Look West Portal Catalogue

Page 1

LOOK WEST

P O R TA L 2 0 1 2 New Talent in Contemporary Craft


17 September 2012 - 23 January 2013


Alice Thatcher Ben Esthop Billie Tilley Caroline Allen Carrie Dickens Charity Thistleton Chelsea Cooney Chris Lawley Eleanor Kingdon Elizabeth Terzza Ezma Zhao Fanny van Arkel Gale Lewis Georgia Dennehy

Jane King Jennifer Pointon Jessica Odell-Foster Jill Kirkham Jo Taylor Joanne Barlow Mayumi Yamashita Meg Darlington Mirjana Smith Nick Buchan Nigel Matthews Ruth Foster Sian O’Doherty Silvia Kamodyova

Hywel Pontin and David Lee, Llantarnam Grange Arts Centre; and Amanda Farr and Alex Boyd Jones, Oriel Davies Gallery selected and curated the exhibitions. Hywel Pontin a David Lee, Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange; ac Amanda Farr ac Alex Boyd Jones. Cafodd yr arddangosfeydd eu dethol a’u curadu gan Oriel Davies Gallery.



Mae Oriel Davies yn dathlu crefft drawiadol newydd trwy ei harddangosfa, Look West. Mae'r arddangosfa wych hon o waith graddedigion newydd yn cyflwyno rhai o'r doniau mwyaf cyffrous i ymddangos mewn crefft gyfoes yn 2012. Gyda'i gilydd, maent yn cyflwyno arddangosfa sydd yn hardd, yn gain, yn fentrus ac yn wreiddiol, ac yn gwthio’r hyn a elwir yn ffiniau rhwng celfyddyd gain a chrefft, ac yn arwain y ffordd ar gyfer celfyddydau cymhwysol yfory. Gyda phwyslais cryf ar Gymru a De-orllewin Lloegr, mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at waith 28 o raddedigion newydd talentog iawn o gyrsiau celf gymhwysol a chrefft blaenllaw, sy’n cynnwys Caerdydd a Falmouth, Henffordd a Chaerfyrddin, Spa Caerfaddon, Bryste ac Abertawe. Symudodd y detholwyr y tu hwnt i ffiniau daearyddol y prosiect hefyd, i gynnwys gwaith gan raddedigion newydd o Sunderland, Brighton a Heriot-Watt. Gyda'i gilydd, mae’r 28 o artistiaid yn cyflwyno amrywiaeth eang o waith eithriadol. O emwaith i gydosodiadau, o gerameg i decstilau, o waith gof i durnio coed, mae pob arddangoswr yn cael eu nodweddu gan ymroddiad clir i’w crefft ddewisol, eu lefel uchel o sgiliau, a’u gallu i arwain y ffordd ar gyfer cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr. Mae Look West wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange, y mae ei sioe Portal i Raddedigion Newydd sydd yn cael ei chynnal bob blwyddyn wedi bod yn llwyfan bwysig i wneuthurwyr newydd er 2009.


Oriel Davies is an independent public art gallery based in Mid Wales. The Gallery organises and tours innovative exhibitions featuring artists from Wales, other parts of the UK and internationally, and provides an extensive art education programme. Oriel Davies is a registered charity and is revenue funded by the Arts Council of Wales and Powys County Council. Llantarnam Grange Arts Centre is the regional centre for the applied arts in South East Wales. The Centre presents a dynamic and exciting exhibitions programme as well as providing an extensive education and participation schemes of work. Llantarnam Grange Arts Centre is a registered charity it is a revenue funded client of the Arts Council of Wales and Torfaen County Borough Council.

Oriel gelf annibynnol gyhoeddus yw Oriel Davies sydd wedi’i lleoli yng nghanolbarth Cymru. Mae’r Oriel yn trefnu a’n mynd ag arddangosfeydd arloesol, sy’n cynnwys artistiaid o Gymru, o rannau eraill o’r DU ac artistiaid rhyngwladol, ar deithiau, ac mae’n darparu rhaglen addysg gelf gynhwysfawr. Mae Oriel Davies yn elusen gofrestredig, sy’n derbyn refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys. Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange yw’r ganolfan ranbarthol ar gyfer y celfyddydau cymhwysol yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae’r Ganolfan yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd dynamig a chyffrous ac yn darparu rhaglen addysg a chyfranogaeth helaeth. Mae Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange yn elusen gofrestredig, mae’n un o gleientiaid refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.




