Adroddiad Blynyddol 2015/16 Menter Caerdydd
Cynnwys 4. Adroddiad y Cadeirydd 5. Adroddiad y Prif Weithredwr 6. Cefndir 6. Gwerth Economaidd Menter Caerdydd i Gaerdydd 8. Tafwyl 10. Clybiau Hamdden i Deuluoedd a Phlant 11. Gwasanaethau Chwarae 12. Cynlluniau Gofal yn ystod y Gwyliau 13. Gweithgareddau Gwyliau i blant a Phobl Ifanc 14. Cyrsiau Cymdeithasol ac Achrededig i Oedolion 15. Proffil yr Iaith Gymraeg 16. Yr Hen Lyfrgell 17. Ffynonellau Cyllid Allanol 17. Noddwyr 18. Gwybodaeth Ariannol
2
3
Adroddiad y Cadeirydd – Eryl Jones Mae wedi bod yn bleser bod yn Gadeirydd Menter Caerdydd am y 3edd flwyddyn bellach, rydyn ni wedi cael blwyddyn wych! Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd mae Menter Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth drwy barhau i hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y brifddinas trwy amrywiaeth o weithgareddau. Rydym wedi cryfhau ein partneriaethau gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn datblygu perthnasau newydd gyda sefydliadau academaidd a chwmnïau preifat. Eleni roedd Tafwyl yn destament o hyn. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda bron i 37,000 o bobl yn mwynhau’r digwyddiadau wythnos o hyd ledled y ddinas, ac yn denu mwy o nawdd gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Bydd 2016/17 yn cynnig cyfleoedd cyffrous a datblygiadau newydd ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am y rhain yn y misoedd i ddod a gweld Menter Caerdydd yn mynd o nerth i nerth.
Adroddiad y Prif Weithredwr Sian Lewis Mae gweithgareddau Menter Caerdydd yn cyfoethogi bywydau dinasyddion Caerdydd gydol y flwyddyn. Drwy fod yn rhan o’n rhaglen gymunedol ar hyd a lled Caerdydd, ymweld â Tafwyl, manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth neu wirfoddoli neu fynychu digwyddiadau yn Yr Hen Lyfrgell mae teuluoedd, plant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr Cymraeg yn gallu ymgysylltu â’r iaith ar lefel gymdeithasol gydol y flwyddyn. Mae Menter Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i adlewyrchu anghenion y gymuned Cymraeg ei hiaith yn y brifddinas. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn realistig o ran sylweddoli ein bod yn wynebu cyfnodau heriol, yn economaidd ac mewn perthynas â’r iaith, ond drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y ddinas, a gyda phartneriaid o’r trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat rydym yn hyderus ein bod ni wedi cyrraedd ein nodau a bod ein gwasanaethau yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar yr iaith yng Nghaerdydd. Mae gwaith craidd Menter Caerdydd yn cynnwys chwe blaenoriaeth,
Diolch i aelodau’r Bwrdd Rheoli am roi o’u hamser a’u hadnoddau mor hael wrth i ni drafod gwaith a chyfeiriad Menter Caerdydd.
sef:
Yn olaf hoffwn ddiolch a llongyfarch staff Menter Caerdydd dan arweinyddiaeth ein Prif Weithredwr, Siân Lewis am eu hymdrechion a’u cyflawniadau dros y deuddeg mis diwethaf.
• Codi hyder a newid agweddau pobl tuag at yr iaith Gymraeg
• Hyrwyddo a chreu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg • Cryfhau’r iaith Gymraeg a’i defnydd ymysg teuluoedd • Datblygu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc ac oedolion
Rydym eisiau hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar sail gymunedol yn y Brifddinas, gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd yng Nghaerdydd a bod y cyfrifoldeb am ei dyfodol yn cael ei rannu gan bob dinesydd.
• Datblygu Gwyliau Cymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg • Sicrhau bod platfform gweledol ar gyfer yr iaith Gymraeg ar lefel ddigidol Drwy ganolbwyntio ar y prif flaenoriaethau hyn, mae Menter Caerdydd yn mynd i’r afael â phrif flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd o ran iaith, teuluoedd, plant a phobl ifanc, y gymuned a’r gweithle. Hoffwn ddiolch i Fwrdd Rheoli Menter Caerdydd am eu cymorth, staff ymrwymedig Menter Caerdydd am eu gwaith caled a’u gweledigaeth, ein gwirfoddolwyr am eu cyfraniad gwerthfawr ac i bobl Caerdydd am gefnogi ein gwasanaethau’n barhaus.
Mae Menter Caerdydd yn sefydliad allweddol, sy’n flaengar ac actif, yn ddylanwadol ac arloesol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn y Brifddinas.
4
5
Cefndir Sefydlwyd Menter Caerdydd ym mis Mehefin 1998 gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd drwy greu cyfleoedd i drigolion y ddinas ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r gwaith a’r ysgol. Mae Menter Caerdydd yn Elusen Gofrestredig (1098606) a Chwmni Cyfyngedig drwy Warant (4576565). Rydym yn rhyngweithio’n rheolaidd gyda’n cwsmeriaid i sicrhau bod llais y cwsmer wrth wraidd ein gwaith o gynllunio gwasanaethau. Mae ein gweithlu yn cynnwys 8 aelod o staff dan arweiniad Bwrdd Rheoli o 15 aelod sy’n gyfrifol am sicrhau bod darpariaethau perthnasol mewn lle i alluogi’r sefydliad i gyflawni ei ddyletswydd i’r eithaf i ddinasyddion Caerdydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo i; • Greu gwerth economaidd o bron i £2 filiwn i Economi dinas Caerdydd
“Rydych chi’n arwain y ffordd ar gyfer Mentrau eraill yng Nghymru ac yn cynnig nifer o gyfleoedd i drigolion Caerdydd.... Rydych chi wastad yn fodlon gwella darpariaeth ac mae hynny’n haeddu canmoliaeth.”
• Ymgysylltu â dros 42,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth • Cyflogi dros 108 aelod o staff achlysurol 16+ oed • Trefnu dros 1,322 o weithgareddau unigol gydol y flwyddyn • Denu 111 o wirfoddolwyr i gynorthwyo â’n gwasanaethau • Gweithio â 88 o bartneriaid ar draws y Sector Preifat, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector • Ymgysylltu â dros 22,000 o ddilynwyr y cyfryngau cymdeithasol Ein prif noddwyr yw Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Mae “Bwrw Mlaen”, datganiad polisi Llywodraeth Cymru, yn cynnig ffocws ar gyfer gweithredu ein Strategaeth Iaith yn ystod 2014-2016 ac yn cydnabod yr angen i gryfhau’r cyswllt rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ymdrechion Menter Caerdydd i gryfhau’r cysylltiadau hyn yn y brifddinas ac mae cynnwys yr adroddiad hwn a lansiwyd heddiw yn atgyfnerthu’r gwaith hwn.” Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC
Gwerth economaidd Menter Caerdydd i Gaerdydd Yn ôl ym mis Gorffennaf yn y Senedd, lansiodd Menter Caerdydd adroddiad ‘Asesiad o werth economaidd Menter Caerdydd i Gaerdydd’ gydag Alun Davies AC, Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd. Comisiynodd Menter Caerdydd Cwmni Ymchwil Arad i gynnal dadansoddiad o werth economaidd y sefydliad i ddinas Caerdydd gan ein bod ni’n gwerthfawrogi’n llwyr fod angen i sefydliadau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus ddangos a chynnig gwerth am arian yn y cyfnodau economaidd heriol hyn. Mae’r holl ddarganfyddiadau yn yr adroddiad yn seiliedig ar ddata gwariant mewn perthynas â 2014-15. Mae gwaith o ddydd i ddydd Menter Caerdydd yn helpu Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i weithredu polisïau pwysig sy’n denu cefnogaeth drawsbleidiol. Nod yr adroddiad a gyhoeddwyd oedd dangos gwerth cyrhaeddiad ehangach – yn rhoi gwerth economaidd i’w gwaith yn y brifddinas.
6
Roedd prif ddarganfyddiadau’r adroddiad fel a ganlyn • Creodd Menter Caerdydd gyfanswm gwerth economaidd amcangyfrifedig o £1.9m yng Nghaerdydd yn 2014-15 • Creodd Menter Caerdydd adenillion ar fuddsoddiad o £2.66 am bob punt o incwm a dderbyniwyd • Ar gyfartaledd, gwariodd ymwelwyr i Tafwyl amcangyfrif o £46 ar nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau yng Nghaerdydd gan gynhyrchu gwerth economaidd anuniongyrchol o ychydig dros £1m Mae Menter Caerdydd yn ddiolchgar i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus ac am eu caniatáu i barhau â’u gwaith o hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Rydym yn hyderus bod y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn sy’n dangos gwerth economaidd i Gaerdydd yn atgyfnerthu eu bod, yn ogystal ag arwain y ffordd o ran cyflawni prif amcanion polisi Cyngor Caerdydd a bod yn bartner canolog o ran cyflawni polisi Llywodraeth Cymru, yn cynnig gwerth am arian, ac hefyd yn cynnig gwerth economaidd i’r ddinas.
“Rwy’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad hwn sy’n tanlinellu’r bartneriaeth lwyddiannus sydd wedi bodoli rhwng Cyngor Dinas Caerdydd a Menter Caerdydd dros y deg mlynedd diwethaf. Mae Menter Caerdydd yn gwneud gwaith gwych i ddangos y gorau o ddiwylliant Cymreig, codi ymwybyddiaeth o’r iaith a dangos bod Cymraeg yn iaith ffyniannus yma ym mhrifddinas Cymru. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i godi proffil yr iaith Gymraeg ledled y ddinas a byddwn yn parhau i weithio gyda Menter Caerdydd a’n partneriaid i wireddu ein gweledigaeth o Gaerdydd ddwyieithog.” Meddai Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
7
Tafwyl Eleni daeth bron 37,000 o ymwelwyr i Tafwyl gyda mwy o bobl nag erioed yn dod drwy gatiau Castell Caerdydd dros y penwythnos i fwynhau gŵyl gymunedol Gymraeg fwyaf Cymru. Ar ail ddiwrnod Tafwyl yn y castell, cafwyd mwy o ymwelwyr nag erioed gyda’r adloniant gwych yn denu 15,500 i’r safle, ar ben yr 20,000 a ddaeth ar y dydd Sadwrn a’r 1,000 a fynychodd ddigwyddiadau ymylol Tafwyl yn ystod yr wythnos. Dros y penwythnos trefnwyd 279 o weithgareddau unigol i blant, teuluoedd, pobl ifanc, dysgwyr Cymraeg ac oedolion, y nifer uchaf eto!
“Mae wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad pwysig iawn sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac sydd hefyd yn croesawu’r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg.”
“Mae Tafwyl yn cynnig cyfle gwych i gymdeithasu yng nghanol y ddinas trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Cyfle da i ddangos bod yr iaith yn fyw a pham bod pobl yn ei siarad – bod yr iaith yn fwy na ffordd o gyfathrebu – mae’n ffordd o fyw, ein diwylliant.”
Roedd llawer yn cytuno mai Tafwyl 2016 oedd y gorau eto... • 42 o fandiau byw • 40 o ddigwyddiadau ymylol yr ŵyl • 279 o ddigwyddiadau unigol yn Ffair Tafwyl • 91 o wirfoddolwyr • 58 o bartneriaid • 24 o noddwyr Cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd eleni. Un o’r uchafbwyntiau oedd ‘Yurt T’ – ardal newydd sbon yn Tafwyl i bobl ifanc ymlacio a chymryd rhan mewn gweithdai celf, ffotograffiaeth, colur a cherddoriaeth. Roedd hefyd nifer o fandiau ifanc lleol yn perfformio setiau acwstig. Sefydlwyd grŵp ffocws 6 mis cyn Tafwyl gyda myfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Bro Edern yn Nwyrain Caerdydd. Diben y grŵp ffocws oedd helpu i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer Yurt T gydol penwythnos Tafwyl, noddwyd y babell gan Goleg Caerdydd a’r Fro. Ymysg uchafbwyntiau’r ŵyl roedd perfformiad gan y band merched o’r 90au, Eden, sesiynau coginio gyda phrif gogydd bwyty seren Michelin, Odettes, Bryn Williams, a’r band roc Candelas yn arwain y dorf mewn perfformiad o anthem yr Ewros ‘Rhedeg i Paris’. Eleni cyflwynodd yr ŵyl ei llysgennad newydd a fydd yn ymuno â Huw Stephens, Matthew Rhys, Alex Jones a Rhys Patchell sydd oll wedi cefnogi Tafwyl fel llysgenhadon am flynyddoedd. Dyma oedd profiad cyntaf cyn-ddrymiwr y band roc Flaming Lips, Kliph Scurlock, o Tafwyl ers symud i Gymru o Kansas, America i fwynhau cerddoriaeth Gymreig a dysgu’r iaith. Mae Tafwyl yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac mae’n cynnig platfform i’r iaith Gymraeg yn y brifddinas. Llwyddodd Tafwyl i ddenu £33,650 mewn nawdd, o gymharu â £28,975 y llynedd, cynnydd o 16% . Prifysgol Caerdydd yw ein prif noddwr o hyd ac fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi ymrwymiad i fod y prif noddwr am dair blynedd arall tan 2020. Eleni fe lwyddon ni hefyd i ymgysylltu â noddwyr newydd gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Academi Hywel Teifi, ND Education a Meithrinfa Green Giraffe. Prif gyllidwyr yr ŵyl eleni oedd Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Caerdydd, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Dinas Caerdydd. Cadarnhaodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale y byddai’r Cyngor yn parhau i gefnogi’r ŵyl yn ei leoliad newydd y flwyddyn nesaf a phan fyddai’n dychwelyd i’r castell yn 2018. 8
“Roedd Tafwyl yn wych ac roedd yno awyrgylch arbennig – mor groesawgar a llawer yn mynd ymlaen. Rwyf wedi gwrando ar lawer o gerddoriaeth dda - rhai bandiau rwyf eisoes wedi eu clywed a’u hoffi ond llawer o fandiau newydd hefyd. Ac mae’r bwyd yn fendigedig!” Kliph Scurlock
“Diolch am drefnu gwyl wych. Rydym yn lwcus iawn. Rwy’n nabod dipyn o blant yn eu harddegau nad ydynt fel arfer yn mynd i bethau Cymraeg a wnaeth fwynhau’r bandiau a phenderfynu eu bod eisiau mynd i’r Eisteddfod ar ôl hyn. Dyma’n union beth sydd ei angen arnom i godi ymwybyddiaeth o bethau sy’n digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Roedd hi hefyd yn braf gweld bod rhai pobl wedi teithio o rannau eraill o Gymru i fod yn rhan o’r wyl.” 9
Gwasanaethau Hamdden i Deuluoedd a Phlant Un o nodau gwreiddiol Menter Caerdydd ydy creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg y tu allan i oriau ysgol ac amgylchedd yr ysgol. Mae sefydlu a threfnu cybiau hamdden ar ôl ysgol ac yn ystod y penwythnosau i blant a phobl ifanc yn rhan allweddol o’r nod hwn. Eleni, rydym wedi llwyddo i redeg 28 clwb/cwrs mewn partneriaeth ag Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae’r cyrsiau yn amrywio o Athletau, Rygbi, Nofio, Criced a Phêl-rwyd i enwi ond ychydig. Mae’r cymorth ariannol a dderbyniwn gan Gyngor Caerdydd yn allweddol i allu parhau i gynnal y gwasanaethau hyn. Ac eithrio’r clybiau/cyrsiau yr ydym ni’n eu cynnal, mae’r cyfleoedd i blant gyrchu Clybiau Gweithgareddau Cymraeg yng Nghaerdydd yn brin. Yn ogystal â chynnig gwasanaeth hamdden Cymraeg i blant Caerdydd, rydym yn cynnig gwaith â thâl i staff achlysurol gydol y flwyddyn. Ar y cyd ag Adran Chwaraeon yr Urdd rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr ifanc (16+) i dderbyn cymhwyster hyfforddi, datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus, cymwysterau ychwanegol a chit chwaraeon fel rhan o’r pecyn gwirfoddoli. Ar hyn o bryd mae dros 25 o wirfoddolwyr o Ysgol Gyfun Glantaf ac Ysgol Gyfun Plasmawr yn cael cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y gwasanaeth hwn. Eleni roedd 1396 o blant yng Nghaerdydd wedi dysgu sgiliau newydd drwy fynychu’r clybiau hamdden wythnosol ledled y ddinas. Mae cynnig amrywiaeth o weithgareddau i deuluoedd yn rhan bwysig o wasanaeth Menter Caerdydd ac mae hefyd yn un o dargedau Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r ddarpariaeth wedi cynyddu diolch i gyllid parhaus gan Teuluoedd yn Gyntaf. Mae’r gwasanaethau a gynigiwn yn boblogaidd iawn gyda’r cyhoedd. Rydym yn trefnu
“Darpariaeth dda i blant, dim byd arall ar gael yn ein hardal ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae fy mhlentyn yn hoffi mynd i gynlluniau chwarae bwrlwm a gynhelir yn ystod y gwyliau”
Gwasanaethau Chwarae (Bwrlwm) “Mae’n rhoi cyfle i blant sy’n dod o gartrefi Saesneg eu hiaith i ddatblygu eu hiaith Gymraeg mewn amgylchedd hamddenol yn hytrach nag yn yr ystafell ddosbarth” dros 12 o ddigwyddiadau bob wythnos i deuluoedd yn ogystal â digwyddiadau unigol yn ystod y flwyddyn. Ar gyfartaledd yn wythnosol mae dros 357 o blant a rhieni yn mynychu ein gwasanaethau sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled y ddinas. Mae’r gweithgareddau yn amrywio o 7 sesiwn amser stori i rieni a phlant bach, gwersi nofio babanod dŵr, sesiynau bygi plant bach, campfa plant bach, rygbi plant bach a ioga. Rydym hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau ar raddfa fwy i deuluoedd gydol y flwyddyn gan gynnwys ‘Miri Meithrin’, penwythnos i’r teulu yn Llangrannog, Teithiau Cerdded Natur a nifer o ddigwyddiadau yn ystod Gŵyl Ymylol Tafwyl a phenwythnos Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Mae dros 3,500 o rieni a phlant bach ychwanegol yn mynychu’r digwyddiadau mwy hyn. Mae nifer o rieni sy’n mynychu yn newydd i’r iaith fel dysgwyr Cymraeg neu fel rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Caiff ein Gwasanaeth Hamdden i Deuluoedd a Phlant eu trefnu ledled y ddinas gan gynnwys Grangetown, Y Tyllgoed, Llanrhymni, Lecwydd, Llanisien, Llanedern, Treganna, Canol Caerdydd, Gabalfa, Sblot, Radur, Yr Eglwys Newydd, Y Rhath, Y Mynydd Bychan a Phontcanna.
“Pwysig iawn. Nid yn unig mae ein gweithgareddau ysgol yn annog diddordebau a ffrindiau newydd, maent yn galluogi plant i siarad Cymraeg mewn amgylchedd gwahanol a dysgu geirfa newydd ac ati. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant fel fy mhlant i sy’n siarad Cymraeg fel ail iaith.”
