theimladwy. Rhodd £30

6 Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.uk Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross TOYOTAnewydd!HARLECHFforddNewyddHarlechLL462PS01766780432www.harlech.toyota.co.ukinfo@harlechtoyota.co.ukFacebook.com/harlechtoyotaTwitter@harlech_toyota Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y https://bro.360.cymru/papurau-bro/llaisardudwy/docshttp://issuu.com/we.neu Llais Ardudwy LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Meinciau a bwrdd picnic yn yr ardd gymunedol newydd yn Llanbedr Pen-blwydd hapus Dymunwn ben-blwydd hapus i Pip Wynne. Dyma hi efo cerdyn gan ei hwyres, Katie o Seland Newydd. Eglwys Huchenfeld Bydd cyswllt Zoom yn digwydd gyda’r nos ar 17 Mawrth rhwng Llanbedr a phentref Huchenfeld yn yr Almaen. Bydd cyfle i weld gwasanaeth yn Eglwys Huchenfeld i gydnabod y dyddiad y lladdwyd aelodau o griw awyren John Wynne. Os am fanylion pellach neu gyswllt â’r gwasanaeth, cysylltwch â Jennifer ar 01341 241517. Mae perthynas y ci defaid doeth, Mot, a’i berchennog, Lea yn un agos a chariadus. Ond, tybed fedrith Mot ddefnyddio’i ddoethineb a’i sgiliau i ddewis y cariad perffaith i Lea? Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes gan un o awduron gorau Cymru sy’n trafod cariad, ffyddlondeb a heneiddio.

Clwb Cawl Bydd y Clwb Cawl yn ailddechrau ar ddydd Iau Mawrth 10 yn Neuadd y Pentref, Llanbedr am hanner dydd. Cawl, brechdan, panad, cacen a sgwrs. Diwrnod Jiwbili, Mehefin 5 Parti plant ac oedolion yn y Parc, Cae Chwarae, Llanbedr. Yr amser i ymgynnull eto i’w gadarnhau. Byddwn yn gofyn am wirfoddolwyr cyn bo hir.

7 CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317 60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd … Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG * Gofal personol 24 awr * Capel Gorffwys * Cynlluniau Angladd Rhagdaledig HEOL DULYN, TREMADOG Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk Trefnwyr Angladdau • Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 post@pritchardgriffiths.co.uk512091

Cydymdeimlad Ar y 7fed o Chwefror, bu farw Mr Evie Morgan Jones, Penybryniau, Dyffryn, yn 85 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod Heulwen, ei blant Aled a’i wraig Eleri a Gwenan a’i phriod Arfon, at ei wyrion a’i wyres Aron, Rhys, Elliw, Siôn, Dylan ac Iwan ac at ei chwiorydd Gweneira a Jean a’r teulu oll yn eu profedigaeth. CYMRU

WYTHNOS FRECWAST AMAETHWYR

CYNGORTHAL-Y-BONTDYFFRYNCYMUNEDA

UNRHYW FATER ARALL Datganwyd pryder bod tair carafan statig bellach wedi eu lleoli yn Bryn Bywyd a chytunwyd i gysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder ynglŷn â chyflwr Eglwys Llanenddwyn sydd bellach wedi cau a bod cyflwr y waliau cyfagos a phorth y fynwent wedi dirywio er bod y safle yn gradd 2*. Cytunwyd i gysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol ynglŷn â hyn.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT 8 Brecwast Fel rhan o Wythnos Frecwast Ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru, cafwyd cyfle i drafod materion ffermio dros baned a brecwast ar ddydd Llun, Chwefror 7 yng Nghaffi Cymunedol Dyffryn Ardudwy a’r gobaith oedd codi arian hanfodol i elusen Llywydd UAC, sef Sefydliad DPJ. Cydymdeimlad Ar y 9fed o Chwefror yn Llanegryn bu farw Mr Ian Edward Rutherford, priod Catrin Dwyryd, tad Tristan a Tesni a thaid Macsen, Moya, Edward a George. Bu Mr Rutherford yn rheoli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog am flynyddoedd ac roedd y teulu yn byw yn Llys Benar, Dyffryn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf atynt fel teulu. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb MAWRTH 13 Meinir Lloyd Jones 10.00 20 Parch Christopher Prew 5.30 27 Parch Glenys Jones 10.00 EBRILL 3 Parch Gwenda Roberts 10.00 Croesawyd Mr Michael Griffiths a Mr Dylan Hughes, o Ganolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy i amlinellu beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan yn ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau am ddod atom a chytunwyd i gefnogi’r Bwrdd efo’r cynlluniau sydd ganddynt. CEISIADAU CYNLLUNIO Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud nifer o newidiadau mewnol - Y Bwthyn, Taltreuddyn Fawr, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Codi estyniad ar y llawr cyntaf ac ar yr ochr - Murmur-yr-afon, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. CyngorGOHEBIAETHGwynedd – Adran Briffyrdd Nid yw y ffordd i fyny am Tal Ffynhonnau bellach yn cael ei chynnal a’i chadw ac o ganlyniad mae cyflwr y ffordd yn dirywio. Mae peiriannydd wedi ymweld â’r safle ac mae’n adrodd fod gwaith llenwi tyllau wedi ei wneud yn ddiweddar. Nid oedd diffygion ar y safle oedd yn creu pryder ond serch hynny, byddant yn parhau i’w monitro dros y gaeaf a pharatoi cynllun i wneud ychydig o waith clytio yno yn ystod mis Ebrill. Mae sylwadau’r Cyngor ynglŷn â’r angen am sylw ar ganllaw pont Tal-y-bont wedi eu hanfon ymlaen at eu Peiriannydd Strwythurol i gynnal asesiad a threfnu unrhyw waith angenrheidiol.

I lawer ohonom, bu llwybrau Coetir Cors y Gedol yn achubiaeth yn ystod y cyfnodau clo, gyda’u cyfyngiadau llym ar weithgareddau eraill. Mae’r llwybrau hefyd wrth gwrs, yn ddrws i ucheldir y Rhinogydd, os cychwyn y daith o Dal-y-bont. Wrth droedio’r llwybrau a mwynhau’r llonyddwch, prin fod y rhan fwyaf ohonom yn aros i feddwl am bwysigrwydd yr ecosystemau sydd o’n hamgylch. Mae’r coetir hynafol, sydd wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd, yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid bregus. Er mwyn ei ddiogelu, mae angen gwaith adfer gan ddefnyddio technegau sensitif megis defnydd o geffylau i logio’r coed. Ers dechrau Chwefror eleni, mae Coed Cadw, fel rhan o Brosiect Coedwigoedd Glaw Cymru, yn cyflawni’r gwaith sensitif yma. Gan fod y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’r ymddiriedolaeth wedi cael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud y gwaith. Allweddol hefyd wrth gwrs, yw cefnogaeth a chydweithrediad y Ceffylautirfeddiannwr.Gwaith

Carnog, sydd â’u cartref yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, sy’n gwneud y gwaith trwm o dynnu’r boncyffion i fan canolog, yn barod i’w cludo i ffwrdd o’r coetir. Cobiau Sipsi neu Wyddelig yw’r brîd, sy’n addas iawn i’r gwaith yn sgil anwyldeb eu natur a’u deallusrwydd ynghyd â’u cryfder, wrth gwrs. Maent yn deyrngar

ac yn awyddus i blesio ac nid syndod felly yw’r parodrwydd i gydweithio’n hwylus gyda’u triniwr. Mae defnyddio ceffylau i wneud y gwaith yn llai newidiol na phe defnyddid peiriannau Mae’rtrwm.gwaith sensitif o adfer a rheoli’r safleoedd yma, sy’n rhan mor bwysig a gwerthfawr o’n treftadaeth, yn sicrhau fod bioamrywiaeth rhyfeddol y coedwigoedd hyn yn cael ei warchod. Mae’r prosiect adfer yng Nghoetir Cors y Gedol yn mynd i wella ansawdd y darn pwysig yma o dir Ardudwy, gan sicrhau y bydd o hyd yn ‘lle i enaid gael llonydd’ i genedlaethau newydd o gerddwyr. Ray Owen

Derbyniwyd grant o £5,000 ar gyfer cynnal prosiect creadigol gyda disgyblion B3 a B4. Bu’r actores/llenor Siwan Llynor a’r cerddor Gai Toms yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol er mwyn cynnal gweithgareddau creadigol i hybu sgiliau llafar y plant. Mae’r gweithgareddau wedi eu seilio ar y cromlechi sydd gerllaw’r ysgol. Y gobaith yw creu perfformiad i gymuned ehangach yr ysgol ar ddiwedd y tymor.

Rheolaeth Coetir Cors y Gedol

9 Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy

Teyrnged i Howell Eric Jones

Ganwyd Dad yn y Bala ym Mehefin 1925, yr ail o bedwar o blant a aned i William ac Elizabeth Jones. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu i Gwm Teigl ger Llan Ffestiniog. Wedyn aeth i ysgol gynradd Llan Ffestiniog cyn symud i’r ysgol uwchradd ym Mlaenau Ffestiniog.

