Llais Ogwan Ebrill 2012

Page 1

Ebrill 2012

Rhif 421

50c

Dyffryn Ogwen yn dweud digon yw digon

M

ae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r grŵp cymunedol Balchder Bro Ogwen a thrigolion, ysgolion a busnesau lleol i geisio rhwystro perchnogion anghyfrifol rhag gadael i’w cŵn faeddu mannau cyhoeddus yn ardal Bethesda.

Mae hyn yn dilyn pryderon fod lleiafrif o berchnogion nad ydyn nhw byth yn glanhau ar ôl eu cŵn, er gwaethaf cynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd sy’n cynnig bagiau baw cŵn i berchnogion. Codwyd pryderon ynghylch perchnogion yn methu â glanhau ar ôl eu cwn ar lwybrau ym Mhant Dreiniog, Caiff y llwybrau eu defnyddio’n helaeth gan blant a theuluoedd.

Ymdrech Fawr Balchder Bro Ogwen

Cafodd y llwybrau eu gosod a’u gwella yma ychydig flynyddoedd yn ôl yn sgil y Fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol, a bu Cyngor Gwynedd a Balchder Bro Ogwen yn plannu coed a bylbiau blodau yno er mwyn helpu i adfer apêl naturiol y safle. Maen nhw hefyd wedi trefnu digwyddiadau codi sbwriel mewn amryw o leoedd. Meddai un o’r trigolion lleol, Chris Humphreys: “Mae’n bryder parhaus i ni fel rhieni y bydd plant yn dod i gysylltiad â baw cŵn. Mae Pant Dreiniog erbyn hyn yn lle chwarae naturiol gwych i blant ond mae rhai perchnogion cŵn yn gadael i’w cŵn wneud eu busnes lle bynnag maen nhw eisio.” Mae Sioned H Thomas, pennaeth Ysgol Abercaseg, hefyd yn bryderus fod perchnogion yn gadael i’w cŵn faeddu gerllaw’r ysgol ac nad ydyn nhw’n glanhau ar eu hôl. Parhad ar dudalen 18

Mae grŵp cymunedol Balchder Bro Ogwen wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn gwella safon eu hamgylchedd. Ar Fawrth 8fed cyfarfu 10 aelod o’r grŵp yng Nghanolfan Hamdden Plas Ffrancon cyn gwasgaru gyda’u gefelau codi i’r ardal gyfagos. Aethpwyd ar hyd llwybr cyhoeddus ger y ganolfan ynghyd â chae chwarae Cae Gas. Fe gasglwyd 30 bag o sbwriel yn ystod y bore yn unig a chafwyd hefyd nifer o eitemau eraill, megis teiars car. Ac eto ar Fawrth 20fed aeth 6 aelod allan i gasglu sbwriel ar lannau’r Afon Caseg, ger Cae Chwarae Abercaseg, a stad Abercaseg. Casglwyd oddeutu 20-25 bag sbwriel, ond adroddwyd bod llawer o waith i'w wneud eto. Gobeithir trefnu dyddiad arall y mis nesaf i geisio gorffen y gwaith tacluso. Parhad ar dudalen 3


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.