R T H E ATC LW Y D
ETH A I R O D D ER U T H E ATNRS CC E L F F F I L M I A D AW SWYDDFA DOCYNNAU: 01352 701521 | ARCHEBU AR-LEIN: TheatrClwyd.com
THEATR CLWYD
CYNNWYS
CROESO I’R HAF YN THEATR CLWYD Wrth i’r byd gofio 400 mlynedd ers marw William Shakespeare, rydym yn cynhyrchu dau brosiect i ddathlu ei waddol cyfoethog. Byddaf yn cyfarwyddo ail-gread cyfoes o’i gomedi ramantus fywiog, Much Ado About Nothing, gan ddod â’r cynhyrchiad yn fyw drwy drawsnewid Theatr Anthony Hopkins yn llwyr. Bydd y cyfarwyddwr rhagorol, John Young, yng ngofal première o To Dream Again, cynhyrchiad ar y cyd â’r enwog Polka Theatre o Lundain. Mae’r addasiad hudolus hwn o A Midsummers Night’s Dream yn cael ei greu’n arbennig er mwyn cyflwyno plant ifanc i Shakespeare. Mae To Dream Again a Much Ado, gyda’u straeon am bleser, afiaith a chariad, yn arwydd o ddyfodiad yr haf ac yn parhau â’n traddodiad o ddod â gwaith y dramodydd enwog yn fyw. Mae’r Ŵyl Geltaidd eleni’n dod â’r gwledydd Celtaidd ynghyd mewn tair wythnos ogoneddus o theatr, dawns, cerddoriaeth a chelf wrth i ni ymfalchïo yn ein treftadaeth. Bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda chynhyrchiad Phillip Breen o Cyrano de Bergerac. Bydd cwmni o Gymry i gyd, dan arweiniad yr actor arobryn Steffan Rhodri, yn dod â’r ddrama drawiadol hon yn fyw mewn cydweithrediad â Twm Morys, un o feirdd mwyaf y Gymru gyfoes. Bydd ei farddoniaeth ef, sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig, yn taflu goleuni newydd ar y stori garu angerddol yma. Fis Gorffennaf ac Awst, mae’n bleser cael cynnig cartref i waith rhai o’n cwmnïau cymunedol nodedig wrth iddynt fywiogi ein gofod amrywiol unwaith eto gydag amrywiaeth eang o gynyrchiadau. Rydym yn croesawu’r artistiaid cymunedol yma i Theatr Clwyd – pobl ymroddedig sy’n rhoi eu gyda’r nosau a’u penwythnosau i greu rhywbeth cwbl arbennig – theatr fyw. Mae Theatr Clwyd yn unigryw yn y DU gan ei bod yn theatr gynhyrchu sy’n eiddo i’r cyngor sir. Rydym yn falch ac yn ddiolchgar bod ein Cyngor ni, am ddeugain mlynedd, wedi bod yn chwyldroadol ei ddull o weithredu gan osod y celfyddydau wrth galon ei ddarpariaeth i’r gymuned. Trwy wneud hynny, mae’n rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd – i rannu straeon, i ysbrydoli ac i gael ein hysbrydoli, i gwestiynu ac i ddathlu beth yw’n hanfod ni fel bodau dynol – yng ngeiriau Shakespeare, ‘hold the mirror up to nature’. Chi biau’r adeilad yma. Cofiwch ddod draw i’w fwynhau; dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i ddathlu pleserau’r haf gyda ni. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi’n fuan. Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig ON: Cadwch lygad am Ŵyl #CLWYD40 – i’w chyhoeddi’n fuan! Lliw
Tud
Adran
1-4
Cynyrchiadau Theatr Clwyd
5 - 10
Gŵyl Geltaidd
10 - 13
Theatr Ymweld
14
Comedi
16
Yr Haf i Blant a Phobl Ifanc
17 - 20
Cwmnïau Cymunedol
21 - 24
Ffilmiau
25 26 - 27 28 29 - 32
Prisiau tocynnau Orielau Gwybodaeth Dyddiadur
Archebu Ffôn: 01352 701521 Ar-lein: TheatrClwyd.com Mewn person: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1YA Tocynnau i’w hargraffu gartref ar gael nawr trwy ein gwefan
@ClwydTweets @YoungClwydIfanc
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd
CYNLLUNIWYD AC ARGRAFFWYD GAN
TheatrClwyd.com
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
Cyrano de Bergerac Gan Edmond
Rostand
Cyfieithwyd ac addaswyd gan Anthony Burgess Gyda barddoniaeth ychwanegol gan Twm Morys Cyfarwyddwr: Phillip Breen Cynllunydd: Mark Bailey Cyfansoddwr, Cynllunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerdd: Dyfan Jones
Cast: Wayne Cater Steven Elliott Victoria John Rhys Parry Jones Daniel Llewelyn-Williams Sara Lloyd-Gregory Gwawr Loader Sion Pritchard Aled Pugh Steffan Rhodri Marc Rhys Simon Holland Roberts Dafydd Llyr Thomas CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
“I cannot find the words...”
dd
Dydd Iau 14 Ebrill Dydd Sadwrn 7 Mai
cc Perfformiadau wedi eu disgrifio Dydd Iau 21 Ebrill, 7.30pm Dydd Sadwrn 23 Ebrill, 2.30pm
bb Perfformiad Capsiwn
Dydd Sadwrn 30 Ebrill, 2.30pm
TT
Sgwrs ar ôl y Sioe Dydd Iau 28 Ebrill a 5 Mai
aa 7.30pm Sioeau pnawn Sadwrn 2.30pm
AA Am brisiau a chynigion tocynnau, gweler dudalen 25
ff Theatr Anthony Hopkins
TheatrClwyd.com
Cyrano de Bergerac; milwr, ymladdwr, carwr, saer geiriau nodedig. Mae dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Roxanne – ond mae ganddo’r trwyn mwyaf a welwyd erioed. Mae Christian yn hardd ym mhob ffordd ac mae yntau hefyd yn caru Roxanne, ond mae’n dawedog, distaw a mud. Ym mhresenoldeb Roxanne, nid yw’n gallu dod o hyd i eiriau o gwbl. Gyda harddwch Christian a barddoniaeth Cyrano, mae’r ddau’n mynd ati i hudo Roxane fel y cariad perffaith. Ond i Roxanne, mae hyn yn rhy dda i fod yn wir. Wedi’r cwbl, beth sydd bwysicaf mewn dyn, ei gorff ynteu ei enaid? Beth sy’n digwydd pan nad oes geiriau ar gyfer yr union beth rydych chi eisiau ei ddweud? A beth sy’n digwydd pan mae cyfathrebu’n mynd o chwith? Mae ensemble Cymreig llawn yn ail-ddehongli’r clasur Ffrengig yma yn Saesneg, gyda rhywfaint o farddoniaeth Gymraeg newydd gan Twm Morys. Dyma oes y ‘Three Musketeers’ ym Mharis, yn erbyn cefndir o ryfel, a’r comig a’r trasig yma law yn llaw. Cyrano de Bergerac yw un o’r straeon caru mwyaf erioed.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
1
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
By William
Shakespeare
Cyfarwyddwr: Tamara Harvey Cynllunydd: Janet Bird Goleuo: Johanna Town
Mae’r Cyfarwyddwr Artistig, Tamara Harvey, wedi dewis comedi ramantus a llawen William Shakespeare, Much Ado About Nothing, fel y ddrama gyntaf y bydd yn ei chyfarwyddo yn Theatr Clwyd.
Castio: Charlotte Sutton
dd
Dydd Iau 9 Mehefin Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf
cc Perfformiadau Gyda Disgrifiad
Dydd Iau 23 Mehefin, 7.30pm Dydd Sadwrn 25 Mehefin, 2.30pm
bb Perfformiad Capsiwn
Dydd Sadwrn 18 Mehefin, 2.30pm
TT
Sgwrs ar ôl y Sioe Dydd Iau 23 & 30 Mehefin Ymarfer Agored Mewn Gwisgoedd: Dydd Iau 9 Mehefin, 7.30pm £5, Gostyngiadau £3
aa 7.30pm Sioeau pnawn Sadwrn 2.30pm Sioe pnawn Iau 23 Mehefin, 2.30pm
AA Am brisiau a chynigion tocynnau, gweler dudalen 25
ff Theatr Anthony Hopkins
2
SWYDDFA DOCYNNAU
“I do love nothing in the world so well as you… Is not that strange?”
01352 701521
Does dim byd yn gallu cadw’r cariadon ifanc, Claudio a Hero, ar wahân ... nes bod cyfrwystra dichellgar Don John ysgeler yn bygwth eu priodas. Mae rhyw helynt o hyd rhwng Benedick a Beatrice, sydd am y gorau i ragori ar ei gilydd ... does posib y daw’r ddau yma i weld llygad yn llygad oes? Mae’n 400 o flynyddoedd ers marwolaeth Shakespeare a dyma gyfle i chi ymuno â ni ar gyfer dehongliad cyfoes o’r gomedi ramantus gyflym a miniog yma, sydd heb ei chynhyrchu erioed yn Theatr Clwyd. Yn ddymunol a dyrchafol, mae Much Ado About Nothing yn cynnig adloniant haf bywiog. Dechreuodd Tamara Harvey ar ei gyrfa yn y Shakespeare’s Globe. Ymhlith ei llwyddiannau cyfarwyddo diweddar mae Pride and Prejudice yn y Sheffield Crucible a phremiere byd o sioe gerdd Tim Rice, From Here To Eternity, yn y West End a hefyd cynhyrchiad llwyddiannus iawn o The Kitchen Sink yn y Bush Theatre.
TheatrClwyd.com
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
Gan Toby
Hulse
Cyd-gynhyrchiad Theatr Clwyd a Polka Theatre Cyfarwyddwr: John Young Cynllunydd: Amy Cook Cynllunydd Goleuo: Jamie Platt Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Harry Blake Cyfarwyddwr Castio: Lucy Casson Cynhyrchydd Creadigol: Tim Baker
dd
Dydd Iau 16 Mehefin Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf Perfformiad Hamddenol: Dydd Sadwrn 18 Mehefin, 1.30pm
aa 7pm Sioeau pnawn Sadwrn 2.15pm (25 Mehefin & 2 Gorffennaf)
“I wasn’t scared – because this was a magical wood. I was excited, nervous. My heart was beating, like it does just before your birthday, or on Christmas Eve, when you know something is about to happen at any moment. And then I saw him. Her. It.” Yn 2016 mae’r byd yn coffau 400 mlynedd ers marwolaeth William Shakespeare. Fel rhan o’n cyfraniad ni rydym yn creu drama newydd mewn partneriaeth â’r Polka Theatre, Llundain. Yn seiliedig ar A Midsummer Night’s Dream mae’r ddrama’n cymysgu’r real a’r afreal, y bob dydd a’r hudolus, yr effro a’r cysgu, y doniol a’r trist, a bydd yn gyflwyniad perffaith i Shakespeare i bobl ifanc.
AA £6.50 am grwpiau ysgol, sy’n
Mae Toby Hulse yn ddramodydd ac yn gyfarwyddwr sy’n arbenigo ar greu theatr ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol a chyd-destunau addysgol. Mae wedi creu gweithiau ar gyfer theatrau a chwmnïau ledled y DU, gan deithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Toby wedi ysgrifennu To Dream Again yn benodol ar gyfer plant 7+ oed.
ff Theatr Emlyn Williams
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01352 701575 neu anfonwch e-bost i youngclwydifanc@theatrclwyd.com
AA Oedolion £8.50, Gostyngiadau £6.50 Delfrydol ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 cynnwys gweithdy
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
3
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
CYNHYRCHIAD THEATR CLWYD
Gan Peter
Rowe AR WERTH NAWR! dd
Dydd Gwener 25 Tachwedd Dydd Sadwrn 21 Ionawr
AA Am brisiau’r tocynnau,
edrychwch ar dudalen 25 Edrychwch ar y wefan am amserlen y perfformiadau
ff Theatr Anthony Hopkins
4
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Mae’n amser parti yn yr hen Shanghai ac mae’r Ymerawdwr yn paratoi gwledd i gyhoeddi dyweddïad y Dywysoges â’i darpar ŵr cyfoethog, Abanazer ddirgel. Mae wok Widow Twankey yn chwilboeth ac mae dipyn o gynnwrf yn nŵr Wishee Washee, ond pan mae Aladdin a’r Dywysoges yn cyfarfod ar y stryd, bryd hynny mae pethau’n dechrau tanio o ddifrif. A fydd Aladdin yn llwyddo i drechu Abanazer ddieflig i hawlio llaw’r Dywysoges hardd? Bydd arno angen help mwnci direidus, Genie pwerus a’i holl ffrindiau yn y gynulleidfa. Gyda mwy nag ugain o glasuron y byd roc a soul, gan gynnwys I’m a Believer, Reach Out, ABC a Lean on Me, yn cael eu chwarae’n fyw gan ein cwmni o actor-gerddorion, mae parti perffaith yn aros amdanoch chi. Bydd digonedd o jôcs gwirion, ffrogiau trawiadol, slapstic a thynnu coes ym mhanto roc a rôl rhagorol Clwyd – gwledd dymhorol i’r teulu cyfan.
TheatrClwyd.com
GŴYL GELTAIDD
Yr Ŵyl Geltaidd Mae’r Ŵyl Geltaidd yn dathlu celfyddydau o’r gwledydd Celtaidd, gan gynnwys y dramâu, y dawnsfeydd, y ffilmiau a’r gerddoriaeth newydd orau o Gymru, Iwerddon a’r Alban. Bydd cwmnïau blaenllaw yn perfformio yn Theatr Clwyd dros gyfnod o dair wythnos yn ystod misoedd Ebrill a Mai fel rhan o’r ŵyl flynyddol yma, gyda digwyddiadau yn cymeryd lle trwy’r adeilad cyn ac ar ôl perfformiadau. Gwyliwch allan am fwy o wybodaeth trwy ymweld â’n gwefan.
Dramâu Picnic Dydd Gwener 29 Ebrill Edrychwch ar y wefan am ragor o fanylion. Dydd Gwener 24 Mehefin Edrychwch ar y wefan am ragor o fanylion. Dewch â’ch brechdanau (neu brynu un o’n basgedi picnic hyfryd ni) a chewch fwynhau gwrando ar ddramâu’n cael eu darllen gan actorion Cwmni Theatr Clwyd. Theatr Clwyd aa 12.30pm
AA £3 drama yn unig
GŴYL GELTAIDD
£8 picnic a drama
ff Ystafell Clwyd
Swing Ysgrifennwyd gan:
Steve Blount, Peter Daly, Gavin Kostick a Janet Moran Fishamble (enillwyr gwobr Olivier) Cyfarwyddwr: Peter Daly Cast: Arthur Riordan a Gene Rooney Goleuo: Mark Galione Sain: Ivan Birthistle Cynhyrchydd: Eva Scanlan www.fishamble.com
dd
Dydd Mawrth 26 Dydd Sadwrn 30 Ebrill
aa 7.45pm
AA £12, Gostyngiadau £10 (ac eithrio nos Sadwrn), Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9
ff Theatr Emlyn Williams
TheatrClwyd.com
Llwyddiant rhyngwladol yn ffres o Efrog Newydd, Paris, Caeredin a Seland Newydd. Dyma gomedi am ddawnsio, cerddoriaeth a chariad ac am beidio â setlo a theimlo fel eejit, a bod yn ddewr a magu amheuon a gwneud eich gorau a rhoi cynnig ar bethau newydd a meddwl y tu allan i’r bocs a gweld pethau’n glir a byw cystal ag y gallwch chi a mynd amdani! Gyda cherddoriaeth roc a rôl. Bydd yn gwneud i chi fod eisiau dawnsio. Cynhyrchir Swing gan ‘Ireland’s excellent Fishamble’ (Guardian, 2015) sy’n cael ei gyllido gan Gyngor y Celfyddydau a Chyngor Dinas Dulyn. Cefnogir ei daith ryngwladol gan Culture Ireland. Datblygwyd Fishamble: The New Play Company and Irish Theatre Institute fel rhan o Show in a Bag, menter datblygu artistiaid i roi adnoddau i gynhyrchwyr theatr ac actorion.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
5
GŴYL GELTAIDD
Dwy Ddrama: Charolais a Small Plastic Wars Charolais Gan Noni
Stapleton
Bigger Picture Projects Cyfarwyddwr: Bairbre Ní Chaoimh Perfformiwr: Noni Stapleton
“Fast-paced, witty, intensely emotional tale filled with laughter, loss and despair”
★★★★ Irish Times
“Hilarious take on rural life and love… full of wisdom and tenderness” Sunday Independent
GŴYL GELTAIDD
Cefnogir gan Culture Ireland fel rhan o Raglen Canmlwyddiant Iwerddon 2016
Enillydd Gwobr ‘Little Gem’ Bewley’s yng Ngŵyl Fringe Tiger Dulyn.
Small Plastic Wars Gan Pat
Mae’r ddrama hon wedi cael ei mowldio a’i lliwio’n dyner. Comedi dywyll a swreal am gariad, hiraeth a gelyniaeth ddwys un ddynes gyda heffer Charolais. Dyma leoliad mwdlyd o ddyhead nwydus yn gymysg ag unigrwydd sy’n brathu i’r asgwrn. Pur anaml yn y theatr y gwelir heriau bywyd amaethyddol a phleserau rhyw’n cael eu mynegi mor agored na gyda chymaint o gyfaredd. Os ydych chi’n hoffi buchod a hiwmor tywyll, dyma sioe werth chweil i chi!
McGrath
Bigger Picture Projects Cyfarwyddwr: Alan King Perfformiwr: Pat McGrath
“McGrath’s wonderful performance does justice to his hilarious, well-paced script”
★★★★
The Irish Times
“..diamond of a show… terrifically realised in an understated tour de force… hilariously conjured”
★★★★★
Irish Theatre Magazine
dd
Dydd Mawrth 3 Dydd Sadwrn 7 Mai
aa 7.45pm
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Stiwdio 2
6
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Cofnod difyr am sut trodd un dyn freuddwyd heb ei gwireddu i gau bwlch ar ôl colli ei waith. Mae Joe yn rheoli ei fyd yn llwyr. Mae’n drueni mai dim ond ar raddfa o 1/35 mae’r byd hwnnw’n bodoli a’i fod wedi’i greu o blastig. Yn y cyfamser, yn ôl mewn bywyd go iawn, mae cystadleuaeth ar y gorwel ond y cyfan mae Joe ei eisiau yw llonydd i adeiladu ei fodelau ac ennill y gorau yn y sioe. Mae diweithdra wedi rhoi amser iddo o’r diwedd i fwynhau ei hobi o lynu darnau plastig at ei gilydd ond, yn anffodus, mae gan ei wraig, ei blant, y banc, ei nemesis Hermann (Brian yw ei enw go iawn), y ferch ar y til yn Tesco ac Angela Merkel syniadau eraill.
TheatrClwyd.com
GŴYL GELTAIDD
Molly Whuppie Ysgrifenwyd a Chyfarwyddwyd gan
Virginia Radcliffe
Licketyspit Theatre Company www.licketyspit.com
“It’s just a joy. Long may you run and run, Molly Whuppie – you’re a classic piece of children’s theatre”
★★★★★ The Herald
dd
Dydd Mercher 4 Dydd Sadwrn 7 Mai
aa Dydd Mercher 4.30pm Dydd Iau 10am a 1.30pm Dydd Gwener 10am a 4.30pm Dydd Sadwrn 10am a 2pm
AA £8, 1 tocyn am ddim am bob 10 plentyn.
ii
Addas ar gyfer plant 3-12 oed (ac oedolion)
ff Theatr Emlyn Williams
Mae Molly Whuppie a’i mam a’i chwaer yn byw ac yn chwarae ger glan y môr nes bod gaeaf caled yn rhewi’r môr a dim bwyd ar ôl. Un noson, mae Molly’n mynd i ysbïo ar dyrrau euraid castell y Brenin i fyny’n uchel ar ben y mynydd. Yn dawel, mae’n mynd ar flaenau’i thraed o’r tŷ i ddringo i fyny drwy’r goedwig i ofyn i’r Brenin am fwyd ar gyfer Gwledd y Gaeaf. Ond dydi Molly ddim yn gwybod bod Cawr yn y goedwig na bod rhaid iddi groesi Pont yr Un Blewyn er mwyn cyrraedd castell y Brenin! Yn seiliedig ar stori draddodiadol o’r Alban, gyda thelyn yn gefndir iddi, a Gavin Marwick ar y ffidil. GŴYL GELTAIDD
The Long Road and the Far Horizons... Cerddoriaeth Albanaidd ar y Ffidil gyda Gavin Marwick
dd
Dydd Gwener 6 Mai
aa 8pm
AA £12, Gostyngiadau £10 i ffwrdd,
ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9
ff Ystafell Clwyd
TheatrClwyd.com
Mae siwrnai gerddorol y chwaraewr ffidil o’r Alban, Gavin Marwick, wedi ei arwain i lwyfannau dirifedi ym mhob cwr o’r byd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae ei chwarae a’i gyfansoddi wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y traddodiad Albanaidd ac mae wedi cael ei ysbrydoli gan ei deithiau a’i brofiadau o gerddoriaeth, diwylliannau, dawnsfeydd a theatrau amrywiol. Heno bydd yn chwarae’r gerddoriaeth sydd ar ei CD ddwbl a lansiwyd yn 2014, The Long Road and The Far Horizons, a’r llyfr alawon sy’n cyd-fynd, Horizons. Bydd cynulleidfaoedd Theatr Clwyd yn gyfarwydd ag o ar ôl ei weld yn ddiweddar gyda The Tailor of Inverness ac ar hyn o bryd gyda Molly Whuppie.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
7
GŴYL GELTAIDD
Spike Milligan’s Puckoon Addasiad gan Vincent
Higgins
Big Telly Theatre Company Cyfarwyddwr: Zoe Seaton Cerddoriaeth: Paul Boyd
“It is easy to see why this rumbustious romp of a show has been a huge hit barnstorming around Ireland”
★★★★
WhatsOnStage.com
dd
Iwerddon 1922 ac mae Comisiwn Ffiniau Ulster wedi creu ffin newydd yn syth drwy ganol tref fechan Puckoon. Gyda’r eglwys wedi’i gwahanu oddi wrth ei mynwent ei hun a diod nawr dri deg y cant yn rhatach yn un gornel o’r dafarn, ’fydd bywyd yn y dref sydd wedi’i rhannu o’r newydd byth yr un fath eto.
Dydd Llun 9 Dydd Mawrth 10 Mai
aa 7.45pm
AA £12, Gostyngiadau £10,
ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9
GŴYL GELTAIDD
ff Theatr Emlyn Williams
Yn seiliedig ar y llyfr gan Spike Milligan, mae’r campwaith comig hwn yn stori ddeifiol a hynod ddoniol sy’n tynnu coes, yn dathlu’r absẃrd ac yn creu darlun o fywyd symlach sy’n ymylu ar fod yn chwerthinllyd.
Mrs Reynolds a’r Cena Bach Gan Gary
Owen
Cyfieithiad Cymraeg gan Meic Povey o Mrs Reynolds and the Ruffian Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chwmni’r Frân Wen a Galeri Caernarfon Cyfarwyddwr: Ffion Hâf Cast : Siw Hughes Siôn Emyr Leah Gaffey Rhian Green Iwan Fôn
dd
Dydd Mawrth 10 Dydd Mercher 11 Mai Sgwrs cyn y sioe Ystafell Haydn Rees, 6.30pm Dydd Mawrth 10 Mai (ar gyfer dysgwyr Cymraeg) Dydd Mercher 11 Mai (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
aa 7.30pm
AA £18, Gostyngiadau £16, Grwpiau (5 neu fwy) £10
ii
Canllaw oedran 12+
ff Theatr Anthony Hopkins
8
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Pan mae gardd hyfryd Mrs Reynolds yn cael ei difrodi, caiff y fandal ifanc, Jay, ei yrru yn ôl yno gan yr awdurdodau i helpu’r hen wraig i’w thrwsio. O ganlyniad, daw dau fyd benben â’i gilydd; byd parchus, twt yr hen wraig, a byd heriol, anghynnes y llanc ifanc. Wrth iddyn nhw ddod i ddeall ei gilydd, datgelir rhywbeth sy’n dipyn o fraw i’r ddau. Mae’r ddrama gyfoes hon gan yr awdur arobryn, Gary Owen – ac un o’n hawduron Cymreig mwyaf beiddgar – yn cynnig golwg newydd, ffraeth a chadarnhaol ar y natur ddynol ac ar berthynas dwy genhedlaeth a dau ddosbarth cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Manteisiwch ar Sibrwd – ap ar gyfer ffonau clyfar, sy’n arwain y diGymraeg a dysgwyr drwy’r perfformiad. Lawrlwythwch o App Store a Google Play.
TheatrClwyd.com
GŴYL GELTAIDD
St Nicholas Gan Conor
McPherson
The Other Room Cyfarwyddwr: Titas Halder Cynllunydd: Amy Cook Perfformiwr: Christian Patterson
dd
Dydd Mawrth 10 Dydd Sadwrn 14 Mai
aa 7.45pm
GŴYL GELTAIDD
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Stiwdio 2
“When I was a boy, I was afraid of the dark... What was there? And maybe one of the things I thought was there was vampires.” Mae dyn yn adrodd stori ryfeddol am ddiota, partïon drwy’r nos, a gwaed. Fel beirniad theatr, mae wedi arfer creu pob math o straeon ffantasïol ac anhygoel. Mae hon yn wahanol. Wedi blino ar y byd, mae ar ffo rhag ei deulu, ei gyfrifoldebau a fo’i hun. Caiff ei hudo gan actores ifanc a’i demtio i fyd o hedonistiaeth yng ngolau cannwyll, i dywyllwch, ac at fampirod. Wrth sefyll ar ddibyn uffern, mae’n rhaid iddo ddod o hyd i ffordd o ddianc, o achub y ferch mae’n dyheu am ei chael ac o sicrhau gwaredigaeth i’w enaid.
A Regular Little Houdini Awdur a pherfformiwr:
Daniel Llewelyn-Williams Flying Bridge Theatre Cyfarwyddwr: Joshua Richards
dd
Dydd Iau 12 Dydd Sadwrn 14 Mai
aa 7.45pm
Teithiodd Houdini ledled Prydain ddwywaith. Ar y ddau achlysur, cafodd helynt gyda’r heddlu yng Nghasnewydd. Mae bachgen ifanc eithaf anghyffredin, sy’n tyfu i fyny yn nociau llewyrchus Casnewydd ac sydd ag obsesiwn â Houdini, yn ceisio efelychu ymrwymiad Houdini i’w gelfyddyd ac mae’n ein harwain ni drwy wyth mlynedd o dwf diwydiannol mwyaf Prydain, wrth iddo geisio ... rhyfeddod!
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Theatr Emlyn Williams
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
9
GŴYL GELTAIDD | THEATR YMWELD
Folk, Tuplet ac A Mighty Wind Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru 2016 dd
Dydd Gwener 13 Dydd Sadwrn 14 Mai Gweithdy Gwanwyn i Bobl Hŷn: Dydd Gwener 13 Mai, 11am - 1pm Dosbarth Gwylio Dawns: Dydd Gwener 13 Mai, 12.45pm. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am ragor o fanylion
aa 7.30pm, Sioe Bnawn Ryngweithiol i Deuluoedd, Dydd Sadwrn 14 Mai, 2pm TT
Sgwrs ar ôl y Sioe 13 Mai
AA £21, £17, Gostyngiadau £2 i ffwrdd. Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £10
ff Theatr Anthony Hopkins
Dyma dri darn gwefreiddiol gan dri o goreograffwyr gorau Ewrop, gan gynnwys Premiere Byd o Folk gan ei Gyfarwyddwr Artistig newydd, Caroline Finn; Tuplet, darn ffraeth a phwerus gan Alexander Ekman; a darn bywiog iawn, A Mighty Wind, gan Jeroen Verbruggen sy’n cyfleu dwysedd storm yn erbyn y pŵer a gynhyrchir gan gyngerdd cerddoriaeth roc amgen Sioe Bnawn Ryngweithiol i Deuluoedd – Mae sioeau pnawn rhyngweithiol i deuluoedd yn ffordd hwyliog, ddifyr a chreadigol o gyflwyno eich teulu i fyd y ddawns. Fel rhan o’r Sioe Bnawn Ryngweithiol i Deuluoedd, mae cyfle i chi a’ch teulu ddawnsio ar y llwyfan gyda’n dawnswyr (dydi hynny ddim yn orfodol!), holi cwestiynau a dysgu darnau o sioe’r Cwmni. Ar ôl yr egwyl, bydd y plant yn cael cyfle i wylio ein dawnswyr yn perfformio Tuplet
GŴYL GELTAIDD
Black is the Color of My Voice Awdur a pherfformiwr
Apphia Campbell Seabright Productions Ltd Cyfarwyddwyd Arran Hawkins a Nate Jacobs
“Campbell may wear Simone’s trademark head wrap but her performance goes beyond impersonation” THEATR YMWELD
★★★★ The Times dd
Dydd Mercher 18 Dydd Iau 19 Mai
Ysbrydolwyd Black is the Color of My Voice gan fywyd Nina Simone ac mae’n olrhain hanes cantores jazz lwyddiannus ac ymgyrchwraig dros hawliau sifil sy’n ceisio cyfiawnder am farwolaeth ei thad cyn ei amser. Mae’n adlewyrchu ar y siwrnai a aeth â hi o fod yn seren ifanc ar y piano, a’i bywyd ar un adeg wedi’i gysegru i wasanaethu’r eglwys, i lais jazz byd enwog a oedd ar flaen y gad yng ngwaith y Mudiad Hawliau Sifil.
aa 7.45pm
AA £11, Gostyngiadau £9
(Ac eithrio nos Sadwrn)
ff Theatr Emlyn Williams
The Theatr Clwyd Celebrity Classical Concert Season 2016
Eblana String Trio – Anna Rosa Mari, Flute MOZART Pedwarawd i’r Ffliwt yn A K.298 BEETHOVEN Triawd Llinynnol Op.9 Rhif 1 MOZART Pedwarawd i’r Ffliwt yn D K.285
“Brilliantly [played] by the Eblana String Trio”
★★★★
The Sunday Times
dd
Dydd Sul 22 Mai
aa 7.30pm
AA £17, Gostyngiadau £15 ff Theatr Anthony Hopkins
10
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Sefydlwyd Triawd Llinynnol Eblana yn 2006 ac mae’n perfformio’n rheolaidd ledled y DU. Mae’r ffliwtydd ifanc arobryn o wlad Groeg, Anna Rosa Mari, yn ymuno â’r triawd y tro hwn. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle prin i glywed Pedwarawd Mozart i’r Ffliwt a hefyd dau ddarn prin arall; Triawd Llinynnol Beethoven a Thriawd Llinynnol bywiog Dohnanyi.
TheatrClwyd.com
THEATR YMWELD
Clybourne Park Gan Bruce Norris Mercury Theatre Cyfarwyddwr: Daniel Buckroyd Cynllunydd: Jonathan Fensom Cynllunydd Goleuo: Mark Dymock Cynllunydd Sain: Steve Mayo Y cast yn cynnwys: Mark Womack Ben Deery Rebecca Oldfield Gloria Onitiri Rebecca Manley Wole Sawyerr William Troughton Dan Gaisford
dd
Dydd Llun 23 Dydd Sadwrn 28 Mai
AA £25, £21, £17 (Gostyngiadau £2
oddi ar bris y 2 docyn drutaf, ac eithrio nos Sadwrn), ysgolion/ myfyrwyr (5 neu fwy) £10
ii
Mae’r ddrama hon yn cynnwys iaith gref iawn. Addas i 14+ oed
ff Theatr Anthony Hopkins
THEATR YMWELD
aa 7.30pm, pnawn Iau a Sadwrn 2.30pm
Dychan miniog sy’n codi’r caead ar hil ac eiddo tiriog mewn ardal ffuglennol yn Chicago. Mae’r chwedegau chwyldroadol rownd y gornel ac mae teulu o bobl dduon yn symud i ardal sy’n llawn pobl wyn ar y cyrion trefol, gan ysgogi llawer o sibrwd disgwyliedig ymhlith y cymdogion. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dychwelyd i’r un tŷ yn 2009 wrth i bobl gyfoethocach symud i’r ardal ac wrth i rôl pawb newid. Roedd dychan hynod ddoniol Bruce Norris, Clybourne Park, yn llwyddiant ysgubol yn y West End ac wedyn gwerthwyd pob tocyn pan lwyfannwyd y ddrama am gyfnod yn y Royal Court Theatre yn Llundain. Mae wedi cael ei chanmol gan y beirniaid a chan gynulleidfaoedd ers iddi ymddangos am y tro cyntaf ar Broadway yn 2009 a derbyniodd Clybourne Park wobr y Ddrama Orau yng Ngwobrau Olivier ac yng Ngwobrau Tony, Gwobr Drama Orau The Evening Standard, Gwobr Theatr y South Bank Sky Arts a Gwobr Drama Orau Cylch y Beirniaid.
Think No Evil Of Us: My Life With Kenneth Williams Awdur a pherfformiwr
David Benson
Seabright Productions Ltd
“Unforgettable and inspirational theatre” Independent on Sunday
“Brilliant! A truly remarkable event” Mail on Sunday
“A masterpiece of comic timing” London Evening Standard
dd
Dydd Iau 26 Dydd Sadwrn 28 Mai
aa 7.45pm
AA £13, Gostyngiadau £11
(ac eithrio nos Sadwrn), ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9
ff Theatr Emlyn Williams
TheatrClwyd.com
Mae’r sioe un dyn ragorol hon yn portreadu cymeriad un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Prydain y mae hiraeth mawr ar ei ôl. Yn y perfformiad gwefreiddiol a hynod ddoniol yma gwelwn seren y ffilmiau Carry On, Kenneth Williams, ar ei ddoniolaf - ac yn ymddwyn ar ei waethaf. Clywyd dynwarediad ardderchog David Benson yn y gyfres lwyddiannus ar BBC Radio 4 hefyd, The Private World of Kenneth Williams. Ar ôl ymddangosiad llwyddiannus fel Fringe First yng Ngŵyl Caeredin yn 1996, llwyfannwyd Think No Evil Of Us yn y West End. Nawr mae’n dychwelyd ar gyfer taith gyfyngedig i ddathlu ugain mlynedd mewn fersiwn wedi’i ddiweddaru.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
11
THEATR YMWELD
Miramar Triongl Cyfarwyddwr: James Williams Perfformwyr: Valmai Jones, Rebecca Knowles, Rebecca Smith Williams Cynllunydd Goleuo: Dan Young www.triongl.com
dd
Dydd Mawrth 7 Mehefin
aa 7.45pm
AA £8, Gostyngiadau £6 ii
Mae hon yn ddrama ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
ff Ystafell Clwyd
Ar ôl marwolaeth ei gŵr, mae Enid, sy’n 74 oed, yn cael ei gorfodi i werthu’r tŷ mae wedi byw ynddo am y rhan fwyaf o’i bywyd. Mae’n gwylio wrth i’r perchnogion newydd gyrraedd i’w drawsnewid yn dŷ gwyliau newydd iddyn nhw eu hunain. Maen nhw’n ei ail-wneud ac wedyn yn dychwelyd i’r ddinas. Sioe ddoniol a thywyll yn astudio’r lle rydyn ni’n ei alw’n ‘gartref’. Yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Pedwarawd Tina May: Berlin – Paris – Broadway: A Journey in Jazz Cyngerdd Pen Blwydd 25 Jazz Gogledd Cymru
THEATR YMWELD
dd
Dydd Mawrth 14 Mehefin
Caneuon gan George Gershwin, Irving Berlin a Cole Porter, a hefyd mawrion y llwyfan a’r sgrin, Judy Garland, Peggy Lee... Mae’r cyfan yn cyfrannu at greu’r coctel hyfryd hwn. Pedwar cerddor byd-enwog, gan gynnwys Tina May (llais), Nikki Iles (piano), Dave Green (bas dwbwl) a Steve Brown (drymiau).
aa 8pm
AA £12, Gostyngiadau £10, Plant £5 ff Ystafell Clwyd
Angela Hewitt, piano HAYDN Sonata yn A meddalnod mwyaf Hob XVI/46 SCHUBERT Impromptus/Moments Musicaux SCHUBERT Sonata yn A leiaf Op.143 (D.784)
Mae Angela Hewitt yn un o bianyddion gorau’r byd ac mae’n ymddangos yn rheolaidd mewn datganiadau a gyda cherddorfeydd mawr ym mhob cwr o’r byd. Enillodd Gystadleuaeth Piano Ryngwladol Bach yn Toronto yn 1985 a chafodd ei dewis yn Artist y Flwyddyn gan Gramophone yn 2006.
dd
Dydd Sul 19 Mehefin
aa 7.30pm
AA £17, Gostyngiadau £15 ff Theatr Anthony Hopkins
12
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd.com
THEATR YMWELD
Diwrnod Hyfryd Sali Mali Cwmni Theatr Arad Goch Gyda chydweithrediad Gwasg Gomer. Yn seiliedig ar gymeriadau Mary Vaughan Jones
dd
Dydd Mercher 6 Gorffennaf
aa 1pm a 5pm
Mae Sali Mali wedi mynd am dro a does neb yn gallu dod o hyd iddi. Ble mae hi wedi mynd...? Dyma ddrama lwyfan i blant 3-7 oed a’u teuluoedd am gymeriadau enwog Mary Vaughan Jones – gyda cherddoriaeth, caneuon a llawer o hwyl. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn arddull unigryw Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys i fyd anturus, hudolus ac arbennig Sali Mali.
AA £8 (un tocyn am ddim am bob 10 plentyn)
ff Theatr Emlyn Williams
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
dd
Dydd Sadwrn 27 Awst
aa 7.30pm
AA £15, Gostyngiadau £13, Dan 25,
Aelodau NYAW, Ysgolion £5, (1 tocyn am ddim am bob 10 plentyn)
ff Theatr Anthony Hopkins
Unwaith eto, mae’n bleser gan DGIC ddod â’u brand eu hunain o ddawnsio cyfoes creadigol a safonol i Ogledd Cymru yr haf yma. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig, Kerry Nicholls – un o artistiaid dawns gorau’r DU – yn arwain y Cwmni eleni mewn rhaglen fanwl sy’n cyfuno artistiaeth, techneg glir a llawer iawn o egni. Bydd y rhaglen yn cynnwys aM, gwaith a roddodd wefr i’r cynulleidfaoedd yn Apex Rising – rhaglen ddawns ryngwladol i ieuenctid yn Sadler’s Wells, Llundain – gyda sgôr wedi’i chomisiynu’n arbennig (David Walters) a chynllun goleuo cywrain (Jo Fletcher).
THEATR YMWELD / I DDOD YN FUAN
Cyfarwyddwr Artistig: Kerry Nicholls Coreograffydd Gwadd: Eleesha Drennan
I Ddod yn Fuan Romeo & Juliet: William Shakespeare Ar y cyd â
Cyfarwyddwr Artistig: Bruce Guthrie
dd
Dydd Mawrth 6 Medi
aa 7.30pm
AA £15, Gostyngiadau £13, Dan 25,
Aelodau NYAW, Ysgolion £5, (1 tocyn am ddim am bob 10 plentyn)
ff Theatr Anthony Hopkins
TheatrClwyd.com
I gofio 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare, bydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2016 yn cyflwyno ei stori serch enwocaf am ddau gariad sydd â’u ffawd yn siŵr o arwain at drasiedi. Dyma fersiwn deinamig, modern o glasur Shakespeare gyda symudiadau gan y cwmni theatr corfforol enwog, Frantic Assembly, a hefyd cerddoriaeth fyw a dull bywiog o adrodd stori.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
13
COMEDI
Kill for a Seat Comedy !!
16+ oed. Gall gynnwys iaith gref a deunydd i oedolion
Gyda’r arweinydd preswyl, SILKY, a gwesteion arbennig “…has already proved a big hit. International quality comedy on a budget” The Leader
Joe Rooney & Jonnie Price
COMEDI
Joe Rooney: “Delivery plus content. He’s a smooth operator with an innate confidence….” Chortle Jonnie Price: “If you cross Ralph from the Muppets with a Welsh ex-powerlifter, you get new star of the comedy circuit Jonnie Price” Clowns Pocket Comedy ...a gwesteion arbennig. d Dydd Iau 5 Mai
Jenny Collier a Gwestai Arbennig Jenny Collier: “Dryly innocent’’ ★★★★★ Eastlondonlines.com ...a gwesteion arbennig a’r cyflwynydd doniol, Silky. d Dydd Iau 2 Mehefin
Steve Shanyaski & David Hadingham Steve Shanyaski: “A star in the making” City Life David Hadingham: “Ranting and raving comic genius” Nerve ...a gwesteion arbennig a’r arweinydd sy’n siŵr o roi gwledd i chi, Silky. d Dydd Iau 7 Gorffennaf
Allyson June Smith & Sean Meo Allyson June Smith: Just for Laughs Montreal Comedy Festival, CTV’s Comedy Now, CBC’s The Debaters. Sean Meo: “Deliciously sardonic” The Guardian Guide ...a gwesteion arbennig a’r arweinydd doniol, Silky. d Dydd Iau 4 August aa 8pm AA £12 Gostyngiadau £10 ff Clwyd Room
14
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd.com
MUSIC | LITERATURE | COMING SOON
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
15
YR HAF I BLANT A PHOBL IFANC
Yr Haf i Blant a Phobl Ifanc I Ieuenctid 11-16 oed Tales of Terror
Chwilio am Gymeriadau ar gyfer Theatr Ieuenctid yr Haf yma. Ymunwch â ni ar siwrnai drwy fyd Edgar Allan Poe. “…dreaming dreams no mortals ever dared to dream before.” Dydd Llun 25 - Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf Dyddiau’r wythnos 9am - 5pm
Ar gyfer Ieuenctid 14-18 oed Ysgol Ddawns yr Haf i Ieuenctid gan Rambert Mae ysgol ddawns yr haf gan Rambert i ieuenctid yn gyfle gwych i ddawnsio, creu, perfformio a chael eich ysbrydoli! O dan arweiniad dawnsiwr ac athro proffesiynol gyda Rambert, bydd y dawnswyr ifanc yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau dawns dyddiol, repertoire a gweithdai creadigol a byddant hefyd yn cael cyfle i berfformio eu gwaith i ffrindiau a theulu ar ddiwedd yr wythnos. Dydd Llun 25 - Dydd Gwener 29 Gorffennaf 10am - 4pm
YR HAF I BLANT A PHOBL IFANC
Ar gyfer Plant 6-11 oed Cyfle i ysbrydoli eich plentyn yr haf yma ac archebu lle iddo ar ein Rhaglen Haf, sy’n dathlu canmlwyddiant yr awdur a aned yng Nghymru, Roald Dahl. Gan weithio gydag ymarferwyr proffesiynol y theatr, bydd eich plentyn yn cael cyfle i feithrin creadigrwydd, hyder a sgiliau theatr! Cyfle i ddatgelu ei botensial ac, yn fwy na dim, cael llawer iawn o hwyl!
Mischief & Mayhem Cyfle gwerth chweil i greu direidi ac anhrefn fel The Witches a The Twits. 1 - 5 Awst (Llun - Gwener) 9am - 5pm
Heroes & Villains Cewch fod yn arwr mawr fel George, the Giraffe and the Pelly, neu’n greadur dieflig fel The Enormous Crocodile. 8 - 12 Awst (Llun - Gwener) 9am - 5pm
Prices Dim ond £100 yw pob wythnos. Bydd gostyngiad o 25%* ar gael ar gyfer y canlynol: • Teuluoedd ar fudd-daliadau (angen tystiolaeth, nid yw’n cynnwys Credyd Teulu). • Dau neu fwy o frodyr a chwiorydd. • Archebu pythefnos i un plentyn. * Dim ond un gostyngiad roddir i bob plentyn. Archebu ar agor nawr I ymuno: 01352 701521 Gwybodaeth: 01352 701575/6 youngclwyd@theatrclwyd.com
16
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd.com
CWMNÏAU CYMUNEDOL
Deep Cut By Philip
Ralph
Suitcase Theatre
dd
Friday 22 & Dydd Sadwrn 23 Ebrill
aa 8pm, Sioe pnawn Sadwrn 2pm
AA £9.50, Gostyngiadau £7.50 ff Theatr Emlyn Williams
Mae drama afaelgar Philip Ralph yn ymwneud â marwolaeth y milwr Cheryl James o Langollen, un o bedwar milwr dan hyfforddiant a fu farw o anafiadau yn sgil ergyd o wn ym Marics Deepcut yn Surrey rhwng 1995 a 2002, gyda’i marwolaeth yn parhau’n ddirgelwch. Gwrthododd rhieni Cheryl dderbyn y ddedfryd swyddogol, sef hunanladdiad, ac mae’r ddeialog yn seiliedig ar drawsgrifiadau gair am air o’r ymchwiliad dilynol
Dancefest ‘16 Ymunwch ag Ysgolion Sir y Fflint wrth iddyn nhw lamu ar y llwyfan i gyflwyno noson o ddawnsio deinamig. Dydd Mercher 18 Dydd Gwener 20 Mai
CWMNÏAU CYMUNEDOL
dd
aa 6.30pm
AA £7, Gostyngiadau £6 ii
Tocynnau ar gael o 20 Ebrill ymlaen
ff Theatr Anthony Hopkins
Lord Arthur Savile’s Crime Gan Constance
Cox
Addasiad o stori fer gan Oscar Wilde Car Boot Theatre
dd
Mae’r ddrama hon yn stori gomig am ramant, dirgelwch ac ymgais i lofruddio!
Dydd Iau 2 Dydd Sadwrn 4 Mehefin
aa 7.30pm
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Theatr Emlyn Williams
Clwyd Clippers Am ddyddiadau ymarferion a chanolfannau: www.clwydclippers.com. Cedric Crewe – 01978 757821
NADFAS (National Association for the Decorative and Fine Arts Societies) Dydd Mercher 25 Mai, 8pm
ff Ystafell Clwyd
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
17
CWMNÏAU CYMUNEDOL
Shakespeare 400 Age Cymru yn cyflwyno Suitcase Theatre a’i Ffrindiau
dd
Dydd Gwener 3 Mehefin
aa 7.30pm
AA £7 (gan gynnwys glasied o fedd) ff Ystafell Clwyd
Detholiad o ganeuon, sonedau ac areithiau, alawon Tuduraidd a golygfeydd penodol o ddramâu Shakespeare i goffau 400 mlynedd ers ei farwolaeth. Dyma gynhyrchiad ar gyfer Gŵyl Gwanwyn sy’n gwerthfawrogi creadigrwydd pobl dros 50 oed.
Hobson’s Choice Gan Harold
Brighouse
Phoenix Theatre Company ar gais Clwb Rotari’r Wyddgrug
dd
Dydd Iau 9 Dydd Sadwrn 11 Mehefin
aa 7.45pm
Comedi hyfryd Brighouse am Henry Hobson, gwneuthurwr esgidiau llwyddiannus a gŵr gweddw gormesol sy’n dad i dair o ferched. Mae’r merched eisiau gadael eu tad drwy briodi ond mae Henry’n gwrthod gan fod traddodiadau priodasol yn golygu bod rhaid iddo dalu setliad ar gyfer pob un ohonynt.
AA £10, Gostyngiadau £9, Balconi £5 ff Theatr Emlyn Williams CWMNÏAU CYMUNEDOL
Step in Time Whitton-Morris School of Dance
dd
Dydd Iau 7 Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf
aa 7pm
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Theatr Anthony Hopkins
Mae’n bleser gan The Whitton Morris School of Dance gyflwyno Step in Time. Mae’r ysgol brofiadol hon yn dathlu 40 mlynedd yn Theatr Clwyd, gan gymryd rhan yn ei chynhyrchiad pantomeim cyntaf wedi nifer fawr iawn o gynyrchiadau eithriadol lwyddiannus dros y blynyddoedd. Bydd y sioe fywiog hon yn apelio at bawb.
The Wind in the Willows Gan Kenneth
Grahame
Addasiad gan Mike Smith
Trap Door Theatre Productions
dd
Dydd Gwener 8 Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf
aa 7.30pm
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Theatr Emlyn Williams
18
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Dewch i ddilyn anturiaethau ac anhap yr anifeiliaid yn yr addasiad rhagorol hwn o stori hyfryd Kenneth Grahame am Rat, Mole, Badger a Toad. Mae’r cynhyrchiad cofiadwy a chyffrous yma’n gymysgedd o ddirgelwch, antur, moesoldeb a brawdgarwch ac yn llwyddiannus yn ei bortread o fyd natur i lawr ar lan yr afon. Mae’n gynhyrchiad llawn canu a dawnsio gan yfyrwyr Celfyddydau Perfformio Trap Door Theatre ac maent yn dod â’r stori hudolus hon yn fyw ac yn cynnig noson i’w chofio.
TheatrClwyd.com
CWMNÏAU CYMUNEDOL
Ysgolion Sir y Fflint ym Mherfformiad ’16 Ysgolion a Grwpiau Cymunedol Sir y Fflint yn ffrwydro ar y llwyfan gyda rhaglen gyffrous o berfformiadau Drama, Dawns a Cherddoriaeth.
dd
Dydd Llun 11 Dydd Mercher 13 Gorffennaf
aa 6pm & 7.15pm
AA £4, Dim gostyngiadau ff Theatr Emlyn Williams
Stole the Show Footsteps Dance
dd
Dydd Mawrth 12 Dydd Mercher 13 Gorffennaf
aa 7pm
CWMNÏAU CYMUNEDOL
AA £9, Gostyngiadau £8 ff Theatr Anthony Hopkins
Dyma gwmni Footsteps Dance i gyflwyno ei sioe i ddathlu ei ben blwydd yn 20 oed, Stole the Show. Mae wedi bod yn siwrnai wych i Footsteps. Mae’r dawnswyr hen a newydd yn dod at ei gilydd i ddathlu. Sioe hwyliog i’r teulu cyfan, i’w mwynhau gan bawb!
The Railway Children Gan E.
Nesbit
Ysgolion Sir y Fflint
dd
Dydd Gwener 15 Gorffennaf
aa 7.30pm
Addasiad newydd o un o’r straeon gorau erioed i blant wedi’i greu gan ddisgyblion Ysgol Trelogan ac Ysgol Brynffordd yn Sir y Fflint ac Ysgol Stryd Rhos yn Sir Ddinbych, gan weithio mewn partneriaeth â’r awdur/ cyfarwyddwr theatr proffesiynol a llwyddiannus, Janys Chambers.
AA £6, Gostyngiadau £5 ff Theatr Emlyn Williams
Dancerama Shirley School of Dancing
dd
Dydd Gwener 15 Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf
aa 7pm, pnawn Sadwrn 2pm
Mae ysgol brofiadol Shirley School of Dancing yn croesawu pawb sy’n hoff o ganu a dawnsio i’w chynhyrchiad blynyddol, Dancerama. Unwaith eto, dyma berfformiad bywiog gyda chantorion a dawnswyr brwdfrydig o bob oed, o’r plentyn ieuengaf un i’r rhai ifanc eu natur.
AA £9, Gostyngiadau a sioe pnawn Sadwrn £8
ff Theatr Anthony Hopkins
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
19
CWMNÏAU CYMUNEDOL
The Rime of the Ancient Mariner a This Glorious Son The Rime of the Ancient Mariner Gan Samuel Taylor Coleridge This Glorious Son Gan William Shakespeare Chester Theatre Club Youth Theatre a Heirs of Banquo Productions
dd
Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf
aa 7.45pm
AA £6, Gostyngiadau £4 ff Ystafell Clwyd
Dau ddarn cyferbyniol yn seiliedig ar waith dau o feirdd enwocaf Lloegr – Coleridge a Shakespeare. Mae’r Youth National Theatre yn cyflwyno dehongliad dramatig o’r gerdd naratif The Rime of the Ancient Mariner am achubiaeth a pherthynas dyn â Natur. Mae This Glorious Son yn cofnodi esgyniad mab ieuengaf y Brenin sy’n marw i bŵer, gan ddefnyddio cerddoriaeth a darnau o Richard III gan Shakespeare i ddangos sut mae gormes yn cynyddu mewn gwladwriaethau sy’n methu. Bedair canrif ar ôl ei farwolaeth, mae drama gynnar Shakespeare am gam-feddiannu teyrnas gyfan sydd wedi’i anrheithio gan ryfel yr un mor berthnasol ag erioed.
Pazazz CWMNÏAU CYMUNEDOL
Clint & Nikki Theatre Arts
dd
Dydd Llun 18, Dydd Mercher 20, Dydd Gwener 22 a Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf
Perfformiad egnïol gan blant Clint & Nikki Theatre Arts. Dawnsfeydd deinamig o’ch hoff ffilmiau a sioeau cerdd yn deffro’r llwyfan gyda choreograffi a pherfformiadau cofiadwy. Cadwch lygad am y ‘Sêr Ieuengaf’ a fydd yn sicr o ychwanegu elfen annisgwyl at yr achlysur. Dyma sioe fywiog a chyfareddol sy’n boblogaidd gyda phob oedran. Gyda gwisgoedd hardd a pherfformwyr talentog, peidiwch â cholli’r sioe yma.
aa 7pm
AA £9, Gostyngiadau £8.50 ff Theatr Anthony Hopkins
Blue Remembered Hills Gan Dennis Mold Players
dd
Potter
Mae un o ddramâu llawn byrrach Dennis Potter yn cynnwys oedolion yn actio fel criw o blant saith oed ar bnawn o haf yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae eu rhyngweithio’n adlewyrchu eu dehongliad hwy o fyd yr oedolion o’u cwmpas. Ond mae’r ddrama’n troi’n sinistr ac mae perygl ar y gorwel wrth iddynt wneud hwyl ar ben ‘Donald Duck’, plentyn unig sy’n cael ei gam-drin ac y mae ei obsesiwn â thân yn arwain at drasiedi.
Dydd Iau 21 Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf
aa 7.45pm
AA £10, Gostyngiadau £8 ff Theatr Emlyn Williams
20
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd.com
AM DDYDDIADAU AC AMSEROEDD SGRINIO EDRYCHWCH AR Y DYDDIADUR
Ffilmiau Tymor y Trwyn!
NT YN FYW/ENCORE – £15, £13 nationaltheatre.org.uk rsc.org.uk/whats-on/in-cinemas Branaghtheatre.com/branagh-theatre-live.php glyndebourne.com I gyd-fynd â’n cynhyrchiad llwyfan o Cyrano de Bergerac, tymor byr o ffilmiau sy’n cynnwys trwynau arwyddocaol: PINOCCHIO (1940) (U) 7 Mai, 1:30pm | 1 ¾ awr
Clasur Disney a ddysgodd i ni i gyd freuddwydio am y sêr a pheidio byth â dweud celwyddau. ROXANNE (1987) (PG) 7 Mai, 8pm | 2 awr
Edrychwch ar y gwefannau am fwy o wybodaeth. NT: A View from the Bridge: 13 Mai 4pm (Encore) RSC: Hamlet: 8 Mehefin, 8pm (Yn fyw); 17 Mehefin, 4pm (Encore) NT: The Audience: 9 Mehefin, 7pm (Encore) Glyndebourne: Il Barbiere Di Siviglia, 21 Mehefin, 6.30pm Branagh Theatre Live: Romeo and Juliet 7 Gorffennaf 7pm (Yn Fyw) Glyndebourne: Die Meistersinger Von Nurnburg, 12 Gorffennaf, 5.30pm Glyndebourne: Beatrice Et Benedict, 9 Awst, 6.30pm PERFUME – THE STORY OF A MURDERER (2006) (15) 9 Mai, 8pm | 2 ¾ awr
Tom Tykwer sydd wedi addasu nofel dywyll Patrick Suskind am ddyn gyda synnwyr arogl ffenomenal a’i ymgais i greu’r persawr gorau erioed.
CYRANO DE BERGERAC (1990) (U) Subtitled: French 19 Mai | 2 ½ awr
Ac i ddod â’r cyfan yn ôl i’r dechrau gyda steil, fersiwn Jean-Paul Rappenau a enillodd Oscar o’r ddrama gyda Gerard Depardieu ac Anne Brochet “A splendid movie” (Roger Ebert).
(Yr Alban) BRAVEHEART Yn parhau â’n gŵyl flynyddol i ddathlu diwylliant y gwledydd Celtaidd. (Iwerddon) FIFTY DEAD MEN WALKING (2008) (15) 3 Mai, 8pm | 2 ¼ mins
Belfast yn anterth Yr Helyntion. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, Jim Sturgess sy’n serennu fel Martin McGartland, y mae ei fywyd yn troi’n hunllef wrth iddo ddechrau rhannu gwybodaeth â’r IRA. Hyd heddiw, mae McGartland yn dal i guddio. Gyda Ben Kingsley.
(Yr Alban) IONA (2016) (15) 5 Mai, 8pm | 1 ½ awr
Mae gwraig yn dychwelyd i gartref ei phlentyndod gyda’i mab yn ei arddegau ac yn cael croeso cymysg. Mae’n amlwg eu bod yn dianc rhag rhywbeth ac mae eu stori’n cael ei datgelu’r raddol gyda pherfformiad canolog rhagorol gan Ruth Negga. (Cymru) SOLOMON A GAENOR (1999) Is-deitlau: Cymraeg 6 Mai, 8pm | 2 awr
Cafodd y ffilm yma gan Paul Morrison ei henwebu am Oscar i Gymru. Mae wedi’i lleoli yn 1911 ac yn adrodd hanes gwerthwr ifanc o ddrws i ddrws sy’n syrthio mewn cariad â merch ifanc hardd yn y cwm nesaf. Ond mae o’n celu’r ffaith mai Iddew ydyw a buan iawn y bydd y gymdeithas yn dod i wybod. Ac yn beirniadu. Gydag Ioan Gruffudd a Nia Roberts.
TheatrClwyd.com
(1995) (15) 7 Mai, 4pm | 3 awr
Paentiwch eich wyneb yn las a gweiddi RHYDDID! am berfformiad ysgubol gan Mel Gibson fel y chwyldroadwr enwog o’r Alban, William Wallace. Dyma stori ddirdynnol am wrthsefyll bygythiadau di-ildio’r Saeson sy’n cael eu personoli gan Patrick McGoohan fel Longshanks. (Iwerddon) WHAT RICHARD DID
FFILMIAU
Yr Ŵyl Geltaidd
Fersiwn modern Steve Martin o’r ddrama gydag ef ei hun yn serennu fel y swyddog tân barddonol sydd â thrwyn enfawr. A Daryl Hannah fel seryddwraig benfelen hardd – ie, rydych chi’n cael y syniad…
Sgrinio drwy loeren
(2009) (15) 10 Mai, 8pm | 2 ½ awr
Mae ffilm gynharach gan y gŵr o Ddulyn, Lenny Abrahamson (Room), yn adrodd stori bachgen dosbarth canol o Ddulyn sydd â bywyd gwych o’i flaen ond mae’n mynd yn rhy bell un noson a’r canlyniad yw gorfod ymrafael â’i gydwybod… (Iwerddon) MICHAEL COLLINS (1996) (15) 11 Mai, 2pm | 2 ½ awr
Cyfle i weld ffilm epig Neil Jordan wrth iddi ddathlu ei phen blwydd yn 20 oed. Dyma hanes Gwyddel chwedlonol sy’n brwydro am ryddid ac a allai fod wedi newid llwybr hanes Iwerddon. Gyda Liam Neeson ac Alan Rickman. (Iwerddon) I AM BELFAST (2016) (12A) 11 Mai, 8pm | 2 awr
Mark Cousins sy’n creu portread hoffus a barddonol o’i ddinas enedigol. (Cymru) ELDRA (2003) Subtitled: Welsh 12 Mai, 8pm | 1 ¾ awr
Ffilm AM DDIM o’r stori hon am ferch Romani ym Methesda yng Ngogledd Cymru sy’n dod yn ffrindiau gyda llwynog yn ystod un haf. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
21
Shakespeare 400
AM DDYDDIADAU AC AMSEROEDD SGRINIO EDRYCHWCH AR Y DYDDIADUR
I gyd-fynd â’n cynyrchiadau ni o Much Ado About Nothing a Hamlet yn fyw gan yr RSC, dwy glasur gan Shakespeare o gyfnodau a diwylliannau gwahanol gan gyfarwyddwyr eiconig y llwyfan a’r sgrin – Peter Brook ac Akira Kurosawa: KING LEAR (1980) (PG) 10 Mehefin, 4pm | 2 ½ awr
Y cyfarwyddwr medrus, Peter Brook, sydd wedi cyfarwyddo Paul Schofield yn y brif ran ac mae llawer wedi dweud mai’r perfformiad hwn yw’r Lear gorau yn yr 20fed ganrif.
Dyma ddehongliad Akira Kurosawa o King Lear, ei ffilm fawr olaf a wnaed ag yntau’n 75 oed, yng nghanol penaethiaid rhyfelgar y Samurai yn Japan ganoloesol. THE BAD SLEEP WELL (1961) (PG) Is-deitlau: Japaneeg. 24 Mehefin, 4pm | 2 ½ awr Kurosawa sy’n edrych eto ar Hamlet. Wrth i oes newydd wawrio ar ôl y rhyfel yn Japan, mae gŵr ifanc yn gweithio ei ffordd drwy’r rhengoedd mewn corfforaeth, a hyd yn oed yn priodi merch y diwydiannwr cyfoethog a thwyllodrus sydd wrth y llyw. Ond disgwyl ei gyfle i ddial am hunanladdiad ei dad mae’r gŵr ifanc.
BROOKLYN (12A) Sgriniad Rhiant a Babi 17 Mai, 11am | 2 awr
Ail-gread o America o’r ffilm o’r Ariannin gyda’r un enw a enillodd Oscar. Dyma ffilm iasoer sy’n llawn tyndra gyda Chiwetel Ejiofor fel arolygydd gyda’r heddlu sy’n ceisio canfod llofrudd merch ei bartner cyn iddi hi wneud hynny. Gyda Nicole Kidman a Julia Roberts fel y fam ddialgar.
Cyfle arall i weld Saoirse Ronan yn stori Colm Toibin am ferch ifanc o Iwerddon sy’n mentro i fyd a bywyd newydd yn Efrog Newydd. “Pulse-quickeningly good.” Telegraph
STAR WARS: THE FORCE AWAKENS (12A) 4 Mai | 2 ½ awr
FFILMIAU
Y bedwaredd yn y gyfres! Rhag ofn bod rhywun yn eich plith chi dal heb weld y Star Wars diweddaraf neu, yn fwy tebygol, eisiau ei gweld hi eto ...
RELAXED – KUNG FU PANDA 3 (PG)
7 Mai 11am | 2 ½ awr
Pandamoniwm llwyr (eu jôc nhw) gyda Po a’i ffrindiau ar antur arall.
HAIL CAESAR! (12A)
Dyddiad Dechrau: 13 Mai | 2 awr
Mae’r Brodyr Coen yn eu hôl gyda chomedi am fyd teledu wedi’i lleoli yn Hollywood yn y pumdegau. Mae Eddie Mannix (Josh Brolin) yn rheolwr stiwdio sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn bron pan mae ei seren, yn gwisgo toga a sandalau, yn cael ei herwgipio o set y sioe y mae pawb wedi hoelio’u gobeithion arni. Gyda George Clooney, Tilda Swinton, Scarlett Johansson ac eraill. “An exhilarating switchup! A comic fable that’s both deftly clever and irrepressibly goofy.” Roger Ebert
22
16 Mehefin, 8pm | 2 ¾ awr
SECRET IN THEIR EYES (15)
Dyddiad Dechrau: 29 Ebrill | 2 ¼ awr
Pinocchio
RAN (1985) (PG) Is-deitlau: Japaneeg
Eddie The Eagle
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
MARGUERITE (15) – Is-deitlau: Ffrangeg Dyddiad Dechrau: 17 Mai | 2 ½ awr Mae’n 1920au ym Mharis ac mae Marguerite Dumont (Catherine Frot) eisiau bod yn seren opera. Mae hi’n hardd ac yn gyfoethog. Ond dydi hi ddim yn gallu canu. A does neb am fentro dweud wrthi. Felly ... mae hi’n canu. Yn seiliedig ar stori wir am wraig o Efrog Newydd, Florence Foster Jenkins.
EDDIE THE EAGLE (PG) Dyddiad Dechrau: 20 Mai | 2 awr Sgriniad Rhiant a Babi 21 Mehefin, 11am Stori wir ddifyr a hyfryd am ddyn sy’n gwrthod ildio. Gyda Taron Egerton fel Eddie Edwards, plymar sy’n goresgyn sawl rhwystr i fod yn neidiwr sgïo Olympaidd cyntaf erioed Prydain, gan gipio calonnau’r dorf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1988 gyda’i gampau. Gyda Hugh Jackman yn llawn anobaith fel ei hyfforddwr.
HIGH-RISE (15)
Dyddiad Dechrau: 24 Mai | 2 ¼ awr
Ben Wheatley sydd wedi addasu dameg ddystopaidd JG Ballard o 1975 sydd wedi’i lleoli mewn adeilad uchel wedi’i gynllunio gan bensaer gyda phob cyfleustra modern. Ond mae’r craciau’n dechrau dangos yn raddol. Gyda Tom Hiddleston fel y meddyg ifanc hunangynhaliol, Jeremy Irons fel y pensaer a Luke Evans fel y cynhyrchydd teledu sy’n sosialydd. Pwy ydych chi’n feddwl fydd yn ennill...?
Star Wars The Force Awakens
Marguerite
Angry Birds
TheatrClwyd.com
FFILMIAU
DESPITE THE FALLING SNOW (12A)
THE CLUB (18) – Is-deitlau: Sbaeneg
26 Mai | 2 awr
Dyddiad Dechrau: 3 Mehefin | 1 ¾ awr
Pablo Larrain o Chile sydd wedi cyfarwyddo’r cofnod dirdynnol yma o gam-drin plant yn yr Eglwys Gatholig. Mae’n adlais o’r cyfnod ar ôl teyrnasiad Pinochet. Mae pedwar offeiriad yn byw bywyd tawel mewn mynachlog anghysbell ar arfordir Chile pan ddaw offeiriad ifanc i’w holi am y gorffennol.
Moscow. 1959. Mae Comiwnyddiaeth wedi dinistrio ei theulu ac mae Katya bellach yn ysbïo ar ran yr Americanwyr. Ond pan mae’n syrthio mewn cariad gyda gwleidydd Sofietaidd carismataidd, mae’n cael ei gorfodi i ddewis rhwng cariad a dyletswydd. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae’n edrych yn ôl ar y berthynas. Cyfarwyddwyd gan yr awdur, Shamim Sarif, gyda Rebecca Ferguson a Charles Dance.
THE MAN WHO KNEW INFINITY (12A)
Dyddiad Dechrau: 27 Mai | 2 awr
Ydych chi’n cofio perfformiad syfrdanol A Disappearing Number ar NT Live? Dyma’r stori y tu ôl i’r stori. Mae athrylith mewn mathemateg o’r India, Ramanujan (Dev Patel Slumdog Millionaire) yn dod i Loegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ffurfio partneriaeth annhebygol ac anwadal gyda mathemategwr amlwg o Gaergrawnt, GH Hardy (Jeremy Irons). Gyda Stephen Fry a Toby Jones.
FFILM HANNER TYMOR I BLANT ANGRY BIRDS (PG) Dyddiad Dechrau: 30 Mai
Ffilm olaf Alan Rickman. Gavin Hood sydd wedi cyfarwyddo’r ffilm iasoer a deifiol hon am ryfel y drônau. Mae Helen Mirren yn gyrnol ym Myddin Prydain ar ymgyrch i ddal terfysgwr allweddol ac yn monitro camera drôn mewn tref sianti yn Kenya.
THE BRAND NEW TESTAMENT (15)
Dyddiad Dechrau: 31 Mai | 2 ½ awr
Creadigaeth nodedig gyda Sebastian Schipper wedi ffilmio’r ffilm gyfan hon mewn amser real ar draws lleoliadau amrywiol ledled Berlin. Sbaenes yw Victoria ac mae ei noson allan yn Berlin yn cymryd tro annisgwyl wrth iddi gymysgu â rhai o fechgyn lleol y ddinas. “this extraordinary thriller is no mere stunt but an immersive experience whose gripping performances make it hard to shake.” HHHHH Guardian
COURT (12A) – Is-deitlau: Marathi/Gujarati Dyddiad Dechrau: 2 Mehefin | 2 ¼ awr Ffilm gyntaf y gwneuthurwr ffilmiau o’r India, Chaitanya Tamhane, yn dychanu llys barn ac yn tynnu sylw at lygredd a dihidrwydd system gyfiawnder India drwy gyfrwng stori bardd gwleidyddol a chanwr gwerin sy’n cael ei gyhuddo am annog hunanladdiad gyda’i eiriau. Hunllef fiwrocrataidd.
TheatrClwyd.com
EYE IN THE SKY (15)
Brooklyn
FFILMIAU
VICTORIA (15) – Is-deitlau: Almaeneg
Kung Fu Panda 3
7 Mehefin | 2 ¼ awr
Enillydd y Palme d’or yn Cannes eleni a dychweliad amserol iawn i Jacques Audiard (The Prophet, Rust & Bone). Ffoadur o Tamil yw Dheepan ac mae’n cyrraedd Ffrainc gyda theulu ffug. Mae’n cael gwaith fel gofalwr ar stad o dai ddiffaith sy’n cael ei rheoli gan gangsters Ffrengig. Gangsters sydd wedi anghofio am ei orffennol gyda militia Tamil.
Dyddiad Dechrau: 10 Mehefin | 2 awr
Mae Red yn byw ar ynys baradwysaidd o adar hapus sy’n methu hedfan. Ond does fyth lwc yn dod i’w ran. Mae pawb yn gas gydag o a phopeth yn mynd o chwith. Ac wedyn mae moch gwyrdd rhyfedd yn cyrraedd yr ynys.
Court
DHEEPAN (15) – Is-deitlau: Ffrangeg
Is-deitlau: Ffrangeg. 14 Mehefin | 2 ¼ awr
Comedi ddu Jaco van Dormael yn ailddychmygu Duw mewn bodolaeth ddiflas mewn apartment ym Mrwsel fodern. Benoit Poelvoorde sy’n chwarae rhan Duw, sy’n rheoli’r byd yn ddigon grwgnachlyd o’i gyfrifiadur personol, gan ddyfeisio rheolau amrywiol ar gyfer bywyd, fel “bydd tost sy’n syrthio bob amser yn glanio gyda’r ochr sydd â jam arni ar i lawr”. Ond wedyn mae ei ferch 10 oed yn penderfynu ei bod yn amser am newid. Gyda chameo rhagorol gan Catherine Deneuve. “A peppy, original and very sweet story.” HHHH Guardian
MILES AHEAD
Dyddiad Dechrau: 17 Mehefin | 2 awr
Don Cheadle sydd wedi cyfarwyddo ac sy’n serennu yn y ffilm fywgraffiadol yma am y trwmpedwr jazz chwedlonol, Miles Davis, o’i athrylith cerddorol gwych i’w gaethiwed enwog i gyffuriau a’i hoffter o ferched. Gydag Emayatzy Corinealdi ac Ewan McGregor. 50 Dead Men Walking
SWYDDFA DOCYNNAU
Eldra
01352 701521
23
AM DDYDDIADAU AC AMSEROEDD SGRINIO EDRYCHWCH AR Y DYDDIADUR
Victoria
Roxanne
High Rise
SON OF SAUL (15) – be Is-deitlau: Hwngaraidd
22 Mehefin | 2 awr
Mae Laszlo Nemes newydd ennill Oscar am y ddrama ddeifiol yma am garcharor Iddewig sy’n gweithio yn yr amlosgfa yn Auschwitz ac sydd ag obsesiwn am gael claddu bachgen y mae’n credu sy’n fab iddo, tra bo carcharorion eraill yn cynllwynio gwrthryfel. “An outstanding excoriating look at evil in Auschwitz…a movie of extraordinary focus and courage.” HHHHH Guardian
CLASUR O FFILM – CALAMITY JANE (U) 23 Mehefin | 2 awr
Hail Caesar!
Gwybodaeth a phrisiau’r ffilmiau Ffilmiau i Bobl Hŷn Gan barhau â’r cynnig ar gyfer pobl dros 60 oed ar ddyddiau Mercher a Sadwrn mae cyfle i weld ffilmiau pnawn a chael te/coffi a’r cyfan am bris arbennig o £5. Edrychwch ar y dyddiadau am y ffilmiau sy’n cael eu dangos.
Sgriniadau Hamddenol • Kung Fu Panda (PG) 7 Mai, 11am • Angry Birds (PG) 30 Mai, 11am
FFILMIAU
Doris Day a Howard Keel sy’n serennu yn yr hen ffefryn yma, sioe gerdd o’r “gorllewin gwyllt” am ferch ifanc fedrus a’i rhamant gyda Wild Bill Hickock.
Ffilmiau Rhiant a Babi
DEMOLITION (15) Dyddiad Dechrau: 24 Mehefin | 2 awr
Prynu Sawl Ffilm
Banciwr yw Jake Gyllenhaal sy’n ceisio dod i delerau â marwolaeth ei wraig. Daw haul ar fryn iddo unwaith eto pan mae’n cwyno wrth gwmni peiriannau gwerthu, sy’n arwain at gyfarfod gyda’u hasiant gwasanaethau cwsmeriaid, Karen (Naomi Watts).
Braveheart
Y trydydd dydd Mawrth o bob mis, 11am • Brooklyn (12A) 17 Mai, 11am • Eddie the Eagle (PG) 21 Mehefin, 11am Cyfle i arbed hyd at 25% gyda’n cynnig newydd - Prynu Sawl Ffilm. Drwy archebu 3 ffilm wahanol cewch arbed 15%, drwy archebu 4 cewch arbed 20%, a thrwy archebu 5 cewch arbed 25%. Rhaid archebu’r ffilmiau ar yr un pryd er mwyn cael y gostyngiad. (Nid yw’n cynnwys Met Opera a Sgrinio Byw).
Cyfleusterau Mynediad y Sinema MUSTANG (15) – Is-deitlau: Twrceg
Dyddiad Dechrau: 28 Mehefin | 2 awr
Mae pum chwaer fywiog yn cael eu magu gan eu nain yn Anatolia anghysbell ond wrth iddynt dyfu’n hŷn, mae disgwyl iddynt ildio i’r hen drefn o briodas wedi’i threfnu ac ymddygiad gwylaidd. Yn anochel, mae anghydfod mawr yn dilyn. Enwebwyd am Oscar eleni.
DESERT DANCER (15)
30 Mehefin | 2 awr
Yn Iran, mae dawnsio wedi’i wahardd gyda chosb ddifrifol i droseddwyr. Dyma stori wir am fudiad dawnsio tanddaearol o dan arweiniad y coreograffydd, Afshin Ghaffarian, a orfodwyd yn y diwedd i symud i Ffrainc er mwyn ymarfer ei gelfyddyd. Gyda Reece Ritchie a Frieda Pinto.
24
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
Mae sain ddisgrifiad ac is-deitlau meddal yn cael eu darparu pan maent ar gael gan y dosbarthwyr. Bydd sgrinio gyda’r cyfleuster hwn ar bnawniau Sadwrn a nosweithiau Mawrth fel rheol. Holwch yn y Swyddfa Docynnau. Pob Sedd: £6 (oni bai y nodir fel arall) Plant yng nghwmni Oedolyn (Dan 15): £5 (pob ffilm) Oedolion yn Hebrwng Plant: £5 (Ffilmiau sy’n dechrau cyn 6pm) Plant dan 12 ar eu pen eu hunain: Dim mynediad Gostyngiadau: £5.50 (ac eithrio nos Sadwrn) Pobl Hŷn: Ffilm, te/coffi £5. Edrychwch yn yr adran yn y dyddiadur am sioeau pnawn Sadwrn a Mercher.
TheatrClwyd.com
PRISIAU TOCYNNAU
Prisiau tocynnau Cynyrchiadau Theatr Clwyd
Theatr Anthony Hopkins £25, £21, £17, £10 Gostyngiadau £2 oddi ar bris y ddau docyn drutaf (ac eithrio nos Sadwrn) Sioeau Rhagolwg a Noson Gyntaf £21, £17, £10 Gostyngiadau £2 oddi ar y tocynnau £21 yn unig (ac eithrio nos Sadwrn)
Noson Talu Be Fedrwch Chi i Bobl Dan 30 oed Dewch i’r Swyddfa Docynnau, ymlaen llaw neu ar y diwrnod, cyfrannu rhodd (isafswm o £2) a chael tocyn am berfformiad penodol o Cyrano de Bergerac a Much Ado About Nothing bob nos Lun. Tocyn i’r Arddegau Pris arbennig o ddim ond £1 i unrhyw un rhwng 13 ac 19 oed. Gellir prynu’r tocynnau neu eu harchebu o 1pm ar ddiwrnod y perfformiad ar gyfer sioe(au) y diwrnod hwnnw yn unig. Rhaid casglu/talu am yr archeb hanner awr cyn amser y perfformiad.
Theatr Emlyn Williams £18, Yr Oriel £14. Gostyngiadau £2 i ffwrdd (ac eithrio nos Sadwrn) Sioeau Rhagolwg a Noson Gyntaf £15 Yr Oriel £11, Gostyngiadau £2 i ffwrdd (ac eithrio nos Sadwrn)
Aladdin – The Wok ‘n’ Roll Panto Oedolion £25, £22, £20
Pob Sioe Theatr Clwyd Ysgolion/myfyrwyr – 5 neu fwy £10 (ac eithrio nos Sadwrn) Gostyngiadau Grŵp Partïon o 10 neu fwy gostyngiad o 15% oddi ar bris tocynnau (ac eithrio nos Sadwrn) Mynediad Pobl anabl a hebryngwyr £14 pob perfformiad
Myfyrwyr mewn addysg lawn amser £5 i ffwrdd (ac eithrio perfformiadau brig)
Mae Hynt yn Gerdyn Aelodaeth | Mae Hynt yn adnodd Mae gan bawb sydd â cherdyn Hynt hawl i docyn am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalwr yn Theatr Clwyd a’r holl theatrau a’r canolfannau celfyddydol sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Edrychwch ar hynt.co.uk neu www.hynt.cym i gael gwybodaeth ac arweiniad amrywiol am y cynllun. Hefyd cewch wybod a ydych chi neu’r person yn eich gofal yn gymwys i ymuno â’r cynllun a llenwi ffurflen gais. Fel dewis arall, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01352 701521.
TheatrClwyd.com
Plant 16 oed ac iau £5 i ffwrdd Plant dan 3 oed: Am ddim (dim ond os ydynt ar lin oedolyn)
Perfformiadau prisiau arbennig Gwener 25 a Sadwrn 26 Tachwedd Oedolion £19, Plant £14 Ysgolion a phartïon ieuenctid 16 oed ac iau (ac eithrio perfformiadau brig) £10 Athrawon sy’n goruchwylio 2 docyn am ddim am yr 20 plentyn cyntaf ac 1 tocyn am ddim ychwanegol am bob 20 plentyn wedi hynny (ac eithrio rhwng 16 Rhagfyr 2016 a 2 Ionawr 2017 yn gynwysedig).
PRISIAU TOCYNNAU
HYNT Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych chi nam neu ofyniad mynediad penodol, mae mwynhau ymweliad â’r theatr neu ganolfan gelfyddydau’n gallu bod yn fwy cymhleth yn aml na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru i sicrhau bod pethau’n glir ac yn gyson. Mae Theatr Clwyd yn rhan o gynllun Hynt gan ein bod yn credu ei fod yn cynnig i’n cwsmeriaid yr arfer gorau un o ran polisi tocynnau teg a hygyrchedd.
Pensiynwyr a Phobl ar Fudd-daliadau £2 i ffwrdd (ac eithrio perfformiadau brig)
Perfformiad Hamddenol Mercher 7 Rhagfyr 2016, 6pm £15, a’r gostyngiadau safonol ar gael Gostyngiad Grŵp: partïon o 10 neu fwy Gostyngiad o 15% oddi ar bris tocyn, ac eithrio perfformiadau brig, plant, myfyrwyr, ysgolion a phartïon ieuenctid. Ac eithrio 25 a 26 Tachwedd a ddim ar gael rhwng 16 Rhagfyr 2016 a 2 Ionawr 2017 yn gynwysedig. Perfformiadau Brig Bob nos Wener a nos Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r Nadolig (16 Rhagfyr 2016 - 2 Ionawr 2017). Dim gostyngiadau ac eithrio £5 i ffwrdd i blant 16 oed ac iau (dim gostyngiadau sy’n cynnwys cyfraddau i ysgolion a phartïon ieuenctid). Perfformiadau Cyfnod Tawelach Perfformiadau Llun i Iau a sioeau pnawn Sadwrn.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
25
YR ORIEL
Iwan Gwyn Parry: Alcemeg mewn Dŵr
Ganed Iwan Gwyn Parry ar Ynys Môn yn 1970. Cwblhaodd MA mewn Paentio yn Ysgol Gelf a Dylunio Chelsea yn 1993 cyn dychwelyd i Ogledd Cymru ble mae’n byw ac yn gweithio. Mae Alcemeg mewn Dŵr yn gyfres o weithiau sy’n astudio diddordeb yr artist mewn dŵr a syniadau sydd wedi’u harchwilio yn ei waith cynharach – elfennau’r ddaear, cof, lle, gofod a golau. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ‘Trobwynt’ (Hwyrgan o Las) sy’n gyfres arwyddocaol o weithiau myfyriol newydd a gynhyrchwyd yn ystod blwyddyn sabothol yn 2015. dd YR ORIEL
Dydd Sadwrn 30 Ebrill Dydd Sadwrn 11 Mehefin
ff Yr Oriel
Fel rhan o’r Ŵyl Geltaidd, bydd Iwan Gwyn Parry yn cyflwyno sgwrs anffurfiol am ei waith yn yr oriel ddydd Mawrth 10 Mai am 2pm – tocynnau am ddim o’r Swyddfa Docynnau.
Arddangosfa Agored Gogledd Cymru 2016
dd
Dydd Sadwrn 25 Mehefin Friday 26 August
ff Yr Oriel
26
TheatrClwyd.com
Mae’r arddangosfa flynyddol fawr hon yn agored i artistiaid o Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac mae’n cynnwys mwy na 120 o weithiau yn nhair oriel y theatr. Mae’r sioe’n cynnwys paentiadau, gwaith print, gwaith arlunio, cyfryngau cymysg a ffotograffiaeth gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Mae Gwobr Gyntaf o £1000 ar gael. Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o wefan y theatr neu eu casglu o’r Siop Lyfrau. I dderbyn ffurflen drwy’r post anfonwch amlen gyda stamp a chyfeiriad arni i ‘Arddangosfa Gogledd Cymru’, Yr Oriel, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, CH7 1YA.
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
YR ORIEL
Yr Oriel Gymunedol
RAY DAY Tirluniau diweddar Gogledd Cymru. 25 Ebrill - 14 Mai
MARY SAIFELDEN Ceridwen Barkley: Rare Project
Amrywiaeth gymysg o waith gan yr artist yma o Fwcle sy’n mynegi ei hun gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau, technegau, gweadau a chyfryngau. 16 Mai - 28 Mai
CERIDWEN BARKLEY: PROSIECT PRIN Mae Prosiect Prin yn defnyddio celf i greu ymwybyddiaeth o gyflyrau prin ac i herio rhagfarn drwy roi cyfle i weld yr unigolion y tu ôl i’r cyflwr. 31 Mai - 18 Mehefin
Yr Oriel Addysg YR ORIEL
Mae’r oriel hon ar gael i ysgolion, colegau a sefydliadau addysg eraill arddangos gwaith eu myfyrwyr AM DDIM. Os oes gennych chi brosiect neu waith arholiad yr hoffech ei arddangos, cysylltwch â Nerys Edwards 01352 701575.
Arddangosfeydd Celf Ysgolion Sir y Fflint Arddangosfa Gymunedol ‘YMGOLLI MEWN CELF – LOST IN ART’ 6 Ebrill - 2 Mai Mae ‘Ymgolli mewn Celf’ yn brosiect rhyngweithiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned. Gan weithio gyda’r Artist Proffesiynol, Jenny Fell, mae’r Arddangosfa hon yn dathlu’r gwaith celf a grëwyd mewn gweithdai yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam. Sefydlwyd ‘Ymgolli mewn Celf’ yn wreiddiol gan Wasanaeth y Celfyddydau Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r prosiect yn gydweithrediad ‘Ymgolli mewn Celf’ rhanbarthol rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n cael ei gyllido’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd, Oriel Wrecsam a MOSTYN Llandudno. 4 Mai - 6 Mehefin Casgliad o fasgiau cerameg gan fyfyrwyr Blwyddyn 8 Ysgol Uwchradd y Fflint, a ysbrydolwyd gan Lwythau Affricanaidd, a chasgliad o waith myfyrwyr Blwyddyn 10 yn seiliedig ar y thema Chwyddo.
TheatrClwyd.com
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
27
GWYBODAETH
Gweinyddiaeth
Cyfleusterau
Ffôn: 01352 756331 Ffacs: 01352 701558 Drwy’r post: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1YA
Y Caffi
Hurio Hurio’r Theatr
Am ddigwyddiadau busnes, partïon preifat, Priodasau, Cynadleddau ac Adloniant Corfforedig cysylltwch â Rheolwr y Theatr ar 01352 701886.
Hurio’r Sinema
Cewch sgriniad breifat i hyd at 115 o westeion. Cysylltwch â Rheolwr y Theatr ar 01352 701886.
Mynediad
GWYBODAETH
Mae gennym: • faes parcio cyfleus • mynediad i bob llawr • system dolen anwytho • gofod ar gyfer cadeiriau olwyn ym mhob lleoliad perfformio • perfformiadau sain-ddisgrifio a chapsiwn ar gyfer theatr byw • capsiynau meddal ar gyfer rhai ffilmiau • mae perfformiadau wedi eu disgrifio a pherfformiadau capsiwn ar gael • mae’r rhaglen ar gael ar ffurf CD, Braille a phrint bras • tocynnau pris arbennig ar gael
Y Siop
Mae gennym nifer helaeth o anrhegion i weddu pob poced ac achlysur, felly beth am ymweld â siop y theatr? Cardiau cyfarch a llyfrau Cymraeg a Saesneg, gemwaith, crefftau wedi eu gwneud yn lleol, deunydd ysgrifennu ac anrhegion ar gyfer pob oedran.
Cefnogi’r theatr Nawdd a chynllun tanysgrifio i fusnesau
Cysylltwch ag Annie Dayson, Rheolwr Nawdd ar 01352 701573.
Rhestr bost
Anfonwch eich manylion atom neu cwblhewch ffurflen gais yn y theatr.
Cyfeillion Theatr Clwyd
Asiantaethau Tocynnau
Mae ein hasiantaethau yn medru defnyddio cynlluniau seddau yn uniongyrchol. Mae asiantwyr yn rhoi tocynnau yn y fan a’r lle – dim angen cyfnewid yn y theatr.
Caer
Cawl, byrbrydau a chacennau ar gael trwy’r dydd. Wi-fi am ddim. Oriau agor: • Dydd Llun - Dydd Gwener 11am - 8pm • Dydd Sadwrn 10am - 8pm • Perfformiadau Dydd Sul a Gŵyl y Banc yn unig: agor 5.30pm - 8pm ar gyfer te, coffi a chacennau • Bydd y Caffi yn cau am 5pm ar nosweithiau ffilm yn unig Amser gweini: • Cinio 12pm - 2.30pm • Swper 5.30pm - 7.30pm • Bydd y Bar yn agor awr cyn pob perfformiad Archebu: • Archebwch fwrdd ar 01352 701533
Deva Travel Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr
Dyserth
Voel Coaches
Heswall
Linghams
Llandudno
TIC
Llangollen
TIC
Yr Wyddgrug Beaufort Park Hotel Croesoswallt Canolfan Wybodaeth Y Rhyl
TIC
Wrecsam
Canolfan y Celfyddydau
Gofynnwch am y bamffled am ragor o wybodaeth.
Archebu
Ffôn: 01352 701521 Ar-lein: TheatrClwyd.com Yn y theatr: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1YA Swyddfa Docynnau ar agor Dydd Llun - Dydd Sadwrn 10am - 8pm. Ar ddydd Sul mae’r Swyddfa Docynnau yn agor awr cyn cychwyn y perfformiad. Amodau gwerthu: os ydych am gasglu eich tocynnau, dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn i’r perfformiad gychwyn rhag ofn bod ciw i gasglu tocynnau ar nosweithiau prysur. Newid tocynnau ac ad-daliadau: gellir newid tocynnau am berfformiad arall o’r un cynhyrchiad 24awr cyn y perfformiad (ffi £1 y tocyn). Bydd hyn yn ôl ewyllys y rheolwr ac yn dibynnu ar argaeledd. Ni chaniateir ad-daliad ar docynnau ar ôl eu prynu.
Mae tocynnau hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd y siroedd canlynol: • Cyngor Sir y Fflint • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam • Cyngor Sir Ddinbych • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyhoeddir y rhaglen hon gyda phob ewyllys da, ond efallai y byd rhai newidiadau
28
SWYDDFA DOCYNNAU
01352 701521
TheatrClwyd.com