Alice Thatcher Alice works with ceramics to express her ideas and concepts, and also works in a range of other media, including glass, paper, drawing and photography. Her recent work derives its inspiration from twin interests in origami and paper-craft. Her porcelain paper clay work reflects, in a contemporary style, ideas of fragility and material transformation through the human hand. Mae Alice yn gweithio gyda cerameg i fynegi ei syniadau a’i chysyniadau, ac mae hi hefyd yn gweithio trwy gyfrwng ystod o gyfryngau eraill, sy’n cynnwys gwydr, papur, dylunio a ffotograffiaeth. Mae ei gwaith diweddar yn cael ei ysbrydoliaeth o’i diddordebau deuol mewn origami a chrefft papur. Mae ei gwaith clai papur porslen yn adlewyrchu, mewn arddull gyfoes, syniadau o fregusrwydd a thrawsnewid defnydd trwy’r llaw ddynol.

Tsuru II, porcelain University of Sunderland BA (Hons) Glass and Ceramics alicethatcher.wordpress.com



Ben Esthop Interested in marrying the natural beauty of wood to modern materials such as plastic and resin, while maintaining clarity of form, Ben’s desire for a purity of form led him to the work of Japanese bowl makers. Their philosophies include the indivisibility of beauty and utility whilst maintaining respect for their chosen material and its place in the natural world. Oherwydd diddordeb Ben mewn uno harddwch naturiol pren â deunyddiau modern megis plastig a resin, gan gynnal eglurder ffurf ar yr un pryd, arweiniodd ei awydd am burdeb ffurf ef at waith gwneuthurwyr powlenni Siapaneaidd. Mae eu hathroniaethau’n cynnwys natur annatod harddwch a defnyddioldeb, tra'n cynnal parch at eu deunydd dewisol a'i le yn y byd naturiol.

Red Eucalyptus Bowl, wood and resin Hereford College of Arts BA (Hons) Contemporary Applied Arts bensbowls.weebly.com



Billie Tilley Rarely taller than a chaffinch, Billie’s work explores the nature of intimacy, intuitive decisions that cross boundaries and makes connections between the inner self and the outer world. Such experiences leave an imprint upon us all, changing who we are and the world. Yn anaml yn dalach nag asgell fraith, mae gwaith Billie yn archwilio natur agosatrwydd, penderfyniadau greddfol sy'n croesi ffiniau ac yn gwneud cysylltiadau rhwng yr hunan mewnol a'r byd allanol. Mae profiadau o'r fath yn gadael argraff ar bob un ohonom, ac yn newid pwy ydym ni a'r byd.

Green Vessel, porcelain bowl West Wales School of the Arts / Coleg Sir Gar BA (Hons) Ceramics and 3D Design billeyceramics.co.uk



Caroline Allen Interested in the value of objects, Caroline’s work explores the human and empathic relationships we have with them by recording them and giving them physicality. By examining the poetics of the every-day, her work champions the underdog, celebrates the banal and commemorates everyday experiences. Mae gwaith Caroline, sydd â diddordeb yng ngwerth gwrthrychau, yn archwilio’r perthnasoedd dynol ac empathig sydd gennym gyda nhw trwy eu cofnodi a rhoi agwedd ffisegol iddynt. Drwy edrych ar farddoneg gwrthrychau bob dydd, mae ei gwaith yn amddiffyn y gwannaf, yn dathlu pethau cyffredin, ac yn coffáu profiadau bob dydd.

