Cam cylchlythr mehefin16

Page 1

CWM A MYNYDD

Rhaglen Datblygu Gwledig Rhifyn 1 • Mehefin 2016

Wythnos y Celfyddydau 2016 CYFARFOD Â’R BRAGWR

GWOBRAU HALLETS Y Rhwydwaith Bwyd a Lletygarwch TIR COMIN - SYNIAD TACLUS

PROSIECT BEES Treftadaeth ac Amaethyddiaeth

CHWIFIO’R FANER DROS DDIWRNOD EWROP


ERTHYGLAU NODWEDD 04 O Gaerau’r Oes Haearn i Ŵyl Fwyd tref Castell Normanaidd - chwifio’r faner dros Ddiwrnod Ewrop 06 Bod yn gelfyddydol yn Ystrad yr haf hwn! 08 Antur leol iawn! 10 Prosiect BEES - gwenynen dracio 12 Bariau, Casgenni, Swigod a Bragwyr - stori â dwy hanner! 14 Tir Comin - syniad taclus 16 Rhwydwaith Amaethyddol Cwm a Mynydd

CROESO! E

Ers cyfarfod diwethaf y Grŵp

cyllid a dyddiadau cau - rydym ni yma i’ch

Gweithredu Lleol, mae nifer

helpu a’ch cynorthwyo gyda’ch ceisiadau:

o ddat blygiadau wedi digwydd.

Yn gyntaf, llongyfarchiadau mawr i’r holl grwpiau cymunedol a lwyddodd i gyrraedd cam nesaf proses ymgeisio’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig; mae cyfanswm o 7 prosiect ar draws ardal Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd wedi cyrraedd y cam nesaf. Gobeithio y bydd cyllid y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig yn rhoi hwb gwirioneddol i’r prosiectau gwych hyn. Bydd ‘ffenestr’ arall o gyllid ar agor tan 30 Mehefin, felly gwnewch

18 O’r Crymlyn â chariad! - Seidr arobryn

yn siŵr eich bod chi’n lledaenu’r gair i gymaint

20 Cig eidion, bariau, gwelyau a phoptái - ymagwedd newydd at hen ffefryn

Yn ogystal â’r Gronfa Datblygu Cymunedau

22 Menywod sy’n Gweithio

cyflwyno i Gynllun Rheoli Cynaliadwy

o grwpiau a sefydliadau â phosibl.

24 Treftadaeth - ein gorffennol yw ein pleser 26 Cronfa Weithredu’r Grŵp Gweithredu Lleol - Dechrau Arni

chyfrannu at les cymunedau gwledig. Y

Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Ty Fry Farm, Heol y Bedw Hirion, Bedwellte, NP12 0BE. Ffôn: 01443 838 632 countryside@caerphilly.gov.uk www.caerphilly.gov.uk/countryside

side/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme2014-2020/?lang=en Since the last meeting, we said farewell to Gavin Jones who has been a key member of the RDP Team for a number of years and has made a significant impact on the programme – we wish Gavin all the best with his new ‘perch’ at the RSPB. With one officer leaving, another officer joins us and we welcome Julian Bosley to

Gwledig, mae 4 prosiect wedi cael eu Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei

http://gov.wales/topics/environmentcountry-

the RDP Team as the Sustainable Energy Officer. Julian brings with him a wealth of experience in the field of sustainable energy and will be tasked with developing and delivering a number of exciting projects

ddylunio i reoli adnoddau naturiol a

– please get in touch to find out more.

4 prosiect a gyflwynwyd yw Tir Comin

We hope you enjoy this newsletter which

Gelligaer a Merthyr, Prosiect Peillwyr Gwydn,

will highlight some of the RDP activities

Partneriaeth Tirweddau Deheuol a Gwlyptir

over the last 3 months and some

21ain Ganrif Markham. Gobeithio y byddwn

forthcoming opportunities, in particular

yn darganfod yn gynnar ym mis Gorffennaf a

the launch of the LAG’s Implementation

yw’r ceisiadau’n llwyddiannus.

fund...happy reading!

Mae nifer o gronfeydd eraill ar gael trwy’r

Tîm Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw llygad ar y ffenestri

2 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 3


O FYNYDDOEDD I FFOSYDD! CHWIFIO’R FANER AR DDIWRNOD EWROP

B

ob blwyddyn, rydym yn ymuno â miloedd o brosiectau eraill ledled Ewrop a chwifio’r faner ar Ddiwrnod

Ewrop, ac nid oedd eleni’n wahanol. Yn 2016, unwaith eto, aeth cerddwyr a bwydgarwyr i hwyl y diwrnod, yn cefnogi Cwm a Mynydd o uchderau gwyntog Llwybr y Gefail Cyfres Heriau Caerffili i flasau’r Ŵyl Fwyd. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gwaith Cwm a Mynydd yn mynd â ni ledled Caerffili a Blaenau Gwent, a chyn hir, bydd yn datblygu ymhellach wrth lansio cronfa prosiect LEADER. Tybed ble fyddwn ni’n chwifio’r faner y flwyddyn nesaf?

4 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 5


BOD YN GELFYDDYDOL

YN YSTRAD YR HAF HWN! ae rhwydwaith celf a chrefft newydd ei ffurfio yn trefnu Llwybr Celfyddydau ar gyfer 9 – 15 Gorffennaf. Mae ‘Cwm a Mynydd Creatives’, ynghyd â Cwm a Mynydd – prosiect sydd wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru – a Thîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn annog artistiaid lleol neu grefftwyr i gymryd rhan!

M

Bydd yr wythnos yn cynnwys ‘Llwybr Celfyddyau’ hunanarweiniol am y tro cyntaf o gwmpas lleoliadau amrywiol yn Ystrad Mynach, gan gyrraedd mor bell â Pharc Penallta. Gobeithir, os bydd yn llwyddiannus, 6 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

ddyblygu’r model ‘Llwybr Celfyddydau’ hwn mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn. Hefyd, bydd cyfres o stiwdios agored, gweithdai, arddangosiadau ac orielau dros dro ledled Caerffili a wardiau gwledig Blaenau Gwent, sef Llanhiledd a Cwm, a bydd rhai crefftwyr yn bwriadu agor eu stiwdios i’r cyhoedd gael gweld sut maen nhw’n creu eu cynhyrchion unigryw. Bydd ffi fynediad fach a fydd yn mynd tuag at gost cyhoeddusrwydd a marchnata’r digwyddiad gwych hwn. Hoffai Cwm a Mynydd Creatives glywed oddi wrth unrhyw leoliadau â diddordeb mewn cymryd rhan, felly cysylltwch os ydych yn awyddus i arddangos celfyddydau a chrefftau lleol!

Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect hwn sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, hoffem glywed gennych.

STIWDIOS AGORED GWEITHDAI ARDDANGOSIADAU ORIELAU DROS DRO Ffoniwch ni ar 01443 838632, anfonwch neges atom ar facebook neu twitter @ Cwm a mynydd Neu anfonwch neges e-bost at rogerl@caerphilly.gov.uk

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 7


O GYCHOD GWENYN A HANES, LLWYBRAU A THEITHIAU I FEICIAU A CHAFFIS

Mae cymaint o ddewis.”

ANTUR LEOL IAWN! Fel y byddwch yn darllen amdano yn rhannau eraill o’r cylchlythyr, mae Tîm CaM yn croesawu’r flwyddyn o antur ac mae ein gwaith yn aml yn antur fach ei hun.

M

ae pawb yn gwybod bod y cymoedd yn eithaf trawiadol o ran tirwedd, treftadaeth, diwylliant, a phobl, ond pan ofynnodd tîm Marchnata a

Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i Raglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd arwain prosiect cydweithredu Twristiaeth Bwyd yn lleol, roedd yn gyfle i ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn ffordd unigryw i Cwm a Mynydd.

i ddatblygu amrywiaeth o

ôl awr o de, trafod a meddwl,

manwerthwyr, tirwedd ac

fideos a oedd yn hyrwyddo

fe ddewisom stori am

atyniadau twristiaid rhyfeddol

beth oedd gan bob ardal

wenynwr a’i fêl.

mewn ychydig funudau.

O gychod gwenyn a hanes,

Bydd y fideo ar

llwybrau a theithiau, i feiciau

www.vistcaerphilly.com a

a chaffis, fe wnaethom ddilyn

www.visitwales.com a’n

gwenynwr trwy’r sir ar yr holl

sianeli cyfryngau

anturiaethau sy’n ymwneud

cymdeithasol, pan fydd

â’i gychod gwenyn a mêl.

yn cael ei lansio.

i’w gynnig o ran bwyd a lletygarwch. Byth yn rhai i wrthod her, fe wnaeth Tîm CaM feddwl am ffordd a oedd yn cysylltu bwyd, pobl, tirwedd a lleoedd gyda’i gilydd mewn un hysbyseb fideo gofiadwy (er yn fyr).

Fe wnaethom gydweithio â 9 awdurdod lleol arall ledled de

Ein problem oedd beth i’w

Cymru a gyda’r arbenigwr bwyd lleol, Ymgynghoriaeth Bwyd

adael allan – mae cymaint o

Howel,

ddewis wedi’r cyfan ond, ar

8 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Mae’r canlyniad terfynol yn drawiadol, yn ein barn ni, ac mae’n arddangos ein cynnyrch, cynhyrchwyr,

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 9


PROSIECT BEES YN BRYSUR LEDLED DE-DDWYRAIN CYMRU

E

Prosiect BEES – Bridio Addysg, yr Amgylchedd a Sgiliau.

r ein bod ni o’r farn bod popeth yr

effeithlon, gwydn a chynhyrchiol. Hefyd,

ydym ni’n ei wneud fel rhan o Raglen

bydd y prosiect yn manteisio ar

Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd yn

arbenigedd gwenynwyr i hyrwyddo rôl

GWENYN TRACIO

E

fallai eich bod chi wedi clywed am

Rhan ryfeddol o’r prosiect yw y bydd pobl

forgrug tracio, ond beth am wenyn

glyfar Rock Level yn defnyddio technoleg

tracio – rhai go iawn, nid y tracker

oddi ar y silff, yn ei addasu ar gyfer gwenyn,

jackers o The Hunger Games… roedden

yn ysgrifennu cod newydd, ac yn gweithio

nhw’n frawychus!

gyda gwenyn Lorne i fapio ble maen nhw’n

rhyfeddol ac rydym bob amser yn fwrlwm o

peillwyr a’u pwysigrwydd i gadwyni bwyd

weithgarwch, yn ystod y misoedd diwethaf,

lleol a chefn gwlad, gan weithio gyda dros

rydym wedi bod yn fwy gweithgar, yn brysur

24 o ysgolion dros 3 blynedd ledled y

bod ni’n hoffi cymryd camau i’r dieithr yma yn

rhanbarth.

Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd,

ledled de-ddwyrain Cymru ar rai prosiectau gwahanol sy’n ymwneud â gwenyn.

ac er nad ydym wedi creu rhywogaeth hollol Bydd yr holl brysurdeb yn cael ei ategu gan

Mae Prosiect BEES - Bridio, Addysg, yr

weithdai, diwrnodau hyfforddi a siaradwyr

Amgylchedd a Sgiliau - yn cynnwys

arbenigol o’r byd gwenyn, adnodd ar-lein

gwenynwyr o Gaerffili, Blaenau Gwent,

sy’n darparu fforwm agored i wenynwyr

Mynwy, Casnewydd, Merthyr Tudful a

rannu syniadau, straeon, gofyn am help,

Rhondda Cynon Taf. Bydd y prosiect,

cymorth neu sôn am eu llwyddiant –

menter ar y cyd rhwng Cwm a Mynydd,

cronfa o wybodaeth mewn un man, os

Bro Wysg a Gweithredu Gwledig Cwm Taf,

gofynnwch i ni yn Nhîm CaM.

yn archwilio ffyrdd i fodloni’r angen am frenhines gwenyn mêl a nythfeydd niwclews trwy gydweithrediad lleol, a lleihau’r angen i fewnforio o weddill Ewrop. Trwy’r prosiect, bydd yr aelodau’n rhannu sgiliau ac arfer

Rwy’n siwr eich bod chi gyd yn gwybod ein

newydd o wenynen (mae digon o amser o hyd), rydym wedi bod yn gweithio gyda gwenynwr lleol, Lorne East, a’i filoedd o

mynd a beth fyddan nhw’n ei wneud. Byddan nhw wedyn yn arddangos a rhannu’r canlyniadau fel rhan o wefan addysgol, a gobeithiwn y bydd yn cynnwys ‘hediad gwenynen’ trwy lygad gwenynen o’r cwch gwenyn i’r maes, ac yn ôl eto.

helpwyr yng ngwmni Sirhowy Valley Honey

Mae hon yn ymagwedd wirioneddol newydd

Bee, tîm Mentrau Cymdeithasol Cyngor

at dracio gwenyn, a bydd y prosiect hyd yn

Caerffili, a’r arbenigwyr arddangosiadau

oed yn cynnwys rhaglen ddogfen a fydd yn

digidol, Rock Level, i archwilio ffyrdd

siartio’r broses ddatblygu, y profi a’r

fforddiadwy i dracio gwenyn mêl, o ble maen

canlyniadau y gallwn eu rhannu ag

Rydym yn ystod y cam cynllunio hwyr, felly

nhw’n cael cinio i pryd maen nhw’n cyrraedd

ardaloedd eraill sydd eisiau ail-greu’r

ewch i dudalennau cymdeithasol Cwm a

adref, a chreu safle deniadol y gellir ei

prosiect ar gyfer eu hymchwil nhw - achos

Mynydd i gael mwy o wybodaeth a

ddefnyddio i gysylltu ag ysgolion lleol am

gwirioneddol o ddilyn yr ARWEINYDD,

diweddariadau.

bwysigrwydd rhywogaethau peillio i’n

petai un i’w gael. Cwm a Mynydd yw’r

hamgylchedd.

arloeswyr fan hyn.

gorau gyda’i gilydd i wneud y broses yn fwy 10 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 11


BARIAU, CASGENNI, SWIGOD A BRAGWYR – STORI Â DWY HANNER! Mae’r flwyddyn newydd bob amser yn llawn addewid newydd ac nid oedd 2016 yn wahanol i Raglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd. Gan adeiladu ar lawer o ymweliadau â thafarndai y llynedd ac ymateb i geisiadau bragwr lleol (gall bywyd yn y Rhaglen Datblygu Gwledig fod yn

M

anodd), dechreuodd Tîm CaM fragu syniad blasus a arweiniodd at fragwyr a cheidwaid bariau yn rhannu diod ac yn trafod diodydd lleol ar gyfer bariau lleol.

un dosbarthwr ar 21 Mawrth. Cafodd pob bragwr gyfle i agor potel, rhannu diod ac adrodd stori eu cynnyrch i dafarnwyr a chyd fragwyr i samplu a gofyn cwestiynau.

Ein fersiwn ni o ddêt cudd yn y cymoedd. Aeth pum bragwr seidr, medd a chwrw i’r Lord Nelson Inn yn Nelson i gyfarfod â saith tafarnwr ac

Trwy’r prosiect hwn, nod Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd yw creu lle ble gall prynwyr a gwneuthurwyr diodydd lleol

12 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

gyfarfod, siarad, rhannu a thrafod syniadau sy’n byrhau cadwyni cyflenwi, cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am gynhyrchion lleol a helpu i hyrwyddo hunaniaeth ‘leol’ unigryw i bobl leol a thwristiaid. Fel holl gymorth Tîm CaM, nid yw’n dod i ben yn y fan honno. Ers hyn, rydym wedi cyflawni amrywiaeth

oymweliadau dilynol, amlygu rhwystrau i gyflenwi, cynnig atebion a chyfarfod â Caerphilly Pub Watch, i ddatblygu’r prosiect i dafarndai newydd. Cadwch lygad allan am fwy o newyddion, neu’n well byth, ewch i’ch tafarn leol a gofynnwch am gwrw lleol.

“Aeth pum bragwr seidr, medd a chwrw i’r Lord Nelson Inn”

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 13


TIR COMIN DIWRNOD TACLUSO COMIN GELLIGAER A MERTHYR

– SYNIAD TACLUS

M

ewn cyfarfod diweddar y

Gleidio wedi bod yn mynd i’r afael â’r broblem

Rhwydwaith Amaethyddol,

hon ers amser maith, nid yn ein hardal ni

awgrymwyd syniad i geisio mynd

yn unig, ond ledled y wlad, ac maent wedi

i’r afael â phroblem sy’n parhau i gynyddu

sefydlu grŵp o’r enw Litter Free Flyers i helpu

o dipio anghyfreithlon. Mae ymddygiad

i dacluso tir comin.

gwrthgymdeithasol wedi cynyddu gan bwyll ar y tir agored sy’n cael ei bori gan ffermwyr sydd â hawliau cominwr. Mae’r ymddygiad hwn yn cynnwys pori anghyfreithlon, beicio a chwadiau oddi ar y ffordd ac, yn arbennig, tipio anghyfreithlon.

Yn ystod y dydd, llenwodd y gwirfoddolwyr dros 200 o fagiau o sbwriel a chasglu sawl tunnell o ddeunyddiau wedi’u tipio’n anghyfreithlon. I ddiolch i bawb a gymerodd ran ar y diwrnod, darparwyd lluniaeth ar ffurf byrgyrs lleol ym Mharc Cwm Darran gyferbyn

Y syniad oedd trefnu diwrnod prosiect peilot i ddod â sefydliadau allanol a Rhwydwaith Amaethyddol Cwm a Mynydd at ei gilydd, i weithio gyda’i gilydd a chreu ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb tipio anghyfreithlon ac amlygu’r peryglon i anifeiliaid byw sy’n pori ar y tir comin ac i’r cyhoedd.

â’r tir comin. Ar ôl y prosiect peilot hwn, bydd cyfres o ddiwrnodau tacluso yn cael eu trefnu i fynd i’r afael â’r broblem ar diroedd comin ledled ardal y Grŵp Gweithredu Lleol ac amlygu ymagweddau cydweithredol a chynaliadwy i fynd i’r afael â’r broblem.

Ar ddydd Gwener, 20 Mai, gweithiodd tîm Cwm a Mynydd ochr yn ochr ag adran Gwasanaethau Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Gwasanaeth Prawf, Clwb Ffermwyr Ifanc Gelligaer a’r Cylch, Cadwch Gymru’n Daclus, Taclo Tipio Cymru, Miller Argent, Biffa Waste, Cymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr, a grwpiau hamdden, fel y Grŵp Gleidio, sy’n defnyddio’n tir comin yn rheolaidd i lansio. Mae’r Grŵp 14 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 15


RHWYDWAITH AMAETHYDDOL CWM A MYNYDD

M

“Darganfod amaethyddiaeth oedd y cam mawr cyntaf tuag at fywyd wâr.”

ae Rhwydwaith Amaethyddol Cwm a Mynydd wedi bod yn gweithredu ers 2011. Sefydlwyd y rhwydwaith

i ddod â ffermwyr a gweithwyr fferm o’r un meddylfryd at ei gilydd i rannu arfer gorau a gweithio gyda Cwm a Mynydd i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau i helpu’r

Arthur Keith

diwydiant yn lleol ac yn genedlaethol. Mae cyfarfodydd y rhwydwaith yn cyd-fynd â’r calendr amaethyddol, gan osgoi adegau fel wyna, ffair y gwanwyn, lladd gwair, wythnos y Sioe Amaethyddol a’r ffair aeaf. Ar ôl creu Grŵp Gweithredu Lleol newydd yn 2015, mae’r rhwydwaith bellach yn cynnwys busnesau amaethyddol ym Mlaenau Gwent. Gan fod ymateb y cymunedau ffermio yng Nghaerffili wedi bod yn gadarnhaol iawn, bydd y rhwydwaith newydd, sy’n cyfuno’r ddwy sir, yn cael ei lansio yn ystod cystadleuaeth cneifio flynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Gelligaer a’r Cylch, ddydd Sul, 19 Mehefin 2016. 16 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhoddir diweddariadau rheolaidd ar faterion

sioeau Machen a Bedwellte, a

amaethyddol gan Farming Connect,

chystadleuaeth cneifio.

gwybodaeth gan yr undeb a chynllu OWL Heddlu Gwent yn y cyfarfodydd.

Mewn cyfarfod diweddar, awgrymwyd prosiect i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon,

Mae’r rhwydwaith yn cynorthwyo llawer

a gyda help Clwb Ffermwyr Ifanc Gelligaer a

o’r gweithgareddau amaethyddol a

sefydliadau eraill, trefnwyd diwrnod tacluso

chymdeithasol sy’n digwydd yn ardal y

ar gyfer 20 Mai 2016. Prosiect arall sydd ar

Grŵp Gweithredu Lleol, gan gynnwys

waith ar hyn o bryd yw creu llyfryn ariannu,

gwerthiannau hyrddod, a defaid ac ŵyn

siop un stop ar gyfer gwybodaeth ar grantiau

Mynydd Cymreig blynyddol yn Nelson,

a chyllid sydd ar gael i’r gymuned ffermio.

