1 minute read

MADDY PRIOR AND THE CARNIVAL BAND: CHAPEL & TAVERN TOUR

Next Article
BOOTLEG BLONDIE

BOOTLEG BLONDIE

Nos Sadwrn 15 Ebrill | Saturday 15 April 7.30pm £24.50

Ar ôl treulio’u gyrfa hir a nodedig o gydweithio yn archwilio cerddoriaeth y Nadolig a cherddoriaeth grefyddol fythol, mae taith newydd Maddy Prior & The Carnival Band, sef Chapel and Tavern, yn dathlu bywydau a diwylliant pobl gyffredin. Cynhelir hanner cyntaf y cyngerdd yn y capel, gyda cherddoriaeth egnïol a brwdfrydig bandiau galeri’r eglwys mewn cyfnod pan oedd emynwyr yn hapus i gymryd eu hysbrydoliaeth o gerddoriaeth y theatr a chaneuon poblogaidd. Ar ôl yr egwyl rydyn ni yn y dafarn ar gyfer perfformiadau cyffrous o donau crynion, baledi, caneuon theatr ac alawon dawns. Mae’r ddau yn tywys y gynulleidfa yn ôl i Lundain afreolus Gin Lane Hogarth a byd gwyllt Swift, Smollett a Thackeray, canu brwd y Methodistiaid cynnar a bandiau’r pentref y mae Thomas Hardy yn eu cofio’n annwyl. Gofalwch am eich enaid cyn i chi adael i’r hen Adda ac Efa fynd yn benrhydd...

Advertisement

Having spent their long and distinguished career of collaboration exploring Christmas and timeless religious music, Maddy Prior & The Carnival Band’s new tour Chapel and Tavern sees them celebrate the lives and culture of ordinary folk. The first half of the concert takes place in the chapel, featuring the vigorous and enthusiastic music of the church gallery bands in an era when hymn writers happily took their inspiration from theatre music and popular song. After the interval we’re in the tavern for rousing performances of catches, ballads, theatre songs and dance tunes. Both take the audience back to the chaotic London of Hogarth’s Gin Lane and the riotous world of Swift, Smollett and Thackeray, the enthusiastic singing of early Methodists and the village bands fondly remembered by Thomas Hardy. Cherish your soul before you let the old Adam and Eve run riot....

This article is from: