GWYL GYMRAEG CAERDYDD CARDIFF’S WELSH LANGUAGE FESTIVAL 11-18 GORFFENNAF / JULY 2014
CEFNDIR / ABOUT US Tafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd yn 2006 i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd Tafwyl 2013 yn lwyddiant ysgubol gyda dros 14,000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu’r Gymraeg dros wythnos yr ŵyl. Eleni byddwn yn adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl ac unwaith eto yn cynnal prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Orffennaf y 12fed. Bydd Gŵyl Tafwyl yn parhau am weddill yr wythnos yn dilyn y ffair hyd at nos Wener Gorffennaf y 18fed. Gyda digwyddiadau llenyddol, hanesyddol, gigs, comedi, chwaraeon, dramâu, digwyddiadau i blant meithrin, a gweithgareddau i ddysgwyr, yn sicr bydd rhywbeth at ddant pawb!
2
Tafwyl is the annual festival established by Menter Caerdydd in 2006 to celebrate the Welsh language in Cardiff. Tafwyl 2013 was a phenomenal success, with over 14,000 people coming together to celebrate the Welsh language over the week-long festival. This year, we will be building on the success of the festival, and once again will be holding the main event at Cardiff Castle, on the 12th of July. Tafwyl Festival will continue for the rest of the week following the fair, until Friday 18th of July. With literary, historical and comedy events, dramas, gigs, sports, Welsh learners and kids events, there really is something for everyone at Tafwyl Festival!
“Parti mawr Cymraeg â gwahoddiad i bawb yn y ddinas yw Tafwyl, gyda cherddoriaeth, llenyddiaeth, bwyd bendigedig, cymdeithasu a chwaraeon lond y castell i ddenu pobl Caerdydd ynghyd.” Llenyddiaeth Cymru “Tafwyl is a huge Welsh party, open to everyone in the city, with the castle filled to the brim with music, literature, delicious food, socialising and sport to attract and bring Cardiff people together.” Literature Wales
3
LLYSGENHADON / AMBASSADORS MATTHEW RHYS “Mae Tafwyl yn ŵyl i bawb, yn ddathliad o’r iaith Gymraeg. Mae hefyd yn ŵyl bwysig am ei fod nid yn unig yn hyrwyddo’r Gymraeg ond hefyd yn chwalu’r rhwystrau rhwng siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg. Mae’n wych gweld yr ŵyl yn tyfu bob blwyddyn.” “Tafwyl is a festival for everyone, a true celebration of the Welsh language. It’s also a very important festival because it not only promotes the Welsh language but also breaks down barriers between Welsh speakers and non-Welsh speakers. It’s just wonderful to see it growing every year.” ALEX JONES “Mae’n anrhydedd mawr i dderbyn rôl llysgennad ar gyfer Tafwyl 2014 - a dwi mewn cwmni da gyda fy nghyd lysgenhadon Matthew, Huw a Rhys. Fel siaradwr Cymraeg balch, rwy’n edrych ymlaen at weld ein hiaith yn cael ei dathlu mewn steil drwy ystod eang o weithgareddau ar draws ein prifddinas.” “It’s such an honour to take on the role of ambassador for Tafwyl 2014 – and I’m in such great company with my fellow ambassadors Matthew, Huw and Rhys. As a proud Welsh speaker I look forward to seeing our language being celebrated in style through a diverse range of activities across our capital city.”
4
HUW STEPHENS “Mae cymaint o wyliau bywiog ac amrywiol yng Nghaerdydd bellach ac mae Tafwyl wedi datblygu i fod yn un o’r uchafbwyntiau. Rwy wedi fy ngeni a magu yng Nghaerdydd, ac mae’n wych gweld fy mamiaith yn cael ei dathlu gan y ddinas gyfan a Ffair Tafwyl yn y castell yn rhan ganolog o hyn.” “Cardiff has developed its own vibrant and varied festival scene over recent years and Tafwyl has now firmly established itself within that scene. As a born and bred Cardiffian, it’s great to see my mother tongue being so widely celebrated by the whole city and the Tafwyl Fair taking centre stage at the castle” RHYS PATCHELL “Dwi mor falch i fod yn rhan o Tafwyl. Mae’n ŵyl rad ac am ddim i bawb yng Nghaerdydd sy’n siarad Cymraeg neu beidio. Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio a mwynhau’r iaith Gymraeg a dysgu mwy amdani. Bydd llwythi i’w wneud yn Ffair Tafwyl eleni - beth bynnag yw eich diddordeb.” “I’m very proud to be part of Tafwyl. It’s a free festival for everyone in Cardiff to enjoy - whether you speak Welsh or not. It’s a great opportunity to use, enjoy Welsh and learn more about the language. There’s loads to do at the Tafwyl Fair whatever your interests.
5
FFAIR TAFWYL TAFWYL FAIR Dydd Sadwrn : 12 Gorffennaf 2014 Castell Caerdydd 11.00 - 21.00 / MYNEDIAD AM DDIM! Saturday: 12th July 2014 Cardiff Castle 11.00 - 21.00 / FREE ENTRY!
6
Hoffai Menter Caerdydd gydnabod cefnogaeth hael Prif Noddwyr Tafwyl, Prifysgol Caerdydd. Menter Caerdydd gratefully acknowledges the kind support of Tafwyl’s Main Sponsors, Cardiff University
7
PRIF LWYFAN / MAIN STAGE Cefnogir gan BBC Radio Cymru / Supported by BBC Radio Cymru BRYN FÔN A’R BAND Mae Bryn Fôn, un o gewri’r byd adloniant Cymraeg, yn perfformio ar lwyfan Tafwyl am y tro cyntaf eleni. Daeth i amlygrwydd gyntaf fel canwr Crysbas, yna’n ddiweddarach fel prif ganwr Sobin a’r Smaeliaid, ac erbyn hyn, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Cymru gyda’i fand ei hun. / No history of the Welsh rock scene would be complete without Bryn Fôn. As front-man of Crysbas and Sobin a’r Smaeliaid, he helped make the scene popular for the masses, and nowadays he fills venues the length and breadth of Wales with his own band. CANDELAS Gorwelion / Horizons Pumawd o Ogledd Cymru sy’n chwarae cerddoriaeth roc amgen gyda dylanwad y blues. / Alternative five piece band from North Wales, creating rock music with a hint of blues. YR ODS Wedi ffurfio yn 2006, mae’r Ods bellach yn un o fandiau amlycaf y SRG, ac ar ôl blwyddyn brysur y llynedd yn rhyddhau albwm newydd, gigio hyd a lled y wlad, o Maes B i Festival No.6 a Greenman, mae’n bleser croesawu’r band yn ôl i lwyfan Tafwyl eleni. / After forming in 2006, the 5-piece guitarsynth-pop are now one of the most prominent bands of the Welsh Music Scene, and after a busy year last year with the release of a new album it’s a pleasure to welcome the band back to the Tafwyl stage this year. ENDAF GREMLIN Endaf Gremlin yw’r grŵp a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer Maes B y llynedd, gan ddwyn ynghyd aelodau o rai o’r bandiau mwyaf cyffrous ac arloesol yng Nghymru. / Endaf Gremlin are the specially-formed supergroup created for last year’s Maes B, bringing together members of some of the most exciting and innovative acts in Wales. 8
9
Y BANDANA Ffurfiwyd y band yn haf 2007 ac ers hynny mae’r band wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill sawl gwobr yng ngwobrau Selar a pherfformio ar lwyfannau ledled Cymru. / The band from Caernarfon are known for combining humorous lyrics with catchy melodies. YR EIRA Dyma fand cyffrous iawn sydd yn amlwg â thalent naturiol ar gyfer ‘sgwennu caneuon - pop bachog ar ei orau. / This young band from Bangor is going from strength to strength, releasing 2 new singles on the label I Ka Ching and gigging all over Wales. MYNEDIAD AM DDIM Eleni, mae’r grŵp Mynediad am Ddim yn dathlu ei benblwydd yn 40, a dros gyfnod o bedwar degawd o berfformio cyson, mae’r band wedi diddanu miloedd lawer mewn nosweithiau, gwyliau a chyngherddau dros y blynyddoedd. / Mynediad am Ddim are one of the best Welsh-language folk bands around. Their mix of traditional material coupled with a unique sense of humour has entertained audiences for almost 40 years. BOB DELYN A’R EBILLION Mae cerddoriaeth Bob Delyn a’r Ebillion yn cyfuno reggae a dylanwadau roc gyda cherddoriaeth werin Gymreig draddodiadol, ac mae eu caneuon
10
