Awdur Mike Church Darlunydd Dominic Twigg
Ysgol Gynradd Sea View Rhieni Jelena Maliseva Andrew Blank Donna Blank Sara Jones Carly Evans Kayla Walsh Emma McNamara Tracey Parvin Stacey Dodman Sally Walters Jay Verallo Sharleen Furber
Plant Ksenija Maliseva Aimee Blank Ashlea Blank Ben Blank Corey-Lee Barker Cameron Barker Kascie Evans Levi Walsh Mason Masurier Chloe Conway Scarlett Dodman Max Barratt Jayden Hayward
Cyflwynir y llyfr yma i:
Fel arfer, byddai Osvaldo’r Gwalch yn cael ei alw’n Ozzie, gan ei fod yn enw byrrach.
Wyddai Ozzy ddim pam rhoddodd ei fam a’i dad enw mor rhyfedd ag Osvaldo iddo. Roedd e’n meddwl ei fod wedi cael ei greu i fod yn rhyfedd ac na fyddai’n perthyn unrhyw le.
Doedd Ozzie ddim yn deall rhai o’r pethau roedd ei fam a’i dad yn eu gwneud.
Roedd ei dad yn caru pêl-droed ac eisiau i Ozzie fod yn fasgot i’w hoff dîm, Manchester United.
“Dad!” meddai Ozzie un diwrnod wrth iddo sôn yn ddibaid am y peth, “Pam ar y ddaear bydden i’n fasgot i Manchester United a finnau’n byw yn Abertawe. Dylech chi gefnogi eich tîm lleol, ac rwyt ti’n gwybod nad ydw i’n hoffi pêl-droed beth bynnag!” Roedd ei dad yn dawel am y peth ar ôl hynny, ond nid oedd hyn yn ddigon i’w atal rhag prynu cit newydd y clwb i Ozzie, a’i adael ar y gwely fel anrheg iddo.
Un diwrnod braf hedfanodd Ozzie i lawr i’r afon i bysgota.
Gwelodd frithyll hyfryd yn y dŵr a phlymiodd i’w ddal, ond wrth iddo gyrraedd y dŵr tarodd yn erbyn alarch.
“Ow!!” meddai Ozzie. “Beth wyt ti’n ‘wneud, fy mrecwast i oedd hwnna!” “Mae’n ddrwg gen i,” meddai’r alarch. “Dim ond eisiau gwybod sut oedden nhw’n blasu oeddwn i.” “Mae nhw’n flasus iawn” meddai Ozzie, “ond dydw i ddim yn gallu bwyta un nawr. Doeddwn i ddim yn gwybod bod elyrch yn bwyta brithyll.” “Dydyn ni ddim mewn gwirionedd,” meddai’r alarch, “ond rwy’n ystyried troi’n llysieuwr, a chyn hynny, roeddwn i eisiau gwybod sut maen nhw’n blasu. Gwair a mwydod yw fy hoff fwydydd i.”
“Wel,” meddai Ozzie, “fyddi di ddim yn llysieuwr os fyddi di’n bwyta mwydod, fyddi di?” “Dydw i ddim yn siwr iawn, dwi heb feddwl am hynny o’r blaen,” meddai’r alarch, “ond edrych ar dy adain, dydw i e ddim yn edrych yn iawn i mi.” Sylwodd Ozzie fod ei adain yn gam a sylweddolodd nad oedd yn gallu hedfan ar ôl taro’r alarch.
“Rhaid i ti fynd i’r ysbyty,” meddai’r alarch “ond cer yn gyflym. Mae llawer o gathod a llwynogod o gwmpas sy’n ceisio dal unrhyw beth sy’n rhy araf. Wythnos diwethaf cafodd tri broga, dau aderyn du a cholomen eu dal.” “Ond sut galla i gyrraedd yr ysbyty?” gofynnodd Ozzie. “Dwi’n methu hedfan!”
“O na!” meddai’r alarch. “Rwyt ti mewn trafferth mawr nawr. Gwranda, dwi’n gallu clywed rhywbeth yn dod trwy’r llwyni, mae’n swnio fel y llwynog i mi.” Clywodd Ozzie’r sŵn hefyd, ac roedd e’n dod yn agosach ac yn agosach. Roedd rhywbeth mawr yn symud trwy’r llwyni tuag atyn nhw ac yn gwneud sŵn poenus. Dechreuodd Ozzie feddwl efallai fod ei
amser ar ben, ac yna...
Torrodd draig goch fawr trwy’r llwyni yn chwythu tân.
