TURNING LIVES AROUND IN
WALES
Turning Point Cymru, firmly rooted in Wales, is a distinctive part of Turning Point. We combine our experience of providing effective social care solutions across the UK, with an emphasis on tailoring our services to the needs of the local community. We are committed to developing our work across Wales, and pride ourselves on developing life-changing services that meet the diverse needs of our service users. Turning Point Cymru has a particular focus on the needs of people in Wales, including specific policy, governance and language issues.
CONTACT US Please get in touch to find out more about Turning Point Cymru services. Turning Point Cymru 57-59 St Mary Street Cardiff CF10 1FE Tel: 02920 227 327 Fax: 02920 376 153 Email: TPCymru@turning-point.co.uk Website: www.turning-point.co.uk/cymru
ABOUT TURNING POINT
OUR SERVICES
We turn lives around every day, by putting the individual at the heart of what we do. Inspired by those we work with, together we help people build a better life.
Our services are always finding new ways to support people with complex needs. We work with local commissioners to provide the best solution for their community and work with the communities themselves to ensure that our services are relevant and accessible. Many of our projects provide a unique combination of mental health, learning disability and substance misuse expertise within one service. We can also offer one-to-one support for people whose challenging behaviour means they have been excluded from other services.
Turning Point is the UK’s leading social care organisation. We provide services for people with complex needs, including those affected by drug and alcohol misuse, mental health problems and those with a learning disability.
PROVIDING CONNECTED CARE We design and deliver services which provide a joined-up approach to people’s complex social needs. By focusing on the person rather than the problem we aim to provide connected care, enabling people to transform their lives and helping them to be part of their community.
WORKING IN PARTNERSHIP Our skilled staff work with a range of professionals and partner agencies from social services to the criminal justice system and Jobcentre Plus. Involving service users in all areas of our business is also crucial, from producing individual care plans to the design and delivery of services and influencing policy and strategy.
We have developed a range of innovative service models across the spectrum of social care. This means that we can support people in whatever situation works best, ranging from drop-in centres, our residential homes and detox units to prisons and police stations or settings chosen by the service user.
TURNING LIVES AROUND: OUR SERVICES
TURNING LIVES AROUND: OUR SERVICES
“Turning Point fills gaps that other services leave”
Sarah is 26 years old and has a learning disability. She has lived in a variety of residential settings since childhood, never able to settle due to her so called ‘challenging behaviour’.
Our progress2work services in Wales support people recovering from substance misuse problems to gain jobs or training. They can be the vital next step for someone wanting to turn their life around. Dewi was referred to Turning Point Cymru through the prison service with a long history of substance misuse including heroin and crack cocaine as well as several previous convictions for drug dealing and armed robbery. Upon release from prison Dewi was drug free but was also homeless and seemed likely to fall between the gaps in the services meant to help him, especially as he had never held down a full time job and had no qualifications. Turning Point Cymru helped him find temporary accommodation and encouraged him to begin a training course in site safety. We then supported him to find a job, funded work clothing, and helped him put a deposit down on a rented flat. Dewi is still in his job six months later and still drug free. Together Dewi and Turning Point Cymru have significantly reduced the chances of him re-offending.
At Turning Point Cymru we have tried to take a different approach. Before moving Sarah into her new home with us last year, we worked with Sarah, her family and her previous service providers, to gain insight into her behaviour. We quickly realised that even though Sarah appears to communicate well, she struggles to know how to interact with people and gets very frustrated. This was incorporated into her care plan alongside a list of her likes and dislikes. The approach has been a major factor in supporting Sarah to turn her life around. Sarah now says she is much happier and would like to stay with Turning Point. She has found ways to manage her anger and anxiety and has started to build confidence. Joining the local slimming club has helped her lose weight and gain self esteem, as well as addressing her obsessions around food and introducing a healthy eating lifestyle. She has also made good friends at the club and loves to take an active part in the meetings.
