Bwyd a Diod Caerffili

Page 1

Bwyd a Diod Caerffili

food directory welsh .indd 1

23/04/2015 08:06:31


Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig The European Agricultural Fund for Rural Development: Europe Investing in Rural Areas

food directory welsh .indd 2

23/04/2015 08:06:32


CYNNWYS 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10

- Croeso i’r llyfryn Bwyd a Diod 5 - Bwyd lleol 6 - Ble i Brynu 7 - Marchnadoedd lleol 8 - Digwyddiadau a Gwyliau Bwyd 10 - Ffili a tsili – Rysáit Selsig Morgannwg 11 - Cwrdd â’r Cynhyrchwyr 13 - Byrgyr Cig Oen 17 - Y Cyfeirlyfr 18 - Amdanom Ni 22

3

food directory welsh .indd 3

23/04/2015 08:06:35


4

food directory welsh .indd 4

23/04/2015 08:06:40


LLYFRYN BWYD A DIOD CAERFFILI ...cynnyrch llafur cariad! Gan rannu ein brwdfrydedd dros fwyd a diod lleol, mae’r llyfryn hwn yn gydweithrediad rhwng cynhyrchwyr lleol a Chynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili. Mae’n gyfle i ddathlu’r cynnyrch bendigedig sydd i’w gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn y llyfryn hwn, mae rhestr o’r cynhyrchwyr, y manwerthwyr a’r marchnadoedd sy’n tyfu, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch lleol yma yng Nghaerffili. Os mai bwyd sy’n mynd â’ch bryd, mae yma ambell awgrym am weithgareddau addas sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn hefyd! Mae’n cynhyrchwyr wrth eu bodd yn rhannu eu brwdfrydedd am eu cynnyrch ac yn y llyfryn mae proffiliau o ambell gynhyrchydd sy’n rhoi wyneb i’r hyn sydd gan y mae’r Cymoedd i’w gynnig.

Felly chwiliwch am damaid blasus! 5

food directory welsh .indd 5

23/04/2015 08:06:40


Bwyd Lleol! Mae bwyd yn agos at ein calon yng Nghaerffili ac yn cynnwys ein Caws Caerffili byd enwog (bob blwyddyn bydd Ras Gaws enfawr yn y dref fel rhan o ddigwyddiad y Caws Mawr), cwrw, lager a seidr lleol sydd wedi ennill gwobrau, siocled a hufen iâ cartref! Rydym ni’n dwli arno, ac nid ni yw’r unig rai gan fod bwydydd a o Gaerffili i’w gweld ym mhobman o Sbaen i Sgandinafia ac wrth gwrs ledled y De a gweddill gwledydd Prydain hefyd - tipyn o gamp!

Ambell damaid blasus! Mae Braces Bakery yng Nghroespenmaen yn gallu cynhyrchu 6000 torth o fara bob awr! Diolch i rysáit cyfrinachol, hufen iâ go iawn Hufen Iâ Hapus yw’r unig hufen iâ i ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Hufen Iâ ‘Pencampwr y Pencampwyr’ bedair gwaith!

6

food directory welsh .indd 6

Mae Seidr Blaengawney sy’n cael ei wneud yn Hafodyrynys, yn cynhyrchu’r seidr enwog Hallets a dyma’r berllan seidr uchaf yng Nghymru!

23/04/2015 08:06:44


Ble i Brynu Mae llawer o bethau da ynglyn â phrynu’n lleol! Gall olygu llai o filltiroedd rhwng ble mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu a’n platiau ac mae’n cefnogi’r economi leol hefyd. Does dim angen iddo fod yn ddrud chwaith ac mae sawl lle yn lleol lle gallwch chi gael gafael ar rhai o’r danteithion sydd yn y llyfryn hwn (a llawer mwy hefyd). Cofiwch, mae cyfeiriadau, gwefannau a gwybodaeth gyswllt pob busnes yn y cyfeirlyfr yng nghefn y llyfryn a gallan nhw ddweud wrthych lle gallwch brynu eu cynnyrch!

Canolfan Ymwelwyr Caerffili Mae Castell anhygoel Caerffili, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, yn olygfa wych o siop goffi Lolfa’r Castell yng Nghanolfan Ymwelwyr Caerffili. Erbyn hyn mae’r ganolfan yn ganolbwynt i fwyd lleol Caerffili. O gaws Caerffili, Siocledi’r Castell, danteithion Plant2Plate a chwrw a lager Celt yn ogystal â llu o grefftau lleol a phaned wych o goffi, dyma’r lle i weld ac i flasu tamaid o Gaerffili!

Marchnad Ffermwyr Caerffili Drws nesaf i’r Ganolfan Ymwelwyr mae’r Twyn, sef lleoliad marchnad ffermwyr Caerffili a gynhelir bob mis. Mae’r farchnad yn rhan o nifer gynyddol o farchnadoedd bwyd ledled yr ardal sy’n cynnig popeth o fara, teisennau, pastai, mêl, jam, siocledi, prydau parod, cigoedd a mwy. Trowch i’r adran ar farchnadoedd lleol i weld beth sy’n digwydd a ble!

food directory welsh .indd 7

7

23/04/2015 08:06:45


Marchnadoedd Lleol Mae Caerffili yn gartref i nifer gynyddol o farchnadoedd cynnyrch bywiog sy’n rhoi cyfle i ni gael gafael ar fwyd a diod lleol o’r radd flaenaf ac yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod rhai o’r wynebau y tu ôl i’r cynnyrch hefyd. Mae pob marchnad yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol ond nod pob un yw cynnig y gorau o gynnyrch lleol gan helpu i gefnogi masnachwyr lleol hefyd. Mae popeth ar gael o wyau, cigoedd, teisennau, bara, ffrwythau a mêl i brydau, sbeisys a bwyd poeth gan gynnwys sawl caffi dros dro!

Marchnad Gymunedol Bedwas Neuadd y Gweithwyr Bedwas, Ffordd Casnewydd, Caerffili CF83 8BJ Dyddiadau: marchnad dymhorol yn y Gwanwyn, Haf, Hydref a Gaeaf. Cyswllt: www.facebook.com/BedwasWorkmensHall

Marchnad Ffermwyr Caerffili Y Twyn, Caerffili CF83 1JL Dyddiadau: Ail ddydd Sadwrn bob mis Cyswllt: www.caerphillyfarmersmarket.co.uk 8

food directory welsh .indd 8

23/04/2015 08:06:50


Marchnad Wledig Crymlyn Safle pwll glo’r Navigation, Crymlyn, Trecelyn Dyddiadau: Marchnad bob deufis ar ddydd Sadwrn olaf y mis yn dechrau ym mis Chwefror. Cyswllt: Chwiliwch am farchnad wledig Crymlyn /‘Crumlin navigation rural market’ ar facebook

Marchnad Wledig Machen Neuadd Pentref Machen, Y Cilgant, Machen, Caerffili, CF83 8ND Dyddiadau: Marchnad bob deufis ar ddydd Sadwrn olaf y mis yn dechrau ym mis Mawrth. Cyswllt: www.facebook.com/MachenMarket

Marchnad Wledig Cegin Rhydri Neuadd y Plwyf Rhydri, Rhydri, CF83 3DF Dates: marchnad dymhorol yn y gwanwyn, haf, hydref a gaeaf. Cyswllt: Chwiliwch am Rudry Rural Market ar facebook.

9

food directory welsh .indd 9

23/04/2015 08:06:56


Digwyddiadau a Gwyliau Bwyd Gwyl Fwyd Caerffili - 9 Mai 2015 Yn ôl am ei phedwaredd flwyddyn, mae Gwyl Fwyd Caerffili am ddod â dwr i’n dannedd! Unwaith eto, bydd yr wyl yn denu llu o bobl sy’n caru bwyd gyda’r cynnyrch lleol a rhanbarthol gorau yn ogystal â nifer o arddangosiadau coginio byw. Am y wybodaeth ddiweddaraf neu os ydych am ychwanegu eich bwyd neu’ch diod chi i’r gymysgedd, cysylltwch â ni! Trowch i’r wefan neu’r cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth! http://your.caerphilly.gov.uk/foodfestival/ Twitter - @visitcaerphilly Facebook - VisitCaerphilly

Y Caws Mawr - 24, 25 a 26 Gorffennaf 2015 Yng nghysgod un o gestyll mwyaf Ewrop, gwyl Y Caws Mawr yw’r uchafbwynt! Mae dros 80,000 o bobl yn dod i Gaerffili y penwythnos hwn ac mae’r hwyl yn dechrau gyda’r Ras Fawr ar nos Wener. Dewch i wylio timau yn rasio o amgylch Caerffili, pob un â chosyn mawr o Gaws Caerffili – adloniant pur! Mae’r Caws Mawr hefyd yn gartref i un o bebyll bwyd mwyaf Cymru, gydag amrywiaeth anhygoel o fwydydd lleol a rhanbarthol. Rhesymau di-rif dros ymweld felly.

10

food directory welsh .indd 10

http://your.caerphilly.gov.uk/bigcheese/home-page twitter - @visitcaerphilly facebook - VisitCaerphilly

23/04/2015 08:06:57


Ffili a Tsili (llysieuol) Selsig Morgannwg gyda chaws Caerffili a relish winwns coch, tsili a seidr! Digon i 4

Amser paratoi – 45 munud Amser coginio – 45 munud

Ar gyfer y selsig l 25g o fenyn (rydym yn defnyddio Castle Dairies) l 115g o gennin, wedi’u sleisio’n fân (pwysau ar ôl eu paratoi) l 175g o friwsion bara gwyn l 2 lwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri’n fân l 1 llwy fwrdd o deim ffres wedi’i dorri’n fân l 150g o gaws Caerffili wedi’i ratio’n fân (rydym yn defnyddio Caws Cenarth) l 2 wy maes wedi’u gwahanu l 1 llwy de o fwstard Seisnig l 5 llwy fwrdd o olew blodau’r haul l Halen wedi’i falu’n fân l Pupur du wedi’i falu’n fân

Ar gyfer y relish winwns coch a tsili l 2 lwy fwrdd o olew blodau haul l 2 winwnsyn coch wedi’u torri’n fân l 1 tsili coch wedi’i dorri’n fân (rydym yn defnyddio Caerphilly Chilli Co) l 2 ewin garlleg wedi’u malu l 70g siwgr brown ysgafn muscovado l 5 llwy fwrdd o seidr crefft (rydym yn defnyddio Seidr Cymreig Hallets o Fferm Seidr Blaengawney) 11

food directory welsh .indd 11

23/04/2015 08:07:01


Dull 1.

Ar gyfer y selsig, toddwch y menyn mewn padell ffrio fawr wrthlud a ffriwch y cennin dros dymheredd canolig nes eu bod yn feddal ond ddim yn frown. Bydd hyn fel arfer yn cymryd 5 munud.

2.

Rhowch 100g o’r briwsion bara ynghyd â’r persli, teim a chaws Caerffili wedi’i gratio mewn powlen gymysgu fawr a’u cymysgu’n dda.

3.

Gwahanwch y ddau felynwy o’r gwyn a churwch y melynwy gyda’r mwstard, halen a phupur mewn powlen.

4.

Tynnwch y cennin oddi ar y gwres a’u hychwanegu at y gymysgedd briwsion bara.

5.

Ychwanegwch y melynwy a chymysgwch yn dda gyda llwy bren.

6.

Leiniwch dun pobi bas gyda haenen lynu a rhannwch y gymysgedd yn wyth a’u rholio’n siâp selsig gan osod pob un ar y tun pobi.

7.

Taenwch y briwsion bara sydd ar ôl dros blât mawr a chwipiwch y gwynwy yn ysgafn mewn powlen nes ei fod yn ewyn ysgafn.

8. Dipiwch y selsig fesul un yn y gwynwy a’u rholio yn y briwsion bara nes eu bod wedi’u gorchuddio a’u gosod yn ôl ar y tun pobi. 9. Rhowch nhw i oeri yn yr oergell am 30 munud. 10. Tra bod y selsig yn oeri, twymwch yr olew mewn sosban wrhlud fawr a ffrïwch y winwns nes eu bod wedi meddalu a dechrau newid lliw (tua 20 munud). 11. Trowch y winwns yn rheolaidd ac ychwanegwch y tsili a’r garlleg a’u coginio am 5 munud arall. 12. Taenwch y siwgr muscovado dros y winwns ac ychwanegwch y seidr drostynt. 13. Coginiwch y relish drwy ei fudferwi nes bydd yr hylif yn tewychu a’i fod yn troi’n drwchus a sgleiniog. 14. Tynnwch y relish oddi ar y gwres a’i adael i oeri am ychydig funudau cyn ei weini. 15. Wrth i’r relish oeri, ychwanegwch olew i badell ffrio wrthlud fawr a ffriwch y selsig am ryw 10 munud ar wres canolig a’u troi’n rheolaidd nes eu bod yn frown golau ac yn grimp drostynt. Gweinwch y selsig gyda llwyaid dda o’r relish tsili a seidr, salad ffres a ffa gwyrdd am bryd blasus.

12

food directory welsh .indd 12

23/04/2015 08:07:07


Moch Coch Mawr Uwchlaw Cwm Rhymni, gyda golygfeydd dros ardal Bedwas a Chaerffili, fe ddewch ar draws cymeriadau lliwgar iawn â gwallt coch trawiadol, sy’n mwynhau ymdrochi mewn mwd ac sy’n byw’n eitha bras o ddydd i ddydd. Dyma foch Tamworth Caerffili - enillwyr gwobrau a’r sêr y tu ôl i’r brand Big Ginger Pigs. Dechreuodd yr holl beth 14 mlynedd yn ôl pan ddaeth Liz Shankland a Gerry Toms ar draws hen ffermdy traddodiadol a oedd ar werth gydag ychydig o dir. Dechreuodd y daith gyda ieir a thyrcwn, yna defaid a geifr a maes o law i foch pedigri a dechrau Cenfaint Tudful. Daeth clod a bri i’r moch ledled Prydain a thu hwnt. Mae Liz yn cystadlu’n llwyddiannus mewn nifer o sioeau amaethyddol ac mae’r moch wedi ennill gwobr fawreddog Pencampwr y Pencampwyr Tamworth (y moch Tamworth gorau yng ngwledydd Prydain) deirgwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Liz yw awdur yr Haynes Pig Manual a’r Haynes Smallholding Manual ac mae’n addysgu hwsmonaeth yn Humble by Nature, sef yr ysgol sgiliau gwledig a sefydlwyd gan Kate Humble y gyflwynwraig deledu. ogystal â gwerthu stoc bridio pedigri ledled gwledydd Prydain a thu hwnt, mae Liz a Gerry’n cynhyrchu’r porc twf araf mwyaf anhygoel hefyd. Yn wahanol i foch arferol, mae’r Tudful Tamworths yn mwynhau bywyd iach yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, yn bwyta ac yn tyfu wrth eu pwysau. Caiff y selsig a’r byrgyrs eu gwerthu mewn marchnadoedd gwledig lleol, ac mae croeso i archebion mwy o borc Tamworth brid prin i’w casglu o’r fferm neu mae modd eu dosbarthu i’ch cartref. Mae bocsys cig oen a thyrcwn efydd ar gael ar wahanol adegau o’r flwyddyn hefyd.

food directory welsh .indd 13

Cefnogwch Fusnesau Lleol! 13 Gwnewch y gorau o’ch cymuned

23/04/2015 08:07:10


Dwi’n Hoffi Coffi Mae gan Coffee Punks genhadaeth, sefrhoi cyfle i bobl ar y stryd flasu coffi o’r ansawdd gorau! Dechreuodd Glen Adams ei gwmni Coffee Punks ar ôl dysgu cyfrinachau’r espresso perffaith yn dilyn taith ei freuddwydion i gartref coffi, Seattle! Daeth yn ei ôl i’r Cymoedd yn llawn angerdd ac awydd i gynnig y baned berffaith o goffi. Aeth ati i weddnewid fan VW gyffredin a’i throi’n gerbyd teithiol, ffantasiol y barista! Mae Glen yn deall coffi i’r dim gan mai cyflenwi, trwsio a gwasanaethu cyfarpar coffi yw hanner arall ei fusnes ac mae hyn wedi ei sbarduno i sicrhau bod pob paned yn baned wych. Mae paned enwocaf Coffee Punks, y Flat White ynboblogaidd tu hwnt gyda’r cwsmeriaid, am eu bod yn cymryd ychydig mwy o amser i’w wneud nag yn siopau stryd fawr siwr o fod. Defnyddir ffa sydd wedi’u cludo a’u storio’n ofalus a chânt eu malu’n ffres cyn pob paned sy’n cael ei gweini i’r safon uchaf gyda gofal mawr. Os gwelwch fan y Coffee Punks – cofiwch roi cynnig ar y Flat White!

