Cyrsiau Ty Newydd 2018

Page 1

CYRSIAU TYˆ NEWYDD 2018


Cysylltwch â ni: Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW 01766 522811 tynewydd@llenyddiaethcymru.org Twitter: @Ty_Newydd / @LlenCymru Facebook: /CanolfanTyNewydd Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Thŷ Newydd a chyrsiau 2018, yn cynnwys cwestiynau cyffredinol, blog, pwt am hanes y tŷ a dyfyniadau gan gyn-fynychwyr ewch i: www.tynewydd.cymru

Lluniau gan: Richard Outram, Keith Morris, Dafydd Nant ac Emyr Young Mae Tŷ Newydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru: www.llenyddiaethcymru.org Llun y clawr gan Pete Fowler: www.petefowlershop.com Dylunio gan Hoffi: www.hoffi.com


1


Tŷ Newydd Mewn lleoliad prydferth rhwng Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri, daw ein tŷ gwyn eiconig yn gartref i gannoedd o ymwelwyr yn flynyddol. Adwaenir Tŷ Newydd fel cartref olaf y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George, a gynlluniwyd yn arbennig iddo gan bensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn y 1940au. Ond bellach yn ein 28ain mlynedd, caiff Tŷ Newydd ei adnabod fel cartref awduron Cymru. Mae sawl llenor wedi cychwyn eu taith ysgrifennu yma yn y ganolfan, ac rydym yn ymfalchïo o gael arddangos llyfrau cyn-fynychwyr yn ein llyfrgell, ac o gael eu croesawu yn ôl fel tiwtoriaid a darllenwyr gwadd. Bob wythnos, rydym yn croesawu grŵp newydd i’r ganolfan: boed yn ddosbarth ysgol neu brifysgol i finiogi eu sgiliau ysgrifennu creadigol ar gyfer arholiad; yn grŵp o ddieithriaid wedi eu dwyn ynghyd gan eu hoffter o genre neu thema benodol; neu yn unigolion sy’n chwilio am encil tawel i ganolbwyntio ar waith ar y gweill. Mae ein cenhadaeth yn syml: i gynorthwyo awduron i ddatblygu eu sgiliau yn broffesiynol; i greu gofod lle gall llenorion a beirdd rwydweithio a dysgu gan ei gilydd; ac i roi profiadau anhygoel, dihafal i’n hymwelwyr. Mae staff y ganolfan yn cymryd balchder yn eu gwaith, ac ar gael bob amser i roi cyngor i awduron, ac i gynnig cymorth ac arweiniad gyda’u gyrfaoedd ysgrifennu. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dŷ Newydd, y ganolfan ger y môr – y man perffaith i gychwyn eich stori.

2


Y Cyrsiau Mae pob cwrs yn Nhŷ Newydd yn unigryw. P’un ai eich bod yn ymweld â ni am y tro cyntaf, neu am y degfed tro, bydd profiadau newydd yn eich disgwyl. Ond yr hyn sy’n aros yn gyson yw awyrgylch groesawgar y ganolfan, a daw’r tŷ yn hafan i bawb sy’n camu dros y trothwy. Fel rheol byddwch yn rhannu’r tŷ gyda grŵp o hyd at 16 o awduron eraill. Bydd cyfle i chi fwynhau gweithdai grŵp, darlleniadau a sesiynau mentora un-i-un i edrych ar eich gwaith, ond bydd digon o gyfleoedd i ysgrifennu’n unigol hefyd, i gael crwydro’r ardal leol ac i ymlacio. Mae’r tiwtoriaid oll wedi eu dewis yn ofalus. Maent yn awduron ac yn diwtoriaid profiadol a fydd yn sicrhau fod profiadau’r cwrs o gymorth i’ch datblygiad fel awdur. Os nad ydych yn siŵr pa gwrs sy’n addas i chi, codwch y ffôn. Neu os ydych am brofi genre newydd, cysylltwch â ni am sgwrs, neu rhowch gynnig ar gwrs undydd neu benwythnos i gael blas o’r hyn sydd ar gael. C Cwrs Cymraeg S Cwrs Saesneg D Cwrs a gaiff ei gynnal drwy’r Saesneg, ond bydd o leiaf un

o’r tiwtoriaid yn gallu trafod eich gwaith yn y Gymraeg

3


Gwybodaeth Ymarferol Mae’r cyrsiau ar agor i bawb dros 16 oed, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau. Mae croeso i bawb, yn ddechreuwyr chwilfrydig neu yn awduron neu feirdd mwy profiadol. Gofynnir i chi gyrraedd ar noson gyntaf y cwrs rhwng 3.00 pm a 5.00 pm mewn pryd ar gyfer y swper croeso sydd am 6.30 pm (os na nodir yn wahanol). Rydym yn arlwyo ar gyfer pob math o anghenion diet gwahanol – rhowch wybod i ni am eich gofynion wrth archebu lle ar gwrs. Byddwch yn helpu eich hunain i frecwast a chinio bwffe ffres, ac yn cymryd tro i roi help llaw gyda gwaith paratoi prydau bwyd gyda’r nos. Gofynnwn i chi ddod â deunyddiau ysgrifennu eich hunain. Mae cysylltiad gwe di-wifr ar gael yn ogystal â gwasanaeth argraffu a llungopïo. Mae lifft yn y tŷ sy’n rhoi mynediad i’r holl brif ystafelloedd, oni bai am y gegin, i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd, ac mae gennym hefyd ystafell wely en-suite bwrpasol wedi ei haddasu i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Darperir dillad gwely a thywel i bob gwestai, ond bydd angen i chi ddod â phethau ymolchi gyda chi. Mae yma ystafelloedd gwely cyfforddus a sawl ystafell gyffredin i’w defnyddio i ysgrifennu. Gan fod hwn yn adeilad rhestredig Gradd II* rydym yn adolygu’r opsiynau gorau ar sut i wella ein cyfleusterau yn gyson, gan gymryd i ystyriaeth treftadaeth a hanes pensaernïol yr adeilad. Mae atebion i gwestiynau cyffredinol ar ein gwefan. 4


Sut i gofrestru

Cymorth Ariannol

1. Arlein Gallwch gofrestru ar gwrs trwy ein system arlein, ble gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o fanylion am y cyrsiau a’r tiwtoriaid: www.tynewydd.cymru

Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb a fyddai’n elwa o fynychu cwrs yn Nhŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’ch incwm a’ch lefel o brofiad. Gallwch dalu ffioedd cwrs mewn rhandaliadau dros gyfnod o hyd at 12 mis, oni bai am y blaendal na ellir ei ddychwelyd (£100 sy’n ddyledus wrth archebu).

2. Drwy gysylltu â Thŷ Newydd Cysylltwch â swyddfa Tŷ Newydd i siarad ag aelod o staff ac i gofrestru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org

01766 522811 Gofynnwn i chi dalu blaendal o £100 wrth gofrestru i sicrhau eich lle ar y cwrs. Ni allwn ad-dalu’r blaendal unwaith y caiff yr archeb ei gadarnhau. Mae’r swm llawn yn ddyledus chwe wythnos cyn cychwyn y cwrs. Pe byddwch yn canslo ar ôl y dyddiad hwn, ni chaiff y swm ei ddychwelyd oni bai fod eich lle ar y cwrs yn cael ei lenwi. Cynghorwn chi i ystyried prynu yswiriant personol i’ch gwarchod rhag y posibilrwydd hwn. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo neu ohirio’r cwrs hyd at bythefnos cyn y dyddiad dechrau. Yn yr achosion hyn, caiff y ffi ei ad-dalu yn llawn. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r rhaglen.

Ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, mae gennym ysgoloriaethau, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Er ein bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl sydd ag incwm is, ni allwn sicrhau cymorth ariannol bob tro. Er mwyn i ni asesu anghenion a bod yn deg gyda phawb, mae’n hollbwysig nodi cais am gymorth ariannol wrth archebu cwrs. Ni allwn ystyried cais am ysgoloriaeth ar ôl i chi gofrestru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thŷ Newydd.