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 17


Hallets Cider www.halletsrealcider.co.uk

O’R CRYMLYN Â CHARIAD! - SEIDR AROBRYN

R

ydym yn siwr eich bod chi’n gyfarwydd â Hallets Cider. Mae Andy ac Annie wedi bod yn gefnogwyr cryf o Raglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd ers

2009, ac mewn gwirionedd yn elwa ar Raglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili, a ariannwyd trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig gan Lywodraeth Cymru a’r UE. Ers hynny, mae’r pâr wedi bod yn brysur yn mireinio a pherffeithio eu seidr, ac wedi ennill sawl gwobr ar hyd y ffordd, gan gynnwys Gwobr Cyfraniad at yr Economi Wledig yng Ngwobrau Fforwm Fusnes Caerffili ond, yn ddiweddar, mae Hallets Cider wedi cyrraedd y lefel uchaf y gall gwneuthurwr seidr obeithio ei chyrraedd - ac nid yw hyn yn cyfeirio at y berllan uchaf (fwy na thebyg) yng Nghymru, sy’n eistedd uwchben Hafodyrynys. Enwebwyd Hallets Real Cider yn ddiweddar ar gyfer Gwobrau Bwyd a Ffermio BBC Radio 4. A dweud y gwir, nhw oedd yr unig gynhyrchwyr o Gymru ar y rhestr. Yn sgil y cyflawniad gwych hwn, aeth y cwpwl o’r fferm yng Nghrymlyn, lle maent yn crefftio seidr trwy dechnegau traddodiadol, i ddigwyddiad mawr ym Mryste, lle gwnaethant ennill y wobr genedlaethol ar gyfer Cynhyrchydd Diodydd Gorau. Gobeithiwn y byddwch yn codi gwydraid i gynnig llwncdestun i’w llwyddiant. Mae seidr ‘hyfryd o syml’ Hallets wedi cael ei wneud o sudd afalau seidr, ac mae peth ohono’n cael ei aeddfedu mewn casgenni chwisgi, sieri neu rym. Mae’r amrywiaeth o seidrau dracht neu wedi’u potelu ar gael mewn bariau ledled y DU, gan gynnwys The Bunch of Grapes, The Hop Bunker a The Pen and Wig, pob un ohonynt yng Nghymru, neu’n uniongyrchol o’r fferm www.halletsrealcider.co.uk. Maen nhw’n gweithio gyda ni ar ein prosiect Cyfarfod â’r Bragwr.

18 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 19


Dyna beth yr oeddem ni’n ei feddwl

lleol. Yr enillydd lwcus oedd Mary Garland.

hefyd. O dan y Rhaglen Datblygu Gwledig

Bydd y rhwydwaith yn parhau â’i waith yn

newydd sbon, bydd Cwm a Mynydd yn

archwilio cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr a

lansio rhwydweithiau newydd sbon â’r nod

darparwyr lletygarwch lleol i weithio gyda’i

o gysylltu sectorau sy’n gweithio’n agos â’i

gilydd trwy fentrau fel Cyfarfod â’r Bragwr

gilydd. I ni, mae hynny’n golygu y bydd yr

ac ymgysylltu â digwyddiadau rhanbarthol a

hen rwydweithiau bwyd a diod a’r hen

chynorthwyo trwy ein rôl ym Mhartneriaeth

rwydweithiau lletygarwch yn cael eu

Fwyd Ranbarthol De-ddwyrain Cymru.

hailaddasu a’u lansio fel Rhwydwaith Bwyd, Diod a Lletygarwch Cwm a Mynydd, cartref

Mae Rhwydwaith Bwyd, Diod a

ar gyfer cig eidion, bariau, gwelyau a phoptai,

Lletygarwch Cwm a Mynydd bellach ar

ac unrhyw beth arall cysylltiedig.

agor ar gyfer aelodau newydd i ddatblygu

Lansiwyd y rhwydwaith yng Ngŵyl Fwyd Caerffili ar 7 Mai a chyflawnwyd ymgynghoriad ynghylch cynnyrch lleol a

CIG EIDION, BARIAU, GWELYAU A PHOPTAI

syniadau a phrosiectau ar y cyd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cwm a Mynydd,

fydd yn arwain ei waith dros y misoedd

ffoniwch y tîm ar 01443 838632 neu

nesaf. Cymerodd dros 100 o bobl ran yn

anfonwch neges e-bost at

ymgynghoriad y lansiad, a phob un ohonynt

eadonk@caerphilly.gov.uk

yn cymryd rhan i ennill hamper o gynnyrch

YMAGWEDD NEWYDD AT HEN FFEFRYN MAE RHWYDWAITH

eth allai fod yn well na bwyd

CWM A MYNYDD BELLACH

B

AR AGOR AR GYFER

gastell mwyaf Cymru, a noson mewn gwely

BWYD, DIOD A LLETYGARWCH

godidog? Beth am fwyd rhyfed dol, a diod arobryn i ddilyn, taith

gerdded drwy fryniau tonnog ac aros wrth cyfforddus i ddilyn, cyn brecwast mawr a

AELODAU NEWYDD

diwrnod ar y llethrau disgynnol?

20 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 21


MENYWOD SY’N GWEITHIO RHANNU SYNIADAU, TRAFOD PROBLEMAU, DOD O HYD I ATEBION A CHAEL EICH YSBRYDOLI

M

ae menywod proffesiynol yn dod

Mae’r grŵp, sy’n cyfarfod bob 6 i 8 wythnos,

at ei gilydd i gyfarfod, rhwydweithio

yn cynnwys menywod o lawer o fusnesau

a chymdeithasu fel rhan o

gwahanol, gan gynnwys crefftwyr, arbenigwyr

rwydwaith Menywod sy’n Gweithio,

TG, ymgynghorwyr busnes a chynhyrchwyr

partneriaeth ar y cyd lwyddiannus rhwng

bwyd a diod. Mae’r rhwydwaith Menywod

Fforwm Fusnes Caerffili a Rhaglen Datblygu

sy’n Gweithio wedi gallu darparu llwyfan

Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili a Blaenau

reolaidd i fenywod busnes lleol, lle gallant

Gwent.

gyfarfod, rhannu arfer gorau a syniadau, ac

Caiff rhaglen reolaidd o gyfarfodydd eu trefnu sydd fel arfer yn dilyn thema neu

ychwanegu gwerth at eu busnesau mewn ffordd anffurfiol, ond strwythurol.

weithgaredd. Mae’r rhain wedi cynnwys

Mae rhwydwaith Menywod sy’n Gweithio

pedoli ceffyl plastig yn Hufen Iâ Hapus ym

Cwm a Mynydd bob amser yn chwilio am

Machen, darganfod llesiant ymhlith glaswelltir

syniadau ar gyfer gweithgareddau, themâu,

Aberbargod a chael te prynhawn gyda’r

lleoliadau ac aelodau newydd. Os ydych

Fonesig Rosemary Bultler a chyn Lywydd y

chi’n fenyw busnes neu’n adnabod menyw

Senedd yn Rhydri.

fusnes, ac yr hoffech gyfarfod â phobl eraill

Nod y rhwydwaith yw rhannu syniadau, trafod problemau, dod o hyd i atebion a chael eich ysbrydoli.

i rannu syniadau, cysylltwch â thîm Cwm a Mynydd ar 01443 838632 neu anfonwch neges e-bost at Phill Loveless ar lovelp1@caerphilly.gov.uk

22 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 23


TREFTADAETH – EIN GORFFENNOL YW EIN PLESER WHAT HAVE THE ROMANS EVER DONE FOR US? Monty Pythons ‘Life of Brian’ 1979 e bai’r cwestiwn hwnnw’n cael ei ofyn yng Ngelligaer, yr ateb fyddai ‘eithaf tipyn a dweud y gwir!’ Ond yn fwy pwysig, y cwestiwn a ofynnwyd i grwpiau treftadaeth lleol yn ddiweddar gan dîm Cwm a Mynydd oedd, ‘Beth mae cytundeb Rhufain erioed wedi’i wneud ar ein cyfer ni?’ a’r ateb i’r cwestiwn hwnnw hefyd oedd, eithaf tipyn.

P

Cytundeb Rhufain oedd y gyfarwyddeb Ewropeaidd a sefydlodd y Rhaglen Datblygu Gwledig a, thrwy ei chyllid, gall tîm Cwm a Mynydd weithio gyda rhwydweithiau, gan gynnwys y rhwydwaith treftadaeth, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau i gynorthwyo grwpiau lleol.

O’r tir teg hwn, sy’n gyfoethog mewn mwynau ac adnoddau naturiol, lle dechreuodd y chwyldro diwydiannol ac arwain at Gymoedd De Cymru yn dod yn un o allforwyr glo stêm mwyaf y byd. Mae ardaloedd ôl-ddiwydiant trwm Caerffili a Blaenau Gwent wedi dychwelyd i

fod yn ardaloedd gwyrdd a phleserus ein cyndadau, ac yn sgil sefydlu rhwydwaith treftadaeth newydd, gellir dod â syniadau ar gyfer gweithgarwch hyrwyddo a phrosiectau at ei gilydd. Bydd y rhwydwaith treftadaeth nawr yn ffurfio rhan o gyfarfodydd rheolaidd y grŵp treftadaeth a gellir

trafod unrhyw syniadau ar gyfer prosiectau. Cewch fwy o wybodaeth am waith Cwm a Mynydd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, trwy ffonio 01443 838632 neu anfon neges e-bost at lovelp1@caerphilly.gov.uk

Mae treftadaeth wledig a diwylliannol yn chwarae rôl sylweddol yn natblygiad yr ardal leol hon. 24 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 25


CRONFA WEITHREDU’R GRŴP GWEITHREDU LLEOL - DECHRAU ARNI

Y

ng nghyfarfod y Grŵp Gweithredu

rydym wrth ein boddau yn gweld prosiectau’n

Lleol heddiw, byddwn yn lansio

cael eu cyflawni. Cofiwch y gall y Grŵp

Cronfa Weithredu’r Grŵp Gweithredu

Gweithredu Lleol ei hun gyflwyno prosiectau,

Lleol. Mae’r Gronfa Weithredu wedi cael

felly os oes gennych unrhyw syniadau yr

ei dylunio i ddarparu cymorth ar gyfer

hoffech eu trafod, rhowch wybod i ni.

prosiectau peilot arloesol, cydweithredol a newydd. Darperir y cyllid refeniw sydd ar gael ar sail ‘dim cymorth’, sy’n golygu na ellir defnyddio’r cyllid i gymorthdalu gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd neu a fyddai wedi cael eu hystyried yn gostau gweithredu arferol sefydliad neu fusnes. Mae’r rheolau ynghylch ‘Cymorth Gwladwriaethol’ yn gymhleth a chyfeirir pob prosiect at Lywodraeth Cymru i roi sylw arno fel rhan o’r broses asesu gadarn i gymeradwyo prosiectau. Bydd y gronfa’n gyfle ardderchog i’r Grŵp

Caiff y gronfa ei lansio ar 2 Mehefin 2016

CYFLWYNIAD

a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Gorffennaf 2016. Bydd hyn yn caniatáu 4 wythnos i’r Corff Gweinyddol asesu ceisiadau ac i Lywodraeth Cymru ddychwelyd sylwadau, ac yna i’r Grŵp Gweithredu Lleol wneud penderfyniad ynghylch cynorthwyo’r prosiect ai peidio. Bydd Tîm y Rhaglen Datblygu Gwledig wrth law i ateb unrhyw ymholiadau oddi wrth ymgesiwyr. Rydym yn cynnig mabwysiadu rhaglen dreigl o geisiadau gydag oddeutu 4 ffenestr bob blwyddyn.

Gweithredu Lleol weithio gyda sefydliadau i beilota prosiectau a syniadau arloesol ac

26 • Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd

Rhaglen Datblygu Gwledig • www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd • 27


Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Ty Fry Farm Heol y Bedw Hirion Bedwellte NP12 0BE Ffôn: 01443 838 632 countryside@caerphilly.gov.uk www.caerphilly.gov.uk/countryside http://www.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd Caiff Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd ei hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.