14

Cefnogwch Fusnesau Lleol!

food directory welsh .indd 14

Gwnewch y gorau o’ch cymuned

23/04/2015 08:07:14


Diweddglo Hapus! Ar lethrtua gwaelod Cwm Rhymni isaf, mae yna hufen iâ sydd wedi’i berffeithio dros bedair cenhedlaeth. Machen yw cartref hufen iâ yn yr ardal hon ers tro byd ac mae Hufen Iâ Hapus, sy’n cael ei wneud gan Siân a Richard Powell ac sydd wedi ennill gwobrau lu, yn ddiweddglo hapus i stori a ddechreuodd dros drigain mlynedd yn ôl. Dechreuodd stori Hapus gyda gwr o’r enw Primo Bernie a adawodd ogledd yr Eidal ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda gwybodaeth a chyfrinachau’r grefft o greu hufen iâ blasus traddodiadol Eidalaidd. Trosglwyddwyd y cyfrinachau hyn i Sandra a Bruno Minoli yn y 1960au ac yna ym 1988 i rieni Siân, Sue a Lewis Richards. Mae’r hufen iâ mae Siân a Richard yn ei gynhyrchu yn y ffatri a’r parlwr ar fferm y teulu yn dal i ddilyn y ddelfryd wreiddiol sy’n golygu mai hwn yw’r unig hufen iâ i ennill her cwpan arian ‘Pencampwr y Pencampwyr’ yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Hufen Iâ y Gynghrair Hufen Iâ bedair gwaith – sy’n golygu mai hwn yw hufen iâ gorau Prydain! Mae’r awydd i greu’r hufen iâ gorau posibl yn agos iawn at galon Siân a Richard a dim ond hufen dwbl a llaeth organig o laethdy teuluol lleol mae’n nhw’n ei ddefnyddio. Mae hyn, law yn llaw â’r cynhwysion gorau posibl a’r awydd cryf i gefnogi cynhyrchwyr lleol eraill wedi creu busnes gyda chalon fawr a chroeso cynnes yn ogystal â blas da! Gallwch gyfrif milltiroedd bwyd eich hufen iâ mewn llathenni, nid milltiroedd. Ein hargymhelliad ni yw’r Rym a Resin – y gorau yng ngwledydd Prydain ac nid ni sy’n dweud hynny ond gwobrau 2014 y Gynghrair Hufen Iâ! Wrth gwrs, gallech roi ynnig ar bob un...

food directory welsh .indd 15

Cefnogwch Fusnesau Lleol! Gwnewch y gorau o’ch cymuned 15

23/04/2015 08:07:19


Tyddyn Wern Ganol Does dim dwywaith bod David a Fiona Spoor a’r teulu yn mwynhau her – rhwng addasu dau hen fwthyn yn gartref i’r teulu, magu defaid Hardwick, creu gardd gegin Fictoraidd neu ofalu am eu casgliad cynyddol o ieir brid prin, weithio’n llawn amser a magu teulu hefyd! Menter ddiweddaraf y teulu yw troi cyfrinach sydd wedi bod yn y teulu ers pedair cenhedlaeth, y gwyr dim ond tri o bobl amdani, yn fusnes llewyrchus gyda’r holl gynhwysion cywir (a llawer ohonynt yn gynnyrch y tyddyn ei hun). Ar ôl mentro i gystadlu yng nghystadleuaeth y Great Roath Bake-off gyda rysáit ei hen famgu o’r 1930au a chael cryn ganmoliaeth gan y beirniaid (ym marn rhai ohonyn nhw hon oedd y deisen ffrwythau orau iddyn nhw ei blasu erioed) a dyma David yn mynd ati i lansio teisennau cartref Tyddyn Wern Ganol. Ychydig o deisennau gaiff eu coginio ar y tro yng nghegin y ffermdy, gan ddefnyddio cynnyrch ac wyau ffres o’r ardd, dilyn ryseitiau traddodiadol, a’u coginio mewn ffwrn â thân coed. Mae’r arlwy wedi tyfu ymhell y tu hwnt i’r deisen ffrwythau wreiddiol erbyn hyn, a bellach mae’n cynnwys teisen foron Seland Newydd yn ogystal â phice ar y maen, sgonau, bisgedi’r ymerodraeth a detholiad newydd o macaroons a theisennau bach ar gyfer te prynhawn!