Boring is Beautiful - Matches Pocket University of Brighton BA (Hons) 3D Materials Practice www.paperscissorsstone.info



Carrie Dickens Carrie’s inspiration comes from a material’s reaction to manipulation, focussing on an interest in objects which carry meaning. The tactility of these objects is paramount: drape, weight, and ‘holdability’ are crucial elements to the design. An object worn close to the body over time has potential to carry comfort and meaning for the wearer. Mae ysbrydoliaeth Carrie yn deillio o sut mae deunydd yn adweithio wrth gael ei drin, gan ganolbwyntio ar ddiddordeb mewn gwrthrychau sy'n dwyn ystyr. Mae cyffyrddadwyedd y gwrthrychau hyn yn hollbwysig: mae gorweddiad, pwysau, a’r 'gallu i afael ynddynt' yn elfennau hanfodol o'r dyluniad. Mae gan wrthrych sy’n cael ei wisgo yn agos at y corff dros gyfnod o amser y potensial i ddwyn cysur ac ystyr i’r gwisgwr.

Precious Pebble Necklace (Green), sterling silver cast over ceramic, silk Loughborough University BA (Hons) 3 Dimensional Design www.carriedickens.co.uk



Charity Thistleton Charity’s pieces are intuitive, the process of making as important as the finished objects. Her work unravels journeys - those that occur internally through introspection and personal reflection; those revealed through accounts of stories and histories – and the relationship between them. An external strand of history or physical information leaves a trace, which can be picked up on and engaged with … an unspoken collaboration between inner and outer. Mae darnau Charity yn reddfol, ac mae’r broses o wneud mor bwysig â'r gwrthrychau gorffenedig. Mae ei gwaith yn datod teithiau - y rhai hynny sy'n digwydd yn fewnol trwy fewnsyllu a myfyrio personol; y rhai a ddatgelir trwy adrodd straeon a hanesion – a'r berthynas rhyngddynt. Mae llinyn allanol o hanes neu wybodaeth ffisegol yn gadael olion, y gellir eu codi ac ymgysylltu â hwy ... cydweithrediad distaw rhwng y mewnol a’r allanol.

Various works University of Brighton BA (Hons) 3D Material Practice www.facebook.com/CharityThistleton



Chelsea Cooney The ‘things’ that surround us from day to day give Chelsea’s work a platform from which to work. Strange yet familiar in themselves, the objects are made using thin slabs of porcelain which are later high fired. The small single elements then make one large composition. Mae'r 'pethau' sydd o'n cwmpas o ddydd i ddydd yn rhoi llwyfan i waith Chelsea ble gall weithio arno. Mae’r gwrthrychau, sy’n rhyfedd ond yn gyfarwydd ynddynt eu hunain, yn cael eu gwneud gan ddefnyddio slabiau tenau o borslen sy'n cael eu tanio ar dymheredd uchel yn ddiweddarach. Yna, mae’r elfennau unigol, bychain yn creu un cyfansoddiad mawr

Collection, porcelain, celadon glaze, stains & oxides Cardiff Metropolitan University BA (Hons) Ceramics chelseacooney.wordpress.com



Christopher Lawley Rusting, corroding and disintegrating found metal objects inspire Christopher’s practice. As the form related to their functions wanes with decay, they reach a point where they become useless and their original purpose obscured by their degenerated appearance. This process results in the impression of a functionless pot, challenging the preconceived language of function in pottery. Gwrthrychau metel a ddarganfuwyd sydd wedi rhydu, sy’n cyrydu ac sy’n chwalu, sy’n ysbrydoli gwaith Christopher. Wrth i’r ffurf sy'n gysylltiedig â'u swyddogaethau bylu drwy’r broses o ddadfeilio, maent yn cyrraedd pwynt lle maent yn mynd yn ddiwerth a lle mae eu pwrpas gwreiddiol yn cael ei guddio gan eu hymddangosiad dirywiedig. Mae'r broses hon yn arwain at yr argraff o bot dibwrpas, sy’n herio iaith rhagdybiedig swyddogaeth mewn crochenwaith.

Vases, salt glaze, stoneware Hereford College of Arts BA (Hons) Contemporary Applied Arts chrislawleypottery.com



Eleanor Kingdon Taking inspiration from the art of collections and household objects found in her family home in Devon, Eleanor has combined digital print with stitch to create a bright, vibrant table wear collection that plays with textures, densities and light. Gan gymryd ysbrydoliaeth o gasgliadau celf a gwrthrychau t yng nghartref ei theulu yn Nyfnaint, mae Eleanor wedi cyfuno print digidol gyda phwyth, i greu casgliad o lieiniau bwrdd lliwgar, bywiog sy'n chwarae gyda gweadau, dwyseddau a golau.

