
1 minute read
CATRIN FINCH & AOIFE NÍ BHRIAIN
Nos Sadwrn 25 Chwefror | Saturday 25 February 7.30pm £22
CYNHYRCHAD Y MWLDAN | A MWLDAN PRODUCTION
Advertisement
Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o feiolinyddion mwyaf amryddawn a dawnus ei chenhedlaeth, yn gerddor disglair sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig. Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi adeiladu gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau gwobrwyedig gyda Seckou Keita a Cimarron.Gyda’i gilydd, mae Aoife a Catrin yn ffurfio deuawd feistrolgar aruthrol, sy’n awyddus i archwilio byd cerddorol o bosibiliadau, her a darganfyddiad creadigol, wedi’u hysbrydoli gan lu o ddylanwadau ac wedi’u cysylltu gan ddiwylliannau eu gwledydd genedigol. Denodd eu perfformiadau cyhoeddus cyntaf yn Lleisiau Eraill Aberteifi ym mis Tachwedd 2022 ganmoliaeth frwd gan y gynulleidfa. Cyn recordio eu halbwm cyntaf, maen nhw nawr yn cychwyn ar ychydig o gyngherddau arbennig sy’n rhoi rhagolwg o’u deunydd newydd rhyfeddol a gwreiddiol
Dublin native Aoife Ní Bhriain is one of her generation’s most versatile and gifted violinists, a dazzling musician who commands both the classical world and her Irish traditional heritage. From across the Irish Sea and the west coast of Wales, harpist Catrin Finch has also built an impressive classical career and ventured into unchartered musical territory, most notably through her award-winning collaborations with Seckou Keita and Cimarron. Together, Aoife and Catrin form a formidable virtuoso duo, eager to explore a musical world of creative possibility, challenge and discovery, inspired by a multitude of influences and linked by the cultures of their home countries. Their debut public performances at Other Voices Cardigan in November 2022 drew rapturous audience acclaim. Prior to recording their debut album, they now embark on a select few concerts previewing their extraordinary and original new material.