Creative Schools Programme

Page 1

Creative Schools Programme for teachers and students

Rhaglen Greadigol Ysgolion ar gyfer Athrawon a Myfyrwyr

029 2064 6900 www.shermancymru.co.uk


Get Involved at The Sherman Theatre Chwaraewch ran yn Theatr y Sherman At the Sherman Theatre we are keen to develop stronger and longer lasting relationships with secondary schools throughout Cardiff, Rhondda Cynon Taff, Caerphilly, Merthyr and Bridgend. Having listened to the advice of teachers who are a part of our Teacher Consultation Group we have designed various projects we hope you will love. Located in the heart of Cathays, the Sherman Theatre can provide resources and a service to enhance your theatre experience. If you are interested in finding out more about what we can offer you and your group please contact: schools@shermancymru.co.uk Yn Theatr y Sherman ‘rydym yn awyddus i ddatblygu a chryfhau ein cysylltiadau hirdymor gydag ysgolion uwchradd ledled Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr a Pen-y-bont. ‘Rydym wedi gwrando ar gyngor yr athrawon fu’n rhan o’r grŵp ymgynghori, ac wedi cynllunio nifer o brosiectau fydd - gobeithio - at eich dant. Lleolir Theatr y Sherman yng nghanol Cathays, gan gynnig adnoddau a gwasanaethau fydd yn sicr o wella’ch profiad theatrig chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor ynglŷn â’r hyn gallwn gynnig i chi a’ch grŵp yna cysylltwch â: schools@shermancymru.co.uk


Fresh Ink:

Behind the Scenes:

Key Stages 2 – 5

Key Stages 2 – 5

Our popular 4 week creative writing course, designed for primary and secondary schools, which aims to stimulate each individuals voice and curiosity in the written and spoken word.

Want to know what happens on and off stage?

See your student’s 5-10 minute script brought to life in the Studio at the Sherman, performed and directed by professional actors and directors. Bring your whole class to experience their creations.

Bring a class to explore the nooks and crannies of our building and gain an insight into what goes on behind the scenes at the Sherman Theatre. This backstage tour also includes a fun and inclusive drama workshop. First visit is free. Each visit thereafter costs £100 per class

Inc Ffres:

Tu ôl i’r Llen:

Cyfnodau allweddol 2 – 5

Cyfnodau allweddol 2 – 5

Cynlluniwyd ein cwrs ysgrifennu creadigol poblogaidd 4 wythnos yn arbennig ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda’r bwriad o ysgogi llais a chwilfrydedd yn y gair ysgrifenedig a’r gair llafar.

Eisiau gwybod beth sy’n digwydd ar, ac oddi ar y llwyfan? Dewch a dosbarth i archwilio pob twll a chornel o’n hadeilad, a chael dysgu am yr hyn sy’n digwydd cefn llwyfan yn Theatr y Sherman. Mae’r sesiwn arbennig yma hefyd yn cynnwys gweithdy drama hwyliog, cynhwysol.

Bydd sgript 5-10 munud eich myfyrwyr yn dod yn fyw yn Stiwdio’r Sherman, drwy gael eu perfformio a’u cyfarwyddo gan actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol. Dewch â’r dosbarth cyfan i brofi’r hyn fydd yn cael ei greu.

Mae pris o £100 y dosbarth ar bob ymweliad dilynol

“It’s given them confidence to believe in their own work and abilities... and kept them motivated” Clare Owen, Teacher / Athrawes Llanrumney High School

“We loved it. All of it, because if any of us want to perform we know all the information we need to know” Bethany, Caitlin & Mia (Ton Pentre Juniors)

www.shermancymru.co.uk

Mae’r ymweliad cyntaf yn rhad ac am ddim.

schools@shermancymru.co.uk


Production related workshops:

Design Detectives:

Suitable for all Key Stages including nursery

Key Stages 2 – 5

Production related workshops for your class based on our own Sherman shows. The workshops last approximately 1.5 hours and explore the themes, language, characters and artistic elements of our shows. The workshop team will work to the timings that suit the needs of each group and will ensure each participant gains a deeper insight into the production they are about to see.

Gweithdai sy’n ymwneud â chynyrchiadau penodol: Addas ar gyfer pob Cyfnod Allweddol gan gynnwys dosbarthiadau meithrin Gweithdai sy’n ymwneud â chynyrchiadau penodol ar gyfer eich dosbarth, yn seiliedig ar sioeau’r Sherman ei hun. Mae’r gweithdai hyn yn para tua 1.5 awr a byddant yn archwilio themâu, iaith, cymeriadau ac elfennau artistig ein cynyrchiadau. Bydd tîm y gweithdy’n gweithio’n unol â’r amseroedd sy’n fwyaf cyfleus i bob grŵp, ac yn sicrhau y bydd y cyfranogwyr yn derbyn gwybodaeth arbennig am y cynhyrchiad byddant ar fin ei weld.

www.shermancymru.co.uk

Your class will work alongside a theatre designer to create their own design for one of Sherman Cymru’s productions. They will be taken through the step by step process our designers go through and will collaborate to eventually create a model box and outline sketches of the design.

Ditectifs Dylunio: Cyfnodau Allweddol 2 – 5 Bydd eich dosbarthiadau yn gweithio ochr yn ochr â dylunydd theatr i greu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer un o gynyrchiadau Sherman Cymru. Byddant yn cael eu tywys cam wrth gam drwy’r broses sy’n cael ei defnyddio gan ein dylunwyr, gan gyd-weithio â nhw i greu model ac amlinelliad bras o’r cynllun.

“We wanted to say a huge and heartfelt thank-you for such a fantastic and inspiring day with the Theatre Design Workshop.” Ms Angharad Elkes-Jones, Teacher / Athrawes Willows High School

schools@shermancymru.co.uk


Text Analysis: (Improving Standards in Literacy) Key Stages 3 – 5 This course is suitable for those studying English and Drama as well as their teachers. We will share the tool kit we use as theatre practitioners to lift text from its page and give it life. We hope to reignite your own passion towards text you may already know inside out. A great workshop for helping with revision techniques for GCSE, A Level or BTEC students. £200 per class for a morning or afternoon session

Dadansoddi Testun: (Gwella Safon Llythrennedd) Cyfnodau allweddol 3 – 5 Mae’r cwrs yma’n addas ar gyfer y rhai sy’n astudio Saesneg a Drama yn ogystal â’u hathrawon. Byddwn yn rhannu’r holl elfennau ‘rydym yn eu defnyddio fel ymarferwyr theatr er mwyn trosglwyddo’r gair o’r dudalen i’r llwyfan, a rhoi bywyd i’r gair ysgrifenedig. Ein gobaith fydd ail-danio eich diddordeb mewn testun sy’n dra-gyfarwydd i chi. Gweithdy rhagorol i fyfyrwyr TGAU, lefel A a BTEC er mwyn eu cynorthwyo â thechnegau adolygu. £200 y dosbarth ar gyfer sesiwn fore neu brynhawn

Dance as a devising tool: Key Stages 3 – 5 Especially those studying Performing Arts in College Workshops explore how movement can be used as a tool to devise performance work. Students will learn how choreographic methodologies can be used to create both improvised and set movement phrases as a way into devising work. They will explore how character and narrative can be portrayed through the movement they create. Workshops will include; dance technique, choreographic tasks, improvisation, and contact partner work. £150 per class

Dawns fel arf dyfeisio: Addas ar gyfer cyfnodau allweddol 3 – 5, yn enwedig y sawl sy’n astudio’r Celfyddydau Perfformio mewn Colegau Addysg Bellach Gweithdai sy’n archwilio sut ellir defnyddio symudiadau ar gyfer dyfeisio perfformiadau. Bydd y myfyrwyr yn dysgu methodoleg coreograffi y gellir ei ddefnyddio i greu cymalau o symudiadau byrfyfyr a phenodol fel ffordd o ddyfeisio gwaith. Byddant yn archwilio sut gellir portreadu cymeriad a naratif drwy’r gwaith symud maent yn ei greu. Bydd y gweithdai’n cynnwys: techneg dawns, tasgau coreograffi, gwaith byrfyfyr a gwaith â phartner. £150 y dosbarth

www.shermancymru.co.uk

schools@shermancymru.co.uk


Ideal for Teachers

Delfrydol i Athrawon

CPD:

Datblygu Proffesiynol Parhaus:

With the two golden threads of literacy and numeracy at the heart of our practice, the Sherman Theatre is dedicated to exchanging a currency of knowledge and shared practices with teachers we engage with, therefore building on good practice and a shared vocabulary across different art forms and teaching methodologies.

Gan gadw’r ddau linyn arian, sef llythrennedd a rhifedd, yn greiddiol i’n gwaith, mae Theatr y Sherman yn anelu at gyfnewid gwybodaeth ac arferion gyda’r athrawon byddwn yn gweithio â nhw, gan felly ddatblygu arfer da a geirfa bwrpasol ar gyfer gwahanol ffurfiau celfyddydol a methodolegau dysgu.

Here are some of things we can offer you:

Primary Play Day: a tool kit of inspiration exploring interesting ways of using drama and other art forms in your teaching. With long term memory being associated with emotions and sensory experiences, we will initiate an exploration into how the arts can actively engage your pupils into a deeper understanding of the lessons you are delivering.

Secondary Devising: This is a 4 hour workshop for drama/ performing arts / music teachers to build on their devising skills. You will come away with a tool box of inspiration to enable you to explore with your students to your heart’s content. How do you pull together text, movement, music and improvisation tasks into one cohesive performance?

Dyma rai o’r pethau allwn eu cynnig i chi:

Cynradd Diwrnod o Chwarae: pecyn yn llawn ysbrydoliaeth ar gyfer archwilio ffyrdd diddorol o ddefnyddio drama a ffurfiau celfyddydol eraill wrth i chi fynd ati i ddysgu. Gan fod y cof tymor hir yn gysylltiedig ag emosiynau a phrofiadau sy’n ymwneud â’r synhwyrau, byddwn yn eich annog i archwilio sut all y celfyddydau ysgogi eich disgyblion i gael gwell dealltwriaeth o’r gwersi byddwch yn eu darparu.

