1 minute read

Y diweddaraf gan eich Golygydd

Croeso

Helo,

a chroeso i rifyn y gaeaf ein cylchgrawn ClwydAlyn. Hoffwn gychwyn drwy estyn diolch o’r galon am y croeso a’r adborth calonogol yn dilyn rhifyn yr haf. Hwnnw oedd fy rhifyn cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohono. Mae eich cyfraniad chi yn hollbwysig i’r cylchgrawn hwn. Cofiwch rannu beth hoffech chi ei weld yn y cylchgrawn gan mai cylchgrawn i chi ydy o wedi’r cyfan! Anfonwch unrhyw syniadau at laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk

Yn ein rhifyn yr Haf, bu inni ofyn ichi bleidleisio am enw newydd i’r cylchgrawn i breswylwyr. Mae’n bosib eich bod chi wedi sylwi ei fod wedi newid ar y clawr.. Fe wnaethoch chi ddewis ‘Home Matters’ sy’n enw gwych! Diolch yn fawr i bawb wnaeth roi o’u hamser i bleidleisio. Rydym wir o’r farn bod cartref yn bwysig, Mae’n rhywle lle gallai bawb deimlo’n ddiogel ac yn le i wneud atgofion melys dros ben, lle arbennig i nifer o bobl ac felly dyma pam ein bod ni’n angerddol dros ein gwaith yma yn ClwydAlyn. Wna i adael ichi fwynhau’r cylchgrawn sy’n ymdrin â’r diweddaraf am breswylwyr, awgrymiadau arbennig a chyfleoedd gwych i ennill gwobrau. Ar ran ClwydAlyn a minnau, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda ichi i gyd.

Laura x

Canfod y diweddaraf

gyda’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook, Twitter ac Instagram

@ClwydAlyn

Dewch i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal a chanfod mwy am ein gwaith yn eich cymuned. Rydym yn cyflwyno’r diweddaraf am ein gwasanaeth ynghyd â newyddion gan ClwydAlyn, datblygiadau’r cynllun newydd, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Trwsiadau brys y tu hwnt i oriau arferol: 0300 123 3091 Y BRECHLYN

Ydych chi wedi derbyn eich brechlyn eto?

Mewn ymateb i ddyfodiad yr amrywiolyn Omicron, mae’r cymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 wedi’i ymestyn ar gyfer holl oedolion dros 18. Caiff y brechlynnau atgyfnerthu eu cynnig o ran trefn grwpiau oedran disgynnol gan flaenoriaethu oedolion hŷn a’r rheiny sy’n rhan o grwpiau mewn peryg o COVID-19. Dylid cynnig y brechlyn atgyfnerthu o leiaf 3 mis ar ôl derbyn y prif frechlynnau. Mae hyn yn ddiweddariad ers y cyfnod o 6 mis gafodd ei gynghori’n flaenorol. Arhoswch i’ch bwrdd iechyd gysylltu gyda chi. gov.wales/coronavirus

This article is from: