MBAspring 2014 Welsh

Page 1

Dydd Sul 12 Ionawr

Dydd Sadwrn 15 Mawrth

Workshops

Olwynion Gweddïo, Argraffu a Llawysgrifau Cysegredig

Northanger Abbey gan Box Tale Soup

Presteigne Quilters 2nd & 4th Monday in the month. Enquiries 01544 260356 Cwiltwyr Llanandras Yr 2il a’r 4ydd dydd Llun yn y mis. Ymholiadau 01544 260356

Sgwrs ddarluniadol gan Dr Stephen Hugh-Jones ynglŷn â defnyddio technoleg ddigidol i ailgrynhoi gorffennol drylliedig Tibet. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 3pm £6 wrth y drws neu o No. 46 Wine Bar, ar agor bob dydd o 10am

Dydd Sul 19 Ionawr Detholiad o Feddyginiaethau Cerddorol

Cyfansoddiadau jazz gan Andrew Morris, wedi’u hysbrydoli gan Feddyginiaethau Blodau ‘Bach’. Yn eu perfformio fydd Theo Jobst (sacsoffonau), Sam Powell (bas) ac Andrew Morris (piano). YstafelYstafelloedd Cynnull Llanandras 3pm Tocynnau £10

Dydd Sadwrn 8 Chwefror The Brass Funkeys

Noson Clwb â seddi wedi’u gosod ar arddull cabare, a lle i ddawnsio Mae’r Brass Funkeys wedi’u seilio ar seindorf orymdeithiol arddull Orleans Newydd. Yn chwarae cymysgedd o offerynnau fel y sousaffon, trombonau, trympedi, sacsoffon ac offerynnau taro i berfformio cerddoriaeth amrywiol, gan gynnwys ffync, jazz, rege, metel ac, wrth gwrs, Dixie. Ymgyrch Codi Arian i Efeillio Trefi Ystafelloedd Cynnull,Llanandras 8pm Tocynnau £8 o No. 46 Wine Bar, Llanandras ac www.wego�ckets.com

Dydd Gwener 21 Chwefror Ffilm Archifau Huntley: World War 1

2014 yw canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hwn oedd y rhyfel cyntaf lle mynnodd y cyhoedd wybod beth oedd yn digwydd i’r dynion, ac roedd ffilm yn un cyfrwng i adrodd y stori gartref. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm Tocynnau £6 wrth y drws

Dydd Sul 2 Mawrth John Hymas a Jeremy Fisher

Bydd John Hymas (fiolin a fiola) a Jeremy Fisher (piano) yn chwarae rhaglen sy’n cynnwys Brahms, Bri�en a César Frank. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 3pm Tocynnau £10 wrth y drws, yn cynnwys te a chacen

Gan gyflwyno pypedau papur prydferth a gwisgoedd a chelfi o waith llaw, mae’r cynhyrchiad hwn yn ysgogi’r dychymyg ac yn dod â phob diferyn olaf o ffraethineb, chwaraegarwch a hiwmor Austen i’r fei. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm Tocynnau £8 o No. 46 Wine Bar, Llanandras ac wrth y drws

Dydd Gwener 21 Mawrth Memorials of a Quiet Life

Portread deuol o’r arlunwyr Ann a Graham Arnold gan Barrie Gavin 40 mlynedd yn ôl, penderfynodd Ann a Graham Arnold gefnu ar y byd metropolitanaidd a symud i rywle anghysbell yng nghefn gwlad, lle gallen nhw ganolbwyn�o ar eu gwaith yn lle dilyn trywydd ffasiwn a llwyddiant. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm

Dydd Gwener 4 Ebrill Syrcas Americanaidd Curtis Ellers

Noson Clwb â seddi wedi’u gosod ar arddull cabare, a lle i ddawnsio Cyfansoddwr caneuon/canwr rhagorol a hynod gyfareddol o ddinas Efrog Newydd yw Cur�s Ellis. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm Tocynnau £10 o No. 46 Wine Bar ac www.wego�ckets.com

Dydd Sul 13 Ebrill The Land where Lemons Grow

llyfr newydd sbon gan Helena A�lee Mewn darlith yn y prynhawn, wedi’i dyfeisio’n arbennig ar gyfer MBA, bydd Helena’n edrych ar stori hynod y sitrws yn yr Eidal. Trwy gyfuniad o deithio, hanes, rysei�au, garddwriaeth a chelf, bydd yn ein harwain ar siwrnai unigryw a chyfoethog trwy agweddau go anhysbys ar orffennol diwylliannol, moesegol a gwleidyddol yr Eidal. Bydd yna lyfrau wedi’u llofnodi ar werth a rysei�au sitrws i’w blasu. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 3pm £6 wrth y drws

Dydd Sul 27 Ebrill Cyngerdd Cyfansoddwyr

Bydd y cyfansoddwyr lleol John Hymas, Camilla Saunders a Nicholas Benda’n cyflwyno prynhawn o’u cerddoriaeth newydd a gwreiddiol eu hunain. Bydd cerddorion lleol eraill yn ymuno â nhw mewn digwyddiad sy’n argoeli i fod yn gyngerdd hynod ddiddorol ac amrywiol. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 3pm £8 wrth y drws

Bandamania Mondays 7.15pm Enquiries Sue Harris 01547 560950 Bandamania Dydd Llun 7.15pm Ymholiadau Sue Harris 01547 560950 Writers’ Circle 3rd Tuesday in the month 7.30pm Enquiries 01544 260255 Cylch Ysgrifenwyr Y 3ydd dydd Mawrth yn y mis 7.30pm Ymholiadau 01544 260255 Whitton Voices Tuesdays 8pm - 10pm Enquiries Sue Harris 01547 560950 Lleisiau Hwytyn Ar ddydd Mawrth 8pm -10pm Ymholiadau Sue Harris 01547 560950 Yoga with Marie Hudson Wednesdays 10am - 11.30am Enquiries 01544 260352 Ioga gyda Marie Hudson Ar ddydd Mercher 10am-11.30am Ymholiadau 01544 260352 T’ai Chi Thursdays 5pm - 6.30pm & 6.30pm - 8pm Enquiries Josh Partridge 01544 262161 T’ai Chi Ar ddydd Iau 5pm - 6.30pm a 6.30pm - 8pm Ymholiadau Josh Partridge 01544 262161

Regular Event Arts & Crafts Fair

1st Saturday of the month. Stall Enquiries 01544 260777

Ffair Celf a Chrefft

Y dydd Sadwrn 1af yn y mis. 01544 260777

Tickets MBA Tickets available from: No. 46 the Wine Bar, Presteigne High Street & on line at www.wego�ckets.com. or when specified on the door Event enquires: Alison Parry 01544 267163 10am - 4pm


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.