Cefnogwch Fusnesau Lleol! 16

Ar gael o: Siop Fferm Gwasanaethau Caerloyw ar yr M5, Parlwr Hufen Iâ Hapus, Marchnadoedd Gwledig Rhydri, Machen a Bedwas a chaffi unnos Wern Ganol yn y Ffeiriau Cynnyrch Arbennig yng Nghaerffili neu ar-lein yn www.wernganolsmallholding.moonfruit.com

Gwnewch y gorau o’ch cymuned

food directory welsh .indd 16

23/04/2015 08:07:25


Byrgyrs Cig Oen y Gwanwyn Digon i 4 Amser paratoi – 25 munud Amser coginio – 15 munud l 250g o friwgig cig oen (rydym yn defnyddio cig oen lleol gan y cigydd Morgan Thomas) l 100g o friwsion bara gwyn l 4 shibwnsyn wedi’u torri’n fân l 1 wy l 4 rhôl fara l Dail salad l Jeli mintys (rydym yn defnyddio jeli mintys The Preservation Society o Farchnad Rhydri)

Dull 1. 2. 3. 4. 5. 6.

Rhowch y cig oen, y briwsion bara a’r shibwns wedi’u torri gyda’i gilydd mewn powlen fawr, torrwch yr wy a’i ychwanegu at y gymysgedd a chymysgu’n dda. Rhannwch y gymysgedd yn bedair rhan gyfartal a’u rholio’n beli. Gwasgwch bob pêl i siâp byrgyr a’u rhoi yn yr oergell i oeri am 15 munud. Yn y cyfamser, torrwch y rholiau bara yn eu hanner a rhowch y dail salad ar yr hanner isaf gan daenu llwyaid dda o’r jeli mintys ar yr hanner arall. Twymwch badell ffrio wrthlud a ffriwch y byrgyrs am 6 munud bob ochr neu hyd nes eu bod wedi coginio’n dda. Yna rhowch y byrgyr ar y dail salad a rhowch hanner arall y rhôl fara ar ei ben.

Gweinwch gyda salad ffres a sglodion tatws melys mawr wedi’u coginio yn y ffwrn. Gallech ychwanegu caws Caerffili at y byrgyr hyd yn oed am fwy o flas lleol. 17

food directory welsh .indd 17

23/04/2015 08:07:26


Y CYFEIRLYFR BWYD

Apresto Llanbradach Ffôn: 07814 431 287 E-bost: carlo@aprestofood.co.uk Gwefan: www.aprestofood.co.uk PRYDAU PAROD, ARLWYO A BWFFES Yn APresto mae bwyd da yn agos at ein calon ac rydym am rannu’r profiad o fwyta bwyd gwych, wedi’i goginio’n ffres a’i ddanfon i garreg eich drws. Rydym yn cynnig detholiad o brydau blasus a gwasanaeth arlwyo a gallwch ddewis bwffe oer neu boeth bendigedig sy’n gweddu’n berffaith i’ch achlysur arbennig chi.

Big Ginger Pigs Bedwas Ffôn: 07973 632743 Gwefan: www.biggingerpigs.com Twitter: @BigGingerPigs PORC, SELSIG, BYRGYRS Porc brid prin o’r ansawdd gorau o’n cenfaint o foch Tamworth pedigri sydd wedi ennill gwobrau lu.

Blackberry Catering Y Coed Duon Ffôn: 01495 230978 E-bost: Edwarj7@caerphilly.gov.uk ARLWYO A HAMPERI, CYNNYRCH WEDI’I BOBI, MELYSION A PHWDINAU Gallwch archebu bwffe, teisennau a phob math o ddanteithion sawrus.

Blackberry Catering

Blaengawney Cider Hafodyrynys Ffôn: 01495 244691 Gwefan: www.blaengawneycider.co.uk Twitter: @halletscider www.facebook.com/halletsrealcider SEIDR Seidr cartref wedi’i gynhyrchu yn Fferm Blaengawney, Hafodyrynys. Sudd pur 100%, dim ychwanegiadau. Mae’n fendigedig o syml.

BLAENGAWNEY

CIDER

18

food directory welsh .indd 18

23/04/2015 08:07:32


Y CYFEIRLYFR BWYD

Castle Chocolates Caerffili Ffôn: 02920 882 229 07838 183 958 E-bost: sales@castlechocolates.co.uk Gwefan: www.castlechocolates.co.uk SIOCLEDI Crefftwr siocled lleol sydd wedi bod yng Nghaerffili ers 10 mlynedd. Cynnyrch siocled wedi’i wneud â llaw.

The Celt Experience Caerffili Ffôn: 02920 867707 Gwefan: www.celtexperience.com www.facebook.com/celtbeers Twitter: www.twitter.com/CeltBeers celt@theceltexperience.co.uk DIODYDD Cwrw crefft anhygoel o Gaerffili. Casgliad perffaith o gwrw imperial, cyfresi unigryw ac wrth gwrs sawl cwrw craidd.

Cig Mynydd Cymru Treharris Ffôn: 01443 413195 Gwefan: www.cigmynyddcymru.co.uk CIG EIDION DU CYMREIG CIG OEN A DAFAD MYNYDDOEDD Y DE PORC, BYRGYRS, FFAGOTS Siop cigydd draddodiadol wedi’i sefydlu 7 mlynedd yn ôl gan bartneriaeth o bum ffermwr lleol. Daw’r holl gig eidion a chig oen o ffermydd y partneriaid.

Coffee Continental Ltd Ffôn: 01495 228801 Gwefan: www.coffeecontinental.com www.facebook.com/ continentalblackwood Twitter: @coffeecontinent CYNNYRCH WEDI’I BOBI, PWDINAU A MELYSION Yn Coffee Continental rydym yn rhoi’n cwsmeriaid gyntaf. Beth bynnag fo’ch angen byddwn yn gwneud cacennau â llaw yn arbennig i chi wedi’u hysbrydoli gan dai coffi’r Almaen/Awstria. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu ar ansawdd ein coffi, a’n nod yw sicrhau eich bod chi ar ben eich digon.

19

food directory welsh .indd 19

23/04/2015 08:07:40


Y CYFEIRLYFR BWYD

Coffee Gear

Hapus Ice Cream

Luv Bee

Penrhiw Farm Organic Meat

Plant 2 Plate

Ystrad Mynach Ffôn: 07738091132 Gwefan: www.coffeegear.co.uk www.coffeepunks E-bost: info@coffeegear.co.uk Twitter: @coffeepunks

Machen Ffôn: 07813 212531 E-bost: info@hapusicecream.co.uk Gwefan: www.hapusicecream.co.uk Twitter: @HapusIceCream www.facebook.com/ HapusIceCream

E-bost: enquiries@luvbee.co.uk Gwefan: www.luvbee.co.uk Twitter: @LuvbeeLtd

Treharris Ffôn: 01443 412949/07796622441 E-bost: penrhiw.farm@virgin.net Gwefan: www.penrhiwfarmorganic.co.uk www.facebook.com/ penrhiwfarmorganicmeat

Ffôn: 01633 441272 Gwefan: whttp://plant2plate.co.uk/17 Facebook: www.facebook.com/pages/ Plant2plate/315407968531217 E-bost: info@plant2plate.co.uk

CIG ORGANIG: Cig Eidion Aberdeen Angus (cig eidion gwartheg duon Cymreig) cig oen a dafad o fynyddoedd y De, porc Cymreig a Gloucester Old Spot, cyw iâr, byrgyrs a selsig, pastai cig, ffagots. Daw’r holl gig o’n ffermydd ni.

ARLWYO A HAMPERI Rydym yn cynhyrchu prydau parod cartref ar gyfer marchnadoedd ffermwyr, ac ar gyfer y cartref, tafarndai, caffis a bwytai.Gallwn ddarparu bwffe neu brydau llawn hefyd. Rydym yn defnyddio cig lleol ac mae nifer o’r perlysiau a’r llysiau yn tyfu yn ein gerddi heb unrhyw blaladdwyr.

DIODYDD, ARLWYO A HAMPERI Coffi arbenigol wedi’i baratoi’n ffres i’r safon uchaf wedi’i weini mewn unrhyw ddigwyddiad neu ar garreg eich drws.

HUFEN IÂ Rydym wedi troi’n hen stablau ar y fferm yn ffatri a pharlwr hufen iâ hyfryd. Rydym ar agor gydol y flwyddyn rhwng Caerffili a Chasnewydd lle byddwn yn gwneud ac yn gweini ein hufen iâ cartref ynghyd â choffi, te a byrbrydau blasus.