Ymunodd â’r Llynges yn 17 oed gan weithio ar y cychod bach cyflym, Motor Torpedo Boats oedd yn mynd allan bob nos i aflonyddu ar longau’r gelyn. Nhw oedd y spitfires of the seas mae’n debyg. Yn ystod un frwydr ffyrnig ym mis Awst 1944, bu bron i’w gwch gael ei suddo, ond yn ffodus llwyddwyd i’w thowio yn ôl i Aromanches, er i nifer helaeth o’r criw gael eu lladd a’u hanafu. Bu Dad yn ffodus iawn i osgoi niwed, ac am ei ddewrder y noson honno, dyfarnwyd y ‘Distinguished Service Medal’ iddo. Hyd heddiw, mae`n dal yn ddirgelwch i ni pam ei fod o wedi ymuno â’r Llynges gan na fedrai nofio ac roedd yn diodda’ o salwch môr! Doedd o ddim yn hoffi sôn am y rhyfel efo ni’r plant, ac os oedd ‘na ffilm yn dangos trais a rhyfela ar y teledu, doeddan ni ddim yn cael edrych arni. Roedd o wedi gweld erchyllterau mawr. Roedd o bob amser yn deud nad ydi’r cenedlaethau yn dysgu dim o brofiad cenedlaethau blaenorol. Mae hynny’n hollol wir heddiw yn Wedi’rdydy? rhyfel, cafodd waith yn siop Y Plas yn Harlech, ac yno y gwnaeth gyfarfod â mam, sef Megan (un o ferched Y Foel) ac mi briododd y ddau yn 1947. Yn Grogan, Harlech, y ganwyd ni’r plant, Michael yn Ionawr 1948 a Mair yn Chwefror 1949. Symudodd y teulu i Fryn Saith Marchog ger Corwen, lle roedd Dad yn reolwr siop E B Jones. Symud wedyn i Flaenau Ffestiniog a gweithio mewn siopau eto a gwerthu yswiriant am gyfnod. Dwi’n ei gofio fo’n deud bod mwy o drafferth o lawer cael pres gan y bobol gefnog na’r rhai llai cyfoethog. Roeddan nhw’n gadael y pres yn barod ar y bwrdd yn yr ‘hall’ iddo fo, ond roedd rhaid mynd yn ôl at y lleill bob tro i gael eu harian!

Merched y Wawr Harlech a CyfarfodLlanfair mis Chwefror Ar ôl delio gyda materion y mudiad, croesawodd ein llywydd, Eirlys, Gwen Pettifor a’i merch Caroline atom. Treuliwyd orig yn gwneud cerdyn cyfarch agored. Roedd Gwen wedi partoi’n drylwyr iawn ar ein cyfer ar roedd pawb yn mynd adref gyda dau gerdyn o leiaf. Roedd pawb wedi mwynhau ac yn gweld gwneud cerdyn yn therapi i’r rhai sydd wrth y ddesg drwy’r dydd yn eu gwaith. Bronwen dalodd y diolchiadau i Gwen a Caroline, Sue oedd yn gyfrifol am y baned a Bronwen enillodd y raffl. Diolch i Gwen am roi nifer o gardiau i’r raffl. Fe’u henillwyd gan Eirlys, Mair, Jennifer a Sue. Diolch Dymuna Caerwyn a Bet (Merthyr gynt) a’r teulu, ddiolch o galon am y caredigrwydd a dderbyniwyd mewn gair a gweithred ar farwolaeth Jennie. Bu’n chwaer, chwaer yng nghyfraith a modryb arbennig o annwyl a ffeind inni i gyd, ac fe fydd gwacter o’i cholli. Rhodd a diolch £15 Eglwys y Santes Fair, Llanfair Pob lwc i’r Tad Tony Hodges a’r Tad Dominic sy’n gadael Bro Ardudwy i ddechrau ar swyddi newydd yn Esgobaeth Mynwy. Eu swyddi fydd Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Ficer Tîm yng Nghymoedd Gwent Uchaf.

Ymhen dipyn, mi symudodd i weithio fel Clerc Llechi yn chwarel Llechwedd, ac roedd o wrth ei fodd yno. Cafodd iechyd da drwy’r rhan fwyaf o’i gyfnod gweithio, er ei fod wedi smocio’n drwm am flynyddoedd. Yn ei chwedegau, fe gafodd lawdriniaeth ar ei ysgyfaint, ac ar ôl hynny wnaeth o ddim cyffwrdd â sigaret. Ymhen tipyn, mi symudodd i weithio fel clerc yn chwarel Llechwedd. Does gen i ddim cof ohono yn ddi-waith erioed.

10 LLANFAIR A LLANDANWG

Ar ôl iddo fo ymddeol yn 65, roedd o a Mam wrth eu bodd yn crwydro yma ac acw am bicnic ar hyd y gogledd, a mwynhau orig mewn llefydd fel Llanberis, Beddgelert a Llyn Mair, Maentwrog. Wedyn dirywiodd iechyd Mam, a bu Dad yn gofalu amdani yn garedig a ffyddlon. Yn 1997, fe ddaru nhw benderfynu symud i lawr i Lanfair i fod yn agos at Mair a Ken. Mi gawson nhw ddathlu 50 mlynedd o fywyd priodasol ond bu Mam farw yn Chwefror 1998.

Mi gymrodd amser hir i ddod dros y golled ond yn raddol, gyda chymorth cymdogion cyfeillgar stad Derlwyn yn Llanfair, a chael gwarchod a gweld yr wyrion a’r wyresau bach yn tyfu, fe ddechreuodd fwynhau bywyd unwaith eto.

Pan oedd yn 80 oed, aeth ar drip bythgofiadwy i Awstralia gyda’i frawd Robin, i weld y teulu yn Brisbane. Bu’n driw iawn i’w chwaer, Jini, yn ymweld â hi yn gyson yn y cartref yn Ninas Mawddwy, tan ei marwolaeth yn 2010. Roedd o’n berson annibynnol iawn, ond dechreuodd ei iechyd yntau ddirywio. Roedd Mair a Ken yn galw heibio bob dydd i ofalu amdano. Roedd o’n meddwl y byd o’r plantos, ac wrth ei fodd yn eu cwmni, hwythau wrth eu bodd yng nghwmni DirywioddTaid. ei iechyd ymhellach wedyn a bu i mewn ac allan o’r ysbyty am fisoedd. Yn y diwedd aeth i Gartref Nyrsio Plas Gwyn, Cricieth, lle cafodd ofal arbennig Aciawn.ar ran y teulu, hoffwn ddiolch o galon i holl aelodau staff y Gwasanaeth Iechyd, y Cartrefi Gofal a phob unigolyn fu’n gofalu amdano dros y blynyddoedd.

Meic

Roedd hi’n fraint ei gael yn dad, yn daid ac yn hen daid.

Mi fydd Clwb Seiclo ar gyfer pobl anabl, gofalwyr a phobl fregus yn agor yn ardal Dolgellau ym mis Ebrill. Mi fydd ganddyn nhw feiciau tair olwyn sy’n lleihau’r straen ar y cefn, beic tandem gyda chadair olwyn i bobl nad ydyn nhw’n ddigon cryf i seiclo a beic pedair olwyn i bobl sydd eisiau seiclo ochr-yn-ochr. Wrth gwrs, mi fydd beiciau addas ar gyfer plant ar gael hefyd. Mi fydd angen talu ffi blynyddol ac wedyn mi fydd sesiwn yn costio £4 yr awr. Os hoffech wirfoddoli, cewch ragor o fanylion gan Joe Patton ar Gallwchharlechjoe@icloud.comgofrestrueichdiddordeb yn y cynllun drwy gysylltu stephen.weake@btinternet.comâ

11 BEICIO I BOBL ANABL A BREGUS

W Arvon Roberts

Hysbyseb Ocsiwn Meillionen, 3 Mai 1823

Ganwyd Edward Evans ym Maentwrog yn 1734. 28 Tachwedd 1761, yn 27 mlwydd oed, priododd â Margaret Evans (1744-1833), o Llenyrch, Llandecwyn. Ganwyd iddynt naw o blant, saith o feibion a dwy o ferched. Yr oedd Edward Evans, y tad, yn 102 pan fu farw 8 Rhagfyr, 1836, yn Llandecwyn, lle hefyd y claddwyd ef. Bedyddiwyd Hugh Evans (17821846), seithfed plentyn Edward a Margaret Evans, yn Eglwys Sant Tecwyn, Llandecwyn, yn Chwefror 1782. 27 Ionawr 1809, priododd â Gwen Thomas (1785-1852), unig blentyn David Thomas (1752-1835) a Lowri (Williams) Thomas (17621850), ei mam yn hanu o Lanfrothen. Yn 1823 symudodd Hugh a Gwen i Feddgelert i fyw ar fferm Meillionen, 1,525 acer, rhan o Stad Ann Dorothy Parry. Ganwyd i Hugh a Gwen saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched. Yn 1842 daeth ffarm Llenyrch, Llandecwyn, yn eiddo i Hugh Evans, er mai Edward (1818 -1881), ei fab, oedd yn byw yno ar y pryd, tra yr oedd Hugh a Gwen Evans yn dal ym Meddgelert.

Rhai o dylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn Bu farw Hugh Evans, ddeuddeg mlynedd ar ôl ei briod Gwen, ar 25 Tachwedd 1864, yn 64 mlwydd oed, ym Meddgelert. Yng nghyfrol Ellis Owen, ‘Cell Meudwy’ (1877), ceir penillion a gyfansoddodd y bardd ar farwolaeth Hugh Evans. Ar ei draed, ŵr dirodres, - yr elai Ar alwad a neges: Un oedd i luoedd fu les: Ow’r fonwent ar ei fynwes! Ow! huno porth anghenawg, - ow! Cymwynaswrnosi enwawg: A mudo iawn gymmydawg; Ail i hwn ni welir rhawg. Yn Llenyrch na Meillionen – ni AilwelwniHugh mewn angen: Yn gymhorth, iawn borth, yn ben, Hael oeswr, am elusen. Er rhinwedd mewn bedd mae’n bod, - un Hynodawlydoeddmewn trallod; Cymwynasgar a pharod; Iddo glŷn hyd heddiw glod.

Clochdar y cerrig Dyma bwt o aderyn o ddifrif ond pwt bach sy’n amlygu ei hun mewn dau funud. Ei ben du sy’n mynd â’r sylw ond mae ganddo fron ruddgoch gwan a hanner coler wen hefyd sy’n gwneud iddo edrych fel pin mewn papur. Gellir astudio’r nodweddion yma yn hawdd gan ei fod bob amser yn hedfan i ben unrhyw dwmpath neu bolyn sydd yn ei diriogaeth gan sefyll ei dir heb gilio fel amryw o’r adar mân eraill. Y ffriddoedd eithinog a’r twyni yw ei gynefin a cheir ambell deulu yn sefydlu yng nghymoedd grugog ein Mae’nmynyddoedd.debygmai ei alwad yw yr arwydd cyntaf o’i bresenoldeb. Rhyw sŵn rhygnu neu glecian caled yw hwn nad yw’n cyd-fynd rhywsut â pherchennog pert y llais. Dim ond gydag ychydig o ymarfer y gellir gwahaniaethau ei lais oddi wrth ei berthnasau agos, tinwen y garn a chrec yr eithin sydd yn ymweld â ni o wledydd tramor dros y tymor magu.

Erys clochdar y cerrig gyda ni gydol y flwyddyn ac mae iddo ddosbarthiad gorllewinol yng ngwledydd Prydain sydd yn rhoi dipyn o hawl i ni arno fel un o adar Cymru. Yr amodau tywydd cymharol dyner sy’n ei gyfyngu i’r rhan yma o’r wlad oherwydd ni all wrthsefyll gaeafau Bucaled.colledion mawr yn ei boblogaeth Pwt bach ar ben twmpath – clochdar y cerrig yng ngaeaf 1962-63 pan adawyd ond ychydig weddillion hyd yr arfordir. O’r gweddillion yma mae’r rhywogaeth eto wedi ailadeiladu’r boblogaeth i fanteisio ar gynefin ffafriol mwy gwasgaredig. Gall wneud hyn drwy fagu dau nythaid o gywion mewn tymor. Gesyd ei nyth yn isel neu ar y llawr dan dwmpath eithin gyda llwybr bach yn arwain ato ambell waith. Gwyrddlas golau gyda brychni yn ymuno’n glytiau browngoch yw’r pump neu chwech o wyau y bydd yn eu dodwy. Gan mai un nythaid fydd ei berthynas o ymwelydd, crec yr eithin, yn ei ddodwy ymddengys hwyrach fod siwrnai faith a’i holl beryglon yn llai colledus nac aros dros y gaeaf yn y wlad yma. Enghraifft mae’n debyg yw dau nythaid clochdar y cerrig o esblygiad yn gofalu fod bywyd naturiol yn manteisio ar gilfach mewn cynefin sydd â llai o gynhaliaeth i’w gynnig ar adegau o’r flwyddyn. Wil Ifor Jones

Am fwy o wybodaeth ewch ar ein gwefan neu cysylltwch gydag Uwch Warden y De, David P Jones [David.jones2@eryri.llyw.cymru]Bydd llawer yn cofio Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o Meifod, Dyffryn, gynt) a dyma ysgrif ganddo o’r llyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i’w deulu a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi’r erthygl yn Llais Ardudwy.

12 Wardeniaid Gwirfoddol

Parc Cenedlaethol Eryri

Sut hoffech chi gerdded y bryniau a mynyddoedd yn rheolaidd, wrth ddarparu cefnogaeth a chyngor i’r cyhoedd a chynorthwyo’r gwasanaeth wardeniaid gyda’u gwaith hanfodol?

Am y tro cyntaf erioed yn ne Eryri, rydym yn bwriadu recriwtio Wardeniaid Gwirfoddol cyfeillgar a gwybodus i ymuno â’r tîm. Byddwn yn darparu hyfforddiant a mentora sylfaenol i wella’ch gwybodaeth am yr ardal a’ch sgiliau cynnal a chadw cyffredinol. Fel Warden Gwirfoddol, gofynnir i chi batrolio ardaloedd penodol mewn parau ac fe gytunir ar ‘system cyfaill’ cyn bob patrôl. Dyddiad Cau: 31ain o Fawrth.

RHAGOR DDYFFRYNOARDUDWY

Pan ddangoswyd y llun yma ar raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul 27 Chwefror roedd rhai o bobl y Dyffryn a Thal-y-bont a’i gwelodd yn cofio un yn fwy na’r lleill. Ar y chwith mae’r diweddar William Ifor Jones, Gwelfor, Tal-y-bont ers talwm a Chroesor pan fu farw yn 2003. Tri oedd yn y Coleg Normal, Bangor sydd wrth ei ymyl – Ryan Davies, Phillip Hughes (yr actor y mae llawer yn ei gofio fel y Dyn Sâl a gŵr Nest Hughes, Harlech gynt) a Rhydderch Jones o Aberllefenni yn wreiddiol a ysgrifennodd ddramâu teledu llwyddiannus cyn ei farwolaeth.

Dyn y Triawd yn Llundain

13 R J TalsarnauWILLIAMS01766770286TRYCIAUIZUZU

Paratoi rhandiroedd yn Nyffryn Ardudwy Rhandiroedd Ers i’r cae sy’n terfynu â maes parcio’r Neuadd Bentref gael ei droi yn rhandiroedd, mae newid mawr wedi digwydd yno a garddwyr prysur yn paratoi’r tir, pan mae’r tywydd yn caniatáu. Dymunwn pob llwyddiant i’r garddwyr a’r fenter. Mae’r ‘bobl sy’n gwybod’ yn darogan y bydd prisiau bwyd yn siŵr o godi, felly ewch ati i hau pan ddaw’r gwanwyn!

Roedd Wil Ifor wedi bod yn aelod o Driawd y Normal efo Ryan a Rhydderch yn niwedd y pumdegau – yr enw i’w gwneud yn wahanol i’r Triawd y Coleg enwog. Aethant i Lundain i fod yn athrawon ac yn Llundain yr oedd y llun yma wedi’i dynnu adeg un o’u perfformiadau yno. Ar y rhaglen, Huw Edwards oedd yn cael golwg arno yng Nghanolfan Cymry Llundain. Ymhen ychydig flynyddoedd daeth y cyfan yn ôl i Gymru – Ryan a Rhydderch i’r BBC yng Nghaerdydd a Wil Ifor yn cael gwaith fel warden gyda Chyngor Gwarchod Natur Cymru, y Cyngor Cefn Gwlad wedi hynny. Roedd yn uchel iawn ei barch fel naturiaethwr. Ysgrifennai golofn natur i Y Wylan, papur bro Porthmadog, bob mis. A oes rhywun o ddarllenwyr y Llais neu’r teulu yn cofio a oedd Wil Ifor a’r ddau arall ar record EP a wnaeth y Triawd yn nechrau’r chwedegau?

14Mae

yna hanes am yr hen bregethwr John Jones, Talysarn yn pregethu yn Llanfrothen ryw dro ac yn dweud peth fel hyn ar ei weddi, ‘Cofia, Arglwydd, yr ardal ddistadl Arhon.’ddiwedd y gwasanaeth, daeth hen wraig ato wedi gwylltio a dweud y drefn wrtho am iddo alw Llanfrothen yn lle distadl. Wn i ddim a newidiodd yr hen wron ei farn ai peidio ond mi wn i fod yn Llanfrothen, a’r ardaloedd cyfagos, ddigon o ddiddordeb i’r hanesydd a’r daearegwr a llawer un arall hefyd. Gwelodd yr ardal ei chyflenwad o feirdd a’r amlycaf o’r rhain yn yr ugeinfed ganrif yn siŵr oedd Thomas Richards o’r Wern, awdur yr englynion enwog i’r ‘Ci defaid’ ac i’r ‘Ysgyfarnog’, dau englyn fu’n fuddugol yn yr Eisteddfod OGenedlaethol.gylchyflwyddyn 1820, roedd yna ddau ddyn arbennig iawn yn byw yn Llanfrothen. Mae’r ddau yn bwysig yn hanes emynyddiaeth Cymru. Roedd y ddau yn wŷr galluog iawn mewn sawl maes arall hefyd ac er bod y ddau yn debyg mewn rhai pethau, roedd yna wahaniaethau mawr rhyngddynt. Y ddau oedd John Richard Jones, Ramoth (1765-1822) a Richard Jones, Y Wern (1772-1833). Gadewch i ni droi at Richard Jones i Nidddechrau.unoLanfrothen yn wreiddiol oedd Richard Jones, fwy na J R Jones na Thomas Richards o ran hynny. Ganwyd a magwyd ef yn Coed Cae Du oedd y pryd hynny ym mhlwyf Llanystumdwy ar lawr gwlad Eifionydd. Pan oedd yn blentyn, cafodd rhywfaint o addysg yn Llangybi ac ym Mrynengan cyn ymroi i waith y fferm gartref yn 14 oed. Rhyw ddwy flynedd ar ôl iddo ddechrau gweithio, daeth i deimlo nad oedd wedi gwneud y gorau o’i addysg – peth sydd wedi digwydd i lawer un. Dechreuodd ddarllen yn eiddgar a hynny mewn llawer o feysydd, materion gwleidyddol a chymdeithasol, hanes, hynafiaethau, barddoniaeth ac eraill hefyd. Bu’n ddisgybl barddol i Ddafydd Ddu Eryri a themtiwyd ef i gychwyn ar yrfa fel cyfreithiwr. Ond pregethu aeth â hi yn y diwedd a dechreuodd wneud hyn ym 1794. Symudodd Richard Jones a’i deulu o’r Coed Cae Du i Lwynimpia, Clynnog Fawr ym 1816 a dyna’r flwyddyn yr ordeiniwyd ef yn weinidog. Dair blynedd wedyn, symudodd y teulu i’r Wern, Llanfrothen ac fel Richard Jones, Y Wern y cofir amdano byth. Roedd yn Llanfrothen gapel Bedyddwyr yn Ramoth ond doedd gan enwad Richard Jones, y Methodistiaid Calfinaidd ddim addoldy yn nes na Phenrhyndeudraeth. Roedd ganddynt ysgol Sul, fodd bynnag, ac roedd honno wedi crwydro o dŷ i dŷ o gwmpas yr ardal ond heb gael dinas barhaus yn unlle. Ym 1810, roedd yr ysgol yn Ogof Llechwyn ond oherwydd rhyw amgylchiadau roedd yn rhaid symud oddi yno. Cafodd yr athrawon syniad. Beth am ofyn i’r ficer am ganiatâd i gynnal yr ysgol Sul yn yr eglwys? Er syndod iddynt, cytunodd yr offeiriad i’r cynllun ac yno y buwyd am rai blynyddoedd. Ond och! Daeth i glust y ficer nad ysgol yn unig oedd yn yr eglwys a bod yno weddïo o’r frest yn ystod y gweithrediadau. Roedd hynny, wrth gwrs, yn groes i holl reolau’r eglwys – lleygwyr yn cynnal gwasanaethau heb awdurdod – ac felly rhoddwyd rhybudd i’r ysgol Sul ymadael gan adael yr athrawon mewn penbleth Unfawr.o’r athrawon, Huw Llwyd, gafodd y “Wyddostsyniad, ti beth wnawn ni? Cymerwn y Common Prayer o’n blaen i weddïo.” Ac fel hyn y twyllwyd y ficer am gryn amser wedyn. Tipyn o sioc i ni heddiw efallai ydi sylweddoli nad oedd yr hen dadau duwiol ddim bob amser mor unplyg ag y carem ni Pangredu.ddaeth Richard Jones a’i deulu i’r Wern cafodd yr ysgol Sul gartref ym Melin y Wern. Mae gan Richard Jones dri emyn yn y Caneuon Ffydd. Fel llawer iawn o’r emynau yn y casgliad detholiad o rai penillion allan o’r emyn cyfan a geir gan ollwng rhai penillion i’w colli.

Mae’n amlwg yma bod Richard Jones wedi cael cwmni a hyfforddiant beirdd clasurol ei oes. Mae yna urddas yma, urddas sydd ar goll yng nghanu teimladwy, gorfoleddus rhai o’i gydoeswyr. Mae yma fynegiant tyn ac odl fewnol daclus ac effeithiol.

Trip Lanfrotheni

Mae emyn 180 yn arbennig o addas i’w ganu ar ddechrau gwasanaeth neu o flaen gweddi: “Awn at ei orsedd rasol ef, dyrchafwn lef i’r lan; mae’n gwrando pob amddifad gri mae’n rhoddi nerth i’r gwan.”

Mae golygyddion Caneuon Ffydd wedi rhoi’r hen dôn Almaenig Grafenberg o waith Johann Cruger i ganu’r emyn yma arni ac ni fu erioed briodas well. Sylwch cystal arweiniad a rydd y pennill olaf i unrhyw wasanaeth: “Gerbron y drugareddfa lân fe gân yr euog rai; Mae iachawdwriaeth Calfari yn golchi pob rhyw fai.” Mwy am Lanfrothen y tro nesaf. JBW

15 ALUNBLWCHHYSBYSEBUGALLWCHYNYHWNAM£6YMISWILLIAMS TRYDANWR*Cartrefi*Masnachol*Diwydiannol Archwilio a Phrofi Ffôn: 07534 178831 TelerauHYSBYSEBIONe-bost:alunllyr@hotmail.comganAnnLewis01341241297 Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ALAN RAYNER 07776 181959 ARCHEBU A CARPEDIGOSOD Sŵn y Gwynt, www.raynercarpets.co.ukTalsarnau CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT 01766 780239 ebost: sales@caedudesigns.co.ukDilynwchni: Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00 Tafarn yr LlanuwchllynEryrod 01678 540278 Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd E B RICHARDS Ffynnon 01341LlanbedrMair241551 CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb. GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 gwionroberts@yahoo.co.uk065803 dros 25 mlynedd o JASONbrofiadCLARKE Maesdre, 20 Stryd golchipeiriannauPenrhyndeudraethFawrLL486BNArbenigwrmewngwerthuathrwsiosychudillad,dilladagolchillestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222 Glanhäwr Simdde Gosod, Cynnal a Chadw Stôf 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am paul@ylolfa.combris! 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128 NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A TUCHADWMEWN A THU 07814ALLAN900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, £7.70llaisardudwy@outlook.comE-gopillaisardudwy@outlook.comLlanbedryflwyddynam11copi Am hysbysebu yn Llais Llandanwg,ManylionArdudwy?gan:AnnLewisMin-y-môrHarlechLL462SD01341241297 07713 703222

16 TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN*MELINLIFIOSYMUDOLLlifiocoedi’chgofynionchiCladin,planciau,pystathrawstiau*GWAITHADEILADUACADNEWYDDU *SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan *COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014www.gwyneddmobilemilling.comCydymdeimlo Cydymdeimlwn ag Adrian, Lyn a Darren Bisseker yn dilyn marwolaeth eu tad, Keith John Bisseker, Bryn Awel, Talsarnau fu farw yn Ysbyty Gwynedd. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys San Tanwg Harlech ar 4 Mawrth gyda gwasanaeth yn dilyn yn yr Amlosgfa. Derbyniwyd rhoddion tuag at Barnardo’s er cof amdano. Capel Newydd MAWRTH 6 - Dewi Tudur 13 - Dewi Tudur 20 - Eifion Jones 27 - Dewi Tudur EBRILL 3 - Dewi Tudur 10 - Dewi Tudur Mae croeso i bawb! Ond, os nad ydych yn arfer mynychu, cofiwch gysylltu fel bod sedd gadw i chi. Rydym yn parhau i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru. Ewch i’n safle we am fwy o wybodaeth - ffôn 01766 770953 neu capelnewydd.org Merched y Wawr Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis, yr aelodau i’r cyfarfod pnawn dydd Llun, 7 Chwefror yn yr Ystafell Adnoddau/Bwyllgora newydd. Roedd hwn yn lle cyfforddus a chynnes braf. Diolchodd Siriol i Eluned, yr Is-lywydd, am gymryd yr awenau yng nghyfarfod mis Ionawr. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Rhiannon, Meira a Gwenda Paul. Croesawyd Paula Stewart ac Elin Owen, Plismyn Cymunedol gyda Heddlu Gogledd Cymru. Testun eu sgwrs oedd ‘Diogelwch Mewn Sawl Man’, a chafwyd cyflwyniad ardderchog ganddi ar ddiogelwch yn y tŷ, mewn siopa, ar y wê, ac ar y ffôn, gan ddweud mor bwysig oedd i ni fod yn ymwybodol o’r holl sgams sy’n bodoli ac i geisio bod mor wyliadwrus ag y gallwn. Cyngor arall oedd i ni gofio ffonio 101 mewn argyfwng. Rhannodd lawer o wybodaeth gwerthfawr ac roedd yn hawdd iawn gwrando ar ei sgwrs a gyflwynodd mewn modd diddorol a hwyliog. Diolchodd Frances ar ein rhan gan fynegi gwerthfawrogiad iddynt am yr holl wybodaeth a chyngor da. Wedi i Paula ac Elin ein gadael, aethom i ymdrin â’n cinio Gŵyl Ddewi. Byddwn yn mynd i’r Oakeley Arms am ginio canol dydd, pnawn dydd Gwener, 25 Chwefror. Roedd y baned dan ofal Margaret ac Ann ac enillwyd y ddwy wobr raffl gan Eluned a Haf. Cinio Gŵyl Ddewi Ar ddiwrnod braf, aeth 11 o aelodau Cangen Talsarnau i’r Oakeley Arms, Maentwrog am ginio Gŵyl Ddewi, pnawn dydd Gwener, 25 Chwefror. Cafwyd croeso cynnes yno ac roedd pryd o fwyd ardderchog yn ein haros i’w fwynhau mewn cwmni da, gyda phawb yn eistedd gyda’i gilydd mewn cornel gyfforddus braf. Ar ddiwedd y gwledda, tynnwyd y raffl ac roedd nifer o wobrau i’w hennill fel bod pawb yn mynd adra wedi cael gwobr fach. Atgoffodd Siriol y bydd ein cyfarfod nesaf yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Lun, 4 Ebrill am 7.00 o’r gloch, pryd y cawn gwmni Mari Lloyd o Gwm Nantcol, Llanbedr.

17 Agorwyd Neuadd Gymuned Talsarnau yn Ebrill 2002 – ugain mlynedd yn ôl o’r bron! Fel ninnau, mae ôl traul yn dangos ar y neuadd a gwelwyd bod gwirioneddol angen uwchraddio ffenestri’r neuadd fawr sydd wedi wynebu blynyddoedd o dywydd garw. Penderfynwyd y gellid gwneud y neuadd yn fwy diddos drwy adeiladu blociau ac insiwleiddio’r rhan isaf o dan y ffenestri. Gwnaed ceisiadau am grantiau a chafwyd cefnogaeth gan Cronfa Gymunedol Eryri - £15,000, Cronfa’r Loteri Arian i Bawb - £4,000, Cronfa’r Degwm - £3,000, Cwmni Adra (Tai) Cyf. - £1,000 a Grŵp

Cronfa’r Degwm Cydymdeimlad Y mis hwn rydym yn anfon ein cofion a’n cydymdeimlad dwys â Heulwen, Aled a Gwenan a’u teuluoedd yn eu profedigaeth yn colli Evie. Roedd gan Evie, yn naturiol, le cynnes yn ei galon i’r ardal hon,wedi’r cyfan, cafodd ‘wraig dlos o Dalsarnau!’ Bu’n hael iawn ei gyfraniad i fywyd yr ardal dros y Fe’iblynyddoedd.cofiwnyn bennaf, mae’n debyg, fel arweinydd nos Sadwrn Eisteddfod Talsarnau a’r Cylch. Roedd ganddo ffordd gynnes, radlon a chartrefol wrth arwain. Bu’n gwneud y swydd am flynyddoedd ac wedi cyflwyno i’r byd sawl bardd cadeiriol yn y cyfnod Rydymhwnnw.hefyd yn ei gofio fel aelod o Gôr Meibion Ardudwy fu’n cyflwyno nosweithiau difyr yn y neuadd newydd ac yn yr hen neuadd cyn hynny. Atgofion braf hefyd ohono fel ocsiwnïar mewn nifer o achlysuron codi arian at wahanol achosion. Doedd mo’i well fel ocsiwnïar, a thebyg i ambell un brynu eitem di-alw amdano yn annisgwyl, dim ond am iddo symud rhan o’i gorff yn ddifeddwl ar amser anghywir, ac Evie yn bachu ar y cyfle! Bu’n gefnogol iawn i lawer achos a bydd colled mawr iawn ar ei ôl ar sawl Cwsgcyfri.yndawel Evie, - a diolch iti. CeltClwbRobertsPysgota Artro a CyfarfodTalsarnauBlynyddol 2022 Gwesty’r Queens, Harlech Nos Iau, Mawrth 24 am 7:30 Croeso cynnes i aelodau newydd

Cynefin - £500. Rydym yn dra diolchgar am y gefnogaeth ariannol gan bob un o’r grwpiau ac yn dymuno cydnabod eu cefnogaeth. Dangoswyd parodrwydd i gefnogi ein menter yn ariannol oherwydd bod pob cam bychan a gymerir i beidio gwastraffu ynni a diddosi adeiladau yn cyfrannu i ymateb yr her cynhesu byd eang. Diolchwn am hynny. Gwnaed y gwaith gan gwmni G & W Wigglesworth ac rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith a’r modd yr aed ati gyda gofal a threfn gan gofio bod angen diogelu’r plant ar iard yr ysgol sy’n ffinio â’r safle.

Diddosi Neuadd Gymuned Talsarnau

Capel Jerusalem, CyhoeddiadauHarlechMisMawrth

Sheila Maxwell oedd yn siarad am y teulu Finch Hattons oedd â chysylltiad â Harlech ac efo ei chartref sef Bron Heulog. Hanes diddorol iawn. Enillwyd y raffl gan Linda Wagner. Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fercher, 9 Mawrth, am 7 o’r gloch yn y Neuadd Goffa gyda gwesteion o wahanol fudiadau Sefydliad y Merched yn dod Featom.fydd Sheila Maxwell yn sôn am ‘Y Plentyndod Cymraeg’. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

Croesawyd Mr Dylan Hughes a Ms Jodie Pritchard, o Ganolfan Hamdden Harlech ac Ardudwy i amlinellu beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan yn ddiweddar. Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau am ddod atom a chytunwyd i gefnogi’r Bwrdd efo’r cynlluniau sydd ganddynt.

13 Parch Iwan Ll Jones am 3.30 27 Parch Dewi Morris am 4.00

ei weld fel offer yn y cae chwarae a chytunodd

ARALL Mynegwyd pryder bod goryrru yn digwydd i lawr Ffordd y Traeth a chytunodd y Gwynfor Owen i ddelio â’r mater hwn. Adroddwyd bod cŵyn wedi dod i law bod yr hysbysfwrdd gan Morfa Stores yn edrych yn flêr ac adroddwyd bod yr hysbysfwrdd hwn o dan berchnogaeth y siop. CYNGOR CYMUNED HARLECH R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286 Bingo Codwyd dros £200 yn y sesiwn bingo ddiweddaraf yng nghaffi Pwll Nofio Harlech. Cynhelir y sesiwn nesaf ar ddydd Sadwrn, Mawrth 26 am 2.30.

MATERION YN CODI Cae Chwarae Brenin Siôr V Cytunwyd i ofyn am bris o’r hyn a fyddai’n ei gostio i atgyweirio’r offer angenrheidiol. Cytunwyd i ofyn i blant yr ysgol beth yr hoffent Rhian Mr gerdded elusennol 20 milltir i Gastell Cricieth i Gastell Harlech at elusen Marie Curie. Maen nhw’n gofyn a fyddai modd defnyddio cae chwarae Llyn y Felin fel y pwynt ticio terfynol. Cytunwyd i roi caniatâd i gae chwarae Llyn y Felin gael ei ddefnyddio ar gyfer y digwyddiad hwn.

Corps i drefnu hyn. Hefyd adroddodd y Clerc fod

Gareth J Williams yn gofyn a ellid trin y cae pêl-droed gyda rholer trwm a chytunwyd i ofyn i Mr Meirion Evans wneud y gwaith hwn. ChambersGOHEBIAETHConservation Derbyniwyd llythyr gan Barc Cenedlaethol Eryri yn nodi y byddant yn adolygu Ardal Gadwraeth Harlech. Hefyd yn anfon map o’r ardal gadwraeth dan sylw, a dolen i dudalen wybodaeth y cynllun ar wefan y ddodgofynMaeconservation-areas-project/_recachehttps://www.eryri.llyw.cymru/planning/heritage-and-planning/conservation-areas/Parc:swyddogionyParcynawyddusidrafodycynlluncadwraethymhellachacynafyddaimoddtrefnuhynargyfereincyfarfodnesaf.CytunwydiofyniddyntigyfarfodmisEbrillo’rCyngor. Cyfoeth Naturiol Cymru Derbyniwyd e-bost oddi wrth Jake Burton, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw, ar ran yr uchod ynglŷn â Phrosiect pwysig ym Morfa Harlech, yn hysbysu’r Cyngor y byddant yn gweithio gyda thîm Gweithrediadau Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru a Chlwb Golff Dewi Sant i gwympo a symud tua 9.5ha o goed conwydd o dwyni Harlech. Clwb Rotari Pwllheli Ar Fehefin 11, bydd Clwb Rotari Pwllheli yn trefnu taith

Cyfarchion Pen-blwydd Dymuniadau gorau a phen-blwydd hapus iawn i Brian Evans, Brig y Wern, Ffordd y Traeth, sydd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar y 26ain o Chwefror. Cafwyd diwrnod hyfryd yng nghwmni’r teulu i gyd gyda rhai wedi teithio o bell. Cariad mawr gan Iola, Bethan a’r plantos i gyd. Rhodd i Gapel Rehoboth Derbyniodd Capel Rehoboth £135 ar ddiwrnod angladd Richard Williams, Siop Sgidiau, Harlech. Diolch i Edgar, Jackie ac Aran am eu caredigrwydd. Cennin Pedr Diolch o galon i Ysgol Tanycastell am ddosbarthu tusw bach o gennin Pedr yn yr ardal ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Sefydliad y Merched Croesawyd yr aelodau a 4 gwestai gan y Llywydd, Jan Cole. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i’r aelodau oedd yn dathlu ym mis Chwefror. Darllenwyd y llythyr o’r Sir gan y llywydd. Darllenwyd y cofnodion o gyfarfod mis Ionawr gan yr ysgrifennydd, Edwina Evans. Trafodwyd y llythyr o fanc HSBC gyda’r aelodau i gyd yn cytuno i newid Croesawydbanc.

UNRHYW FATER

HARLECH 18

• Wrth dyfu gwrych o blanhigion cymysg yn lle ffens byddwch yn darparu ‘coridor’ diogel i fywyd gwyllt symud ar ei hyd, yn ogystal â safle gaeafu a nythu a ffynhonnell o fwyd i famaliaid bychan, adar a rhai rhywogaethau o gacwn.

• Gosodwch fwyd i’r draenog a gwiriwch am beryglon fel netin rhydd a draeniau agored.

• Chwynnwch os yn bosib â llaw er mwyn osgoi defnyddio chwynladdwyr, ond cofiwch adael rhai ‘chwyn’ yn eich lawnt, fel dant y llew, sy’n ffynhonnell bwysig o neithdar a phaill.

• Bwydwch welyau blodau gyda chompost o’r ardd neu risgl wedi ei gompostio i helpu i fwydo pryfed genwair a chynnal pridd byw ac iach. yr ardd

Bywyd gwyllt

Saif Aneurin Bevan ar ei ben ei hun, yn wleidydd sosialaidd o argyhoeddiad a adawodd waddol nodedig i’w gyd-ddynion - y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Dyma gofiant cynhwysfawr o’i fywyd a’i waith gan yr awdur toreithiog D Ben Rees. Cryfder pennaf yr astudiaeth yw llwyddiant yr awdur i ddehongli camp Aneurin Bevan yn sefydlu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mis Gorffennaf 1948. Cawn asesiad penigamp o’r holl rwystrau a wynebodd, a’r syndod mawr ym 1945 oedd mai Bevan a ddewiswyd gan y Prif Weinidog Llafur newydd, Clement Attlee, ar gyfer y swydd hollbwysig hon gan mai rebel ffyrnig o’r meinciau cefn oedd Nye Bevan byth ers ei ethol i’r senedd am y tro cyntaf ym mis Mai Nid1929.oedd ganddo cyn hynny unrhyw brofiad o ddal swydd gyhoeddus, heblaw ar lefel leol o fewn Tredegar. Ond rhaid mai ef oedd y dyn â’r union bersonoliaeth rymus ar gyfer y dasg hon, yn nhyb y Prif Weinidog. Dangosodd ddewrder a dyfalbarhad anghyffredin wrth iddo wireddu ei freuddwyd yn wyneb cynifer o rwystrau anferthol. Ym marn Ben Rees, ‘Fe’i hanwybyddwyd yn bwrpasol gan arweinwyr ei blaid er mai ef oedd y deallusyn pennaf a feddai y Blaid Lafur.’ A hynny er iddo orfod gadael yr ysgol yn ifanc iawn, a’r Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad hynod Farcsaidd ei naws, a fu’n gyfrifol am lunio ei ddaliadau gwleidyddol yn ystod y 1920au cynnar.

• Gallwch greu tomen gompost er mwyn ailgylchu gwastraff gardd a darparu cynefin ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt.

• Llenwch y baddon adar yn rheolaidd a’i lanhau.

GORCHWYLION Y MIS

• Gallwch ddarparu lloches i fywyd gwyllt drwy greu twr o foncyffion neu ‘wrych marw’ wrth ddefnyddio torion gwrych.

DULLIAU O ANNOG BYWYD GWYLLT

• Dewiswch blanhigion sy’n cynnal bywyd gwyllt: mae gwyddfid, drain gwynion, Pyracantha, blodau’r haul a choed criafol i gyd yn boblogaidd gydag ystod o fywyd gwyllt.

• Heuwch neu blannwch ddôl fywyd gwyllt. AMFFIBIAID

• Cadwch lygad am grifft amffibiaid yn y pwll. Gwelir y grifft llyffant fel clympiau o wyau gwynion neu glir efo canol du.

19

• Cofiwch annog adar sy’n bwydo ar y ddaear fel y robin goch a llwyd y gwrych drwy osod bwyd ar wifren rhwyllwaith (mesh) ychydig oddi ar y ddaear.

• Parhewch i lanhau a llenwi bwydwyr yr adar. Gosodwch gnau mwnci cyfan mewn bwydwr rhwyllwaith (mesh) i rwystro adar ifanc rhag tagu.

• Wrth i’r tywydd gynhesu, bydd llyffantod yn ymddangos o’u safleoedd gaeafu.

ddarparu mwy o lwybrau troed a llwybrau beicio, ni ellir gweld sut y bydd hyn yn lleihau’r tagfeydd traffig yn Llanbedr i unrhyw raddau Cynsylweddol.belled ag y mae mesurau arafu traffig yn Llanbedr yn y cwestiwn, ni fydd cyfyngiad cyflymder o 20mya yn cynyddu llif traffig, gan nad yw cyflymder yn broblem mewn tagfa draffig. Mae system goleuadau traffig 4 ffordd a defnydd o focsys melyn yn llawer mwy tebygol o gynyddu’r oedi, gyda neu heb dagfeydd, oherwydd yr angen i gadw darn 300 llath o lôn sengl yn glir drwy ganol y pentref. Bydd oedi hirach yn cynyddu allyriadau CO2 Niymhellach!fyddcynyddu amlder trafnidiaeth gyhoeddus, er ei fod yn ddymunol, fel y dangosir yn ddiweddarach yn yr Adolygiad Amgen hwn, yn unig yn atal y tagfeydd yn Llanbedr. Nid yw hyn yn cael ei achosi gan gymudo dyddiol rhwng cartref a gwaith. Darperir teithio i ac o’r ysgol a’r coleg eisoes ar fysiau a threnau.

1.cynnwys:Ymyriadau i leihau traffig yn ystod y tymor gwyliau.

Pan20 oedd cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer y cynllun presennol ar gyfer ffordd osgoi a ffordd fynediad Llanbedr, cafodd nifer fawr o opsiynau eu hystyried a’u gwrthod cyn dewis y cynllun presennol. Mae rhai o’r rhain yn ymddangos eto yn adroddiad Sloman. Mae’r rhain yn

2. Tawelu traffig a chyflymder is yn

3.Llanbedr.Annog newid mewn dulliau o deithio ac annog ‘teithio llesol’. 4. Gwella amlder trafnidiaeth gyhoeddus ar hyd yr A496. 5. Canolbwyntio ar weithio o bell.

ATEBION ERAILL I BROBLEMAU LLANBEDR Ymateb

O ganlyniad, nid yw’r newid o deithio mewn ceir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus, fel y’i hargymhellwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, mewn cymunedau trefol trwchus yn ateb i ardal wledig anghysbell fel Ardudwy. Yn yr un modd, gan nad yw’r tagfeydd yn cael eu hachosi gan deithio dyddiol i’r gwaith, ni fydd darparu canolfannau gweithio o bell yn ateb i’r tagfeydd Yrychwaith.unigateb a gynigir gan y Cadeirydd i wella mynediad i Barth Menter y Maes Awyr yw amserlennu lorïau cludo nwyddau mawr ar adegau pan fo’r traffig yn ysgafn. Mae hyn yn anwybyddu’r ffaith bod mynediad i gerbydau o’r fath yn hynod o anodd a pheryglus, waeth beth fo’r amodau traffig. Archwiliwyd atebion yn ymwneud â dewisiadau rheilffordd a môr pan oedd y ffordd osgoi yn cael ei chynllunio a’i gwrthod. Bydd yr holl draffig i’r Maes Awyr a Mochras yn parhau i fod yn destun oedi annioddefol heb ffordd fynediad well a ffordd Disgrifirosgoi.yropsiwn olaf, sef adeiladu ffordd osgoi wahanol ar raddfa lai fel ‘y dewis olaf’. Bydd angen sawl blwyddyn arall i’w gynllunio, ei gymeradwyo a’i adeiladu, gan ohirio datblygiad y Maes Awyr ymhellach. Yn y cyfamser, bydd y trigolion yn wynebu tagfeydd parhaus, trallod ac allyriadau C02 uchel. Mae’n anodd gweld sut y bydd y tasglu newydd a sefydlwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd rhwng Cyngor Gwynedd a Thrafnidiaeth Cymru yn gallu nodi atebion amgen i wella mynediad i’r Maes Awyr ar gyfer danfon nwyddau trwm mawr gan fod uwchraddio’r rheilffordd eisoes wedi’i ddiystyru. David J Naylor BSc. PhD, CEng, FIMMM Tan y Ffridd,

6. Rheoli traffig cludo nwyddau i/o’r Maes Awyr. 7. Costau defnyddwyr ffyrdd. 8. Symud yr A496 i’r gorllewin. Ystyrir bod llawer o’r awgrymiadau hyn yn dangos diffyg gwybodaeth, yn afrealistig ac yn anymarferol. Er enghraifft, ni fydd Hybiau Parcio a Theithio am Ddim yn y Bermo a Phorthmadog yn effeithiol oherwydd bod meysydd parcio’r ddwy dref eisoes yn llawn yn ystod cyfnodau’r Nidgwyliau.ywMochras ond yn darparu ar gyfer cartrefi modur a phebyll.