Names have been changed for reasons of confidentiality. Pictures posed by models. Picture credits: © Grant Lynch 2005; © Rasmus Rasmussen 2005; www.johnbirdsall.co.uk. Turning Point is a registered charity, number 234887, a registered social landlord and a company limited by guarantee number 793558 (England & Wales) Registered office: New Loom House, 101 Backchurch Lane, London, E1 1LU Tel: 020 7702 2300 Fax: 020 7702 1456
GWELLA BYWYDAU YNG
NGHYMRU
Mae Turning Point Cymru, sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru, yn rhan nodedig o Turning Point. Byddwn yn cyfuno ein profiad o ddarparu atebion effeithiol ym maes gofal cymdeithasol ar draws y DU, gyda phwyslais ar deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion y gymuned leol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwaith ledled Cymru, ac rydym yn ymfalchïo mewn datblygu gwasanaethau sy’n newid bywydau ac sy’n diwallu gwahanol anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaeth. Mae gan Turning Point Cymru ffocws penodol ar anghenion pobl Cymru, gan gynnwys materion yn ymwneud â pholisi, trefn lywodraethol ac iaith.
CYSYLLTWCH Â NI Gallwch gysylltu â ni i gael gwybod mwy am wasanaethau Turning Point Cymru. Turning Point Cymru, 57-59 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1FE Ffôn: 02920 227 327 Ffacs: 02920 376 153 E-bost: TPCymru@turning-point.co.uk Gwefan: www.turning-point.co.uk/cymru
YNGHYLCH TURNING POINT
EIN GWASANAETHAU
Byddwn yn newid cyfeiriad bywydau bob dydd, trwy sicrhau mai’r unigolyn yw canolbwynt yr hyn a wnawn. Fe’n hysbrydolir gan y bobl y byddwn yn gweithio yn eu plith, a chyda’n gilydd byddwn yn helpu pobl i adeiladu bywyd gwell.
Bydd ein gwasanaethau bob amser yn dod o hyd i ddulliau newydd o gefnogi pobl ag anghenion cymhleth. Byddwn yn gweithio gyda chomisiynwyr lleol i ddarparu’r ateb gorau ar gyfer eu cymuned ac yn gweithio gyda’r cymunedau eu hunain i sicrhau bod ein gwasanaethau’n berthnasol ac o fewn cyrraedd. Bydd llawer o’n prosiectau yn darparu cyfuniad unigryw o arbenigedd mewn iechyd meddwl, anabledd dysgu a chamddefnydd o sylweddau, a hynny o fewn yr un gwasanaeth. Hefyd gallwn gynnig cefnogaeth un-wrth-un i’r bobl hynny sydd wedi eu cau allan o wasanaethau eraill oherwydd eu hymddygiad herfeiddiol.
Turning Point yw sefydliad gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw y DU. Rydym yn darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, gan gynnwys y rhai mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, problemau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn effeithio arnynt.
DARPARU GOFAL CYDLYNOL Byddwn yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau sy’n cynnig dull cyfunol o ymdrin ag anghenion cymdeithasol cymhleth pobl. Trwy ganolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag ar y broblem ein nod yw darparu gofal cydlynol, gan alluogi pobl i drawsnewid eu bywydau a’u helpu i fod yn rhan o’u cymuned.
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Bydd ein staff medrus yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl broffesiynol ac asiantaethau sy’n bartneriaid i ni, yn amrywio o’r gwasanaethau cymdeithasol i’r system cyfiawnder troseddol a Chanolfan Byd Gwaith. Hefyd, mae’n hollbwysig bod a wnelo defnyddwyr y gwasanaeth â phob agwedd ar ein gwaith, o baratoi cynlluniau gofal unigol i gynllunio a darparu gwasanaethau a dylanwadu ar bolisi a strategaeth.
Rydym wedi datblygu ystod o fodelau gwasanaeth arloesol ar draws y sbectrwm o ofal cymdeithasol. Golyga hyn y gallwn gefnogi pobl ym mha sefyllfa bynnag sy’n gweithio orau, gan amrywio o ganolfannau galw heibio, cartrefi preswyl ac unedau dadwenwyno i garchardai a gorsafoedd heddlu neu safle o ddewis defnyddiwr y gwasanaeth.