“Mae hyn yn ffordd wych i’n plant ni barhau i siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol gan nad ydym yn siarad llawer o Gymraeg gartref.” 10
Ers 2010, mae Menter Caerdydd wedi cynnal sesiynau chwarae mynediad agored yn ystod gwyliau ysgol i blant 4-11 oed. Mae hwn yn wasanaeth pwysig gan ei fod yn gyfle i blant ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg y tu allan i oriau ysgol. Nid yw nifer o blant sy’n mynychu’r gwasanaeth hwn yn cael llawer o gyfle, os o gwbl, i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn ystod y gwyliau ysgol ac felly mae’r gwasanaeth hwn yn chwarae rôl bwysig wrth gynnal nifer o sgiliau iaith Gymraeg plant yn ystod y gwyliau. Ar gyfartaledd mae dros 600 o blant yn mynychu sesiynau Bwrlwm bob wythnos (ar draws 6 safle) ac maen nhw’n cael eu cynnal am 8 wythnos yn ystod y gwyliau ysgol (Chwefror/Hydref/Pasg/Sulgwyn, Haf). Rydym yn cyflogi ac yn hyfforddi cyfartaledd o 25 aelod o staff ychwanegol y flwyddyn ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed. Cynhelir ein gwasanaethau chwarae mynediad agored yn yr ardaloedd canlynol: Llanedern, Caerau, Pentre-baen, Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf, Treganna, Sblot a Grangetown. Mae dros 3,879 o blant wedi mynychu o leiaf un sesiwn chwarae mynediad agored. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom werthuso ein sesiynau chwarae trwy gynnal holiaduron wyneb yn wyneb gyda’r rhieni a phlant sy’n mynychu ein darpariaeth chwarae mynediad agored. Cymerodd dros 25 o rieni a 50 o blant o amrywiaeth o safleoedd ran yn y gwerthusiad. Diben y gweithgaredd oedd ein galluogi i gael darlun clir o ba mor dda yr ydym yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid ac yn cynnig y profiad chwarae gorau iddynt ei fwynhau. Yn ystod y gwerthusiad casglwyd y wybodaeth isod; • Dywedodd 100% o’r plant a gyfrannodd i’r arolwg bod y sesiynau yn ‘Dda’ neu’n ‘Rhagorol’. • Roedd 8% yn mynychu am y tro cyntaf ar adeg yr arolwg. • O’r 25 o rieni a gwblhaodd yr arolwg, nododd 100% yr hoffent weld Menter Caerdydd yn parhau i gynnal darpariaeth chwarae yn ystod y gwyliau drwy gyfrwng y Gymraeg ledled y ddinas • Roedd 100% o’r rhieni hefyd yn credu ein bod yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel. • Roedd 88% o’r plant a oedd yn mynychu ein gwasanaethau chwarae yn dod o gartrefi di-Gymraeg
“Nid wyf yn siarad Cymraeg felly mae Bwrlwm yn sicrhau bod fy mhlentyn yn defnyddio’r Gymraeg yn ystod y gwyliau. Mae hwn yn wasanaeth gwych. Mae fy merch yn hoffi dod draw ac mae wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd – Diolch”
• Dywedodd 98% o rieni eu bod wedi dewis anfon eu plant i sesiynau chwarae Bwrlwm oherwydd eu bod yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg • Dywedodd 100% o’r plant a arolygwyd ar y safle eu bod yn siarad Cymraeg yn ystod y sesiynau. Rydym wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu ein sesiynau chwarae am ddim yn Trowbridge a Gabalfa diolch i waith partneriaeth â’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r penaethiaid yn yr ardal.
“Diolch am ddifyrru Bella gydol yr haf – rydych chi i gyd yn wych!”
11
Darpariaeth Cynlluniau Gofal yn ystod y Gwyliau “Does gen i ddim ond canmoliaeth am waith y Fenter – rhagorol! Proffesiynol, effeithiol a difyr!!” Ers 2003 mae Menter Caerdydd wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i gynnig 2 Gynllun Gofal yn ystod y Gwyliau yng Nghaerdydd gydol y flwyddyn i blant 4-11 oed o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd. Mae’r cynlluniau wedi’u lleoli yn Ysgol Melin Gruffydd, yr Eglwys Newydd ac Ysgol Treganna. Ni yw’r unig rai sy’n cynnig darpariaeth Gofal Gwyliau Cymraeg yng Nghaerdydd ac rydym wedi darparu’r gwasanaeth hwn yn llwyddiannus mewn partneriaeth â’r Cyngor am y 12 mlynedd diwethaf. Ar gyfartaledd mae 556 o blant yr wythnos yn mynychu ein darpariaeth Gofal Gwyliau. Mae ein gwasanaeth yn cael ei gynnal rhwng 8.30am a 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y gwyliau ysgol ac eithrio cyfnod y Nadolig. Rydym yn cyflogi cyfartaledd o 35 aelod o staff ychwanegol y flwyddyn a dros 9 o wirfoddolwyr i redeg y gwasanaeth. Mae’r haf yn gyfnod prysur ac roedd yr un peth yn wir eleni wrth i ni groesawu 1930 o blant i’n Cynllun Gofal yn ystod y cyfnod chwe wythnos. Mae ein harweinwyr yn gwbl gymwys ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda phlant yn eu swyddi o ddydd i ddydd. Mae’r mwyafrif o’n staff yn gweithio’n rheolaidd yn ystod ein Cynlluniau Gofal ac yn gyfarwydd â’n strwythur a’n polisïau ac yn nabod y plant a’r rhieni/gwarcheidwaid. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig gwasanaeth cynnes a chroesawgar i’r plant a’r rhieni. Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi parhaus i gynorthwyo staff gydol y flwyddyn – o gyrsiau sefydlu, amddiffyn plant, hylendid bwyd a chymorth cyntaf. Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu hyfforddi 11 aelod o staff newydd gyda Chymorth Cyntaf Lefel 3 cyn yr haf.
“Mae Cynlluniau Gofal Menter Caerdydd wedi fy ngalluogi i barhau i weithio yr haf hwn sy’n holl bwysig fel rhiant sengl neu fel arall bydden i wedi gorfod cymryd gwyliau di-dâl neu anfon fy mhlentyn i gynllun cyfrwng Saesneg a fyddai wedi effeithio ar ei sgiliau Cymraeg wrth ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi“
Ers 2009 mae Menter Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i gynnig gweithgareddau allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn ystod y gwyliau ysgol. Mae dros 80% o’r plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y ddinas yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae gwasanaethau fel y rhain yn allweddol i ddatblygu hyder plant i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol y tu allan i’r ysgol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 997 o blant wedi mynychu amrywiaeth o weithgareddau, cyrsiau a gweithdai, a chynhaliwyd cyfanswm o 59 o weithgareddau ledled y ddinas. Roedd y gweithgareddau hyn yn amrywio o deithiau cerdded natur a gweithdai, cyrsiau coginio a phobi, cyrsiau animeiddio, teithiau merlod a dringo creigiau, amryw gyrsiau celf a chrefft, gweithdai cerddoriaeth a DJ a nifer o sesiynau chwaraeon ledled y ddinas.