CYFFEITHIAU Mae ein mêl a’n cwyr wedi’u cynhyrchu ar raddfa fach a daw o gychod gwenyn ar hyd a lled y Cymoedd.

20

food directory welsh .indd 20

23/04/2015 08:07:47


Y CYFEIRLYFR BWYD

Shaheens Vegetarian Kitchen E-bost: shaheensvegetariankitchen @hotmail.co.uk Gwefan: shaheensvegetariankitchen. blogspot.com Twitter: @shaheens kitchen Facebook: shaheens vegetarian kitchen BWYD FEGAN Rydym yn cynhyrchu teisennau fegan, betys a siocled, rhosyn a phannas, teisennau oreo, stiw, sawl cawl poeth a detholiad o fwydydd ar gyfer bwffe llysieuol a fegan.

The White Cross Groeswen Ffôn: 02920 851 332 E-bost: contact@thewhitecrossinn.co.uk Gwefan: www.thewhitecrossinn.co.uk Facebook: TheWhiteCrossInnGroeswen Twitter: @The_White_@CF15 TAFARN WLEDIG Tafarn wledig fach sy’n cynnig dewis rhagorol o seidr a chwrw go iawn. Mae’n darparu prydau syml ac mae croeso i blant a chwn. Mae piano a gitâr yma i’r cerddorol yn eich plith. Nid ydym yn cynnig bwyd ar hyn o brydond mae croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun neu archebu tecawê ii’w fwyta yn y dafarn!

Canolfan Ymwelwyr Caerffili The Twyn, Caerphilly Ffôn: 02920 880011 Twitter: @Visitcaerphilly CANOLFAN YMWELWYR Mae llyfrynnau di-rif i’w cael am ddim yn y ganolfan, neu mae croeso i chi bori yn y siop anrhegion sy’n cynnig dewis b ei ail o gynnyrch lleol. Gallwch hefyd brynu caws byd enwog Caerffili yma neu gael paned a sgwrs yn Lolfa Goffi’r Castell sy’n rhan o’r ganolfan hefyd. Dyma’r lle perffaith i ymlacio a mwynhau golygfa anhygoel o Gastell Caerffili.

Wern Ganol Smallholding Nelson Ffôn: 01443 451955 E-bost: David.spoor@tesco.net Gwefan: www.wernganolsmallholding. moonfruit.com Twitter: @wernganolhouse POPTY, MELYSION A PHWDINAU Rydym yn dyddyn teuluol sy’n cynhyrchu teisennau wedi’u pobi yn ein cegin gartref gan ddefnyddio ryseitiau traddodiadol y teulu. Mae’n teisen ffrwythau yn dilyn rysáit deuluol gyfrinachol sydd yn y teulu ers pedair cenhedlaeth y gwyr dim ond tri ohonom amdani. Rydym yn cynnig detholiad o ffefrynnau traddodiadol gan gynnwys sgonau, bisgedi, a dewis o deisennau a melysion.

21

food directory welsh .indd 21

23/04/2015 08:07:55


Amdanom Ni Mae Llyfryn Bwyd a Diod Caerffili yn brosiect sydd wedi’i ddatblygu gan gynhyrchwyr lleol drwy’r Rhwydwaith Bwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig a chan dîm Cynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili. Mae wedi derbyn cymorth drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Roedd y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi ac mae wedi’i darparu gan y cynhyrchwyr, y manwerthwyr a’r marchnadoedd eu hunain. Nid yw tîm Cynllun Datblygu Gwledig Caerffili na’r Rhwydwaith Bwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig yn ardystio nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnyrch na’r gwasanaethau a hysbysebir. Os ydych yn cynhyrchu neu’n gwerthu cynnyrch lleol ac am gymryd rhan yn y Rhwydwaith Bwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig neu unrhyw lyfryn yn y dyfodol am Fwyd a Diod Caerffili, cysylltwch â ni!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tîm y Cynllun Datblygu Gwledig ar 01443 838632 hoffwch ni ar facebook – facebook.com/ruralcaerphilly dilynwch ni ar twitter – twitter.com/ruralcaerphilly

22

food directory welsh .indd 22

23/04/2015 08:07:58


food directory welsh .indd 24

23/04/2015 08:07:58


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.