Hydref 2011

Page 1

Hydref 2011

Rhif 415

50c

Gwobr AnrhyDeDDus i GlAin Ar y brig Daeth i’r brig wedi iddi swyno’r chwe beirniad gyda’i dehongliad o Au Matin gan Touriner, La Source Albert Zabel ac Impromptu o waith Reinhold Gilère. Fel rhan o weithgareddau’r Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y telynor Ieuan Jones. Mae Glain wedi hen arfer perfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a’r Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd 2010. Llynedd hefyd cyrhaeddodd rownd derfynol adran llinynnau cystadlaethau’r BBC Young Musician a’r Royal Over-Seas League. Cafodd brofiadau gwych fel aelod o Gôr Telynau Gwasanaeth Ysgolion William Mathias a Cherddorfa Ieuenctid Prydain yn y Proms yn Neuadd Albert yn 2009. Astudio ym Mharis Mae hi bellach yn ei hail flwyddyn o astudio yn yr Ecole Normale de Musique de Paris o dan hyfforddiant Isabelle Perrin. Meddai "Mae ennill Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn gyrhaeddiad allweddol i mi yn fy ngyrfa hyd yma, heb os. Mae wedi bod yn fraint cael cymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chefnogi gan Bryn Terfel ac sy’n cael ei chydnabod fel un o ysgoloriaethau mwyaf blaenllaw Cymru.”

N

OS Sul, 25 Medi, cipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd a oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw gweithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni. Mae Glain, 19 oed, o Bentir, yn gyn-ddisgybl telyn i Alwena Roberts ac Elinor Bennett ac yn gyn-ddisgybl yn ysgolion y Garnedd a Thryfan a Chanolfan Gerdd William Mathias. Mae wedi derbyn nawdd oddi wrth Gyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd, Cronfa Ryan Davies. “Mae cefnogaeth fel hyn wedi bod yn gymorth i mi i gyrraedd y safon sydd wedi arwain at yr Ysgoloriaeth sylweddol ddiweddaraf hon."

Llongyfarchiadau calonnog i Glain a phob lwc iddi yn y dyfodol.

Côr y Dyffryn Bydd y Côr yn ailymgynnull nos Sul, 6 Tachwedd, yn festri Capel Jerusalem, am 6.15 pm, i ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Nadolig Cymunedol a gynhelir nos Sul, 18 Rhagfyr.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.