Yn dilyn adborth y llynedd, un o’r datblygiadau mwyaf eleni oedd cynnal digwyddiadau mewn lleoliadau mwy amrywiol ledled y ddinas, yn enwedig dwyrain a chanol Caerdydd ac hefyd yn ardaloedd difreintiedig y ddinas. Mae nifer o’r sesiynau a’r gweithdai wedi’u cynnal yn Gabalfa, Sblot a’r Tyllgoed. Ein bwriad yn y flwyddyn i ddod yw datblygu darpariaeth mewn ardaloedd penodol o’r ddinas lle nad yw plant a phobl ifanc yn cael llawer o gyfle i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg yn ystod y gwyliau ysgol a lle mae cyfran uchel o blant yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg. Ein hardal beilot ar gyfer y gwasanaeth hwn yn 2016/17 fydd Dwyrain Caerdydd.
Rydym yn cael ein harolygu’n flynyddol gan yr AGGCC ac roedd adroddiadau blynyddol gan yr arolygwyr yn nodi; “Yn gyffredinol, rydym ni (AGGCC) yn gweld taw anghenion amrywiol plant sydd wrth wraidd y gwasanaeth hwn. Roeddent yn derbyn gofal priodol i ddiwallu eu hanghenion unigol, a oedd yn cael ei roi mewn amgylchedd hamddenol, dymunol... Gall rhieni fod yn hyderus bod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn dda trwy arweinyddiaeth a rheolaeth dda. Roedd y plant yn cael eu hannog gan y staff i fynegi eu teimladau a’u barn gydol y gweithgareddau grŵp...”
“Darparwr gofal plant gwych – gweithgareddau gwych gwahanol bob dydd – caru’r tripiau undydd amrywiol. Gwerth gwych am arian”
“Mae’n ffordd fforddiadwy o gael gofal plant ac mae’r ffaith eu bod yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yn fonws” 12
Gweithgareddau yn ystod y Gwyliau
“Amhrisiadwy o ran y cyfle i gymdeithasu a gwneud pethau sy’n ddifyr, drwy gyfrwng y Gymraeg.”
“Mae’r mwyafrif o rieni’n gweithio’n llawn amser ac mae trefnu gofal plant gydol yr haf yn gallu bod yn anodd. Hefyd, mae holl wasanaethau darparwyr eraill trwy gyfrwng y Saesneg, mae hwn yn gyfle i’r plant ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn ystod y gwyliau hir” 13
Cyrsiau Cymdeithasol ac Achrededig i Oedolion Cyrsiau Hyfforddiant Achrededig i Oedolion
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi trefnu 18 o gyrsiau cymdeithasol wythnosol i ddysgwyr sy’n oedolion mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd mewn amryw leoliadau ledled y ddinas. Mynychodd gyfanswm o 277 y cyrsiau, gyda chyfartaledd o 15 ym mhob dosbarth. Roedd amrywiaeth gwych o gyrsiau ar gael, gan gynnwys barddoniaeth, ioga, ffitrwydd, ffotograffiaeth, ieithoedd, gwnïo a cherddoriaeth. Mae’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi dod i ben ers Ebrill 2016 ers i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer Dysgwyr sy’n Oedolion newid ffocws. Yn dilyn cyfnod ymgynghori, ac oherwydd adborth cadarnhaol mae Menter Caerdydd wedi ymrwymo i barhau â’r gwasanaeth hwn ar raddfa lai gan sicrhau bod y cyrsiau sy’n cael eu rhedeg yn gost niwtral i ni. Rydym wedi targedu cyrsiau am y flwyddyn ddiwethaf sydd â chyfradd presenoldeb mawr iawn ac felly nid oes unrhyw oblygiadau ariannol negyddol i ni fel darparwr
Ers 2012, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, mae Menter Caerdydd yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddiant achrededig i oedolion. Mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau, cynhaliwyd 15 o gyrsiau – roedd 8 ohonynt yn rhai achrededig – yn denu cyfanswm o 150 o ddysgwyr. Roedd rhaid canslo rhai cyrsiau oherwydd diffyg cyfranogwyr, sy’n esbonio pam bod y nifer o gyrsiau a gynhaliwyd yn is na’r targed o 18. Roedd y cyrsiau yn cynnwys: cymorth cyntaf, hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, hylendid da, gwaith llaw, delio ag unigolion heriol, egwyddorion chwarae a gweithdy gramadeg Cymraeg. Mae’r adborth i’r cyrsiau hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda hyfforddeion yn teimlo bod y cyrsiau yn cynnig awyrgylch croesawgar a diogel, a chanran uchel yn derbyn achrediad, gwybodaeth, sgiliau a hyder. Hefyd, yn holl bwysig, mae nifer o’r cyrsiau hyn ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf.
“Mae Menter Caerdydd yn wasanaeth arbennig o dda. Mae’n creu cyfleoedd gwych i bobl Cymraeg ddod ynghyd i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gwersi Iwcalili yn wych! Rwy’n caru bob nos Lun”
Proffil Cymraeg Menter Caerdydd Yn ystod y flwyddyn comisiynodd Menter Caerdydd Nico (iaith) Cyf i greu Proffil Cymraeg newydd i Gaerdydd. Mae’r proffil yn archwilio safle’r iaith Gymraeg yn y Ddinas a sut mae siaradwyr Cymraeg yn yr ardal yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu cymunedau. Y nod oedd edrych ar gyd-destun yr iaith Gymraeg heddiw ac argymell ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn cynorthwyo Menter Caerdydd i gynllunio’n strategol a gweithredu fel partner dylanwadol wrth i sefydliadau wynebu diwallu’r gofynion statudol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yn eu hardaloedd. Mae’r proffil hwn yn seiliedig ar ystadegau Cyfrifiad 2011; Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 Llywodraeth Cymru; Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2015 Llywodraeth Cymru; Defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr Astudiaeth Ymchwil Cymunedol, Prifysgol Bangor 2015; gyda chyfeiriad hefyd at ganlyniadau arolwg a gynhaliwyd yn ardaloedd Mentrau yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod Chwefror a Mawrth 2016, gyda 733 o ymatebion. Mae’r casgliad y mae’r proffil hwn wedi’i greu yn cynnwys; • ystadegau allweddol o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal • y prif ofynion statudol sy’n berthnasol i bartneriaid allweddol Menter • nifer o ddarganfyddiadau ymchwil ar batrymau defnydd o’r iaith Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg yn yr ardal • canlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith hwn sy’n amlygu profiadau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg yn yr ardal
“Rwy’n credu bod y gwasanaethau a gynigir gan Menter Caerdydd yn wych. Bydden i’n hoffi pe baen nhw cystal mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Fel dysgwr rwy’n credu bod dull y Fenter o wneud gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawer mwy apelgar na dysgu Cymraeg trwy feddwl a siarad yn ddiddiwedd am ddysgu Cymraeg (sy’n gallu digwydd mewn ‘gwersi’ ffurfiol).”
Mae gan Gaerdydd 36,735 o siaradwyr Cymraeg, sef 11.1% o’r boblogaeth
Mae’r negeseuon allweddol sy’n deillio o brofiadau siaradwyr Cymraeg, ynghyd â’r data ffurfiol, yn amlygu nifer o feysydd sydd angen mynd i’r afael â hwy, er enghraifft: • yr angen am fwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’u Cymraeg y tu allan i’r ysgol ac ar ôl gadael yr ysgol (o hamdden i’r gweithle) • yr angen am fwy o brofiadau i godi hyder a defnydd o’r iaith ymysg dysgwyr a’r siaradwyr Cymraeg hynny nad oes ganddynt lawer o hyder, os o gwbl, i ddefnyddio’u Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd
Er bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ynddo’i hun yn rhan holl bwysig o’r ymdrech i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, ystyrir bod defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle yn hanfodol er mwyn symud tuag at gymdeithas ddwyieithog. • yr angen i gyflogwyr gydnabod gwerth yr iaith i’w gweithleoedd, gan sicrhau cefnogaeth i siaradwyr Cymraeg • yr angen i sicrhau bod yr iaith yn fwy amlwg yn y gymuned er mwyn hyrwyddo defnydd ehangach – yr iaith lafar ac yn weledol Mae gwaith Menter Caerdydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o’i chymunedau ac anghenion ei chymunedau, ac mae’r Fenter yn gallu ymdrin â’r anghenion hynny mewn ffordd greadigol a hyblyg. Mae gallu Menter Caerdydd i ymateb yn arloesol i anghenion lleol trwy brojectau â phartneriaid hen a newydd, yn cael ei adlewyrchu’n glir yng Ngŵyl Tafwyl a datblygiad yr Hen Lyfrgell.
‘Yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, y sin diwylliannol a chymdeithasol yn gymharol iach’
Yn ôl yr Arolwg Defnydd Iaith roedd bron i dri chwarter o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn credu bod eu cyflogwr yn gefnogol o ran defnyddio’r Gymraeg o gymharu â 41% yn y sector preifat
14
“Rwy’n credu bod Menter Caerdydd yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr wrth gynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg. Diolch!”
15
Ffynonellau Cyllid Allanol
Yr Hen Lyfrgell Pan agorodd Yr Hen Lyfrgell (Y Ganolfan Ddiwylliannol Gymreig) yn Chwefror 2016 yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid cyfalaf gan Gyngor Caerdydd i Lywodraeth Cymru, cafwyd, am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, bartneriaeth gydweithredol rhwng partneriaid Cymraeg (dan arweinyddiaeth Menter Caerdydd), Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Stori Caerdydd. Mae’r Hen Lyfrgell yn dod â grŵp o sefydliadau partner ynghyd sydd wedi ymrwymo i weld yr iaith Gymraeg yn tyfu yn ein prifddinas. Yn cynrychioli amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys sectorau preifat, cyhoeddus, nid er elw, addysg, cyfryngau, amgueddfa a chymunedol, mae’r partneriaid wedi gweithio mewn cydweithrediad agos ar weledigaeth a rennir.
Mae Menter Caerdydd yn ceisio cymorth ariannol yn rhagweithiol o amrywiaeth o ffynonellau i gefnogi ei waith. Heb y cymorth hwn ni fydden ni’n gallu cynnig yr amrywiaeth o brofiadau a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn. Cynigiwyd y prif grantiau canlynol;
Llywodraeth Cymru
Hyrwyddo grant Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
Projectau gan gynnwys grant Bwrw Mlaen
Llywodraeth Cymru
Projectau gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf
Cyngor Dinas Caerdydd
Menter Caerdydd yw’r prif bartner rhwng partneriaid yr iaith Gymraeg a’r Cyngor a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am gynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n denu pobl o bob oed a chefndir. Mae’r digwyddiadau hyn yn ystod blwyddyn gyntaf y Ganolfan wedi bod yn llwyddiannus ac wedi llwyddo i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd.
Cyngor Dinas Caerdydd
Projectau sy’n cefnogi Gwasanaethau Hamdden Cymraeg
Cyngor Dinas Caerdydd
Projectau sy’n cefnogi Darpariaeth Gofal Gwyliau Cymraeg
Prif nod yr Hen Lyfrgell yn ystod y flwyddyn i ddod mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yw creu canolfan groesawgar yng nghanol y ddinas sy’n dathlu, hyrwyddo a hwyluso’r iaith fel iaith fyw i holl ddinasyddion ac ymwelwyr Caerdydd.
Cyngor Dinas Caerdydd
Projectau sy’n cefnogi cyrsiau hyfforddiant achrededig
Cyngor Dinas Caerdydd
Project sy’n cefnogi Cyfleoedd Hamdden yn ystod y Gwyliau
Cyngor Celfyddydau Cymru
Project sy’n cefnogi Tafwyl
Cronfa Treftadaeth y Loteri
Project sy’n cefnogi Tafwyl
Cronfa Arian i Bawb yLoteri
Projectau sy’n cefnogi Tafwyl
Cwmni Celfyddydau a Busnes
Projectau sy’n cefnogi Tafwyl
Maent oll am weld canolfan fodern o ansawdd uchel mewn lleoliad hanesyddol sy’n ceisio denu cynifer o’r cyhoedd â phosibl i ymgysylltu â’r iaith Gymraeg ar bob lefel. Bydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ddefnyddio, dysgu, ymarfer a chlywed y Gymraeg mewn lleoliad cymdeithasol a chynhwysol. Bydd y Ganolfan yn gartref i far a chaffi agored, siop Gymreig, ystafelloedd dysgu, Stori Caerdydd, gofod rhyngweithiol i blant a phobl ifanc, gofod ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd, ardal arddangos a pherfformio, a gofod at ddefnydd grwpiau cymunedol.
Projectau sy’n cefnogi Chwarae Mynediad Agored
Noddwyr Rydyn ni’n chwilio’n barhaus am bartneriaid newydd a all ein cefnogi ni i drwy gymorth ymarferol neu ariannol. Mae’r manteision y gallwn eu cynnig yn cynnwys cyhoeddusrwydd yn ein digwyddiadau a brandio ar amryw ddeunyddiau. Rydym yn ddiolchgar i’r sefydliadau canlynol am eu cymorth yn ystod y flwyddyn:
16
Prifysgol Caerdydd
Bay Resourcing
Canolfan Gôl
BBC Cymru Wales
Thomson Darwin
Cyfieithwyr Cymru
S4C
Coleg Caerdydd a’r Fro
Mela Media
Carlsberg
Boom Cymru
Siop y Felin
Capital Law
Miri Mawr
Clwb Ifor Bach
Equinox Communication
Adnod
Canolfan y Mileniwm Cymru
Park Grove 17
Gwybodaeth Ariannol – Crynodeb Blwyddyn yn dod i ben 5 Ebrill 2016 Mae’r ffigurau canlynol wedi’u cymryd o ddatganiadau ariannol llawn Menter Caerdydd ar gyfer y flwyddyn a oedd yn dod i ben 5 Ebrill 2016, mae’r archwilwyr, Watts Gregory LLP, oedd â barn bendant, wedi cadarnhau bod y crynodeb hwn yn gyson â’r adroddiad llawn, sydd ar gael gan Menter Caerdydd ar gais. Cyllid Cyllid Cyfanswm Cyfanswm Anghyfyngedig Cyfyngedig 2016 2015 Incwm Grantiau, cyfraniadau a nawdd
136,061
335,109
471,170
506,464
Gweithgareddau elusennol
205,385
-
205,385
202,967
Llog cyfrif cadw 7 - 7 29 _______ _______ _______ _______ 341,453 335,109 676,562 709,460 Llai: Gwariant ar gyflogau, gorbenion a gweinyddu project (324,525) (328,359) (652,884) (710,517) Net income/(expenditure) 16,928 6,750 23,678 (1,057) Cyllid a ddygwyd ymlaen
106,691
-
106,691
107,748
Cyllid a gariwyd ymlaen
123,619
6,750
130,369
106,691
Mae’r cyllid o £130,369 yn cynnwys asedau sefydlog, dyledwyr ac arian yn y banc o £214,829 llai credydwyr tymor byr o £84,460.
Menter Caerdydd, 029 2068 9888 42 Lambourne Cres, menter@caerdydd.org Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG mentercaerdydd.cymru 18
Cwmni Cyfyngedig drwy warrant 4576565, Elusen Gofrestredig 1098606