Mae’n rhaid i deulu sy’n gwersylla yno fynd â phabell, adlen, gwelyau a dillad gwely, offer coginio, offer goleuo a gwresogi, cadeiriau a bwrdd, bwyd, dillad, beiciau, bwcedi, rhawiau, peli ac anifeiliaid anwes! Mae annog pobl sydd ar eu gwyliau yn gwersylla i ddefnyddio’r rheilffordd neu ddulliau eraill ‘cynaliadwy’ yn afrealistig. Go brin y bydd cyflwyno taliadau i ymwelwyr a defnyddwyr ffyrdd yn debygol o wella’r economi dwristiaeth hanfodol. Tra bod rhinwedd i’r cynnig i annog mwy o ‘deithio llesol’ drwy Dr David Naylor i’r gwleidyddion

ARGYMHELLION Argymhellir y dylai fod cynnydd sylweddol yn amlder bysiau rhwng y Bermo a Phorthmadog a threnau rhwng Machynlleth (neu’r Bermo) a Phwllheli yn ystod y prif gyfnodau gwyliau. Yr amcan yw annog ymwelwyr i grwydro’r ardal ar gyfer teithiau dydd trwy ddarparu Pas Arfordir y Cambrian am bris priodol, gan gynnig cludiant cyhoeddus am ddim a gostyngiadau mewn llawer o atyniadau twristiaeth yn yr ardal.

ADOLYGIAD AMGEN AR Y FFORDD OSGOI

• helpu i gadw’r bont hynafol a bregus bresennol,

YMATEB DAVID NAYLOR Na. Collwyd cyfle sylweddol a allai arwain at leihad yn y defnydd o geir gan y nifer fawr o ymwelwyr, yn bennaf y bobl rheiny sy’n aros mewn carafanau sefydlog a theithiol, cartrefi modur a phebyll yn y meysydd gwersylla mawr niferus yn Ardudwy, llawer ohonyn nhw yn agos iawn at orsafoedd rheilffordd. Dylid cyflwyno Tocyn Arfordir y Cambrian a fuasai yn rhoi defnydd rhad ac am ddim ar yr holl drafnidiaeth gyhoeddus a gostyngiadau yn yr atyniadau poblogaidd i ymwelwyr yn yr ardal ynghyd â gwasanaeth bws bob hanner awr rhwng Abermaw a Phorthmadog a gwasanaeth trên, yn ddelfrydol bob awr, rhwng Machynlleth a Phwllheli, neu rhwng y Bermo a Phwllheli. Buasai hyn yn lleihau teithiau car ymwelwyr, yn lleihau tagfeydd yn Llanbedr a phentrefi eraill ar hyd yr A496, yn lleihau allyriadau CO2 ac yn galluogi ymwelwyr i ddefnyddio llai ar eu ceir eu hunain a mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cwestiwn 2 A roddwyd sylw digonol i ystyried a fydd y ffordd osgoi yn arwain at gynnydd mewn allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu’n achosi rhwystr sylweddol i gyflawni ein targedau YMATEBdatgarboneiddio?DAVIDNAYLOR

Dylai’r fenter uchelgeisiol hon arwain at bobl yn defnyddio llai ar eu ceir a mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn yr erthygl hon, trafodir ymateb Dr David Naylor i ddau gwestiwn a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Adolygiad Ffordd Osgoi Llanbedr a gynhaliwyd dan gadeiryddiaeth Dr Lynn Sloman. Dyma grynodeb o’r adroddiad a ddarparwyd gan Dr Naylor. Cwestiwn 1 A roddwyd ystyriaeth ddigonol i atebion ac atebion nad ydynt yn ymwneud â thrafnidiaeth ar wahân i’r rhai sy’n cynyddu capasiti ceir preifat ar y ffyrdd?

• lleihau tagfeydd traffig ac oedi gormodol yn Llanbedr, • gwella iechyd, diogelwch a lles ei thrigolion a’i busnesau,

• hwyluso ehangu’r Ardal Fenter Maes Awyr a’i chyfraniad hanfodol i economi Ardudwy a’r rhagolygon am swyddi newydd â chyflogau da a datblygu awyrennau sero trydan a hydrogen a datblygiadau awyrofod strategol pwysig eraill.

David J Naylor

Na. Methodd y dadansoddiad yn adroddiad Sloman â chydnabod yr allyriadau CO2 uwch o draffig segur a thraffig sy’n symud yn araf o’i gymharu â thraffig sy’n llifo’n rhydd. Anwybyddwyd y cynnydd cyflym mewn gwerthiant ceir hybrid a thrydanol a’r gwahardd a fydd ar geir petrol a disel yn 2030. Mae hyn yn debyg o dorri allyriadau CO2 yn Byddddramatig.yffordd osgoi yn lleihau allyriadau CO2 a llygryddion eraill a gynhyrchir ar hyn o bryd yn y tagfeydd mawr yng nghanol Llanbedr, yn enwedig yn ystod y cyfnodau gwyliau. Buasai’r ffordd osgoi yn fyrrach na’r ffyrdd presennol trwy Lanbedr ac i’r Maes Awyr ac Ynys Mochras. Drwy fabwysiadu terfyn cyflymder 40mya ar y ffordd newydd 1.5km o hyd, amcangyfrifir y bydd y ffordd osgoi a mynediad yn gyfrifol am o leiaf 12% o LEIHAD mewn allyriadau CO2 ac na fydd yn achosi rhwystr sylweddol i gyflawni targedau datgarboneiddio Cymru. I’r gwrthwyneb, bydd yn cyfrannu’n sylweddol ac yn gadarnhaol at gwrdd â Thargedau Newid Hinsawdd Cymru, yn enwedig os gellir gwireddu dymuniad yr Ardal Fenter yn y Maes Awyr i ddatblygu’r technolegau ar gyfer awyrennau wedi’u pweru gan drydan a hydrogen. Mae’r rhain yn cael eu peryglu gan ganslo’r ffordd osgoi a’r ffordd fynediad.

21

Mae’r holl gynlluniau a chytundebau yn eu lle neu’n agos at gael eu cwblhau ac mae’r prosiect i adeiladu ffordd osgoi a ffordd fynediad Llanbedr yn barod i bob pwrpas. Nid yw hwn yn ddewis rhwng ffyrdd newydd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen y ddau i ddatrys problemau tagfeydd Llanbedr a gwell mynediad i’r Maes Awyr yn ogystal â chefnogi Amcanion Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Yn olaf, mae’n hollbwysig bod y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn sicrhau bod digon o bwyntiau gwefru trydan cyhoeddus ar gael ledled Ardudwy ac yn enwedig yn y meysydd carafanau a gwersylla a’r Maes Awyr.

Dylai hyn leihau tagfeydd ac allyriadau ArgymhellirCO2.yn gryf hefyd y dylid adfer y ffordd osgoi a’r ffordd fynediad i Lanbedr ar unwaith. Buasai hyn yn: • lleihau allyriadau CO2,

22 ATEBION CHWEFRORMIS Llongyfarchiadau i Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Janet Mostert, Harlech; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Dotwen Jones, Cilgwri Wirral Anfonwch. eich atebion i’r Ddrysfa Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2]. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y Yn anffodus, roedd camgymeriad bach yn rhifyn mis Chwefror. Nid y llythyren ‘I’ oedd rhif 14 yn y sgwâr. Camgymeriad ar ran y golygydd oedd hyn. Mae’n ddrwg iawn gennym. A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1 2 3 4 5 6 7 8 Y9 10 11 12S 13 14 15 16 17 18 19 20 21I 22 23 24 25 26 27 PH28 12 2 19 16 21 5 3 8 19 11 19 Y9 9 21 7 9 19 S12 I21 8 19 4 12 9 23 23 5 9 15 5 14 19 21 1 8 9 21 9 12 1 14 27 21 15 26 21 13 21 14 1 26 11 14 26 1 27 19 12 27 19 23 11 22 19 21 19 14 12 26 26 17 10 14 27 24 14 16 27 14 23 14 13 9 26 21 27 26 7 23 21 19 26 17 7 25 21 23 13 19 12 18 20 23 5 9 21 18 2 15 14 6 21 19 16 8 21 4 21 14 7 26 27 9 21 26 15 12 26 13 14 13 21 1 26 15 17 SGWÂR GEIRIAU Rhif 13 Un cywiriad i sgwâr geiriau rhif 11. Roedd un llythyren yn anghywir. Yn y gair hir ar draws CYFARWYDDIADAU roedd y ‘Dd’ wedi ymddangos fel ‘N’. 23 oedd y rhif i fod, nid 13. Diolch i Gwenllian Thomas am dynnu fy sylw at y gwall. Y mis nesaf cawn edrych ymlaen at bôs arall wedi ei lunio gan Mai Jones, Llandecwyn. Llongyfarchiadau iddi ar ei champ. Diolch i bawb sy’n trafferthu i gyflawni’r pôs o fis i fis. Gerallt Rhun Theatr y Ddraig Mae Theatr y Ddraig yn elusen gofrestredig. Gyda chymorth grantiau gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref y Bermo, cyflogir un gweithiwr a rheolwr y Ganolfan Gymunedol. Mae’r Theatr yn ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr i gefnogi sioeau a digwyddiadau ac mae’n cael ei llywodraethu, yn unol â rheoliadau’r Comisiwn Elusennau, gan Fwrdd Ymddiriedolwyr gwirfoddol. Ar hyn o bryd, does dim ymddiriedolwyr o’r gymuned Gymraeg ar y Bwrdd. Fel pob sefydliad o fewn y sector lletygarwch, bu’r Theatr yn segur yn ystod pandemig Covid-19, ond mae bellach yn cynllunio calendr o weithgareddau, gyda’r nod o gael y Ddraig i gyhwfan eto. Prif nod Theatr y Ddraig yw darparu a hwyluso gweithgareddau a fydd yn gwella lles cymdeithasol pobl y Bermo a’r cyffiniau. Gobeithir gwneud hyn drwy baratoi ystod eang o gyfleoedd hamddena, addysgol, llenyddol a chymdeithasol. Mae’r Ymddiriedolwyr presennol wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod y Ddraig yn cynnig y digwyddiadau hyn yn y Gymraeg a’r AllwchSaesneg.chi ein helpu tybed? Rydym am recriwtio o leiaf un unigolyn o’r gymuned Gymraeg ei hiaith a all ymuno â ni fel Ymddiriedolwr, gyda chylch gwaith penodol i sicrhau ein bod yn dathlu ac yn arddangos talent Cymraeg lleol yn y OsTheatr.oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, cysylltwch â Janice Horrocks, Cadeirydd presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at: Y BERMO LLANABERA