yn siwr o’ch gwneud i ddawnsio. / Bob Delyn a’r Ebillion are a folk-rock group from Wales, singing both in Welsh and Breton. Fronted by the Prifardd Twm Morys, Bob Delyn a’r Ebillion played a major part in the Welsh folk revival of the early 1990s. KOOKAMUNGA Band 10-darn sy’n chwarae caneuon ffync, jazz a ska. Mae’r band yn hynod gyffrous ac yn siwr o gael pawb yng Ngŵyl Tafwyl ar eu traed! / This exciting new brass heavy and hammond led ten piece funk band has exploded onto the music scene, thrilling audiences and packed venues. They’re sure to get everyone at the festival on their feet! STWNSH Allwch chi ddim dianc rhag Stwnsh! Digonedd o hwyl gwallgo gyda chyflwynwyr y rhaglen. / You can’t escape from the Stwnsh crew! Lots of silly fun with the Stwnsh presenters. Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C
CYW Dewch i gael hwyl wrth ganu a dawnsio gyda Gareth ac Einir o Cyw! / Lots of fun, singing and dancing with Gareth and Einir from Cyw! Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C
11
LLWYFAN ACWSTIG / ACOUSTIC STAGE Noddir gan Clwb Ifor Bach / Sponsored by Clwb Ifor Bach STEVE EAVES Blues yw prif ddylanwad cerddorol Steve Eaves, a gyda chymysgedd o jazz, roc a gwerin yn ei berfformiadau byw, ynghyd a’i eiriau gwych, chewch chi’m o’ch siomi! / Blues has always been Steve Eaves’ main musical influence, and with added hints of jazz, rock and folk in his performances all finely finished with his poetical lyrics, you are surely in for a treat. AL LEWIS Mae Al Lewis yn mynd o nerth i nerth, o fynd ar daith gyda Jools Holland, i berfformio yn Royal Albert Hall, a chael Gary Barlow yn trydar am ei sengl newydd i 3 miliwn o ddilynwyr! / Al Lewis is going from strength to strength, from going on tour with Jools Holland, to performing at the Royal Albert Hall, to having Gary Barlow tweet his single to 3 million followers! PLU - Gorwelion / Horizons Brawd a dwy chwaer – Elan, Marged a Gwilym Rhys o ardal Eryri yw’r grwp Plu, yn chwarae cerddoriaeth werin amgen gyda dylanwadau canu gwlad ac Americana. / Formed of sibling trio Elan, Marged and Gwilym Rhys from Snowdonia, the band play alternative folk music with hints of country/Americana. GARETH BONELLO Mae llais gonest a thyner Gareth Bonello yn cyd-fynd yn berffaith gyda’i arddull gitâr arbenigol, ac mae e’n tynnu ar elfennau o gerddoriaeth a llên gwerin Cymreig traddodiadol i greu cerddoriaeth werin fodern. / Specialising in acoustic instruments, Gareth draws on elements of traditional Welsh music and folklore to create modern folk music.
12
13
KIZZY CRAWFORD – Gorwelion / Horizons Enillodd Kizzy Frwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013, ac ers hynny mae’r gantores wedi cael cydnabyddiaeth am ei gwaith ar draws Cymru a thu hwnt gyda’i cherddoriaeth yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar BBC Radio Wales. / Seventeen year old Kizzy Crawford’s solo career began just two years ago, and in that time, Kizzy has developed an increasing sophistication to her songwriting and performance, and has performed at WOMEX, London Jazz, Sŵn Festival, and supported Newton Faulkner. GORWELION / HORIZONS Perfformiad gan westai arbennig iawn… / A secret performance from a very special guest… GRETA ISAAC Cantores a chyfansoddwraig leol sydd ag aeddfedrwydd cerddorol ymhell y tu hwnt i’w hoed. Mae Greta yn cyfansoddi a chanu caneuon gonest yn llawn harmoniau cyfoethog. / Local singer-songwriter with a musical maturity far beyond her age, composing songs that are honest and harmonically rich. CHRIS JONES - Gorwelion / Horizons Canwr, chwaraewr gitâr a bouzouki a baledwr gwerin cyfoes yw Chris Jones. / Chris Jones is a singer-songwriter, guitar and bouzouki player and contemporary Welsh folk balladeer. ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU - Y TRWBZ Mi fydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 2014, Y Trwbz, yn agor y perfformiadau cerddorol ar y Llwyfan Acwstig. / The winners of this year’s C2 Battle of the Bands competition, Y Trwbz, will be opening the musical performances on the Acoustic Stage.
14
LLWYFAN Y PORTH Noddir gan Ganolfan Mileniwm Cymru / Sponsored by Wales Millennium Centre Am y tro cyntaf eleni bydd llwyfan perfformio y tu allan i Gastell Caerdydd fel rhan o’r ŵyl, diolch i gyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru. / For the first time this year there will be a performance stage outside Cardiff Castle as part of the festival, thanks to additional funding from the Arts Council of Wales and support from Wales Millennium Centre. Ymysg y perfformwyr bydd / Amongst the performers are... WONDERBRASS Band anferth o 25 o gerddorion swnllyd yw Wonderbrass. Mae’r band o Gaerdydd yn chwarae cymysgedd o jazz, ska a funk ac yn dod â hwyl i gynulleidfaoedd ledled y wlad. / Wonderbrass are a 25 piece ‘explosion of sound’ from Cardiff, bringing a mixture of New Orleans jazz, ska, funk and fun to audiences nationwide.
15
CWPWRDD NANSI Bydd Cwpwrdd Nansi yn cydlynu sesiwn werin unigryw ar gyfer Tafwyl gan ddod â chriw o gerddorion a dawnswyr at ei gilydd i gyflwyno perfformiad hwyliog gan gyflwyno’r gorau o’r byd gwerin traddodiadol a chyfoes Cymreig. / Cwpwrdd Nansi are curating a unique folk session for Tafwyl, bringing together a group of talented musicians and dancers to present a fun performance of traditional and contemporary Welsh folk. BAND DRYMIAU DUR YSGOL FITZALAN / FITZALAN SCHOOL STEEL DRUM BAND Criw talentog Ysgol Fitzalan fydd yn ychwanegu awyrgylch carnifal i’r dydd gyda’u perfformiad ar y drymiau dur. / Fitzalan’s talented crew will add to the carnival vibe with their steel pan drum performance. Listen out for a few traditional Welsh pieces mixed in with their Caribbean sound. LONELY HEARTS RUGBY CLWB Bydd criw o fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dod ag ychydig o jazz i’r ŵyl eleni. Mae’r coleg yn addysgu rhai o’r myfyrwyr mwyaf talentog o bob rhan o’r byd felly bydd gwledd o gerddoriaeth jazz i’ch croesawu ar Heol y Castell. / A group of Royal Welsh College of Music and Drama students and graduates will be adding a bit of jazz to the festival this year. The college teaches some of the most talented music students from all over the world so be ready to be welcomed by a feast of jazz on Castle Street. BAND PRES MELINGRUFFYDD / MELINGRIFFITH BRASS BAND Band Pres Melingriffith ydy un o’r bandiau hynaf yng Nghymru, a’i wreiddiau yn ymestyn yn ôl i gyfnod Napoleon! Mae’r grŵp yn mynd o nerth i nerth, ac mae yna bump band i gyd. Mae’r band yn gyfuniad o hen bennau a nifer o bobl ifanc dalentog. / Melingruffudd Brass Band is one of Wales’s oldest bands with its roots stretching back to Napoleon’s era. The band is going from strength to strength, and there are five bands in all - a combination of old heads and a number of talented youngsters.
16
CERDDWN YMLAEN Cerddwn Ymlaen yw’r daith gerdded 200 milltir ar draws Cymru a arweinir gan y tenor Rhys Meirion. Bydd Cerddwn Ymlaen 2014 yn digwydd o’r 5ed12fed o Orffennaf, gan ddechrau o Barc Eirias ym Mae Colwyn a gorffen yn Tafwyl. Bydd 18 o gerddwyr craidd, gan gynnwys rhai enwau mawr o fyd adloniant a chwaraeon yn cymryd rhan yn y daith - i gyd er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Y llynedd cododd y criw dros £150,000 gyda chyfanswm o dros £250,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’r gobaith yw casglu hyd yn oed mwy eleni. Dewch i’r castell i groesawu’r cerddwyr blinedig wrth iddynt gyrraedd pen eu taith! Cerddwn Ymlaen - which means ‘Walk On’ - is a 200 mile walk across Wales over eight days led by tenor Rhys Meirion. Cerddwn Ymlaen 2014 takes place from July 5th – 12th, starts from Eirias Park in Colwyn Bay and finishes at Tafwyl. 18 walkers including some big names from the world of entertainment and sport will embark on the walk – all in aid of Wales Air Ambulance. Last year the crew raised over £150,000 (bringing the total over the last two years to over £250,000), and hope to raise even more this year. Come to the castle to welcome the tired walkers as they reach the end of their journey!