Napkins, hand and freehand machine stitich, applique and hand couched corner motifs, Irished Bottles, box framed Irished Bottles with appliques labels and freehand detail on silk University College Falmouth BA (Hons) Textile Design ektextiledesigns.carbonmade.com



Elizabeth Terzza Inspired by the ‘little botanical treasures’ found whilst walking through woods and forests, Elizabeth collects, records and displays these intricate pieces of jewellery like moths in museums. These dainty and neat collections are displayed on white metal. Wedi'i hysbrydoli gan y 'trysorau botanegol bach' a gasglwyd wrth gerdded drwy goedwigoedd a fforestydd, mae Elizabeth yn casglu, cofnodi ac yn arddangos y darnau cymhleth hyn o emwaith fel gwyfynod mewn amgueddfeydd. Mae'r casgliadau cywrain a thaclus hyn yn cael eu harddangos ar fetel gwyn.

Silver Pine Cone Brooch, Short Etched Forest Brooch, Oxidised Silver Pine Cone Brooch, Tall Etched Forest Brooch Hereford College of Arts BA (Hons) Jewellery Design www.elizabethterzza.co.uk



Ezma Zhao Politically charged, Ezma’s textile installations powerfully depict Motherhood, her children, the future and protection. Personal experiences of being a parent and the natural instinct to protect her children against the ever-present threat of war and the danger shown through the media are issues that will affect future generations. Mae gosodiadau tecstilau Ezma, sydd yn llawn o elfennau gwleidyddol, yn bwerus yn eu portread o Famolaeth, ei phlant, y dyfodol ac amddiffyn. Mae profiadau personol o fod yn rhiant a'r reddf naturiol i amddiffyn ei phlant yn erbyn y bygythiad byth a beunydd o ryfel a'r perygl a ddangosir drwy'r cyfryngau, yn faterion a fydd yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol.

Dress, Shrug Carmarthenshire College BA (Hons) Contemporary Textiles ezma-buttonsandthings.blogspot.co.uk



Fannie van Arkel Fannie’s work in constructed textiles stems from her passion for manipulated fabrics. To develop this technique she has taken inspiration from ancient Islamic geometric patterns and combined these with her own innovative style, using a range of fabrics and techniques to add diversity. Mae gwaith Fannie mewn tecstilau lluniedig yn deillio o'i hangerdd dros ffabrigau wedi’u trin. Er mwyn datblygu’r dechneg hon, mae hi wedi cymryd ysbrydoliaeth o batrymau geometrig Islamaidd hynafol, ac wedi cyfuno’r rhain gyda'i harddull arloesol ei hun, gan ddefnyddio amrediad o ffabrigau a thechnegau i ychwanegu amrywiaeth.

Big Lamp, Bahar Designs, solar panel, wool felt, handwoven silk and cotton organdie Cardiff Metropolitan University BA (Hons) Contemporary Textile Practice



Gale Lewis Inspired by the West Wales coastline, Gale uses photographic imagery and ceramic vessels to respond to the humbling landscape. Collecting materials and ideas, her work explores erosion and growth whilst identifying the transient, ever changing beauty of storms and the meeting of the land and sea. Caiff Gale ei hysbrydoli gan forlin Gorllewin Cymru i ddefnyddio delweddau ffotograffig a llongau cerameg sy’n ymateb i'r dirwedd fawreddog. Gan gasglu deunyddiau a syniadau, mae ei gwaith yn archwilio erydiad a thwf tra'n nodi harddwch byrhoedlog, newidiol stormydd, a’r man lle mae’r tir a'r môr yn uno.

'...at the boundary, life blossoms...'(Gleik, 1988), beach fired lidded vessel, ceramic Pembrokeshire College BA (Hons) Design Studies www.galelewis.com



Georgia Dennehy Using typographic designs influenced by personal insights, Georgia transforms ordinary ceramic and foam tiles into exciting works of art. They can be applied to several situations within the home, retail and office spaces as framed artwork or tiles for bathroom and/or kitchen spaces. Gan ddefnyddio dyluniadau argraffyddol y dylanwedir arnynt gan fewnwelediadau personol, mae Georgia yn trawsnewid teils ceramig a sbwng cyffredin yn weithiau celfyddydol cyffrous. Gellir eu defnyddio mewn nifer o sefyllfaoedd yn y cartref, mewn mannau manwerthu a swyddfeydd fel gwaith celf wedi’i fframio neu deils ar gyfer ystafelloedd ymolchi a / neu geginau.

Broken Thoughts, high density foam tile, lasered Somerset College of Art and Technology BA (Hons) Surface Design georgiadennehy.wix.com/surface



Jane King Jane’s ceramic sculptures present oppositions - dirt versus sterility, mess versus perfection, chaos versus control. The textured clay is combined with acrylic spray paints alongside smooth and textured earthenware glazes, contrasting vivid with sombre colour. They explore the potential of clay to be transformed from a mud-like substance into something hard and unyielding, and the extremes of emotional warmth or coolness these opposing qualities suggest. Mae cerfluniau cerameg Jane yn cyflwyno gwrthgyferbyniadau budred yn erbyn aseptigrwydd, llanastr yn erbyn perffeithrwydd, anhrefn yn erbyn rheolaeth. Mae'r clai gweadog yn cael ei gyfuno gyda phaentiau chwistrell acrylig ochr yn ochr â phriddwaith gwydrog llyfn a gweadog, sy’n cyferbynnu lliwiau llachar â lliwiau prudd. Maent yn archwilio’r potensial mewn clai i gael ei drawsnewid o sylwedd tebyg i fwd i rywbeth caled a di-ildio, ac eithafion y cynhesrwydd neu’r oered emosiynol y mae’r nodweddion gwrthgyferbyniol hyn yn eu hawgrymu.

Untitled (double mauve curve), ceramic with earthenware glaze, acrylic paint Bath Spa University MA Design: Ceramics janekingceramics.com



Jennifer Pointon Jennifer’s work stems from the exploration of personal jewellery collections. Questioning what memories are retained within items and whether value is denoted by sentimentality or in monetary terms. As a conduit for meaning and expression, jewellery can be an effective means of visual communication. Mae gwaith Jennifer yn deillio o archwilio casgliadau gemwaith personol. Mae’n cwestiynu pa atgofion a gedwir mewn eitemau, ac a gaiff gwerth ei bennu ar sail sentimentaliaeth neu mewn termau ariannol . Fel cyfrwng ar gyfer ystyr a mynegiant, gall gemwaith fod yn ddull effeithiol o gyfathrebu gweledol.

Brooches, resin and acid etched brass Plymouth College of Art Foundation Degree www.jenniferpointon.co.uk



Jessica Odell-Foster Jessica’s handmade shoes draw on the opulence of Parisian architecture and the diversity of London’s Camden Market. They are constructed from her own woven materials using rich colours with metallic threads, and printed fabrics with flocking and foiling. The embellishment of studs and spikes - inspired by the sculptures and ornately decorated rooftops of the Louvre - play a key feature in the design. Mae ysblander pensaernïaeth Paris ac amrywiaeth Marchnad Camden yn Llundain yn dylanwadu ar esgidiau Jessica, a wneir â llaw. Cânt eu llunio o’i defnyddiau gwëedig ei hun gan ddefnyddio lliwiau cyfoethog gydag edafedd metelaidd, a ffabrigau printiedig gyda fflocs a ffoiliau. Mae addurniadau o stydiau a sbigynnau - a ysbrydolir gan y cerfluniau a’r toeau addurniedig yn y Louvre - yn chwarae rhan allweddol yn y dyluniad.

Plain Heel Shoe (pair), screen printed materials, stitched and embellished with spikes, soles covered with handwoven material Carmarthenshire College BA (Hons) Contemporary Textiles www.artsthread.com/p/jessicaelectraodellfoster



Jill Kirkham Iconic buildings, landmarks and natural environments typical of Scotland’s industrial heritage frequently inspire Jill’s bespoke screen-printed fabrics. She also uses constructed textiles - discs of laser cut prints she calls ‘fabric worms’ - as a basis for simple two-dimensional boldly-coloured repeat patterns, creating luxurious, sumptuous materials for wall hangings, curtains, cushions and commissioned pieces. Mae adeiladau eiconig, tirnodau ac amgylcheddau naturiol sy’n nodweddiadol o dreftadaeth ddiwydiannol yr Alban yn aml yn ysbrydoli ffabrigau sgrin-brintiedig pwrpasol Jill. Mae hi hefyd yn defnyddio tecstilau lluniedig - disgiau o brintiau wedi’u torri â laser, y mae hi’n eu galw’n 'fwydod ffabrig' - fel sail ar gyfer patrymau ailadroddus dau ddimensiwn lliwgar, syml, sy’n creu defnyddiau moethus, godidog ar gyfer crogluniau, llenni, clustogau a darnau a gomisiynwyd.

Fabric Worms, constructed textile (laser cut screen printed canvas) Heriot-Watt University BA (Hons) Design for Textiles (Fashion, Interior & Art) jillkirkham.co.uk



Jo Taylor Influenced by decorative expanses such as plaster ceilings, carved stone facades and wrought iron gates, Jo’s work invokes a sense of rhythm & movement. An underlying desire to retain a sense of softness of raw clay gives these pieces additional rhythmic thrown elements, so have different energy and sense of movement. Wedi'i hysbrydoli gan ehangderau addurnol megis nenfydau plastr, ffasadau cerrig cerfiedig a giatiau haearn gyr, mae gwaith Jo yn ennyn ymdeimlad o rythm a symudiad. Mae awydd sylfaenol i gadw’r ymdeimlad o feddalwch sydd mewn clai amrwd yn rhoi elfennau llunio rhythmig ychwanegol i’r darnau hyn, felly mae ganddynt egni ac ymdeimlad o symudiad gwahanol.

Large blue form, white & coloured architectural clay Bath Spa University MA 3D Design www.jotaylorceramics.com



Joanne Barlow Joanne’s work is concerned with societal advancement and progress, whether through political, economic or technological means, and its profound effect on culture both on a global and local scale changes the very fabric of our lives. Her soda-fired houses outline the effects on culture on a local scale and investigate the notions of preservation, creation, tradition, modernity, and identity. Mae gwaith Joanne yn ymwneud â datblygiad a chynnydd cymdeithasol, boed drwy ddulliau gwleidyddol, economaidd neu dechnolegol, ac mae ei effaith ddofn ar ddiwylliant ar raddfa fyd-eang a lleol yn newid union ffabrig ein bywydau. Mae ei thai, sy’n cael eu tanio â soda, yn amlygu’r effeithiau ar ddiwylliant ar raddfa leol, ac yn ymchwilio i’r cysyniadau o gadwraeth, cread, traddodiad, modernedd a hunaniaeth.

Domestic Industrial, ceramics and photography Cardiff Metropolitan University BA (Hons) Ceramics www.joannebarlowceramics.co.uk



Mayumi Yamashita Mayumi’s work deals with our emotions, relationships, everydaylife and incidents with a humorous twist. The work is inquisitive, seeking answers to questions about humanity, the past, beauty and destruction. Mayumi’s work is inspired by what we do, what we are and how we live. Mae gwaith Mayumi yn ymdrin â’ hemosiynau, perthnasoedd, bywyd bob dydd a digwyddiadau gyda thro doniol. Mae'r gwaith yn chwilfrydig, yn chwilio am atebion i gwestiynau am ddynoliaeth, y gorffennol, harddwch a dinistrio. Mae gwaith Mayumi yn cael ei ysbrydoli gan yr hyn rydym yn ei wneud, beth ydym ni, a sut rydym yn byw.