“Iawn, dwi’n ildio,” meddai Ozzie, “Gwna fe’n gyflym a dyweda wrth Mam a Dad fy mod i wedi gwneud fy ngorau i fod yn walch da.” “Paid â bod yn ddwl,” meddai’r alarch. “Dyma Dewi’r Ddraig, masgot y Scarlets. Mae rhai pobl yn ei alw’n Cochyn. Fydd e ddim yn dy frifo di!” “O Cyril,” meddai’r ddraig, “mae gen i losg cylla ofnadwy eto ac mae angen i mi gyrraedd yr ysbyty’n gyflym ond dwi ddim yn gwybod y ffordd.”
“Reit, dilynwch fi,” meddai Cyril, “ond alli di helpu’r gwalch bach yma a’i gario yno hefyd? Mae ei adain wedi brifo.” “Gyda phleser,” meddai Dewi’r Ddraig a rhoddodd Ozzie ar ei gefn, a bant â nhw.
Ar y ffordd yno dywedodd wrth Ozzie am ei swydd fel masgot tîm rygbi’r Sgarlets.
Roedd Ozzie yn meddwl bod rygbi’n swnio fel gêm oedd angen cryfder a sgiliau. Roedd e’n apelio llawer mwy na phêldroed.
Roedd Scott, chwaraewr rygbi, yn eistedd yn ystafell aros yr ysbyty hefyd. Roedd e’n adnabod Dewi’r ddraig a dechreuodd pawb siarad. Dywedodd fod llew wedi ei frathu a dechreuodd pawb chwerthin ar ei stori. Roedd Ozzie wrth ei fodd yn gwrando ar y straeon, ac yna gofynnodd Scott wrth Ozzie beth oedd e eisiau ei wneud gyda’i fywyd.
“Wel,” meddai Ozzie, “mae fy nhad eisiau i mi fod yn fasgot i Manchester United ond
dydw i ddim yn hoffi pêl-droed i ddweud y gwir. Dwi’n meddwl fy mod i’n rhy rhyfedd i wneud unrhyw beth.” “Mae anegn masgot arnom ni,” meddai’r chwaraewr rygbi, “pam na wnei di roi cynnig arni?”
Ar ôl I’w adain wella, aeth Ozzie i gael prawf yn Stadiwm Liberty. Roedd yn teimlo’n nerfus yn hedfan o flaen cynifer o bobl ond roedd pawb yn hoffi ei gryfder a’i sgiliau. Dywedon nhw y byddai Ozzie yn gwneud masgot perffaith, a dyma nhw’n cynnig y swydd iddo.
Erbyn hyn mae Ozzie yn enwog fel masgot y Gweilch... ac os ewch chi i wylio rygbi yn Stadiwn Liberty efallai y cewch chi gwrdd ag ef!
Lluniwyd y llyfr hwn fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Abertawe a thîm Y Gweilch yn y Gymuned sy’n gweithio gyda theuluoedd ac yn eu hysbrydoli. Mae cyhoeddi’r llyfr hwn yn esiampl bwysig o sut y gall creadigrwydd a chwaraeon helpu newid bywydau. Wrth gymryd rhan yn y cynllun hwn, gwelwyd datblygiad cadarnhaol yn sgiliau cyfathrebu’r cyfranogwyr, a bydd dyheadau ar gyfer rhieni a phlant, yn ei dro’n cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio’n ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ar draws
Cymru i gyflwyno a chefnogi gweithgarwch celfyddydol gan ddefnyddio creadigrwydd gyda geiriau i wella bywydau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn benodol gyda chyfranogwyr sydd ar y cyrion yn gymdeithasol ac yn economaidd megis carcharorion, gofalwyr ifanc, ceiswyr lloches a defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl. Mae’r Gweilch yn y Gymuned yn elusen sy’n darparu amrywiaeth o brosiectau ym meysydd addysg, iechyd, cynhwysiad a chwaraeon gyda’r nod o ddefnyddio pŵer chwaraeon er mwyn newid ymddygiad a chynyddu cyfranogiad wrth sicrhau eu bod yn cael effaith hir-dymor ar y gymuned. Mae
gwaith yr elusen yn cynnwys y cyfleoedd #mwynarygbi a #Crysibawb. Mae Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe’n darparu cyfleoedd dysgu hygyrch yn y gymuned er mwyn i ddysgwyr wella eu lles, eu sgiliau cyflogaeth a’u rhagolygon. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant achrededig Dysgu fel Teulu mewn ysgolion ar draws Abertawe i gefnogi sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol rhieni a’u plant, gan gynnig cyfleoedd i rieni allu gwella’u sgiliau eu hunain a chefnogi addysg eu plant.