5


Creu eich cwrs eich hun Ysgolion Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, a phrifysgolion. Rydym yn cydweithio ag athrawon i drefnu cyrsiau unigryw wedi eu teilwra ar gyfer y dosbarth dan sylw, gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas. Gallwn helpu gydag astudio ar gyfer arholiadau, neu edrych ar destunau gosod TGAU, Lefel A a chyrsiau prifysgol. Llogi’r Gofod Mae Tŷ Newydd yn llecyn perffaith ar gyfer partïon teuluol, gwyliau i grwpiau mawr, priodasau a chynadleddau bychain. Mae lle i hyd at 30 gysgu ar y safle, ac mae yma ystafelloedd cymunedol mawr yn cynnwys cegin, llyfrgell ac ystafell fwyta. Defnydd Busnes Os oes diddordeb gennych mewn trefnu diwrnod allan i’ch cwmni, busnes neu grŵp, Tŷ Newydd yw’r gofod perffaith. Gallwch logi’r tŷ, a gallwn gynnig sesiynau diwrnod neu dros gyfnod preswyl gyda thiwtoriaid creadigol am brisiau cystadleuol. Cysylltwch â Thŷ Newydd am ragor o wybodaeth ac i drafod prisiau. tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811

6


Cyrsiau 2018 7


Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr Cymraeg Dydd Gwener 16 – Dydd Sul 18 Mawrth

C

Tiwtoriaid: Bethan Gwanas ac Eilir Jones Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Dyma gwrs ar gyfer dysgwyr Cymraeg Lefel Canolradd sy’n hoffi ysgrifennu creadigol, boed yn gerddi, straeon byrion, sgriptiau, neu unrhyw ffurf llenyddol arall. Bydd pawb yn cael cyfle i siarad ac ymarfer eu Cymraeg ar y cwrs, ond yr ysgrifennu fydd yn cael y sylw pennaf y penwythnos hwn. Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau, yn ogystal ag ar eich pen eich hun, a byddwn yn defnyddio pob math o ddulliau i’ch ysbrydoli yn cynnwys teithiau cerdded byrion a heriau ysgrifennu. Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 30 o lyfrau, tiwtor ysgrifennu creadigol profiadol, tiwtor Cymraeg i oedolion a chyflwynydd teledu. Hi yw creawdwr Blodwen Jones, cymeriad mewn tair nofel ar gyfer dysgwyr. Mae’n gweithio ar Sioe Gerdd Bywyd Blodwen Jones fydd yn teithio theatrau Cymru yn y dyfodol.

8

Mae gan Eilir Jones dros ugain mlynedd o brofiad mewn ysgrifennu ar gyfer radio, teledu a theatr. Caiff ei adnabod am ei greadigaethau comedi Cymreig yn cynnwys y cymeriadau poblogaidd Ffarmwr Ffowc a PC Leslie Wynne. Ers pum mlynedd mae wedi dysgu Cymraeg yn y gymuned i Goleg Cambria a Phrifysgol Bangor.


Ysgrifennu am Newid Hinsawdd Dydd Gwener 23 – Dydd Sul 25 Mawrth

S

Tiwtoriaid: Emily Hinshelwood a David Thorpe Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Ar y cwrs byr hwn byddwn yn arbrofi gydag amrywiaeth o ddulliau gwahanol o ysgrifennu am newid hinsawdd. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn gyfleu ein hymateb emosiynol, defnyddio ymchwil gwyddonol, dychmygu sefyllfaoedd posib, a chynhyrchu straeon sy’n trafod y pwnc yn ystyrlon. Sut mae mynd ati i ddatgelu ac ysgrifennu am y cyswllt rhwng ein defnydd o danwydd ffosil a cholli cynefinoedd, bywyd a ffordd o fyw sy’n stori gyffredin eisoes mewn rhai mannau o’r byd? P’un ai rhyddiaith, barddoniaeth, neu ysgrifennu ffeithiol sy’n mynd â’ch bryd – byddwn yn trafod agweddau gwahanol newid hinsawdd, a’r effaith mae’n ei gael arnom ni a phobl ym mhedwar ban byd. Bardd, dramodydd a thiwtor yw Emily Hinshelwood. Mae wedi golygu dwy flodeugerdd farddoniaeth am newid hinsawdd, a chynhyrchu dramâu yn ymateb i’r pwnc. Bu’n awdur preswyl mewn sawl cynhadledd newid hinsawdd dros y byd, a chyd-sefydlodd fferm wynt gydweithredol fwyaf Cymru. Bu’n arwain digwyddiadau a gweithdai celfyddydol a newid hinsawdd am nifer o flynyddoedd.

David Thorpe yw awdur Stormteller, nofel i bobl ifainc am newid hinsawdd, ac mae wedi cyfrannu i’r flodeugerdd Realistic Utopias. Mae wedi ysgrifennu a golygu comics Marvel, nofelau gwyddonias, sgriptiau teledu a ffilm, a nifer o erthyglau am fyw’n gynaliadwy. Ef yw sefydlydd a noddwr The One Planet Council a The London Screenwriters Workshop.

9


Cyfansoddi Caneuon Dydd Llun 9 – Dydd Sadwrn 14 Ebrill

S

Tiwtoriaid: Stewart Henderson a Willy Russell Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) P’un ai eich bod yn awyddus i gyfansoddi cân ar gyfer y siartiau, i’w chanu mewn noson meic agored, neu i’w chanu mewn sioe gerdd fawreddog ar lwyfan y Brifwyl neu yn y West End, bydd y cwrs hwn yn cynnig arweiniad. Cwrs ymarferol fydd hwn a fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol o berfformio. Yn addas ar gyfer crefftwyr geiriau a cherddorion, bydd y cwrs yn cynnig cyfle i weithio’n unigol ac ar y cyd i greu caneuon a geiriau cyfareddol yng nghwmni dau diwtor byd-enwog. Os yw’n ymarferol, dewch â’ch offeryn gyda chi. Bardd, cyfansoddwr caneuon a darlledwr yw Stewart Henderson. Drwy gydweithio ar brosiectau â Martyn Joseph, enillydd Gwobr Gerddoriaeth y BBC, mae cylchgronau Q a Mojo wedi gosod eu cyfansoddiadau yn yr un cynghrair â Randy Newman a Radiohead. Ar BBC Radio 2, canmolodd Bob Harris “ddeallusrwydd anhygoel” geiriau eu caneuon.

10

Willy Russell yw un o brif ddramodwyr y DU, ac mae Educating Rita, Shirley Valentine a Blood Brothers ymysg ei gynyrchiadau enwocaf. Mae hefyd yn gyfansoddwr a cherddor, ac ynghyd â’r sgôr i’r sioe gerdd Blood Brothers, mae wedi cyfansoddi i gyngherddau, ffilm a theledu.


Cyrsiau Undydd y Gwanwyn

C

Dyma ragflas o gyrsiau undydd Cymraeg y gwanwyn. Caiff rhaglen o gyrsiau Cymraeg pellach yr hydref eu cyhoeddi arlein yn haf 2018.

Cwrs Undydd: Y Stori Fer Dydd Sadwrn 7 Ebrill 11.00 am – 5.00 pm Tiwtor: Sonia Edwards Ffi: £35 Ymunwch â Sonia Edwards, Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 i edrych ar y grefft o droi eich syniadau yn straeon byrion bachog.

Ysgrifennu er Iechyd a Lles Dydd Sadwrn 16 Mehefin 11.00 am – 5.00 pm Ffi: £35 Byddwn yn edrych ar yr ymarfer o gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda grwpiau amrywiol er mwyn buddiannau iechyd a lles. Ymysg y pynciau trafod y bydd trechu unigedd drwy lenyddiaeth ac ysgrifennu ag unigolion sy’n byw â dementia.

Y Caeth a’r Rhydd – Mesurau Cymraeg Dydd Sadwrn 21 Ebrill 11.00 am – 5.00 pm Tiwtor: Myrddin ap Dafydd Ffi: £35 Bydd y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn edrych ar y gwahanol fesurau caeth a rhydd sy’n agos at ei galon, ac yn rhoi arweiniad i chithau geisio llunio rhai cerddi yn y mesurau hyn.

11


Ffuglen Boblogaidd: Gwthio Ffiniau 11.00 am Dydd Sadwrn 14 – 3.00 pm Dydd Sul 15 Ebrill

C

Tiwtoriaid: Llwyd Owen a Dewi Prysor Ffi: £99 (rhannu ystafell) / £150 (ystafell sengl) Dyma gwrs byr yng nghwmni dau o awduron mwyaf beiddgar yr iaith Gymraeg a fydd yn edrych ar y grefft o ysgrifennu ffuglen boblogaidd. Yn ogystal â chynnig arweiniad ar strwythuro stori dda, bydd y cwrs hwn yn ceisio gwthio’r ffiniau. Byddwn yn creu cymeriadau credadwy y gallwn uniaethu â nhw, ond wedyn yn taflu fflachlwch dros eu pennau i’w galluogi i oleuo’n y tywyllwch. Byddwn yn ystyried â oes unrhyw themâu sydd yn dabŵ yn yr iaith Gymraeg, a pham, ac a ddylwn herio hynny? Byddwn yn rhoi sylw i leoliadau sy’n anweledig yn ein llenyddiaeth, a hefyd yn dyfeisio bydoedd cyfochrog i brocio’r drefn. Awdur a chyfieithydd yw Llwyd Owen. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn 2006. Mae wedi cyhoeddi’n gyson ers hynny ac mae’i nofelau’n cynnwys Ffydd Gobaith Cariad (2006), Un Ddinas Dau Fyd (2011), Y Ddyled (2014) a Taffia (2016). Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei unfed nofel ar ddeg, sydd i’w chyhoeddi yn 2018.

12

Mae Dewi Prysor wedi cyhoeddi chwe nofel a chyfrol o’i atgofion o ddilyn tîm pêldroed Cymru trwy Ffrainc yn ystod gemau terfynol Ewro 2016. Cyrhaeddodd tair o’i nofelau restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ac enillodd ei nofel Lladd Duw Wobr Barn y Bobl Golwg360 2011. Mae’n golofnydd i’r cylchgrawn Barddas.


Dosbarth Meistr Barddoniaeth y Gwanwyn Dydd Llun 16 – Dydd Sadwrn 21 Ebrill

S

Tiwtoriaid: Gillian Clarke a Carol Ann Duffy Darllenydd Gwadd: Paul Henry Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Dyddiad Cau Ymgeisio: Dydd Gwener 16 Chwefror Dyma gyfle i feirdd ymroddedig roi hwb ychwanegol i’w gwaith. Bydd y cwrs yn cynnwys gweithdai a chyfarfodydd grŵp bach er mwyn trafod a chefnogi gwaith ar y gweill a sbarduno cerddi newydd. Bydd cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu’n unigol a bydd gweithdai ychwanegol yn y prynhawniau. Yn ystod yr wythnos bydd y tiwtoriaid a’r darllenydd gwadd yn rhoi darlleniadau o’u gwaith. Caiff y cyfranogwyr olygu a chyfrannu at flodeugerdd, a phenllanw’r cwrs fydd darlleniad ohoni mewn sesiwn ddathliadol ar y nos Wener. Gillian Clarke oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016. Yn 2010, dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth, a derbyniodd Wobr Wilfred Owen yn 2012. Cyhoeddwyd ei chyfrol Selected Poems gan Picador yn 2016, a’i chasgliad diweddaraf Zoology yn 2017 gan Carcanet. Penodwyd Carol Ann Duffy yn Fardd Llawryfog Prydain yn 2009. Enillodd lawer o wobrau am ei barddoniaeth gan gynnwys Gwobr Signal

am Gerddi i Blant, Gwobrau Whitbread, Forward a’r T S Eliot. Yn 2011 enillodd Wobr Farddoniaeth Costa am The Bees, ac yn 2012 enillodd Wobr Pinter PEN. Daeth Paul Henry i farddoniaeth drwy ysgrifennu caneuon. Yn Gymrawd Ysgrifennu ym Mhrifysgol De Cymru, mae wedi cyflwyno rhaglenni celfyddydol i BBC Radio Wales, BBC Radio 3 a 4. 13


Cwrs Cynganeddu Dydd Llun 23 – Dydd Gwener 27 Ebrill

C

Tiwtoriaid: Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones Ffi: £350 (rhannu ystafell) / £450 (ystafell sengl) Os ydych chi wedi dyheu erioed am y cyfle i gynganeddu neu os oes gennych grap arni eisoes ond eisiau datblygu eich crefft ymhellach, hwn yw’r cwrs i chi. Byddwn yn rhannu’n ddau ddosbarth i drin a thrafod pob agwedd ar y gynghanedd – un i ddechreuwyr pur a’r llall i’r rhai mwy profiadol. Down yn ôl at ein gilydd ar gyfer Ymryson ar y noson olaf. Bydd cyfle i gael gwersi ar y cyd a hefyd i weithio ar ddarnau yn unigol. Dewch atom ni, felly, i fwynhau cwmni anoraciaid yr acen a phrofi llonydd gorffenedig y cornel bach hwn o Eifionydd. Mae Mererid Hopwood yn dysgu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac wrth ei bodd yn ysgrifennu. Mae wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n Fardd Plant Cymru. Mae wedi cyhoeddi cyfrolau rhyddiaith a barddoniaeth gan gynnwys y llyfryn Cynghanedd i Blant.

14

Crwt o Aberteifi yw Ceri Wyn Jones. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ynghyd â’r Goron, ac ef erbyn hyn yw’r Meuryn, sef cyflwynydd a beirniad cyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau o gerddi i blant ac oedolion.


Sgriptio 11.00 am Dydd Sadwrn 5 – 3.00 pm Dydd Sul 6 Mai

C

Tiwtor: Aled Jones Williams Ffi: £99 (rhannu ystafell) / £150 (ystafell sengl) Ymunwch â’r dramodydd Aled Jones Williams ar gwrs penwythnos byr fydd yn eich cyflwyno i’r grefft o sgriptio ac ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Byddwn yn chwilio am syniadau ac yn eu datblygu yn ddramâu byrion. Byddwn yn arbrofi gyda sain a theimlad y dramâu drwy eu darllen ar lafar mewn grwpiau, ac yn eu haddasu a’u llywio gyda chymorth y tiwtor. Bydd cyfle i gael sgyrsiau un-i-un a digon o gyfleoedd i drafod syniadau yn y gweithdai grŵp. Byddwch yn gadael y cwrs ag egin drama i barhau â hi ar eich liwt eich hun. Cwrs addas i ddechreuwyr a dramodwyr sydd â pheth profiad. Dramodydd, llenor a bardd yw Aled Jones Williams, a achosodd peth trafodaeth yn 2008 gyda’i ddrama Iesu! gan iddo bortreadu Iesu fel menyw. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994, 1995 a 1996 am ei ddramâu, Dyn Llnau Bogs,

Pêl Goch a Cnawd. Cyrhaeddodd ei gyfrolau Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun ac Eneidiau rhestrau byrion Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yn 2002 enillodd Aled Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi am ei bryddest, ‘Awelon’.

15


Chwedleua i Ddechreuwyr Dydd Gwener 11 – Dydd Sul 13 Mai

S

Tiwtoriaid: Hugh Lupton a Daniel Morden Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Straeon llên gwerin, hanesion tylwyth teg a chwedlau ein hynafiaid yw sylfaen pob stori a adroddir, ac i raddau dyna sylfaeni ein hunaniaeth a’n dealltwriaeth ni o’r byd a’n gilydd. Mae’r cwrs adrodd straeon hwn yn gyfle i ddechreuwyr – a’r rheiny sy’n dychwelyd i’r grefft – ddysgu sut i baratoi a pherfformio chwedlau traddodiadol yng nghwmni dau o diwtoriaid gorau Prydain ym maes celfyddyd adrodd straeon. Ers 30 mlynedd, adwaenir Hugh Lupton fel ffigwr canolog yn yr adfywiad ym maes adrodd straeon ym Mhrydain. Mae chwedleua yn ei waed – mae’n or-nai i Arthur Ransome. Mae Hugh yn adrodd chwedlau a straeon llên gwerin o sawl diwylliant ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn tirwedd, a’r straeon a’r baledi sy’n rhoi llais iddynt.

16

Mae Daniel Morden yn adroddwr straeon proffesiynol ers 1989. Enillodd Wobr Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ddwywaith am ei arddull o adrodd straeon traddodiadol. Mae ei gasgliadau o straeon wedi canolbwyntio ar sawl maes sy’n ei ysbrydoli, o straeon gwerin a chwedlau Cymru i draddodiad adrodd straeon llafar y Roma a’r Sipsiwn.


Encil Mis Mai Dydd Llun 14 – Dydd Gwener 18 Mai Ffi: £300 / £450 (prisiau’n amrywio yn dibynnu ar eich dewis o ystafell) Dyma gyfle i gael dianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol—i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu ddim ond darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun—a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.

17


18


Cyfieithu Barddoniaeth a Rhyddiaith Dydd Gwener 18 – Dydd Sul 20 Mai

D

Tiwtoriaid: Menna Elfyn ac Owen Martell Ffi: £295 (rhannu ystafell) / £495 (ystafell sengl) Cael hyd i ffrindiau newydd i siarad â nhw yw cyfieithu, meddai bardd enwog unwaith. ‘Cusan drwy hances poced’, meddai R S Thomas yn ei dro. Beth am ddod i Dŷ Newydd am benwythnos i drafod y ffyrdd niferus sydd yna o gyfieithu barddoniaeth neu ryddiaith, i ac o ba bynnag iaith y mynnoch. Hwyrach y buoch wrthi’n cyfieithu yn dawel bach ac am gael barn arall ar y gwaith, neu efallai’n dymuno rhoi cynnig arni am y tro cyntaf. Dyma faes cyfoethog i’r artist sy’n dymuno anturio ym myd iaith a ieithoedd. Cewch gwmni da a chyfarwyddyd caredig, a hynny mewn man sydd bob amser yn ysbrydoli gwaith creadigol. Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd sydd wedi cyhoeddi pedair ar ddeg cyfrol o farddoniaeth. Y diweddaraf yw’r gyfrol ddwyieithog Bondo (Bloodaxe Books, 2017) a cyfieithwyd ei gwaith i dros ugain o ieithoedd. Yn 2018, caiff ei llên-gofiant ei gyhoeddi gan Barddas. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

Mae Owen Martell yn awdur tair nofel a chyfrol o straeon byrion. Roedd ei nofel ddiweddaraf, Intermission, yn un o lyfrau’r flwyddyn yr Irish Times yn 2013 ac fe’i chyfieithwyd i Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg. Mae Owen hefyd yn gyd-olygydd cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt. Mae’n rhannu ei amser rhwng Cymru a Pharis.

19


S Dechrau Barddoni Dydd Llun 28 Mai – Dydd Sadwrn 2 Mehefin

Tiwtoriaid: Maura Dooley a Jo Shapcott Darllenydd Gwadd: David Foster-Morgan Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Wedi ei anelu at ddarpar feirdd a’r rhai sy’n dychwelyd at y grefft, nod y cwrs hwn yw adeiladu hyder a gosod y seiliau ar gyfer parhau â’r grefft o farddoni ar ôl gadael. Cawn edrych ar sut y mae barddoniaeth yn rhoi bywyd i syniadau, hanesion ac emosiynau. Byddwn yn defnyddio technegau a dulliau hen a newydd, a chael hwyl gydag iaith ar yr un pryd. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, darlleniadau a sesiynau un-i-un. Byddwch yn gadael â gwaith newydd, a’r ysbrydoliaeth i ysgrifennu mwy. Casgliad diweddaraf Maura Dooley o farddoniaeth yw The Silvering (2016). Mae’r blodeugerddi a’r cyfrolau eraill y mae hi wedi’u golygu yn cynnwys The Honey Gatherers: Love Poems a How Novelists Work. Mae hi wedi ymddangos ddwywaith ar restr fer Gwobr T S Eliot ac wedi’i henwebu ddwywaith am Wobr Cerdd Unigol Forward. Rhoddwyd Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth i Jo Shapcott yn 2011. Mae detholiad o gerddi o’i thri 20

chasgliad arobryn wedi’u dwyn ynghyd yn Her Book (2000). Mae hi wedi ennill sawl gwobr lenyddol, gan gynnwys Gwobr Llyfr Costa am Of Mutability (2010), sef ei chasgliad diweddaraf. Mae cerddi David FosterMorgan wedi eu cyhoeddi yn Poetry Wales, The New Welsh Reader, Roundy House, Envoi, The Interpreter’s House a’r TLS. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf Masculine Happiness gan Seren Books yn 2015.


Cwrs i Awduron Ifainc: Ysgrifennu, Golygu a Chyhoeddi Rhyddiaith Dydd Llun 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin

S

Tiwtoriaid: Tristan Hughes, Tiffany Murray a Gwesteion Ffi: £325 (rhannu ystafell) / £425 (ystafell sengl) Dyma gwrs yn arbennig i awduron rhwng 18-35 sy’n gweithio ar nofel, casgliad o straeon byrion, gwaith ffeithiol neu ddim ond yn arbrofi â rhyddiaith. Yn ystod yr wythnos ddwys hon o ddysgu, byddwn yn bwrw golwg fanylach ar y broses o olygu, cyhoeddi, perfformio a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch gwaith. Bydd y cwrs carlam hwn yn cynnwys ymweliadau gan nifer o westeion o’r diwydiant cyhoeddi. Drwy weithdai grŵp, sesiynau un-i-un, ac ymdrochi yn adnoddau naturiol yr ardal, nod y cwrs hwn yw rhoi hwb enfawr i’ch gwaith. Mewn partneriaeth â Parthian Books a Wales Arts Review. Mae’r ffioedd ar gyfer y cwrs wedi’u gostwng er mwyn annog awduron newydd i gofrestru.

Mae Tristan Hughes yn awdur pedair nofel: Eye Lake, Revenant, Send My Cold Bones Home a Hummingbird, yn ogystal â chasgliad o straeon byrion, The Tower. Enillodd Wobr Stori Fer Rhys Davies, ac ar hyn o bryd mae’n uwch-ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Tiffany Murray yn awdur ar dair nofel, a hi sy’n gyfrifol am gynllun Awduron Wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli. Mae hi’n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru ac yn sgriptwraig. Mae hi’n gweithio ar ei phedwaredd nofel, Ghost Moth, ac yn addasu ei nofel Diamond Star Halo ar gyfer y teledu.

21


Dosbarth Meistr: Ysgrifennu ar gyfer Perfformiadau Dydd Llun 11 – Dydd Sadwrn 16 Mehefin

S

Tiwtor: Kaite O’Reilly Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Dyma ddosbarth meistr i awduron profiadol sy’n chwilio am gymorth i fireinio’r gwaith sydd ganddynt ar y gweill, neu sy’n cnoi cil dros syniad ac yn dyheu am ei drosglwyddo i’r dudalen. Bydd hi’n wythnos ddwys, ond yn un llawn mwynhad gyda thasgau sy’n canolbwyntio ar sgiliau er mwyn datblygu techneg a gwella’ch gwaith. Bydd y cwrs yn edrych ar sut y mae mynd ati i olygu a diwygio, ynghyd â datblygu cymeriadau, plot, deinameg a’r byd y mae’ch drama yn ei greu. Byddwn yn edrych ar y strwythur dramatig gorau i’ch sgript gan roi eglurder i’r hyn rydych chi am ei ddweud. Bydd rhestr ddarllen yn cael ei darparu ymlaen llaw. Er mwyn i bawb elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, caiff yr awduron eu dethol ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar enghraifft o’u gwaith. Ewch i www.tynewydd.cymru am wybodaeth ar sut i ymgeisio.

Mae Kaite O’Reilly yn gweithio’n rhyngwladol fel dramodydd, dramaturg a thiwtor, ac enillodd Wobr Ted Hughes am ei fersiwn o The Persians i National Theatre Wales. Mae ei gwaith wedi ei gynhyrchu mewn deuddeg gwlad dros y byd, y mwyaf

22

diweddar yw The Singapore ‘d’ Monologues sef comisiwn rhyngwladol i Unlimited a The 9 Fridas yn Taipei a Hong Kong. Cyhoeddwyd ei dramâu dethol Atypical Plays for Atypical Actors, gan Oberon yn 2016.


Ysgrifennu Dramâu Radio Dydd Llun 18 – Dydd Sadwrn 23 Mehefin

S

Tiwtoriaid: Paul Dodgson a Kate McAll Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Mae dramâu radio yn fwy poblogaidd nag erioed. Yn ystod y cwrs hwn bydd cyfle i ddysgu sut y mae bachu’ch cynulleidfa; creu cymeriadau byw; creu deialog sy’n argyhoeddi; a defnyddio sain mewn ffyrdd diddorol i adrodd eich stori. Dyma gyfle i ysgrifennu drama radio fer o’i dechrau i’w diwedd, a chael cefnogaeth a chyngor ar hyd y daith gan ddau sy’n gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant. Bydd y cwrs yn gyfuniad o weithdai, ymarferion gwrando, a sesiynau un-i-un, gan gloi gyda pherfformiad o’ch gwaith ar ddiwedd yr wythnos. Dewch i ymuno â’r adfywiad yn y byd radio! Awdur, cerddor, cynhyrchydd radio ac athro yw Paul Dodgson ac un sydd wedi caru dramâu radio erioed. Fel cynhyrchydd mae wedi creu cannoedd o raglenni i holl rwydweithiau radio cenedlaethol y BBC, gan gynnwys 16 o ddramâu i BBC Radio 4. Mae wedi ysgrifennu penodau o Eastenders, cyfresi dramâu a rhaglenni dogfen ar y teledu i’r BBC.

Cynhyrchydd a chyfarwyddwr yw Kate McAll sydd wedi ennill Gwobr Aur Sony. Mae ganddi 30 mlynedd o brofiad yn y maes, yn bennaf yn creu rhaglenni i BBC Radio 4. Bu’n bennaeth ar yr adran dramâu radio yn BBC Cymru, ac mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun yn y DU a’r Unol Daleithiau.

23


Teithiau gyda’r Haiku drwy S Farddoniaeth a Rhyddiaith Dydd Gwener 13 – Dydd Sul 15 Gorffennaf Tiwtoriaid: Philip Gross a Lynne Rees Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Mesur rhyfeddol yw’r haiku – un sy’n gallu crisialu profiad a hoelio’r sylw’n syth wrth ein cyflwyno i hanfod ennyd neu gof. Mae’n llwybr hefyd i fydoedd ehangach cerddi rhydd a rhyddiaith. Ar y cwrs penwythnos hwn bydd taith gerdded a gweithdai yn ysbrydoli ysgrifennu newydd ynghyd â chydweithio creadigol rhwng y rheini sy’n cymryd rhan, a hynny mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Pe dymunech, dewch â chamera hefyd gan y bydd cyfle i blethu rhywfaint o ffotograffiaeth i’r penwythnos i greu cyfanweithiau celfyddydol gwerth chweil. Mae Philip Gross wedi cyhoeddi ugain casgliad o gerddi, gan gynnwys The Water Table a enillodd Wobr T S Eliot yn 2009, ac yn fwyaf diweddar A Bright Acoustic (2017). Mae wedi cydweithio’n helaeth â cherddorion, awduron eraill ac artistiaid. Cyhoeddwyd A Fold In The River yn 2015, sef gwaith ar y cyd â’r artist gweledol Valerie Coffin Price.

24

Bardd a blogwraig yw Lynne Rees. Ei llyfrau diweddaraf yw Forgiving the Rain (2012), sef hunangofiant ar ffurf rhyddiaith a haikus, Real Port Talbot (2013), sy’n astudiaeth seico-ddaearyddol o’i thref enedigol, a The Hungry Writer (2015), cyfrol o straeon am fywyd, y pethau sy’n ei hysbrydoli i ysgrifennu, a ryseitiau.


D

Encil gyda Yoga Dydd Llun 16 – Dydd Gwener 20 Gorffennaf Ymarferydd Yoga: Laura Karadog Ffi: £300 - £450 (prisiau’n amrywio yn dibynnu ar eich dewis o ystafell) Bydd ein hencilion yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi ganolbwyntio ar eich ysgrifennu. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun—a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer. Ar yr encil arbennig hwn, bydd athro yoga profiadol yn preswylio yn y ganolfan trwy gydol y cwrs. Bydd sesiynau boreol yn deffro’r corff a’r synhwyrau gan ysgogi’r awen ar gyfer diwrnod o ysgrifennu. Fin nos, bydd ail sesiwn hamddenol i ddadwneud tensiynau corfforol a meddyliol y dydd a’ch paratoi i wneud y gorau o’ch nosweithiau. Bydd yr yoga yn addas i bawb ac yn cael ei deilwra i anghenion bob unigolyn. Bydd hefyd opsiwn o sesiwn yoga personol yn ystod yr wythnos i chi gael darganfod mwy am sut y gallai yoga fod o fudd i chi. Mae cymryd rhan yn y sesiynau yoga yn ddewisol.

Mae Laura Karadog yn ymarfer yoga ers ei harddegau ac yn dysgu ers 2005. Heb lynu at unrhyw draddodiad penodol, bydd arddull dysgu Laura yn addasu i gwrdd

ag anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol yr unigolyn. Mae popeth mae Laura yn ei ddysgu wedi ei wreiddio yn ei hymarfer a’i phrofiad personol o yoga. 25


26


(Ail)adrodd Straeon Traddodiadol: S Chwedlau a Straeon Tylwyth Teg Dydd Gwener 20 – Dydd Sul 22 Gorffennaf Tiwtoriaid: Dimitra Fimi a Catherine Fisher Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Sut y mae awduron yn defnyddio straeon traddodiadol sydd wedi’u hadrodd dro ar ôl tro dros y canrifoedd i greu rhywbeth newydd, cyffrous a chofiadwy? Ymunwch â ni i weld sut y mae pob math o chwedlau a straeon tylwyth teg o draddodiadau gwahanol wedi ysbrydoli llenyddiaeth arobryn, a rhowch gynnig eich hun ar droi’r deunydd hyblyg hwn yn weithiau ffuglen newydd sbon. Mae’r cwrs yn gyfuniad cytbwys o theori ac ymarfer, a hynny o dan adain academydd sy’n arbenigo yn y maes, ac awdur sydd wedi troi’r deunydd mewn chwedlau a straeon gwerin yn nofelau llwyddiannus. Uwch-ddarlithydd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw Dimitra Fimi. Mae hi’n arbenigo ar waith J.R.R. Tolkien a llenyddiaeth ffantasi. Mae ei chyfrol ddiweddaraf, Celtic Myth in Contemporary Children’s Fantasy yn canolbwyntio ar y modd y mae testunau mytholegol Cymru ac Iwerddon yn ailymddangos mewn nofelau ffantasi cyfoes i ddarllenwyr ifanc.

Awdur sydd wedi ysgrifennu sawl nofel boblogaidd i oedolion ifanc yw Catherine Fisher, ynghyd â phedair cyfrol o farddoniaeth. Cyrhaeddodd ei llyfr Incarceron restr gwerthwyr gorau’r New York Times, ac fe’i gyfieithwyd i dros 20 o ieithoedd. Mae hi wedi ennill Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd a hi oedd Awdur Ieuenctid cyntaf Cymru.

27


S

Ysgrifennu Straeon Byrion Dydd Llun 23 – Dydd Sadwrn 28 Gorffennaf Tiwtoriaid: Tyler Keevil a Rachel Trezise Darllenydd Gwadd: A.L.Kennedy Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Y straeon byrion gorau yw’r rheini a fydd yn cyniwair ym meddwl y darllenydd am gryn amser wedi’r darlleniad cyntaf. Mae straeon byrion yn rhoi rhyddid creadigol di-ben-draw i’r awdur, ond yn galw hefyd am ddisgyblaeth a chynildeb – gall llai olygu mwy. Byddwn yn edrych ar hanfodion ysgrifennu straeon da: dod o hyd i syniadau, plotio, strwythur y naratif, creu cymeriadau crwn, sut i olygu a sut i gloi. I gael ysbrydoliaeth, byddwn yn edrych ar waith rhai o’r awduron straeon byrion blaengar. Erbyn diwedd yr wythnos byddwch chi’n ysgrifennu straeon sy’n bachu sylw eich darllenwyr o’r dechrau’n deg. Mae straeon byrion Tyler Keevil wedi ymddangos mewn amrywiaeth eang o gylchgronau a detholiadau, ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei waith. Mae’n darlithio mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd ei nofel newydd, No Good Brother, yn cael ei chyhoeddi yn 2018. Nofelydd, awdur straeon byrion a dramodydd yw Rachel Trezise. Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr 28

Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006 am Fresh Apples, ei chasgliad cyntaf o ryddiaith. Enillodd Cosmic Latte, ei hail gasgliad o ryddiaith, Wobr Darllenwyr Edge Hill yn 2014. Mae A.L.Kennedy wedi cyhoeddi 17 o lyfrau. Mae’r gwobrau niferus y mae hi wedi’u hennill yn cynnwys Gwobr Llyfr Costa 2007 a Gwobr Gwladwriaeth Awstria am Lenyddiaeth Ryngwladol. Mae hi hefyd yn ddramodydd sydd wedi ysgrifennu i’r llwyfan, radio, teledu a ffilm.


Ffuglen i Oedolion Ifainc 11.00 am Dydd Sadwrn 28 – 3.00pm Dydd Sul 29 Gorffennaf

C

Tiwtoriaid: Bethan Gwanas a Lleucu Roberts Ffi: £99 (rhannu ystafell) / £150 (ystafell sengl) Mae prinder nofelau ar gyfer oedolion ifanc yn y Gymraeg, a’r gobaith gyda’r cwrs byr hwn yw ysbrydoli a chynorthwyo awduron i greu gwaith fydd yn denu a chyfareddu pobl ifanc 13-18 oed. Sut mae dod o hyd i’r syniad cychwynnol? Sut mae strwythuro, creu cymeriadau a chyfleu emosiwn? Beth am arddull a lefel yr iaith? Pa themâu sy’n berthnasol i’r gynulleidfa? Gyda thasgau ysgrifennu amrywiol a digon o baneidiau a sgwrsio, byddwch yn siŵr o fwynhau cwmni’r tiwtoriaid, ac yn mynd adref gyda chwip o gynllun neu bennod gyntaf nofel – a thân yn eich bol i ddal ati. Mewn partneriaeth â’r Lolfa

Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 30 o lyfrau i blant ac oedolion, a golygydd a thiwtor ysgrifennu profiadol. Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og am ei llyfrau i’r arddegau ddwywaith – y tro cyntaf yn 2001 gyda Llinyn Trôns yna’r eildro yn 2003 gyda Sgôr. Bethan oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant 10-12 oed gyda Gwylliaid.

Mae Lleucu Roberts yn gwneud bywoliaeth drwy ysgrifennu nofelau, sgriptio ar gyfer y teledu a chyfieithu. Mae hi wedi ennill gwobr Tir na n-Og ar sawl achlysur ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.

29


Encil yr Haf Dydd Llun 6 – Dydd Sadwrn 11 Awst

S

Awdur Preswyl: Julia Forster Ffi: £350 (rhannu ystafell) / £495 (ystafell sengl) Ydych chi’n ysu i gael dianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol—i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu dim ond darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion yn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed neu ymweld â’r dafarn leol. Gallwch gerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr, neu ymlacio yn llonyddwch llyfrgell glyd Tŷ Newydd. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref, wedi eu paratoi gyda chynnyrch lleol, yn cael eu paratoi ar eich cyfer. Ar yr encil hwn bydd awdur preswyl ar gael i gynnal sesiynau un-iun i edrych ar eich gwaith, a bydd ambell weithdy grŵp yn cael eu trefnu pe dymunech ymuno. Mae Julia Forster wedi ysgrifennu dau lyfr; un ffeithiol o’r enw Muses: Revealing the Nature of Inspiration a nofel wedi ei gosod yn 1988, What a Way to Go. Mae Julia wedi gweithio yn y byd cyhoeddi ers

30

ugain mlynedd ac mae ar hyn o bryd yn gweithio yn llawrydd i gyhoeddwyr annibynnol. Mae’n gwirfoddoli i PEN Cymru yn ogystal â chynnal gweithdai gyrfaol i awduron.


Straeon Ditectif: Tro yn y Gynffon Dydd Llun 13 – Dydd Sadwrn 18 Awst

S

Tiwtoriaid: Belinda Bauer a Jasper Fforde Darllenydd Gwadd: I’w gadarnhau Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Dyma gwrs ymarferol i awduron ar bob cam o’u gyrfa a fydd yn edrych ar ysgrifennu straeon ditectif poblogaidd – gyda thro yn y gynffon. Drwy weithdai a sesiynau un-i-un, byddwn yn dangos sut i greu cymeriadau, plot a thensiwn, a hynny drwy ddefnyddio dulliau sydd wedi hen ennill eu plwyf. Yn ogystal, bydd y cwrs hwn yn edrych ar y swyn a’r hiwmor ychwanegol sydd ei angen i ddod â rhyddiaith yn fyw. Rhaid rhoi eich hun, eich profiadau, eich angerdd yn y naratif er mwyn creu gwaith ffres a gwreiddiol ym marchnad brysur y genre ditectif. Dyfarnwyd Gwobr Gold Dagger y CWA i Belinda Bauer am ei nofel gyntaf, Blacklands, ynghyd â gwobr Dagger in the Library y CWA yn 2013 am ei gwaith. Enwebwyd Rubbernecker, ei phedwaredd nofel, am wobr Nofel Dditectif y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2014.

Treuliodd Jasper Fforde ugain mlynedd yn y byd ffilm cyn ymddangos ar restr gwerthwyr gorau’r New York Times gyda The Eyre Affair yn 2001. Ers hynny mae wedi ysgrifennu tair nofel ar ddeg yn y genre comedi-ffantasi. Cyhoeddwyd Early Riser, ei nofel ddiweddaraf, a’r gyntaf sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn 2017.

31


Barddoniaeth: Ysgrifennu am Fywyd Dydd Llun 20 – Dydd Sadwrn 25 Awst

D

Tiwtoriaid: Sophie McKeand a Lemn Sissay Darllenydd Gwadd: Zoë Skoulding Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Sut y gallwn ni greu barddoniaeth ystyrlon sy’n ymateb i’r byd sy’n newid yn dragywydd o’n hamgylch? Treuliwch wythnos yn nhirlun hynod Eifionydd i ddod o hyd i’r ateb. Byddwn yn nofio yn y môr (ni fydd hyn yn orfodol!), yn cerdded y tir, yn mwynhau’r machlud ac yn trafod y byd a’i bethau wrth roi trefn ar ein meddyliau ein hunain ar bapur. Byddwn yn edrych ar sut i gyfathrebu a defnyddio’ch llais drwy berfformio cerddi, ac yn trafod ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfa. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, darlleniadau gan y tiwtoriaid a darllenydd gwadd, a sesiynau un-i-un. Mae Sophie McKeand yn fardd, a hi yw Awdur Ieuenctid Cymru. Cafodd ei henwi gan y Sefydliad Materion Cymreig ymhlith y 30 o bobl a fydd yn ‘llywio agenda Cymru’ dros y 30 mlynedd nesaf. Cyhoeddwyd Rebel Sun, ei chasgliad cyntaf o gerddi, gan Parthian Books yn 2017.

32

Bardd yw Lemn Sissay sydd hefyd yn artist cyswllt yng Nghanolfan Southbank. Mae’n un o noddwyr y Letterbox Club a Sefydliad y Darllenwyr, yn llysgennad i Gronfa Ddarllen y Plant, yn ymddiriedolwr Sefydliad Celfyddydol Forward ac yn un o ymddiriedolwyr cyntaf Noson Llyfr y Byd.


33


Ysgrifennu am Fywyd: Teithio a Hunangofiannau Dydd Llun 27 Awst – Dydd Sadwrn 1 Medi Tiwtoriaid: John Harrison a Katharine Norbury Darllenydd Gwadd: Dan Boothby Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) “Not a foot steps into the snow, or along the ground, but prints in characters more or less lasting, a map of its march.” Mae’n 167 mlynedd ers i Ralph Waldo Emerson ysgrifennu’r geiriau hyn. Eto, mewn byd y mae modd ei deithio gyda chlic llygoden, mae ysgrifennu am deithio a’r byd naturiol yn dal i ddenu. Felly hefyd hunangofiannau sy’n cael eu hysbrydoli gan lefydd. Drwy sgyrsiau, gweithdai a sesiynau un-i-un, byddwn yn troi ein golygon tuag allan ac yn troi ein teithiau a’n profiadau ein hunain yn hanesion arhosol. Mae’r awdur John Harrison yn ysgrifennu am deithio a hanes. Mae’n ddarlithydd profiadol, a theithiodd i Antarctica am yr hanner canfed tro ddiwedd 2014. Enillodd ei lyfr Cloud Road wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2011, ac enillodd Forgotten Footprints wobr Urdd Awduron Teithio Prydain am y llawlyfr naratif gorau yn 2014. Hyfforddodd Katharine Norbury fel golygydd ffilm gyda’r BBC ac mae hi 34

wedi gweithio’n helaeth ym maes ffilm a dramâu teledu. Enwebwyd The Fish Ladder, ei llyfr cyntaf, am Wobr Wainwright 2016 a chyrhaeddodd restrau hir Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian a Llyfr y Flwyddyn y Telegraph. Magwyd Dan Boothby mewn comiwn yn Norfolk. Ar ôl astudio Arabeg, bu’n teithio’n helaeth ac mae wedi hwylio dros 40,000 o filltiroedd. Cyhoeddwyd ei gyfrol Island of Dreams yn 2015 gan Picador.

S


Dramâu ac Ysgrifennu Theatrig Dydd Llun 3 – Dydd Sadwrn 8 Medi

S

Tiwtor: Hamish Pirie a Tim Price Darllenydd Gwadd: Catherine Paskell Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ysgrifennu i’r theatr. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i ddod â syniad neu sgerbwd drama anorffenedig gyda nhw. O dan adain y tiwtoriaid, byddwn yn edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud i straeon flodeuo. Bydd y cwrs yn edrych ar waith gorau dramodwyr cyfoes, ac yn dangos sut a pham eu bod wedi defnyddio gwahanol ddyfeisiau i greu drama yn eu straeon. Drwy gyfres o weithdai ac ymarferion, bydd y tiwtoriaid yn cyflwyno’r gwahanol gamau y gellir eu cymryd er mwyn datblygu crefft fel dramodydd. Mewn partneriaeth â Protest Fudr, a fydd yn bresennol drwy gydol y cwrs.

Mae Hamish Pirie yn gyfarwyddwr theatr sydd wedi wedi gweithio mewn lleoliadau o bob maint, o Ŵyl Ymylol Caeredin, i wyliau rhyngwladol, i’r West End. Mae’n gweithio’n bennaf mewn theatrau ysgrifennu newydd fel y Traverse Theatre a’r Royal Court Theatre. Dramodydd, sgriptiwr a darlithydd yw Tim Price. Fe’i enwebwyd am wobr BAFTA a Gwobr Oliver, ac enillodd wobr James Tait Black am ei

ddrama, The Radicalisation of Bradley Manning, yn 2013. Mae ei ddramâu wedi’u llwyfannu gan y Theatr Frenhinol Genedlaethol, National Theatre Wales, y Royal Court ac eraill. Cyfarwyddwr perfformio o Gaerdydd yw Catherine Paskell. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Protest Fudr. Roedd yn un o sylfaenwyr National Theatre Wales a bu’n aelod cyswllt creadigol o’r theatr honno rhwng 2009 a 2011. 35


Y Sŵ Anweledig: Barddoniaeth a Byd Natur Dydd Llun 10 – Dydd Sadwrn 15 Medi

S

Tiwtoriaid: David Morley a Pascale Petit Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) “My concern has been to capture not animals particularly and not poems, but simply things which have a vivid life of their own...” – Ted Hughes. Ar y cwrs hwn, byddwn ninnau’n dilyn ac yn dal ein cerddi fel pe bai’r rheini’n greaduriaid sydd â’u bywydau bach eu hunain. Bydd y tiwtoriaid yn dod ag offer maes, microsgopau, ysbienddrychau, a llawlyfrau er mwyn dod i adnabod gerddi bywiog Tŷ Newydd, ynghyd â’r afon a’r môr gerllaw. Dewch i fwynhau byd natur, barddoniaeth a’r awyr agored. Erbyn diwedd yr wythnos fe fyddwch chi wedi creu eich sŵ barddonol eich hun, a hynny yng nghanol gwaith maes, gweithdai a sesiynau un-i-un. Enillodd David Morley Wobr Ted Hughes am Farddoniaeth Newydd gyda The Invisible Gift: Selected Poems a Gwobr Cholmondeley am ei gyfraniad at farddoniaeth. Mae ei gasgliadau a gyhoeddwyd gan Carcanet yn cynnwys The Magic of What’s There, The Gypsy and the Poet, Enchantment a The Invisible Kings. Mae David wedi ei hyfforddi fel ecolegydd. 36

Roedd Mama Amazonica, (Bloodaxe, 2017), sef seithfed casgliad Pascale Petit, yn un o ddewisiadau’r Poetry Book Society. Mae’r casgliad yn olrhain ei theithiau drwy goedwig yr Amason. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr T S Eliot am y pedwerydd tro gyda Fauverie, ac enillodd pum cerdd o’r llyfr hwn Wobr Barddoniaeth Manceinion. Yn 2015 derbyniodd Wobr Cholmondeley.


Creu Nofel Dydd Llun 24 – Dydd Gwener 28 Medi

D

Tiwtoriaid: Alys Conran a Louis de Bernières Ffi: £395 (rhannu ystafell) / £495 (ystafell sengl) Mae creu nofel yn daith anhygoel, ond fe all fod yn siwrne frawychus hefyd. Efallai mai megis dechrau prosiect ydych chi, neu eich bod yn ei chanol hi go iawn. Y naill ffordd neu’r llall, fe fydd y cwrs hwn yn gefn ac yn ysbrydoliaeth ichi. Byddwn yn edrych yn fanwl ar ein cymeriadau, gan ystyried yr hyn sy’n gwneud i gymeriad da ymddangos yn un byw. Byddwn yn trafod sut i ysgrifennu deialog gref, ac yn edrych ar y pethau hynny sy’n gallu gwneud y ddeialog honno’n wych neu’n wachul. Byddwch yn gadael gyda’r technegau a’r egni i gychwyn, a gorffen, eich nofel eich hun. Cyrhaeddodd Pigeon (Parthian Books, 2016), nofel gyntaf Alys Conran, restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Hon oedd y nofel gyntaf i’w chyhoeddi ar yr un pryd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bu’n darllen ei gwaith yng Ngŵyl y Gelli, yng Ngŵyl Lyfrau Caeredin ac ar BBC Radio 4. Mae hi’n ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddodd Louis de Bernières ei nofel gyntaf yn 1990 a chafodd ei enwi gan gylchgrawn Granta fel un o ugain nofelydd ifanc gorau Prydain yn 1993. Ers hynny mae wedi meithrin enw iddo’i hun yn rhyngwladol fel awdur, ac enillodd Captain Corelli’s Mandolin Wobr Awduron y Gymanwlad am y Nofel Orau yn 1994.

37


Sgriptio ac Addasu 11.00 am Dydd Sadwrn 29 – 3.00 pm Dydd Sul 30 Medi

C

Tiwtoriaid: Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn Ffi: £99 (rhannu ystafell) / £150 (ystafell sengl) Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i’r grefft o sgriptio ac addasu testun ar gyfer ffilm, teledu a’r llwyfan. Byddwn yn cael golwg ar sut i drosi syniadau o un cyfrwng i’r llall ac yn edrych yn fanwl ar ofynion y cyfryngau amrywiol. Byddwn yn arbrofi gyda chreu naws o fewn golygfeydd unigol, yn ystyried sut i greu cymeriad cofiadwy ac yn chwarae gydag ieithwedd ac arddull. Byddwch yn gadael y cwrs ag egin syniad dramatig i barhau ag o ar eich liwt eich hun, ac mewn cyfrwng o’ch dewis eich hun. Cwrs addas i ddechreuwyr a dramodwyr sydd â pheth profiad. Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, sgriptwraig a cherddor o Gaerfyrddin. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofelau Atyniad a Y Llyfrgell. Hi yw dyfeisydd ac awdur y gyfres Parch i S4C, a chynhyrchydd ac awdur y ffilm Y Llyfrgell, a enillodd wobr yng Ngŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin.

38

Mae Gwyneth Glyn yn ddramodydd, bardd a chantores. Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2006 - 2007, ac mae’n ysgrifennu’n helaeth i’r theatr a’r teledu, gan gynnwys i’r opera sebon Pobol y Cwm. Perfformiwyd ei libreto opera cyntaf, addasiad oY Tŵr gan Gwenlyn Parry, yn 2017. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd ym 1998, a chyhoeddwyd ei phedwerydd albwm, Tro, yn 2017.


Ysgrifennu i Blant Dydd Llun 1 – Dydd Sadwrn 6 Hydref

S

Tiwtoriaid: Malachy Doyle a Eloise Williams Darllenydd Gwadd: Huw Aaron Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Ar y cwrs hwn byddwn yn bwrw golwg ar y byd drwy lygaid ein darllenwyr ifanc. Sut y gall ein straeon ni gipio’u sylw ac ennyn chwilfrydedd? O lyfrau i blant cyn oed ysgol i’r rheini yn eu harddegau, bydd y tiwtoriaid yn rhannu cyngor doeth ac yn rhoi adborth defnyddiol ar eich gwaith. Drwy gyfuniad o ymarferion ysgrifennu a sesiynau un-i-un, fe fyddwn yn eich helpu i greu syniadau, datblygu cymeriadau a gweithio ar blot, cefndir a thôn. Byddwn hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch llais eich hun wrth adrodd eich stori. Mewn partneriaeth â Firefly Press.

Mae Malachy Doyle wedi ysgrifennu dros gant o lyfrau, o lyfrau lluniau i nofelau i’r arddegau. Mae ei gyfrolau wedi ennill Gwobr Nestle Smarties, Gwobr Tir na n-Og a Gwobr yr English Association. Ei gyfrol ddiweddaraf gyda Firefly Press yw Fug and the Thumps (2018). Mae Eloise Williams yn ysgrifennu i blant a’r blynyddoedd canol. Firefly Press a gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Elen’s Island (2015),

ynghyd â’i nofel gyffrous hanesyddol, Gaslight (2017). Mae’n disgwyl cyhoeddi ei thrydedd nofel, sef stori ysbryd wedi’i lleoli yng nghanol gwynt a glaw y glannau, yn 2018 i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr yng Nghymru. Cartwnydd a darlunydd yw Huw Aaron, ac mae ei waith wedi ymddangos yn Private Eye, The Spectator a Reader’s Digest. Ef yw creawdwr y comic Cymraeg, Mellten. 39


Barddoniaeth a Chaneuon Dydd Gwener 12 – Dydd Sul 14 Hydref

D

Tiwtoriaid: Brian Briggs a Paul Henry Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Bydd y cwrs penwythnos hwn yn edrych ar y ffin rhwng cerdd a geiriau cân, ac felly’n addas i feirdd a chyfansoddwyr caneuon. Byddwn yn edrych ar y pethau y gall y naill ffurf a’r llall eu dysgu i’w gilydd, gan gynnwys dylanwadau alaw a rhythm. Byddwn hefyd yn trafod gwahanol ffyrdd o gyfansoddi, gan droi cerddi yn eiriau caneuon, a geiriau caneuon yn gerddi. Efallai mai bardd sy’n awyddus i delynegu mwy ydych chi, neu gyfansoddwr caneuon sy’n awyddus i ehangu gorwelion eich geiriau. Dyma gyfle i dorri cwys newydd gan gael cefnogaeth gyfeillgar wrth wneud hynny. Ac os ydych chi’n canu offeryn, dewch â hwnnw gyda chi! Canwr-gyfansoddwr yw Brian Briggs a ddaeth i enwogrwydd gyda’r band Stornoway. Mae’n gyfrifol am dri albwm a thri EP llwyddiannus, ac mae wedi perfformio ym mhedwar ban byd, gan gynnwys prif lwyfannau gwyliau Glastonbury, Latitude a Gŵyl Ynys Wyth, ac mae wedi ymddangos ar Later...With Jools Holland.

40

Drwy gyfansoddi caneuon y daeth Paul Henry i greu barddoniaeth. Teithiodd i wyliau drwy’r Deyrnas Unedig gyda pherfformiadau o’i gasgliad The Glass Aisle (Seren Books), oedd yn cynnwys caneuon a ysgrifennwyd ar y cyd â Brian Briggs. Mae’n Gymrawd Ysgrifennu ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae wedi cyflwyno rhaglenni i BBC Radio Wales, BBC Radio 3 a BBC Radio 4.


Creu Ffuglen Boblogaidd Dydd Llun 15 – Dydd Gwener 19 Hydref

S

Tiwtoriaid: Janet Gover ac Alison May Darllenydd Gwadd: Jo Thomas Ffi: £395 (rhannu ystafell) / £495 (ystafell sengl) Nid ar chwarae bach y mae troi syniad am nofel yn ddeunydd gorffenedig, a gall fod yn broses unig ar y naw. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sylfeini eich nofel, gan gynnwys y plot, y cymeriadau, y cefndir a safbwynt, gyda’r nod o’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau i gwblhau a mireinio’ch gwaith at safon cyhoeddi. Mae’r cwrs yn addas i awduron sy’n ysgrifennu ym mhob genre, ond arbenigedd y tiwtoriaid yw nofelau rhamant. Bydd y cwrs yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau grŵp, sgyrsiau, sesiynau un-i-un a digonedd o amser i fwrw ati i ysgrifennu. Newyddiadurwraig teledu yw Janet Gover, sydd bellach yn fwy adnabyddus fel nofelydd. Mae hi’n athrawes ysgrifennu creadigol, a’i gwaith ffuglen yn canolbwyntio ar fenywod a rhamant. Mae ei naw nofel wedi ennill neu wedi cyrraedd rhestrau byrion dwsin o wobrau gan gynnwys ennill yr Epic Romantic Novel Award yn 2017. Nofelydd ac awdur straeon byrion yw Alison May. Mae hi wedi cyhoeddi pum comedi ramant, a bydd dwy nofel ffuglen fasnachol am

fenywod yn ymddangos ganddi yn 2018. Mae Alison wedi cyrraedd rhestrau byrion y Romantic Novel Awards a’r Love Stories Awards. Mae hi’n Is-gadeirydd ar Gymdeithas y Nofelwyr Rhamant. Bu Jo Thomas yn gweithio am nifer o flynyddoedd fel gohebydd a chynhyrchydd radio i’r BBC. Cyrhaeddodd The Oyster Catcher, ei nofel gyntaf, restr y gwerthwyr gorau fel e-lyfr ynghyd â Gwobr RNA Joan Hessayon 2014 a Gwobr E-lyfr Gorau Gŵyl Ramant 2014. 41


Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol Dydd Gwener 19 – Dydd Sul 21 Hydref

S

Tiwtoriaid: Phil Carradice a Louise Walsh Ffi: £220 (rhannu ystafell) / £295 (ystafell sengl) Cwrs byr yw hwn a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd wrth greu straeon ffuglen am bobl a digwyddiadau go iawn. Efallai mai eich nod yw rhoi straeon byrion at ei gilydd, neu efallai nofel, cyfres o atgofion neu gasgliad o gerddi. Pa un bynnag, mae’r gorffennol yn gallu ysbrydoli ac mae’n fan cychwyn heb ei ail. Bydd y cwrs yn gyfuniad o sesiynau un-i-un i’r grŵp, sgyrsiau, ysgrifennu unigol, adborth a chyfle i rannu eich gwaith. Dros y penwythnos byddwch yn bwrw ati i ysgrifennu, gan adael gydag agoriad cryf i’ch gwaith a digonedd o syniadau at y dyfodol. Bardd, nofelydd, hanesydd a darlledwr yw Phil Carradice sydd wedi cyhoeddi dros 60 o lyfrau. Ei weithiau diweddaraf yw’r nofel Stargazers a’r llyfr hanes The Cuban Crisis: Thirteen Days on a Nuclear Knife Edge. Mae’n diwtor adnabyddus ym maes ysgrifennu creadigol, ac mae’n cyflwyno’r rhaglen hanes The Past Master ar BBC Radio Wales.

42

O Gaerdydd y daw Louise Walsh ac mae’n awdur dwy nofel. Nofel am focswraig amatur yw Fighting Pretty (2008) ac mae Black River (2016), a ysgogwyd gan Ymchwiliad Leveson, yn edrych ar ymddygiad y wasg yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966. Mae Louise bellach yn ysgrifennu nofel sydd wedi’i gosod yng Nghymru’r 1980au.


Encil Chwedleua Dydd Llun 22 – Dydd Sadwrn 27 Hydref

S

Tiwtoriaid: Hugh Lupton ac Eric Maddern Darllenydd Gwadd: I’w gadarnhau Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Ar yr encil hwn, byddwn yn canolbwyntio ar adrodd straeon ar lafar yn hytrach nag ar bapur. Barddoniaeth, darogan, gweddi, ymbil, pregethu, adrodd straeon, canu... mae’r gair llafar yn gallu swyngyfareddu a bwrw hud dros wrandawyr. Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn ymgolli’n llwyr wrth adrodd eu geiriau eu hunain, geiriau beirdd, a geiriau’r gwŷr a’r gwragedd dienw a luniodd rai o’n chwedlau a baledi traddodiadol. Bydd hud, melltith, llafarganu a swyn i gyd yn rhan o hyn. Caiff caneuon mawl a dychan eu canu, a bydd y cwrs yn cynnwys sawl gwibdaith o amgylch tirwedd Gwynedd. Ers dros 30 mlynedd, adwaenir Hugh Lupton fel ffigwr canolog yn yr adfywiad ym maes adrodd straeon ym Mhrydain. Mae chwedleua yn ei waed – mae’n or-nai i Arthur Ransome. Mae Hugh yn adrodd chwedlau a straeon llên gwerin o lawer o ddiwylliannau ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn tirwedd, a’r straeon a’r baledi sy’n rhoi llais iddynt.

Eric Maddern a greodd Cae Mabon, canolfan sy’n cynnig encil gwyrdd yng ngodreon Eryri. Cafodd ei ysbrydoli i adrodd straeon gan ei deithiau o amgylch y byd, gan feithrin diddordeb arbennig mewn dod o hyd i straeon hynafol Prydain. Mae wedi creu deuddeg o lyfrau llun i blant a cyhoeddodd Snowdonia Folktales yn 2015. Mae’n ysgrifennu hunangofiant ar hyn o bryd.

43


Dosbarth Meistr Barddoniaeth yr Hydref Dydd Llun 29 Hydref – Dydd Sadwrn 3 Tachwedd

S

Tiwtoriaid: Gillian Clarke a Robert Minhinnick Darllenydd Gwadd: I’w gadarnhau Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Dyddiad Cau Ymgeisio: Dydd Gwener 31 Awst 2018 Dyma gyfle i feirdd ymroddedig roi hwb ychwanegol i’w gwaith. Bydd y cwrs yn cynnwys gweithdai a chyfarfodydd grŵp bach er mwyn trafod a chefnogi gwaith ar y gweill a sbarduno cerddi newydd. Bydd cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu’n unigol a bydd gweithdai ychwanegol yn y prynhawniau. Yn ystod yr wythnos bydd y tiwtoriaid a’r darllenydd gwadd yn rhoi darlleniadau o’u gwaith. Caiff y cyfranogwyr olygu a chyfrannu at flodeugerdd, a phenllanw’r cwrs fydd darlleniad ohoni mewn sesiwn ddathliadol ar y nos Wener. Gillian Clarke oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016. Yn 2010, dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth, a derbyniodd Wobr Wilfred Owen yn 2012. Cyhoeddwyd ei Selected Poems gan Picador yn 2016, a’i chasgliad diweddaraf Zoology yn 2017 gan Carcanet.

Awdur ysgrifau a bardd yw Robert Minhinnick sydd wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, a cherdd orau’r Forward Prize ddwywaith. Ei farddoniaeth ddiweddaraf yw ei gasgliad Diary of the Last Man. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sea Holly, yn 2007 a cyrhaeddodd restr fer yr Ondaatje Prize yn 2008.

Er mwyn i bawb elwa o lefel uchel o drafodaeth feirniadol a chyfranogiad, caiff yr awduron eu dethol ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar enghraifft o’u gwaith. Ewch i www.tynewydd.cymru am wybodaeth ar sut i ymgeisio. 44


Ysgrifennu i Oedolion Ifanc Dydd Llun 5 – Dydd Sadwrn 10 Tachwedd

S

Tiwtoriaid: Melvin Burgess a Lucy Christopher Darllenydd Gwadd: Kiran Millwood Hargrave Ffi: £495 (rhannu ystafell) / £625 (ystafell sengl) Maes bychan oedd ysgrifennu i bobl ifanc ar un adeg, ond bellach mae’n un o’r marchnadoedd mwyaf cyffrous. Ein nod fydd eich helpu i ddeall a datblygu egwyddorion ysgrifennu i oedolion ifanc – yr angen am straeon da, ymdeimlad cryf o le, a chymeriadau credadwy. Mae nofelau i bobl ifainc yn gafael yn emosiynau’r darllenydd ac yn ymdrin a themâu heriol. Byddwn yn arbrofi gyda’r gofynion hyn oll i greu gwaith i hoelio sylw darllenwyr ifainc. Dros gyfnod o 25 mlynedd mae Melvin Burgess wedi creu enw iddo’i hun yn rhyngwladol am ysgrifennu llyfrau cignoeth i’r rheini sy’n eu harddegau. Enillodd Junk, ei nofel enwog i oedolion ifanc, Fedal Carnegie a Gwobr Ffuglen Plant y Guardian yn 1996. Enwyd Melvin yn un o ddeg enillydd gorau Carnegie erioed. Awdur sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol a chyrraedd rhestrau’r gwerthwyr gorau sawl tro yw Lucy Christopher gyda’i

chyfrolau Stolen, Flyaway, The Killing Woods a Storm-Wake. Mae hi’n uwch-ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae wrthi’n cyd-ysgrifennu addasiad i’r sgrin o Stolen, ac yn gweithio ar ei phumed nofel. Bardd, dramodydd ac awdur tri llyfr i blant yw Kiran Millwood Hargrave, yn cynnwys The Girl of Ink & Stars, ei nofel gyntaf a enillodd Wobr Llyfrau Plant Waterstones yn 2017 a Llyfr y Flwyddyn y British Book Awards 2017. 45


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.