A Presage, tin glaze, digital transfer print University College Falmouth BA (Hons) Contemporary Craft www.mayumi-yamashita.com



Meg Darlington Inspired by the change and decay of the environment, Meg’s intricate jewellery is based on her own photography. Focussing on peeling or chipped paint from wooden doors and the point of impact of smashed windows, her work encases fragments of wood and glass in metal ‘frames’ to highlight fragility and preciousness. Mae gemwaith cymhleth Meg, sydd wedi'i ysbrydoli gan y newid a’r dirywiad yn yr amgylchedd, yn seiliedig ar ei ffotograffiaeth ei hun. Gan ganolbwyntio ar baent tolciog neu wedi pilio ar ddrysau pren a phwynt gwrthdaro ffenestri wedi’u torri, mae ei gwaith yn cynnwys darnau o bren a gwydr mewn 'fframiau' metel, sy’n tynnu sylw at fregusrwydd a gwerthfawrogrwydd.

Wood and Glass Series, white precious metal, yellow precious metal and glass statement necklace Glyndwr University BA (Hons) Applied Arts megdarlington.bigcartel.com



Mirjana Smith Mirjana’s interests lie in second hand objects, the history of their origin, uses and memories. She picks on the possibility that every object’s ultimate destination could be entirely different to its intended purpose. Collected from charity shops, boot sales and auctions, she creates a new life for discarded, unwanted items – dissecting, reassembling and combining them with other contrasting components. Mae diddordebau Mirijana mewn gwrthrychau ail law, hanes eu tarddiad, eu defnyddiau a’u hatgofion. Mae’n canolbwyntio ar y posibilrwydd y gallai cyrchfan terfynol pob gwrthrych fod yn hollol wahanol i’w ddiben bwriadedig. Drwy gasglu gwrthrychau o siopau elusen, arwerthiannau cist car ac ocsiynau, mae hi’n creu bywyd newydd ar gyfer eitemau wedi’u taflu, nad oes eu heisiau bellach – ac yn eu datgymalu, eu hailosod a’u cyfuno gyda darnau cyferbyniol eraill.

Hewbert, mixed media University of Falmouth BA (Hons) Contemporary Crafts www.mirjanasmith.moonfruit.com



Nick Buchan Conveying dynamism and movement in forged metal, Nick’s metal work combines these two characteristics, containing many sub-genres such as gracefulness, fluidity, energy and flux. Inspired by Eastern writing, such as Arabic and Mongolian manuscripts, and the energy of waves, Nick realises his ideas as ink drawings and then forges them into metal compositions. Mae gwaith metel Nick, sy’n cyfleu deinamigrwydd a symudiad mewn metel gyredig, yn cyfuno'r ddwy nodwedd hyn, sy’n cynnwys nifer o is-ffurfiau megis gosgeiddrwydd, hylifedd egni a fflwcs. Caiff Nick ei ysbrydoli gan weithiau Dwyreiniol, megis llawysgrifau Arabaidd a Mongolaidd, ac egni tonnau, ac mae’n mynegi ei syniadau ar ffurf lluniau inc ac yna’n eu gofannu i greu cyfansoddiadau metel.

Vessel I Variation III, mild steel and copper Hereford College of Arts BA (Hons) Blacksmithing cargocollective.com/nickbuchan



Nigel Matthews A love of repaired ceramics is the soul inspiration of Nigel’s pots. Ceramics were traditionally valued possessions and as such when damaged, were repaired by tinsmiths and silversmiths. The work combines industrially shaped bodies and attached appendages with a metallic feel to replicate a repaired aesthetic. Ei gariad at gerameg wedi’i thrwsio sy’n ysbrydoli potiau Nigel. Yn draddodiadol, roedd cerameg yn eiddo gwerthfawr ac fel y cyfryw, pan gawsai ei ddifrodi, byddai’n cael ei drwsio gan seiri gwynion a gofaint arian. Mae'r gwaith yn cyfuno cyrff a luniwyd yn ddiwydiannol ac ychwanegiadau ynghlwm wrthynt sydd yn fetelig i’r cyffyrddiad i efelychu esthetig wedi’i drwsio.

