1 minute read

GARDENING ALMANAC GARDDIO

Next Article
BOOTLEG BLONDIE

BOOTLEG BLONDIE

Mae’r Almanac Garddio yn gyfres newydd o sgyrsiau, a gynhelir gan y tyddynnwr lleol Caz Wyatt. Byddwn yn gwahodd amrywiaeth o siaradwyr i ddod i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd mewn meysydd penodol, boed hynny’n tyfu eich bwyd eich hun, tyfu blodau godidog, meithrin y bywyd gwyllt ar eich darn o dir, a mwy. Gardening Almanac is a new series of talks, hosted by local smallholder Caz Wyatt. We will be inviting a range of speakers to come and share their knowledge and expertise in particular areas, be it growing your own food, cultivating magnificent blooms, nurturing the wildlife on your plot, and beyond.

Dydd Sadwrn 18 Mawrth | Saturday 18 March

Advertisement

2pm £5

Hadau | Seed

Wrth baratoi ar gyfer tymor tyfu’r gwanwyn, byddwn yn edrych ar fyd hadau. Bydd hwn yn gyfle i ddysgu mwy am wahanol fathau o hadau er mwyn helpu gwneud penderfyniad gwybodus am yr hyn yr ydych eisiau ei dyfu yn eich gardd. A bydd cyfle i brynu hadau yn y digwyddiad.

In preparation for spring’s growing season we will be diving into the world of seeds. This will be a chance to learn more about different varieties of seeds to help make informed decision about what you want to grow in your garden. There will be a chance to buy seeds at the event.

Dydd Sadwrn 22 Ebrill | Saturday 22 April

2pm £5

Tyfu eich bwyd eich

Hun

Growing your own food

Byddwn yn clywed gan rai tyfwyr lleol am fanteision tyfu eich bwyd eich hun, yn ogystal â rhai o'u cynghorion a'u triciau ar gyfer y tymor.

We’ll hear from some local growers about the benefits of growing your own food, as well as some of their tips and tricks for the season.

Dydd Sadwrn 20 Mai | Saturday 20 May 2pm £5

Bywyd gwyllt yn eich gardd

Wildlife in your garden

Byddwn yn edrych ar y mathau o fywyd gwyllt y gallwch ddisgwyl eu gweld yn eich gardd yn yr ardal hon a sut i weithio gyda’r bywyd gwyllt hwnnw i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl yn eich gardd ac ar gyfer yr amgylchedd.

Mae Yusef Samari yn ecolegydd lleol sy’n gweithio i Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru ac yn cynnal teithiau natur lleol o amgylch Aberteifi.

We’ll be looking at the types of wildlife you can expect to find in your garden in this part of the world and how to work with that wildlife to achieve the best possible results in your garden and for the environment. Yusef Samari is a local ecologist who works for West Wales Biodiversity Information Centre and runs local nature walks around Cardigan.

This article is from: