Rhagfyr 2011
50c
Rhif 417
“Dewch at eich gilydd..”
GWASANAETH NADOLIG CYMUNEDOL yng Nghapel Jerusalem, Bethesda, Nos Sul, 18 Rhagfr 2011 Am 7.00.p.m.
“... a bloeddiwch ynghŷd...”
Mae’n draddodiad bellach cynnal y Gwasanaeth hwn ar y nos Sul cyn y Nadolig, er na fu cyfarfod y llynedd oherwydd yr eira mawr. Bwriad y Gwasanaeth yw dod â’r gymuned gyfan at ei gilydd i ddathlu’r Ŵyl. Bydd Côr y Dyffryn, ynghyd ag unigolion, yn cymryd rhan, a gwneir casgliad at achos neu achosion da ar y diwedd. Estynnwn groeso cynnes iawn i bob un ohonoch i ymuno â ni am orig fydd, gobeithio, yn rhoi cyfle i ni oedi yng nghanol bwrlwm ein paratoadau, a chofio gwir ystyr Gŵyl y Geni.
N
OS Iau, Rhagfyr 1af, cafwyd agoriad ardderchog i’r calendr Adfent yn lleol gyda gwasanaeth Nadolig ysgolion y fro yng Nghapel Jerusalem, Bethesda. Roedd y noson yn rhan o drefniadau Pwyllgor Apêl Dyffyn Ogwen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012, ac ymddengys fod swm sylweddol o oddeutu £900 wedi’i godi! Llongyfarchiadau i blant Abercaseg, Bodfeurig, Llanllechid, Pen-y-bryn, Tregarth a Dyffryn Ogwen am wneud eu gwaith mor raenus ac am gynnig adloniant gwerth chweil ar noson mor oer. Diolch hefyd i’r pwyllgor lleol am eu gwaith caled.
“Fel un, Haleliwia!” Ond, yn awr, mae’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r to hŷn. Ar Nos Sul, 18 Rhagfyr cynhelir Gwasanaeth Nadolig Oedolion y Dyffryn yn yr un lle. Ie wir, “Down at ein gilydd, a bloeddiwn ynghŷd.”