orieldavies.org
Gwanwyn Spring 2015
orieldavies
Gwanwyn Spring 2015
Croeso Welcome
Y gwanwyn hwn, byddwn yn croesawu Craig Wood gyda’i sioe newydd unigol Dear Olivia … fel yr arddangosfa yn ein prif oriel, bydd Sound Books yn cael ei chyflwyno gan yr artist gweledol Amy Sterly a’r cerddor Thom Snell yn y gofod TestBed, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd The Starry Messenger gan Bedwyr Williams yn arddangos yn g39, Caerdydd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2015.
This spring we welcome Craig Wood with his new solo show, Dear Olivia … as our main gallery exhibition, Sound Books is presented by visual artist, Amy Sterly and musician, Thom Snell in the TestBed space, and we are delighted that Bedwyr Williams’ The Starry Messenger is showing at g39, Cardiff, April—June 2015.
orieldavies.org
Craig Wood Dear Olivia...
Craig Wood, Transplant Series, 2015, mixed media installation
Prif Arddangosfa Main Exhibition 07 Mawrth / March— 13 Mai / May
Ar gyfer ei sioe unigol ddiweddaraf, Dear Olivia ... mae Craig Wood yn cyflwyno gweithiau newydd trawiadol sy’n amrywio o osodiadau cerfluniol ar raddfa fawr a thafluniad fideo, i fwclis papur cain a mapiau wedi’u paentio. Mae llinynnau cyfathrebu, yr unigolyn a’r lluosog, cenedlaetholdeb a strwythurau grym symudol yn rhedeg drwy’r arddangosfa. Mae gweithiau Mapping Wood yn cynnig bydoedd geo-wleidyddol lle mae cyfandiroedd cyfan yn diflannu o dan y moroedd, gwledydd yn cael eu rhoi i sefyll ar eu pen mewn perthynas â’u cyfesurynnau arferol, neu wyneb y ddaear yn cael ei chwalu. Mae ei osodiadau Transplant, sy’n frawychus ac yn ddoniol, yn cyfeirio at faterion byd-eang trechol: datgymalu cymunedau ar draws y byd drwy drefoli a mudo torfol. Yn y gwaith celf, Dear Olivia ... mae’r artist yn symud o fyd-olwg i ganolbwyntio ar lais yr unigolyn, sy’n anweledig ac i bob golwg, yn anghyraeddadwy. Yn wreiddiol o’r Alban, mae Craig Wood wedi bod yn byw yn Ne-orllewin Cymru am 25 mlynedd. Mae’n arddangos yn helaeth ar draws y DU a thramor, ac mae hefyd yn curadu ac yn ysgrifennu. Mae Craig Wood yn darlithio yn PCYDDS (Campws Abertawe). Cefnogir Dear Olivia … gan Gyngor Celfyddydau Cymru Lansio’r Arddangosfa gyda sgwrs gan Craig Wood Nos Sadwrn 07 Mawrth 5—8pm (sgwrs 5—6pm)
For his latest solo show, Dear Olivia … Craig Wood presents striking new works which range from large-scale sculptural installation and video projection to delicate paper necklaces and painted maps. Running throughout the exhibition are threads of communication, the individual and the multitude, nationalism and shifting power structures. Wood’s Mapping works offer geopolitical worlds where whole continents are vanished beneath the seas, countries are upended from their usual coordinates, or the earth’s surface is disrupted. His Transplant installations, both startling and humorous, reference dominant global issues: the dislocation of communities worldwide through urbanisation and mass migration. In the artwork, Dear Olivia … the artist moves from a world-view to focus on the voice of the individual, unseen and apparently unreachable. Originally from Scotland, Craig Wood has been based in South West Wales for 25 years. He exhibits widely across the UK and abroad, and also curates and writes. Craig Wood lectures at UWTSD, Swansea Campus. Dear Olivia … is supported by Arts Council of Wales Exhibition launch with talk by Craig Wood Saturday 07 March 5—8pm (talk 5—6pm)
The tactile nature of books creates a sensual response that surpasses reactions to digital equivalents. It is emotional and aesthetic — triggering memory and emotion... Crack the spine. Strum the pages. Play the fragments of memories.
Sterly & Snell Sound Books
TestBed 07 Mawrth / March— 13 Mai / May Mae natur gyffyrddol llyfrau yn creu ymateb cnawdol sy’n rhagori ar ymatebion i’w cywerthyddion digidol. Mae’n emosiynol ac yn esthetig — yn ysgogi atgof ac emosiwn... Crack the spine. Strum the pages. Play the fragments of memories. Mae Sound Books yn archwilio’r llyfr fel gwrthrych a’r ffordd y mae’n ymgysylltu â’r synhwyrau. Mae’r ddau artist yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’r ddau yn cyfeirio at y cefn gwlad yn eu gwaith, ond gyda chanlyniadau gwahanol. Mae Amy Sterly yn gwneud printiau ac yn gerflunydd, ac mae Thom Snell yn artist fideo ac yn gerddor. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i gyfnewid syniadau a sgiliau i greu rhywbeth newydd i’r ddau ohonynt. Cefnogir Sound Books gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Sound Books explores the book as an object and the way it engages the senses. Both artists live on the Welsh/English border and each reference the rural in their work, but with different outcomes. Amy Sterly is a printmaker and sculptor, while Thom Snell is a video artist and musician. They are working together to exchange ideas and skills to create something new to both of them. Sound Books is supported by Arts Council of Wales
I ddod yn fuan Coming soon 23 Mai / May— 09 Medi / September
flora
Arddangosfa ysblennydd a rhaglen ddigwyddiadau gyffrous yn dathlu grym blodau mewn celf gyfoes. A spectacular exhibition and exciting events programme celebrating the power of flowers in contemporary art. Bydd gwaith yn cael ei arddangos o Gymru, y DU ac o dramor gan / Exhibiting work from Wales, the UK and abroad by: Emma Bennett / Michael Boffey Anya Gallaccio / Ori Gersht Owen Griffiths / Anne-Mie Melis Jacques Nimki / Yoshihiro Suda Clare Twomey
Emma Bennett, Thief of Time, 2012, Oil on canvas 140 x 110cm Image courtesy the artist and Charlie Smith London Photo: Peter Abrahams
Newyddion o Fenis News of Venice
Bedwyr Williams, The Northern Hemisphere (detail), 2013, The Starry Messenger. Photo: Anna Arca
Arddangosfa Deithiol Touring Exhibition
In 2013 Bedwyr Williams represented Wales at the 55th International Art Exhibition, Venice with his spectacular exhibition, The Starry Messenger. The Starry Messenger now tours to g39, Cardiff, to show 10 April — 13 June 2015, and to the Whitworth Art Gallery, Manchester to show summer 2015. The Starry Messenger was co-curated by Oriel Davies and MOSTYN, toured by Oriel Davies with support from the Colwinston Charitable Trust and Arts Council of Wales. Yn 2013, cynrychiolodd Bedwyr Williams Cymru yn y 55ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol, Fenis gyda’i arddangosfa ysblennydd, The Starry Messenger. Bydd The Starry Messenger yn awr yn teithio i g39, Caerdydd, a bydd yn arddangos yno rhwng 10 Ebrill— 13 Mehefin 2015, a bydd yn arddangos yn Oriel Gelf Whitworth, Manceinion yn ystod tymor yr haf 2015.
We are delighted that Helen Sear will represent Wales at the 56th International Art Exhibition, Venice. The presentation is curated by Ffotogallery and shows 09 May — 22 November 2015. Oriel Davies worked with Helen Sear in 2013 to tour lure throughout Wales. We wish her great success for her forthcoming exhibition in Venice.
Cafodd The Starry Messenger ei chyd-guradu gan Oriel Davies a MOSTYN, a’i hanfon ar daith gan Oriel Davies drwy gymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Helen Sear yn cynrychioli Cymru yn y 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol, Fenis. Mae’r cyflwyniad yn cael ei guradu gan Ffotogallery a’i arddangos rhwng 09 Mai—22 Tachwedd 2015. Bu Oriel Davies yn gweithio gyda Helen Sear yn 2013, gan fynd a’i harddangosfa lure ar daith ar hyd a lled Cymru. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi ar gyfer ei harddangosfa yn Fenis.
Manylion pellach / Further details: www.g39.org www.manchester.ac.uk/whitworth www.artscouncilofwales.org/ arts-in-wales/venice
Bywluniadu gyda Caroline Ali
Life Drawing with Caroline Ali
Sesiynau difyr, wedi eu tiwtora, sy’n annog cryfderau unigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. Mae croeso mawr i ddechreuwyr.
Fun, tutored sessions encouraging individual strengths, using a variety of materials in a relaxed and creative atmosphere. Beginners very welcome.
Boreau dydd Sadwrn 10.15am—1.30pm 07 & 21 Mawrth, 04 & 18 Ebrill, 02 & 16 Mai £18 (£15.50 consesiynau) Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Saturday mornings 10.15am—1.30pm 07 & 21 March, 04 & 18 April, 02 & 16 May £18 (£15.50 concession) Booking essential
Cyrsiau Dysgu Gydol Oes
Lifelong Learning Courses
Bydd y cyrsiau’n cael eu rhedeg yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru Aberystwyth. www.aber.ac.uk/cy
Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â Phrifysgol Aberystwyth yn uniongyrchol ar 01970 621580 neu e-bostiwch: learning@aber.ac.uk
For further information and course bookings, please contact the University of Aberystwyth directly on 01970 621580 or email: learning@aber.ac.uk
Delweddu’r Tirlun (Lliwiau Pastel) gyda June Forster Bob dydd Mawrth 10.30am—3pm 6 wythnos: 03, 10, 17, 24 Mawrth & 21, 28 Ebrill
Imaging the Landscape (Pastels) with June Forster Tuesdays 10.30am—3pm 6 weeks: 03, 10, 17, 24 March & 21, 28 April
Datblygu Llais mewn Ysgrifennu gyda Lara Clough Bob dydd Mercher 10.15am—12.45pm 8 wythnos: 29 Ebrill—24 Mehefin (ac eithrio 27 Mai)
Developing a Voice in Writing with Lara Clough Wednesdays 10.15am—12.45pm 8 weeks: 29 April—24 June (excluding 27 May)
Datblygu Eich Gwaith Ffeithiol Creadigol gyda Chris Kinsey Bob dydd Gwener 10.15am—12.15pm 10 wythnos: 01 Mai—10 Gorffennaf (ac eithrio 29 Mai)
Developing your Creative Non-Fiction with Chris Kinsey Fridays 10.15am—12.15pm 10 weeks: 01 May—10 July (excluding 29 May)
Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses
Art Outdoors, led by artist Morag Colqhoun
Ysgolion a Cholegau Schools & Colleges
Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu trwy’r celfyddydau
Developing creativity, literacy, thinking and communication skills through the arts
Dod â chelf atoch chi: gweithdai creadigol ymarferol yn yr ysgol, dan arweiniad artistiaid a staff addysg yr oriel
Bringing art to you: practical creative workshops at school, led by artists and gallery education staff
Gweithgareddau wedi’u teilwra i Gyfnod Allweddol a gofynion eich grw ˆp
Activities tailored to the Key Stage and requirements of your group
Ymweliadau rhad ac am ddim, dan arweiniad, i arddangosfeydd
Guided exhibition visits, free of charge
I drefnu ymweliad i’r oriel neu i drafod sut y gallai gweithdy neu ymweliad gyd-fynd â’ch dysgu, cysylltwch â Helen Kozich, Swyddog Dysgu (ysgolion a cholegau). 01686 625041 helenk@orieldavies.org
To book a visit to the gallery or discuss how a workshop or visit could fit in with your teaching, please contact Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges). 01686 625041 helenk@orieldavies.org
Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd Children and Family Activities
The Big Draw, 2014, led by artist Catrin Williams
Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses
Rydym yn cynnal rhaglen fywiog o weithdai a gweithgareddau i blant a theuluoedd. Mae gweithgareddau celfyddydol i’r teulu sy’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol yn caniatáu i rieni a phlant fod yn greadigol mewn ffordd anffurfiol a difyr. Mae hwn yn gyfle gwych i arbrofi gydag ystod o dechnegau celf, ac i archwilio creadigrwydd a gwneud ffrindiau newydd! Os hoffech gael gwybodaeth am Weithgareddau’r Pasg i blant a theuluoedd, cysylltwch â’r Swyddog Dysgu Anffurfiol, Sheela Hughes. 01686 625041 informallearning@orieldavies.org
We run a lively programme of workshops and activities for children and families. Family arts activities held during the school holidays allow parents and children to get creative in an informal and fun way. This is a great opportunity to experiment with a range of art techniques, explore creativity and to make new friends! For information on our Easter Activities for children and families, contact Sheela Hughes, Informal Learning Officer 01686 625041 informallearning@orieldavies.org
Ar agor / Open: 10am—4pm I gadw lle / Bookings: 01686 622288
Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Mae’r cacennau a’r bisgedi cartref a’r coffi barista sydd wedi’i rostio’n arbennig ar gyfer y caffi yn flasus dros ben! Mae Relish yn defnyddio cynhwysion sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, gan gyflenwyr bach a lleol, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw a gwinoedd gwych, a dewis o ddiodydd meddal. Mae’r caffi wedi’i lleoli mewn gofod golau, llachar a modern yn yr oriel, ac yn ymfalchïo mewn golygfeydd trawiadol o’r bryniau amgylchynol. Mae’n rhwydd cerdded o’r oriel i’r parc, sy’n berffaith ar gyfer un o’n bargeinion o brydau parod.
Bara Cartref / Homemade breads Salad lleol / Locally-sourced salad Cawl cartref / Homemade soup Cacennau / Cakes / Te / Tea Coffi Barista / Barista Coffee Diodydd Meddal Organig / Organic Soft Drinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatws trwy’u crwyn / Jacket Potatoes Paninis / Paninis
Caffi‘r Oriel Gallery Café
Pop into our friendly gallery café for some delicious and wholesome home-cooked food. The homemade cakes and biscuits are truly sumptuous and the barista coffee roasted especially for the café is the best coffee in town! Relish sources ingredients as local and seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. Situated in a light, bright and modern space in the gallery, Relish boasts stunning views of the hills around and is easy walking to the park; perfect for a picnic with one of our take-away meal deals.
Siop Shop
Emily Kidson, brooch, laminate, wood & silver
Anrhegion celf a dylunio, deunydd ysgrifennu, gemwaith a chrefftau
Art and design gifts, stationery, jewellery and craft
Mae Siop Oriel Davies yn arddangos cyfoeth gwych o dalent ac yn dathlu rôl bwysig crefft o fewn ein diwylliant. Mae arddangosfa newidiol o grefftau cyfoes, cerameg, gwydr a llyfrau bywyd, tecstilau a gemwaith yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd celfyddydol, lle gellir dod o hyd i wneuthurwyr a chynllunwyr newydd a sefydledig. Mae’n le gwych i ddod o hyd i’r anrheg unigryw hwnnw i rywun arbennig.
The Oriel Davies Gallery Shop showcases a fantastic wealth of talent and celebrates the important role of craft within our culture. A changing display of contemporary craft, ceramics, glass, art and lifestyle books, textiles, and jewellery presented within an art-led environment where local and national, emerging and established makers and designers can be discovered. It is the perfect place to find that unique gift for a special someone.
Yn eisiau! Crefftwyr newydd a sefydledig! Anfonwch eich manylion at rhian@orieldavies.org
Emerging and established craftspeople wanted! Please send details to rhian@orieldavies.org
Talebau rhodd
Gift tokens
Gostyngiad o 15% ar lyfrau i fyfyrwyr
Gostyngiad o 15% i Gyfeillion Oriel Davies ar eitemau dros £5 sydd ddim ar sêl
Students 15% off on books
ODG Friends 15% off non-sale items over £5
Llogi ystafell
Room hire
Mae ystafell addysg lachar, mawr Oriel Davies yn berffaith ar gyfer amrywiaeth o gyfarfodydd, cynadleddau a sesiynau hyfforddi ar gyfer hyd at 40 o bobl, ac mae ar gael i’w llogi! Cyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog.
Perfect for a variety of meetings, conferences and training sessions for up to 40 people, the bright, spacious education room at Oriel Davies is for hire! Clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.orieldavies.org/cy/room-hire neu ffoniwch 01686 625041
For more information visit www.orieldavies.org/room-hire or give us a call on 01686 625041
Cyfeillion
Friends
Mae Cyfeillion Oriel Davies yn grw ˆp egnïol o unigolion, sydd yn ymroddedig i gefnogi Oriel Davies a chreu cyswllt cryf rhwng yr oriel a’i chynulleidfaoedd. Y cyhoedd cyffredin yw’r cyfeillion, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf i ymuno â’r grw ˆp. £14 yw’r gost aelodaeth flynyddol, £6 i fyfyrwyr a £22 am aelodaeth ddwbl.
The Friends of Oriel Davies are an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and creating a strong link between the gallery and its audiences. Friends are drawn from the general public and anyone with an interest in art is welcome to join. Annual membership costs £14 or £6 for a student and £22 for a double membership.
Gallwch ddod o hyd i restr o fanteision ar ein gwefan, ac mae croeso i chi ein ffonio neu anfon e-bost atom gyda unrhyw gwestiynau sydd gennych am ymuno drwy ffonio 01686 625041 neu anfon e-bost at desk@orieldavies.org
You can find a list of benefits on our website and please don’t hesitate to give us a call or email with your questions about joining on 01686 625041 desk@orieldavies.org
Sut i ddod o hyd i ni
How to find us
Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.
The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.
Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am—5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul.
Opening times: Monday—Saturday 10am—5pm (including bank holidays), closed on Sundays.
Mynediad am ddim
Free admission
Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.
Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair.
Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041
For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041
orieldavies.org
Diolch
Thanks
Hoffai Oriel Davies ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cefnogaeth hael: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston; Y Gronfa Gelf; Llenyddiaeth Cymru. Gyda diolch arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gryf o’r oriel a’i rhaglenni.
Oriel Davies warmly thanks the following organisations for their generous support: Arts Council of Wales; the Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Colwinston Charitable Trust; The Art Fund; Literature Wales. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and its programmes.
Front cover image: Craig Wood, Mapping Series (Crumpled Globe, detail), 2015 Design: heightstudio.com
Oriel Caffi Siop Gallery Cafe Shop
Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ 01686 625041 desk@orieldavies.org www.orieldavies.org @orieldavies orieldavies orieldavies Mynediad am ddim Free admisssion