17
BYW YN Y DDINAS / CARDIFF LIFE Cefnogir gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth / Supported by the Heritage Lottery Fund
Eleni am y tro cyntaf bydd Pabell ‘Byw yn y Ddinas’ yn Ffair Tafwyl. Diolch i gyllid gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth, bydd sesiynau ar hanes a threftadaeth Caerdydd yn cael eu cynnal drwy’r prynhawn, gyda chadeiryddion yn holi paneli, a chyfle i chi ofyn eich cwestiynau eich hun ar ddiwedd pob sesiwn. Dylai fod rhywbeth at ddant pawb yma, gyda sesiynau ar bynciau yn amrywio o safle Caerdydd fel prifddinas i’r rhwydwaith o dwneli ac afonydd sy’n cuddio dan strydoedd y ddinas; o fywyd hoyw Caerdydd i lenyddiaeth a cherddoriaeth y ddinas gyda set acwstig gan Gwenno. Bydd hyn i gyd yn digwydd mewn yurt glyd a chartrefol, fydd yn cael ei addurno gan waith celf wedi ei greu gan ddisgyblion rhai o ysgolion Caerdydd. Y lle perffaith i ymlacio tra’n gwrando ar drafodaeth ddifyr – ac efallai gyfrannu ati eich hun. This year for the first time Tafwyl will host a ‘Cardiff Life’ tent. Thanks to funding from the Lottery’s Heritage Fund, sessions on Cardiff’s history and heritage will be held throughout the afternoon. In each session a chairperson will be asking questions to a panel of three, with an opportunity for you to ask your own questions as well. There should be something for everyone, with sessions on topics ranging from Cardiff’s position as capital city to the network of tunnels and rivers that run under the city streets; from gay life in Cardiff to the city’s literature and music scenes with an acoustic set from Gwenno. This will all take place in a cosy and intimate yurt, which will feature artwork by pupils from some of Cardiff’s schools on the wall. The perfect place to relax whilst listening to a stimulating discussion. Simultaneous translation will be available in every session.
18
LLENYDDIAETH / LITERATURE Noddir gan Mela Media / Sponsored by Mela Media Bydd Pabell Llenyddiaeth Cymru yn llawn gweithgareddau, sesiynau a gweithdai llenyddol i blant, pobl ifanc a’r rhai hŷn! Ymhlith yr awduron a’r beirdd talentog fydd Meleri Wyn James, Llŷr Gwyn Lewis, a Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog. Bydd Dona Direidi yn arwain amser stori, a bydd Huw Aaron yn cynnal gweithdy straeon stribed. Bethan Mair fydd yn cyfweld ag awduron ifanc y Brifddinas- Casia Lisabeth ag Anni Llŷn, ac Ail Symudiad fydd yn gorffen y diwrnod gyda lansiad eu llyfr newydd. The Literature Wales tent will be full of activities, sessions and literary workshops for children, young people and the older ones! Amongst the talented authors and poets are Meleri Wyn James, Llŷr Gwyn Lewis and Aneirin Karadog, Wales’ Children’s Poet. TV star Dona Direidi will be leading a storytime session, and illustrator Huw Aaron will be holding a comic strip workshop. Bethan Mair will be interviewing young up-and-coming authors from the city, and iconic Welsh band Ail Symudiad will be launching their new book to end the day.
19
CERDD / MUSIC Noddir gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol / Sponsored by Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Bydd Cerdd Gymunedol Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o weithdai drwy gydol y dydd fel rhan o’u prosiect hir sefydlog Ciwdod. Bydd cyfle i greu cerddoriaeth ddigidol neu i roi cynnig ar ddrymio o Orllewin Affrica, neu dewch i’r gweithdai cerddoriaeth i brofi sut beth yw bod mewn band - dysgwch sut i ysgrifennu caneuon a jamio ochr yn ochr â rhai o’u cerddorion arbenigol. Gallwch hefyd ymuno â’r Gerddorfa Jync drwy greu offerynnau eich hun i fynd adref gyda chi, gan ddefnyddio deunyddiau sgrap ailgylchu. Community Music Wales will be presenting a diverse programme of workshops throughout the day as part of their long standing project Ciwdod. There will be an opportunity to create digital music or try your hand at West African drumming. Or why not try out the rock band workshop so you can experience what it’s like to be in a band - learn how to write songs and jam alongside some expert musicians. You can also join in the Junk Orchestra by creating your very own instruments using recycled junk, which you can keep and take home with you.
20
ARDAL CHWARAE BWRLWM! BWRLWM! PLAY ZONE Noddir gan Boom Plant / Sponsored by Boom Plant Dewch draw i greu, chwarae a mwynhau!
Come on over to create, play and get messy!
• Gweithdai Bomiau Hadau • Gweithdai Bathodynnau Boteli • Beic Bybls • Adeiladu Caerdydd Cardfwrdd • Adeiladu Den • Gweithdai Sgrap • Peintio Wynebau • Gweithdai Trapîs • Gweithdai Sgiliau Syrcas
• Seed Bomb Workshops • Bottle Top Badges Workshops • Bubble Bike • Cardboard Cardiff Building • Den Building • Scrap Material Crafts Workshops • Face Painting Yurt • Trapeze Workshops • Circus Skills Workshops
21
CWTSH SI-LWLI / SI-LWLI BABY BELL TENT I’r plant meithrin bydd gweithgareddau trwy gydol y dydd wedi eu cydlynu gan Meithrinfa Si-Lwli. Dewch i fwynhau sesiynau creadigol, sesiynau stori, gweithdai garddio ac i roi cynnig ar sesiwn tylino babi. Bydd cyfle hefyd i ddianc o fwrlwm yr ŵyl yn y gornel ymlacio – lle bydd modd bwydo a newid mewn man tawel. For nursery children there will be activities throughout the day co-ordinated by Si-Lwli Nursery. Let your baby get creative, enjoy story time sessions, den building workshops and gardening sessions. There will also be an opportunity to get away from the hustle and bustle of the festival in the relaxation corner where you will be able to try baby massage sessions, and feed and change your baby in quiet.
CHWARAEON / SPORTS Noddir gan Doodson Sports a RM Teamware / Sponsored by Doodson Sports & RM Teamware Chwaraeon yr Urdd sydd yn cydlynu amserlen llawn dop o sesiynau pêl droed, rygbi, golff, trampolin, athletau a hoci iâ. Bydd criwiau Clwb Pêldroed Dinas Caerdydd, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Y Gleision a Cardiff Devils yno – dewch i ddweud helo! The Urdd Sports Department are co-ordinating a full timetable of football, rugby, golf, trampoline, athletics and ice hockey sessions. Cardiff City FC, the FAW, WRU, Cardiff Blues and Cardiff Devils are all coming along to say hello and run a few workshops.
22
BWYD A DIOD / FOOD & DRINK Noddir gan Equinox Communications / Sponsored by Equinox Communications Dewch i flasu caws, gwin, cwrw, medd, cacennau a chynnyrch bwyd Cymreig yn ein Pabell Bwyd a Diod. Ymysg y sesiynau bydd demo pobi gyda Beca Lyne-Pirkis, sesiwn blasu caws a gwin gyda Deiniol ap Dafydd, gweithdy sut i fragu cwrw cartref gyda Tomos a Lilford, sesiwn blasu cig gydag Illtud Llyr Dunsford o gwmni Charcutier Ltd a sesiwn blasu Medd, Cwrw a Seidr Cymreig. Bydd ein cystadleuaeth Bake Off hynod boblogaidd yn dychwelyd hefyd diolch i nawdd gan Bws Caerdydd, gyda Beca Lyne-Pirkis (BBC The Great British Bake Off) a Nerys Howell yn beirniadu. I blant dan 11, mae cystadleuaeth pobi ac addurno 3 bigsed. Ar gyfer pobl ifanc o dan 16 mae cystadleuaeth pobi ac addurno 6 cupcake. Pobi torth cartref yw’r gystadleuaeth i oedolion, felly mae modd i chi ddefnyddio’ch dychymyg a chreu rhywbeth go arbennig! Bydd gwobr arbennig iawn i bob categori – sef te prynhawn i ddau yng Ngwesty moethus y Park Plaza, a the prynhawn siampên i ddau i’r oedolion. I gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ewch draw i www.tafwyl.com. Come and taste a selection of Welsh produce in our Food & Drink Marquee. Amongst the sessions are a baking demo with Beca Lyne-Pirkis, a cheese and wine tasting session with Deiniol ap Dafydd, a ‘How to Home-Brew’ workshop with Tomos & Lilford Brewery, a tasting demo with artisan charcuterie company Charcutier Ltd’s Illtud Llyr Dunsford, and a Welsh Mead, Cider and Beer Tasting session.
23
Our popular Bake Off competition returns thanks to sponsorship from Cardiff Bus, with guest judges Beca Lyne-Pirkis (BBC The Great British Bake Off) and Nerys Howell. The competition for under 11’s is to bake and decorate 3 biscuits, and the competition for under 16’s is to bake and decorate 6 cupcakes. For adults, the brief is to bake a homemade loaf so let your imagination run wild and create something special! For the winner of each category we have a special prize – afternoon tea for two at the beautiful Park Plaza Hotel (and for adults, a champagne afternoon tea for two!). You must register to compete at www. tafwyl.org.
24
DYSGWYR / WELSH LEARNERS Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn cydlynu pabell arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cewch fwynhau gyda’ch plant yn ystod sesiwn gerddorol Hei-di-Ho, clywed am raglen fentora Hywel Gwynfryn a dysgu mwy am Ferched y Wawr. Ymunwch â sesiwn holi ac ateb gydag actorion Pobol y Cwm a dewch i ddysgu am Hanes Caerdydd gyda Dr John Davies. Cewch ymlacio yn y prynhawn gyda cherddoriaeth gitâr gan Rhisiart Arwel. Bydd Emyr Llywelyn yn sôn am gwrs newydd ‘Iaith heb Waith’ a byddwn yn dathlu lawnsiad y llyfr newydd ‘Geirfa Graidd’ gyda Steve Morris a’r Lolfa. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r gantores Kizzy Crawford. Ymunwch â ni ar ddiwedd y dydd i fwynhau dawnsio gwerin gyda’r Twrch Trwyth. The Cardiff and Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre are co-ordinating a special tent for Welsh learners this year. Enjoy a musical session with your children during Hei-di-Ho, Hywel Gwynfryn will be talking about his new Welsh learners mentoring programme, and learn more about Merched y Wawr. Join the Q&A session with Pobol y Cwm actors and come and learn about the history of Cardiff with historian Dr John Davies. Emyr Llywelyn talks about his new course ‘Welsh Without Stress’ and we’ll celebrate the launch of Lolfa’s new book “Geirfa Graidd” with Steve Morris. There will also be an opportunity to meet singer Kizzy Crawford in a Q&A session. Relax in the afternoon with guitar music by Rhisiart Arwel and join us at the end of the day to enjoy a bit of folk dancing.
25
YSGOLION / SCHOOLS Noddir gan Bay Resourcing / Sponsored by Bay Resourcing Ymunwch yn hwyl y Babell Ysgolion gyda Elin Llwyd a chriw Stwnsh! Cewch eich diddanu gan gerddoriaeth, dramâu a dawns! Yn ogystal â pherfformiadau gan ysgolion Cymraeg y ddinas bydd Côr Plant Caerdydd, Academi Berfformio Caerdydd a Castachân yn perfformio. Come and join in the fun in the School’s Tent with Elin Llwyd and S4C’s Stwnsh presenters! A jam packed day of music, drama and dance! As well as performances by the city’s Welsh language schools, Côr Plant Caerdydd, Academi Berfformio Caerdydd and Castachân will also be performing.
BWTH LLUNIAU ‘GUEST WHO’ PHOTO BOOTH Stiwdio ffotograffiaeth unigryw yn darparu props doniol a’r gallu i argraffu delweddau ar unwaith! A unique mobile pop-up photography studio providing fun props and the ability to print out instant images!
CWTSH Y CELFYDDYDAU Unwaith eto eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru wedi dod at ei gilydd i raglennu digwyddiadau i’r teulu cyfan ar faes Tafwyl. Ynghyd â sesiynau blas ar Sherbets Sherman a Castachân, bydd gweithdai crefft, gweithdai sgriptio, a llawer mwy. Bydd croeso cynnes i bawb trwy gydol y dydd. Again this year, the Wales Millennium Centre, Theatr Genedlaethol Cymru and Sherman Cymru have come together to programme events for the whole family at Tafwyl. Come take part in Sherbets Sherman and Castachân taster sessions, arts and craft workshops, drop in scripting sessions, and much more. 26
PRIFYSGOL CAERDYDD / POBL CAERDYDD Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y teulu drwy gydol y dydd. Yn ogystal, bydd criw Pobl Caerdydd ac Y Dinesydd yno i helpu chi i gasglu eich profiadau o’r dydd - byddwch yn gallu lawrlwytho’r ap newydd Storini a dod yn ohebwyr am y dydd. Cardiff University will be offering a range of activities for the family throughout the day. In addition, Pobl Caerdydd and Y Dinesydd will be at the stand to help you collect your experiences of the day. You will be able to download a new app Storini and become reporters for the day.
CWMNI DAWNS WERIN CAERDYDD Tîm dawnsio gwerin swyddogol prif ddinas Cymru ydy Cwmni Dawns Werin Caerdydd, sydd wedi bod yn arddangos a datblygu diwylliant ein gwlad ers dros 35 mlynedd. Ers 1968, mae’r tîm wedi bod yn difyrru ac yn addysgu’r cyhoedd am gerddoriaeth a dawnsfeydd Cymru, gan drefnu amryw o ŵyliau. Dewch i fwynhau perfformiad dawns gan y criw ar faes Tafwyl. Cwmni Dawns Werin Caerdydd, the official Welsh folk dance team of Cardiff, have been demonstrating and developing the culture of our native land for over thirtyfive years. Since 1968, the team have been entertaining and educating people in Welsh music and dance, organising festivals and acting as ambassadors for Wales and Welsh culture. Come and enjoy a pop up performance by the crew at Tafwyl. 27
STONDINWYR / STALLS Bydd nifer o stondinau amrywiol yng Ngŵyl Tafwyl eleni, o stondinau bwyd a diod, i stondinau celf a chrefft. Dyma restr o stondinwyr eleni / There will be various stallholders at Tafwyl Fair this year, from food and drink stalls, to arts and crafts stalls. Here’s a full list of this year’s stallholders: Adra, Sioned a Nia, Tomos & Lilford, Y Lolfa, Pea, Grasi, Aerona, Silibili, Bodlon, Goetre Farm Preserves, Spotty Tree, Meinir Wyn Jones, Selar, Sadwrn, Eluned Glyn, Lora Wyn, Janglerins, Katie Barrett, Orielodl, Golwg, Draenog Design, Cwyrci Creative, Caws Cenarth, Dyfal Donc, Teithiau Tango/Teithiau Cambria, Rhiannon Art, Cyfarchion, Caban, Bacws Haf, Merched y Wawr, Charcutier, CymruTi a JacDo. Eleni mae cornel fwyd Tafwyl yn ŵyl yn ei hun. Mae gennym ystod eang o stondinau bwyd sy’n cynnig popeth o fwyd stryd Thai i fwyd môr ffres lleol. Dewis pa bryd i fynd amdano fydd y broblem fwyaf… / This year Tafwyl’s Street Food Corner is a little food festival in itself. We’ve got a huge range of food stalls offering everything from authentic Thai street food to fresh local seafood. Your only problem might be choosing which dish to go for…. • • • • • • • • •
Bangkok Cafe – Bwyd Thai / Thai Street Food Cafe Môr – Bwyd môr ffres / Fresh local seafood Parsnipship – Bwyd llysieuol a Fegan / Vegetarian & Vegan Food Blas ar Fwyd – Cynnyrch ffres Cymreig / Fresh Welsh produce Welsh Creperie Co. – Crempogau blasus melys a sawrus / Gourmet sweet and savoury crepes Slow Pig Street Food Co. - Prydau Cig oen a moch blasus / Tasty wholesome food from slow reared pigs and lamb Pop-ty Pizzas – Pitsas o bopty arbennig / Wood Fired Pizzas Fablas – Hufen Iâ a Sorbets / Artisan Ice Creams and Sorbets Brody’s Coffee Camper - Coffi ffres a chacennau cartref / Quality coffee and home-baked goodies
Yn ogystal bydd dau far yn gwerthu amrywiaeth eang o gwrw, gwinoedd, gwirodydd, diodydd meddal, coffi a the. Bydd bar ‘Syched’ arbennig yn gwerthu y gorau o Gymru / There will also be two bars with a large range of ales, lagers, wines, spirits, soft drinks tea & coffee. Our Syched Bar will be selling a range of Welsh ales.
28
CYFFREDINOL Cost: Mae mynediad i Ffair Tafwyl am ddim. Bydd rhai gweithgareddau yn codi ffi bach (a rhai lle bydd angen prynu tocynnau o flaen llaw), ond mae rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim. Os ydych am grwydro o amgylch y castell ei hun oddi ar faes Tafwyl bydd angen talu am docyn mynediad neu wneud cais am ‘Allwedd Castell Caerdydd’. Allwedd Castell Caerdydd: Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd gallwch wneud cais am Allwedd y Castell am un taliad o £5 yn unig sydd yna yn caniatáu mynediad am ddim i’r castell am dair blynedd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw holi yn Swyddfa Docynnau’r Castell gyda thystiolaeth eich bod yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd. Byddwch yn derbyn eich cerdyn Allwedd y Castell yn y fan a’r lle. Does dim angen i chi ddod â ffotograff gyda chi. Alcohol: Mae Tafwyl wedi trwyddedu ardaloedd penodol o lawnt y Castell, ac mae gennym ddau far eleni gyda llawer o gwrw, seidr, gwinoedd a gwirodydd lleol, fydd yn gadael digonedd o ddewis i chi! Ond ni fyddwch yn gallu dod â’ch alcohol eich hun ar y safle. Nid ydym yn trwyddedu ar gyfer hyn a bydd unrhyw un sy’n ceisio sleifio eu halcohol eu hunain heibio ein stiwardiaid cyfeillgar yn cael eu chwilio ac efallai bydd gofyn iddynt adael y safle. Bydd rhaid i gwsmeriaid sydd o dan 18 oed adael safle’r ŵyl os canfyddir eu bod ag alcohol yn eu meddiant. Ni chaniateir gwydr ar unrhyw ran o’r safle chwaith. Parcio: Ni fydd maes parcio arbennig ar gyfer Tafwyl - ond mae sawl lle o amgylch y castell i barcio. Amseroedd: Bydd maes Tafwyl yn agor am 11.00 ac yn cau am 21.00 Hygyrchedd: Mae safle Tafwyl ei hun yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhieni gyda chadeiriau gwthio. Ceir toiledau anabl ar y llawr cyntaf yn y caffi. Am fanylion hygyrchedd gweddill safle’r castell ewch i www.cardiffcastle.com Noder: Bydd ffotograffwyr a chriw ffilmio yn mynd o amgylch ffair Tafwyl. Fe fyddan nhw’n crwydro’r safle yn tynnu lluniau ac yn recordio. Os nad ydych am gael tynnu eich llun neu eich recordio, a wnewch chi nodi hynny wrth y ffotograffwyr/criw ffilmio os gwelwch yn dda.
29
GENERAL Cost: Entrance is free to Tafwyl Fair. Some activities will charge a small fee (and some require pre-booking) but most activities are free. If you want to visit the castle itself, away from the Tafwyl site, you will have to pay an entrance fee or make an application for a Cardiff Castle key Card (see below). Cardiff Castle Key Card: If you live or work in Cardiff you can apply for a Castle key Card for a one off payment of £5 – which then gives you free entry to the castle for 3 years. All you need is to show evidence at the Ticket Office that you live or work in Cardiff. You will receive your Castle Key Card with photo ID immediately. You don’t need to bring a photograph with you. Alcohol: Tafwyl has licensed certain areas of the Castle green, and we have two bars this year with lots of locally-sources beer, ales, ciders, wines and spirits that will leave you spoilt for choice! But please take note – you will not be able to bring your own alcohol onto the site. We are not licensed for this and anyone trying to sneak their own alcohol past our friendly stewards will be searched and may be asked to leave the site. Customers who are under 18 years old will be asked to leave the festival site if found in possession of alcohol. No glass will be allowed to be taken onto any part of the site either. Parking: There will not be a special car park for Tafwyl – but there are plenty of car parks around the castle. Times: Tafwyl Fair will open at 11.00 and close at 21.00. Accessibility: Tafwyl site is completely accessible to wheel chair users and pushchairs. Disabled toilets are located on the ground floor of the cafe. For accessibility details for the rest of the castle please visit www.cardiffcastle.com Please note: Photographers and a film crew will be at Tafwyl. They will be taking pictures of the festival and filming throughout the day. If you have any objections to them taking your picture or filming you, please let the photographers/film crew know on the day of the event.
30
31
WYTHNOS TAFWYL TAFWYL FRINGE Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrywio o gerddoriaeth fyw i ddramau byrion, o fwyty pop-up i ddigwyddiadau i blant meithrin. Gorffennaf 11 - 18 2014 | Lleoliadau Amrywiol A week long programme of Welsh language events will take place across the city as part of the Tafwyl Fringe Festival, ranging from live music to short plays, from a pop-up restaurant to children’s activities. July 11 - 18 2014 | Various Locations
32
©Dafydd Meurig
33
GWENER | FRIDAY 11.07.14 PEN-BLWYDD POENUS PETE Theatr Iolo sydd yn cyflwyno sioe newydd sbon i deuluoedd ac ysgolion... Pen-blwydd Poenus Pete! Comedi ddisglair, frathog a beiddgar sy’n edrych ar fywyd teuluol gan yr awdur adnabyddus Gary Owen. Dewch i’r parti cyn y perfformiad i fwynhau gweithgareddau difyr sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd sy’n dysgu Cymraeg. Addas i blant oedran 6+. Theatr Iolo present a brand new show for families and schools...Pen-blwydd Poenus Pete! A bright, bold sparkling comedy with an outrageous look at family dynamics from the acclaimed writer, Gary Owen. Come to the party before the performance to enjoy fun activities that are specially designed for families who are learning Welsh. Suitable for ages 6+. Lleoliad / Location: Chapter - Heol y Farchnad, Treganna | Market Road, Canton Amser / Time: 18.30 Cost: £7 - Swyddfa Docynnau Chapter / Chapter Box Office 029 2030 4400 / www.chapter.org
NEIL ROSSER A’R BAND + CATRIN HERBERT Gig agoriadol Gŵyl Tafwyl 2014 yng Nghlwb y Diwc gyda’r canwr a chyfansoddwr talentog o Abertawe Neil Rosser a’r gantores ifanc leol Catrin Herbert. / Tafwyl 2014’s opening gig in the Duke of Clarence, with performances from Swansea’s Neil Rosser and the young singer-songwriter from Cardiff Catrin Herbert. Lleoliad / Location: Clwb y Diwc / Duke of Clarence, 48 Clive Road, Treganna Amser / Time: 20.00 Cost: £8 o flaen llaw o Caban / £10 ar y drws | £8 in advance, tickets on sale at Caban / £10 on the door
34
SADWRN | SATURDAY 12.07.14 FFAIR TAFWYL | TAFWYL FAIR Gwybodaeth ar dudalennau 6 - 31 / Information on pages 6 - 31 Lleoliad / Location: Castell Caerdydd | Cardiff Castle CF10 3RB Amser / Time: 11.00 – 21.00 Cost: Am Ddim | Free Entry!
POP-TŶ @ TAFWYL Bwyty ‘pop-up’ diweddaraf Caerdydd. Dewch i fwynhau gwledd o flas a chwerthin mewn awyrgylch hudol, yng nghalon Pontcanna. Mae personoliaeth lliwgar a chreadigol y cogydd, Angharad Elias yn cael ei adlewyrchu mewn cyfres o brydau blasus ac unigryw. / Cardiff’s latest pop-up restaurant. Come and enjoy a feast of food and laughter in a magical atmosphere in the heart of Pontcanna. The colourful and creative spirit of chef Angharad Elias is reflected in a menu of delicious and unique meals. Lleoliad / Location: Eglwys St Catherine’s / St Catherine’s Church, Pontcanna Amser / Time: 19.30 | Cost: £35 Am fwy o wybodaeth cysylltwch â / For more information contact poptycaerdydd@gmail.com
35
CLWB IFOR BACH YN CYFLWYNO | PRESENT : SŴNAMI / YWAIN GWYNEDD / Y REU Pa ffordd well i orffen diwrnod llawn o gerddoriaeth byw yn y Castell na chrwydro dros y ffordd i Glwb Ifor Bach. Yn perfformio bydd y band indipop bywiog Sŵnami, Ywain Gwynedd, cyn-aelod y band roc Frizbee, a’r band electronig amgen Y Reu. / What better way to end a day full of live music in the Castle than by wandering across the road to Clwb Ifor Bach, where lively indie–rock band Sŵnami, Ywain Gwynedd and the alternative electronic band Y Reu will be performing. Lleoliad / Location: Clwb Ifor Bach, 48 Womamby St Amser / Time: 21.00 Cost: £7.00 – Tocynnau ar gael o Ticketweb a Spillers | Tickets available from Ticketweb & Spillers Noddir y digwyddiad gan Prifysgol De Cymru. Tocynnau ar gael am £6 i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru / Event sponsored by the University of South Wales. Tickets available for £6 for students. Tickets available for £6 for University of South Wales students.
