Papur Bro Dyffryn Ogwen Rhifyn 508 . Mawrth 2020 . 50 C
WAW! Hanner Miliwn i’r Dyffryn Mawr fu’r dathlu yn swyddfa Partneriaeth Ogwen ddiwedd Chwefror ar ôl derbyn cadarnhad fod cais ‘Dyffryn Gwyrdd’ i Raglen Wledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r Bartneriaeth wedi derbyn bron i hanner miliwn o bunnoedd, £494,670 ar gyfer y prosiect tair blynedd i ddatblygu ac i hyrwyddo Dyffryn Ogwen fel ardal gynaliadwy. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar daclo tlodi trafnidiaeth a thlodi tanwydd, unigedd gwledig a grymuso’r cymunedau hynny. Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen “Rydym wrth ein boddau, ac yn teimlo ein bod wedi ennill y Loteri yma’n Nyffryn Ogwen! Ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2013, ‘rydym wedi mynd o nerth i nerth. Ein bwriad nawr yw gweithio gyda’n partneriaid craidd, y gymuned leol a’n gwirfoddolwyr i wireddu’r weledigaeth. Byddwn yn datblygu’r ‘Dyffryn Gwyrdd’ i fod yn esiampl o ddatblygiad cynaliadwy gyda chynllun trafnidiaeth gymunedol, cynnydd mewn cyfleoedd gwirfoddoli, gwella sgiliau a chreu swyddi. Byddem hefyd yn datblygu Hwb y Dyffryn Gwyrdd yn Stryd Fawr Bethesda i fod yn ganolfan ar gyfer cyngor a chymorth ar effeithlonrwydd ynni i’n trigolion. Bydd hyn yn grymuso’n cymunedau i wireddu’n gweledigaeth o gymuned deg, gynaliadwy ddwyieithog sy’n cydweithio i liniaru ar dlodi drwy gydweithio amgylcheddol”. Dywedodd Rona Aldridge,
Cadeirydd pwyllgor Rhaglen Gwledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. “Fe gymeradwyodd y pwyllgor y cais hwn yn frwd. Fe wnaeth ymrwymiad Partneriaeth Ogwen i adeiladu ar eu gwaith cadarnhaol
presennol gyda’r gymuned i greu y prosiect hwn i gael canlyniadau cynaliadwy gryn argraff arnom.” Ychwanegodd Huw Davies, Cyd-lynydd y Dyffryn Gwyrdd “ Mae’r newyddion ardderchog yma’n dystiolaeth o’r ymgynghori
a wnaethpwyd gyda’r gymuned a’r brwdfrydedd sydd gan ein trigolion led-led y dyffryn i gydweithio gyda ni fel Partneriaeth er mwyn gwella a chryfhau y dyffryn, yn gymunedol, amgylcheddol a chymdeithasol”.
Y Llais yn cofio John Huw Gyda thristwch mawr y clywyd am farwolaeth John Huw Evans yn ystod mis Chwefror ac yntau yn 93 mlwydd oed. Bu John yn un o hoelion wyth Llais Ogwan dros flynyddoedd maith – yn llywydd am gyfnod, yn ohebydd i ardal Rhiwlas ac yn werthwr a dosbarthwr hefyd. Roedd yn meddwl y byd o’r Llais, ac yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn fisol yng Nghartref Preswyl Plas Pengwaith yn Llanberis. Mae Llais Ogwan yn gwertfawrogi ei gefnogaeth â’i holl waith di-flino. Diolch John!
www.llaisogwan.com
Er cof annwyl am John Huw Evans Yn wylaidd, bu’n symbyliad hyd ei oes, diwyd oedd yn wastad, i’w filltir sgwâr rhoes ei gariad, haul ei wên i Gymru’i wlad. (Annes Glyn)
Trydar: @Llais_Ogwan