Jugs, clay Staffordshire University BA (Hons) 3D Design Ceramics www.nigelmatthews.com



Ruth Foster Inspired by the contrasts between nature and architecture, the two-tone palette of Ruth’s ceramics is integral to her work, the organic fluid lines creating a tension between the idea of the natural and man made world. A repeat casting process builds up coloured layers and the surface is high fired to vitrification, resulting in a smooth silky tactile shell. Wedi'i ysbrydoli gan y cyferbyniadau rhwng natur a phensaernïaeth, mae palet deuliw cerameg Ruth yn rhan annatod o'i gwaith, gyda’r llinellau llyfn, organig yn creu tensiwn rhwng y syniad o’r byd naturiol ac o waith dyn. Mae proses gastio ailadroddus yn adeiladu haenau lliw, ac mae’r wyneb yn cael ei danio’n uchel nes iddo droi’n wydr, gan arwain at gragen gyffyrddog, lefn sidanaidd.

Plates and Bowls, slip cast earthenware Cardiff Metroplitan University BA (Hons) Ceramics ruthfosterceramics.co.uk



Sian O’Doherty Drawn to creating a textile collection that incorporates optical illusions, Sian’s textiles are not what they first seem. Taking inspiration from Google Earth images of vibrant estuaries, the depth of the technical exploration of multi-layered weave structures combined with colour and the deviation of the expected path of a warp thread is fundamental to the desired illusion. Caiff Siân ei denu i greu casgliad o decstilau sy'n cynnwys delweddau optegol, ac o ganlyniad, nid yw ei thecstilau yr hyn y maent yn ymddangos ar yr edrychiad cyntaf. Gan gymryd ysbrydoliaeth o luniau Google Earth o aberoedd bywiog, mae dyfnder ei harchwiliad technegol o strwythurau gweadog, amlhaenog, wedi’i gyfuno â lliw ac â’r gwyriad oddi wrth y llwybr a ddisgwylir gan edau ystof, yn sylfaenol i’r rhith mae’n dymuno ei greu.

Multi Layered Woven Length, woven on an AVL loom using mercirised cottons West Wales School of the Arts BA (Hons) Contemporary Textiles www.sianodoherty.blogspot.co.uk



Silvia Kamodyova Slovak peasant artifacts inspire Silvia’s ceramics. She is fascinated with old relics and the simple beauty of agrarian vessels used for gathering and storing harvest. The decoration is influenced by old photographs - of marks in the landscape, harvested fields, and small houses beautifully painted with simple graphic ornament. The palette derives from colours seen on peasant ceramic vessels. Arteffactau gan bobl werin Slofacia sy’n ysbrydoli cerameg Silvia. Mae hi’n cael ei swyno gan hen greiriau a harddwch syml llestri amaethyddol a ddefnyddir i gasglu a storio’r cynhaeaf. Gwelir dylanwad hen ffotograffau ar yr addurn – lluniau o farciau yn y tirwedd, caeau wedi’u cynaeafu, a thai bach wedi’u peintio’n hyfryd gydag addurn graffig syml. Mae’r palet yn deillio o liwiau a welir ar lestri cerameg gwerinwyr.

Large vessel, sgraffito small lines, terracotta crank, white porcelain, semi-matt glaze, unglazed on the inside, polished with bees wax University of Brighton MDes 3D Materials Practice (specialising in Ceramics) www.silviakceramics.co.uk


Llantarnam Grange Arts Centre, St. David’s Road, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1PD. T: 01633 483321 E: info@lgac.org.uk Mon - Fri 10am – 5pm Admission is free www.lgac.org.uk Reg Charity No: Rhif Elusen: 1006933

Look West and Portal have been made possible through an award from Arts Council of Wales Lottery Fund. Gwnaethpwyd Look West a Portal yn bosibl drwy arian gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.


Oriel Davies Gallery, The Park, Newtown, Powys SY16 2NZ T: 01686 625041 E: desk@orieldavies.org Mon - Sat 10am - 5pm Admission Free www.orieldavies.org Reg Charity No: Rhif Elusen: 1034890

Published by Oriel Davies Gallery 2013 Edited by Amanda Farr Designed by Jessica Hall, email jahall@me.com Š Oriel Davies Gallery, the artists, the authors. All works are reproduced courtesy of the artists. All rights reserved. No part of this publication may be reproduced, stored in a retrieval system or transmitted in form by any means, electronic, mechanical or otherwise, without first seeking the permission of the copywrite owners and the publishors.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.