GWELLA BYWYDAU: EIN GWASANAETHAU
GWELLA BYWYDAU: EIN GWASANAETHAU
“Mae Turning Point yn llenwi’r bylchau mae gwasanaethau eraill yn eu gadael”
Mae Sarah yn 26 oed ac mae ganddi anabledd dysgu. Bu’n byw mewn nifer o safleoedd preswyl ers ei phlentyndod, heb allu setlo oherwydd ei ‘hymddygiad herfeiddiol’ meddai nhw.
Mae gwasanaethau progress2work yng Nghymru yn cefnogi pobl sy’n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau i sicrhau gwaith neu hyfforddiant. Gallant fod yn gam nesaf hanfodol i rywun sydd am newid cwrs ei fywyd. Atgyfeiriwyd Dewi at Turning Point Cymru gan y gwasanaeth carchar. Roedd ganddo hanes hir o ddibyniaeth ar heroin a chocên crac yn ogystal â nifer o ddedfrydau blaenorol am fasnachu mewn cyffuriau a lladrad arfog. Pan ryddhawyd Dewi o’r carchar roedd yn rhydd o gyffuriau ond hefyd yn ddigartref ac yn debyg o syrthio rhwng y bylchau yn y gwasanaethau oedd i fod i’w helpu, yn enwedig gan na fu erioed mewn swydd barhaol a chan nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau. Rhoddodd Turning Point Cymru help iddo ddod o hyd i lety dros dro a’i annog i ddechrau ar gwrs hyfforddi mewn diogelwch safle. Yna rhoesom gefnogaeth iddo i ddod o hyd i waith, i brynu dillad gwaith ac i roi blaendal ar fflat ar osod. Chwe mis yn ddiweddarach mae Dewi yn parhau mewn gwaith ac mae’n dal yn rhydd o gyffuriau. Gyda’n gilydd, mae Dewi a Turning Point wedi lleihau’r posibilrwydd y bydd yn aildroseddu.
Yn Turning Point, ceisiwyd edrych ar hyn o safbwynt gwahanol. Cyn symud Sarah i’w chartref newydd gyda ni y llynedd, buom yn gweithio gyda Sarah a chyda'i theulu a’i darparwyr gwasanaeth blaenorol, i geisio dod i ddeall ei hymddygiad. Buan iawn y sylweddolwyd nad yw Sarah, er ei bod i bob golwg yn cyfathrebu’n dda, yn gwybod sut i ymadweithio â phobl ac o’r herwydd mae hi’n mynd yn rhwystredig iawn. Cynhwyswyd hyn yn ei chynllun gofal, ynghyd â rhestr o’i hoff bethau a’i chas bethau. Bu’r dull hwn o drin y sefyllfa yn ffactor pwysig yn y gwaith o gefnogi Sarah i newid cyfeiriad ei bywyd. Dywed Sarah ei bod erbyn hyn yn llawer hapusach a’i bod yn dymuno aros gyda Turning Point. Mae hi wedi dod o hyd i ffyrdd o reoli ei gwylltineb a’i phryder, ac mae ei hyder wedi dechrau cynyddu. Mae ymuno â’r clwb nofio lleol wedi bod o gymorth iddi i golli pwysau ac ennill hunan-barch, yn ogystal â rhoi sylw i'r obsesiynau oedd ganddi am fwyd a'i chyflwyno i fwyta iach. Hefyd, mae hi wedi ennill nifer o ffrindiau da yn y clwb ac mae hi wrth ei bodd yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd.
Newidiwyd yr enwau er mwyn diogelu cyfrinachedd. Modelau sydd yn y lluniau. Cydnabyddiaeth ffotograffwyr: © Grant Lynch 2005; © Rasmus Rasmussen 2005; www.johnbirdsall.co.uk. Mae Turning Point yn elusen gofrestredig, rhif 234887, yn landlord cymdeithasol cofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant rhif 793558 (Cymru a Lloegr). Swyddfa gofrestredig: New Loom House, 101 Backchurch Lane, London E1 1LU Ffôn: 020 7702 2300 Ffacs: 020 7702 1456