36
SUL | SUNDAY 13.07.14 CYSTADLEUAETH PÊL-DROED 5 BOB OCHR TAFWYL | 5 A SIDE FOOTBALL TOURNAMENT I gyd-fynd â gêm derfynol Cwpan y Byd bydd cystadleuaeth pêl-droed 5 bob ochr yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gôl. Bydd cystadleuaeth i dimau dynion a merched, gyda £100 yn wobr i’r tîm buddugol yn y ddau gategori, a £50 i’r timau yn yr ail safle. Agored i bawb, boed yn beldroedwyr o fri neu’n griw o ffrindiau sydd awydd bach o hwyl! / To coincide with the World Cup Final, why not take part in Tafwyl’s 5-a-side tournament, held at Gôl Centre. There will be separate competitions for men and women teams, with £100 for the winning side in each category and £50 for the runners up. Open to everyone, regardless of football skills! Lleoliad / Location: Canolfan Gôl, Lawrenny Avenue. CF11 8BR Amser / Time: 11.00 Cost: £30 y tîm (dim mwy na 7 ar bob tîm). Rhaid cofrestru o flaen llaw ar www.mentercaerdydd.org neu drwy ffonio 02920689888 | £30 a team (max 7 in each team). You must register beforehand at www.mentercaerdydd.org or by phoning 02920689888 Noddir y digwyddiad gan Canolfannau Pêl-droed Gôl / Event sponsored by Gôl Centre
37
CYMANFA GANU TAFWYL Fel rhan o weithgareddau Tafwyl eleni, cynhelir Cymanfa Ganu arbennig yng Nghapel Y Tabernacl, Yr Aes. Estynnir gwahoddiad cynnes iawn i bawb ymuno yn y gymanfa dan arweinyddiaeth Alun Guy a chyfeiliant Rob Nicholls. / As part of this year’s Tafwyl events a special Cymanfa will be held at Tabernacle Church, The Hayes. All are warmly invited to join in the singing led by Alun Guy with the accompaniment of Rob Nicholls. Lleoliad / Location: Tabernacl, Yr Aes | Tabernacl, The Hayes. CF10 1AJ Amser / Time: 15.00 Cost: Cyfraniad wrth y drws | Contribution on the door
LLUN | MONDAY 14.07.14 PARTI PARC GYDA CYW | PARTY IN THE PARK WITH CYW Dewch i Barc y Rhath i fwynhau bore llawn dop o ganu, dawnsio a chwerthin yng nghwmni cyflwynwyr Cyw a Ffa-la-la. Dewch â phicnic gyda chi! / Come to Roath Park to enjoy a morning full of singing, dancing and laughing with Cyw presenters and Ffa-la-la. Don’t forget to bring a picnic! Lleoliad / Location: Cwrdd wrth caffi Parc y Rhath | Meeting Point: Roath Park Café Amser / Time: 10.30 | Cost: Am Ddim / Free Noddir y digwyddiad gan Meithrinfa Miri Mawr | Event sponsored by Meithrinfa Miri Mawr Os fydd y tywydd yn wael cadwch lygad ar ein tudalen Facebook a Twitter am fanylion lleoliad dan do / If the weather is bad look out for our wet weather location on our Facebook and Twitter
38
MANTEISION DWYIEITHRWYDD | THE BENEFITS OF BILINGUALISM Sgwrs gyda’r darlithydd Jeremy Evas ar hanes agweddau tuag at ddwyieithrwydd—a’r ymchwil sy’n dangos ei fuddion. Delfrydol os ydych yn siarad Cymraeg ai peidio, yn arbennig o berthnasol i rieni sy’n ystyried dewis addysg Gymraeg i’w plant. / A talk by lecturer Jeremy Evas on the history of attitudes towards bilingualism – and the research that shows its advantages. A session for everyone, whether you speak Welsh or not, and especially relevant to parents who are considering Welsh education for their children. Bydd offer cyfieithu ar gael / Simultaneous translation will be available
Lleoliad / Location: Ystafell 1.55, Adeilad John Percival, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU | Room 1.55, John Percival Building, Cardiff University, CF10 3EU Amser / Time: 18.00 | Cost: Am Ddim / Free
ACADEMI BERFFORMIO CAERDYDD YN CYFLWYNO / PRESENT ‘YSGWYD YR YSGOL’ Dewch i ‘Ysgwyd yr Ysgol’ - perfformiad arbennig gan griw Academi Berfformio Caerdydd! Dyma fydd sioe gynta’r academi berfformio a sefydlwyd yn Ionawr eleni. Cyfle i chi fwynhau ffrwyth llafur y disgyblion talentog. / Enjoy a special performance by Academi Berfformio Caerdydd students! This will be the performing school’s first show since the academy was established in January this year. A chance to enjoy the singing, dancing and acting skills of the talented pupils.
Lleoliad / Location: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Bridge Road, CF14 2JL. Amser / Time: 19.00 Cost: Oedolion £8, Plant dan 16 £4 | Adults £8, Under 16 £4 Tocynnau ar gael drwy e-bostio academiberfformiocaerdydd@gmail. com neu ar y drws / Tickets available from academiberfformiocaerdydd@ gmail.com or on the door
39
CLONC YN Y CWTSH YNG NGHWMNI HEATHER JONES | CLONC YN Y CWTSH WITH HEATHER JONES Wyt ti’n dysgu Cymraeg? Dere i Clonc yn y Cwtsh – cyfle gwych i ymarfer dy Gymraeg gyda dysgwyr eraill. Yn ymuno yn arbennig ar gyfer dathliadau Tafwyl bydd y gantores Heather Jones. Wedi ei geni a’i magu yng Nghaerdydd, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith, mae Heather Jones wedi bod yn flaenllaw ym myd canu gwerin yng Nghymru yn y ddwy iaith ers y 70au. Dewch i sgwrsio gyda Heather am ei phrofiadau fel dysgwraig ac i fwynhau set acwstig arbennig o rai o’i alawon hudolus unigryw. / Are you learning Welsh? Come to Clonc yn y Cwtsh – a great opportunity to practise your Welsh with other learners. Our special guest for the Tafwyl festivities will be singer Heather Jones. Born and raised in Cardiff, learning Welsh as a second language, Heather Jones has been at the forefront of Welsh folk music since the 70s. Come and chat with Heather about her experiences as a learner and enjoy a special acoustic set of some of her unique and magical songs.
Lleoliad / Location: Chapter, Heol y Farchnad, Treganna Market Road, Canton Amser / Time: 18.30 – 20.00 | Cost: Am Ddim / Free
Noddir y digwyddiad gan Park Grove / Event sponsored by Park Grove
40
MAWRTH | TUESDAY 15.07.14 AMSER STORI | STORYTIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog rhad ac am ddim llawn stori a chân! Addas i blant 0 – 4 oed. / Come and join in the free fun storytime and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
Lleoliad 1 / Location 1: Llyfrgell Grangetown Library Amser / Time: 10.30 | Cost: Am Ddim / Free Lleoliad 2 / Location 2: Llyfrgell Yr Eglwys Newydd | Whitchurch Library Amser / Time: 14.15 | Cost: Am Ddim / Free
BORE COFFI I DDYSGWYR YNG NGHWMNI WYNNE EVANS WELSH LEARNERS COFFEE MORNING WITH WYNNE EVANS Y canwr opera a chyflwynydd talentog Wynne Evans fydd yn ymuno â Bore Coffi y Mochyn Du. Cyfle i wrando a holi ambell gwestiwn a chyfle i gwrdd â chyd-ddysgwyr o bob lefel. / The talented Wynne Evans will be joining the Welsh Learners Coffee Morning for a cuppa and a friendly chat! A chance to meet fellow Welsh learners and to take part in a question and answer session with the opera singer and presenter.
Lleoliad / Location: Mochyn Du, Sophia Gardens. CF11 9HW Amser / Time: 11.00 – 12.30 | Cost: Am Ddim / Free
Noddir y digwyddiad gan Park Grove / Event sponsored by Park Grove
41
TAITH GELF JOHN CONSTABLE | JOHN CONSTABLE ART LUNCHTIME TALK I Constable, Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 oedd gorchest fwyaf ei fywyd artistig - ond doedd y darlun ddim at ddant pawb. Dyma gyfle i fwrw golwg dros gampwaith Constable, ac i ystyried dylanwad ei dechneg chwyldroadol. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Aspire, i roi cyfle i gynulleidfaoedd o bob oed fwynhau gwaith Constable a dysgu am y dyn ei hun. Addas i siaradwyr Cymraeg ac i ddysgwyr o bob lefel. / To Constable, Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 was the greatest achievement of his artistic life - but the painting was not to everyone’s taste. An opportunity to view Constable’s masterpiece, and to consider the influence of his revolutionary technique. This event is supported by Aspire, to ensure audiences of all ages enjoy the work of Constable and learn about the man himself. Suitable for Welsh speakers and Welsh learners of all levels.
Lleoliad / Location: Prif neuadd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays | National Museum of Wales Main Hall, Cathays Park. Amser / Time: 13.00 | Cost: Am ddim / Free
NOSON GOMEDI | COMEDY EVENING Fel rhan o Ŵyl Gomedi Caerdydd, Damage sydd yn cyflwyno rhai o gomediwyr mwyaf disglair y sîn Gymreig mewn lleoliad go arbennig – KuKu Club. Noson yng nghwmni Noel James, Dan Thomas, Eirlys Bellin a Rhodri Rhys. / As part of Cardiff Comedy Festival, Damage present some of the Welsh scene’s most talented comedians in a very special location – the Kuku Club. A night in the company of Noel James, Dan Thomas, Eirlys Bellin and Rhodri Rhys.
Lleoliad / Location: KuKu Club, Park Plaza, Greyfriars Road. CF10 3AL Amser / Time: 19.30 | Cost: £8 | Tocynnau ar gael o Caban / Tickets available from Caban
Noddir y digwyddiad gan Adnod / Event sponsored by Adnod
42
MERCHER | WEDNESDAY 16.07.14 AMSER STORI | STORYTIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog rhad ac am ddim llawn storiau a chân! Addas i blant 0 – 4 oed. / Come and join in the free fun storytime and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
Lleoliad 1 / Location 1: Llyfrgell Radur Library Amser / Time: 10.30 | Cost: Am Ddim / Free Lleoliad 2 / Location 2: Llyfrgell Penylan Library Amser / Time: 14.15 | Cost: Am Ddim / Free
HELFA DRYSOR CYMDEITHAS CARNHUANAWC HISTORICAL TREASURE HUNT Helfa Drysor hanesyddol o amgylch ardal Cathays, gan ddechrau yn Nhafarn y Crwys. Croeso i bawb ymuno ag aelodau’r gymdeithas sy’n coffáu bywyd a gwaith Thomas Price (Carnhuanawc). / A historical treasure hunt around Cathays, starting in the Crwys pub. Everyone is welcome to join the members of the society that commemorates the life and work of Thomas Price (Carnhuanawc).
Lleoliad / Location: Tafarn y Crwys, Crwys Road Amser / Time: 18.30 / Cost: Am Ddim / Free
43
POP-TŶ @ TAFWYL Bwyty ‘pop-up’ diweddaraf Caerdydd. Dewch i fwynhau gwledd o flas a chwerthin mewn awyrgylch hudol, yng nghalon Pontcanna. Mae personoliaeth lliwgar a chreadigol y cogydd, Angharad Elias yn cael ei adlewyrchu mewn cyfres o brydau blasus ac unigryw. / Cardiff’s latest pop-up restaurant. Come and enjoy a feast of food and laughter in a magical atmosphere in the heart of Pontcanna. The colourful and creative spirit of chef Angharad Elias is reflected in a menu of delicious and unique meals. Lleoliad / Location: Eglwys St Catherine’s / St Catherine’s Church, Pontcanna Amser / Time: 19.30 | Cost: £35 Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle cysylltwch â poptycaerdydd@gmail.com
CWPWRDD NANSI YN CYFLWYNO | PRESENT DAFYDD IWAN, GWENAN GIBBARD A BRETHYN Ar noson braf o haf, beth well na dod am dro lawr i Fae Caerdydd i fwynhau noson arbennig o gerddoriaeth werin. Yn agor y noson bydd Rhian EvanJones, Helina Rees ac Angharad Jenkins, sef Brethyn, yn plethu’r hen alawon gyda harmonïau newydd a rhythmau clyfar. I ddilyn, cyfle unigryw i glywed Gwenan Gibbard a Dafydd Iwan yn rhoi eu stamp arbenigol hwy ar ein caneuon traddodiadol mewn deuawd llais a thelyn. Gweinir bwyd a dewis da o ddiodydd yno ar y teras pren yn edrych dros y Bae. / What better way to spend a warm summer evening than by coming down to Cardiff Bay to enjoy a special evening of folk music. Opening the evening will be Rhian Evan-Jones, Helina Rees and Angharad Jenkins – Brethyn, a talented crew combining old tunes with new harmonies and rhythms. To follow will be an unique opportunity to hear Gwenan Gibbard and Dafydd Iwan put their own stamp on traditional Welsh folk songs in a special voice and harp duo. Food and a good selection of drinks are available on the wooden terrace overlooking the Bay.
44
Lleoliad / Location: Lookout Cafe Bar, Byd y Badau, Bae Caerdydd Lookout Cafe Bar, World of Boat, Cardiff Bay. Amser / Time: 19.00 Cost: £8 / £6 i fyfyrwyr a di-waith | £8 / £6 consessions and student price. Tocynnau ar gael o Caban / Tickets available from Caban
IAU | THURSDAY 17.07.14 CLONC A CHOCTELS CWLWM BUSNES CWLWM COCKTAILS – CARDIFF’S WELSH BUSINESS GROUP Ymunwch â chriw Cwlwm Busnes am goctel a lluniaeth ysgafn yng ngardd Elgano’s. Cyfle i drafod, mwynhau a chwrdd ag eraill sydd yn gweithio drwy’r Gymraeg yn y brifddinas. Croeso i aelodau Cwlwm Busnes a’u gwesteion. / Join Cardiff’s Welsh Business Group Cwlwm Busnes, for cocktails and refreshments in Elgano’s garden. An opportunity to meet other business people who enjoy working in Welsh in the capital.
Lleoliad / Location: Elgano’s, 58 Cathedral Road. CF11 9LL Amser / Time: 18.00 | Cost: Am Ddim / Free
45
PROTEST FUDR | DIRTY PROTEST THEATRE Dirty Protest yn cyflwyno...Protest Fudr. Chwech awdur, chwech drama fer, un thema. Noson o sgwennu newydd gan rhai o sgwennwyr mwyaf cyffrous Cymru, a byddwn yn cyflwyno un sgwennwr hollol newydd yn ‘popio ei geirios’! / Dirty Protest present...Protest Fudr! Six authors, six plays, one theme. An evening of new writing by some of the city’s most exciting writers and one entirely new writer will be popping his cherry!
Lleoliad / Location: Kuku Club, Park Plaza, Greyfriars Road. CF10 3AL Amser / Time: 20.00 | Cost: £5 ar y drws | £5 on the door
Noddir y digwyddiad gan Prifysgol De Cymru / Event sponsored by the University of South Wales
GWENER | FRIDAY 18.07.14 DIWRNOD AGORED THEATR Y SHERMAN | SHERMAN THEATRE OPEN DAY Dewch i fwynhau diwrnod llawn dop o weithdai theatrig, cerddoriaeth a chelf a chrefft yn niwrnod agored y Sherman. Bydd Ffa-La-La yn cychwyn y dydd gyda sesiynau cerddoriaeth i blant rhwng 0 - 4 am 10yb. / Come and enjoy a fun packed day of theatre workshops, music and arts and crafts at the Sherman Theatre Open Day. Ffa-La-La will kick off the day with music sessions for children aged 0 - 4 at 10am.
46
Lleoliad / Location: Sherman Cymru, Ffordd Senghennydd Sherman Theatre, Senghennydd Road Amser / Time: Trwy’r dydd | All day | Cost: Am Ddim / Free
AMSER STORI | STORYTIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog rhad ac am ddim llawn storïau a chân! Addas i blant 0 – 4 oed. / Come and join in the free fun storytime and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
Lleoliad / Location: Llyfrgell Treganna | Canton Library Amser / Time: 10.30 | Cost: Am Ddim / Free
CYSTADLEUAETH GOLFF | GOLF COMPETITION Rhan annatod o Tafwyl ers y dechrau...y gystadleuaeth golff i barau. Eleni cynhelir y gystadleuaeth ym Mharc Cottrell. Am fanylion pellach ac i gofrestru cysylltwch â Wyn Mears – wyn@wynmears.com / Our annual golf competition for pairs will be held at Cottrell Park Golf Resort this year. For more information and to register contact Wyn Mears - wyn@wynmears.com
Lleoliad / Location: Cwrs Button, Parc Cottrell Cottrell Park Golf Resort, St Nicholas, Caerdydd. CF5 6SJ Amser / Time: Parau i gychwyn rhwng 16.15 – 17.15 Pairs to tee-off between 16.15 – 17.15 | Cost: £24 y pen | each
47
BRAGDY’R BEIRDD Bydd Bragdy’r Beirdd yn dychwelyd yn arbennig ar gyfer Tafwyl â blas canol haf ar weflau’r beirdd. Bydd hefyd ambell westai yn ôl yr arfer yn torri drwy’r tes yng nghwmni Beirdd y Bragdy. Cymysgedd o farddoniaeth a chaneuon byw a gwydrau sydd bob tro’n hanner llawn; heb sôn am gystadleuaeth i’r gynulleidfa! Bydd rhagor o fanylion am y noson ar gael yn www.tafwyl.org a www.bragdyrbeirdd.com / Bragdy’r Beirdd will return especially for Tafwyl, with its usual mixture of poetry and live singing, and as always a competition for the audience! Bragdy’r Beirdd’s resident poets will be there, as well as a few special guests. More information will be available on www.tafwyl.org and www.bragdyrbeirdd.com
48
Lleoliad / Location: Potters, Treganna / Potters Bar, Canton Amser / Time: 20.00 | Cost: £3 ar y drws | £3 on the door
DISGO BLYSH | SPIEGELTENT SILENT DISCO Wedi diflasu â’r clwb nos arferol? Mae Silent Disco yn rhoi ystyr newydd i’r gair “parti”. Fe gewch set o glustffonau heb wifrau, a gyda chlec ar fotwm cewch ddewis rhwng 2 DJ. Efallai bod yr ystafell yn ddistaw ond cyn pen dim byddwch chi’n anghofio’ch swildod; bydd torfeydd o bobl yn canu un gân tra bod y gweddill yn bloeddio canu tiwn hollol wahanol. Bydd cymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg yn cael ei chwarae. Cyfyngiad oedran: 18+ / A unique alternative to a nightclub, Silent Disco is taking the world by storm with its completely new way to party. You’ll get a set of wireless headphones and the choice between 2 DJs at the flick of a switch. The room may be silent but inhibitions are soon lost; crowds of people sing along to one song while the other half hums a different tune. A mix of Welsh and English language music will be played. Age Restriction: 18+ Lleoliad / Location: Pabell Blysh, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd / Blysh Spiegeltent, Wales Millennium Centre, Cardiff Bay Amser / Time: 22.30 tan yr hwyr / ‘til late Cost: £6 *neu am ddim gyda thocyn i weld prif sioe Blysh ar yr un noson £6 *or free with a ticket to Blysh’s main show that evening Tocynnau ar gael o www.wmc.org.uk neu drwy ffonio swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464 / Tickets available online at www.wmc.org.uk or by phoning Wales Millennium Centre’s ticket office on 029 2063 6464
49
NODDWYR / SPONSORS
50
PARTNER GWESTY / HOTEL PARTNER
PARTNERIAID / PARTNERS
51
FFAIR TAFWYL / TAFWYL FAIR 12.07.14
11.00
PRIF LWYFAN / MAIN STAGE
LLWYFAN ACWSTIC / ACOUSTIC STAGE
Cyw 11.30-12.00
Y Trwbz 11.30-11.50
11.30 12.00
Stwnsh 12.20-12.50
Chris Jones (Gorwelion) 12.00-12.30
12.30 13.00
Greta Isaac 12.50-13.20 Kookamunga 13.10-13.30
13.30 14.00
Bob Delyn 13.50-14.30
14.30 15.00
Mynediad am Ddim 14.50-15.35
16.30 17.00 17.30
Yr Eira 15.55-16.25 Y Bandana 16.45-17.15 Cerddwn Ymlaen
19.00
20.30 21.00
52
Al Lewis 17.00-17.50
Steve Eaves 18.00-19.00 Yr Ods 18.25-18.55 Candelas (Gorwelion) 19.15-19.45
19.30 20.00
Plu (Gorwelion) 16.10-16.40
Endaf Gremlin 17.35-18.05
18.00 18.30
Kizzy Crawford (Gorwelion) 14.30-15.00 Gareth Bonello 15.20-15.50
15.30 16.00
Gorwelion / Horizons 13.40-14.10
Bryn F么n 20.10-21.00
LLWYFAN Y PORTH / PORTH STAGE
LLENYDDIAETH / LITERATURE
Wonderbrass 11.00-11.25
Na, Nel! – Meleri Wyn James 11.00-11.30
Wonderbrass 11.45-12.15
Bardd Plant Cymru 11.30-12.30
Fitzalan Steel Drum Band 12.30-13.15 Cwpwrdd Nansi 13.30-14.15
Band Pres Melingruffudd 14.30-15.15 Cwpwrdd Nansi 15.30-16.15
Lonely Hearts Rugby Clwb Jazz RWMCD 16.30-17.30
CWTSH SI-LWLI
Dona Direidi 12.30-13.00
Creu Teganau / Toy Making 12.30
Gweithdy Celf gyda / Comic Strips with Huw Aaron 13.00-14.00
Tylino Babi / Baby Massage 13.00
Llŷr Gwyn Lewis 14.00-15.00
Creu Gardd Bychain / Miniature Garden Making 14.00
Bethan Mair yn holi Awduron Ifanc Caerdydd 15.00
Salt Dough 15.00
Ail Symudiad 16.00-17.00
Adeiladu Dens / Den Building 16.00 Amser Stori / Storytime 17.00
53
FFAIR TAFWYL / TAFWYL FAIR 12.07.14 COGINIO / COOKERY 11.00
Agoriad / Opening 11-11.30
11.30
Hei di Ho 11.30
12.00
Hywel Gwynfryn – Rhaglen Fentora / Mentor Programme 12.15
12.30
Canlyniadau’r Bake Off Results 12.30
13.00
Sesiwn Blasu Charcutier Taster Session 13.00
13.30 14.00
Beca Lyne-Pirkis 14.00
14.30 15.00 15.30 16.00 16.30 17.00 17.30 18.00 18.30 19.00 19.30 20.00 20.30 21.00
54
DYSGWYR / WELSH LEARNERS CWTSH Y CELFYDAU
Blasu Caws a Gwin / Cheese and Wine Tasting Session 15.00 Bragu Cwrw Cartref / How to home-brew 16.00 Blasu Medd, Cwrw a Seidr / Welsh Mead, Cider and Beer Tasting 17.00
Actorion Pobol y Cwm Actors 12.45 John Davies – Hanes Caerdydd / History of Cardiff 13.30 Emyr Llewelyn – Iaith heb Waith / Welsh without Stress 14.00 Geirfa Graidd - Lansiad Llyfr Newydd gyda’r Lolfa / New Book Launch with Y Lolfa 15.00 Merched y Wawr - O’ch chi’n gwybod...? / Did you know...? 15.40 Rhisiart Arwel 16.00 Kizzy Crawford 16.45 Dragonfall - Sesiwn Gerddorol / Musical Session 17.10 Twrch Trwyth - Cerddoriaeth a Dawnsio / Music and Dancing 17.30
Gweithdai Sgriptio (Oedran 8+) / Scripting Workshop (Age 8+) 12.00-14.00
Gweithdy Castachân (oedran 7+) / Castachan Workshop (Age 7+) 14.00-15.00 Blas ar Sherbets Sherman (oedran 4-9) / Sherbets Sherman Taster Session (Age 4-9) 15.00-16.00
CHWARAEON / SPORTS
PABELL BYW YN Y DDINAS / CARDIFF LIFE TENT
FAW 11.30-12.30
Agoriad swyddogol / Official Opening 11.40 Llenyddiaeth / Literature 12.00
WRU 12.30-13.30
Athletau Cymru 13.30-14.30
Tanddaearol / Underground 13.00 Bywyd Hoyw / Gay Life 14.00
Criced Morgannwg / Glamorgan Cricket 14.30-15.30
Hanes / History 15.00
Pel Droed Caerdydd / Cardiff City Football 15.40-16.30
Chwaraeon / Sports 16.00
Gleision Caerdydd / Cardiff Blues 16.30-17.30 WRU 17.30-18.00
Cerddoriaeth / Music 17.00
YSGOLION / SCHOOLS
11.40 Ysgol Creigiau 12.00 Ysgol Y Wern 12.20 Ysgol Nant Caerau 12.40 Ysgol Y Berllan Deg 13.00 Ysgol Glan Morfa 13.20 Ysgol Pwll Coch 13.40 Ysgol Pen Y Groes 14.00 Ysgol Coed Y Gof 14.20 Ysgol Glan Ceubal 14.40 Ysgol Bro Eirwg 15.00 Ysgol Mynydd Bychan 15.20 Ysgol Pen y Pil 15.40 Ysgol Pencae 16.00 Ysgol Melingruffudd 16.20 Ysgol Treganna 16.40 Ysgol Gwaelod y Garth 17.00 ABC 17.20 Castachan 17.40 C么r Plant Caerdydd 18.00 Ysgol Bro Edern 18.20 Ysgol Plasmawr
55
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o gefnogi Tafwyl – gobeithio cewch chi ddiwrnod hyfryd Cardiff University is proud to support Tafwyl and hopes everyone has an enjoyable time www.caerdydd.ac.uk @prifysgolcaerdydd