4 minute read
BLAZIN’ FIDDLES
Nos Fercher 1 Mawrth | Wednesday 1 March 7.30pm
£19 (£18)
Advertisement
Ffurfiwyd Blazin’ Fiddles, un o’r grwpiau ffidl mwyaf cynhyrchiol yn y byd, ar gyfer taith untro o gwmpas Ucheldiroedd yr Alban ym 1999, ac maen nhw dal yn perfformio ledled y wlad dau ddegawd yn ddiweddarach. Gan gwmpasu detholiad prin a meistrolgar o leisiau Ucheldir ac Ynys amrywiol y ffidl, gyda setiau ensemble a solo a gefnogir gan gitâr a phiano pwerus, mae’r grwp yn gwasgu holl rym, brwdfrydedd a sensitifrwydd cerddoriaeth draddodiadol yr Alban i mewn i un sioe.
One of the world’s most prolific fiddle groups, Blazin’ Fiddles formed for a one-off tour of the Scottish Highlands in 1999 and are still raising roofs far and wide well over two decades later. Encompassing a rare and virtuosic selection of the fiddle’s diverse Highland and island voices, with ensemble and solo-led sets both backed by powerhouse guitar and piano, the Blazers pack all the power, passion and sensitivity of Scotland’s traditional music into a single show.
THE GREATEST MAGICIAN
Nos Wener 10 Mawrth | Friday 10 March 7.30pm
£15 (£13), £10 Plentyn o dan 16 / Children under 16
*Profiad Tocyn ‘VIP’ ar gyfer The Greatest Magician (£30)
*The Greatest Magician VIP Ticket Experience! (£30)
Sioe newydd sbon ar gyfer 2023!
SIOE HUD SYFRDANOL newydd - a gyflwynir gan y consuriwr sydd fwyaf enwog am jamio switsfyrddau’r BBC, ar ôl iddo ragweld rhifau’r loteri yn gywir. Bydd y sioe hud syfrdanol, llawn ddirgel hon, sy’n derbyn gradd pum seren, yn gwneud i chi chwerthin yn iach a’ch pensyfrdanu’n llwyr. Wedi’i chyfarwyddo gan y diweddar Paul Daniels, daw’r sioe hud ddyrys i’r llwyfan am y tro cyntaf – cewch eich cludo i fyd difyr o ddoniolwch, rhyfeddod a dirgelwch.
An all new show for 2023!
A DAZZLING new MAGIC SHOW - presented by the magician most famous for jamming the BBC switchboards after he correctly predicted the lottery. This astonishing, enigmatic, five star rated magic show will leave you aching from laughter and dizzy in disbelief.
Directed by the late Paul Daniels, this mind-blowing event comes to the stage for the first time - you’ll be transported to a jaw-dropping world of light-hearted hilarity, wonderment, and mystery.
Nos Wener 17 Mawrth | Friday 17 March 7.30pm
Nos Sadwrn 18 Mawrth | Saturday 18 March 7.30pm
£16 (£12)
Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran. Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow. Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys. Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bwer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.
Based on the novel ‘Pigeon’ by Alys Conran. Adapted for the stage by Bethan Marlow. Pigeon is one in a million. At least that’s what his best friend Iola thinks. Brave, funny and a bit dangerous, there’s no one else she’d rather spend time with. But life is far from sweet. Set in the shadow of the north Wales slate quarries in the early ’90s, this is a gripping tale about growing up, the power of words, friendship and just how far people will go for love.
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio Canllaw Oedran: 13+ (Yn cynnwys iaith gref a themâu o drais yn y cartref)
A Theatr Genedlaethol Cymru and Theatr Iolo production, in association with Pontio Age Guidance: 13+ (Contains strong language and themes of domestic violence)
NATASHA WATTS: MUSIC IS MY LIFE
Nos Sadwrn 25 Mawrth | Saturday 25 March 7:30pm £20
Mae Natasha Watts yn dychwelyd gyda’i phedwerydd albwm stiwdio hir-ddisgwyliedig Music Is My Life. Fe ffrwydrodd Natasha i sîn Canu Enaid y DU dros 10 mlynedd yn ôl, ac mae ei pherfformiadau llwyfan byw a’i phersonoliaeth fywiog wedi ei gwneud yn un o brif artistiaid benywaidd annibynnol y DU. Mae wedi perfformio ledled y byd ac wedi agor cyngherddau ar gyfer rhai o’r goreuon o Gladys Knight i’r O’Jays.
Mae albwm newydd Natasha yn cyflwyno sain canu’r enaid aeddfed sy’n hollol unigryw iddi hi. Dewch i fwynhau llais hyfryd a phresenoldeb llwyfan swynol Natasha Watts, yn perfformio gyda’i band cyflawn.
Natasha Watts returns with her long-awaited 4th studio album Music Is My Life. Having blasted onto the UK soul scene over 10 years ago, Natasha’s live stage performances and vivacious personality have made her one of the leading UK female soul independent artists. Having performed all over the world and opening up for the best of the best from Gladys knight to the O’Jays, Natasha’s new album delivers a gritty, mature and well-rounded soul sound that is hers and hers alone. Come and enjoy the beautiful voice and charming stage presence that is Natasha Watts, performing live with a full band.
HWYRYDDIR GAN NATASHA WATTS | PROMOTED BY NATASHA WATTS
Nos Fawrth 28 Mawrth | Tuesday 28 March 6.00pm
Nos Fercher 29 Mawrth | Wednesday 29 March 6.00pm £11 (£8 plant | children)
OMG you guys!!! Mae sioe gerdd Legally Blonde wedi cyrraedd!! Yn seiliedig ar ffilm fawr 2001 o’r un enw, mae gan y sioe gerdd wobrwyedig hon rywbeth at ddant pawb! Mae Dynamix yn falch iawn o ddod â’r cynhyrchiad epig hwn yn fyw ym mis Mawrth ar lwyfan Mwldan. Mae’r sioe hon yn llawn hwyl, yn befriog ac yn bennaf oll, yn binc ac mae’n dilyn hynt yr aelod chwaeroliaeth boblogaidd Elle Woods. Bydd y sioe hon sy’n llawn cyffro di-stop, caneuon cofiadwy a dawnsio bywiog yn wledd llawn hwyl a fydd yn gwneud i chi symud eich traed wrth i’r cyfan ffrwydro’n binc!
OMG you guys!! Legally Blonde the musical is here!! Based on the 2001 smash hit film of the same name this award winning musical has something for everyone! Dynamix is delighted to bring this epic production to life this March at Mwldan. This fabulously fun, fizzy and above all pink show follows popular sorority sister Elle Woods. Non stop, action-packed and exploding with memorable songs and dynamic dances, this show promises to be fun filled, toe tapping and an explosion in pink!
HWYRYDDIR GAN YSGOL CELFYDDYDAU PERFFORMIO DYNAMIX
PROMOTED BY DYNAMIX PERFORMING ARTS SCHOOL