23 YSGOL ARDUDWY

Mae’nyma.

llwyddiant mewn Rhedeg Traws Gwlad i Cai Thomas wrth iddo orffen yn y degfed safle allan o wyth a deugain o fechgyn B7. Cynhaliwyd y ras ar gaeau Treborth, Bangor yn ddiweddar. Llongyfarchiadau iddo. Yn ychwanegol i hyn, llwyddodd Cai i ennill ras i B7 yn yr ysgol gyda Seth Campbell yn ail a Rhys Hartley yn drydydd. Yn y ras i ferched, Elsi Howie ddaeth i’r brig gyda Seren Lockett yn ail a Heidi May yn y trydydd safle. Yn ras y bechgyn i B8, Dylan Mitchelmore oedd yn fuddugol gyda Michael Horn yn ail a Jack Ryan yn drydydd. Daeth Lois Williams yn gyntaf yn y ras i ferched, Cêt ap Tomos yn ail a Catrin Edwards yn drydydd. Llongyfarchiadau i bawb ar yr ymdrech a’r dyfalbarhad mewn tywydd anodd i redeg ynddo.

Daeth mis Chwefror â nifer dda o lwyddiannau ar y meysydd chwarae. Teithiodd y tîm pêl-droed dan 16 oed i Ysgol Glan-y-Môr a llwyddo i gipio buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim. Yn ychwanegol i hyn, daeth buddugoliaeth o 6 gôl i 3 i’r tîm pêl-rwyd dan 16 oed yn erbyn Ysgol Godre’r Berwyn. Gemau cyfeillgar oedd y rhain er mwyn safoni gwaith TGAU mewn Addysg Gorfforol. Er hynny, mae’n dda cael buddugoliaethau hefyd. Daeth llwyddiant yn y byd pêldroed i bedwarawd yn yr Ysgol yn ddiweddar. Fe sgoriodd Owen Whiteley i Ysgolion Gogledd Cymru dan 14 oed yn erbyn Wolves a chael treial i Ysgolion Gogledd Cymru hefyd. Yn yr oedran iau, bu Michael Holt, Jack Ryan a Leo Papirnyk yn rhan o garfan Ysgolion Gwynedd a chael gêm yn erbyn Ysgolion Sir ArDdinbych.lefelRanbarthol, fe ddangosodd Jake Jones ei ddawn ar y cae rygbi drwy gael ei ddewis i dîm dan 15 oed RGC (De) a chael gêm yn erbyn Ysgolion Sir Gaerfyrddin ar eu tomen eu hunain. Dyna brofiad i’r bachgen o Harlech. Gobeithio y daw mwy o gemau iddo cyn diwedd y tymor. Yn yr Adran Adeiladwaith, mae’r criw TGAU wedi cael cyfle i greu wal ar gyfer eu hasesiad terfynol. Fel mae sawl adeiladwr yn gwybod, nid gwaith hawdd ydi hyn o bell ffordd ond o weld yr hyn sydd wedi ei greu gan y disgyblion, mae yna ddyfodol disglair i nifer os am fentro i’r byd

Llwyddodd i ddod yn fuddugol i rai dan 12 oed a hefyd enillodd y ‘Giant Slalom’ ym Mhencampwriaeth Lloegr a MaChymru. e’n falch iawn o’i llwyddiant diweddar yn arbennig o ystyried y ddwy flynedd ddiwethaf a’r anawsterau a wynebodd oherwydd Covid-19. Roedd y cyfleusterau ymarfer i gyd wedi eu cau a chyfleoedd i deithio dramor yn brin.

bleser cael dymuno Penblwydd Hapus i’r Urdd yn 100 oed. Gobeithio y bydd y gweithgarwch yn parhau am flynyddoedd eto. Dyma lun a dynnwyd rai wythnosau cyn y clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 pan aeth aelodau o’r Ysgol i Disneyland

Mae Lowri Howie, disgybl B7 yn yr Ysgol, bellach yn Bencampwraig Sgïo.

Dros yr wythnosau diwethaf bu Lowri yng nghwmni ei mam, Einir, yn ymarfer mewn academi sgïo yn Awstria wrth baratoi ar gyfer y bencampwriaeth. Dywedodd ei hyfforddwr, Siôn Salisbury, hyfforddwr gyda Chlwb Chwaraeon Eira Gogledd Cymru fod Lowri yn ‘un o’r raswyr gorau yng Ngwledydd Prydain yn ei grŵp oedran. Mae ganddi dalent, mae hi’n sgïo’n naturiol, mae’n gweithio’n galed ac mae’r ethos cywir ganddi.’ Llun Lowri – Facebook

DaethParis.

Mae’r ffactorau’n cynnwys ‘rhostir, ansawdd aer, sŵn a diogelwch ffyrdd’. Eto dylai cynllun Llanbedr sgorio’n uchel o blaid bod yn fuddiol.

6 A fydd y cynllun yn llesol i’r amgylchedd?

Mae’r ffactorau’n cynnwys ‘yr effaith ar les economaidd lleol a chenedlaethol, gwella effeithlonrwydd a dibynadwyedd cerbydau cludo nwyddau ac a yw’n werth da am arian’. Unwaith eto, dylai cynllun Llanbedr sgorio’n uchel iawn gyda datblygiad technolegau awyrofod sero net yn y maes awyr, cael gwared ar dagfeydd a llif yr holl draffig, gan gynnwys bysiau a cherbydau brys a chadwraeth y bont hynafol.

8 A fydd y cynllun yn llesol i ddiwylliant a’r iaith 9Gymraeg?Pamorgadarn yw’r achos dros y cynllun i ddyfodol gwahanol posibl? Pe bai ffordd osgoi a ffordd fynediad Llanbedr wedi’u hasesu gan ddefnyddio’r meini prawf hyn, sy’n llawer mwy cyfannol a chynhwysfawr na’r ddau gwestiwn anghywir a ofynnwyd yn wreiddiol, yna mae bron yn annirnadwy y gallai’r Panel fod wedi dod i’r casgliad na ddylai fynd Wrthymlaen!ystyried ei Broses Adolygu, mae’r Panel wedi rhoi pwys mawr ar gysylltu â rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys hwyluso cyflwyniadau gan randdeiliaid allweddol a hefyd i’r Cadeirydd a’r Ysgrifennydd gwrdd â phobl sydd â diddordeb. Ni ddigwyddodd y lefel hon o gyd-drafod yn achos Ffordd Osgoi Llanbedr. Dylem yn awr fynnu bod cynllun Llanbedr yn cael ei ailasesu gan y Panel cyfan gan fabwysiadu’r naw maen prawf uchod wrth ailgynnal y broses adolygu. Dim ond fel hyn y gellir disgrifio penderfyniad y Llywodraeth ar y cynllun fel un teg a chadarn. Hyderwn y bydd Cyngor Gwynedd yn cymryd yr awenau wrth alw am ailasesiad.

4 Beth yw’r effaith ar allyriadau CO2? Mae ffyrdd newydd sy’n cynyddu allyriadau CO2 yn annhebygol o fod yn briodol, oni bai bod amgylchiadau arbennig, er enghraifft, mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd. Bydd y Panel yn ystyried sawl ffactor, gan gynnwys ‘newidiadau yng nghyflymder a llif cerbydau’. Yn hyn o beth, dylai cynllun Llanbedr sgorio’n uchel yn ei allu i leihau CO2.

5 A fydd y cynllun yn llesol i bobl a chymunedau?

7 A fydd y cynllun yn llesol i’r ardal a’r economi?

NEWID YN Y DULLIAU O ASESU FFYRDD NEWYDD

1 A wnaethpwyd yr achos dros newid?

Mae Panel Asesu Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi meini prawf newydd ar gyfer asesu datblygiadau newydd ar ein ffyrdd. Yn y Rhagair, maen nhw’n nodi pwysigrwydd mynd drwy drefn fanwl a chadarn cyn dod at benderfyniadau. Mae’n siom i ni na ddaru nhw lynu at athroniaeth debyg wrth adolygu Ffordd Osgoi Llanbedr. Cytunodd y Panel Asesu Newydd i ddefnyddio’r naw maen prawf a ganlyn i ystyried pa mor dda y mae pob cynllun ffordd newydd yn cyd-fynd â Pholisi Llywodraeth Cymru a’i nodau llesiant cenedlaethol.

2 A yw amcanion y cynllun yn cyd-fynd â pholisi 3cyfredol?Awnaeth y broses archwilio’r holl opsiynau priodol?

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.