Uwchradd Dyfeisio: Gweithdy 4 awr i athrawon drama/y celfyddydau perfformio/cerddoriaeth i ddatblygu eich sgiliau dyfeisio. Ar ddiwedd y cyfnod bydd gennych stôr o ysbrydoliaeth fydd yn eich galluogi chi a’ch myfyrwyr i archwilio sut mae cyd-lynu testun, gwaith symud, cerddoriaeth a thasgau byrfyfyr er mwyn cyflwyno perfformiad caboledig. £150 yr athro

£150 per teacher

www.shermancymru.co.uk

schools@shermancymru.co.uk


Teacher Exploring practitioners: Consultation Group: These sessions will contextualise the work of those practitioners who have shaped the theatre landscape as we know it. Gain a deep insight and a tool kit to use when directing and exploring text in class. Suitable for English and Drama teachers.

A new initiative for the Sherman Theatre where we visit your school at no extra cost and a time suitable for you. The time is used to listen to each faculty or teacher in order to develop stronger, longer lasting links. This in turn feeds and nurtures our Creative Learning team and the work we can offer you. Your input and vision is vital in driving us forward in a direction which suits your passions.

Cost - £150 per teacher

These sessions aim to find a common ground on which we can cultivate a little more curiosity regarding how possible partnerships between schools and Sherman Theatre can work fruitfully. How do we create an effective exchange between the education and arts sectors?

Archwilio ymarferwyr: Bydd y sesiynau yma’n rhoi arferion yr ymarferwyr hynny sy’n gyfrifol am greu theatr fel ‘rydym ni’n ei adnabod heddiw mewn cyd-destun. Cewch ddealltwriaeth ddyfnach a stôr o wybodaeth ymarferol i’w defnyddio wrth gyfarwyddo ac archwilio testunau yn y dosbarth. Addas ar gyfer athrawon Saesneg a Drama. Pris - £150 yr athro

ˆ GrWp Ymgynghori i Athrawon: Menter newydd Theatr y Sherman ble fyddwn yn ymweld â’ch ysgol ar amser sy’n gyfleus i chi, heb unrhyw dâl ychwanegol. Defnyddir yr amser i wrando ar yr hyn sydd gan bob adran neu athro i’w ddweud er mwyn datblygu cyswllt cryfach rhyngom, ar gyfer y tymor hir. Bydd hyn wedyn yn bwydo ac yn meithrin ein tîm Dysgu Creadigol a’r gwaith allwn ni ei gynnig i chi. Mae eich mewnbwn a’ch gweledigaeth yn hollbwysig i sichrau ein bod yn medru cynnig yr hyn sy’n berthnasol ac yn gweddu i’r hyn sy’n bwysig i chi. Gan gadw’r arolwg wnaethpwyd ar y Celfyddydau mewn Addysg mewn cof, nod y sesiynau yma yw darganfod y tir canol ble allwn ysgogi chwilfrydedd ynglŷn â sut all partneriaethau ffrwythlon ddatblygu rhwng ysgolion a Theatr y Sherman. Sut mae creu’r amgylchedd orau ar gyfer cyfnewid syniadau a gwaith rhwng y sector addysg a sector y celfyddydau?

www.shermancymru.co.uk

schools@shermancymru.co.uk


If you bring a group to see one of the shows at Sherman Theatre we can offer you: FREE tickets for accompanying teachers (1 per 10 pupils) Discounted coach travel with our Travel Partner Ferris Coaches. Quote ‘SHERMAN’ when you call Ferris on 0845 165 6667 Fully accessible foyer/toilets/auditorium Pre-order discounted refreshments Resource Packs available on some shows

Os byddwch yn dod â grŵp i weld un o’r sioeau yn Theatr y Sherman gallwn gynnig i chi: Tocynnau AM DDIM i athrawon sy’n cyd-fynd (1 i bob 10 o ddisgyblion) Bws am bris gostyngol trwy ein Cyswllt Teithio Ferris Coaches. Dyfynnu ‘SHERMAN’ pan ffoniwch Ferris Coaches ar 0845 165 6667 Cyntedd / toiledau / awditoriwm gwbl hygyrch Lluniaeth gostyngol Resource Packs available on some shows

How to Find Us | Sut i Ddod o Hyd i Ni

Design /Dyluniad: Burning Red

The Sherman Theatre is based in Cathays, Cardiff which is easily reached on foot, bicycle or public transport.

Mae Theatr y Sherman wedi ei leoli yn Cathays ac yn hygyrch iawn ar droed, beic neu gludiant cyhoeddus.

029 2064 6900 shermancymru.co.uk Senghennydd Road / Ffordd Senghennydd Cardiff / Caerdydd CF24 4YE facebook.com/shermancymru @shermancymru

Photo / Llun: Kirsten McTernan

Design /Dyluniad: www.savageandgray.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.